Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Pennod 5 - Materion Allweddol a Thelerau Ychwanegol Contractau Meddiannaeth
Adran 26 – Materion allweddol mewn perthynas â phob contract meddiannaeth

126.Mae’r adran hon yn pennu’r materion allweddol y mae’n rhaid eu cynnwys ym mhob contract meddiannaeth, sef:

  • cyfeiriad yr annedd;

  • y dyddiad meddiannu (y dyddiad pan all deiliad y contract feddiannu’r annedd);

  • swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall; ac

  • y cyfnodau rhentu (er enghraifft, yn wythnosol neu’n fisol). Diffinnir ‘cyfnod rhentu’ yn adran 252.

Adran 27 – Materion allweddol pellach mewn contractau safonol

127.Mae’r adran hon yn pennu’r materion ychwanegol y mae’n rhaid eu cynnwys ym mhob contract safonol, sef:

  • a yw’r contract yn un cyfnodol neu wedi ei wneud am gyfnod penodol;

  • os y’i gwnaed am gyfnod penodol, y cyfnod y’i gwnaed ar ei gyfer (am ba hyd y bydd y contract yn parhau, pa bryd y bydd yn cychwyn a pha bryd y daw i ben);

  • unrhyw gyfnodau pan na fydd hawl gan ddeiliad y contract i feddiannu’r annedd fel cartref (er enghraifft i ganiatáu defnyddio llety myfyrwyr at ddibenion eraill yn ystod gwyliau).

Adran 28 – Telerau ychwanegol

128.Mae’r adran hon yn diffinio ‘telerau ychwanegol’ fel unrhyw delerau ac eithrio telerau sylfaenol, telerau atodol a thelerau sy’n ymwneud â materion allweddol. Gellir cynnwys telerau ychwanegol mewn contract i ymdrin â materion fel cadw anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, ni chaiff telerau o’r fath wrthdaro â’r telerau sy’n ymwneud â materion allweddol, nac â thelerau sylfaenol ac atodol.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill