Adran 111 - Asesiadau o anghenion fferyllol
219.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 82A yn Neddf 2006 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dyletswydd newydd ar gyfer BILlau yng Nghymru i lunio a chyhoeddi asesiad o’r angen am wasanaethau fferyllol.
220.Mae adran 82A(2) yn gosod dyletswydd ar bob BILl i gadw ei asesiad a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adolygiad a’i ddiwygio pan fo’n briodol gwneud hynny.
221.Mae adran 82A(3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n darparu ar gyfer:
y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i BILl gyhoeddi ei asesiad cyntaf o anghenion fferyllol. Mae hyn i sicrhau bod gan bob BILl asesiad wedi ei lunio a’i gyhoeddi erbyn dyddiad penodol a bod trosglwyddiad esmwyth o’r trefniadau blaenorol i’r trefniadau hyn ar gyfer penderfynu ar geisiadau;
yr amgylchiadau pan fo BILl i ddiwygio ei asesiad. Er enghraifft, gallai rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i BILl adolygu ei asesiad, a’i ddiwygio os yw’n briodol, os oes newidiadau sylweddol i ddemograffeg ardal a allai gael effaith ar yr angen am wasanaethau fferyllol. Gallai rheoliadau hefyd fynnu ei bod yn ofynnol i BILl ddiwygio ei asesiad bob tair blynedd, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn parhau’n gyfredol; ac
y modd y mae asesiad i gael ei gyhoeddi. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gofyniad i roi copi o’r asesiad ar wefan y BILl yn ogystal â rhoi ar gael gopïau caled yn fferyllfeydd y GIG a meddygfeydd, fel bod pobl sy’n byw yn ardal y BILl yn cael mynediad ato.
222.Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch llunio, cyhoeddi, adolygu a diwygio asesiad o dan is-adran (1) gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
yr wybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn asesiad. Er enghraifft, gallai rheoliadau bennu bod rhaid i asesiad gynnwys gwybodaeth am ddemograffeg y bobl yn ei ardal, unrhyw dueddiadau tymhorol, proffiliau oedran a gwybodaeth ynghylch darpariaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn yr ardal;
y graddau y mae asesiad i ystyried anghenion tebygol yn y dyfodol a materion eraill. Er enghraifft, gallai rheoliadau bennu bod rhaid i asesiad ystyried effaith datblygiadau tai neu ddatblygiadau masnachol sydd yn yr arfaeth;
yr ymgynghoriad sydd i gael ei gynnal mewn cysylltiad ag asesiad. Er enghraifft, caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i BILlau ymgynghori â phersonau penodedig ynghylch materion penodedig pan fônt yn llunio eu hasesiad. Efallai, er enghraifft, y bydd yn ofynnol i BILlau ymgynghori ag awdurdodau lleol, grwpiau cleifion a chymunedol a phwyllgorau cynrychiadol proffesiynol lleol; a
gofynion gweithdrefnol.
223.Mae adran 111(2) yn darparu y bydd y rheoliadau cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch asesiadau o anghenion fferyllol o dan adran 82A o Ddeddf 2006 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn yn golygu bod rhaid eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chael eu cymeradwyo ganddo. Bydd rheoliadau dilynol yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.