Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Mesur Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010

RHAGYMADRODD

1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â'r Mesur Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) a gafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 19 Ionawr 2010 a’i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 17 Mawrth 2010. Cawsant eu paratoi gan Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo darllenydd y Mesur. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Mesur ond nid ydynt yn rhan ohono.

2.Mae'r Mesur yn gwneud darpariaeth ynghylch codi ffioedd gan awdurdodau lleol am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl.  Gellir gweld cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu ar y mater hwn ym mater 15.1 ym Maes 15 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“GOWA 2006”). Mewnosodwyd mater 15.1 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2008 ar 9 Gorffennaf 2008 ac (fel y’i diwygiwyd) mae'n caniatáu i'r Cynulliad ddarparu ynghylch:

Ffioedd a godir gan awdurdodau lleol am wasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir neu a sicrheir ganddynt a thaliadau ar gyfer unigolion ag anghenion sy'n ymwneud â'u lles fel bod modd iddynt hwy, neu i unrhyw berson arall, sicrhau gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddiwallu'r anghenion hynny.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill