Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Crynodeb

2.Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn ehangu’r systemau presennol ar gyfer gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru a’i reoli’n gynaliadwy. Yn fras, mae’r Ddeddf: yn creu mesurau newydd ar gyfer gwarchod adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig; yn gwella’r mecanweithiau presennol ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol yn gynaliadwy; ac yn cyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd o ran y penderfyniadau a wneir ynghylch yr amgylchedd hanesyddol.

3.Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n:

  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â pherchenogion cyn dynodi asedau hanesyddol drwy gofrestru a rhestru, a sefydlu mecanwaith i adolygu penderfyniadau dynodi;

  • caniatáu i Weinidogion Cymru roi terfyn ar unwaith ar waith anawdurdodedig i henebion cofrestredig a’i gwneud yn haws i gamau gael eu cymryd yn erbyn y rhai hynny sydd wedi difrodi neu ddinistrio henebion;

  • galluogi awdurdodau i weithredu’n gyflym os yw adeilad rhestredig o dan fygythiad o waith anawdurdodedig ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt o ran delio ag adeiladau rhestredig y mae angen gwneud gwaith ar frys arnynt er mwyn eu gwarchod rhag dirywio ymhellach;

  • caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch camau pellach y caniateir i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru eu cymryd i sicrhau bod adeiladau rhestredig yng Nghymru sydd wedi mynd i gyflwr gwael yn cael eu diogelu’n briodol;

  • ei gwneud yn haws i berchenogion neu ddatblygwyr greu defnydd newydd cynaliadwy o adeiladau hanesyddol sydd heb eu rhestru drwy lacio’r amodau i geisiadau am dystysgrifau imiwnedd rhag rhestru;

  • caniatáu i berchenogion asedau hanesyddol drafod cytundebau partneriaeth dreftadaeth ag awdurdodau cydsynio am gyfnod o flynyddoedd, gan gael gwared ar yr angen i ymgeisio am gydsyniad i wneud gwaith tebyg dro ar ôl tro ac annog rheolaeth fwy cyson a chydlynol o’r adeiladau neu’r henebion;

  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol;

  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol ar gyfer Cymru gyfan, sy’n darparu gwybodaeth a chyngor manwl i awdurdodau lleol a’r cyhoedd ar yr amgylchedd hanesyddol, a chadw’r cofnodion hynny yn gyfredol;

  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru; a

  • sefydlu panel annibynnol i gynghori ar bolisi a strategaeth yr amgylchedd hanesyddol yn genedlaethol yng Nghymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill