Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2018.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.

Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[122ACosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledigLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 [neu 122ZA] mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.
(2)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.
(3)Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.
(4)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.
(5)Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.]
Yn ôl i’r brig