Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Adran 47 – Yr amod ar gyfer codi treth

87.Mae is-adran (1) yn nodi o dan ba amgylchiadau y bydd person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth, sy’n berthnasol i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol a hysbysiad codi treth. Mae person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth os gwnaeth y gwarediad neu os achosodd neu y caniataodd y gwarediad trethadwy, a hynny o fwriad.

88.Mae is-adran (2) yn datblygu ar is-adran (1)(b) ac yn darparu, oni bai bod person yn gallu bodloni ACC neu (ar apêl) y tribiwnlys fel arall, y caiff ei drin fel pe bai wedi achosi neu ganiatáu i’r gwarediad gael ei wneud, a hynny o fwriad, os oedd y person, pan wnaed y gwarediad:

a.

yn rheoli cerbyd modur neu drelar y gwnaed y gwarediad ohono, neu mewn sefyllfa i’w reoli; ac

b.

yn berchennog, yn lesddeiliad neu’n feddiannydd y tir lle gwnaed y gwarediad.

89.Wrth ystyried a yw person o’r fath wedi gwrthdroi’r rhagdybiaeth ei fod yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth, rhagwelir y gall ACC neu’r tribiwnlys ystyried:

  • a wnaeth y person ymdrech resymol i rwystro dympio’r gwastraff ar ei dir (e.e. ffensys cadarn);

  • a wnaeth y person ymdrech resymol i symud y gwastraff (e.e. cysylltu â chludwr gwastraff cofrestredig i’w symud);

  • a fu’r person yn cynorthwyo gydag unrhyw gamau amgylcheddol (posibl) yn erbyn y troseddwyr (e.e. cysylltu â’r heddlu, yr awdurdod lleol, neu Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r gwastraff, a/neu’n helpu gyda’u hymholiadau);

  • nad oedd y person yn gwybod am y gwastraff, ac na fyddai’n rhesymol iddo wybod amdano (e.e. o ystyried ymhle y cafodd y gwastraff ei waredu, maint yr ystâd ac ati);

  • os oedd y person yn wael, neu fel arall yn analluog.

90.Mae is-adran (3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel pe bai’n bodloni’r amod ar gyfer codi’r dreth, a materion sydd i’w hystyried wrth bennu a yw person yn bodloni’r amod hwnnw ai peidio.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill