Atodlen 2
42.Mae’r atodlen hon yn nodi rhagor o fanylion y trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr i’w penodi’n Gadeirydd ac yn aelodau eraill o’r Bwrdd. Mae paragraff 1 yn ei gwneud yn ofynnol i Glerc y Cynulliad wneud y trefniadau angenrheidiol, ar ran Comisiwn y Cynulliad. Mae paragraff 2 yn egluro y caiff y Clerc, o dro i dro, ddiwygio’r trefniadau hynny.
43.Er mwyn lleihau unrhyw bosibilrwydd y bydd yna wrthdaro rhwng buddiannau, mae paragraff 3 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Clerc sicrhau na chaiff neb y gallai arfer swyddogaethau’r Bwrdd effeithio arno (er enghraifft, Aelodau’r Cynulliad) gymryd rhan yn y broses ddethol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Clerc sicrhau bod y trefniadau’n rhoi sylw i gyfle cyfartal i bawb.
44.Mae paragraff 4 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Clerc gyhoeddi manylion y weithdrefn ddethol, ar wefan y Cynulliad, cyn a thrwy gydol y broses ddethol.
45.Mae paragraffau 5 a 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad benodi pwy bynnag a gaiff ei ddethol drwy’r trefniadau hynny oni bai bod y person sydd wedi’i ddethol yn anghymwys o dan adran 4 ac Atodlen 1.