RHAN 2Y DRETH GYNGOR
Cyflwyniad
16Trosolwg o Ran 2
(1)
Mae’r Rhan hon yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) (“Deddf 1992”), o ran Cymru, fel a ganlyn.
(2)
Mae adran 17 yn ailddatgan pwerau presennol Gweinidogion Cymru i ddiwygio bandiau prisio anheddau, ac mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r band prisio a ddefnyddir yn gymedr mewn fformiwlâu a gymhwysir o dan adrannau 36 a 47 o Ddeddf 1992 sy’n cael eu defnyddio i gyfrifo’r swm o’r dreth gyngor sy’n daladwy.
(3)
Mae adran 18(2) a (3) yn datgymhwyso darpariaethau yn adrannau 6 a 9 o Ddeddf 1992 ynghylch y personau sy’n esempt rhag bod yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad ag annedd drethadwy, ac yn eu disodli â phŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau pa bersonau sydd i fod yn esempt.
(4)
Mae adran 18(4) a (5) yn datgymhwyso darpariaethau yn adran 11 o Ddeddf 1992 i ddisgowntiau (yn ôl canrannau a bennir yn adran 11 neu drwy orchymyn) fod yn gymwys pan fo gan annedd drethadwy un preswylydd yn unig (neu pan fo ganddi un yn unig nas diystyrir at ddiben disgownt), neu pan na fo preswylydd (neu pan fo pob preswylydd wedi ei ddiystyru), ac yn eu disodli â’r canlynol—
(a)
darpariaethau i ddisgowntiau (o symiau a ragnodir, neu a gyfrifir yn unol â darpariaeth a ragnodir, gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau) fod yn gymwys pan fo un preswylydd yn unig (neu pan fo un yn unig nas diystyrir at ddiben disgownt), neu pan fo pob un o breswylwyr annedd wedi eu diystyru,
(b)
pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu drwy reoliadau fod disgowntiau yn gymwys pan fodlonir meini prawf eraill,
(c)
pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch achosion pan fo mwy nag un disgownt yn gymwys (gan gynnwys ynghylch faint o dreth gyngor sy’n daladwy), a
(d)
pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau ddosbarthau ar annedd y caiff awdurdod bilio benderfynu bod disgownt is yn gymwys iddynt neu nad oes disgownt o gwbl yn gymwys iddynt.
(5)
O ganlyniad—
(a)
mae adran 18(6) yn diddymu adran 12 o Ddeddf 1992, a oedd yn ymwneud â’r disgownt penodol a oedd yn gymwys pan nad oedd preswylydd, ac a gynhwysai bŵer i awdurdod bilio i benderfynu (ar gyfer dosbarthau ar annedd a ragnodid gan Weinidogion Cymru) fod disgownt is yn gymwys, neu nad oedd disgownt yn gymwys;
(b)
mae adran 18(7) yn diwygio adran 12A o Ddeddf 1992 fel na fydd awdurdod bilio, pan fo’r awdurdod yn penderfynu bod swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn cysylltiad ag anheddau gwag hirdymor yn ddarostyngedig i gynnydd canrannol, bellach yn datgymhwyso’r disgownt (sydd wedi ei ddiddymu o ran Cymru) pan na fo preswylydd, ac yn hytrach bydd yn didynnu unrhyw ddisgownt sy’n gymwys ar ôl ychwanegu’r cynnydd canrannol;
(c)
mae adran 18(8) yn diwygio adran 12B o Ddeddf 1992 (swm uwch ar gyfer anheddau a feddiennir yn gyfnodol) yn yr un ffyrdd ag y mae adran 18(7) yn diwygio adran 12A.
(6)
Mae adran 18 hefyd yn datgymhwyso Atodlen 1 i Ddeddf 1992 (a oedd, ynghyd ag adran 11(5), yn gwneud darpariaeth ynghylch personau a ddiystyrir at ddibenion penderfynu a yw disgownt yn gymwys), ac yn ei disodli â phŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau pwy a ddiystyrir at ddibenion disgownt.
(7)
Mae adran 19—
(a)
o ran y pŵer yn adran 13 o Ddeddf 1992, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn darparu bod personau sy’n atebol am dalu’r dreth gyngor yn talu swm gostyngedig o dan rai amgylchiadau, yn newid y pŵer yn rhwymedigaeth i wneud rheoliadau o’r fath,
(b)
yn diddymu’r pŵer yn adran 13A i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i berson neu gorff wneud cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a darpariaethau cysylltiedig, ac
(c)
yn diwygio adran 66(2) o Ddeddf 1992 i ychwanegu materion a ragnodir neu y darperir ar eu cyfer yn unol ag is-adran (1) neu (2) o adran 13 at restr o faterion na chaniateir eu cwestiynu ac eithrio drwy gais am adolygiad barnwrol.
F1(8)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F2(8)
Mae adran 20 yn newid adran 22B o Ddeddf 1992 fel na chaniateir arfer pŵer Gweinidogion Cymru i bennu’r flwyddyn pryd y mae rhaid llunio rhestrau prisio newydd ar gyfer awdurdodau bilio yng Nghymru er mwyn pennu blwyddyn sy’n ddiweddarach na 2029. Mae hefyd yn cyflwyno gofyniad i restrau o’r fath gael eu llunio yn 2030 a phob 5 mlynedd wedi hynny (er y gellir newid y blynyddoedd, drwy orchymyn, gan Weinidogion Cymru).