Crynodeb A’R Cefndir
3.Nodwyd y cyd-destun a’r cefndir i’r Ddeddf hon ym Mhennod 1 o Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru - Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 23 Medi 2014(1).
4.Yn gryno, mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer system dreth Gymreig er mwyn gallu casglu a rheoli trethi Cymreig datganoledig. Mae’n sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru fel adran anweinidogol y rhagwelir y bydd yn gyfrifol am gasglu trethi datganoledig Cymru o fis Ebrill 2018 ymlaen(2). Mae hefyd yn nodi’r berthynas rhwng yr awdurdod trethi a threthdalwyr yng Nghymru, gan gynnwys y pwerau, yr hawliau a’r dyletswyddau perthnasol.
5.Mae 10 o Rannau a 195 o adrannau i’r Ddeddf ac fe’i trefnir fel a ganlyn:
Rhan 1 – Trosolwg
Rhan 2 – Awdurdod Cyllid Cymru
Rhan 3 – Ffurflenni, Ymholiadau ac Asesiadau Treth
Rhan 4 – Pwerau Ymchwilio ACC
Rhan 5 – Cosbau
Rhan 6 – Llog
Rhan 7 – Talu a Gorfodi
Rhan 8 – Adolygiadau ac Apelau
Rhan 9 – Ymchwilio i Droseddau
Rhan 10 – Darpariaethau Terfynol
Papur Gwyn Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru LlC22945
Y bwriad yw ‘diffodd’ fersiynau’r DU gyfan o’r trethi i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru o fis Ebrill 2018. Bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y dyddiad terfynol ar gyfer diffodd trethi’r DU yng Nghymru.