Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cig (Pwerau Gorfodi Ehangach) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n gymwys i Gymru yn unig) yn diwygio —

(a)Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995;

(b)Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Chig Cwningod wedi'u Ffermio (Hylendid ac Archwilio) 1995;

(c)Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994;

(ch)Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995;

(d)Rheoliadau Tribiwnlysoedd Apelau Hylendid Cig (Gweithdrefn) 1992; ac

(dd)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996,

fel y maent yn gymwys i Gymru ym mhob achos. Mae'r holl Reoliadau sy'n cael eu diwygio yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/539, fel y'i diwygiwyd) (“y Rheoliadau Cig Ffres”) er mwyn rhoi pwerau gorfodi ehangach mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn yng ngoleuni Cyfarwyddeb y Cyngor 64/433/EEC ar amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a marchnata cig ffres (y mae ei destun cyfunol wedi'i atodi i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/497/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t.69) a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/495/EEC ynghylch problemau iechyd y cyhoedd a phroblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar gynhyrchu cig cwningod a chig adar hela wedi'i ffermio a'u gosod ar y farchnad (OJ Rhif L268, 24.9.91, t.41).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o'r Rheoliadau Cig Ffres (sy'n pennu amgylchiadau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys odanynt) ac yn gosod rhwymedigaethau newydd ar bersonau sy'n ymgymryd â gweithgareddau a fyddai fel arall yn esempt (rheoliad 2(3) a (4)).

4.  Maent yn gosod gofynion diwygiedig mewn perthynas â thrwyddedu safleoedd o dan y Rheoliadau Cig Ffres. Maent yn gosod gofyniad newydd fod rhaid hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd (“yr Asiantaeth”) os newidir y sawl sydd â chyfrifoldebau rheoli a chyfrifoldebau tebyg mewn perthynas â meddiannydd safle sydd eisoes wedi'i drwyddedu o dan y Rheoliadau Cig Ffres (“safleoedd trwyddedig”) (rheoliad 2(5) i (7)).

5.  Maent yn diwygio'r meini prawf y gall yr Asiantaeth ddiddymu trwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau Cig Ffres odanynt (rheoliad 2(8) a (9)).

6.  Mae pŵer newydd i atal trwyddedau yn cael ei greu (rheoliad 2(10)).

7.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r amodau sy'n llywodraethu apelau yn erbyn penderfyniadau a gymerir gan yr Asiantaeth mewn perthynas â thrwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau Cig Ffres (rheoliad 2(11) i (13)).

8.  Bydd meddianwyr safleoedd a drwyddedir ar hyn o bryd o dan y Rheoliadau Cig Ffres bellach yn gorfod rhoi eu henw a'u prif gyfeiriad busnes i'r Asiantaeth ynghyd ag enw pob un o'u cyfarwyddwyr a'u rheolwyr o fewn tri mis o'r dyddiad y bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym (rheoliad 2(14)).

9.  Mae diwygiad pellach yn galluogi milfeddygon swyddogol i archwilio cofnodion sy'n cael eu cadw gan feddianwyr safleoedd trwyddedig yn unol â rheoliad 20(1)(a), (e) ac (f) o'r Rheoliadau Cig Ffres ac i fonitro eu bod yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan reoliad 20 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 2(15)).

10.  Mae pwerau milfeddygon swyddogol a nodir yn rheoliad 10 o'r Rheoliadau Cig Ffres yn cael eu haddasu (rheoliad 2(16) a (17)).

11.  Mae'r amodau cyffredinol ar gyfer marchnata cig ffres a nodir yn rheoliad 13 o'r Rheoliadau Cig Ffres yn cael eu haddasu (rheoliad 2(18) a (19)).

12.  Mae'r dyletswyddau a osodir ar feddianwyr safleoedd trwyddedig gan reoliad 20 o'r Rheoliadau Cig Ffres yn cael eu haddasu (rheoliad 2(20) i (23)).

13.  Mae'r cosbau am dorri rheoliad a gynhwysir yn rheoliad 21 o'r Rheoliadau Cig Ffres yn cael eu rhesymoli (rheoliad 2(24). Mae rheoliad 23 o'r Rheoliadau Cig Ffres yn cael ei ddiwygio er mwyn peri mai'r awdurdod bwyd perthnasol (mewn perthynas ag unrhyw le heblaw safleoedd trwyddedig) sy'n gyfrifol am orfodi (rheoliad 2(25)). Mae diwygiad pellach i reoliad 23 yn cyflwyno pŵer newydd i'r Asiantaeth ardystio nad yw cig wedi'i gynhyrchu, ei storio na'i gludo yn unol â'r Rheoliadau. Mae cig a ardystir yn y modd hwn,yn cael ei drin at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel pe bai'n methu â chydymffurfio â'r gofynion ynghylch diogelwch bwyd (hefyd rheoliad 2(25)), gyda'r canlyniad y gellir ei gipio ac y gellid, o bosibl, cael gwared arno.

14.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 (OS 1995/540, fel y'i dwygiwyd) (“Rheoliadau Cig Dofednod”) er mwyn rhoi pwerau gorfodi ehangach mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn yng ngoleuni Cyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu a marchnata cig dofednod ffres (y mae ei destun cyfunol wedi'i atodi i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/495/EEC.

15.  Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o'r Rheoliadau Cig Dofednod (amgylchiadau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys odanynt) ac yn gosod rhwymedigaethau newydd ar bersonau sy'n ymgymryd â gweithgareddau a fyddai fel arall yn esempt (rheoliad 3(3) a (4)).

16.  Maent yn gosod gofynion diwygiedig mewn perthynas â thrwyddedu safleoedd o dan y Rheoliadau Cig Dofednod. Maent yn gosod gofyniad newydd fod rhaid hysbysu'r Asiantaeth os newidir y sawl sydd â chyfrifoldebau rheoli a chyfrifoldebau tebyg mewn perthynas â meddiannydd safle sydd eisoes wedi'i drwyddedu o dan y Rheoliadau Cig Dofednod (“safleoedd cig dofednod trwyddedig”) (rheoliad 3(5) i (7)).

17.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r meini prawf y gall yr Asiantaeth ddiddymu trwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau Cig Dofednod odanynt (rheoliad 3(8) a (9)).

18.  Mae pŵer newydd i atal trwyddedau yn cael ei greu (rheoliad 3(10)).

19.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r amodau sy'n llywodraethu apelau yn erbyn penderfyniadau a gymerir gan yr Asiantaeth mewn perthynas â thrwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau Cig Dofednod (rheoliad 3(11) i (13)).

20.  Bydd meddianwyr safleoedd a drwyddedir ar hyn o bryd o dan y Rheoliadau Cig Dofednod bellach yn gorfod rhoi eu henw a'u prif gyfeiriad busnes i'r Asiantaeth ynghyd ag enw pob un o'u cyfarwyddwyr a'u rheolwyr o fewn tri mis o'r dyddiad y bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym (rheoliad 3(14)).

21.  Mae diwygiad pellach yn galluogi milfeddygon swyddogol i archwilio cofnodion sy'n cael eu cadw gan feddianwyr safleoedd cig dofednod trwyddedig yn unol â rheoliad 18(1)(a), ac (e)(i) o'r Rheoliadau Cig Dofednod ac i fonitro eu bod yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan reoliad 18 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 3(15)).

22.  Mae pwerau milfeddygon swyddogol a nodir yn rheoliad 10 o'r Rheoliadau Cig Dofednod yn cael eu haddasu (rheoliad 3(16) a (17)).

23.  Mae'r amodau cyffredinol ar gyfer marchnata cig ffres a nodir yn rheoliad 14 o'r Rheoliadau Cig Dofednod yn cael eu haddasu (rheoliad 3(18)).

24.  Mae'r dyletswyddau a osodir ar feddianwyr safleoedd cig dofednod trwyddedig gan reoliad 18 o'r Rheoliadau Cig Dofednod yn cael eu haddasu (rheoliad 3(19)).

25.  Mae'r cosbau am dorri rheoliad a gynhwysir yn rheoliad 20 o'r Rheoliadau Cig Dofednod yn cael eu rhesymoli (rheoliad 3(20)).

26.  Mae rheoliad 23 o'r Rheoliadau Cig Dofednod yn cael ei ddiwygio er mwyn peri mai'r awdurdod bwyd perthnasol (mewn perthynas ag unrhyw le heblaw safleoedd trwyddedig) sy'n gyfrifol am orfodi (rheoliad 3(21)). Mae diwygiad pellach i reoliad 23 yn cyflwyno pŵer newydd i'r Asiantaeth ardystio nad yw cig wedi'i gynhyrchu, ei storio na'i gludo yn unol â'r Rheoliadau. Mae cig a ardystir yn y modd hwn,yn cael ei drin at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel pe bai'n methu â chydymffurfio â'r gofynion ynghylch diogelwch bwyd (rheoliad 3(22)), gyda'r canlyniad y gellir ei gipio ac y gellid, o bosibl, cael gwared arno.

27.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 er mwyn rhoi pwerau gorfodi ehangach mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn yng ngoleuni Cyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach o fewn y Gymuned mewn cynhyrchion cig (OJ Rhif L26, 31.1.77, t.85).

28.  Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “combined premises” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o'r Rheoliadau Cynhyrchion Cig (rheoliad 4(3)).

29.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o'r Rheoliadau Cynhyrchion Cig (amgylchiadau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys odanynt) ac yn gosod rhwymedigaethau newydd ar bersonau sy'n ymgymryd â gweithgareddau a fyddai fel arall yn esempt (rheoliad 4(4) a (5)).

30.  Maent yn gosod gofynion diwygiedig mewn perthynas â chymeradwyo safleoedd cynhyrchion cig. Maent yn gosod gofyniad newydd fod rhaid hysbysu'r Asiantaeth os newidir y sawl sydd â chyfrifoldebau rheoli a chyfrifoldebau tebyg mewn perthynas â meddiannydd y safle cynhyrchion cig sydd eisoes wedi'i gymeradwyo o dan y Rheoliadau Cynhyrchion Cig (“safleoedd cynhyrchion cig a gymeradwywyd”) (rheoliad 4(6) i (8)).

31.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r meini prawf y gall yr Asiantaeth ddiddymu cymeradwyaethau a roddwyd o dan y Rheoliadau Cynhyrchion Cig odanynt (rheoliad 4(9) i (11)).

32.  Mae pŵer newydd i atal cymeradwyaethau a roddwyd o dan y Rheoliadau Cynhyrchion Cig yn cael ei greu (rheoliad 4(12)).

33.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r amodau sy'n llywodraethu apelau yn erbyn penderfyniadau a gymerir gan yr awdurdod cymeradwyo mewn perthynas â chymeradwyaethau o dan y Rheoliadau Cynhyrchion Cig (rheoliad 4(13) a (14)).

34.  Bydd meddianwyr safleoedd cynhyrchion cig sydd wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd bellach yn gorfod rhoi eu henw a'u prif gyfeiriad busnes i'r awdurdod cymeradwyo ynghyd ag enw pob un o'u cyfarwyddwyr a'u rheolwyr o fewn tri mis o'r dyddiad y bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym (rheoliad 4(15)).

35.  Mae rheoliad 19 o'r Rheoliadau Cynhyrchion Cig (goruchwylio a gorfodi) wedi'i ddiwygio fel bod unrhyw gynnyrch cig a ardystir yn unol â'r ddarpariaeth yn y paragraff (4) neu (5) newydd ynddo yn cael ei drin at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel pe bai'n methu â chydymffurfio â'r gofynion ynghylch diogelwch bwyd (rheoliad 4(16)) gyda'r canlyniad y gellir ei gipio ac y gellid, o bosibl, cael gwared arno.

36.  Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Cynhyrchion Cig (rheoliad 19A). Mae hyn yn galluogi swyddogion awdurdodedig yr awdurdod gorfodi priodol i wahardd defnyddio unrhyw ran o safle cynhyrchion cig a gymeradwywyd ac i reoli neu wahardd sut y mae proses yn cael ei chyflawni (rheoliad 4(17)).

37.  Mae rheoliad 21 o'r Rheoliadau Cynhyrchion Cig (cymhwyso amryw o adrannau Deddf Diogelwch Bwyd 1990) yn cael ei ddiwygio fel bod adran 9 ohoni, gydag addasiadau, yn gymwys iddynt (rheoliad 4(18)).

38.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 (O.S. 1995/3205, fel y'i diwygiwyd) (“y Rheoliadau Briwgig”) er mwyn rhoi pwerau gorfodi ehangach mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn yng ngoleuni Cyfarwyddeb y Cyngor 94/65/EEC sy'n nodi'r gofynion ar gyfer cynhyrchu briwgig a pharatoadau cig a'u gosod ar y farchnad (OJ Rhif L368, 31.12.94, t.10).

39.  Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “combined premises” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o'r Rheoliadau Briwgig (rheoliad 5(3)).

40.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o'r Rheoliadau Briwgig (amgylchiadau nad yw'r rheoliadau hynny yn gymwys odanynt) ac yn gosod rhwymedigaethau newydd ar bersonau sy'n ymgymryd â gweithgareddau a fyddai fel arall yn arwain at esemptiad (rheoliad 5(4) a (5)).

41.  Maent yn gosod gofynion diwygiedig mewn perthynas â chymeradwyo safleoedd i'w defnyddio ar gyfer cynhyrchu briwgig a pharatoadau cig penodol. Maent yn gosod gofyniad newydd fod rhaid hysbysu'r awdurdod cymeradwyo os newidir y sawl sydd â chyfrifoldebau rheoli a chyfrifoldebau tebyg mewn perthynas â safle sydd eisoes wedi'i gymeradwyo o dan y Rheoliadau Briwgig (“safleoedd briwgig a gymeradwywyd”) (rheoliad 5(6) a (7)).

42.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r meini prawf y gall yr awdurdod cymeradwyo ddiddymu cymeradwyaethau a roddwyd o dan y Rheoliadau Briwgig odanynt (rheoliad 5(8) i (10)).

43.  Mae pŵer newydd i atal cymeradwyaethau a roddwyd o dan y Rheoliadau Briwgig yn cael ei greu (rheoliad 5(11)).

44.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r amodau sy'n llywodraethu apelau yn erbyn penderfyniadau a gymerir gan yr awdurdod cymeradwyo mewn perthynas â chymeradwyaethau a roddir o dan y Rheoliadau Briwgig (rheoliad 5(12) a (13)).

45.  Bydd meddianwyr safleoedd briwgig sydd wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd bellach yn gorfod rhoi eu henw a'u prif gyfeiriad busnes i'r awdurdod cymeradwyo ynghyd ag enw pob un o'u cyfarwyddwyr a'u rheolwyr o fewn tri mis o'r dyddiad y bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym (rheoliad 5(14)).

46.  Mae rheoliad 12 o'r Rheoliadau Briwgig (goruchwylio a gorfodi) yn cael ei ddiwygio fel bod unrhyw friwgig neu baratoad cig a ardystir yn unol â'r ddarpariaeth yn y paragraff (8) neu (9) newydd ynddo yn cael ei drin at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel pe bai'n methu â chydymffurfio â'r gofynion ynghylch diogelwch bwyd (rheoliad 5(15)), gyda'r canlyniad y gellir ei gipio ac y gellid, o bosibl, cael gwared arno.

47.  Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Briwgig (rheoliad 12A). Mae hyn yn galluogi swyddogion awdurdodedig yr awdurdod gorfodi priodol i wahardd defnyddio unrhyw offer neu unrhyw ran o safle briwgig a gymeradwywyd ac i reoli neu wahardd sut y mae proses yn cael ei chyflawni (rheoliad 5(16)).

48.  Mae diwygiadau canlyniadol yn cael eu gwneud i Reoliadau Tribiwnlysoedd Apelau Hylendid Cig (Gweithdrefn) 1992 (O.S. 1992/2921, fel y'i diwygiwyd eisoes) (rheoliad 6) a Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124 fel y'i diwygiwyd eisoes) (rheoliad 7). Gwneir y diwygiadau olaf hyn drwy ddibynnu ar adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (1972 p.68).

49.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a gellir cael copïau o'r asesiad oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EN.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill