Adran 3 – Gorchmynion cyflogau amaethyddol
12.Bydd gorchymyn cyflogau amaethyddol yn nodi’r telerau ac amodau cyflogaeth y mae rhaid eu cynnig i weithwyr amaethyddol yng Nghymru.
13.Yn benodol, gall bennu—
y cyflogau y mae rhaid eu talu i weithwyr amaethyddol (gall hyn amrywio yn unol â chymwysterau a phrofiad y gweithiwr),
faint o wyliau y mae gan weithiwr amaethyddol yr hawl i’w cael, a
thelerau ac amodau cyflogaeth eraill sy’n berthnasol i’r sector amaethyddol, megis, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol talu lwfans i fugail y mae’n ofynnol iddo gadw cŵn gwaith fel rhan o’i swydd.
14.Ni chaiff unrhyw gyfraddau tâl a bennir mewn gorchymyn cyflogau amaethyddol fod yn is na’r isafswm cyflog cenedlaethol a bennir gan lywodraeth y DU ar gyfer pob gweithiwr.