Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

Adran 13 – Swyddogaethau pwyllgorau pontio

26.Mae adran 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddogaethau pwyllgor pontio. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor pontio gynghori’r awdurdodau sy’n uno a’r awdurdod cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, a rhoi argymhellion iddynt:

  • ynghylch trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau a rhwymedigaethau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd,

  • ynghylch sicrhau bod y prif awdurdod lleol newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni ei swyddogaethau’n effeithiol o’r adeg y mae’n eu hysgwyddo; a

  • at unrhyw ddiben arall y mae Gweinidogion Cymru yn ei bennu mewn cyfarwyddydau.

27.Mae adran 13(2) i (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd i un neu ragor o bwyllgorau pontio, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt arfer eu swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd. Rhaid i bwyllgor pontio gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir a gall Gweinidogion ddirymu neu amrywio cyfarwyddyd ar unrhyw adeg, drwy roi cyfarwyddyd arall.

28.Mae adran 13(5) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i bwyllgorau pontio ynghylch arfer eu swyddogaethau; a rhaid i bwyllgor pontio roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath.

29.Mae adran 13(6) yn atal pwyllgor archwilio neu bwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod sy’n uno rhag cyflawni ei swyddogaethau mewn cysylltiad ag unrhyw beth y mae’r pwyllgor pontio yn ei wneud. Ni fydd gan bwyllgorau pontio bŵer i wneud penderfyniadau ar faterion polisi, materion strategol na materion gweithredol mewn perthynas â’r awdurdod newydd na’r awdurdod presennol; cynghori a gwneud argymhellion fydd eu swyddogaethau. Gallai’r pwyllgorau archwilio a chraffu perthnasol ystyried unrhyw benderfyniadau gan awdurdodau newydd neu awdurdodau presennol yng ngoleuni cyngor neu argymhellion y pwyllgorau pontio.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill