Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2002

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sy'n gymwys i Gymru yn unig erbyn hyn).

Mae Rheoliadau 1999 yn rhagnodi'r gwariant sy'n ffurfio “cyllideb ysgolion lleol” awdurdod addysg lleol ac yn pennu pa wariant a all gael ei ddidynnu gan yr awdurdod o'r gyllideb ysgolion lleol er mwyn cyfrifo'u cyllideb ysgolion unigol. Maent yn darparu hefyd ar ba sail y mae'r gyllideb ysgolion unigol i gael ei dosbarthu rhwng yr ysgolion. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol ymdrin, mewn cynllun a baratoir ganddynt, â materion penodedig sy'n gysylltiedig ag ariannu'r ysgolion y maent yn eu cynnal.

Mae'r Rheoliadau presennol yn gwneud nifer o newidiadau i Reoliadau 1999. Amlinellir y rhai pwysicaf isod:—

1.  Mae Rheoliad 3 yn cael ei ddiwygio fel bod gwariant mewn cysylltiad ag ysgolion meithrin yn cael ei gynnwys yn y gyllideb ysgolion lleol ac fel bod y diffiniad o gostau ariannu cyfalaf nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ysgolion lleol hefyd yn cynnwys yr elfennau ar gyfer ariannu cyfalaf a geir yn nhaliadau'r Fenter Cyllid Preifat (PFI).

2.  Mae Rheoliad 7 yn cael ei ddiwygio er mwyn galluogi awdurdod addysg lleol i beidio â dyrannu'r cyfan o'u cyllideb ysgolion unigol ar ffurf cyfrannau o'r gyllideb ar ddechrau'r flwyddyn ysgol, ac yn hytrach na hynny gadw swm ar gyfer ail-benderfynu neu ar gyfer cywiro gwallau.

3.  Mae Rheoliad 19 yn cael ei ddiwygio er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn eu fformwla i ail-benderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb ac i ddosbarthu unrhyw falans ar unrhyw swm sy'n cael ei gadw o dan Reoliad 7 i'r ysgolion cyn diwedd y flwyddyn ariannol os yw heb ei ddyrannu.

4.  Mae Rheoliad 20 yn cael ei ddiwygio er mwyn i'r cyfrifiad ar gyfer addasu cyfran ysgol o'r gyllideb pan fydd disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol ar neu ar ôl 1 Ebrill yn cynnwys symud o ysgol fabanod i ysgol iau hefyd.

5.  Mae Rheoliad 22 yn cael ei ddiwygio er mwyn hepgor o'r gyllideb ysgolion unigol unrhyw ran ohoni a gafodd ei chadw ar y dechrau, at ddibenion cyfrifo'r ffigur o 75% o leiaf o'r cyllid y mae'n rhaid ei seilio ar niferoedd disgyblion.

6.  Mae Atodlen 2 (sy'n rhestru'r gwariant cynlluniedig a all gael ei ddidynnu o'r gyllideb ysgolion lleol) yn cael ei diwygio fel a ganlyn:

(i)ym mharagraff 1, sy'n ymdrin â gwariant y ceir grantiau ar ei gyfer, gwneir darpariaeth ar gyfer eithriad os yw'r grant yn cael ei roi o dan amod sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei drin fel rhan o'r gyllideb ysgolion unigol;

(ii)mae paragraff 2A newydd yn cael ei fewnosod sy'n galluogi awdurdodau addysg lleol i ddidynnu gwariant mewn cysylltiad ag ysgolion meithrin o'u cyllideb ysgolion lleol;

(iii)mae paragraff 19 yn cael ei ddiwygio fel bod awdurdodau addysg lleol yn gallu didynnu o'u gwariant cyllideb ysgolion lleol ar ddarparu safleoedd a chyfleusterau ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau allanol;

(iv)mae paragraff 28(c) newydd yn ymdrin â swyddogaethau statudol yr awdurdodau addysg lleol o ran y Gwerth Gorau ac yn eu galluogi i dalu costau rhoi cyngor i'r ysgolion ar faterion y Gwerth Gorau;

(v)Mae paragraff 33 yn cael ei ehangu er mwyn cynnwys taliadau i ysgolion sy'n wynebu costau nad oes modd eu hosgoi ac nad yw'n rhesymol disgwyl iddynt eu talu, yn ychwanegol at eitemau gwariant sydd heb eu rhag-weld.

7.  Mae Atodlen 3 (ffactorau neu feini prawf ychwanegol a all gael eu cymryd i ystyriaeth yn fformwla awdurdod addysg lleol ar gyfer dyrannu arian i ysgolion unigol) yn cael ei diwygio er mwyn caniatáu trefniadau trosiannol os bydd awdurdod addysg lleol yn cynnwys ffactorau neu feini prawf newydd yn eu fformwla; ac yn ychwanegu ffactor ar gyfer costau gweinyddu'r gyflogres.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill