Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/06/2023.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, Adran 177A yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 25 Mehefin 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.

Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[177ACyfyngiad ar roi hysbysiad o dan adran 173 yn dilyn hawliad meddiant dialgarLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178, a
(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.]
Diwygiadau Testunol
Addasiadau (ddim yn newid testun)
Gwybodaeth Cychwyn
Yn ôl i’r brig