Mae adrannau 1- 8 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Addysg 1996
Adran 1 – Hawl plentyn i apelio i’r Tribiwnlys mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig (mewnosod adran 332ZA newydd yn Neddf Addysg 1996)
5.Mae is-adran (1) o’r adran 332ZA newydd yn pennu seiliau presennol apêl y caiff rhiant i blentyn a chanddo AAA ei gwneud i’r Tribiwnlys.
6.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff plentyn apelio i’r Tribiwnlys mewn perthynas â seiliau presennol apêl y caiff rhiant y plentyn ei gwneud.
7.Mae is-adran (3) yn caniatáu i riant a phlentyn apelio ar yr un pryd p’un ai ar yr un seiliau ai ar seiliau gwahanol.
8.Mae is-adran (4) yn darparu bod arfer hawliau a roddir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau a wnaed gan reoliadau o dan adrannau 332ZC a 336(1) o Ddeddf Addysg 1996.
Adran 2 – Hysbysu plentyn a chyflwyno dogfennau iddo (mewnosod adran 332ZB newydd yn Neddf Addysg 1996)
9.Mae is-adran (1) o’r adran 332ZB newydd yn pennu amryw amgylchiadau pan fo’n rhaid i Awdurdod Addysg Lleol hysbysu rhiant plentyn, neu gyflwyno dogfen i riant plentyn.
10.Mae is-adran (2) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdod Addysg Lleol i hysbysu’r plentyn yn ogystal â’r rhiant, neu i gyflwyno dogfen i’r plentyn yn ogystal ag i’r rhiant.
11.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol y bydd unrhyw ddarpariaeth sy’n gymwys i hysbysiadau a roddir, neu ddogfennau a gyflwynir, i riant yr un mor gymwys i hysbysiadau a roddir, neu ddogfennau a gyflwynir, i blentyn.
Adran 3 – Cyfeillion achos (mewnosod adran 332ZC newydd yn Neddf Addysg 1996)
12.Mae is-adran (1) o’r adran 332ZC newydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau syn darparu i blentyn gael person (a elwir “cyfaill achos”) i wneud cynrychioliadau ar ran y plentyn er mwyn osgoi neu ddatrys anghydfodau rhwng y plentyn a’r Awdurdod Addysg Lleol neu er mwyn arfer, ar ran y plentyn, hawl plentyn i apelio.
13.Mae is-adran (2) yn pennu dyletswyddau’r cyfaill achos pan fydd yn gwneud cynrychioliadau neu apêl ar ran plentyn.
14.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff rheoliadau, a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon, (ymhlith pethau eraill) roi swyddogaethau i’r Tribiwnlys a gosod gweithdrefnau mewn perthynas â chyfeillion achos. Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch penodi neu ddiswyddo cyfaill achos, pennu amgylchiadau pan gaiff person neu pan na chaiff person weithredu fel cyfaill achos, pennu amgylchiadau pan fo’n rhaid i blentyn gael cyfaill achos, a phennu gofynion mewn cysylltiad ag ymddygiad cyfaill achos.
Adran 4 – Cyngor a gwybodaeth (diwygio adran 332A a mewnosod adran 332AA newydd yn Neddf Addysg 1996)
15.Diwygir adran 332A o Ddeddf Addysg 1996 fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.
16.Mewnosodir adran 332AA newydd yn Neddf Addysg 1996.
17.Mae is-adran (1) o’r adran newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru i drefnu bod cyngor priodol a gwybodaeth briodol ynghylch materion sy’n ymwneud ag AAA'r plentyn yn cael eu darparu ar gyfer unrhyw blentyn yn eu hardal a chanddo AAA, ac unrhyw riant neu gyfaill achos i blentyn o’r fath.
18.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu cyngor a gwybodaeth i blant, i’w rhieni neu i’w cyfeillion achos.
19.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac sy’n ymwneud â threfniadau rhoi cyngor a gwybodaeth.
20.Mae is-adran (4) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant, rhieni, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o’r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau cyngor a gwybodaeth ar gael.
Adran 5 – Datrys anghydfodau (diwygio adran 332B a mewnosod adran 332BA newydd yn Neddf Addysg 1996)
21.Diwygir adran 332B o Ddeddf Addysg 1996 fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.
22.Mewnosodir adran 332BA newydd yn Neddf Addysg 1996.
23.Mae is-adran (1) o’r adran newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru i wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau datrys anghydfodau sy’n wasanaethau annibynnol er mwyn osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng yr Awdurdod Addysg Lleol a phlentyn a’r Awdurdod Addysg Lleol a rhiant i blentyn.
24.Mae is-adran (2) yn gorfodi Awdurdodau Addysg Lleol i wneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau sy’n wasanaethau annibynnol gyda’r bwriad o osgoi neu ddatrys anghydfodau rhwng plentyn a pherchennog ysgol a rhiant a pherchennog ysgol.
25.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer penodi person annibynnol i helpu i osgoi neu ddatrys anghydfodau.
26.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau.
27.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â gwasanaethau datrys anghydfodau.
28.Mae isadran (6) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant, rhieni, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o'r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau datrys anghydfodau ar gael.
29.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol hysbysu plant, rhieni a chyfeillion achos ar gyfer plant yn eu hardal na fydd cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfodau yn effeithio ar hawl rhiant neu blentyn i apelio i’r Tribiwnlys.
Adran 6 – Gwasanaethau eirioli annibynnol (mewnosod adran 332BB newydd yn Neddf Addysg 1996)
30.Mae is-adran (1) o adran 332BB newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru i drefnu bod gwasanaeth eirioli annibynnol ar gael yn eu hardal, a bod plentyn neu gyfaill achos ar gyfer plentyn yn cael ei gyfeirio at y gwasanaeth pe byddai’n gofyn am hynny.
31.Mae is-adran (2) yn diffinio “independent advocacy services” (gwasanaethau eirioli annibynnol) yn wasanaethau a fwriedir ar gyfer darparu cyngor a chymorth i blentyn sy’n ystyried p’un ai i apelio i’r Tribiwnlys ai peidio, sydd wedi gwneud neu sy’n bwriadu gwneud apêl, neu sy’n cymryd rhan neu’n bwriadu cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfodau.
32.Mae isadran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol, pan fyddant yn gwneud trefniadau gwasanaethau eirioli, roi sylw i’r egwyddor bod yn rhaid i’r gwasanaeth eirioli fod yn annibynnol ar unrhyw berson sy’n destun apêl neu y mae a wnelo ag ymchwilio i’r apêl neu ddyfarnu ar yr apêl.
33.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac sy’n ymwneud â threfniadau gwasanaethau eirioli.
34.Mae isadran (5) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant, rhieni, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o’r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau eirioli annibynnol ar gael.
35.Mae is-adran (6) yn caniatáu i Awdurdod Addysg Lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer talu person, neu mewn perthynas â pherson, sy’n darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plentyn neu gyfaill achos.
36.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plant neu gyfeillion achos.
Adran 7 – Gweithdrefn y Tribiwnlys
37.Mae’r adran hon yn diwygio adran 336 o Ddeddf Addysg 1996 sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch achosion yn y Tribiwnlys.
38.Mae is-adran (3) yn ychwanegu paragraffau ychwanegol at adran 336(2) i alluogi Gweinidogion Cymru i ohirio achosion o dan amgylchiadau penodol ac i ychwanegu at bartïon i achosion apêl, neu roi partïon yn lle partïon i achosion apêl.
Adran 8 –Gweithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau (diwygio adran 569 o Ddeddf Addysg 1996 a mewnosod adran 569(2A) a (2B) newydd yn y Ddeddf honno)
39.Mae’r adran hon yn diwygio adran 569 o Ddeddf Addysg 1996 sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoliadau.
40.Mae is-adran (2) yn diwygio adran 569(1) o Ddeddf Addysg 1996 i bennu bod yn rhaid arfer drwy offeryn statudol unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau.
41.Mae is-adran (4) yn mewnosod isadrannau (2A) a (2B) newydd. Mae isadran (2A) yn rhagnodi y bydd rheoliadau a wneir o dan adrannau 332ZC, 332AA, 332BA, 332BB a 336 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol. Mae is-adran (2B) yn fynegbost i effaith paragraffau 33 i 35 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Paragraffau yw’r rhain sy’n ymdrin â gweithdrefnau’r Cynulliad sy’n gymwys i is-ddeddfwriaeth a wneir o dan bwerau sydd yn Neddf Addysg 1996 ac mewn Deddfau eraill ac a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf 2006.