9ZI Hysbysiad stop dros dro
92.Mae adran 9ZI(1) a (2) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros dro. Caniateir i hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi pan fydd unrhyw waith wedi ei wneud, neu’n cael ei wneud, i heneb gofrestredig neu ar dir y mae heneb arno, ynddo neu odano, os ymddengys i Weinidogion Cymru nad yw’r gwaith wedi ei awdurdodi neu fod y gwaith yn methu â chydymffurfio ag amod sydd ynghlwm wrth gydsyniad heneb gofrestredig a bod Gweinidogion Cymru o’r farn bod rhoi terfyn ar y gwaith ar unwaith yn hwylus, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb sydd o bwys cenedlaethol.
93.Mae adran 9ZI(3) yn datgan bod rhaid i hysbysiad stop dros dro: bod yn ysgrifenedig, pennu’r gwaith sydd i ddod i ben, esbonio pam y dyroddwyd yr hysbysiad, a datgan bod torri’r hysbysiad yn drosedd.
94.Mae adran 9ZI(4) a (5) yn nodi’r trefniadau ar gyfer dwyn hysbysiad stop dros dro i sylw’r cyhoedd. Rhaid iddo gael ei arddangos ar yr heneb, neu gerllaw’r heneb pe gallai arddangos yr hysbysiad ar yr heneb achosi difrod i’r heneb a phennu’r dyddiad y caiff yr hysbysiad ei arddangos am y tro cyntaf. Mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith ar y dyddiad hwnnw. Yn ogystal, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno’r hysbysiad stop dros dro i unrhyw berson sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn gwneud y gwaith neu’n peri i’r gwaith gael ei wneud, neu i unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir. Mae adran 56 o Ddeddf 1979 (cyflwyno dogfennau) yn gymwys i gyflwyno’r hysbysiad.
95.Mae adran 9ZI(7) yn datgan bod yr hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith ar ôl cyfnod o 28 o ddiwrnodau, neu unrhyw gyfnod byrrach a bennir yn yr hysbysiad. Mae adran 9ZI(8) yn caniatáu i Weinidogion Cymru dynnu’r hysbysiad stop dros dro yn ôl cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau (neu unrhyw gyfnod byrrach a bennir). Mae adran 9ZI(9) yn gwahardd dyroddi hysbysiad stop dros dro arall mewn perthynas â’r un gwaith oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi cymryd rhyw gamau gorfodi eraill mewn perthynas â thorri’r hysbysiad, megis cyflwyno hysbysiad gorfodi neu gael gwaharddeb o dan adran 9ZM.