Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Adran 54 – Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth

98.Mae adran 54 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi dan ba amgylchiadau y bydd gan berson hawlogaeth i gredyd treth mewn perthynas â TGT, yn ddarostyngedig i fodloni a dilyn unrhyw amodau a gweithdrefnau a bennir.

99.Rhagwelir y caiff y pŵer hwn ei ddefnyddio, er enghraifft, i ganfod hawlogaeth i gredyd mewn sefyllfaoedd pan fo gweithredwr safle tirlenwi:

  • wedi anfonebu cwsmer yn briodol mewn perthynas â gwarediad trethadwy a wnaed;

  • wedi rhoi cyfrif am y gwarediad hwnnw, ac wedi talu TGT arno, i ACC yn y cyfamser; ac

  • yna wedi darganfod bod y cwsmer wedi mynd yn fethdalwr ac na ellir adennill y ddyled.

100.Yn yr enghraifft a amlinellir uchod, gallai’r rheoliadau nodi’r amodau y byddai’n ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am gredyd, gan gynnwys manylion y cofnodion neu’r dystiolaeth ategol sydd eu hangen. At hynny, gallai’r rheoliadau esbonio sut y byddai gweithredwr y safle tirlenwi yn mynd ati i hawlio’r credyd hwnnw: gallai hynny fod drwy ddidynnu’r swm o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus ar ffurflen dreth TGT gyfredol neu ar ffurflen o’r fath yn y dyfodol.

101.Caiff rheoliadau hefyd nodi dan ba amgylchiadau y caiff ACC wrthod hawliad am gredyd treth, a’r ffordd y gall person herio penderfyniad a wneir gan ACC ynghylch credyd treth. Caiff rheoliadau bennu cosbau a allai fod yn gymwys pe bai credyd yn cael ei hawlio mewn modd sy’n groes i’r gofynion a nodir yn y rheoliadau.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill