Adran 149 – Cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft
171.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo'r PAGA i ailystyried darpariaeth mewn adroddiad drafft. Rhaid i Weinidogion Cymru nodi eu rhesymau dros ddyroddi'r cyfarwyddyd a rhoi dyddiad ar gyfer ymateb. Nid yw'r PAGA yn gorfod amrywio'r drafft, ond rhaid iddo ymateb ac esbonio os yw'n penderfynu peidio â'i amrywio.