Adran 43 - Pŵer i ymchwilio i gwynion
164.Mae adran 43 yn caniatáu i'r Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn sy'n ymwneud â mater y mae Rhan 5 yn gymwys iddo os:
yw'r gŵyn wedi'i gwneud yn briodol neu wedi'i hatgyfeirio'n briodol at yr Ombwdsmon; a
yn achos cwynion am ddarparwyr gofal lliniarol annibynnol, os yw'r darparwr gofal lliniarol annibynnol wedi cael cyllid cyhoeddus, o fewn y tair blynedd cyn dyddiad y camau gweithredu y mae'r gŵyn yn ymwneud â hwy.
165.Mae “cyllid cyhoeddus" yn cael ei ddiffinio yn is-adran (3) a'r ystyr yw cyllid oddi wrth Weinidogion Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Ymddiriedolaeth GIG neu gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys cyllid grant a ddarperir gan Weinidogion Cymru i'r gwasanaeth gofal lliniarol annibynnol.
166.Mae adrannau 43(4) a 48(1) yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i gŵyn gael ei gwneud yn briodol i'r Ombwdsmon. Mae adran 43(5) ac adran 49(1) yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i gŵyn gael ei hatgyfeirio'n briodol at yr Ombwdsmon gan ddarparwr y mae'r gŵyn yn ymwneud â hi.
167.Mae adran 43(7) yn galluogi'r Ombwdsmon i ymchwilio i gŵyn, y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddi o dan Ran 5, hyd yn oed os nad yw'r gofynion penodol o ran y ffordd y mae cwyn yn cael ei gwneud neu ei hatgyfeirio wedi'u bodloni, os yw'r Ombwdsmon yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny.
168.Mae adran 43(8) yn rhoi disgresiwn eang i'r Ombwdsmon benderfynu pa un a yw am gychwyn ymchwiliad, parhau ag ymchwiliad neu ddod ag ymchwiliad i ben. Mae adran 43(10) yn ei gwneud yn eglur y caiff yr Ombwdsmon gychwyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw'r gŵyn wedi'i thynnu'n ôl. Gall hyn fod yn briodol, er enghraifft, pan fo achwynydd 'arweiniol' wedi gwneud cwyn am gamau gweithredu gan ddarparwr a'r rheini hefyd wedi effeithio ar bersonau eraill, ond fod y person hwnnw, wedi hynny, wedi tynnu ei gŵyn 'arweiniol' yn ôl. Mewn achosion o'r fath, caiff yr Ombwdsmon ystyried ei bod yn briodol cychwyn ymchwiliad neu barhau ag ymchwiliad, er i'r gŵyn 'arweiniol' gael ei thynnu'n ôl, er mwyn diogelu buddiannau'r personau eraill.
