- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU
Wedi'i wneud
15 Medi 2000
Yn dod i rym
19 Medi 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 13 o Atodlen 10 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1):
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000 a daw i rym ar 19 Medi 2000.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000; ac
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant.
3.—(1) Hyd nes y daw adrannau 31, 32, 40(1), 40(6) a 41 o'r Ddeddf i rym gall y Cyngor (yn ychwanegol at unrhyw bwerau a roddwyd iddo o dan ddarpariaethau'r Ddeddf sydd mewn grym)—
(a)gwneud unrhyw beth y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol neu'n fanteisiol wrth baratoi i arfer y swyddogaethau a roddir gan unrhyw un o'r adrannau hynny pan ddeuant i rym; a
(b)mewn cysylltiad â'r pwerau a roddir gan is-baragraff (a), rhoi cymorth ariannol i bersonau sy'n bwriadu darparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau ynghylch addysg neu hyfforddiant neu faterion cysylltiedig (gan gynnwys cyflogaeth).
(2) Os bydd y Cyngor yn darparu cymorth ariannol o dan y pŵer a roddir gan baragraff (1)(b) uchod gall osod amodau; a gall yr amodau—
(a)galluogi'r Cyngor i'w gwneud yn ofynnol ad-dalu (yn gyfan neu'n rhannol) symiau a delir gan y Cyngor os na chydymffurfir ag unrhyw amodau y telir y symiau'n ddarostyngedig iddynt; a
(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pryd y mae swm sy'n ddyledus i'r Cyngor heb ei dalu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
Sue Essex
Ysgrifennydd Cynulliad
15 Medi 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae paragraff 13 o Atodlen 10 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy orchymyn roi pwerau i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant os yw wedi'i sefydlu cyn iddo gael ei swyddogaethau llawn, i'w gynorthwyo i weithredu ei swyddogaethau llawn pan fydd yn eu cael.
Mae'r Gorchymyn hwn a wneir o dan y pŵer y cyfeirir ato uchod yn rhoi pwer i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant wneud unrhyw beth sy'n angenrheidiol neu'n briodol wrth baratoi i arfer swyddogaethau o dan adrannau 31, 32, 40(1) a (6) a 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 pan fydd yr adrannau hynny yn dod i rym (a disgwylir y bydd hynny ar 1 Ebrill 2001) ynghyd â phŵer cysylltiedig i roi cymorth ariannol.
Y swyddogaethau perthnasol yw prif ddyletswyddau'r Cyngor mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed a hefyd ar gyfer personau dros 19 oed, pŵer y Cyngor i sicrhau cyfleusterau ar gyfer gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant a'i ddyletswyddau mewn perthynas â phersonau sydd ag anawsterau dysgu.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys