Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 07/06/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, Paragraff 10A yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 04 Rhagfyr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.

Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Taliadau gwasanaeth sy’n daladwy i landlordiaid cymunedol etc.LL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
[10A(1)Mae tâl gwasnaeth yn daliad a ganiateir os—
(a)yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a
(b)yw’r landlord yn landlord cymunedol.
(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)contract meddiannaeth safonol o fewn paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016 (llety nad yw’n llety cymdeithasol), neu
(b)contract meddiannaeth safonol a grybwyllir yn is-baragraff (3).
(3)Mae tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol o fewn adran 143 o Ddeddf 2016 (contractau sy’n ymwneud â llety â chymorth).
(4)At ddibenion y paragraff hwn—
ystyr “Deddf 2016” (“2016 Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1);
mae i “gwasanaethau cymorth” (“support services”) yr ystyr a roddir gan adran 143 o Ddeddf 2016 (gweler, yn benodol, is-adran (4) o’r adran honno); ;
mae i “landlord cymunedol” (“community landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 9 o Ddeddf 2016;
nid yw “tâl gwasanaeth” (“service charge”) yn cynnwys tâl am wasanaeth pan fyddai talu’r tâl yn cael ei ganiatáu yn rhinwedd paragraff arall o’r Atodlen hon, ac mewn perthynas ag is-baragraff (3) yn unig, mae’n cynnwys taliadau am ddarparu gwasanaethau cymorth.]
Yn ôl i’r brig