Atodlen 17 – Rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael
375.Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad atgyfansoddi, rhyddhad caffael, a rheolau gwrthweithio osgoi trethi cysylltiedig.
Rhan 2 - Rhyddhad atgyfansoddi
376.Mae Rhan 2 o’r Atodlen yn darparu ar gyfer “rhyddhad atgyfansoddi” sy’n golygu, pan fo’r amodau penodedig yn cael eu bodloni, na chodir treth trafodiadau tir ar gynllun i atgyfansoddi cwmni (y “cwmni targed”). Darperir rhyddhad atgyfansoddi ar gyfer trafodiadau tir sy’n gysylltiedig â throsglwyddo ymgymeriad cyfan cwmni targed (“T”), neu ran o’i ymgymeriad, i gwmni caffael (“C”), sy’n ffurfio rhan o gynllun i atgyfansoddi T. Rhaid i’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad fod yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar ffurf cyfranddaliadau anatbrynadwy a ddyroddir yn C i gyfranddalwyr T, a phan fo’r gydnabyddiaeth ond yn rhannol yn gyfranddaliadau anadbrynadwy, rhaid i weddill y gydnabyddiaeth ond gynnwys ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaeth T gan C yn unig. “Cyfranddaliadau anatbrynadwy” yw cyfranddaliadau nad ydynt yn atbrynadwy; caniateir iddynt gael eu masnachu neu eu dal nes iddynt aeddfedu ond ni chaniateir iddynt gael eu hatbrynu gan y cwmni dyroddi ar ddyddiad yn y dyfodol. Amod allweddol o ryddhad atgyfansoddi yw bod rhaid, yn dilyn y caffaeliad, i gyfranddaliwr yn T fod yn gyfranddaliwr yn C hefyd, ac i’r gwrthwyneb. Yn ogystal â hynny, rhaid i unrhyw gyfranddaliwr ddal yr un gyfran o gyfranddaliadau yn T ac yn C (neu mor agos ag y bo modd). Fel yn achos rhyddhad grŵp, rhaid i’r atgyfansoddi fod am resymau masnachol dilys ac ni chaiff fod yn rhan o unrhyw drefniant i osgoi talu treth trafodiadau tir.
Rhan 3 - Rhyddhad caffael
377.Mae Rhan 3 o’r Atodlen yn darparu ar gyfer “rhyddhad caffael”, pan fo trafodiad tir yn ffurfio rhan o drosglwyddo ymgymeriad o gwmni (“cwmni targed”) i gwmni arall (“cwmni caffael”), ond nid yn unol â chynllun ar gyfer atgyfansoddi’r cwmni targed. Rhyddhad rhannol rhag treth trafodiadau tir yw rhyddhad caffael. Pan fo trafodiad yn gymwys ar gyfer rhyddhad caffael ac yn bodloni’r amodau a bennir ym mharagraff 3, mae swm y dreth trafodiadau tir sydd i’w godi wedi ei ostwng i gyfradd dreth sefydlog o 0.5% o’r gydnabyddiaeth berthnasol a roddir. Caniateir newid cyfradd y dreth trafodiadau tir sydd i’w chodi o dan ryddhad caffael drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Rhan 4 - Tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael
378.Mae Rhan 4 o’r Atodlen yn darparu ar gyfer tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (neu pan fo trefniadau yr ymrwymir iddynt o fewn y cyfnod o 3 blynedd, ac y bydd rheolaeth dros y cwmni yn newid oddi tanynt ar ôl 3 blynedd), ac yn fras, ar yr adeg honno bod y cwmni caffael neu gwmni y mae’n ei reoli yn dal y buddiant trethadwy perthnasol o hyd.
Achosion pan na chaiff rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ei dynnu’n ol
379.Darperir eithriadau rhag tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ym mharagraff 6. Mae’r rhain yn cynnwys pan fo rheolaeth yn newid:
oherwydd trafodiad cyfranddaliadau mewn cysylltiad ag ysgariad, diddymu partneriaeth sifil neu am resymau tebyg;
oherwydd trafodiad cyfranddaliadau mewn cysylltiad â thrafodiadau sy’n amrywio gwarediadau yn dilyn marwolaeth;
oherwydd trosglwyddiad cyfranddaliadau esempt oddi mewn i’r grŵp (fel y’i diffinnir ym mharagraff 6(5)), ond dylid nodi bod hyn yn ddarostyngedig i baragraff 7;
oherwydd trosglwyddiad i gwmni arall y mae rhyddhad caffael cyfranddaliadau yn gymwys iddo (fel y’i diffinnir ym mharagraff 6(8)) ond dylid nodi bod hyn yn ddarostyngedig i baragraff 7; a
pan fo rheolaeth yn newid o ganlyniad i gredydwr benthyciadau yn dod i gael ei drin neu’n peidio â chael ei drin fel pe bai ganddo reolaeth a bod personau eraill a driniwyd yn flaenorol fel pe bai ganddynt reolaeth dros gwmni yn parhau i gael eu trin felly.
Tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn achos trosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt
380.Mae paragraff 7 yn darparu rheolau gwrthweithio osgoi trethi mewn perthynas â thynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ar drosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt. Mae’r rhain yn gymwys i’r eithriadau rhag tynnu rhyddhad yn ôl o dan baragraff 6(5) ac (8). Maent yn atal yr eithriadau hyn, fel bod rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl. Maent yn gymwys pan fo newid penodol mewn rheolaeth ac yn fras, ar yr adeg honno, fod y cwmni caffael neu gwmni y mae’n ei reoli yn dal y buddiant trethadwy perthnasol o hyd.
Rhan 5 - Adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael
381.Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adennill treth yn dilyn tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael. Os nad yw’r dreth sydd i’w chodi o dan baragraff 5 neu 7 o’r Atodlen yn cael ei thalu o fewn 6 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn daladwy, ac nad oes unrhyw ffordd bosibl i amrywio’r dreth sydd i’w chodi (pa un ai drwy apêl neu fel arall), mae’r Rhan hon yn darparu y gellir ei hadennill gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gan gyfarwyddwr â rheolaeth (yn ddarostyngedig i fod y cwmni grŵp hwnnw yn yr un grŵp â’r prynwr ar yr adeg berthnasol, neu fod y cyfarwyddwr â rheolaeth yn gyfarwyddwr â rheolaeth y prynwr ar yr adeg berthnasol – gweler paragraff 8(3)). Caiff ACC ddyroddi hysbysiad i unrhyw un o’r personau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt dalu unrhyw swm sydd heb ei dalu cyn diwedd 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad. Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad pennu’r swm terfynol o ran y dreth sydd i’w chodi a rhaid iddo ddatgan y swm sy’n daladwy gan y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.