Adran 101 – Asesu anghenion llety
191.Rhaid i awdurdod tal lleol gynnal asesiadau o bryd i’w gilydd o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal (h.y. yn byw yno) neu sy’n cyrchu yno (h.y. yn aros yn yr ardal o dro i dro). Rhaid i asesiad gael ei gynnal o fewn pob “cyfnod adolygu” (gweler is-adran (3)). Yn ddarostyngedig i’r gofyniad hwn, mater i bob awdurdod tai lleol fydd penderfynu pryd y bydd yr asesiadau hyn yn digwydd. Cynhelir yr asesiad cyntaf o dan yr adran hon cyn pen blwyddyn ar ôl i’r adran hon ddod i rym. Wrth gynnal asesiad, rhaid i awdurdod tai lleol ymgynghori â’r personau sy’n briodol yn ei farn ef, gyda golwg ar ganllawiau a lunnir o dan y Rhan hon.
192.Bydd y ddyletswydd i gynnal asesiadau yn yr adran hon, pan ddaw i rym, yn disodli’r gofyniad a osodwyd ar awdurdodau tai lleol Cymru gan adran 225 o Ddeddf Tai 2004 i asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr. Ar hyn o bryd mae asesiadau o dan adran 225 yn digwydd fel rhan o adolygiad ehangach awdurdodau o anghenion llety eu hardaloedd o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985. Gellid dal i gynnal asesiadau o anghenion Sipsiwn a Theithwyr o dan y system newydd yr un pryd ag adolygiadau o dan adran 8 o Ddeddf 1985; ond bydd hynny’n fater i bob awdurdod tai lleol ei ystyried yng ngoleuni’r gofyniad i gynnal asesiad o anghenion llety o dan yr adran hon o fewn pob “cyfnod adolygu”.