Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf
8.Mae’r Ddeddf yn cynnwys 82 o adrannau a 23 o Atodlenni, ac mae wedi ei rhannu’n wyth Rhan, fel a ganlyn:
Rhan 1 – Trosolwg
Mae’r Rhan hon yn nodi sut y mae’r Ddeddf wedi ei strwythuro.
Rhan 2 – Y Dreth a’r Cysyniadau Allweddol
Mae Rhan 2 yn sefydlu’r dreth trafodiadau tir ac yn nodi’r cysyniadau sylfaenol sy’n sail i weithrediad y dreth. Mae’r Rhan hon hefyd yn cyflwyno’r atodlenni ar drafodiadau cyn-gwblhau, trafodiadau sy’n esempt rhag codi treth arnynt a’r gydnabyddiaeth drethadwy.
Rhan 3 – Cyfrifo Treth a Rhyddhadau
Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer y ffordd y mae’r dreth i’w chyfrifo, ac yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod ac wedi hynny newid y cyfraddau treth a’r bandiau treth ar gyfer y dreth trafodiadau tir. Yn ogystal â hynny, mae’r Rhan hon yn cyflwyno’r rhan fwyaf o’r atodlenni sy’n rheoli gweithrediad y rhyddhadau sydd ar gael, a’r atodlen ar drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch. Mae hefyd yn sefydlu’r darpariaethau gwrthweithio osgoi trethi sy’n gysylltiedig â’r rhyddhadau er mwyn sicrhau na ellir hawlio rhyddhadau pan fônt yn rhan o “drefniadau osgoi trethi” neu’n cyfrannu at drefniadau o’r fath.
Rhan 4 – Lesoedd
Mae’r Rhan hon yn cyflwyno’r Atodlen ar lesoedd, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymhwyso’r Ddeddf hon i lesoedd.
Rhan 5 – Cymhwyso’r Ddeddf a DCRhT i Bersonau a Chyrff Penodol
Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf mewn perthynas â mathau penodol o brynwyr, gan gynnwys partneriaethau, cwmnïau ac ymddiriedolaethau, ac mae’n cyflwyno’r atodlenni perthnasol.
Rhan 6 - Ffurflenni Treth a Thaliadau
Mae Rhan 6 yn nodi’r fframwaith ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth trafodiadau tir ac ar gyfer talu’r dreth.
Rhan 7 - Y Rheol Gyffredinol yn Erbyn Osgoi Trethi
Mae Rhan 7 yn diwygio DCRhT er mwyn gwneud darpariaeth i Reol Gyffredinol yn Erbyn Osgoi Trethi fod yn gymwys i drethi datganoledig yng Nghymru. Mae’r Rheol Gyffredinol yn Erbyn Osgoi Trethi yn cyflwyno profion penodol sy’n galluogi ACC i ymyrryd i atal unrhyw “fanteision trethiannol” sy’n deillio o “drefniadau osgoi trethi” artiffisial.
Rhan 8 – Dehongli a Darpariaethau Terfynol
Mae’r Rhan hon yn cynnwys darpariaethau ar bwerau is-ddeddfwriaeth a chychwyn yn ogystal â darpariaethau terfynol ac ategol eraill. Mae hefyd yn cyflwyno Atodlen 23 sy’n nodi diwygiadau a wneir gan y Ddeddf hon i DCRhT.