Beth yw telerau contract meddiannaeth?
Darpariaethau sylfaenol
14.Mae’r Ddeddf yn creu‘r cysyniad o ‘ddarpariaeth sylfaenol’. Un o ddarpariaethau’r Ddeddf (adran o’r Ddeddf fel arfer) sy’n dod fel mater o drefn yn un o delerau contract meddiannaeth y mae’n gymwys iddo, yw darpariaeth sylfaenol.
15.Er enghraifft, mae adran 45 (sy’n ymwneud â chynlluniau i ofalu am flaendaliadau y bydd deiliaid contractau yn eu talu i landlordiaid) yn ddarpariaeth sylfaenol ym mhob contract meddiannaeth. Yn ymarferol, golyga hyn y bydd pob contract meddiannaeth rhwng landlord a deiliad contract yn cynnwys teler sy’n cyfateb yn union i adran 45, o ran ystyr.
16.Unwaith y caiff darpariaeth sylfaenol ei hymgorffori mewn contract meddiannaeth, cyfeirir ati yn y Ddeddf fel ‘teler sylfaenol’ o’r contract. Rhaid i deler sylfaenol o’r contract gadw’n glos at eiriad a therminoleg y ddarpariaeth sylfaenol o’r Ddeddf y mae’n ei hymgorffori; mae adran 33 yn amlinellu i ba raddau y gellir gwneud newidiadau golygyddol.
17.Dim ond i fathau penodol o gontract meddiannaeth y mae rhai darpariaethau sylfaenol yn gymwys; er enghraifft, mae adran 113, sy’n ymwneud â’r hawl i gymryd lletywr, yn gymwys i gontractau diogel yn unig, ac nid i gontractau safonol. Mae Atodlen 1 i’r Ddeddf yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i bob math o gontract meddiannaeth.
18.Gall landlordiaid a deiliaid contractau gytuno i beidio â chael darpariaeth sylfaenol benodol yn eu contract (mewn geiriau eraill, gallant ddewis peidio ag ymgorffori’r ddarpariaeth honno). Neu gallant gytuno i wneud newidiadau i ddarpariaeth sylfaenol. Mae’r Ddeddf yn disgrifio newid i ddarpariaeth sylfaenol fel ‘addasiad’.
19.Mae cyfyngiadau, fodd bynnag, ar y gallu i gytuno i addasu darpariaeth sylfaenol, neu i beidio â’i hymgorffori. Yn gyntaf, rhaid i unrhyw newid wella sefyllfa deiliad y contract yn y pen draw (waeth pa un a yw’n gwella, neu’n gwaethygu, sefyllfa’r landlord). Yn ail, rhaid ymgorffori’r darpariaethau sylfaenol a nodir yn adran 22(3) fel telerau sylfaenol pob contract meddiannaeth y maent yn gymwys iddo, heb newidiadau, pa un a fyddai’r newid yn gwella sefyllfa deiliad y contract ai peidio (mae adran 45, a grybwyllir uchod, yn un ddarpariaeth sylfaenol o’r fath).
20.Gellir newid telerau sylfaenol contract meddiannaeth (sef telerau’r contract sy’n ymgorffori darpariaethau sylfaenol) unwaith y mae’r contract wedi ei wneud; mae’r Ddeddf yn disgrifio newid i deler sylfaenol fel ‘amrywiad’. Mae cyfyngiadau ar hyn, fodd bynnag, ac mae’r cyfyngiadau hynny’n amrywio rhwng contractau diogel (gweler Pennod 2 o Ran 5), contractau safonol cyfnodol (gweler Pennod 3 o Ran 6) a chontractau safonol cyfnod penodol (gweler Pennod 3 o Ran 7).