Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/04/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, Paragraff 2D.

Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Ystyr “elusen”: yr amod rheoliLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
[2D.(1)Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod rheoli os yw ei reolwyr neu ei rheolwyr yn bersonau addas a phriodol i fod yn rheolwyr y corff neu’r ymddiriedolaeth.
(2)Yn y paragraff hwn ystyr “rheolwyr”, mewn perthynas â chorff o bersonau neu ymddiriedolaeth, yw’r personau sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth, ac sy’n rheoli gweinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth yn gyffredinol.
(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod nad yw’r amod rheoli yn cael ei fodloni ar ei hyd.
(4)Mae’r amod rheoli yn cael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC yn ystyried—
(a)nad yw’r methiant i fodloni’r amod wedi niweidio dibenion elusennol y corff neu’r ymddiriedolaeth, neu
(b)ei bod yn deg ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r amod gael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni ar hyd y cyfnod.]
Yn ôl i’r brig