Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024

Newidiadau dros amser i: Adran 16

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024, Adran 16. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

16Trosolwg o Ran 2LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r Rhan hon yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) (“Deddf 1992”), o ran Cymru, fel a ganlyn.

(2)Mae adran 17 yn ailddatgan pwerau presennol Gweinidogion Cymru i ddiwygio bandiau prisio anheddau, ac mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r band prisio a ddefnyddir yn gymedr mewn fformiwlâu a gymhwysir o dan adrannau 36 a 47 o Ddeddf 1992 sy’n cael eu defnyddio i gyfrifo’r swm o’r dreth gyngor sy’n daladwy.

(3)Mae adran 18(2) a (3) yn datgymhwyso darpariaethau yn adrannau 6 a 9 o Ddeddf 1992 ynghylch y personau sy’n esempt rhag bod yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad ag annedd drethadwy, ac yn eu disodli â phŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau pa bersonau sydd i fod yn esempt.

(4)Mae adran 18(4) a (5) yn datgymhwyso darpariaethau yn adran 11 o Ddeddf 1992 i ddisgowntiau (yn ôl canrannau a bennir yn adran 11 neu drwy orchymyn) fod yn gymwys pan fo gan annedd drethadwy un preswylydd yn unig (neu pan fo ganddi un yn unig nas diystyrir at ddiben disgownt), neu pan na fo preswylydd (neu pan fo pob preswylydd wedi ei ddiystyru), ac yn eu disodli â’r canlynol—

(a)darpariaethau i ddisgowntiau (o symiau a ragnodir, neu a gyfrifir yn unol â darpariaeth a ragnodir, gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau) fod yn gymwys pan fo un preswylydd yn unig (neu pan fo un yn unig nas diystyrir at ddiben disgownt), neu pan fo pob un o breswylwyr annedd wedi eu diystyru,

(b)pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu drwy reoliadau fod disgowntiau yn gymwys pan fodlonir meini prawf eraill,

(c)pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch achosion pan fo mwy nag un disgownt yn gymwys (gan gynnwys ynghylch faint o dreth gyngor sy’n daladwy), a

(d)pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau ddosbarthau ar annedd y caiff awdurdod bilio benderfynu bod disgownt is yn gymwys iddynt neu nad oes disgownt o gwbl yn gymwys iddynt.

(5)O ganlyniad—

(a)mae adran 18(6) yn diddymu adran 12 o Ddeddf 1992, a oedd yn ymwneud â’r disgownt penodol a oedd yn gymwys pan nad oedd preswylydd, ac a gynhwysai bŵer i awdurdod bilio i benderfynu (ar gyfer dosbarthau ar annedd a ragnodid gan Weinidogion Cymru) fod disgownt is yn gymwys, neu nad oedd disgownt yn gymwys;

(b)mae adran 18(7) yn diwygio adran 12A o Ddeddf 1992 fel na fydd awdurdod bilio, pan fo’r awdurdod yn penderfynu bod swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn cysylltiad ag anheddau gwag hirdymor yn ddarostyngedig i gynnydd canrannol, bellach yn datgymhwyso’r disgownt (sydd wedi ei ddiddymu o ran Cymru) pan na fo preswylydd, ac yn hytrach bydd yn didynnu unrhyw ddisgownt sy’n gymwys ar ôl ychwanegu’r cynnydd canrannol;

(c)mae adran 18(8) yn diwygio adran 12B o Ddeddf 1992 (swm uwch ar gyfer anheddau a feddiennir yn gyfnodol) yn yr un ffyrdd ag y mae adran 18(7) yn diwygio adran 12A.

(6)Mae adran 18 hefyd yn datgymhwyso Atodlen 1 i Ddeddf 1992 (a oedd, ynghyd ag adran 11(5), yn gwneud darpariaeth ynghylch personau a ddiystyrir at ddibenion penderfynu a yw disgownt yn gymwys), ac yn ei disodli â phŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau pwy a ddiystyrir at ddibenion disgownt.

(7)Mae adran 19—

(a)o ran y pŵer yn adran 13 o Ddeddf 1992, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn darparu bod personau sy’n atebol am dalu’r dreth gyngor yn talu swm gostyngedig o dan rai amgylchiadau, yn newid y pŵer yn rhwymedigaeth i wneud rheoliadau o’r fath,

(b)yn diddymu’r pŵer yn adran 13A i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i berson neu gorff wneud cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a darpariaethau cysylltiedig, ac

(c)yn diwygio adran 66(2) o Ddeddf 1992 i ychwanegu materion a ragnodir neu y darperir ar eu cyfer yn unol ag is-adran (1) neu (2) o adran 13 at restr o faterion na chaniateir eu cwestiynu ac eithrio drwy gais am adolygiad barnwrol.

F1(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F2(8)] Mae adran 20 yn newid adran 22B o Ddeddf 1992 fel na chaniateir arfer pŵer Gweinidogion Cymru i bennu’r flwyddyn pryd y mae rhaid llunio rhestrau prisio newydd ar gyfer awdurdodau bilio yng Nghymru er mwyn pennu blwyddyn sy’n ddiweddarach na 2029. Mae hefyd yn cyflwyno gofyniad i restrau o’r fath gael eu llunio yn 2030 a phob 5 mlynedd wedi hynny (er y gellir newid y blynyddoedd, drwy orchymyn, gan Weinidogion Cymru).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 mewn grym ar 17.9.2024, gweler a. 23(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill