Search Legislation

Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026

Newidiadau dros amser i: Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 12 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Legislation Crest

Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026

2026 dsc 5

Deddf gan Senedd Cymru i wneud darpariaeth‍ sy’n ymwneud â diogelwch pobl mewn adeiladau neu o’u hamgylch sy’n cynnwys dwy neu ragor o unedau preswyl, a diogelwch pobl mewn tai amlfeddiannaeth penodol neu o’u hamgylch.

[27 Ebrill 2026]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1LL+CDIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 1LL+CTROSOLWG

1Trosolwg o RanLL+C

(1)Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r Rhan hon.

(2)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â diogelwch adeiladau sy’n cynnwys dwy neu ragor o unedau preswyl, y cyfeirir atynt fel “adeiladau rheoleiddiedig” ac sydd wedi eu rhannu’n 3 chategori. Mae’n gwneud hynny yn bennaf drwy osod dyletswyddau ar y personau atebol, neu’r prif berson atebol, ar gyfer adeilad rheoleiddiedig.

(3)Yn y Rhan hon—

(a)mae rhai dyletswyddau yn gymwys i bob adeilad rheoleiddiedig, mae rhai yn gymwys i adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2 yn unig, ac mae eraill yn gymwys i adeiladau categori 1 yn unig;

(b)mae rhai dyletswyddau yn gymwys ond pan fo adeilad rheoleiddiedig “wedi ei feddiannu” (sy’n golygu bod preswylwyr mwy nag un uned breswyl yn yr adeilad).

(4)Mae Pennod 2 yn nodi ystyron rhai termau allweddol a ddefnyddir yn y Ddeddf hon. Yn benodol, mae’n gwneud darpariaeth am—

(a)ystyr cyfeiriadau at adeiladau rheoleiddiedig, unedau preswyl a’r 3 chategori o adeiladau rheoleiddiedig;

(b)sut i adnabod person atebol, a’r prif berson atebol, ar gyfer adeilad rheoleiddiedig.

(5)Mae Pennod 3 yn darparu ar gyfer cofrestru adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2 gan awdurdodau diogelwch adeiladau.

(6)Mae Pennod 4 yn darparu ar gyfer asesu a rheoli risgiau diogelwch mewn perthynas ag adeiladau rheoleiddiedig a feddiennir. Mae’n gwneud hynny drwy—

(a)gosod dyletswyddau ar brif bersonau atebol i asesu risgiau diogelwch tân, ac ar bersonau atebol i reoli’r risgiau hynny, sy’n gymwys i bob adeilad rheoleiddiedig;

(b)gosod dyletswyddau ar bersonau atebol i asesu a rheoli risgiau diogelwch strwythurol, sy’n gymwys i adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2 yn unig.

(7)Mae Pennod 5 yn darparu ar gyfer dyletswyddau sy’n gymwys i adeiladau categori 1 a feddiennir yn unig ac sy’n cael eu gosod yn bennaf ar y prif bersonau atebol ar gyfer yr adeiladau hynny. Maent yn cynnwys dyletswyddau sy’n ymwneud â llunio adroddiadau, cofnodi ac adrodd ar faterion diogelwch adeiladau, a strategaethau ar gyfer cynnwys preswylwyr mewn penderfyniadau diogelwch adeiladau.

(8)Mae Pennod 6 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth am strategaethau ar gyfer cynnwys preswylwyr adeiladau categori 2 a feddiennir mewn penderfyniadau diogelwch adeiladau.

(9)Mae Pennod 7 yn darparu ar gyfer dyletswyddau i bersonau atebol gadw a rhannu gwybodaeth sy’n ymwneud ag adeiladau rheoleiddiedig, ac i bersonau atebol ac awdurdodau diogelwch adeiladau ymdrin â chwynion sy’n ymwneud â materion diogelwch adeiladau. Mae’n gosod dyletswyddau, neu’n eu galluogi i gael eu gosod, mewn perthynas â’r holl adeiladau rheoleiddiedig.

(10)Mae Pennod 8 yn gosod dyletswyddau sy’n ymwneud â diogelwch tân ar breswylwyr sy’n oedolion a pherchnogion unedau preswyl mewn adeiladau rheoleiddiedig a feddiennir. Mae hefyd yn gosod dyletswyddau‍ cyfatebol sy’n ymwneud â diogelwch strwythurol mewn adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2, a dyletswyddau i atgyweirio difrod i wrthiant tân unedau preswyl ym mhob adeilad rheoleiddiedig a feddiennir. Mae’n darparu ar gyfer gorfodi’r dyletswyddau gan bersonau atebol, ac ar gyfer mynediad i unedau preswyl er mwyn galluogi cydymffurfiaeth â’r Rhan hon.

(11)Mae Pennod 9 yn darparu i benderfyniadau penodol awdurdod diogelwch adeiladau fod yn ddarostyngedig i adolygiad gan yr awdurdod ac apêl i dribiwnlys eiddo preswyl.

(12)Mae Pennod 10 yn cynnwys darpariaethau atodol, gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau atebol gydweithredu a chydlynu â phersonau eraill, darpariaeth ynghylch adennill costau yr aed iddynt neu yr eir iddynt wrth gydymffurfio â’r Rhan hon, a darpariaeth i delerau sy’n ymwneud â chydymffurfio â dyletswyddau o dan y Ddeddf hon gael eu gosod ymhlyg mewn lesoedd penodol.

(13)Ceir darpariaeth bellach ar gyfer gorfodi dyletswyddau o dan y Ddeddf hon yn Rhan 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

PENNOD 2LL+CTERMAU ALLWEDDOL

Adeiladau rheoleiddiedig, unedau preswyl a chategorïau adeiladauLL+C

2Ystyr “adeilad rheoleiddiedig”LL+C

(1)Yn y Ddeddf hon ystyr “adeilad rheoleiddiedig” yw adeilad sydd—

(a)yn cynnwys o leiaf 2 uned breswyl, a

(b)yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

(2)Ond nid yw ystyr “adeilad rheoleiddiedig” yn cynnwys adeilad o ddisgrifiad a nodir yn Atodlen 1.

(3)Yn y Bennod hon—

(a)mae adrannau 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr “adeilad” at ddibenion yr adran hon;

(b)mae adran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr “uned breswyl”;

(c)mae adran 6 yn rhannu adeiladau rheoleiddiedig yn 3 chategori;

(d)mae adran 7 yn darparu ar gyfer cynnwys ardaloedd atodol mewn cyfeiriadau at adeilad rheoleiddiedig neu at adeilad rheoleiddiedig o gategori penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

3Ystyr “adeilad”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyr “adeilad” at ddibenion adran 2.

(2)Yn achos strwythur nad yw ynghlwm wrth strwythur arall (“strwythur nad yw ynghlwm”), mae’r strwythur hwnnw’n adeilad.

(3)Yn achos strwythurau sydd ynghlwm wrth ei gilydd, mae’r strwythurau hynny ac unrhyw adeiladweithiau sy’n cysylltu’r strwythurau hynny (gyda’i gilydd yn “set o strwythurau”) yn adeilad.

(4)Ond mae is-adrannau (2) a (3) yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Os yw strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn cynnwys unrhyw rannau annibynnol, mae pob rhan annibynnol yn adeilad (gweler adran 4).

(6)Yn yr adran hon ystyr “strwythur” yw adeiladwaith sydd iddo do a waliau (pa un a yw’r adeiladwaith yn cynnwys rhannau nad oes iddynt do neu waliau ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

4Ystyr “rhan annibynnol”LL+C

(1)Mae rhan o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn rhan annibynnol o’r strwythur neu’r set os—

(a)nad oes iddi fynediad i unrhyw ran arall o’r strwythur neu’r set, a

(b)yw’n ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set (gweler hefyd is-adran (5) yn achos strwythur nad yw ynghlwm).

(2)Mae rhan o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set os—

(a)yw’r strwythur neu’r set wedi ei rannu neu ei rhannu gan y rhan, a

(b)yw’r rhaniad ar hyd plân fertigol.

(3)Wrth benderfynu a yw rhan (“rhan A”) o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set, mae unrhyw ran arall o’r strwythur hwnnw neu’r set honno—

(a)sy’n rhan nad oes gan ran A fynediad iddi,

(b)sy’n rhan amhreswyl, ac

(c)a fyddai fel arall yn atal rhan A rhag ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set,

i’w thrin fel pe na bai’n atal rhan A rhag ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set.

(4)Mae rhan o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn rhan amhreswyl os‍ yw’n bodloni’r ddau amod a ganlyn—

(a)nid yw’n cynnwys uned breswyl na rhan o uned breswyl;

(b)nid yw’n cynnwys ardal, na rhan o ardal, a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr unedau preswyl yn y strwythur neu’r set.

(5)Yn achos rhan o strwythur nad yw ynghlwm—

(a)sydd yn bodloni’r maen prawf yn is-adran (1)(a), a

(b)a fyddai’n bodloni’r maen prawf yn is-adran (1)(b), oni bai na all y rhan rannu’r strwythur am y rheswm bod y rhan yn ffurfio lled cyfan y strwythur,

mae’r rhan yn rhan annibynnol.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, mewn amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, fod rhan o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn rhan annibynnol, er nad yw’r rhan yn bodloni’r meini prawf ar gyfer bod yn rhan annibynnol (fel y nodir yn yr adran hon).

(7)Yn yr adran hon, ystyr “mynediad” yw drws, porth bwaog neu agoriad tebyg ond nid yw’n cynnwys drws, porth bwaog nac agoriad tebyg a fwriedir at ddefnydd eithriadol (gan gynnwys defnydd brys) neu ei ddefnyddio at ddibenion cynnal a chadw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

5Ystyr “uned breswyl”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyr “uned breswyl” at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Mae uned breswyl yn—

(a)annedd;

(b)tŷ amlfeddiannaeth (ond gweler is-adran (3));

(c)uned llety byw nad yw’n annedd neu’n dŷ amlfeddiannaeth, ac nad yw wedi ei chynnwys mewn annedd neu dŷ amlfeddiannaeth.

(3)Pan fo tŷ amlfeddiannaeth sy’n bodloni’r prawf adeilad a droswyd yn adran 254 o Ddeddf 2004 yn cynnwys—

(a)un neu ragor o fflatiau hunan-gynhwysol (o fewn yr ystyr a roddir i “self-contained flat” gan yr adran honno), a

(b)un neu ragor o unedau llety byw eraill,

mae pob fflat hunan-gynhwysol yn uned breswyl ar wahân ac mae’r llety byw arall yn un uned breswyl.

(4)Yn yr adran hon—

(a)mae i “tŷ amlfeddiannaeth” yr ystyr a roddir i “house in multiple occupation” gan adrannau 254 i 259 o Ddeddf 2004, fel y mae’r adrannau hynny’n cael effaith at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf honno (hynny yw, heb y gwaharddiadau a gynhwysir yn Atodlen 14 i’r Ddeddf honno), ond nid yw’n cynnwys bloc fflatiau a droswyd y mae adran 257 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(b)mae cyfeiriadau at dŷ amlfeddiannaeth yn cynnwys llety tŷ amlfeddiannaeth heb ei feddiannu (o fewn yr ystyr a roddir i “unoccupied HMO accommodation” gan adran 1(5) o Ddeddf 2004).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach at ddibenion yr adran hon.

(6)Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)darparu nad yw ystyr uned breswyl yn cynnwys adeilad, neu ran o adeilad, o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (pa un ai drwy gyfeirio at sut y caiff ei defnyddio neu y bwriedir ei defnyddio, neu unrhyw fater arall);

(b)gwneud darpariaeth ynghylch ystyr “uned llety byw”;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae unedau preswyl i’w cyfrif (a gaiff gynnwys darpariaeth, mewn amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau—

(i)bod nifer penodol o anheddau, tai amlfeddiannaeth neu unedau llety byw i’w cyfrif fel nifer gwahanol o unedau preswyl;

(ii)bod is-adran (3) i fod yn gymwys yn ddarostyngedig i eithriadau neu addasiadau).

(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (5), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob awdurdod diogelwch adeiladau,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(8)Yn yr adran hon—

  • ystyr “annedd”(“dwelling”) yw adeilad, neu ran o adeilad, a feddiennir fel annedd ar wahân, neu y bwriedir ei feddiannu neu ei meddiannu fel annedd ar wahân;

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Tai 2004 (p. 34).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

6Categorïau o adeilad rheoleiddiedigLL+C

(1)Rhennir adeiladau rheoleiddiedig yn 3 chategori at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Mae adeilad rheoleiddiedig yn adeilad categori 1—

(a)os yw o leiaf 18 o fetrau o uchder, neu

(b)bod iddo o leiaf 7 llawr.

(3)Mae adeilad rheoleiddiedig yn adeilad categori 2—

(a)os yw’n llai na 18 o fetrau o uchder a bod iddo lai na 7 llawr, a

(b)os yw o leiaf 11 o fetrau o uchder neu bod iddo o leiaf 5 llawr.

(4)Mae adeilad rheoleiddiedig yn adeilad categori 3—

(a)os yw’n llai na 11 o fetrau o uchder, a

(b)os oes iddo lai na 5 llawr.

(5)At ddibenion yr adran hon—

(a)mae llawr mesanîn i’w ystyried fel llawr os yw ei arwynebedd llawr mewnol yn o leiaf hanner arwynebedd llawr mewnol y llawr mwyaf yn yr adeilad nad yw o dan lefel y ddaear;

(b)mae llawr o dan lefel y ddaear os yw’r cyfan o arwyneb gorffenedig nenfwd y llawr o dan lefel y ddaear;

(c)ystyr “lefel y ddaear” yw—

(i)pan fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad;

(ii)pan nad yw lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel y rhan isaf o arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach at ddibenion yr adran hon.

(7)Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch sut y penderfynir ar uchder adeilad neu nifer lloriau adeilad rheoleiddiedig, a chaiff gynnwys ei gwneud yn ofynnol cymryd i ystyriaeth rannau o strwythur neu set o strwythurau y mae’r adeilad yn ffurfio rhan ohono neu ohoni;‍

(b)darparu bod adeilad rheoleiddiedig o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau a fyddai fel arall yn dod o fewn categori a nodir yn yr adran hon yn dod o dan gategori gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

7Cynnwys ardaloedd atodol mewn cyfeiriadau at adeiladau rheoleiddiedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr cyfeiriadau yng ngweddill darpariaethau’r Ddeddf hon at adeilad rheoleiddiedig (gan gynnwys cyfeiriadau at adeilad categori 1, adeilad categori 2 neu adeilad categori 3).

(2)Mae cyfeiriad o’r fath yn gyfeiriad at yr adeilad ynghyd ag unrhyw ystafell, tŷ allan, garej, maes parcio, iard, gardd neu ardal arall (“ardal atodol”) a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr yr adeilad.

(3)At ddibenion is-adran (2) darperir ardal atodol at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr adeilad—

(a)pa un ai y caiff ei ddefnyddio gan bersonau eraill,‍ y caiff personau eraill fudd ohono neu y caiff personau eraill fwynhad ohono ai peidio;

(b)pa un ai y’i darperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad unigryw breswylwyr uned neu unedau preswyl penodol yn yr adeilad ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

Personau atebol, prif bersonau atebol a rhannau cyffredinLL+C

8Ystyr “person atebol”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyr “person atebol” ar gyfer adeilad rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Person atebol ar gyfer adeilad yw—

(a)person sy’n dal ystad gyfreithiol mewn meddiant yn rhannau cyffredin yr adeilad neu unrhyw ran ohonynt, oni bai bod is-adran (3) yn gymwys, neu

(b)person nad yw’n dal ystad gyfreithiol mewn unrhyw ran o’r adeilad ond sydd o dan rwymedigaeth atgyweirio berthnasol mewn perthynas â rhannau cyffredin yr adeilad neu unrhyw ran ohonynt.

Mae’r is-adran hon yn ddarostyngedig i is-adran (6) (rheol arbennig ar gyfer tir cyfunddaliad).

(3)Nid yw person (“perchennog ystad”) sy’n dal ystad gyfreithiol mewn meddiant yn rhannau cyffredin adeilad neu unrhyw ran ohonynt (“y rhannau cyffredin perthnasol”) yn berson atebol ar gyfer yr adeilad yn rhinwedd is-adran (2)(a) os—

(a)yw pob les hir y mae’r perchennog ystad yn landlord oddi tano yn darparu bod person penodol, nad yw’n dal ystad gyfreithiol mewn unrhyw ran o’r adeilad, o dan rwymedigaeth atgyweirio berthnasol mewn perthynas â’r holl rannau cyffredin perthnasol, neu

(b)yw’r holl rwymedigaethau atgyweirio sy’n ymwneud â’r rhannau cyffredin perthnasol a fyddai fel arall yn rhwymedigaethau’r perchennog ystad yn swyddogaethau cwmni RTM.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os—

(a)yw tenant o dan les yn dal ystad gyfreithiol mewn meddiant yn rhannau cyffredin adeilad neu unrhyw ran ohonynt (“y rhannau cyffredin perthnasol”), a

(b)yw landlord o dan y les o dan rwymedigaeth atgyweirio berthnasol mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r rhannau cyffredin perthnasol.

(5)At ddibenion yr adran hon ac adran 9 (ystyr “prif berson atebol”)—

(a)mae’r ystad gyfreithiol mewn meddiant mewn hynny o’r rhannau cyffredin perthnasol ag sydd o fewn is-adran (4)(b) i’w thrin fel pe bai’n cael ei dal gan y landlord (yn hytrach na’r tenant), a

(b)os (ac i’r graddau) y delir ystad gyfreithiol wirioneddol y landlord yn y rhannau cyffredin hynny o dan les, mae’r ystad gyfreithiol mewn meddiant a grybwyllir ym mharagraff (a) i’w thrin fel pe bai’n cael ei dal o dan y les honno (ac, yn unol â hynny, caiff is-adran (4) a’r is-adran hon fod yn gymwys mewn perthynas â hi).

(6)Os yw adeilad ar dir cyfunddaliad, y gymdeithas gyfunddaliad yw’r person atebol ar gyfer yr adeilad.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

9Ystyr “prif berson atebol”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyr “prif berson atebol” ar gyfer adeilad rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Y “prif berson atebol” ar gyfer adeilad ag iddo un person atebol yw’r person atebol hwnnw.

(3)Y “prif berson atebol” ar gyfer adeilad ac iddo fwy nag un person atebol yw’r person atebol sydd—

(a)yn dal ystad gyfreithiol mewn meddiant yn strwythur allanol yr adeilad, neu

(b)o fewn adran 8(2)(b) oherwydd rhwymedigaeth atgyweirio berthnasol mewn perthynas â strwythur allanol yr adeilad.

(4)Yn is-adran (3) (ac adran 10(1)(b)), ystyr “strwythur allanol” adeilad yw ei sylfeini, ei waliau allanol a’i do, ac eithrio—

(a)unrhyw ran o’r sylfeini, y waliau allanol neu’r to sydd wedi ei chynnwys mewn demeis uned breswyl (gan gynnwys rhan o’r adeilad a fyddai’n uned breswyl oni bai am reoliadau a wneir o dan adran 5(6)(a));

(b)sylfeini, waliau allanol neu do unrhyw ran o’r adeilad sydd i’w meddiannu at ddibenion busnes neu ymgymeriad (pa un ai er elw ai peidio).

(5)Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i adrannau 10 a 11 (penderfyniad gan awdurdod diogelwch adeiladau neu dribiwnlys eiddo preswyl).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

Rhagolygol

10Prif berson atebol: penderfyniad gan awdurdod diogelwch adeiladauLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os—

(a)oes gan adeilad rheoleiddiedig fwy nag un person atebol sy’n dod o fewn adran 9(3), a

(b)yw personau atebol gwahanol yn dod o fewn adran 9(3) mewn cysylltiad â rhannau gwahanol o’r strwythur allanol.

(2)Caiff y personau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) wneud cais ar y cyd i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad am benderfyniad ynghylch pa un o’r personau yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae rhaid gwneud cais o dan is-adran (2);

(b)ffurf a chynnwys cais;

(c)y dogfennau (os oes rhai) y mae rhaid eu cynnwys gyda chais;

(d)pryd y caniateir gwneud cais;

(e)tynnu ceisiadau yn ôl;

(f)penderfynu ar geisiadau (gan gynnwys amgylchiadau pan gaiff awdurdod benderfynu peidio â gwneud penderfyniad).

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os, o ran yr adeilad rheoleiddiedig, yw cais i dribiwnlys eiddo preswyl o dan adran 11(1)(b)—

(a)wedi ei benderfynu’n derfynol, neu

(b)wedi ei wneud ond heb ei benderfynu’n derfynol na’i dynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

11Penderfyniadau gan dribiwnlys eiddo preswylLL+C

(1)Caiff person a chanddo fuddiant wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am benderfyniad, o ran adeilad rheoleiddiedig, o unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn—

(a)y person neu’r personau sy’n bersonau atebol ar gyfer yr adeilad;

(b)y person sy’n brif berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(c)y rhan o’r adeilad y mae unrhyw berson atebol ar gyfer yr adeilad yn gyfrifol amdani (gweler adran 16).

(2)Os, ar gais o dan is-adran (1)(b), yw’n ymddangos i’r tribiwnlys fod mwy nag un person atebol o fewn adran 9(3), y prif berson atebol yw unrhyw un o’r personau atebol hynny y mae’r tribiwnlys yn ei ystyried yn briodol.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “person a chanddo fuddiant” yw—

(a)awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad,

(b)person sy’n dal ystad gyfreithiol yn rhannau cyffredin yr adeilad neu unrhyw ran ohonynt (neu sy’n honni ei fod yn dal ystad o’r fath), neu

(c)person sydd o dan rwymedigaeth atgyweirio berthnasol mewn perthynas â rhannau cyffredin yr adeilad neu unrhyw ran ohonynt (neu sy’n honni ei fod o dan rwymedigaeth o’r fath).

(4)Caniateir i unrhyw berson wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am benderfyniad, o ran adeilad rheoleiddiedig—

(a)nad yw’r person yn berson atebol ar gyfer yr adeilad, neu

(b)nad yw’r person yn brif berson atebol ar gyfer yr adeilad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

12Cymhwyso adrannau 9 ac 11 mewn achosion o gydberchnogaeth etc.LL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo, mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig—

(a)dau neu ragor o bersonau yn dod o fewn adran 8(2)(a) oherwydd eu bod yn dal ar y cyd ystad gyfreithiol mewn meddiant yn yr un rhan o rannau cyffredin yr adeilad (neu yn yr holl rannau cyffredin);

(b)dau neu ragor o bersonau yn dod o fewn adran 8(2)(b) oherwydd—

(i)eu bod yn ddarostyngedig ar y cyd i ofyniad o dan les i atgyweirio neu gynnal a chadw yr un rhan o rannau cyffredin yr adeilad (neu’r holl rannau cyffredin), neu

(ii)eu bod yn ddarostyngedig ar y cyd i ofyniad yn rhinwedd deddfiad i atgyweirio neu gynnal a chadw yr un rhan o rannau cyffredin yr adeilad (neu’r holl rannau cyffredin).

(2)Mae personau sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) neu (1)(b)(i) neu (1)(b)(ii) i’w trin fel un person atebol at ddibenion—

(a)adran 9(2) a (3) (ystyr prif berson atebol);

(b)penderfyniad o dan adran 11(1)(c) (rhan o’r adeilad y mae unrhyw berson atebol yn gyfrifol amdani).

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

13Ystyr “rhannau cyffredin”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyr “rhannau cyffredin” mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “rhannau cyffredin” yw—

(a)strwythur a thu allan yr adeilad ac eithrio—

(i)unrhyw ran o’r strwythur a thu allan sydd wedi eu cynnwys mewn demeis uned breswyl (gan gynnwys rhan o’r adeilad a fyddai’n uned breswyl oni bai am reoliadau a wneir o dan adran 5(6)(a));

(ii)strwythur a thu allan unrhyw ran o’r adeilad sydd i’w feddiannu at ddibenion busnes neu ymgymeriad (pa un ai er elw ai peidio);

(b)unrhyw ran arall o’r adeilad—

(i)nad yw’n rhan o strwythur a thu allan i’r adeilad, a

(ii)sy’n cael ei ‍darparu at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr mwy nag un uned breswyl (pa un‍ ai y caiff ei defnyddio gan bersonau eraill, y caiff personau eraill fudd ohoni neu y caiff personau eraill fwynhad ohoni ai peidio).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod, o dan amgylchiadau penodedig, ran o strwythur a thu allan i adeilad yn ffurfio rhan o rannau cyffredin yr adeilad er ei bod yn dod o fewn is-adran (2)(a)(i).

(4)Yn yr adran hon, mae “strwythur a thu allan” adeilad yn cynnwys—

(a)sylfeini, waliau allanol, cladin a tho,

(b)waliau mewnol (pa un ai a ydynt yn cynnal pwysau ai peidio), lloriau a nenfydau,

(c)grisiau, rhodfeydd a siafftiau lifft,

(d)ffenestri, drysau a balconïau, ac

(e)unrhyw beth arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(b)

14Diffiniadau eraillLL+C

(1)Yn y Bennod hon—

  • mae i “cwmni RTM” yr un ystyr ag a roddir i “RTM company” ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2002 (hawl i reoli);

  • mae i “cymdeithas cyfunddaliad” yr ystyr a roddir i “commonhold association” gan adran 34 o Ddeddf 2002;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15);

  • ystyr “les hir” (“long lease”) yw—

    (a)

    les a roddir am gyfnod penodol o fwy na 21 o flynyddoedd o’r dyddiad y rhoddir y les, pa un ai ei bod (neu a all ddod) yn derfynadwy ai peidio cyn diwedd y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir gan y tenant neu drwy ailfynediad neu fforffediad, neu

    (b)

    les am gyfnod sydd wedi ei bennu gan y gyfraith‍ oherwydd cyfamod neu rwymedigaeth i’w hadnewyddu’n barhaus, ac eithrio les drwy is-les o dan un nad yw’n les hir;

  • ystyr “rhwymedigaeth atgyweirio berthnasol” (“relevant repairing obligation”) mewn perthynas â rhan o adeilad rheoleiddiedig yw gofyniad, o dan les neu yn rhinwedd deddfiad, i atgyweirio neu gynnal a chadw y rhan honno;

  • mae i “tir cyfunddaliad” yr ystyr a roddir i “commonhold land” gan adran 1 o Ddeddf 2002.

(2)Yn y Bennod hon, nid yw cyfeiriadau at berson sy’n dal ystad gyfreithiol mewn meddiant yn cynnwys person sy’n cael rhenti ac elw neu berson a chanddo’r hawl i gael rhenti ac elw.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(b)

15Pŵer i wneud darpariaeth bellach at ddibenion adrannau 8 a‍ 9LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach at ddibenion adrannau 8‍ a 9.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ystyr “person atebol” ar gyfer adeilad rheoleiddiedig—

(i)nad yw ar dir cyfunddaliad, a

(ii)nad oes iddo rannau cyffredin, neu nad oes iddo rannau cyffredin o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau;

(b)ystyr “prif berson atebol” ar gyfer adeilad rheoleiddiedig—

(i)nad oes iddo rannau cyffredin, neu rannau cyffredin o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, neu

(ii)nad oes unrhyw berson atebol yn dod o fewn adran 9(3) ar gyfer yr adeilad.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(b)

Cyfrifoldeb personau atebol ar gyfer rhannau o adeiladau rheoleiddiedigLL+C

16Rhan o adeilad rheoleiddiedig y mae person atebol yn gyfrifol amdaniLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, mae i gyfeiriadau at y rhan o adeilad rheoleiddiedig y mae person atebol yn gyfrifol amdani yr ystyr a roddir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu mai’r rhan o adeilad rheoleiddiedig y mae person atebol yn gyfrifol amdani yw’r adeilad cyfan.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(b)

CyffredinolLL+C

17Pwerau i ddiwygio’r Bennod honLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygi‍o‍—

(a)adran 2 i ddarparu bod, mewn amgylchiadau penodol, adeilad sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru yn adeilad rheoleiddiedig, er bod yr adeilad yn cynnwys ond un uned breswyl;

(b)Atodlen 1 i ychwanegu, dileu neu ddiwygio disgrifiad o adeilad;

(c)adran 3 i ddarparu bod ystyr “adeilad” yn cynnwys strwythurau neu godiadau eraill (dros dro neu barhaol), neu rannau ohonynt, naill ai’n gyffredinol neu mewn amgylchiadau penodol;

(d)adran 4;

(e)adran 6 i‍—

(i)ychwanegu, dileu neu ddiwygio categori adeilad;

(ii)diwygio ystyr “llawr”;

(f)adran 7;

(g)adran 8;

(h)adran 9;

(i)adran 13;

(j)adran 14.

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 17 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(b)

Rhagolygol

PENNOD 3LL+CCOFRESTRU ADEILADAU CATEGORI 1 AC ADEILADAU CATEGORI 2

CofrestrauLL+C

18Cofrestrau o adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2LL+C

(1)Rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau gadw cofrestr o adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2 y mae’n awdurdod diogelwch adeiladau ar eu cyfer.

(2)Rhaid i gofnod ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 mewn cofrestr gynnwys—

(a)cyfeiriad yr adeilad;

(b)categori yr adeilad o dan adran 6;

(c)uchder yr adeilad at ddibenion yr adran honno;

(d)nifer y lloriau yn yr adeilad at ddibenion yr adran honno;

(e)enw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad (gweler adran 9);

(f)cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig lle caiff‍ awdurdod gorfodi roi hysbysiadau a dogfennau eraill i’r prif berson atebol o dan y Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani;

(g)rhif ffôn (os oes un) a chyfeiriad e-bost (os oes un) y prif berson atebol;

(h)unrhyw wybodaeth arall, ac unrhyw ddogfennau, a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi gan awdurdod diogelwch adeiladau ei gofrestr neu wybodaeth neu ddogfennau sydd wedi eu cynnwys yn ei gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Gofyniad i gofrestru a’r weithdrefn gofrestruLL+C

19Gofyniad i gofrestru adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2LL+C

(1)Mae’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 yn cyflawni trosedd os yw’r adeilad wedi ei feddiannu ond heb ei gofrestru.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(3)Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (1) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r adeilad yn parhau i gael ei feddiannu ond heb ei gofrestru ar ôl yr euogfarn.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r adeilad yn parhau i gael ei feddiannu ond heb ei gofrestru.

(5)Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan yr adran hon brofi bod gan y person esgus rhesymol‍ dros y ffaith bod yr adeilad wedi ei feddiannu ond heb ei gofrestru.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

20Gweithdrefn gofrestruLL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 gofrestru’r adeilad os yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad wedi—

(a)gwneud cais i gofrestru’r adeilad sy’n cydymffurfio â rheoliadau a wneir o dan is-adran (3), a

(b)talu’r ffi (os oes un) sy’n ofynnol gan reoliadau a wneir o dan adran 125.

(2)Ni chaiff yr awdurdod diogelwch adeiladau gofrestru’r adeilad os nad yw’r prif berson atebol wedi talu’r ffi (os oes un) sy’n ofynnol gan reoliadau a wneir o dan adran 125.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae rhaid gwneud cais i gofrestru’r adeilad;

(b)ffurf a chynnwys cais‍.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth ynghylch y dogfennau (os oes rhai) y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.

(5)Os yw’r awdurdod diogelwch adeiladau yn cofrestru’r adeilad, rhaid iddo roi hysbysiad i’r prif berson atebol sy’n cadarnhau bod yr adeilad wedi ei gofrestru.

(6)Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—

(a)dyddiad y cofrestriad,

(b)y rhif cofrestru a roddir i’r adeilad,

(c)categori yr adeilad (gweler adran 6) a gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64, a

(d)gwybodaeth am sut y caiff y prif berson atebol gopi o’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer yr adeilad.

(7)Os nad yw’r awdurdod diogelwch adeiladau yn cofrestru’r adeilad, rhaid iddo roi hysbysiad i’r prif berson atebol sy’n cadarnhau nad yw’r adeilad wedi ei gofrestru.

(8)Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—

(a)y rhesymau pam nad yw’r adeilad wedi ei gofrestru, a

(b)gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.

(9)Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau roi hysbysiad o dan is-adran (5) neu (7) cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y daw’r cais i gofrestru i law’r awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Hysbysu am newidiadau a diwygiadau i gofrestrLL+C

21Dyletswydd i hysbysu am newidiadauLL+C

(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 cofrestredig neu adeilad categori 2 cofrestredig hysbysu’n ysgrifenedig awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad am—

(a)newid i unrhyw wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o dan adran 18(2)(a) ac (c) i (g);

(b)unrhyw newid arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru,

cyn diwedd 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae’r prif berson atebol yn gwybod, neu y dylai’n rhesymol wybod, am y newid.

(2)Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag is-adran (1) heb esgus rhesymol yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(4)Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (2) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r person yn parhau i fethu â chydymffurfio ag is-adran (1) ar ôl yr euogfarn.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

22Diwygio cofrestr yn dilyn hysbysiad am newidLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 cofrestredig neu adeilad categori 2 cofrestredig yn hysbysu awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad am newid o dan adran 21(1).

(2)Rhaid i’r awdurdod benderfynu a ddylid diwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn ei gofrestr.

(3)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad i’r prif berson atebol o’i benderfyniad cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod yr hysbysir yr awdurdod am y newid o dan adran 21(1).

(4)Os yw’r awdurdod yn penderfynu diwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y gofrestr, rhaid i’r hysbysiad nodi’r diwygiad a wnaed.

(5)Os yw’r awdurdod yn penderfynu peidio â diwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y gofrestr, rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

23Diwygio cofrestr heb hysbysiadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod diogelwch adeiladau yn dod yn ymwybodol, ac eithrio drwy gael hysbysiad o dan adran 21(1), fod gwybodaeth neu ddogfen sydd wedi eu cynnwys mewn cofnod ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 yn ei gofrestr yn anghywir.

(2)Rhaid i’r awdurdod benderfynu a ddylid diwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y gofrestr.

(3)Os yw’r awdurdod yn penderfynu diwygio’r cofnod, rhaid iddo roi hysbysiad i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad o’i benderfyniad cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y daw’n ymwybodol o’r anghywirdeb.

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi’r diwygiad a wnaed,

(b)cynnwys y dyddiad y mae’r diwygiad yn cymryd effaith, ac

(c)cynnwys gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.

(5)Ni all y penderfyniad i ddiwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y gofrestr gymryd effaith ar unrhyw adeg pan—

(a)gellid gofyn am adolygiad o’r penderfyniad o dan adran 64 (oni bai bod y prif berson atebol wedi hysbysu’r awdurdod nad yw’r person yn bwriadu gofyn am adolygiad),

(b)gofynnwyd am adolygiad ond nid yw wedi ei gwblhau ac nad yw’r cais wedi ei dynnu’n ôl,

(c)gellid apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl o dan adran 65 (oni bai bod y prif berson atebol wedi hysbysu’r awdurdod nad yw’r person yn bwriadu apelio), neu

(d)‍bo apêl wedi ei gwneud ond heb ei phenderfynu’n derfynol na’i thynnu’n ôl.

(6)Os yw is-adran (5) yn peidio ag atal penderfyniad i ddiwygio’r cofnod yn y gofrestr rhag cymryd effaith ar adeg pan fo’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (4)(b) eisoes wedi mynd heibio, rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau benderfynu ar ddyddiad yn y dyfodol y bydd y diwygiad yn cymryd effaith arno (oni bai bod dyddiad o’r fath wedi ei benderfynu ar adolygiad neu apêl).

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Declarasiwn ynghylch cywirdeb gwybodaeth a dogfennau yn y gofrestrLL+C

24Dyletswydd i roi declarasiwn ynghylch cywirdeb gwybodaeth a dogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y gofrestrLL+C

(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 cofrestredig neu adeilad categori 2 cofrestredig, o fewn y cyfnod cadarnhau, roi i awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad ddeclarasiwn perthnasol.

(2)Mae “declarasiwn perthnasol” yn ddeclarasiwn ynghylch cywirdeb yr wybodaeth a’r dogfennau a gynhwysir yn y cofnod ar gyfer yr adeilad yng nghofrestr yr awdurdod sy’n cydymffurfio â rheoliadau a wneir o dan is-adran (3).

(3)Rhaid i Weinidogio‍n Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys declarasiwn perthnasol;

(b)sut y mae rhaid rhoi declarasiwn perthnasol.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod diogelwch adeiladau wedi rhoi hysbysiad i’r prif berson atebol o benderfyniad i ddileu’r adeilad o’r gofrestr o dan adran 26(6), a

(b)naill ai—

(i)nad yw’r dyddiad y mae’r penderfyniad hwnnw yn cymryd effaith wedi ei gyrraedd eto, neu

(ii)nad yw’r penderfyniad wedi cymryd effaith eto yn rhinwedd adran 26(9) (atal dros dro wrth aros am adolygiad neu apêl).

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys os yw adran 26(9) yn peidio â bod yn gymwys yn rhinwedd bod y penderfyniad i ddileu’r adeilad o’r gofrestr yn cael ei ganslo neu ei ddiddymu—

(a)yn ystod yr 14 o ddiwrnodau olaf y cyfnod cadarnhau, neu

(b)ar ôl diwedd y cyfnod cadarnhau.

(6)Rhaid i’r prif berson atebol roi declarasiwn perthnasol i’r awdurdod diogelwch adeiladau cyn diwedd 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y caiff y penderfyniad ei ganslo neu ei ddiddymu.

(7)Cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir y declarasiwn perthnasol, rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau hysbysu’n ysgrifenedig y prif berson atebol ei fod wedi cael y declarasiwn.

(8)Mae prif berson atebol yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu heb esgus rhesymol â rhoi declarasiwn perthnasol i awdurdod diogelwch adeiladau yn unol ag is-adran (1) neu (6) (fel y bo’n gymwys).

(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (8) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(10)Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (8) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r person yn parhau i fethu â rhoi declarasiwn perthnasol i’r awdurdod diogelwch adeiladau.

(11)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (10) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

(12)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod cadarnhau” yw’r 3 mis olaf o—

(a)y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad cofrestru a roddir yn yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 20(5), a

(b)pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Dileu adeilad o gofrestrLL+C

25Cais i ddileu adeilad o gofrestrLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 cofrestredig neu adeilad categori 2 cofrestredig yn credu, neu y dylai’n rhesymol gredu—

(a)nad yw’r adeilad yn adeilad categori 1 nac yn adeilad categori 2, neu

(b)nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu a bydd cyfanswm y cyfnod nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu yn 6 mis o leiaf.

(2)Rhaid i’r prif berson atebol wneud cais i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad i ddileu’r adeilad o’r gofrestr cyn diwedd 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae gan y person, neu y dylai’n rhesymol fod gan y person, y gred honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch ceisiadau o dan is-adran (2) gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae rhaid gwneud cais;

(b)ffurf a chynnwys cais;

(c)unrhyw beth arall y mae rhaid ei gynnwys gyda chais.

(4)Mae person sy’n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag is-adran (2) yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(5)Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (4) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r person yn parhau i fethu â chydymffurfio ag is-adran (2) ar ôl yr euogfarn.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

26Dileu adeilad o gofrestr gan awdurdod diogelwch adeiladauLL+C

(1)Caiff awdurdod diogelwch adeiladau ddileu adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 o’i gofrestr os yw’n fodlon (pa un ai yn unol â chais o dan adran 25(2) neu fel arall)—

(a)nad yw’r adeilad yn adeilad categori 1 nac yn adeilad categori 2, neu

(b)nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu a bydd cyfanswm y cyfnod nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu yn 6 mis o leiaf.

(2)Cyn dileu adeilad o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau roi hysbysiad i’r personau a ganlyn ei fod yn bwriadu gwneud hynny—

(a)y prif berson atebol ar gyfer yr adeilad (oni bai bod yr awdurdod yn bwriadu dileu’r adeilad o’r gofrestr yn unol â chais gan y prif berson atebol o dan adran 25(2)), a

(b)pob person atebol arall ar gyfer yr adeilad (pan fo mwy nag un person atebol ar gyfer yr adeilad).

(3)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) bennu—

(a)y rhesymau dros fwriadu dileu’r adeilad o’r gofrestr,

(b)y cyfnod pryd y caiff pob person y rhoddir yr hysbysiad iddo gyflwyno sylwadau ynghylch yr hyn y mae’r awdurdod yn bwriadu ei wneud (“y cyfnod penodedig”), ac

(c)y ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.

(4)Rhaid i’r cyfnod penodedig fod o leiaf 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(5)Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau roi sylw i unrhyw sylwadau a wneir yn unol â’r hysbysiad a roddir o dan is-adran (2) wrth benderfynu a ddylid dileu’r adeilad o’r gofrestr.

(6)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad o’i benderfyniad i bob person atebol ar gyfer yr adeilad.

(7)Os yw’r awdurdod yn penderfynu dileu’r adeilad o’r gofrestr yn unol â chais gan y prif berson atebol o dan adran 25(2), rhaid i’r hysbysiad o’i benderfyniad gynnwys y dyddiad y mae’r dilead yn cymryd effaith.

(8)Rhaid i unrhyw hysbysiad arall o benderfyniad i ddileu adeilad o’r gofrestr gynnwys—

(a)y dyddiad y mae’r dilead yn cymryd effaith,

(b)y rhesymau dros ddileu’r adeilad o’r gofrestr, ac

(c)gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.

(9)Ni all dileu adeilad o gofrestr o dan yr adran hon gymryd effaith ar unrhyw adeg pan—

(a)gellid gofyn am adolygiad o’r penderfyniad i ddileu’r adeilad o’r gofrestr o dan adran 64 (oni bai bod pob person atebol ar gyfer yr adeilad wedi hysbysu’r awdurdod diogelwch adeiladau nad yw’r person yn bwriadu gofyn am adolygiad),

(b)gofynnwyd am adolygiad ond nid yw wedi ei gwblhau ac nad yw’r cais wedi ei dynnu’n ôl,

(c)gellid apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl o dan adran 65 (oni bai bod pob person atebol ar gyfer yr adeilad wedi hysbysu’r awdurdod nad yw’r person yn bwriadu apelio), neu

(d)‍bo apêl wedi ei gwneud ond heb ei phenderfynu’n derfynol na’i thynnu’n ôl.

(10)Os yw is-adran (9) yn peidio ag atal dilead rhag cymryd effaith ar adeg pan fo’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (8)(a) eisoes wedi mynd heibio, rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau benderfynu ar ddyddiad yn y dyfodol y bydd y dilead yn cymryd effaith arno (oni bai bod dyddiad o’r fath wedi ei benderfynu ar adolygiad neu apêl).

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

PENNOD 4LL+CASESU A RHEOLI RISGIAU DIOGELWCH ADEILAD

Termau allweddolLL+C

27Ystyr “risg diogelwch tân” a “risg diogelwch strwythurol”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyr “risg diogelwch tân” a “risg diogelwch strwythurol” mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig.

(2)Ystyr “risg diogelwch tân” yw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch sy’n deillio o—

(a)achos o dân (pa un ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol) mewn unrhyw ran o’r adeilad, neu

(b)lledaeniad tân o fewn unrhyw ran o’r adeilad, i unrhyw ran ohono neu o unrhyw ran ohono.

(3)Ystyr “risg diogelwch strwythurol” yw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch sy’n deillio o fethiant strwythurol sy’n effeithio ar unrhyw ran o’r adeilad.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

28Ystyr “risg diogelwch adeilad”LL+C

(1)Yn y‍ Rhan hon ystyr “risg diogelwch adeilad” yw—

(a)mewn perthynas ag adeilad categori 1 neu adeilad categori 2, risg diogelwch tân neu risg diogelwch strwythurol;

(b)mewn perthynas ag adeilad categori 3, risg diogelwch tân.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu’r diffiniad o “risg diogelwch adeilad” i gynnwys risg a bennir yn y rheoliadau.

(3)Y risgiau y caiff eu pennu yn y rheoliadau yw—

(a)mewn perthynas ag adeilad categori 1 neu adeilad categori 2, unrhyw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch sy’n deillio o unrhyw fater (ac eithrio tân a methiant strwythurol) sy’n effeithio ar unrhyw ran o’r adeilad;

(b)mewn perthynas ag adeilad categori 3—

(i)risg diogelwch strwythurol;

(ii)unrhyw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch sy’n deillio o unrhyw fater (ac eithrio tân a methiant strwythurol) sy’n effeithio ar unrhyw ran o’r adeilad.

(4)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)asesu’r risgiau a bennir yn y rheoliadau pan fo adeilad y mae’r rheoliadau yn gymwys iddo wedi ei feddiannu, a

(b)cymryd camau i atal y risgiau hynny rhag cael eu gwireddu a lleihau difrifoldeb y digwyddiadau sy’n deillio o wireddiad y risgiau hynny.

(5)Caiff y rheoliadau—

(a)darparu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani sy’n gymwys mewn perthynas â risg diogelwch tân neu risg diogelwch strwythurol i fod yn gymwys (gydag addasiadau neu hebddynt) mewn perthynas â risg a bennir yn y rheoliadau, neu

(b)gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth o’r fath (gydag addasiadau neu hebddynt) mewn perthynas â risg a bennir yn y rheoliadau.

(6)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud gan y rheoliadau yn cynnwys—

(a)darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau ar unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));

(b)darpariaeth sy’n diwygio’r Ddeddf hon.

(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Risgiau diogelwch tân mewn adeiladau rheoleiddiedigLL+C

29Asesiad o risgiau diogelwch tân: dyletswyddau prif berson atebolLL+C

(1)Pan fo adeilad rheoleiddiedig wedi ei feddiannu, rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad sicrhau bod y risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud â rhannau perthnasol yr adeilad yn cael eu hasesu yn unol â’r adran hon ac adrannau 30 i 32 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny.

(2)“Rhannau perthnasol” yr adeilad yw pob rhan o’r adeilad y mae unrhyw berson atebol yn gyfrifol amdani (gweler adran 16).

(3)Cyfeirir at asesiad o dan is-adran (1) yn y Ddeddf hon fel “asesiad risg tân”.

(4)Rhaid i asesiad risg tân fod yn addas ac yn ddigonol i alluogi pob person atebol ar gyfer yr adeilad (ac unrhyw berson arall sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36) i gydymffurfio ag adran 33 (rheoli risgiau diogelwch tân).

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

30Gofyniad i asesiad risg tân gael ei wneud gan berson cymwysLL+C

(1)Rhaid i asesiad risg tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig gael ei wneud gan berson cymwys.

(2)Ystyr “person cymwys” yw unigolyn neu gorff sy’n meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol i asesu’r risgiau diogelwch tân mewn perthynas â’r rhannau perthnasol o’r adeilad (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 29(2)).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu gofynion y mae rhaid i unigolyn neu gorff eu bodloni er mwyn ystyried eu bod yn meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol at y diben hwnnw (gan gynnwys gofynion ar gyfer cymwysterau penodol neu ar gyfer achrediad gan sefydliad penodol, neu aelodaeth o sefydliad o’r fath).

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob awdurdod diogelwch tân, a

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Os gwneir asesiad risg tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig gan berson nad yw’n berson cymwys—

(a)mae’r person sy’n gwneud yr asesiad yn cyflawni trosedd, a

(b)mae’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad yn cyflawni trosedd os oedd y prif berson atebol yn gwybod, neu y dylai’n rhesymol fod wedi gwybod, nad oedd y person sy’n gwneud yr asesiad yn berson cymwys.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(7)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person yn cynnig gwneud asesiad risg tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, a

(b)os nad yw’r person yn berson cymwys.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

31Amseru ac adolygu asesiadau risg tânLL+C

(1)Rhaid gwneud yr asesiad risg tân cyntaf ar gyfer adeilad rheoleiddiedig heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y diweddaraf o’r hyn a ganlyn—

(a)y diwrnod y caiff yr adeilad ei feddiannu;

(b)y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r adran hon i amrywio’r cyfnod ar gyfer gwneud yr asesiad risg tân cyntaf ar gyfer adeilad rheoleiddiedig.

(3)Rhaid gwneud asesiadau risg tân pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn ddigwydd—

(a)bod gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â’r adeilad, neu bod newidiadau i feddiannaeth neu ddefnydd unrhyw ran o’r adeilad, y mae caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn ofynnol ar eu cyfer;

(b)bod gwaith yn cael ei wneud‍ am y tro cyntaf mewn perthynas â’r adeilad i addasu unrhyw ran ohono i ddiwallu anghenion preswylwyr anabl (ac eithrio gwaith a wneir y tu mewn i uned breswyl heb yn wybod i’r prif berson atebol);

(c)bod tân yn achosi difrod i unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad neu i ddwy uned breswyl neu ragor yn yr adeilad;

(d)bod canfyddiadau adolygiad o dan is-adran (6) yn awgrymu nad yw’r asesiad risg tân cyfredol ar gyfer yr adeilad yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben a grybwyllir yn adran 29(4);

(e)bod gan y prif berson atebol ar gyfer yr adeilad unrhyw reswm arall dros amau nad yw’r asesiad cyfredol yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben hwnnw.

(4)Ond os bydd unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3) yn digwydd ar adeg pan nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu, rhaid gwneud asesiad risg tân pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adeilad gael ei feddiannu eto.

(5)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad sicrhau, os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan awdurdod diogelwch tân yr adeilad, fod asesiad risg tân pellach yn cael ei wneud o fewn cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(6)Rhaid i’r prif berson atebol sicrhau bod yr asesiad risg tân cyfredol ar gyfer yr adeilad yn cael ei adolygu, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas ac yn ddigonol, o leiaf unwaith ym mhob 12 mis ar ôl i’r asesiad gael ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

32Darpariaeth bellach am asesiadau risg tânLL+C

(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig sicrhau—

(a)y cofnodir yn ysgrifenedig ganfyddiadau pob asesiad risg tân ac adolygiad sy’n ymwneud â’r adeilad, a

(b)y rhoddir copi o bob asesiad i—

(i)pob person atebol arall ar gyfer yr adeilad (pan fo mwy nag un person atebol), a

(ii)unrhyw berson arall sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo’r cyfnodau ar gyfer gwneud ac adolygu asesiadau risg tân pan fo bwlch ym meddiannaeth adeilad rheoleiddiedig;

(b)pennu materion y mae rhaid eu hystyried fel rhan o asesiad neu adolygiad;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch y fethodoleg y mae rhaid ei defnyddio wrth wneud neu adolygu asesiad;

(d)pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod ysgrifenedig asesiad neu adolygiad.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

33Rheoli risgiau diogelwch tân gan bersonau atebolLL+C

(1)Pan fo adeilad rheoleiddiedig wedi ei feddiannu, rhaid i bob person atebol ar gyfer yr adeilad gymryd pob cam rhesymol i—

(a)atal risg diogelwch tân rhag cael ei gwireddu mewn perthynas â’r rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani, a

(b)lleihau difrifoldeb unrhyw ddigwyddiad sy’n deillio o wireddiad risg o’r fath mewn perthynas â’r rhan honno.

(2)Rhaid i’r camau y mae person atebol yn eu cymryd, yn benodol, gynnwys pob cam rhesymol i—

(a)lleihau’r tebygolrwydd y bydd tân yn cychwyn (pa un ai yn ddamweiniol neu’n fwriadol) yn y rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani;

(b)lleihau’r tebygolrwydd y bydd unrhyw dân sy’n cychwyn yn y rhan honno o’r adeilad neu’n agos iddi yn lledaenu yn y rhan honno, i’r rhan honno neu o’r rhan honno;

(c)sicrhau bod pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch y mae eu diogelwch mewn perygl oherwydd tân yn y rhan honno o’r adeilad yn gallu dianc yn gyflym ac yn ddiogel;

(d)sicrhau y gellir ymladd unrhyw dân yn y rhan honno o’r adeilad yn brydlon ac yn effeithiol.

(3)Caiff y camau y mae person atebol yn eu cymryd o dan yr adran hon gynnwys gwneud gwaith i’r rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani.

(4)Wrth benderfynu ar y camau sydd i’w cymryd o dan yr adran hon, rhaid i berson atebol roi sylw penodol i’r asesiad risg tân cyfredol ar gyfer yr adeilad.

(5)Rhaid cymryd camau sy’n ofynnol gan yr adran hon yn brydlon.

(6)Rhaid i berson atebol—

(a)gwneud trefniadau i sicrhau y caiff y camau a gymerir gan y person o dan yr adran hon eu cynllunio, eu trefnu, eu rheoli, eu monitro a’u hadolygu’n effeithiol, a

(b)rhoi effaith i’r trefniadau hynny.

(7)Rhaid i berson atebol sicrhau y caiff cofnod ysgrifenedig ei wneud o—

(a)trefniadau y mae’r person yn eu gwneud o dan yr adran hon, a

(b)camau y mae’r person yn eu cymryd o dan yr adran hon.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn sy’n gamau rhesymol at ddibenion yr adran hon;

(b)pennu materion y mae rhaid i berson atebol roi sylw iddynt, neu egwyddorion y mae rhaid i berson atebol weithredu yn unol â hwy, wrth benderfynu ar y camau i’w cymryd o dan yr adran hon neu wrth gymryd y camau;

(c)pennu gofynion y mae rhaid i drefniadau o dan yr adran hon gydymffurfio â hwy;

(d)pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cofnod ysgrifenedig o’r trefniadau a wnaed, neu gamau a gymerir, o dan yr adran hon.

(9)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (8), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(10)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol at ddibenion yr adran hon yn rhinwedd adran 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Risgiau diogelwch strwythurol mewn adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2LL+C

34Asesu risgiau diogelwch strwythurol: dyletswyddau personau atebolLL+C

(1)Pan fo adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 wedi ei feddiannu, rhaid i bob person atebol ar gyfer yr adeilad sicrhau bod y risgiau diogelwch strwythurol sy’n ymwneud â’r rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani yn cael eu hasesu yn unol â’r adran hon ac unrhyw reoliadau a wneir oddi tani.

(2)Cyfeirir at asesiad o dan is-adran (1) yn y Ddeddf hon fel “asesiad risg strwythurol”.

(3)Rhaid i asesiad risg strwythurol ar gyfer rhan o adeilad—

(a)cael ei wneud gan unigolyn neu gorff sy’n meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol i asesu’r risgiau diogelwch strwythurol mewn perthynas â’r rhan honno, a

(b)bod yn addas ac yn ddigonol i alluogi’r person atebol sy’n gyfrifol am y rhan honno (neu unrhyw berson arall sy’n cael ei drin fel person atebol o’r fath yn rhinwedd adran 36) i gydymffurfio ag adran 35 (rheoli risgiau diogelwch strwythurol).

(4)Rhaid i asesiad risg strwythurol cyntaf person atebol gael ei wneud cyn gynted â phosibl ar ôl i’r diweddaraf o’r digwyddiadau a ganlyn ddigwydd—

(a)bod yr adeilad yn cael ei feddiannu;

(b)bod y person yn dod yn berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(c)bod yr adran hon yn dod i rym.

(5)Rhaid gwneud asesiadau risg strwythurol pellach—

(a)ar ysbeidiau rheolaidd;

(b)cyn gynted â phosibl os oes gan y person atebol reswm dros amau nad yw’r asesiad cyfredol yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben a grybwyllir yn is-adran (3)(b);

(c)os cyfarwyddir y person atebol i wneud hynny gan awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad, o fewn cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(6)Rhaid i berson atebol sy’n gyfrifol am ran o adeilad sicrhau—

(a)y cofnodir canfyddiadau pob asesiad risg strwythurol ar gyfer y rhan honno yn ysgrifenedig, a

(b)y rhoddir copi o bob asesiad i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad (pan nad y person atebol yw’r prif berson atebol).

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)pennu gofynion y mae rhaid i unigolyn neu gorff eu bodloni er mwyn ystyried eu bod yn meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol at ddiben gwneud asesiad risg strwythurol (gan gynnwys gofynion ar gyfer cymwysterau penodol neu ar gyfer achrediad gan‍ sefydliad penodol, neu aelodaeth o sefydliad penodol);

(b)pennu materion y mae rhaid eu hystyried fel rhan o asesiad;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch y fethodoleg y mae rhaid ei defnyddio wrth wneud asesiad;

(d)pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod ysgrifenedig asesiad;

(e)pennu’r ysbaid hiraf y caiff person atebol ganiatáu iddo fynd heibio rhwng asesiadau.

(8)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (7), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

35Rheoli risgiau diogelwch strwythurol gan bersonau atebolLL+C

(1)Pan fo adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 wedi ei feddiannu, rhaid i bob person atebol ar gyfer yr adeilad gymryd pob cam rhesymol i—

(a)atal risg diogelwch strwythurol rhag cael ei gwireddu mewn perthynas â’r rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani, a

(b)lleihau difrifoldeb unrhyw ddigwyddiad sy’n deillio o wireddiad risg o’r fath mewn perthynas â’r rhan honno.

(2)Caiff y camau gynnwys y person atebol yn gwneud gwaith i’r rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani.

(3)Rhaid cymryd y camau yn brydlon.

(4)Rhaid i berson atebol—

(a)gwneud trefniadau i sicrhau y caiff y camau a gymerir gan y person o dan yr adran hon eu cynllunio, eu trefnu, eu rheoli, eu monitro a’u hadolygu’n effeithiol, a

(b)rhoi effaith i’r trefniadau hynny.

(5)Rhaid i berson atebol sicrhau y caiff cofnod ysgrifenedig ei wneud o—

(a)trefniadau y mae’r person yn eu gwneud o dan yr adran hon, a

(b)camau y mae’r person yn eu cymryd o dan yr adran hon.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn sy’n gamau rhesymol at ddibenion yr adran hon;

(b)pennu materion y mae rhaid i berson atebol roi sylw iddynt, neu egwyddorion y mae rhaid i berson atebol weithredu yn unol â hwy, wrth benderfynu ar y camau i’w cymryd o dan yr adran hon neu wrth gymryd y camau;

(c)pennu gofynion y mae rhaid i drefniadau o dan yr adran hon gydymffurfio â hwy;

(d)pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cofnod ysgrifenedig o’r trefniadau a wnaed, neu gamau a gymerir, o dan yr adran hon.

(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(8)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol at ddibenion yr adran hon yn rhinwedd adran 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rheoli risgiau diogelwch adeilad gan bersonau eraillLL+C

36Rheoli risgiau diogelwch adeilad gan bersonau heblaw am bersonau atebolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â rhan o adeilad rheoleiddiedig y mae person atebol yn gyfrifol amdani, i’r graddau—

(a)y mae’n ffurfio rhan o rannau cyffredin yr adeilad, neu

(b)y byddai’n ffurfio rhan o’r rhannau cyffredin ond am y ffaith ei fod wedi ei gynnwys mewn demeis uned breswyl (gweler adran 13).

(2)Os oes gan unrhyw berson arall rwymedigaeth o dan gontract (ac eithrio les) i ddarparu gwasanaethau sy’n ymwneud ag atgyweirio, cynnal a chadw neu ddiogelwch y rhan honno o’r adeilad, mae’r person hwnnw i’w drin, mewn perthynas â materion o fewn cwmpas y rhwymedigaeth, hefyd fel person atebol sy’n gyfrifol am y rhan honno.

(3)Os oes gan unrhyw berson arall unrhyw radd o reolaeth dros y rhan honno o’r adeilad, mae’r person hwnnw i’w drin, mewn perthynas â materion o fewn rheolaeth y person, hefyd fel person atebol sy’n gyfrifol am y rhan honno.

(4)Ond nid yw person i’w drin fel person atebol o dan is-adran (3) yn rhinwedd bod ganddo reolaeth, fel preswylydd neu berchennog uned breswyl yn yr adeilad, dros unrhyw ran o’r adeilad y bwriedir iddi wella diogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch mewn perthynas â risg diogelwch adeilad.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion—

(a)adran 33 (rheoli risgiau diogelwch tân), a

(b)yn achos adeilad categori 1 neu adeilad categori 2, adran 35 (rheoli risgiau diogelwch strwythurol).

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

PENNOD 5LL+CDYLETSWYDDAU SY’N GYMWYS I ADEILADAU CATEGORI 1 A FEDDIENNIR YN UNIG

Adroddiadau achos diogelwchLL+C

37Llunio ac adolygu adroddiad achos diogelwch gan brif berson atebolLL+C

(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 a feddiennir lunio adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud ag—

(a)yr asesiad risg tân cyfredol ar gyfer yr adeilad;

(b)y camau a gymerwyd o dan adran 33 (rheoli risgiau diogelwch tân) gan bob person atebol ar gyfer yr adeilad ac unrhyw berson sy’n cael ei drin fel person atebol at ddibenion yr adran honno yn rhinwedd adran 36;

(c)yr asesiad risg strwythurol cyfredol ar gyfer pob rhan o’r adeilad y mae person atebol yn gyfrifol amdani;

(d)y camau a gymerwyd o dan adran 35 (rheoli risgiau diogelwch strwythurol) gan bob person atebol ar gyfer yr adeilad ac unrhyw berson sy’n cael ei drin fel person atebol at ddibenion yr adran honno yn rhinwedd adran 36.

(2)Cyfeirir at adroddiad o dan is-adran (1) yn y Ddeddf hon fel “adroddiad achos diogelwch”.

(3)Rhaid i’r prif berson atebol lunio yr adroddiad achos diogelwch cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r diweddaraf o’r digwyddiadau a ganlyn ddigwydd—

(a)bod yr adeilad yn cael ei feddiannu;

(b)bod yr adeilad yn dod yn adeilad categori 1;

(c)bod y person yn dod yn brif berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(d)bod yr adran hon yn dod i rym.

(4)Cyn gynted â phosibl ar ôl llunio’r adroddiad achos diogelwch, rhaid i’r prif berson atebol roi copi ohono i awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad.

(5)Rhaid i’r prif berson atebol—

(a)cadw’r adroddiad achos diogelwch o dan adolygiad, a

(b)gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r adroddiad sy’n angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cael ei ddiweddaru.

(6)Os y’i cyfarwyddir gan yr awdurdod diogelwch adeiladau i wneud hynny, rhaid i’r prif berson atebol ddiwygio’r adroddiad achos diogelwch yn unol â’r cyfarwyddyd.

(7)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwygio’r adroddiad achos diogelwch o dan is-adran (5) neu (6), rhaid i’r prif berson atebol roi i’r awdurdod diogelwch adeiladau—

(a)copi o’r adroddiad diwygiedig, a

(b)hysbysiad yn crynhoi’r diwygiadau.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys adroddiad achos diogelwch neu hysbysiad o dan is-adran (7)(b);

(b)gwneud darpariaeth ynghylch ffurf adroddiad neu hysbysiad;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid rhoi copi o adroddiad neu hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Cofnodi ac adrodd mewn perthynas â risgiau diogelwch adeiladLL+C

38System cofnodi achlysuron: dyletswydd prif berson atebolLL+C

(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 a feddiennir sefydlu a gweithredu system cofnodi achlysuron at ddiben galluogi’r personau atebol ar gyfer yr adeilad i gydymffurfio ag adran 39 (adrodd i awdurdod diogelwch adeiladau ac awdurdod diogelwch tân).

(2)Mae “system cofnodi achlysuron” yn system ar gyfer—

(a)cael a chofnodi gwybodaeth am ddigwyddiadau neu sefyllfaoedd sy’n deillio o risgiau diogelwch adeilad sy’n ymwneud â’r adeilad, sy’n arwain at risgiau diogelwch o’r fath neu sy’n gysylltiedig fel arall â hwy, a

(b)rhoi’r wybodaeth honno i bersonau atebol ar gyfer yr adeilad.

(3)Rhaid i’r prif berson atebol sefydlu’r system cofnodi achlysuron a dechrau ei gweithredu cyn gynted â phosibl ar ôl i’r diweddaraf o’r digwyddiadau a ganlyn ddigwydd—

(a)bod yr adeilad yn cael ei feddiannu;

(b)bod yr adeilad yn dod yn adeilad categori 1;

(c)bod y person yn dod yn brif berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(d)bod yr adran hon yn dod i rym.

(4)Rhaid i system cofnodi achlysuron ar gyfer adeilad gydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(5)Caiff y gofynion hynny, yn benodol, gynnwys gofynion sy’n ymwneud ag—

(a)y digwyddiadau neu’r sefyllfaoedd y mae gwybodaeth i’w chael amdanynt;

(b)y personau y mae gwybodaeth i’w chael oddi wrthynt (er enghraifft, preswylwyr neu bersonau atebol);

(c)sut y mae gwybodaeth i’w chael a’i chofnodi;

(d)asesu gwybodaeth a geir;

(e)adolygu systemau cofnodi achlysuron.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

39Adrodd i awdurdodau: dyletswydd person atebolLL+C

(1)Rhaid i berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 a feddiennir, yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, roi gwybodaeth diogelwch adeiladau berthnasol i—

(a)awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad, a

(b)awdurdod diogelwch tân yr adeilad.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “gwybodaeth diogelwch adeiladau berthnasol” yw gwybodaeth am risgiau diogelwch adeilad sy’n ymwneud â’r rhan o’r adeilad y mae’r person atebol yn gyfrifol amdani.

(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) bennu, yn benodol—

(a)yr wybodaeth diogelwch adeiladau berthnasol y mae rhaid ei rhoi;

(b)o dan ba amgylchiadau y mae rhaid iddi gael ei rhoi;

(c)erbyn pryd y mae rhaid ei rhoi.

(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid rhoi’r wybodaeth.

(5)Mae person atebol ar gyfer adeilad categori 1 yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag is-adran (1).

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(7)Nid yw gwybodaeth y mae person yn ei rhoi i awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân o dan yr adran hon yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person mewn achos troseddol ac eithrio—

(a)mewn achos am drosedd o dan yr adran hon,

(b)mewn achos am drosedd o dan adran 108 (darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol),

(c)mewn achos am drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder, neu

(d)os yn yr achos—

(i)wrth roi tystiolaeth, bod y person yn gwneud datganiad sy’n anghyson â’r wybodaeth, a

(ii)y caiff tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth a roddwyd ei dwyn, neu y gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth honno, gan neu ar ran y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Strategaethau ymgysylltu â phreswylwyrLL+C

40Llunio ac adolygu strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr gan brif berson atebolLL+C

(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 a feddiennir—

(a)llunio strategaeth ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad personau perthnasol mewn penderfyniadau diogelwch adeilad mewn perthynas â’r adeilad, a

(b)gweithredu yn unol â’r strategaeth.

(2)Cyfeirir at strategaeth a luniwyd o dan is-adran (1)(a) yn y Ddeddf hon fel “strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr”.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “penderfyniad diogelwch adeilad” (“building safety decision”) yw penderfyniad gan berson atebol ar gyfer adeilad sydd—

    (a)

    yn ymwneud â rheoli’r adeilad, a

    (b)

    yn cael ei wneud mewn cysylltiad â chyflawni dyletswydd y person atebol o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani;

  • ystyr “personau perthnasol” (“relevant persons”) yw—

    (a)

    preswylwyr sy’n oedolion yn yr adeilad, a

    (b)

    perchnogion unedau preswyl yn yr adeilad.

(4)Rhaid i’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr ar gyfer adeilad gynnwys gwybodaeth am—

(a)yr wybodaeth a fydd yn cael ei rhoi i bersonau perthnasol am benderfyniadau diogelwch adeilad,

(b)yr agweddau ar y penderfyniadau hynny y bydd personau perthnasol yn cael eu ymgynghori amdanynt,

(c)y trefniadau ar gyfer cael ac ystyried barn personau perthnasol,

(d)sut y bydd priodoldeb dulliau ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad yn cael ei fesur a’i gadw o dan adolygiad, ac

(e)unrhyw faterion eraill a bennir mewn rheoliadau.

(5)Rhaid i’r prif berson atebol lunio’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr cyn gynted â phosibl ar ôl i’r diweddaraf o’r digwyddiadau a ganlyn ddigwydd—

(a)bod yr adeilad yn cael ei feddiannu;

(b)bod yr adeilad yn dod yn adeilad categori 1;

(c)bod y person yn dod yn brif berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(d)bod yr adran hon yn dod i rym.

(6)Wrth lunio’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr rhaid i’r prif berson atebol—

(a)ymgynghori â phersonau perthnasol, ac unrhyw bersonau eraill a bennir mewn rheoliadau, ynghylch cynnwys arfaethedig y strategaeth, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wnaed mewn ymateb i’r ymgynghoriad.

(7)Rhaid i’r prif berson atebol—

(a)adolygu’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr ar yr adegau a bennir mewn rheoliadau, a

(b)diwygio’r strategaeth os yw’r person yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud hynny.

(8)Rhaid i’r prif berson atebol—

(a)o dan yr amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau, ymgynghori â phersonau perthnasol, ac unrhyw bersonau eraill a bennir mewn rheoliadau, ynghylch‍ diwygiadau arfaethedig i’r strategaeth, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wnaed mewn ymateb i’r ymgynghoria‍d.

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)llunio, adolygu neu ddiwygio’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr ar gyfer adeilad pan fo mwy nag un person atebol ar gyfer yr adeilad;

(b)cynnal ymgynghoriadau o dan yr adran hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(10)Mae Rheoliadau o dan yr adran hon i’w gwneud gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

41Darparu copïau o’r strategaeth gan bersonau atebolLL+C

(1)Cyn gynted â phosibl ar ôl i’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr ar gyfer adeilad categori 1 gael ei llunio neu ei diwygio o dan adran 40—

(a)os oes mwy nag un person atebol ar gyfer yr adeilad, rhaid i’r prif berson atebol roi copi o’r strategaeth i bob person atebol arall;

(b)rhaid i bob person atebol ar gyfer yr adeilad roi copi o’r strategaeth i—

(i)pob preswylydd sy’n oedolyn yn y rhan o’r adeilad y mae’r person atebol yn gyfrifol amdani,

(ii)pob perchennog uned breswyl yn y rhan honno o’r adeilad, a

(iii)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Nid yw is-adran (1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person atebol roi copi o’r strategaeth i breswylydd—

(a)os nad yw’r person atebol yn ymwybodol o’r preswylydd, a

(b)os yw’r person atebol wedi cymryd pob cam rhesymol i adnabod preswylwyr sy’n oedolion yn y rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch sut y mae copi o’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr i’w rhoi.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Tystysgrifau adeiladLL+C

42Dyletswydd prif berson atebol i wneud cais am dystysgrif adeiladLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i adeilad categori 1 sydd wedi ei gofrestru ac wedi ei feddiannu.

(2)Caiff awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad ar unrhyw adeg gyfarwyddo’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad i wneud cais i’r awdurdod ddyroddi tystysgrif adeilad o dan adran 44.

(3)Rhaid i’r prif berson atebol wneud cais i’r awdurdod am dystysgrif adeilad mewn perthynas â’r adeilad o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir y cyfarwyddyd.

(4)Pan fo awdurdod diogelwch adeiladau wedi dyroddi tystysgrif adeilad mewn perthynas ag adeilad y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad wneud cais i’r awdurdod am dystysgrif adeilad bellach o fewn 5 mlynedd gan ddechrau â’r diwrnod y dyroddwyd y dystysgrif ddiweddaraf (pa un a yw’r awdurdod yn cyfarwyddo’r person i wneud hynny ai peidio).

(5)Mae’r prif berson atebol ar gyfer adeilad y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag is-adran (3) neu (4).

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(7)Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (5) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r person yn parhau i fethu â chydymffurfio ag is-adran (3) neu (4) (yn ôl y digwydd) ar ôl yr euogfarn.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r cyfnod o amser a bennir yn is-adran (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

43Ceisiadau am dystysgrifau: gweithdrefnLL+C

(1)Rhaid i brif berson atebol sy’n gwneud cais am dystysgrif adeilad mewn perthynas ag adeilad categori 1 gynnwys gyda’r cais—

(a)copi o’r adroddiad achos diogelwch cyfredol ar gyfer yr adeilad, oni bai bod copi eisoes wedi ei roi i’r awdurdod diogelwch adeiladau o dan adran 37;

(b)gwybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch y system cofnodi achlysuron a weithredir gan y prif berson atebol (gweler adran 38);

(c)copi o’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr gyfredol ar gyfer yr adeilad (gweler adrannau 40 a 41);

(d)gwybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru am yr hyn y mae pob person atebol ar gyfer yr adeilad wedi ei wneud i gydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir arnynt o dan adran 49 (darparu gwybodaeth neu ddogfennau i bersonau eraill).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau am dystysgrifau adeilad.

(3)Caiff y ddarpariaeth honno, yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae rhaid gwneud cais;

(b)ffurf a chynnwys cais;

(c)unrhyw beth arall y mae rhaid ei gynnwys gyda chais (yn ychwanegol at yr wybodaeth a’r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (1));

(d)amgylchiadau pryd y caniateir tynnu cais yn ôl neu ei drin fel pe bai’n cael ei dynnu’n ôl;

(e)sut y caniateir tynnu cais yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

44Penderfynu ar geisiadau a dyroddi tystysgrifauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 yn gwneud cais am dystysgrif adeilad o dan adran 42(3) neu (4).

(2)Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau asesu pa un a chydymffurfir â’r dyletswyddau perthnasol mewn perthynas â’r adeilad (a chaiff yr awdurdod arolygu’r adeilad mewn cysylltiad â’r asesiad hwnnw).

(3)Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni y cydymffurfir â’r holl ddyletswyddau perthnasol, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif adeilad mewn perthynas â’r adeilad.

(4)Os nad yw’r awdurdod wedi ei fodloni y cydymffurfir â’r holl ddyletswyddau perthnasol, rhaid iddo wrthod y cais a rhoi hysbysiad i’r prif berson atebol o’r gwrthodiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Os yw’r awdurdod yn ystyried y gellir unioni methiant i gydymffurfio â dyletswydd berthnasol yn brydlon—

(a)caiff roi hysbysiad i’r prif berson atebol sy’n cynnwys disgrifiad byr o’r methiant a phennu cyfnod i’w unioni, a

(b)os yw’r methiant yn cael ei unioni o fewn y cyfnod hwnnw, caiff yr awdurdod ddyroddi tystysgrif adeilad (yn lle gwrthod y cais).

(6)Yn yr adran hon ystyr “dyletswydd berthnasol” yw dyletswydd a osodir ar berson atebol ar gyfer yr adeilad gan neu o dan—

(a)adrannau 29 i 35 (asesu a rheoli risgiau diogelwch adeilad);

(b)adran 37 (adroddiad achos diogelwch);

(c)adrannau 38 a 39 (adrodd mewn perthynas â risgiau diogelwch adeilad);

(d)adran 40 a 41 (strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr);

(e)adran 49 (darparu gwybodaeth a dogfennau i bersonau eraill).

(7)Rhaid i hysbysiad o wrthod cais am dystysgrif adeilad gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch tystysgrifau adeilad a hysbysiadau o dan yr adran hon.

(9)Caiff y ddarpariaeth honno, yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys tystysgrif neu hysbysiad;

(b)sut y mae tystysgrif i’w dyroddi neu y mae hysbysiad i’w roi.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

45Dyletswydd prif berson atebol i arddangos tystysgrif a gwybodaeth gysylltiedigLL+C

(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 y mae adran 42 yn gymwys iddo sicrhau bod yr hyn a ganlyn yn cael eu harddangos gyda’i gilydd mewn lle amlwg yn yr adeilad—

(a)copi o’r dystysgrif adeilad ddiweddaraf sy’n ymwneud â’r adeilad;

(b)hysbysiad sy’n cydymffurfio ag is-adran (4);

(c)os oes hysbysiad cydymffurfio perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan is-adran (9)), gopi o’r datganiad o dan adran 96(4) sy’n crynhoi’r hysbysiad cydymffurfio.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas â’r adeilad.

(3)Pan fo gorchymyn o’r fath mewn grym, rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad sicrhau—

(a)nad oes tystysgrif adeilad sy’n ymwneud â’r adeilad, neu gopi o dystysgrif o’r fath, yn cael ei harddangos neu ei arddangos yn yr adeilad;

(b)bod yr hyn a ganlyn yn cael eu harddangos gyda’i gilydd mewn lle amlwg yn yr adeilad—

(i)hysbysiad sy’n cydymffurfio ag is-adran (4);

(ii)os oes hysbysiad cydymffurfio perthnasol a roddwyd i berson atebol nad yw’r gorchymyn yn gymwys iddo, gopi o’r datganiad o dan adran 96(4) sy’n crynhoi’r hysbysiad cydymffurfio.

(4)Mae hysbysiad yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)ar y ffurf a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a

(b)yn cynnwys gwybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud ag—

(i)y personau atebol ar gyfer yr adeilad, a

(ii)os oes gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas â’r adeilad, rheolwr mesurau arbennig yr adeilad.

(5)Mae’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 y mae adran 42 yn gymwys iddo yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (3).

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(7)Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (5) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r person yn parhau i fethu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (3) (yn ôl y digwydd) ar ôl yr euogfarn.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

(9)Mae hysbysiad cydymffurfio yn “perthnasol” at ddibenion yr adran hon os yw awdurdod gorfodi—

(a)wedi rhoi’r hysbysiad i berson atebol ar gyfer yr adeilad categori 1,

(b)mewn achos pan na roddodd yr hysbysiad i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad, wedi rhoi copi i’r prif berson atebol, ac

(c)heb hysbysu’r prif berson atebol bod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

PENNOD 6LL+CYMGYSYLLTU Â PHRESWYLWYR ADEILADAU CATEGORI 2 A FEDDIENNIR

46Adeiladau categori 2: strategaethau ymgysylltu â phreswylwyrLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas ag adeiladau categori 2 sy’n cyfateb neu’n debyg i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan adran 40 neu 41 (strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr), neu y gellid ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adrannau hynny, mewn perthynas ag adeiladau categori 1.

(2)Caiff y rheoliadau wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

PENNOD 7LL+CGWYBODAETH A CHWYNION

Dyletswyddau i gadw a darparu gwybodaeth a dogfennauLL+C

47Dyletswydd i roi gwybodaeth a dogfennau i bersonau atebolLL+C

(1)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i berson sy’n berson perthnasol mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig roi gwybodaeth neu ddogfen i berson atebol (“P”) ar gyfer yr adeilad (gweler hefyd erthygl 22D o’r Gorchymyn Diogelwch Tân).

(2)At ddibenion yr adran hon, mae person yn berson perthnasol mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig os yw’r person—

(a)yn berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(b)yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn yr adeilad;

(c)yn dal ystad gyfreithiol yn unrhyw ran o’r adeilad;

(d)yn dal ystad gyfreithiol yn unrhyw ran o fangre sy’n ffurfio rhan o’r un strwythur neu set o strwythurau â’r adeilad ac sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwch ben neu o dan yr adeilad.

(3)Mae is-adran (1) yn gymwys pan—

(a)bo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn angenrheidiol i P gydymffurfio â gofyniad o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani,

(b)bo P yn rhoi i’r person perthnasol gais ysgrifenedig sy’n—

(i)nodi y gwneir y cais yn unol â’r adran hon,

(ii)esbonio pam y mae’r wybodaeth neu’r ddogfen yn ofynnol gan P,

(iii)datgan y cyfeiriad y mae rhaid rhoi’r wybodaeth neu’r ddogfen iddo, a

(iv)datgan bod rhaid rhoi’r wybodaeth neu’r ddogfen cyn diwedd dyddiad penodedig heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir y cais,

(c)bo’n rhesymol i’r person perthnasol roi i P yr wybodaeth neu’r ddogfen, a

(d)yn achos cais am wybodaeth, ni all P wneud cais am yr wybodaeth gan y person perthnasol o dan adran 54(4) neu 55(4) (dyletswyddau preswylwyr a pherchnogion).

(4)Nid yw datgelu gwybodaeth neu ddogfen yn unol â’r adran hon yn torri—

(a)unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth neu ddogfen (sut bynnag y caiff ei osod).

(5)Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).

(6)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

48Dyletswydd person atebol i gadw gwybodaeth a dogfennauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig gadw—

(a)gwybodaeth berthnasol a bennir yn y rheoliadau;

(b)dogfennau perthnasol a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)pa gyfnod amser y mae rhaid cadw gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol (a all gynnwys ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chadw am gyfnod amhenodol);

(b)sut y mae rhaid ei chadw;

(c)y ffurf y mae rhaid ei chadw ynddi.

(3)Caiff y rheoliadau osod gofynion yn ddarostyngedig i amodau neu eithriadau.

(4)Pan fo’n ofynnol i berson atebol gadw gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol, ond nad oes ganddo yr wybodaeth neu’r ddogfen berthnasol, rhaid i’r person gael yr wybodaeth neu’r ddogfen oni bai nad yw’n ymarferol gwneud hynny.

(5)Rhaid i berson atebol y mae’n ofynnol iddo gadw gwybodaeth berthnasol, i’r graddau y bo’n bosibl, sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ac yn cael ei diweddaru.

(6)Yn yr adran hon—

(a)mae gwybodaeth a dogfennau yn “perthnasol” os ydynt yn ymwneud â rhan o adeilad y mae person atebol yn gyfrifol amdani;

(b)ac eithrio ym mharagraff (a) o’r is-adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

49Dyletswydd person atebol i roi gwybodaeth a dogfennau i bersonau eraillLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch rhannu gwybodaeth berthnasol a dogfennau perthnasol gan bersonau atebol.

(2)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig roi gwybodaeth berthnasol a bennir yn y rheoliadau, neu ddogfen berthnasol a bennir yn y rheoliadau, i—

(a)awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad;

(b)awdurdod diogelwch tân yr adeilad;

(c)person atebol arall ar gyfer yr adeilad;

(d)preswylwyr yr adeilad;

(e)perchnogion unedau preswyl yn yr adeilad;

(f)unrhyw bersonau eraill a bennir yn y rheoliadau.

(3)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)pryd y mae rhaid rhoi gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol;

(b)sut y mae rhaid ei rhoi;

(c)y ffurf y mae rhaid ei rhoi ynddi.

(4)Caiff y rheoliadau osod gofynion yn ddarostyngedig i amodau neu eithriadau.

(5)Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)darparu ei bod yn ofynnol i berson atebol roi gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol i berson dim ond os yw’r person wedi gofyn amdani;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae cais i’w wneud.

(6)Pan fo rheoliadau o dan yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol gael ei rhoi i awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân, cânt wneud darpariaeth ynghylch derbynioldeb yr wybodaeth neu’r ddogfen mewn unrhyw achos troseddol.

(7)Yn yr adran hon—

(a)mae gwybodaeth a dogfennau yn “perthnasol” os ydynt yn ymwneud â rhan o adeilad y mae person atebol yn gyfrifol amdani;

(b)ac eithrio ym mharagraff (a) o’r is-adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

50Dyletswydd i roi gwybodaeth a dogfennau wrth i berson atebol newidLL+C

(1)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “person atebol ymadawol” yw person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig sydd, ar unrhyw adeg, yn peidio â bod yn gyfrifol am yr adeilad cyfan neu unrhyw ran ohono;

(b)ystyr “olynydd” yw person sydd, yn union ar ôl yr adeg honno—

(i)yn berson atebol ar gyfer yr adeilad, a

(ii)yn gyfrifol am ran o’r adeilad y peidiodd y person atebol ymadawol â bod yn gyfrifol amdani ar yr adeg honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i berson atebol ymadawol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig roi gwybodaeth berthnasol a bennir yn y rheoliadau, neu ddogfennau perthnasol a bennir yn y rheoliadau, i—

(a)olynydd;

(b)awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad;

(c)awdurdod diogelwch tân yr adeilad.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)pryd y mae rhaid rhoi gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol;

(b)sut y mae rhaid ei rhoi;

(c)y ffurf y mae rhaid ei rhoi ynddi.

(4)Caiff y rheoliadau osod gofynion yn ddarostyngedig i amodau neu eithriadau.

(5)Mae person atebol ymadawol yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan reoliadau o dan yr adran hon.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(7)Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (5) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r person yn parhau i fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw ar ôl yr euogfarn.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

(9)At ddibenion yr adran hon, mae gwybodaeth a dogfennau yn “perthnasol” os ydynt yn ymwneud â rhan o adeilad y mae person atebol ymadawol wedi peidio â bod yn gyfrifol amdani.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

CwynionLL+C

51Adeiladau categori 1: dyletswydd prif berson atebol i weithredu system gwynoLL+C

(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 a feddiennir sefydlu a gweithredu system ar gyfer ymchwilio i gwynion perthnasol.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “cwyn berthnasol” yw cwyn sy’n ymwneud ag—

(a)risg diogelwch adeilad sy’n ymwneud â’r adeilad, neu

(b)cyflawni gan berson atebol ar gyfer yr adeilad unrhyw ddyletswydd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(3)Rhaid i’r prif berson atebol sefydlu’r system gwyno a dechrau ei gweithredu cyn gynted â phosibl ar ôl i’r diweddaraf o’r digwyddiadau a ganlyn ddigwydd—

(a)bod yr adeilad yn cael ei feddiannu;

(b)bod yr adeilad yn dod yn adeilad categori 1;

(c)bod y person yn dod yn brif berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(d)bod yr adran hon yn dod i rym.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch sefydlu a gweithredu systemau cwyno o dan yr adran hon.

(5)Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch y personau y caniateir iddynt wneud cwynion perthnasol, a’r ffordd y caniateir gwneud cwynion perthnasol;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch y cyfnod y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol ynddo, a’r ffordd y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol;

(c)galluogi neu ei gwneud yn ofynnol i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad gyfeirio cwyn berthnasol, neu unrhyw gwestiwn ynghylch a yw cwyn yn gŵyn berthnasol, at awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad yn unol â’r rheoliadau;

(d)ei gwneud yn ofynnol i brif berson atebol gyhoeddi gwybodaeth a bennir yn y rheoliadau mewn perthynas â’i system gwyno.

(6)Gweler adran 53 am ddarpariaeth ynghylch ymchwilio i gwynion a chwestiynau sy’n cael eu cyfeirio at awdurdod diogelwch adeiladau yn unol â darpariaeth a wneir o dan is-adran (5)(c).

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

52Adeiladau categori 2 a chategori 3: dyletswydd personau atebol i drefnu ystyriaeth o gwynionLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i berson atebol ar gyfer adeilad categori 2 a feddiennir neu adeilad categori 3 a feddiennir wneud trefniadau ar gyfer ystyried cwynion perthnasol ac i roi effaith i’r trefniadau hynny.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “cwyn berthnasol” yw cwyn sy’n ymwneud ag—

(a)risg diogelwch adeilad sy’n ymwneud â’r adeilad, neu

(b)cyflawni gan berson atebol ar gyfer yr adeilad unrhyw ddyletswydd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth am y trefniadau y mae rhaid eu gwneud ar gyfer ystyried cwynion perthnasol pan fo mwy nag un person atebol ar gyfer adeilad;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae rhaid gwneud y trefniadau sy’n ofynnol gan y rheoliadau;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch y personau y caniateir iddynt wneud cwynion perthnasol, a’r ffordd y caniateir gwneud cwynion perthnasol;

(d)gwneud darpariaeth ynghylch y cyfnod y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol ynddo, a’r ffordd y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol;

(e)galluogi person atebol ar gyfer adeilad neu ei wneud yn ofynnol i berson o’r fath gyfeirio cwyn berthnasol, neu unrhyw gwestiwn ynghylch a yw cwyn yn gŵyn berthnasol, at awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad yn unol â’r rheoliadau;

(f)ei gwneud yn ofynnol i berson atebol gyhoeddi gwybodaeth a bennir yn y rheoliadau mewn perthynas â threfniadau a wneir o dan y rheoliadau.

(4)Gweler adran 53 am ddarpariaeth ynghylch ymchwilio i gwynion a chwestiynau sy’n cael eu cyfeirio at awdurdod diogelwch adeiladau yn unol â darpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(e).

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

53Cwynion i awdurdodau diogelwch adeiladauLL+C

(1)Rhaid i bob awdurdod diogelwch adeiladau sefydlu a gweithredu system ar gyfer ymchwilio i gwynion perthnasol—

(a)a wneir i’r awdurdod, neu

(b)y cyfeirir ato yn unol â darpariaeth a wneir o dan adran 51(5)(c) neu 52(3)(e).

(2)Yn yr adran hon, ystyr “cwyn berthnasol” yw cwyn sy’n ymwneud ag—

(a)risg diogelwch adeilad sy’n ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig,

(b)cyflawni gan berson atebol ar gyfer adeilad o’r fath unrhyw ddyletswydd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, neu

(c)cyflawni gan reolwr mesurau arbennig ar gyfer adeilad categori 1 unrhyw swyddogaeth a roddir i’r rheolwr gan orchymyn mesurau arbennig.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch sefydlu a gweithredu systemau cwyno o dan yr adran hon.

(4)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch y personau y caniateir iddynt wneud cwynion perthnasol i awdurdod diogelwch adeiladau, a’r ffordd y caniateir gwneud cwynion perthnasol i awdurdod diogelwch adeiladau;

(b)ynghylch camau y mae rhaid i berson eu cymryd cyn gwneud cwyn berthnasol;

(c)ynghylch y cyfnod y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol ynddo a’r ffordd y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol (gan gynnwys darpariaeth ynghylch camau gweithredu y mae rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau ystyried eu cymryd mewn ymateb i gŵyn);

(d)i awdurdod diogelwch adeiladau benderfynu ar gwestiynau y cyfeirir ato yn unol â’r ddarpariaeth a wneir o dan adran 51(5)(c) neu 52(3)(e) ynghylch a yw cwynion yn gwynion perthnasol;

(e)ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth gan awdurdod diogelwch adeiladau mewn perthynas â’i system gwyno neu gwynion a wneir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

PENNOD 8LL+CDYLETSWYDDAU PRESWYLWYR A PHERCHNOGION ETC. UNEDAU PRESWYL

54Adeiladau rheoleiddiedig: dyletswyddau diogelwch tân preswylwyr etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)preswylydd sy’n oedolyn mewn uned breswyl mewn adeilad rheoleiddiedig a feddiennir;

(b)perchennog uned breswyl mewn adeilad o’r fath.

(2)Ni chaiff person y mae’r adran hon yn gymwys iddo—

(a)yn unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad, ar unrhyw un neu ragor o rannau o’r fath neu mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o rannau o’r fath, wneud unrhyw weithred sy’n creu risg sylweddol o risg diogelwch tân yn cael ei gwireddu mewn perthynas â’r adeilad;

(b)yn yr uned breswyl, ar yr uned breswyl neu mewn perthynas â’r uned breswyl, wneud unrhyw weithred sy’n creu risg sylweddol neu sy’n cynyddu’n sylweddol unrhyw risg bresennol, os bydd tân yn cychwyn yn yr uned breswyl, y bydd y tân yn lledaenu o’r uned;

(c)heb esgus rhesymol, symud ymaith, difrodi, neu ymyrryd â gweithrediad unrhyw beth—

(i)sydd yn unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad, neu sy’n ffurfio rhan o unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad, a

(ii)sydd wedi ei fwriadu i wella diogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch mewn perthynas â risg diogelwch tân.

(3)Yn is-adran (2)(a) mae “rhannau cyffredin” yn cynnwys balconi, neu ran o falconi, sydd wedi ei gynnwys neu ei chynnwys mewn demeis uned breswyl.

(4)Rhaid i berson y mae’r adran hon yn gymwys iddo gydymffurfio â chais am wybodaeth os—

(a)yw’r cais—

(i)yn cael ei wneud gan y prif berson atebol ar gyfer yr adeilad, a

(ii)am wybodaeth sy’n angenrheidiol i alluogi’r prif berson atebol i gydymffurfio ag adrannau 29 i 32 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân);

(b)yw’r cais—

(i)yn cael ei wneud gan y person atebol sy’n gyfrifol am y rhan o’r adeilad sy’n cynnwys yr uned breswyl, a

(ii)am wybodaeth sy’n angenrheidiol i alluogi’r person atebol i gydymffurfio ag adran 33 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân);

(c)yw’r cais—

(i)yn cael ei wneud gan y person atebol sy’n gyfrifol am y rhan o’r adeilad sy’n cynnwys yr uned breswyl, a

(ii)am wybodaeth sy’n angenrheidiol i alluogi person sy’n cael ei drin yn rhinwedd adran 36 fel person atebol i gydymffurfio ag adran 33 neu reoliadau a wneir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

55Adeiladau categori 1 a chategori 2: dyletswyddau diogelwch strwythurol preswylwyr etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)preswylydd sy’n oedolyn mewn uned breswyl mewn adeilad categori 1 a feddiennir neu adeilad categori 2 a feddiennir;

(b)perchennog uned breswyl mewn adeilad o’r fath.

(2)Ni chaiff person y mae’r adran hon yn gymwys iddo—

(a)yn unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad, ar unrhyw un neu ragor o rannau o’r fath neu mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o rannau o’r fath, wneud unrhyw weithred sy’n creu risg sylweddol o risg diogelwch strwythurol yn cael ei gwireddu mewn perthynas â’r adeilad;

(b)yn yr uned breswyl, ar yr uned breswyl neu mewn perthynas â’r uned breswyl, wneud unrhyw weithred sy’n creu risg sylweddol o risg diogelwch strwythurol yn cael ei gwireddu mewn perthynas â’r adeilad.

(3)Yn is-adran (2)(a) mae i “rhannau cyffredin” yr ystyr a roddir gan adran 54(3).

(4)Rhaid i berson y mae’r adran hon yn gymwys iddo gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r cais—

(a)yn cael ei wneud gan y person atebol sy’n gyfrifol am y rhan o’r adeilad sy’n cynnwys yr uned breswyl, a

(b)am wybodaeth sy’n angenrheidiol i alluogi—

(i)y person atebol i gydymffurfio ag adran 34 neu 35 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu a rheoli risgiau diogelwch strwythurol);

(ii)person sy’n cael ei drin yn rhinwedd adran 36 fel person atebol i gydymffurfio ag adran 35 neu reoliadau a wneir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

56Gwrthiant tân unedau preswyl: dyletswydd i atgyweirioLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson sydd—

(a)yn ymwybodol o ddifrod i ran o uned breswyl mewn adeilad rheoleiddiedig a feddiennir (pa un a yw’r difrod yn draul neu’n ddifrod arall) sy’n dod o fewn is-adran (3), a

(b)yn dod o fewn is-adran (5) mewn perthynas â’r rhan.

(2)Rhaid i berson y mae’r adran hon yn gymwys iddo sicrhau y caiff y difrod ei atgyweirio.

(3)Mae difrod yn dod o fewn yr is-adran hon os yw—

(a)yn arwain at risg sylweddol o ledaeniad tân, neu

(b)yn cynyddu’n sylweddol unrhyw risg bresennol o ledaeniad tân.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at risg o ledaeniad tân yn golygu risg, os bydd tân yn cychwyn yn yr uned breswyl, y bydd y tân yn lledaenu o’r uned.

(5)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon mewn perthynas â rhan o uned breswyl os—

(a)yw’r person yn ddarostyngedig i ofyniad o dan les neu yn rhinwedd deddfiad (ac eithrio’r adran hon), i atgyweirio neu gynnal a chadw’r rhan, neu

(b)y person yw perchennog yr uned breswyl, os nad oes unrhyw berson yn dod o fewn paragraff (a) mewn perthynas â’r rhan.

(6)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar ofyniad y mae’r person yn ddarostyngedig iddo i atgyweirio neu gynnal a chadw y rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

57Mynediad i unedau preswyl at ddiben atgyweirioLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)bo, yn rhinwedd adran 56, person (“P”) o dan ddyletswydd i sicrhau y caiff difrod i ran o uned breswyl ei atgyweirio,

(b)bo P yn gwneud cais i berson perthnasol am fynediad i’r uned neu ran o’r uned, gan P neu bersonau a awdurdodir gan P, at y diben o wneud yr atgyweirio,

(c)bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (2), a

(d)na roddir mynediad i’r uned neu i’r rhan o’r uned.

(2)Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)yn ysgrifenedig,

(b)yn egluro bod P, yn rhinwedd adran 56, o dan ddyletswydd i sicrhau y caiff difrod i ran o’r uned ei atgyweirio,

(c)yn nodi’r atgyweiriadau sydd i’w gwneud,

(d)yn gofyn am fynediad ar ddyddiad neu ddyddiadau, ac ar amserau, sy’n rhesymol, ac

(e)yn cael ei roi i’r person perthnasol—

(i)o leiaf 48 awr cyn yr amser y gofynnir i gael mynediad, neu

(ii)os gofynnir am fynediad ar fwy nag un dyddiad, o leiaf 48 awr cyn yr amser cynharaf y gofynnir i gael mynediad.

(3)Caiff P wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio.

(4)Ond ni chaiff P wneud cais am orchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio oni bai bod P wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod diogelwch adeiladau a’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad yn nodi’r bwriad i wneud cais am orchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio mewn cysylltiad â’r person perthnasol a’r uned breswyl (y mae rhaid i’r ddau ohonynt gael eu pennu yn yr hysbysiad).

(5)Mae gorchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio yn orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person perthnasol ganiatáu i P neu bersonau a awdurdodir gan P i—

(a)mynd i’r uned breswyl neu ran o’r uned breswyl, a

(b)gwneud yr atgyweiriadau a nodir yn y cais o dan is-adran (2)(c).

(6)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio os yw’n fodlon ei bod—

(a)yn angenrheidiol i’r atgyweiriadau a nodir yn y cais o dan is-adran (2)(c) i gael eu‍ gwneud, a

(b)yn angenrheidiol i fynd i’r uned neu ran o’r uned i wneud yr atgyweiriadau.

(7)Rhaid i’r gorchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio bennu dyddiad y caniateir mynd i’r uned neu ran o’r uned, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.

(8)Yn yr adran hon ystyr “person perthnasol” yw—

(a)mewn perthynas ag uned breswyl—

(i)preswylydd sy’n oedolyn yn yr uned, neu

(ii)os nad oes preswylydd o’r fath, unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r uned;

(b)mewn perthynas â rhan o uned breswyl—

(i)preswylydd sy’n oedolyn yn yr uned a chanddo reolaeth dros fynediad i’r rhan, neu

(ii)os nad oes preswylydd o’r fath, unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

58Mynediad i unedau preswyl etc. gan berson atebolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)‍bo person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig a feddiennir yn gwneud cais i berson perthnasol am fynediad i fangre berthnasol,

(b)‍bo’r cais yn cael ei wneud at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2),

(c)‍bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (3), a

(d)na roddir mynediad i’r fangre.

(2)Y dibenion yw—

(a)galluogi’r person atebol i benderfynu a yw’r hyn a ganlyn yn cael ei dorri neu wedi ei dorri—

(i)adran 54(2) (dyletswyddau diogelwch tân preswylwyr etc. adeiladau rheoleiddiedig);

(ii)adran 55(2) (dyletswyddau diogelwch strwythurol preswylwyr etc. adeiladau categori 1 a chategori 2);

(b)galluogi’r person atebol i benderfynu a gydymffurfiwyd ag adran 56 (atgyweirio gwrthiant tân unedau preswyl);

(c)pan mai’r person atebol yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad, galluogi’r person hwnnw i gydymffurfio ag adrannau 29 i 32 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud ag adeiladau rheoleiddiedig);

(d)galluogi’r person atebol i gydymffurfio ag adran 33 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud ag adeiladau rheoleiddiedig);

(e)galluogi’r person atebol i gydymffurfio ag adran 34 neu 35 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu a rheoli risgiau diogelwch strwythurol sy’n ymwneud ag adeiladau categori 1 a chategori 2);

(f)galluogi person sy’n cael ei drin yn rhinwedd adran 36 fel person atebol i gydymffurfio ag adran 33 neu 35 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny.

(3)Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)yn ysgrifenedig,

(b)yn nodi’r diben y gwneir y cais ar ei gyfer,

(c)yn esbonio pam ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre berthnasol at y diben hwnnw,

(d)yn nodi enw’r person sy’n cael ei drin fel person atebol os y’i gwneir at y diben a grybwyllir yn is-adran (2)(f),

(e)yn gofyn am‍ fynediad ar ddyddiad, ac amser, sy’n rhesymol, ac

(f)yn cael ei roi i’r person perthnasol o leiaf 48 awr cyn hynny.

(4)Caiff y person atebol wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad.

(5)Ond ni chaiff person atebol wneud cais am orchymyn mynediad oni bai bod y person hwnnw wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod diogelwch adeiladau a’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad yn nodi’r bwriad i wneud cais am orchymyn mynediad mewn cysylltiad â’r person perthnasol a’r fangre berthnasol (y mae rhaid i’r ddau ohonynt gael eu pennu yn yr hysbysiad).

(6)Mae gorchymyn mynediad yn orchymyn sydd—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person perthnasol ganiatáu (yn ôl y digwydd)—

(i)i’r person atebol, neu berson a awdurdodir gan y person atebol;

(ii)i’r person sy’n cael ei drin fel person atebol ac a enwir yn y cais o dan is-adran (3)(d), neu berson a awdurdodir gan y person hwnnw,

fynd i’r fangre berthnasol ar amser rhesymol at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b), a

(b)os yw’n angenrheidiol at y diben hwnnw, yn awdurdodi’r person sy’n mynd i’r fangre yn unol â’r gorchymyn i fesur neu brofi unrhyw beth, neu gymryd samplau, ffotograffau neu recordiadau.

(7)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad os yw’n fodlon ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b).

(8)Rhaid i’r gorchymyn mynediad bennu dyddiad y caniateir mynd i’r fangre, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â chais a wneir at y diben a grybwyllir yn is-adran (2)(b)—

    (i)

    os gwneir y cais gan brif berson atebol, uned breswyl, neu ran o uned breswyl, yn yr adeilad;

    (ii)

    os gwneir y cais gan unrhyw berson atebol arall, uned breswyl, neu ran o uned breswyl, yn y rhan o’r adeilad y mae’r person atebol yn gyfrifol amdani;

    (b)

    mewn perthynas â chais a wneir gan brif berson atebol at y diben a grybwyllir yn is-adran (2)(c)—

    (i)

    uned breswyl yn yr adeilad;

    (ii)

    rhan o uned breswyl yn yr adeilad;

    (iii)

    ardal o’r adeilad a ddarperir at ddefnydd unigryw, er budd unigryw neu er mwynhad unigryw breswylwyr uned breswyl benodol, neu unedau preswyl penodol, yn yr adeilad;

    (c)

    mewn perthynas â chais a wneir gan berson atebol at unrhyw ddiben arall a grybwyllir yn is-adran (2)—

    (i)

    uned breswyl yn y rhan o’r adeilad y mae’r person atebol yn gyfrifol amdani;

    (ii)

    rhan o uned breswyl yn y rhan o’r adeilad y mae’r person atebol yn gyfrifol amdani;

    (iii)

    ardal o ran o’r adeilad y mae’r person atebol yn gyfrifol amdani a ddarperir at ddefnydd unigryw, er budd unigryw neu er mwynhad unigryw breswylwyr uned breswyl benodol, neu unedau preswyl penodol, yn yr adeilad;

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

    (a)

    mewn perthynas ag uned breswyl—

    (i)

    preswylydd sy’n oedolyn yn yr uned, neu

    (ii)

    os nad oes preswylydd o’r fath, unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r uned;

    (b)

    mewn perthynas â rhan o uned breswyl—

    (i)

    preswylydd sy’n oedolyn yn yr uned a chanddo reolaeth dros fynediad i’r rhan, neu

    (ii)

    os nad oes preswylydd o’r fath, unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r rhan;

    (c)

    mewn perthynas ag ardal a ddarperir at ddefnydd unigryw, er budd unigryw neu er mwynhad unigryw breswylwyr uned breswyl benodol, neu unedau preswyl penodol—

    (i)

    preswylydd sy’n oedolyn yn yr uned neu’r unedau, neu

    (ii)

    os nad oes preswylydd o’r fath, unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

59Pŵer person atebol i roi hysbysiad rhybuddio: dyletswydd diogelwch tân a diogelwch strwythurol preswylwyr etc.LL+C

(1)Yn unrhyw un neu ragor o achosion 1 i 4 caiff person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig roi hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon i—

(a)person y mae adran 54 (dyletswyddau diogelwch tân preswylwyr etc. adeiladau rheoleiddiedig) yn gymwys iddo;

(b)person y mae adran 55 (dyletswyddau diogelwch strwythurol preswylwyr etc. adeiladau categori 1 a chategori 2) yn gymwys iddo.

(2)Achos 1 yw pan fo—

(a)y person atebol yn ystyried bod y person wedi torri, neu yn torri, gofyniad a osodir ar y person gan adran 54(2)(a) neu 55(2)(a) mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad, a

(b)y naill neu’r llall o’r hyn a ganlyn yn gymwys—

(i)bod y person atebol yn gyfrifol am y rhan o’r adeilad sy’n cynnwys y rhannau cyffredin o dan sylw, neu

(ii)y person atebol yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad.

(3)Achos 2 yw pan fo—

(a)y person atebol yn ystyried bod y person wedi torri, neu yn torri, gofyniad a osodir ar y person hwnnw gan adran 54(2)(b) neu 55(2)(b) mewn perthynas ag uned breswyl yn yr adeilad, a

(b)y naill neu’r llall o’r hyn a ganlyn yn gymwys—

(i)bod y person atebol yn gyfrifol am y rhan o’r adeilad sy’n cynnwys yr uned breswyl o dan sylw, neu

(ii)y person atebol yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad.

(4)Achos 3 yw pan fo—

(a)y person atebol yn ystyried bod y person wedi torri, neu yn torri, gofyniad a osodir ar y person gan adran 54(2)(c) mewn perthynas â pheth sydd yn unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad, neu sy’n ffurfio rhan o unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad, a

(b)y naill neu’r llall o’r hyn a ganlyn yn gymwys—

(i)bod y person atebol yn gyfrifol am y rhan o’r adeilad sy’n cynnwys y rhannau cyffredin o dan sylw, neu

(ii)y person atebol yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad.

(5)Achos 4 yw pan fo’r person atebol yn ystyried bod y person wedi methu â chydymffurfio â chais am wybodaeth a wnaed gan y person atebol yn unol ag adran 54(4) neu 55(4).

(6)Hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon yw hysbysiad sydd—

(a)yn pennu’r toriad neu’r methiant honedig,

(b)yn pennu unrhyw gamau rhesymol (y cânt gynnwys darparu gwybodaeth) y mae’r person atebol yn ystyried y dylai’r person eu cymryd, o fewn cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, i unioni’r toriad neu’r methiant,

(c)yn pennu unrhyw weithred y mae’r person atebol yn ystyried na ddylai’r person ei wneud, er mwyn osgoi ailadrodd neu barhau â’r toriad neu’r methiant, a

(d)yn esbonio—

(i)os nad yw’r person yn cydymffurfio â’r hysbysiad y caiff y person atebol wneud cais o dan adran 61 am orchymyn torri, a

(ii)effaith gorchymyn o’r fath.

(7)Caiff y camau a bennir o dan is-adran (6)(b) mewn hysbysiad rhybuddio a roddir yn achos 3 gynnwys talu swm os—

(a)yw’r person atebol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, o ganlyniad i’r torri honedig, atgyweirio neu amnewid y peth a gafodd ei dynnu, ei ddifrodi neu yr ymyrrwyd ag ef, a

(b)nad yw’r swm a bennir yn yr hysbysiad yn fwy na’r gost resymol o wneud hynny.

(8)Pan fo person atebol ar gyfer adeilad yn rhoi hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon, rhaid i’r person atebol sicrhau bod unrhyw berson arall sy’n berson atebol am yr adeilad yn cael ei hysbysu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(9)Yn is-adran (2) mae i “rhannau cyffredin” yr ystyr a roddir gan adran 54(3).‍

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

60Pŵer person atebol i roi hysbysiad rhybuddio: atgyweirio gwrthiant tân unedau preswylLL+C

(1)Caniateir rhoi hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon i berson y mae adran 56 yn gymwys iddo mewn perthynas â rhan o uned breswyl mewn adeilad rheoleiddiedig a feddiennir.

(2)Caniateir rhoi hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon gan—

(a)y person atebol sy’n gyfrifol am y rhan o’r adeilad sy’n cynnwys yr uned breswyl;

(b)y prif berson atebol ar gyfer yr adeilad.

(3)Hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon yw hysbysiad sydd—

(a)yn pennu’r atgyweiriadau y mae’r person atebol yn ystyried—

(i)bod y person y cyfeirir ato yn is-adran (1) wedi methu eu gwneud, a

(ii)y dylai’r person hwnnw eu gwneud o fewn cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)yn egluro—

(i)os nad yw’r person yn cydymffurfio â’r hysbysiad y caiff y person atebol wneud cais o dan adran 61 am orchymyn torri, a

(ii)effaith gorchymyn o’r fath.

(4)Rhaid i berson atebol sy’n rhoi hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon sicrhau bod unrhyw berson arall sy’n berson atebol ar gyfer yr adeilad yn cael ei hysbysu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

61Pŵer tribiwnlys eiddo preswyl i wneud gorchymyn torriLL+C

(1)Caiff person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl i orchymyn torri gael ei wneud mewn cysylltiad â pherson pan fo’r person atebol—

(a)wedi rhoi hysbysiad rhybuddio i’r person yn unol ag adran 59, a

(b)yn ystyried bod y person wedi—

(i)methu â chymryd cam a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 59(6)(b), neu

(ii)gwneud gweithred a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 59(6)(c).

(2)Caiff person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl i orchymyn torri gael ei wneud mewn cysylltiad â pherson pan fo’r person atebol—

(a)wedi rhoi hysbysiad rhybuddio i’r person yn unol ag adran 60, a

(b)yn ystyried bod y person wedi methu â gwneud yr atgyweiriadau a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 60(3)(a).

(3)Ond ni chaiff person atebol wneud cais am orchymyn torri oni bai bod y person hwnnw wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod diogelwch adeiladau a’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad yn nodi’r bwriad i wneud cais am orchymyn.

(4)Mae gorchymyn torri—

(a)mewn achos pan roddwyd hysbysiad rhybuddio o dan adran 59, yn orchymyn sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r hyn a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—

(i)ei gwneud yn ofynnol i’r person y caiff ei wneud mewn cysylltiad ag ef i gymryd camau penodedig (y caiff gynnwys darparu gwybodaeth‍ benodedig neu dalu swm penodedig) o fewn cyfnod penodedig;

(ii)gwahardd y person rhag gwneud gweithred‍ benodedig‍;

(b)mewn achos pan roddwyd hysbysiad rhybuddio o dan adran 60, yn orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person y caiff ei wneud mewn cysylltiad ag ef wneud atgyweiriadau penodedig.

(5)Yn is-adran (4) ystyr “penodedig” yw a bennir yn y gorchymyn.

(6)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn torri mewn cysylltiad â pherson os yw’n fodlon—

(a)y rhoddwyd hysbysiad rhybuddio i’r person yn unol ag adran 59 neu 60,

(b)bod y toriad neu’r methiant a bennir yn yr hysbysiad wedi digwydd, ac

(c)ei bod yn angenrheidiol gwneud y gorchymyn.

(7)Os yw’r camau a bennir‍ mewn hysbysiad rhybuddio a roddir o dan adran 59 yn cynnwys talu swm, caiff y gorchymyn torri ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu swm a bennir yn y gorchymyn i’r person atebol.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

62Rheoliadau ynghylch hysbysiadau rhybuddioLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch hysbysiadau rhybuddio o dan adran 59 a 60, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys hysbysiad;

(b)sut y mae rhaid rhoi hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

PENNOD 9LL+CADOLYGIADAU AC APELAU

63Adolygiad ac apêl o benderfyniadau penodol: termau allweddolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyr termau allweddol at ddibenion y Bennod hon.

(2)Ystyr “penderfyniad adolygadwy” yw—

(a)penderfyniad i beidio â chofrestru adeilad o dan adran 20 oni bai bod y penderfyniad hwnnw wedi ei wneud yn rhinwedd adran 20(2) yn unig (methiant i dalu ffi);

(b)penderfyniad ynghylch categori adeilad o dan adran 20(6)(c);

(c)penderfyniad i beidio â diwygio’r cofnod ar gyfer adeilad yn y gofrestr o dan adran 22;

(d)penderfyniad i ddiwygio’r cofnod ar gyfer adeilad yn y gofrestr o dan adran 23;

(e)penderfyniad, ac eithrio un a wneir yn unol â chais o dan adran 25(2), i ddileu adeilad o’r gofrestr o dan adran 26;

(f)penderfyniad i wrthod cais am dystysgrif adeilad o dan adran 44.

(3)Ystyr “person yr effeithir arno” yw—

(a)mewn perthynas â phenderfyniad a grybwyllir ym mharagraffau (a), (b) ac (e) o is-adran (2), berson atebol ar gyfer yr adeilad categori 1 neu’r adeilad categori 2 y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef (neu berson a fyddai’n berson atebol ar gyfer yr adeilad pe bai’r adeilad yn adeilad categori 1 neu’n adeilad categori 2);

(b)mewn perthynas â phenderfyniad a grybwyllir ym mharagraffau (c), (d) ac (f) o is-adran (2), y prif berson atebol ar gyfer yr adeilad categori 1 neu’r adeilad categori 2.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio’r rhestr o benderfyniadau yn is-adran (2) drwy—

(i)ychwanegu penderfyniad awdurdod diogelwch adeiladau,

(ii)dileu penderfyniad, neu

(iii)amrywio’r disgrifiad o benderfyniad;

(b)diwygio ystyr “person yr effeithir arno”.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

64Adolygiad o benderfyniad adolygadwyLL+C

(1)Caiff person yr effeithir arno ofyn am adolygiad o benderfyniad adolygadwy drwy roi hysbysiad i’r awdurdod diogelwch adeiladau a wnaeth y penderfyniad yn unol â rheoliadau a wneir o dan is-adran (2).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae rhaid rhoi hysbysiad o gais am adolygiad;

(b)ffurf a chynnwys hysbysiad;‍

(c)y dyddiad cau ar gyfer rhoi hysbysiad.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth—

(a)ynghylch y dogfennau (os oes rhai) y mae rhaid eu cynnwys gyda hysbysiad;

(b)i’r awdurdod diogelwch adeiladau estyn y dyddiad cau ar gyfer rhoi hysbysiad.

(4)Rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau adolygu penderfyniad pan ofynnir iddo wneud hynny.

(5)Mae natur a chwmpas yr adolygiad i fod fel ag y maent yn ymddangos yn briodol i’r awdurdod o dan yr amgylchiadau.

(6)Rhaid i’r adolygiad ystyried unrhyw sylwadau a wneir, neu wybodaeth neu ddogfen a roddir, gan y person yr effeithir arno ar gam sy’n rhoi cyfle rhesymol i’r awdurdod eu hystyried (a chaiff ystyried unrhyw wybodaeth neu ddogfen arall).

(7)Ar ôl i’r adolygiad ddod i ben, rhaid i’r awdurdod—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)amrywio’r penderfyniad, neu

(c)canslo’r penderfyniad.

(8)Rhaid i’r awdurdod, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i’r‍ holl bersonau yr effeithir arnynt hysbysiad am ganlyniad yr adolygiad.

(9)Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—

(a)y rhesymau dros ganlyniad yr adolygiad, a

(b)gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 65.

(10)Os yw’r awdurdod yn meth‍u, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, â rhoi hysbysiad am ganlyniad yr adolygiad o dan is-adran (7) i’r person yr effeithir arno a ofynnodd am yr adolygiad—

(a)trinnir yr adolygiad fel pe bai wedi dod i ben ar ddiwedd y cyfnod perthnasol, a thrinnir yr awdurdod fel pe bai wedi cadarnhau’r penderfyniad, a

(b)rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, roi hysbysiad i’r‍ holl bersonau yr effeithir arnynt o’r ffaith honno.

(11)Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan is-adran (10)(b) gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 65.

(12)Yn is-adrannau (8) a (10), ystyr “cyfnod perthnasol” yw—

(a)y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)cyfnod arall o’r fath y cytunir arno yn ysgrifenedig rhwng yr awdurdod a’r person yr effeithir arno a ofynnodd am yr adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

65Apêl i dribiwnlys eiddo preswylLL+C

(1)Caiff person yr effeithir arno sy’n anfodlon â chanlyniad adolygiad o dan adran 64 apelio i dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad adolygadwy.

(2)Os mai canlyniad yr adolygiad yw y caiff y penderfyniad ei amrywio, mae’r hawl i apelio o dan is-adran (1) mewn cysylltiad â’r penderfyniad fel y’i hamrywiwyd.

(3)Rhaid gwneud apêl i’r tribiwnlys cyn diwedd 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir hysbysiad i’r person yr effeithir arno o dan adran 64(8) neu (10)(b).

(4)Caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol.

(6)Wrth benderfynu’r apêl, caiff y tribiwnlys ystyried tystiolaeth nad oedd ar gael i’r awdurdod.

(7)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)amrywio’r penderfyniad, neu

(c)diddymu’r penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

66Effaith adolygiad ac apêlLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)adolygiad o dan adran 64 o benderfyniad adolygadwy;

(b)apêl i dribiwnlys eiddo preswyl o dan adran 65.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)darparu ar gyfer atal dros dro yn ystod y cyfnod adolygu effaith penderfyniad adolygadwy neu unrhyw beth arall a wneir gan awdurdod perthnasol;

(b)gwneud darpariaeth arall ynglŷn ag effaith adolygiad o dan adran 64 yn ystod y cyfnod adolygu (gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi pwerau i awdurdod perthnasol);

(c)darparu ar gyfer atal dros dro yn ystod y cyfnod apelio effaith penderfyniad adolygadwy, canlyniad adolygiad o dan adran 64 neu unrhyw beth arall a wneir gan awdurdod perthnasol;

(d)gwneud darpariaeth arall ynglŷn ag effaith apêl o dan adran 65 yn ystod y cyfnod apelio (gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi pwerau i’r tribiwnlys).

(3)Yn is-adran (2)—

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw’r awdurdod a wnaeth y penderfyniad adolygadwy;

  • ystyr “cyfnod adolygu” (“review period”) yw unrhyw gyfnod pryd—

    (a)

    y‍ gallai person yr effeithir arno ofyn am adolygiad (gan anwybyddu unrhyw bosibilrwydd o gael estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, neu estyniad pellach pan fo un eisoes wedi ei ganiatáu), neu

    (b)

    y‍ mae person yr effeithir arno wedi gofyn am adolygiad ac nid yw—

    (i)

    wedi cael hysbysiad o dan adran 64(8) neu (10)(b), neu

    (ii)

    wedi tynnu’r cais yn ôl;

  • ystyr “cyfnod apelio” (“appeal period”) yw unrhyw gyfnod pryd—

    (a)

    y gellid gwneud apêl (gan anwybyddu’r posibilrwydd o gael caniatâd i apelio ar ôl yr amser priodol), neu

    (b)

    y mae apêl wedi ei gwneud ond heb ei phenderfynu’n derfynol na’i thynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I66A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

PENNOD 10LL+CATODOL

Mynediad i fangre amhreswylLL+C

67Mynediad i fangre amhreswyl gan berson atebolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)bo person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig a feddiennir yn gwneud cais i berson perthnasol am fynediad i fangre berthnasol,

(b)bo’r cais yn cael ei wneud at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2),

(c)bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (3), a

(d)na roddir mynediad i’r fangre.

(2)Y dibenion yw—

(a)pan mai’r person atebol yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad, galluogi’r person hwnnw i gydymffurfio ag adrannau 29 i 32 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud ag adeiladau rheoleiddiedig);

(b)galluogi’r person atebol i gydymffurfio ag adran 33 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud ag adeiladau rheoleiddiedig);

(c)galluogi’r person atebol i gydymffurfio ag adran 34 neu 35 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu a rheoli risgiau diogelwch strwythurol sy’n ymwneud ag adeiladau categori 1 a chategori 2);

(d)galluogi person sy’n cael ei drin yn rhinwedd adran 36 fel person atebol i gydymffurfio ag adran 33 neu 35 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny.

(3)Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)yn ysgrifenedig,

(b)yn nodi’r diben y gwneir y cais ar ei gyfer,

(c)yn egluro pam ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre berthnasol at y diben hwnnw,

(d)yn nodi enw’r person sy’n cael ei drin fel person atebol os y’i gwneir at y diben a grybwyllir yn is-adran (2)(d), ac

(e)yn gofyn am fynediad ar ddyddiad, ac amser, sy’n rhesymol.

(4)Caiff y person atebol wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon.

(5)Mae gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon yn orchymyn sydd—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person perthnasol ganiatáu (yn ôl y digwydd)—

(i)i’r person atebol, neu berson a awdurdodir gan y person atebol;

(ii)i’r person sy’n cael ei drin fel person atebol ac a enwir yn y cais o dan is-adran (3)(d), neu berson a awdurdodir gan y person hwnnw,

fynd i’r fangre berthnasol ar amser rhesymol at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b), a

(b)os yw’n angenrheidiol at y diben hwnnw, yn awdurdodi’r person sy’n mynd i’r fangre yn unol â’r gorchymyn i fesur neu brofi unrhyw beth, neu gymryd samplau, ffotograffau neu recordiadau.

(6)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon os yw’n fodlon ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b).

(7)Rhaid i’r gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl bennu dyddiad y caniateir mynd i’r fangre, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.

(8)Yn yr adran hon—

  • ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw unrhyw fangre—

    (a)

    sy’n ffurfio rhan o—

    (i)

    yr adeilad rheoleiddiedig, neu

    (ii)

    yr un strwythur neu set o strwythurau â’r adeilad rheoleiddiedig (gweler adrannau 2 i 4) ac sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwch ben neu o dan yr adeilad rheoleiddiedig, a

    (b)

    nad yw—

    (i)

    yn uned breswyl neu’n rhan o uned breswyl, neu

    (ii)

    yn ardal, neu ran o ardal, a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr uned breswyl benodol, neu unedau preswyl penodol, yn yr adeilad rheoleiddiedig, y strwythur neu’r set;

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r fangre berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Cydweithredu a chydlynuLL+C

68Cydweithredu a chydlynu: dyletswyddau personau atebolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo mwy nag un person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig.

(2)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon a’r rheoliadau a wneir oddi tani, rhaid i bob person atebol, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob person atebol arall ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo—

(a)person yn berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, a

(b)yr adeilad yn cynnwys tŷ amlfeddiannaeth perthnasol y mae un neu ragor o bersonau eraill yn ddeiliaid dyletswydd ar ei gyfer o dan y Ddeddf hon.

(4)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon a’r rheoliadau a wneir oddi tani, rhaid i’r person atebol, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob deiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo—

(a)person yn berson atebol ar gyfer adeilad categori 1, a

(b)gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas â’r adeilad.

(6)Rhaid i’r person atebol gydweithredu â’r rheolwr mesurau arbennig a benodir gan y gorchymyn at ddiben y rheolwr yn cyflawni ei swyddogaethau o dan y gorchymyn.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys pan fo—

(a)person yn berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, a

(b)gorchymyn o dan adran 24 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) mewn grym sy’n penodi rheolwr i gyflawni unrhyw swyddogaethau diogelwch adeiladau mewn perthynas â’r adeilad neu unrhyw ran ohono.

(8)Rhaid i’r person atebol gydweithredu â’r rheolwr at ddiben y rheolwr yn cyflawni ei swyddogaethau diogelwch adeiladau o dan y gorchymyn.

(9)Yn is-adrannau (7) ac (8), ystyr “swyddogaeth diogelwch adeiladau” yw swyddogaeth y mae’r Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn ei darparu i’w chyflawni gan berson atebol ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.

(10)Mae is-adran (11) yn gymwys pan fo—

(a)person yn berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, a

(b)un neu ragor o bersonau eraill yn bersonau cyfrifol at ddibenion y Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas ag unrhyw fangre sydd—

(i)yn ffurfio rhan o’r adeilad rheoleiddiedig, neu

(ii)yn ffurfio rhan o’r un strwythur neu set o strwythurau â’r adeilad rheoleiddiedig (gweler adrannau 2 i 4) ac sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwch‍ ben neu o dan yr adeilad rheoleiddiedig.

(11)Rhaid i’r person atebol, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob person cyfrifol at ddiben pob person cyfrifol yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

(12)Yn yr adran hon, mae “person atebol” yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Adennill costau perthnasol gan brif berson atebolLL+C

69Adennill costau perthnasol gan brif berson atebolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer galluogi’r prif berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig i adennill costau perthnasol oddi wrth unrhyw berson arall sy’n berson atebol ar gyfer yr adeilad neu berson sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36, ac mewn cysylltiad â hynny.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “costau perthnasol” yw unrhyw gostau yr aed iddynt neu yr eir iddynt gan y prif berson atebol mewn cysylltiad â’r hyn a ganlyn—

(a)gwneud cais i gofrestru adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 yn unol ag adran 20 a rheoliadau a wneir oddi tani;

(b)hysbysu’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad o’r fath am newid yn unol ag adran 21 a rheoliadau a wneir oddi tani;

(c)rhoi declarasiwn i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad o’r fath yn unol ag adran 24 a rheoliadau a wneir oddi tani;

(d)gwneud cais i ddileu adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 o’r gofrestr yn unol ag adran 25 a rheoliadau a wneir oddi tani;

(e)sicrhau bod y risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig yn cael eu hasesu, ac y rhoddir copïau o asesiadau, yn unol ag adrannau 29 i 32 a rheoliadau a wneir oddi tanynt;

(f)mewn perthynas ag adeilad categori 1—

(i)llunio ac adolygu adroddiad achos diogelwch, a rhoi copi o’r adroddiad a hysbysiad yn crynhoi’r diwygiadau i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad, yn unol ag adran 37 a rheoliadau a wneir oddi tani;

(ii)sefydlu a gweithredu system cofnodi achlysuron yn unol ag adran 38 a rheoliadau a wneir oddi tani;

(iii)cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir gan adrannau 40 a 41 a rheoliadau a wneir oddi tanynt (strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr);

(iv)gwneud cais am dystysgrif adeilad yn unol ag adrannau 42 a 43 a rheoliadau a wneir oddi tanynt;

(v)cydymffurfio â’r dyletswyddau sy’n ymwneud ag arddangos tystysgrifau adeilad a dogfennau eraill a osodir gan adran 45 a rheoliadau a wneir oddi tani;

(vi)sefydlu a gweithredu system ar gyfer ymchwilio i gwynion perthnasol yn unol ag adran 51 a rheoliadau a wneir oddi tani;

(g)mewn perthynas ag adeilad categori 2 neu adeilad categori 3, gwneud trefniadau ar gyfer ystyried cwynion perthnasol a rhoi effaith i’r trefniadau hynny yn unol â rheoliadau o dan adran 52;

(h)gwneud cais am fynediad i fangre, neu gwneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad, yn unol ag adran 58;

(i)rhoi hysbysiad rhybuddio yn unol ag adran 59 neu 60 a rheoliadau a wneir o dan adran 62;

(j)gwneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn torri yn unol ag adran 61.

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

LesoeddLL+C

70Lesoedd: telerau ymhlyg sy’n ymwneud â chydymffurfio â dyletswyddau diogelwch adeiladauLL+C

Yn Neddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70), ar ôl adran 30I mewnosoder—

Regulated buildings in Wales: implied terms and liability for costsLL+C
30IAWales: implied terms relating to building safety

(1)This section applies to a lease of premises which consist of or include a dwelling in a regulated building.

(2)In the lease there is implied a covenant by each relevant person—

(a)where the relevant person is an accountable person for the building, to comply with their building safety duties;

(b)to co-operate with any person in connection with an accountable person complying with their building safety duties.

(3)In the lease there is implied a covenant by the tenan‍t to comply with—

(a)any repairs access order made in respect of the tenant under section 57 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

(b)any access order made in respect of the tenant under section 58 of that Act;

(c)any contravention order made in respect of the tenant under section 61 of that Act;

(d)any compliance notice given to the tenant under section 96 of that Act.

(4)In the covenant implied by subsection (2)(b), to “co-operate” with a person includes—

(a)taking any steps that are reasonably required by the person to facilitate compliance by an accountable person with their building safety duties;

(b)where the person is an accountable person or a person authorised in writing by an accountable person, providing any information (including names and contact details of residents and tenants of the premises) to the person that is reasonably required in connection with the accountable person complying with their building safety duties.‍

(5)‍The disclosure of information in accordance with subsections (2)(b) and (4)(b) does not breach—

(a)any obligation of confidence owed by a relevant person in relation to that information;

(b)any other restriction on the disclosure of information (however imposed).‍

(6)But see also section 183A of the Data Protection Act 2018 (protection of requirements for processing personal data).

(7)In this section—‍

  • relevant person” means—

    (a)

    the landlord under the lease;

    (b)

    any other person by whom obligations relating to the management of the premises or any part of them are owed to the tenant under the lease;

  • “resident has the same meaning as in the Building Safety (Wales) Act 2026 (see section 136 of that Act‍).

Gwybodaeth Cychwyn

I70A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

71Atebolrwydd tenantiaid am gostau sy’n ymwneud â diogelwch adeiladauLL+C

Yn Neddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70), ar ôl adran 30IA (fel y’i mewnosodwyd gan adran 70) mewnosoder—

30IBWales: liability for building safety costs

(1)This section applies to a relevant lease of premises which consist of or include a dwelling in a regulated building.

(2)In this section “relevant lease”—

(a)means a lease—

(i)that is granted for a fixed term of 7 years or more, whether or not it is (or may become) terminable before the end of that term by notice given by the tenant or by re-entry or forfeiture, and

(ii)under which the tenant is liable to pay a variable service charge (within the meaning of section 18), but

(b)does not include an occupation contract.

(3)The relevant lease has effect—

(a)as if the matters for which the service charge is payable under the lease included the taking of building safety measures by or on behalf of a relevant person (insofar as this would not otherwise be the case), and

(b)where the lease contains different methods for apportioning different relevant costs (within the meaning of section 18), as if it provided for any costs for which the tenant is liable by virtue only of paragraph (a) to be apportioned in the same way as costs incurred in connection with insuring the building.

(4)For the purposes of this section any of the following incurred in connection with the taking of a building safety measure are to be regarded as incurred in taking the measure—

(a)legal and other professional fees;

(b)fees payable to a building safety authority;

(c)management costs.

(5)In this section—

  • building safety measure” has the meaning given by section 30IC;

  • landlord” includes any person who has a right under the lease to enforce payment of a service charge (within the meaning of section 18);

  • occupation contract” has the meaning given by section 7 of the Renting Homes (Wales) Act 2016;

  • relevant person” means—

    (a)

    the landlord, if the landlord is an accountable person for the building;

    (b)

    otherwise, any superior landlord who is an accountable person for the building;

  • tenant” includes any person who has an obligation under the lease to pay a service charge (within the meaning of section 18).

30ICMeaning of “building safety measure”

(1)This section applies for the purposes of section 30IB.

(2)Building safety measure” means any of the following—

(a)applying to register a category 1 building or a category 2 building in accordance with section 20 of the Building Safety (Wales) Act 2026 and regulations made under it;

(b)notifying the building safety authority for such a building of a change in accordance with section 21 of that Act and regulations made under it;

(c)giving a declaration to the building safety authority for such a building in accordance with section 24 of that Act and regulations made under it;

(d)applying to remove a category 1 building or a category 2 building from the register in accordance with section 25 of that Act and regulations made under it;

(e)ensuring that the fire safety risks relating to a regulated building are assessed, and copies of assessments are given, in accordance with sections 29 to 32 of that Act and regulations made under them;

(f)taking reasonable steps in accordance with section 33 of that Act and regulations made under it (management of fire safety risks), other than steps involving the carrying out of works as referred to in section 33(3);

(g)ensuring that the structural safety risks relating to a category 1 building or a category 2 building are assessed, and copies of assessments are given, in accordance with section 34 of that Act and regulations made under it;

(h)taking reasonable steps in accordance with section 35 of that Act and regulations made under it (management of structural safety risks), other than steps involving the carrying out of works as referred to in section 35(2);

(i)keeping (and where necessary obtaining) information and documents relating to a regulated building in accordance with section 48 of that Act and regulations made under it;

(j)giving information and documents to an accountable person in accordance with section 47 of that Act;

(k)giving information and documents to a person in accordance with regulations under section 49 or 50 of that Act;

(l)making a request to enter premises, or applying to a residential property tribunal for an access order, in accordance with section 58 of that Act (entry to residential units etc.);

(m)giving a warning notic‍e in accordance with section 59 or 60 of that Act (enforcement of duties relating to residents etc. and residential units) and regulations made under section 62 of that Act;

(n)applying to a residential property tribunal for a contravention order in accordance with section 61 of that Act (enforcement of duties relating to residential units and residents etc.);

(o)making a request to enter premises, or applying to a residential property tribunal for a non-residential premises access order, in accordance with section 67 of that Act;

(p)giving information and documents to a duty holder in accordance with section 86 of that Act.

(3)In relation to a category 1 building, “building safety measure” also includes any of the following—

(a)preparing and revising a safety case report, and giving a copy of the report and notice summarising the revisions to the building safety authority for the building, in accordance with section 37 of the Building Safety (Wales) Act 2026 and regulations made under it;

(b)establishing and operating an occurrence recording system, and giving information to the building safety authority and fire safety authority, in accordance with sections 38 and 39 of that Act and regulations made under them;

(c)complying with the duties imposed by sections 40 and 41 of that Act and regulations made under them (residents’ engagement strategy);

(d)applying for a building certificate in accordance with sections 42 and 43 of that Act and regulations made under them;

(e)complying with the duties relating to the display of building certificates and other documents imposed by section 45 of that Act and regulations made under it;

(f)establishing and operating a system for the investigation of relevant complaints in accordance with section 51 of that Act and regulations made under it.

(4)In relation to a category 2 building or a category 3 building, “building safety measure” also includes making and giving effect to arrangements for the consideration of relevant complaints in accordance with regulations under section 52 of the Building Safety (Wales) Act 2026.

(5)The Welsh Ministers may by regulations amend subsection (2), (3) or (4) to add, remove or modify a building safety measure.

(6)The regulations may make supplementary, incidental, transitional or saving provision (including provision amending this Act).

(7)Regulations under subsection (5) are to be made by Welsh statutory instrument and are subject to the Senedd approval procedure.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

72Darpariaeth bellach ynghylch telerau ymhlyg ac atebolrwydd am gostauLL+C

(1)Mae Deddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 20(1)(b) (cyfyngiadau taliadau gwasanaeth: gofynion ymgynghori), ar ôl “section 20D” mewnosoder “or section 20DA”.

(3)Yn adran 20ZA (gofynion ymgynghori: atodol), yn is-adran (5A)—

(a)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “section 20D” mewnosoder “(limitation of service charges relating to remediation works: England) or section 20DA (limitation of variable service charges relating to building safety works: Wales)”;

(b)ym mharagraff (a), ar ôl “section 20D(2)” mewnosoder “or section 20DA(2)”.

(4)Ar ôl adran 20D (cyfyngiadau taliadau gwasanaeth: gwaith cyweirio), mewnosoder—

20DAWales: limitation of variable service charges relating to building safety works

(1)This section applies in relation to a lease to which section 30IB (regulated buildings in Wales: liability for building safety costs) applies.

(2)The relevant person must—

(a)take reasonable steps to ascertain whether any grant is payable in respect of building safety works and, if so, to obtain the grant;

(b)take reasonable steps to ascertain whether monies may be obtained from a third party in connection with the undertaking of building safety works and, if so, to obtain monies from the third party;

(c)take prescribed steps relating to any other prescribed kind of funding.

(3)In subsection (2)(b) the reference to obtaining monies from a third party includes obtaining monies—

(a)under a policy of insurance;

(b)under a guarantee or indemnity;

(c)pursuant to a claim made against—

(i)a developer,

(ii)a person involved in the design of the building or of works to the building, or

(iii)a person involved in the carrying out of works in relation to the building.

(4)Where any funding of a kind mentioned in subsection (2) is obtained, the amount of the funding is to be deducted from the building safety costs (and the amount of any variable service charge is to be reduced accordingly).

(5)In the case of a failure to comply with subsection (2), a tenant may make an application to the appropriate tribunal for an order that all or any of the building safety costs are not to be regarded as relevant costs to be taken into account in determining the amount of any variable service charge payable by—

(a)the tenant, or

(b)anyone else specified in the application.

(6)The tribunal may make such order on the application as it considers just and equitable in the circumstances.

(7)Nothing in this section requires the relevant person to do anything mentioned in subsection (2) before carrying out the building safety works.

(8)The Welsh Ministers may issue guidance about the taking of steps under subsection (2), and may revise or withdraw any issued guidance.

(9)Where on an application under this section it is alleged that a person failed to comply with subsection (2)—

(a)proof of a failure to comply with any applicable guidance may be relied on as tending to establish that there was such a failure, and

(a)proof of compliance with any applicable guidance may be relied on as tending to establish that there was no such failure.

(10)In this section—

  • building safety costs” means costs incurred or to be incurred in carrying out building safety works;

  • building safety works” has the meaning given by section 20DB;

  • developer”, in relation to a building, means a person who undertakes or commissions the construction or conversion of the building with a view to granting or disposing of interests in the building (or parts of it);

  • prescribed” means prescribed by regulations made by the Welsh Ministers;

  • regulated building” has the meaning given by sections 2 and 7 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • relevant person” means—

    (a)

    the landlord, if the landlord is an accountable person for the building;

    (b)

    otherwise, any superior landlord who is an accountable person for the building;

  • third party” means a person other than a tenant.

(11)In subsection (10), “accountable person” has the meaning given by section 8 of the Building Safety (Wales) Act 2026.

(12)Regulations under subsection (2)(c) are to be made by Welsh statutory instrument and are subject to the Senedd annulment procedure.

20DBMeaning of “building safety works”

(1)This section applies for the purposes of section 20DA.

(2)Building safety works” means—

(a)in relation to a regulated building, works as referred to in section 33(3) of the Building Safety (Wales) Act 2026;

(b)in relation to a category 1 or a category 2 building, works as referred to in section 35(2) of that Act.

(3)The Welsh Ministers may by regulations prescribe for the purposes of subsection (2) works that are not to be regarded as “building safety works” despite those works falling within subsection (2).

(4)In this section—

  • “category 1 building” and “category 2 building” have the meanings given by sections 6 and 7 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • regulated building” has the meaning given by sections 2 and 7 of that Act.

(5)Regulations under subsection (3) are to be made by Welsh statutory instrument and are subject to the Senedd annulment procedure.

(5)Ar ôl adran 30IC (fel y’i mewnosodir gan adran 71) mewnosoder—

30IDWales: implied terms and liability for costs where order appointing manager for building is in force

(1)This section applies to a lease of premises which consist of or include—

(a)a flat in a regulated building, if an order under section 24 of the Landlord and Tenant Act 1987 (c. 31) is in force which appoints a manager to carry out any of the building safety duties of an accountable person for the building;

(b)a dwelling in a category 1 building, if a special measures order under section 109 of the Building Safety (Wales) Act 2026 is in force in relation to the building.

(2)Section 30IA applies to the lease with the following modifications—

(a)except in subsection (2)(a), references to an accountable person are to be read as including the manager appointed by the order;

(b)references to the building safety duties of an accountable person are to be read as including any duties of the manager under the order.

(3)In the lease there are implied (in addition to the covenants in section 30IA(2) and (3))—

(a)a covenant by each relevant person (within the meaning of section 30IA) to comply with the order so far as it relates to that person;

(b)a covenant by the tenant to comply with the order so far as it relates to the tenant.

(4)If the lease is a relevant lease for the purposes of section 30IB, the reference to a relevant person in subsection (3)(a) of that section is to be read as including the manager appointed by the order.

30IERestrictions on contracting out

(1)A covenant or agreement, whether contained in a lease to which section 30IA (Wales: implied building safety terms) applies or in an agreement collateral to such a lease, is void in so far as it purports—

(a)to exclude or limit the obligations of a relevant person (within the meaning of section 30IA) or a tenant under section 30IA or 30ID(3), or

(b)to authorise any forfeiture or impose on the tenant any penalty, disability or obligation in the event of the tenant enforcing or relying upon the obligations of a relevant person.

(2)A covenant or agreement, whether contained in a lease to which section 30IB (Wales: liability for building safety costs) applies or in an agreement collateral to such a lease, is void insofar as it purports to modify the effect of section 30IB(3).

30IFJurisdiction of county court

The county court has jurisdiction to deal with any claim or other proceedings arising under or in connection with sections 30IA to 30IE (Wales: implied terms and liability for costs) notwithstanding that by reason of the amount of the claim or otherwise the case would not, apart from this section, be within the jurisdiction of the county court.

30IGSpecific performance of implied terms

In proceedings relating to a breach of a covenant in section 30IA(2) or (3) or section 30ID(3) (Wales: implied building safety terms), the court may order specific performance of the covenant—

(a)notwithstanding any equitable rule restricting the scope of the remedy, whether on the basis of a lack of mutuality or otherwise, and

(b)except in the case of a breach of the covenant in section 30IA(3)(a), whether or not the breach relates to a part of the regulated building let to the tenant.

30IHWales: interpretation of building safety provisions

In sections 30IA to 30IG—

  • accountable person” has the meaning given by section 8 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • building safety authority” has the meaning given by section 122 of that Act;

  • building safety duties”, in relation to an accountable person, means any duties of the accountable person under the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it;

  • category 1 building”, “category 2 building” and “category 3 building” have the meanings given by sections 6 and 7 of that Act;

  • lease” does not include a mortgage term;

  • “regulated building has the meaning given by sections 2 and 7 of the Building Safety (Wales) Act 2026.

(6)Yn adran 30 (dehongli), yn y diffiniad o “services”, ar y diwedd mewnosoder “and, in relation to a dwelling in a regulated building (as defined by section 30IH), building safety measures within the meaning of section 30IC”.

(7)Yn adran 32(1) (darpariaethau nad ydynt yn gymwys i denantiaethau busnes), ar ddiwedd y rhestr o ddarpariaethau mewnosoder—

  • sections 30IA to 30IH (regulated buildings in Wales: implied terms and liability for costs).

Gwybodaeth Cychwyn

I72A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

73Costau sy’n ymwneud â gorfodi etc. wedi eu heithrio o’r tâl gwasanaeth amrywiadwyLL+C

Yn Neddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70), ar ôl adran 20F mewnosoder—

20FALimitation of variable service charges: excluded costs for regulated buildings in Wales

(1)This section applies in relation to a lease to which section 30IB (regulated buildings in Wales: liability for building safety costs) applies.

(2)Excluded costs are not to be regarded as relevant costs to be taken into account in determining the amount of any variable service charge payable by a tenant under the lease.

(3)In this section “excluded costs” means any of the following costs in connection with the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it—

(a)costs incurred or to be incurred by or on behalf of a relevant person solely as a result of any penalty imposed or enforcement action taken by an enforcing authority;

(b)legal costs incurred or to be incurred by or on behalf of a relevant person in connection with management order proceedings relating to the building;

(c)costs that a management order provides are to be met by any person other than a relevant person or the tenant under the lease;

(d)costs incurred or to be incurred by or on behalf of a relevant person by reason of any negligence, breach of contract or unlawful act on the part of that relevant person or a person acting on their behalf.

(4)In this section—

  • enforcement action” means action taken with a view to, or in connection with—

    (a)

    securing compliance with the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it, or

    (b)

    the imposition of a sanction in respect of a contravention of that Act or those regulations;

  • enforcing authority” has the meaning given by section 94 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • management order” means—

    (a)

    an order under section 24 of the Landlord and Tenant Act 1987 appointing a manager to carry out any of the duties of an accountable person under the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it;

    (b)

    a special measures order under section 109 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • management order proceedings” means any proceedings relating to the making, variation or discharge of, or the giving of directions in relation to, a management order (including any appeals in relation to such proceedings);

  • relevant person” means—

    (a)

    if the landlord under the lease is an accountable person for the regulated building under the Building Safety (Wales) Act 2026, the landlord or any manager appointed by a management order relating to the building;

    (b)

    otherwise, any superior landlord who is an accountable person for the building or any manager appointed by a management order relating to the building.

(5)The Welsh Ministers may by regulations amend subsection (3) to add, remove or modify a description of costs incurred or to be incurred by or on behalf of a relevant person in connection with the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it.

(6)The regulations may make—

(a)supplementary, incidental, transitional or saving provision (including provision amending this Act);

(b)different provision for different purposes.

(7)Regulations under this section are to be made by Welsh statutory instrument and are subject to the Senedd approval procedure.

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

74Darparu gwybodaeth am ddiogelwch adeiladau i denantiaidLL+C

(1)Mae Deddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 47A mewnosoder—

47BBuilding safety information to be contained in demands for rent etc: Wales

(1)Where premises to which this Part applies are premises in Wales which consist of or include a dwelling in a regulated building, any written demand given to a tenant of the premises must contain the relevant building safety information.

(2)Where—

(a)a tenant of such premises is given such a demand, but

(b)the demand does not contain the relevant building safety information,

any part of the amount demanded which consists of a service charge or an administration charge (“the relevant amount”) is to be treated for all purposes as not being due from the tenant to the landlord at any time before the landlord gives the relevant building safety information to the tenant.

(3)But the relevant amount is not to be so treated in relation to any time when—

(a)by virtue of an order of any court or tribunal there is in force an appointment of a receiver or manager whose functions include the receiving of service charges or administration charges from the tenant,

(b)an order under section 24 is in force in relation to the premises which appoints a manager to carry out any of the duties of an accountable person under the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it, or

(c)in the case of premises which consist of or include a dwelling in a category 1 building, a special measures order is in force in relation to the building.

(4)Subsections (2) and (3) do not apply in relation to a written demand for payment of a service charge if section 21C of the Landlord and Tenant Act 1985 requires the demand to include information which subsection (1) also requires the demand to include.

(5)In this section—

  • accountable person” has the meaning given by section 8 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • category 1 building” has the meaning given by sections 6 and 7 of that Act;

  • demand” has the meaning given by section 47(4);

  • regulated building” has the meaning given by sections 2 and 7 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • relevant building safety information” has the meaning given by section 49B;

  • “special measures order means an order under section 109 of the Building Safety (Wales) Act 2026.

(3)Ar ôl adran 49A mewnosoder—

49BNotification by landlord of building safety information: Wales

(1)Where premises to which this Part applies are premises in Wales which consist of or include a dwelling in a regulated building, the landlord must give the tenant a notice containing the relevant building safety information.

(2)Where a landlord fails to give a notice to a tenant in accordance with subsection (1), any rent, service charge or administration charge otherwise due from the tenant to the landlord is to be treated for all purposes as not being due from the tenant to the landlord at any time before the landlord gives the notice to the tenant.

(3)But any such rent, service charge or administration charge is not to be so treated in relation to any time when—

(a)by virtue of an order of any court or tribunal there is in force an appointment of a receiver or manager whose functions include the receiving of rent, service charges or administration charges from the tenant, or

(b)an order under section 24 is in force in relation to the premises which appoints a manager to carry out any of the duties of an accountable person under the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it, or

(c)in the case of premises which consist of or include a dwelling in a category 1 building, a special measures order is in force in relation to the building.

(4)The requirement to give a notice to a tenant under subsection (1) may be satisfied by giving the notice to them at a time when they are a prospective tenant.

(5)In this section “relevant building safety information” means—

(a)the name of each person listed in subsection (6);

(b)an email address and telephone number through which each person listed in subsection (6) may be contacted;

(c)a postal address in the United Kingdom at which notices (including notices in proceedings) may be served by the tenant on the principal accountable person for the regulated building;

(d)a postal address for the building safety authority for the building;

(e)such other information as may be prescribed in regulations made by the Welsh Ministers.

(6)The persons are—

(a)the principal accountable person for the regulated building;

(b)any manager appointed by an order mentioned in subsection (3)(b) or (c);

(c)the building safety authority for the regulated building.

(7)In this section—

  • accountable person” has the meaning given by section 8 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • building safety authority” has the meaning given by section 122 of that Act;

  • category 1 building” has the meaning given by sections 6 and 7 of that Act;

  • principal accountable person” has the meaning given by section 9 of that Act;

  • regulated building” has the meaning given by sections 2 and 7 of that Act;

  • special measures order” means an order under section 109 of that Act.

(8)Regulations under subsection (5)(e) are to be made by Welsh statutory instrument and are subject to the Senedd annulment procedure.

Gwybodaeth Cychwyn

I74A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Contractau meddiannaethLL+C

75Pŵer i wneud darpariaeth sy’n ymwneud â thelerau contractau meddiannaethLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) i—

(a)cynnwys darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth, neu i fathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth, at y diben o alluogi landlord neu ddeiliad contract i gydymffurfio â darpariaeth yn y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani;

(b)darparu bod darpariaeth o’r Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth, neu i fathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch—

(i)ymgorffori, neu ymgorffori gydag addasiadau, ddarpariaeth sylfaenol a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) fel teler sylfaenol contract meddiannaeth;

(ii)amrywio teler sylfaenol o’r fath.

(2)Caiff y rheoliadau hefyd—

(a)diwygio adran 30IA o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70) (a fewnosodir gan adran 70 o’r Ddeddf hon) i ddarparu nad yw’n gymwys i unrhyw gontract meddiannaeth, neu i fathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth;

(b)gwneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(3)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon a ddefnyddir hefyd yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yr un ystyron yn yr adran hon ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

CyfunddaliadauLL+C

76Cyfunddaliadau: darpariaeth ar gyfer cydymffurfio â dyletswyddau diogelwch adeiladauLL+C

(1)Mae Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 14 (unedau cyfunddaliad: defnydd, cynnal a chadw a diogelwch adeiladau), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)A commonhold community statement for a commonhold in Wales that includes all or any part of a regulated building must make provision requiring the commonhold association to comply with its duties under the Building Safety (Wales) Act 2026, or regulations made under it, in relation to each commonhold unit.

(3)Yn adran 26 (rhannau cyffredin: defnydd, cynnal a chadw a diogelwch adeiladau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)A commonhold community statement for a commonhold in Wales that includes all or any part of a regulated building must make provision requiring the commonhold association to comply with its duties under the Building Safety (Wales) Act 2026, or regulations made under it, in relation to the common parts.

(4)Yn adran 38A (codi incwm o ddeiliaid unedau: asesiad diogelwch adeiladau)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “higher-risk commonhold” mewnosoder “, or for a commonhold in Wales that includes all or any part of a regulated building,”;

(b)yn is-adran (3), ar ôl “In this section” mewnosoder “as it applies in relation to a higher-risk commonhold”;

(c)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(4)In this section as it applies in relation to a commonhold in Wales that includes all or any part of a regulated building—

  • building safety expenses of the association” means—

    (a)

    the expenses incurred by the commonhold association in connection with taking measures that the association is required or permitted to take under the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it;

    (b)

    where the commonhold includes all or any part of a category 1 building for which a special measures manager has been appointed, the expenses incurred by the association or the manager in connection with the taking of measures that the manager is required or permitted to take under the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it;

  • category 1 building” has the meaning given by sections 6 and 7 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • “special measures manager means a person appointed under section 109 of that Act.

(5)Yn adran 69(1) (dehongli)—

(a)hepgorer yr “and” ar ôl y diffiniad o “instrument”;

(b)ar ôl y diffiniad o “object” mewnosoder— and

  • “regulated building“ has the meaning given by sections 2 and 7 of the Building Safety (Wales) Act 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I76A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rheoliadau o dan adrannau 17, 28(2) a 75LL+C

77Rheoliadau o dan adrannau 17, 28(2) a 75: gweithdrefn gychwynnolLL+C

(1)Ni chaiff Gweinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 17‍, 28(2) neu 75 gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 135(4) oni bai—

(a)eu bod wedi gosod y dogfennau gofynnol gerbron Senedd Cymru, a

(b)bod cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y dogfennau gofynnol (“y cyfnod o 60 o ddiwrnodau”) wedi dod i ben.

(2)Y “dogfennau gofynnol” yw—

(a)drafft arfaethedig o’r rheoliadau, a

(b)datganiad—

(i)sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan adran 17(2) neu 28(7) (fel y bo’n gymwys), a

(ii)sy’n egluro pam y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y rheoliadau’n angenrheidiol.

(3)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau, rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu neu’n cymryd toriad am fwy na phedwar diwrnod.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cydymffurfio ag is-adran (1), yn gosod offeryn statudol Cymreig drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 17‍, 28(2) neu 75 gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 135(4), rhaid iddynt gynnwys gyda’r drafft ddatganiad sy’n rhoi manylion y canlynol—

(a)unrhyw sylwadau a gafwyd ganddynt yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau, a

(b)unrhyw wahaniaethau rhwng y drafft arfaethedig o’r rheoliadau a’r rheoliadau yn yr offeryn statudol Cymreig drafft.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau a wneir yn unig at y diben o ddiwygio darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adran 28(2) sy’n ymwneud â’r materion a nodir yn adran 28(4) neu (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

RHAN 2LL+CDIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL

Termau allweddolLL+C

78Ystyr “tŷ amlfeddiannaeth perthnasol”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyr cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “tŷ amlfeddiannaeth perthnasol”.

(2)Mae adeilad, neu ran o adeilad, yn dŷ amlfeddiannaeth perthnasol os—

(a)yw’n dŷ amlfeddiannaeth,

(b)yw’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, ac

(c)nad yw’n cael ei eithrio rhag bod yn dŷ amlfeddiannaeth perthnasol gan is-adran (3).

(3)Nid yw tŷ amlfeddiannaeth yn dŷ amlfeddiannaeth perthnasol os—

(a)yw’n cynnwys dwy uned breswyl neu ragor;

(b)yw ond wedi ei feddiannu gan bersonau sydd o fewn yr is-baragraffau a ganlyn—

(i)un neu ragor o bersonau a chanddynt fuddiant perthnasol ynddo;

(ii)unrhyw un neu ragor o aelodau o aelwyd person neu bersonau o’r fath;

(iii)dim mwy na dau berson arall;

(c)yw’r person sy’n ei reoli neu’r person â rheolaeth ohono yn gomisiynydd heddlu a throseddu;

(d)yw o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (pa un ai drwy gyfeirio at y ffaith y caiff ei feddiannaeth ei rheoleiddio gan ddeddfiad penodedig neu o dan ddeddfiad penodedig, neu unrhyw fater arall).

(4)At ddibenion is-adran (3)(b), mae gan y personau a ganlyn fuddiant perthnasol mewn tŷ amlfeddiannaeth—

(a)perchennog yr ystad rydd-ddaliadol yn y cyfan ohono;

(b)tenant o dan les am y cyfan ohono (pa un a yw’r les yn gontract meddiannaeth ai peidio);

(c)deiliad contract o dan gontract meddiannaeth sy’n drwydded i feddiannu’r cyfan ohono.

(5)Mae cyfeiriadau at dŷ amlfeddiannaeth perthnasol yng ngweddill darpariaethau y Ddeddf hon—

(a)yn cynnwys unrhyw dŷ allan, garej, maes parcio, iard, gardd neu ardal arall a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (pa un ai y caiff ei ddefnyddio neu ei defnyddio gan bersonau eraill,‍ y caiff personau eraill fudd ohono neu ohoni neu y caiff personau eraill fwynhad ohono neu ohoni ai peidio), a

(b)yn achos tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sy’n rhan o adeilad, yn cynnwys—

(i)unrhyw ran o strwythur a thu allan y rhan honno o’r adeilad;

(ii)unrhyw ran o’r adeilad a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (pa un ai y caiff ei defnyddio gan bersonau eraill,‍ y caiff personau eraill fudd ohoni neu y caiff personau eraill fwynhad ohoni ai peidio).

(6)Ond nid yw cyfeiriadau at dŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yn achos tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sy’n rhan o adeilad rheoleiddiedig a feddiennir, yn cynnwys unrhyw beth a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol a phreswylwyr unrhyw uned breswyl arall yn yr adeilad.

(7)Yn yr adran hon—

  • mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) a “deiliad contract” (“contract holder”) yr ystyron a roddir gan adran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler hefyd adran 48 o’r Ddeddf honno);

  • mae “strwythur a thu allan” (“structure and exterior”), mewn perthynas ag adeilad, yn cynnwys—

    (a)

    waliau allanol a mewnol (pa un ai a ydynt yn cynnal pwysau ai peidio);

    (b)

    lloriau a nenfydau;

    (c)

    ffenestri, drysau a balconïau;

  • mae i “tŷ amlfeddiannaeth” yr ystyr a roddir i “house in multiple occupation” yn adrannau 254 i 259 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34), fel y mae’r adrannau hynny’n cael effaith at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf honno (hynny yw, heb y gwaharddiadau a gynhwysir yn Atodlen 14 i’r Ddeddf honno), ond nid yw’n cynnwys bloc fflatiau a droswyd y mae adran 257 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r adran hon (ac eithrio is-adran (1) a’r is-adran hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I78A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

79Ystyr “landlord” a “deiliaid dyletswydd” ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyron cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y “landlord” a “deiliaid dyletswydd” mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(2)Landlord tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yw’r person sy’n berson sy’n rheoli’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn rhinwedd bod yn berchennog neu’n lesddeiliad.

(3)Ond—

(a)os yw’r lesydd a’r lesddeiliad o dan les y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol ill dau yn bodloni’r diffiniad yn is-adran (2), landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yw’r lesddeiliad (nid y lesydd);

(b)os nad oes unrhyw berson yn bodloni’r diffiniad hwnnw, y landlord yw’r person â rheolaeth dros y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(4)Mae’r personau a ganlyn yn ddeiliaid dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol—

(a)y landlord;

(b)unrhyw berson arall sy’n berson sy’n rheoli’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, p’un ai yn rhinwedd bod yn berchennog neu’n lesddeiliad, neu’n asiant neu’n ymddiriedolwr iddynt.

(5)Os oes gan unrhyw berson arall rwymedigaeth o dan gontract neu les sy’n ymwneud ag atgyweirio, cynnal a chadw neu ddiogelwch rhannau perthnasol o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, mae’r person hwnnw yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol mewn perthynas â materion o fewn cwmpas y rhwymedigaeth.

(6)Os oes gan unrhyw berson arall unrhyw radd o reolaeth dros rannau perthnasol y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, mae’r person hwnnw yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol mewn perthynas â materion o fewn rheolaeth y person.

(7)Y “rhannau perthnasol” o dŷ amlfeddiannaeth perthnasol yw unrhyw rannau ohono nad ydynt yn cael eu darparu at ddefnydd unigryw, er budd unigryw neu er mwynhad unigryw bersonau sy’n ffurfio aelwyd unigol.

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

80Ystyr “risg diogelwch tân” mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasolLL+C

Yn y Ddeddf hon ystyr “risg diogelwch tân”, mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yw risg i ddiogelwch pobl yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu o’i amgylch sy’n deillio o—

(a)achos o dân (pa un ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol) mewn unrhyw ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu

(b)lledaeniad tân o fewn unrhyw ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, i unrhyw ran ohono neu o unrhyw ran ohono.

Gwybodaeth Cychwyn

I80A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Asesu a rheoli risgiau diogelwch tân mewn tai amlfeddiannaeth perthnasolLL+C

81Asesiad o risgiau diogelwch tân: dyletswyddau landlordLL+C

(1)Rhaid i landlord tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sicrhau bod y risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn cael eu hasesu yn unol â’r adran hon, adran 82 i 84 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny.

(2)Cyfeirir at asesiad o dan is-adran (1) yn y Ddeddf hon fel “asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth”.

(3)Rhaid i asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth fod yn addas ac yn ddigonol i alluogi pob deiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i gydymffurfio ag adran 85 (rheoli risgiau diogelwch tân mewn tai amlfeddiannaeth perthnasol).

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

82Gofyniad i asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth gael ei wneud gan berson cymwysLL+C

(1)Rhaid i berson cymwys wneud asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth.

(2)Ystyr “person cymwys” yw unigolyn neu gorff sy’n meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol i asesu’r risgiau diogelwch tân mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu gofynion y mae rhaid i unigolyn neu gorff eu bodloni er mwyn ystyried eu bod yn meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol at y diben hwnnw (gan gynnwys gofynion ar gyfer cymwysterau penodol neu ar gyfer achrediad gan sefydliad penodol, neu aelodaeth o sefydliad o’r fath).

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob awdurdod diogelwch tân, a

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Os gwneir asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth gan berson nad yw’n berson cymwys—

(a)mae’r person sy’n gwneud yr asesiad yn cyflawni trosedd, a

(b)mae landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn cyflawni trosedd os oedd y landlord yn gwybod, neu y dylai’n rhesymol fod wedi gwybod, nad oedd y person sy’n gwneud yr asesiad yn berson cymwys.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n yn hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(7)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person yn cynnig gwneud asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a

(b)os nad yw’r person yn berson cymwys.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I82A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

83Amseru ac adolygu asesiadau risg tân ar dŷ amlfeddiannaethLL+C

(1)Rhaid gwneud yr asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyntaf ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y diweddaraf o’r hyn a ganlyn—

(a)y diwrnod y caiff yr adeilad, neu ran o adeilad, o dan sylw ei feddiannu neu ei meddiannu fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(b)y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(2)Rhaid gwneud asesiadau risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn ddigwydd—

(a)bod gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu bod newidiadau i feddiannaeth neu ddefnydd unrhyw ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, y mae caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheolaeth adeiladau yn ofynnol ar eu cyfer;

(b)bod gwaith yn cael ei wneud‍ am y tro cyntaf mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i addasu unrhyw ran ohono i ddiwallu anghenion preswylwyr anabl (ac eithrio gwaith a wneir heb yn wybod i’r landlord y tu mewn i ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad aelwyd unigol);

(c)bod tân yn achosi difrod i unrhyw un neu ragor o rannau perthnasol y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 79(7));

(d)bod canfyddiadau adolygiad o dan is-adran (5) yn awgrymu nad yw’r asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyfredol yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben a grybwyllir yn adran 81(3);

(e)bod gan y landlord unrhyw reswm arall dros amau nad yw’r asesiad cyfredol yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben hwnnw.

(3)Ond os bydd unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) yn digwydd ar adeg pan nad yw’r adeilad, neu ran o adeilad, o dan sylw wedi ei feddiannu neu ei meddiannu fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, rhaid gwneud asesiad risg tân pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad gael ei feddiannu neu ei meddiannu eto fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(4)Rhaid i’r landlord sicrhau, os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, fod asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth pellach yn cael ei wneud o fewn cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5)Rhaid i’r landlord sicrhau bod yr asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyfredol yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 12 mis ar ôl i’r asesiad gael ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

84Darpariaeth bellach am asesiadau risg tân ar dŷ amlfeddiannaethLL+C

(1)Rhaid i landlord tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sicrhau—

(a)y cofnodir yn ysgrifenedig ganfyddiadau pob asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth ac adolygiad sy’n ymwneud â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a

(b)pan fo mwy nag un deiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, y rhoddir copïau i bob deiliad dyletswydd arall.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo’r cyfnodau ar gyfer gwneud ac adolygu asesiadau risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth pan fo bwlch ym meddiannaeth adeilad, neu ran o adeilad, fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(b)pennu materion y mae rhaid eu hystyried fel rhan o asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth neu adolygiad;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch y fethodoleg y mae rhaid ei defnyddio wrth wneud neu adolygu asesiad;

(d)pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod ysgrifenedig asesiad neu adolygiad.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob awdurdod tai lleol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer galluogi landlord tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i adennill costau perthnasol oddi wrth unrhyw berson arall sy’n ddeiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, ac mewn cysylltiad â hynny.

(5)Yn is-adran (4) ystyr “costau perthnasol” yw unrhyw gostau yr aed iddynt neu yr eir iddynt gan y landlord mewn cysylltiad ag asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth neu adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I84A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

85Rheoli risgiau diogelwch tân gan ddeiliaid dyletswyddLL+C

(1)Rhaid i bob deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol gymryd pob cam rhesymol i—

(a)atal risg diogelwch tân rhag cael ei gwireddu mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a

(b)lleihau difrifoldeb unrhyw ddigwyddiad sy’n deillio o wireddiad risg o’r fath.

(2)Rhaid i’r camau y mae deiliad dyletswydd yn eu cymryd, yn benodol, gynnwys pob cam rhesymol i—

(a)lleihau’r tebygolrwydd y bydd tân yn cychwyn (pa un ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol) yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(b)lleihau’r tebygolrwydd y bydd unrhyw dân sy’n cychwyn yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu’n agos ato yn lledaenu ynddo, iddo neu ohono;

(c)sicrhau bod pobl yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu o’i amgylch y mae eu diogelwch mewn perygl oherwydd tân yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn gallu dianc yn gyflym ac yn ddiogel;

(d)sicrhau y gellir ymladd unrhyw dân yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn brydlon ac yn effeithiol.

(3)Caiff y camau y mae deiliad dyletswydd yn eu cymryd o dan yr adran hon gynnwys gwneud gwaith i’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(4)Wrth benderfynu ar y camau sydd i’w cymryd o dan yr adran hon, rhaid i ddeiliad dyletswydd roi sylw penodol i’r asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyfredol ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(5)Rhaid cymryd camau sy’n ofynnol gan yr adran hon yn brydlon.

(6)Rhaid i ddeiliad dyletswydd—

(a)gwneud trefniadau i sicrhau y caiff y camau a gymerir gan y deiliad dyletswydd o dan yr adran hon eu cynllunio, eu trefnu, eu rheoli, eu monitro a’u hadolygu’n effeithiol, a

(b)rhoi effaith i’r trefniadau hynny.

(7)Rhaid i ddeiliad dyletswydd sicrhau y caiff cofnod ysgrifenedig ei wneud o—

(a)trefniadau y mae’r deiliad dyletswydd yn eu gwneud o dan yr adran hon, a

(b)camau y mae’r deiliad dyletswydd yn eu cymryd o dan yr adran hon.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn sy’n gamau rhesymol at ddibenion yr adran hon;

(b)pennu materion y mae rhaid i ddeiliad dyletswydd roi sylw iddynt, neu egwyddorion y mae rhaid i ddeiliad dyletswydd weithredu yn unol â hwy, wrth benderfynu ar y camau i’w cymryd o dan yr adran hon neu wrth gymryd y camau;

(c)pennu gofynion y mae rhaid i drefniadau o dan yr adran hon gydymffurfio â hwy;

(d)pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cofnod ysgrifenedig o’r trefniadau a wnaed, neu gamau a gymerir, o dan yr adran hon.

(9)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (8), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob awdurdod tai lleol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Darparu gwybodaeth a dogfennau sy’n ymwneud â thai amlfeddiannaeth perthnasolLL+C

86Gofyniad i roi gwybodaeth a dogfennau i ddeiliad dyletswyddLL+C

(1)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i berson sy’n berson perthnasol mewn perthynas ag adeilad roi gwybodaeth neu ddogfen i ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn yr adeilad (gweler hefyd erthygl 22E o’r Gorchymyn Diogelwch Tân).

(2)At ddibenion yr adran hon, mae person yn berson perthnasol mewn perthynas ag adeilad os—

(a)yw’r adeilad yn adeilad rheoleiddiedig a bod y person—

(i)yn berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(ii)yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn yr adeilad;

(b)yw’r person—

(i)yn dal ystad gyfreithiol yn unrhyw ran o’r adeilad;

(ii)yn dal ystad gyfreithiol yn unrhyw ran o fangre sy’n ffurfio rhan o’r un strwythur neu set o strwythurau â’r adeilad ac sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwch ben neu o dan yr adeilad.

(3)Mae is-adran (1) yn gymwys pan—

(a)bo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn angenrheidiol i’r deiliad dyletswydd gydymffurfio â gofyniad o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani,

(b)bo’r deiliad dyletswydd yn rhoi i’r person perthnasol gais ysgrifenedig sy’n—

(i)datgan y gwneir y cais yn unol â’r adran hon,

(ii)esbonio pam y mae’r wybodaeth neu’r ddogfen yn ofynnol gan y deiliad dyletswydd,

(iii)datgan y cyfeiriad y mae rhaid rhoi’r wybodaeth neu’r ddogfen iddo, a

(iv)datgan bod rhaid rhoi’r wybodaeth neu’r ddogfen cyn diwedd dyddiad penodedig heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir y cais,

(c)bo’n rhesymol i’r person perthnasol roi i’r deiliad dyletswydd yr wybodaeth neu’r ddogfen, a

(d)yn achos cais am wybodaeth, ni all y deiliad dyletswydd wneud cais am yr wybodaeth gan y person perthnasol o dan adran 88(4).

(4)Nid yw datgelu gwybodaeth neu ddogfen yn unol â’r adran hon yn torri—

(a)unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth neu ddogfen (sut bynnag y caiff ei osod).

(5)Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).

(6)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I86A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

87Gofyniad i ddeiliad dyletswydd roi gwybodaeth a dogfennau i bersonau eraillLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol roi gwybodaeth berthnasol a bennir yn y rheoliadau, neu ddogfen berthnasol a bennir yn y rheoliadau, i—

(a)awdurdod diogelwch tân y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(b)meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(c)unrhyw berson arall a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)pryd y mae rhaid rhoi gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol;

(b)sut y mae rhaid ei rhoi;

(c)y ffurf y mae rhaid ei rhoi ynddi.

(3)Caiff y rheoliadau osod gofynion yn ddarostyngedig i amodau neu eithriadau.

(4)Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)darparu ei bod yn ofynnol i ddeiliad dyletswydd roi gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol i berson dim ond os yw’r person wedi gofyn amdani;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae cais i’w wneud.

(5)Pan fo rheoliadau o dan yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol gael ei rhoi i awdurdod diogelwch tân, cânt wneud darpariaeth ynghylch derbynioldeb yr wybodaeth neu’r ddogfen mewn unrhyw achos troseddol.

(6)Yn yr adran hon, mae gwybodaeth a dogfennau yn “perthnasol” os ydynt yn ymwneud â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Dyletswyddau meddianwyr tai amlfeddiannaeth perthnasolLL+C

88Dyletswyddau meddianwyr sy’n ymwneud â risgiau diogelwch tân a darparu gwybodaethLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i feddiannydd tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sy’n 18 oed neu’n hŷn, pan na fo’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig.

(2)Rhaid i’r meddiannydd beidio ag—

(a)yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, ar y tŷ hwnnw neu mewn perthynas â’r tŷ hwnnw, wneud unrhyw weithred sy’n creu risg sylweddol neu sy’n cynyddu’n sylweddol unrhyw risg bresennol, os bydd tân yn cychwyn yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, y bydd y tân yn lledaenu o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(b)heb esgus rhesymol, symud ymaith, difrodi, neu ymyrryd â gweithrediad unrhyw beth—

(i)sydd yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu sy’n ffurfio rhan ohono, a

(ii)sydd wedi ei fwriadu i wella diogelwch pobl yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu o’i amgylch mewn perthynas â risg diogelwch tân.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys i feddiannydd tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sy’n 18 oed neu’n hŷn, pa un a yw’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig ai peidio.

(4)Rhaid i’r meddiannydd gydymffurfio â chais am wybodaeth os—

(a)yw’r cais—

(i)yn cael ei wneud gan landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a

(ii)am wybodaeth sy’n angenrheidiol i alluogi’r landlord i gydymffurfio ag adrannau 81 i 84 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân);

(b)yw’r cais—

(i)yn cael ei wneud gan ddeiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a

(ii)am wybodaeth sy’n angenrheidiol i alluogi’r deiliad dyletswydd i gydymffurfio ag adran 85 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân).

Gwybodaeth Cychwyn

I88A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

89Mynediad gan ddeiliaid dyletswydd at ddibenion asesu a rheoli risgiau diogelwch tânLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)‍bo deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn gwneud cais am fynediad i ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol a bennir yn y cais (“y rhan benodedig”),

(b)gwneir y cais i feddiannydd o’r rhan benodedig sy’n 18 oed neu’n hŷn,

(c)‍bo’r cais yn cael ei wneud at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2),

(d)‍bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (3), ac

(e)na roddir mynediad i’r rhan benodedig.

(2)Y dibenion yw galluogi’r deiliad dyletswydd—

(a)i gydymffurfio ag adrannau 81 i 84 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân), pan‍ mai’r deiliad dyletswydd yw landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(b)i gydymffurfio ag adran 85 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân).

(3)Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)yn ysgrifenedig,

(b)yn nodi’r diben y gwneir y cais ar ei gyfer,

(c)yn esbonio pam ei bod yn angenrheidiol mynd i’r rhan benodedig o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol at y diben hwnnw,

(d)yn gofyn am fynediad ar ddyddiad, ac amser, sy’n rhesymol, ac

(e)yn cael ei roi i’r meddiannydd o leiaf 48 awr cyn hynny.

(4)Caiff y deiliad dyletswydd wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth.

(5)Ond ni chaiff deiliad dyletswydd wneud cais am orchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth oni bai bod y deiliad dyletswydd wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn nodi’r bwriad i wneud cais am orchymyn o’r fath mewn cysylltiad â’r meddiannydd a’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (y mae rhaid i’r ddau ohonynt gael eu pennu yn yr hysbysiad).

(6)Mae gorchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth yn orchymyn sydd—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd ganiatáu i’r deiliad dyletswydd fynd i’r rhan benodedig o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol ar amser rhesymol at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b), a

(b)os yw’n angenrheidiol at y diben hwnnw, yn awdurdodi’r person sy’n mynd i’r rhan benodedig yn unol â’r gorchymyn i fesur neu brofi unrhyw beth, neu gymryd samplau, ffotograffau neu recordiadau.

(7)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth os yw’n fodlon ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b).

(8)Rhaid i orchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth bennu dyddiad y caniateir mynediad i’r rhan benodedig o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I89A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Mynediad i fangre amhreswylLL+C

90Mynediad i fangre amhreswyl gan ddeiliad dyletswyddLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)bo deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn gwneud cais i berson perthnasol am fynediad i fangre berthnasol,

(b)bo’r cais yn cael ei wneud at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2),

(c)bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (3), a

(d)na roddir mynediad i’r fangre.

(2)Y dibenion yw—

(a)pan mai’r deiliad dyletswydd yw landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, galluogi’r person hwnnw i gydymffurfio ag adrannau 81 i 84 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân);

(b)galluogi’r deiliad dyletswydd i gydymffurfio ag adran 85 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân).

(3)Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)yn ysgrifenedig,

(b)yn nodi’r diben y gwneir y cais ar ei gyfer,

(c)yn esbonio pam ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre berthnasol at y diben hwnnw, a

(d)yn gofyn am fynediad ar ddyddiad, ac amser, sy’n rhesymol.

(4)Caiff y deiliad dyletswydd wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon.

(5)Mae gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon yn orchymyn sydd—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person perthnasol ganiatáu i’r deiliad dyletswydd fynd i’r fangre berthnasol ar amser rhesymol at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b), a

(b)os yw’n angenrheidiol at y diben hwnnw, yn awdurdodi’r person sy’n mynd i’r fangre yn unol â’r gorchymyn i fesur neu brofi unrhyw beth, neu gymryd samplau, ffotograffau neu recordiadau.

(6)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon os yw’n fodlon ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b).

(7)Rhaid i’r gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl bennu dyddiad y caniateir mynd i’r fangre, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.

(8)Yn yr adran hon—

  • ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw unrhyw fangre—

    (a)

    sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwchben neu o dan y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a

    (b)

    nad yw—

    (i)

    yn uned breswyl neu ran o uned breswyl, neu

    (ii)

    yn ardal, neu ran o ardal, a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr uned breswyl benodol, neu unedau preswyl penodol;

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r fangre berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I90A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

CyffredinolLL+C

91Cydweithredu a chydlynu gan ddeiliaid dyletswyddLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo mwy nag un deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(2)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon a’r rheoliadau a wneir oddi tani, rhaid i bob deiliad dyletswydd, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob deiliad dyletswydd arall ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo—

(a)person yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig, a

(b)un neu ragor o bersonau eraill yn bersonau atebol ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.

(4)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon a’r rheoliadau a wneir oddi tani, rhaid‍ i’r deiliad dyletswydd, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob person atebol ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo—

(a)person yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad categori 1, a

(b)gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas â’r adeilad categori 1.

(6)Rhaid i’r deiliad dyletswydd gydweithredu â’r rheolwr mesurau arbennig a benodir gan y gorchymyn at ddiben y rheolwr yn cyflawni ei swyddogaethau o dan y gorchymyn.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys pan fo—

(a)person yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig, a

(b)gorchymyn o dan adran 24 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) mewn grym sy’n penodi rheolwr i gyflawni unrhyw swyddogaethau diogelwch adeiladau mewn perthynas â’r adeilad rheoleiddiedig neu unrhyw ran ohono.

(8)Rhaid i’r deiliad dyletswydd gydweithredu â’r rheolwr at ddiben y rheolwr yn cyflawni ei swyddogaethau diogelwch adeiladau o dan y gorchymyn.

(9)Yn is-adrannau (7) ac (8), ystyr “swyddogaeth diogelwch adeiladau” yw swyddogaeth y mae’r Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn ei darparu ei bod i’w chyflawni gan berson atebol ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.

(10)Mae is-adran (11) yn gymwys pan fo—

(a)person yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a

(b)un neu ragor o bersonau eraill yn bersonau cyfrifol at ddibenion y Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas ag—

(i)y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu

(ii)os yw’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn ffurfio rhan o adeilad, unrhyw fangre arall sy’n ffurfio rhan o’r adeilad.

(11)Rhaid i’r deiliad dyletswydd, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob person cyfrifol at ddiben pob person cyfrifol yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Gwybodaeth Cychwyn

I91A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

92Pŵer i gymhwyso’r Rhan hon i gartrefi symudolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, mewn amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, fod cartref symudol a feddiennir at ddibenion preswyl gan bersonau nad ydynt yn ffurfio aelwyd unigol i’w drin fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu, mewn perthynas â chartref symudol sy’n cael ei drin fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon neu reoliadau a wneir oddi tani—

(a)ddim yn gymwys, neu

(b)yn gymwys gydag addasiadau a bennir yn y rheoliadau.

(3)Yn yr adran hon, mae i “cartref symudol” yr ystyr a roddir gan adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc 6).

Gwybodaeth Cychwyn

I92A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

93DehongliLL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “person â rheolaeth” yr ystyr a roddir i “person having control” gan adran 263(1) o Ddeddf Tai 2004 (p. 34) (ond nid yw’r diffiniad hwnnw’n gymwys at ddibenion adran 79(6));

  • mae i “person sy’n rheoli” yr ystyr a roddir i “person managing” gan adran 263(3) o’r Ddeddf honno.

(2)Ac eithrio fel y darperir yn adran 78(7), mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rhan hon a ddefnyddir hefyd yn Neddf Tai 2004 yr un ystyron yn y Rhan hon ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I93A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

RHAN 3LL+CPWERAU GORFODI AC YMCHWILIO

Awdurdodau gorfodiLL+C

94Swyddogaethau gorfodi awdurdodau diogelwch tân ac awdurdodau diogelwch adeiladauLL+C

(1)Mae’n un o swyddogaethau’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig i orfodi, mewn perthynas â’r adeilad—

(a)gofyniad a osodir ar berson atebol (neu berson sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36) gan—

(i)adrannau 29 i 33 neu reoliadau a wneir oddi tanynt (asesu a rheoli risgiau diogelwch tân);

(ii)adrannau 48 i 50 neu reoliadau a wneir oddi tanynt (cadw a rhoi gwybodaeth);

(iii)adran 68 (cydweithredu a chydlynu);

(b)gofyniad a osodir ar berson gan—

(i)adran 47 (rhoi gwybodaeth a dogfennau);

(ii)adran 54 (dyletswyddau diogelwch tân preswylwyr etc.)‍;

(c)gofyniad a osodir ar berson gan adran 56 (atgyweirio gwrthiant tân unedau preswyl);‍‍

(d)gofyniad a osodir ar berson cyfrifol gan erthygl 22C, 22D neu 22E o’r Gorchymyn Diogelwch Tân (cydweithredu a gwybodaeth) (gan gynnwys pan osodir gofyniad o’r fath yn rhinwedd erthygl 5(3) o’r Gorchymyn hwnnw).

(2)Mae’n un o swyddogaethau’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad rheoleiddiedig i orfodi, mewn perthynas â’r adeilad—

(a)gofyniad a osodir ar berson atebol (neu berson sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36) gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, ac eithrio gofyniad a osodir gan adrannau 29 i 33 neu reoliadau a wneir oddi tanynt;

(b)gofyniad a osodir ar berson gan—

(i)adran 47 (rhoi gwybodaeth a dogfennau);

(ii)adran 55 (dyletswyddau diogelwch strwythurol preswylwyr etc.);‍

(c)gofyniad a osodir ar berson cyfrifol gan erthygl 22C, 22D neu 22E o’r Gorchymyn Diogelwch Tân (gan gynnwys pan osodir gofyniad o’r fath yn rhinwedd erthygl 5(3) o’r Gorchymyn hwnnw).

(3)Mae’n un o swyddogaethau’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i orfodi, mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol—

(a)gofyniad a osodir ar ddeiliad dyletswydd gan—

(i)adrannau 81 i 85 neu reoliadau a wneir oddi tanynt (asesu a rheoli risgiau diogelwch tân);

(ii)adran 91 (cydweithredu a chydlynu);

(b)gofyniad a osodir ar berson gan—

(i)adran 86 (rhoi gwybodaeth a dogfennau);

(ii)adran 88 (dyletswyddau diogelwch tân meddianwyr);

(c)gofyniad a osodir ar berson cyfrifol gan erthygl 22C, 22D neu 22E o’r Gorchymyn Diogelwch Tân (gan gynnwys pan osodir gofyniad o’r fath yn rhinwedd erthygl 5(3) o’r Gorchymyn hwnnw).

(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod gorfodi” yw awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân.

Gwybodaeth Cychwyn

I94A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Pwerau awdurdodau gorfodi i roi hysbysiadauLL+C

95Pŵer awdurdod gorfodi i roi hysbysiad gwybodaethLL+C

(1)Caiff awdurdod gorfodi roi hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson at ddiben—

(a)ymchwilio i gydymffurfedd ag unrhyw ofyniad y mae gan yr awdurdod y swyddogaeth o orfodi, neu

(b)arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau eraill yr awdurdod o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(2)Mae hysbysiad gwybodaeth yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi gwybodaeth benodedig neu ddogfennau penodedig i’r awdurdod o fewn cyfnod penodedig.

(3)Caiff hysbysiad gwybodaeth bennu—

(a)sut y mae rhaid rhoi unrhyw wybodaeth neu ddogfen;

(b)y ffurf y mae rhaid ei rhoi ynddi.

(4)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw wybodaeth neu ddogfen y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol.

(5)Rhaid i hysbysiad gwybodaeth—

(a)nodi ei fod yn hysbysiad a roddir o dan yr adran hon, a

(b)esbonio canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(6)Caiff awdurdod gorfodi sydd wedi rhoi hysbysiad gwybodaeth i berson dynnu’r hysbysiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach i’r person.

(7)Nid yw gwybodaeth y mae person yn ei rhoi i awdurdod gorfodi o dan yr adran hon yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person mewn achos troseddol ac eithrio—

(a)mewn achos am drosedd o dan adran 101(1)(a),

(b)mewn achos am drosedd o dan adran 108 (darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol),

(c)mewn achos am drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder, neu

(d)os yn yr achos—

(i)wrth roi tystiolaeth, bod y person yn gwneud datganiad sy’n anghyson â’r wybodaeth, a

(ii)y caiff tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth a roddwyd ei dwyn, neu y gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth honno, gan neu ar ran y person.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr hysbysiad gwybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I95A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

96Pŵer awdurdod gorfodi i roi hysbysiad cydymffurfioLL+C

(1)Caiff awdurdod gorfodi roi hysbysiad cydymffurfio i unrhyw berson y mae’n ystyried—

(a)sydd wedi torri gofyniad y mae gan yr awdurdod y swyddogaeth o’i orfodi,

(b)sy’n torri gofyniad o’r fath, neu

(c)sy’n debygol o dorri gofyniad o’r fath.

(2)Mae hysbysiad cydymffurfio yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, wneud unrhyw un neu ragor neu’r cyfan o’r hyn a ganlyn—

(a)unioni’r torri neu’r materion sy’n arwain ato;

(b)cymryd camau penodedig mewn perthynas ag unioni’r toriad;

(c)cymryd camau penodedig mewn perthynas ag osgoi’r toriad rhag digwydd.

(3)Os yw’r awdurdod gorfodi yn ystyried bod y toriad wedi gosod neu y bydd yn gosod pobl perthnasol mewn perygl sydd ar fin digwydd, caiff yr hysbysiad nodi ei fod yn “hysbysiad gweithredu ar frys” at ddibenion adran 97.

(4)Pan fo awdurdod gorfodi yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid iddo ar yr un pryd roi i’r person ddatganiad sy’n—

(a)crynhoi gofynion yr hysbysiad,

(b)egluro canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad, ac

(c)cynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 97.

(5)Pan fo awdurdod diogelwch adeiladau yn rhoi hysbysiad cydymffurfio mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, rhaid iddo sicrhau yr hysbysir y canlynol—

(a)unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol arall yng Nghymru y mae unrhyw ran o’r adeilad wedi ei lleoli yn ei ardal;

(b)awdurdod diogelwch tân yr adeilad;

(c)Gweinidogion Cymru, os yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad yn landlord cymdeithasol cofrestredig;

(d)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(6)Pan fo awdurdod diogelwch tân yn rhoi hysbysiad cydymffurfio mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol, rhaid iddo sicrhau yr hysbysir y canlynol—

(a)yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad ac unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol arall yng Nghymru y mae unrhyw ran o’r adeilad wedi ei lleoli yn ei ardal, os yw’r hysbysiad yn ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig;

(b)Gweinidogion Cymru, os yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad neu landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn landlord cymdeithasol cofrestredig;

(c)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(7)Nid yw methu â chydymffurfio ag is-adran (5) neu (6) yn effeithio ar ddilysrwydd yr hysbysiad.

(8)Caiff awdurdod gorfodi sydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson dynnu’r hysbysiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach i’r person.

(9)Yn is-adran (3), ystyr “pobl perthnasol” yw pobl yn yr adeilad rheoleiddiedig neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol y mae’r toriad yn ymwneud ag ef, neu o amgylch yr adeilad rheoleiddiedig neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol y mae’r toriad yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I96A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

97Apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfioLL+C

(1)Caiff person y rhoddwyd hysbysiad cydymffurfio iddo apelio i dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn yr hysbysiad.

(2)Rhaid gwneud apêl cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r person.

(3)Caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(4)Caniateir i apêl gael ei gwneud ar y naill neu’r llall o’r seiliau a ganlyn neu’r ddwy ohonynt—

(a)nad yw’r person wedi torri, nad yw yn torri, neu nad yw’n debygol o dorri, y gofyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)ei bod yn afresymol ei gwneud yn ofynnol i’r person wneud peth sy’n ofynnol gan yr hysbysiad o dan adran 96(2).

(5)Pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio nad yw’n hysbysiad gweithredu ar frys—

(a)nid yw’r hysbysiad cydymffurfio yn cael effaith hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl, a

(b)caiff y cyfnod ar gyfer cydymffurfio â’r hysbysiad a bennir o dan adran 96(2) ei drin fel pe bai wedi ei estyn gan y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y gwneir yr apêl, a

(ii)sy’n dod i ben ar y diwrnod y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl.

(6)Pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio sy’n hysbysiad gweithredu ar frys—

(a)caiff yr apelydd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd nad yw’r hysbysiad cydymffurfio o unrhyw effaith hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl, a

(b)oni bai y rhoddir cyfarwyddyd o’r fath a hyd nes y rhoddir cyfarwyddyd o’r fath, mae’r hysbysiad cydymffurfio yn parhau i gael effaith er gwaethaf bod yr apêl yn cael ei gwneud.

(7)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau yr hysbysiad cydymffurfio,

(b)amrywio’r hysbysiad, neu

(c)diddymu’r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I97A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

98Pŵer yr awdurdod diogelwch tân i roi hysbysiad gwaharddLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn ystyried bod defnydd o’r adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn cynnwys, neu’n debygol o gynnwys, risg diogelwch tân sydd mor ddifrifol (pa un a yw hynny oherwydd unrhyw beth sy’n effeithio ar allu pobl i ddianc os bydd tân, neu am unrhyw reswm arall) y dylid gwahardd neu gyfyngu ar ddefnydd yr adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(2)Caiff yr awdurdod diogelwch tân roi hysbysiad gwahardd i—

(a)person atebol ar gyfer yr adeilad, neu unrhyw berson arall sy’n cael ei drin fel person atebol ar gyfer yr adeilad yn rhinwedd adran 36;

(b)deiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(3)Mae hysbysiad gwahardd yn hysbysiad sydd—

(a)yn gwahardd y defnydd y cyfeirir ato yn is-adran (1), neu

(b)yn cyfyngu ar y defnydd hwnnw i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad,

hyd nes bod y materion sy’n arwain at y risg diogelwch tân, neu a fydd yn arwain at risg o’r fath wedi eu hunioni.

(4)Rhaid i hysbysiad gwahardd—

(a)pennu’r materion sy’n arwain at y risg diogelwch tân, neu a fydd yn arwain at y risg diogelwch tân;

(b)pennu’r amser pan fydd gwaharddiad neu gyfyngiad a osodwyd ganddo yn cymryd effaith;

(c)esbonio canlyniadau torri gwaharddiad neu gyfyngiad o’r fath;

(d)cynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 99.

(5)Caiff hysbysiad gwahardd ddatgan bod gwaharddiad neu gyfyngiad yn cymryd effaith cyn gynted ag y rhoddir yr hysbysiad, ond dim ond os yw’r awdurdod diogelwch tân yn ystyried bod risg o farwolaeth neu anaf difrifol ar fin digwydd, neu bod risg o farwolaeth neu anaf difrifol ar fin digwydd yn debygol.

(6)Rhaid i dderbynnydd hysbysiad gwahardd gymryd pob cam rhesymol i sicrhau—

(a)yr hysbysir meddianwyr yr adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol am unrhyw waharddiad neu gyfyngiad a gynhwysir yn yr hysbysiad cyn gynted â phosibl;

(b)y rhwystrir neu y cyfyngir ar ddefnydd yr adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i’r graddau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad.

(7)Mae’r camau y mae rhaid eu cymryd o dan is-adran (6) yn cynnwys arddangos copi o’r hysbysiad gwahardd mewn lle amlwg wrth bob mynedfa i’r adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(8)Cyn rhoi hysbysiad gwahardd mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, rhaid i’r awdurdod diogelwch tân, pan fo’n ymarferol, hysbysu’r awdurdod tai lleol am ei fwriad a’r defnydd y mae’n bwriadu ei wahardd neu ei gyfyngu.

(9)Pan fo awdurdod diogelwch tân yn rhoi hysbysiad gwahardd mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol, rhaid iddo sicrhau yr hysbysir y canlynol—

(a)yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad ac unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol arall yng Nghymru y mae unrhyw ran o’r adeilad wedi ei lleoli yn ei ardal, os yw’r hysbysiad yn ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig;

(b)Gweinidogion Cymru, os yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad neu landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn landlord cymdeithasol cofrestredig;

(c)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(10)Nid yw methu â chydymffurfio ag is-adran (8) neu (9) yn effeithio ar ddilysrwydd yr hysbysiad gwahardd.

(11)Caiff awdurdod diogelwch tân sydd wedi rhoi hysbysiad gwahardd i berson dynnu’r hysbysiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach i’r person.

Gwybodaeth Cychwyn

I98A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

99Apêl yn erbyn hysbysiad gwaharddLL+C

(1)Caiff person a grybwyllir yn is-adran (2) apelio i dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn hysbysiad gwahardd.

(2)Y personau yw—

(a)pan fo’r hysbysiad gwahardd yn ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig—

(i)person atebol ar gyfer yr adeilad, neu berson sy’n cael ei drin fel person atebol ar gyfer yr adeilad yn rhinwedd adran 36;

(ii)preswylydd neu berchennog uned breswyl yn yr adeilad (gan gynnwys rhan o’r adeilad a fyddai’n uned breswyl oni bai am reoliadau a wneir o dan adran 5(6)(a));

(iii)meddiannydd unrhyw fangre arall sy’n ffurfio rhan o’r adeilad;

(iv)perchennog yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu unrhyw ran ohono;

(b)pan fo’r hysbysiad gwahardd yn ymwneud a thŷ amlfeddiannaeth perthnasol—

(i)deiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(ii)meddiannydd y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(iii)perchennog yr ystad rydd-ddaliadol yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu unrhyw ran ohono.

(3)Caniateir i apêl gael ei gwneud ar unrhyw adeg—

(a)cyn i’r gwaharddiad neu’r cyfyngiad a osodir gan yr hysbysiad gwahardd gymryd effaith, neu

(b)pan fo’r gwaharddiad neu’r cyfyngiad a osodir gan yr hysbysiad mewn effaith.

(4)Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)nad yw’r materion a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 98(4)(a) wedi digwydd;

(b)nad yw’r materion hynny yn arwain, ac nad ydynt yn debygol o arwain, at risg diogelwch tân sydd mor ddifrifol fel y dylid gwahardd neu gyfyngu ar ddefnydd o’r adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(c)bod y gwaharddiad neu’r cyfyngiad a osodir gan yr hysbysiad yn afresymol neu’n ormodol.

(5)Pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad gwahardd—

(a)caiff yr apelydd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd nad yw’r hysbysiad o unrhyw effaith hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl, a

(b)oni bai y rhoddir cyfarwyddyd o’r fath a hyd nes y rhoddir cyfarwyddyd o’r fath, mae’r hysbysiad gwahardd yn parhau i gael effaith er gwaethaf bod yr apêl yn cael ei gwneud.

(6)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau yr hysbysiad gwahardd,

(b)amrywio’r hysbysiad, neu

(c)diddymu’r hysbysiad.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r rhestrau o bersonau yn is-adran (2) drwy—

(a)ychwanegu person at restr,

(b)tynnu person ymaith, neu

(c)amrywio’r disgrifiad o berson.

Gwybodaeth Cychwyn

I99A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

100Hysbysiadau: atodolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch—

(a)hysbysiadau gwybodaeth;

(b)hysbysiadau cydymffurfio;

(c)hysbysiadau gwahardd.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys hysbysiad neu ddatganiad o dan adran 96(4) sy’n crynhoi hysbysiad cydymffurfio;

(b)diwygio hysbysiad neu dynnu hysbysiad yn ôl;

(c)estyn unrhyw gyfnod a bennir mewn hysbysiad;

(d)sut y mae rhaid rhoi hysbysiad neu ddatganiad sy’n crynhoi hysbysiad cydymffurfio.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu i awdurdod gorfodi gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio a roddir ganddo mewn cofrestr.

(4)Caiff y rheoliadau ddarparu i awdurdod diogelwch tân gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â hysbysiadau gwahardd a roddir ganddo mewn cofrestr.

(5)Caiff darpariaeth o dan is-adran (3) neu (4) gynnwys darpariaeth ynghylch cadw cofrestr a chyhoeddi gwybodaeth a gynhwysir ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I100A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

101Hysbysiadau: troseddauLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth a roddir i’r person;

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir i’r person;

(c)yn torri gwaharddiad neu gyfyngiad a gynhwysir mewn hysbysiad gwahardd;

(d)yn methu â chydymffurfio ag adran 98(6) (camau i’w cymryd gan dderbynnydd yr hysbysiad gwahardd).

(2)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mae’n amddiffyniad i’r person brofi bod gan y person esgus rhesymol dros y methiant neu’r toriad.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(4)Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (1) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r methiant neu’r toriad yn parhau ar ôl yr euogfarn.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant neu’r toriad yn parhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I101A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Swyddogaethau swyddogion awdurdodedigLL+C

102Swyddogion awdurdodedig ac ystyr “diben perthnasol”LL+C

(1)Caiff awdurdod gorfodi awdurdodi person i arfer swyddogaeth o dan ddarpariaeth o’r Rhan hon sydd—

(a)yn rhoi swyddogaethau i swyddog awdurdodedig, a

(b)yn cael ei bennu yn yr awdurdodiad.

(2)Ond caiff awdurdod gorfodi ond awdurdodi person i arfer swyddogaethau y mae’r awdurdod yn ystyried bod y person wedi ei gymhwyso’n briodol i’w harfer.

(3)Rhaid i awdurdodiad o dan yr adran hon gael ei roi yn ysgrifenedig.

(4)Caniateir amrywio neu ddirymu awdurdodiad o dan yr adran hon drwy offeryn ysgrifenedig.

(5)Wrth arfer neu geisio arfer swyddogaeth swyddog awdurdodedig, rhaid i berson, os gofynnir iddo, gyflwyno tystiolaeth o’r awdurdodiad.

(6)Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “swyddog awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd o dan yr adran hon;

(b)mae cyfeiriadau at “swyddog awdurdodedig” mewn perthynas â swyddogaeth o dan y Rhan hon yn gyfeiriadau at berson a awdurdodwyd o dan yr adran hon mewn cysylltiad â’r swyddogaeth honno;

(c)ystyr “diben perthnasol”, mewn perthynas â swyddog awdurdodedig, yw—

(i)ymchwilio i gydymffurfedd ag unrhyw ofyniad y mae gan yr awdurdod a awdurdododd y swyddog y swyddogaeth o orfodi, neu

(ii)unrhyw ddiben arall sy’n ymwneud ag unrhyw swyddogaeth yr awdurdod hwnnw o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I102A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

103Pŵer i fynd i fangre nad yw’n cael ei defnyddio fel uned breswylLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw fangre nad yw’n cael ei defnyddio fel uned breswyl—

(a)pan fo’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben perthnasol, a

(b)oni bai bod y swyddog yn ystyried y byddai’n llesteirio’r diben, pan fo—

(i)y mynediad yn digwydd ar adeg resymol o’r dydd, a

(ii)hysbysiad rhesymol yn cael ei roi i’r meddiannydd neu‍ i berson sy’n ymddangos i’r swyddog ei fod yn gyfrifol am y fangre.

(2)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw fangre nad yw’n cael ei defnyddio fel uned breswyl drwy rym (os oes angen) pan fo—

(a)y swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben perthnasol, a

(b)gwarant wedi ei ddyroddi gan ynad heddwch o dan is-adran (3).

(3)Ni chaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant o dan yr is-adran hon ond os yw’n fodlon, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw gan swyddog awdurdodedig—

(a)ei bod yn angenrheidiol i swyddog awdurdodedig gael mynediad at ddiben perthnasol, a

(b)bod y naill neu’r llall o’r hyn a ganlyn yn gymwys—

(i)bod‍ mynediad wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, neu

(ii)ei bod yn briodol fel arall i’r swyddog gael ei awdurdodi i fynd i mewn drwy rym (os oes angen).

(4)O ran gwarant a ddyroddwyd o dan is-adran (3)—

(a)mae’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i’r fangre a bennir yn y warant drwy rym (os oes angen);

(b)caiff bennu pryd, neu pa mor aml, y caiff mynediad ddigwydd.

(5)Yn yr adran hon ac adran 104, mae “uned breswyl” yn cynnwys mangre a fyddai’n uned breswyl oni bai am reoliadau a wneir o dan adran 5(6)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I103A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

104Pŵer i fynd i fangre sy’n cael ei defnyddio fel uned breswylLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw fangre sy’n cael ei defnyddio fel uned breswyl pan fo—

(a)y swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben perthnasol, a

(b)gwarant yn awdurdodi mynediad wedi ei ddyroddi gan ynad heddwch o dan is-adran (2).

(2)Ni chaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant o dan yr is-adran hon ond os yw’n fodlon, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw gan swyddog awdurdodedig—

(a)ei bod yn angenrheidiol i swyddog awdurdodedig gael mynediad at ddiben perthnasol, a

(b)bod unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn yn gymwys—

(i)y byddai gofyn am fynediad at y diben perthnasol yn llesteirio’r diben hwnnw,

(ii)bod‍ mynediad at y diben perthnasol wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, neu

(iii)na ellir dod o hyd i unrhyw berson a chanddo’r hawl i ganiatáu mynediad at y diben perthnasol.

(3)O ran gwarant a ddyroddwyd o dan is-adran (2)—

(a)mae’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i’r fangre a bennir yn y warant;

(b)caiff, os yw’r ynad heddwch o’r farn ei bod yn angenrheidiol, awdurdodi swyddog awdurdodedig—

(i)i arfer swyddogaethau o dan adran 105 i’r graddau a bennir yn y warant;

(ii)i fynd i’r fangre drwy rym (os oes angen);

(c)caiff bennu pryd, neu pa mor aml, y caiff mynediad ddigwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I104A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

105Pwerau mynediad: atodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer pŵer mynediad o dan adran 103(1) neu (2);

(b)pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer pŵer mynediad o dan adran 104(1), i’r graddau a bennir yn y warant sy’n awdurdodi mynediad o dan yr is-adran honno.

(2)Caiff y swyddog awdurdodedig, at ddiben perthnasol—

(a)dod ag unrhyw berson neu beth gydag ef sy’n ofynnol at y diben;

(b)bod yng nghwmni cwnstabl os oes gan y swyddog achos rhesymol i ddisgwyl unrhyw rwystr wrth arfer y pŵer mynediad;

(c)chwilio’r fangre;

(d)archwilio, mesur neu brofi unrhyw beth sydd ar y fangre;

(e)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu i’r swyddog awdurdodedig y cyfryw wybodaeth, cyfleusterau a chymorth y mae eu hangen yn rhesymol ar y swyddog;

(f)cymryd sampl o unrhyw beth;

(g)tynnu ffotograffau neu gymryd copïau o unrhyw beth, neu wneud recordiadau;

(h)ymafael yn unrhyw beth os yw’n ymddangos i’r swyddog—

(i)bod y peth yn dystiolaeth o drosedd o dan y Ddeddf hon, a

(ii)ei bod yn angenrheidiol ymafael ynddo er mwyn atal y dystiolaeth rhag cael ei chuddio, ei cholli, ei newid neu ei dinistrio.

(3)O ran pŵer swyddog awdurdodedig o dan is-adran (2)(c) i (h)—

(a)caiff ei arfer gan berson y mae’r swyddog awdurdodedig yn mynd ag ef i’r fangre os yw’r person o dan oruchwyliaeth y swyddog;

(b)ni chaniateir ei arfer mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth neu ddogfen y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I105A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

106Swyddogion awdurdodedig: troseddauLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, gyda’r bwriad o dwyllo, yn dynwared swyddog awdurdodedig.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(3)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig sy’n arfer, neu’n ceisio arfer, unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I106A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

TroseddauLL+C

107Toriad sy’n arwain at risg o farwolaeth neu anaf difrifolLL+C

(1)Mae person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, neu berson sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36, yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person yn torri gofyniad a osodir ar y person gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tano, a

(b)os yw’r toriad yn gosod un neu ragor o bobl yn yr adeilad neu o’i amgylch mewn risg sylweddol o farwolaeth neu anaf difrifol sy’n deillio o risg diogelwch adeilad (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 28).

(2)Mae person sy’n ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person yn torri gofyniad a osodir ar y person gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, a

(b)os yw’r toriad yn gosod un neu ragor o bobl yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu o’i amgylch mewn risg sylweddol o farwolaeth neu anaf difrifol sy’n deillio o risg diogelwch tân.

(3)Nid yw is-adrannau (1) na (2) yn gymwys ‍i unrhyw beth sy’n drosedd o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon sy’n ddarostyngedig i’r un gosb â throsedd o dan is-adran (1) neu (2)‍.‍

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n yn hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(5)Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r person yn parhau i dorri’r gofyniad o dan sylw.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r toriad yn parhau.

(7)Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan yr adran hon brofi bod y person wedi cymryd pob cam rhesymol i osgoi cyflawni’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I107A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

108Gwybodaeth anwir a chamarweiniolLL+C

(1)Mae person y mae’n ofynnol iddo gan unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani gofnodi neu gadw unrhyw wybodaeth yn cyflawni trosedd os yw’r person yn cynnwys yn yr wybodaeth honno unrhyw wybodaeth y mae’r person yn gwybod ei bod yn anwir mewn ffordd berthnasol.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(3)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (4), a

(b)os yw’r person naill ai—

(i)yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(ii)yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

(4)Yr amgylchiadau yw bod y person—

(a)yn rhoi’r wybodaeth i awdurdod diogelwch adeiladau, awdurdod diogelwch tân neu unrhyw berson arall gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani;

(b)yn rhoi’r wybodaeth i awdurdod diogelwch adeiladau mewn, neu mewn cysylltiad â—

(i)cais i’r awdurdod o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, neu

(ii)cais am adolygiad o benderfyniad adolygadwy o dan adran 64;

(c)yn rhoi’r wybodaeth i awdurdod gorfodi neu swyddog awdurdodedig at ddiben osgoi camau gorfodi rhag cael eu cymryd neu eu parhau gan y naill neu’r llall ohonynt.

(5)Yn is-adran (4)(c), ystyr “camau gorfodi” yw—

(a)unrhyw gam a gymerir gyda’r golwg o wneud yr hyn a ganlyn neu sydd mewn cysylltiad â gwneud yr hyn a ganlyn—

(i)sicrhau cydymffurfiaeth â gofyniad a osodir gan neu o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, neu

(ii)gosod sancsiwn mewn cysylltiad â thorri gofyniad o’r fath;

(b)camau sy’n cynnwys rhoi hysbysiad gwahardd, neu mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o’r fath.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n yn hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I108A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Mesurau arbennig mewn perthynas ag adeiladau categori 1LL+C

109Penodi rheolwr mesurau arbennig ar gyfer adeilad categori 1LL+C

(1)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, ar gais gan yr awdurdod diogelwch adeiladau neu’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer adeilad categori 1 a feddiennir, wneud gorchymyn mesurau arbennig mewn perthynas â’r adeilad.

(2)Mae gorchymyn mesurau arbennig yn orchymyn sy’n penodi person i fod yn rheolwr mesurau arbennig ar gyfer yr adeilad i gyflawni swyddogaethau diogelwch adeiladau—

(a)y person atebol ar gyfer yr adeilad, os oes un person atebol, neu

(b)un neu ragor o bersonau atebol ar gyfer yr adeilad a bennir yn y gorchymyn, os oes mwy nag un person atebol.

(3)Caiff y gorchymyn hefyd benodi’r rheolwr mesurau arbennig i gyflawni unrhyw swyddogaeth fel derbynnydd mewn perthynas ag incwm diogelwch adeilad cyfunddaliadol sy’n berthnasol i’r adeilad.

(4)Ni chaiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mesurau arbennig ond os yw’n fodlon—

(a)y bu pob person atebol y mae’r gorchymyn yn gymwys i’w swyddogaethau diogelwch adeiladau yn euog o—

(i)methiant difrifol i gydymffurfio â dyletswydd a osodir gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, neu

(ii)methiant i gydymffurfio â dyletswydd o’r fath ar ddau achlysur neu ragor,

(b)nad oes gorchymyn mesurau arbennig eisoes wedi ei wneud mewn perthynas â’r adeilad (oni bai bod unrhyw orchymyn a wnaed wedi ei ddirymu), ac

(c)bod y person sydd i’w benodi fel y rheolwr mesurau arbennig yn unigolyn neu’n gorff sy’n meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol i gyflawni’r swyddogaethau a roddir gan y gorchymyn.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu gofynion y mae rhaid i unigolyn neu gorff eu bodloni er mwyn ystyried eu bod yn meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol at y diben hwnnw (gan gynnwys gofynion ar gyfer cymwysterau penodol neu ar gyfer achrediad gan sefydliad penodol, neu aelodaeth o sefydliad o’r fath).

(6)Rhaid i orchymyn mesurau arbennig wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer ariannu arfer swyddogaethau’r rheolwr mesurau arbennig.

(7)Caiff y ddarpariaeth honno gynnwys darpariaeth ar gyfer person atebol y mae’r gorchymyn yn gymwys i’w swyddogaethau diogelwch adeiladau i wneud taliadau i’r rheolwr mesurau arbennig mewn cysylltiad â chostau yr aed iddynt, neu yr eir iddynt, gan y rheolwr mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r rheolwr.

(8)Ni chaiff gorchymyn mesurau arbennig wneud darpariaeth o dan is-adran (6) mewn perthynas ag adeilad sydd ar dir cyfunddaliad (o fewn yr ystyr a roddir i “commonhold land” gan adran 1 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15)).

(9)Caiff gorchymyn mesurau arbennig ddarparu ar gyfer—

(a)unrhyw fater arall sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau’r rheolwr mesurau arbennig;

(b)unrhyw fater deilliadol neu ategol.

(10)Yn Atodlen 2—

(a)mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân cyn iddo wneud cais am orchymyn mesurau arbennig;

(b)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch effaith a gweithrediad gorchymyn mesurau arbennig;

(c)mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer adolygu, amrywio a dirymu gorchymyn mesurau arbennig;

(d)mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau atodol am orchmynion mesurau arbennig.

(11)Yn yr adran hon a’r Atodlen honno—

  • ystyr “incwm diogelwch adeilad cyfunddaliadol” (“commonhold building safety income”) yw incwm a godir oddi wrth ddeiliaid unedau cyfunddaliadol yn rhinwedd darpariaeth a wneir gan ddatganiad cymunedol cyfunddaliad o dan adran 38A o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;

  • ystyr “swyddogaeth diogelwch adeiladau“ (“building safety function”), mewn perthynas â pherson atebol, yw swyddogaeth y person o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I109A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Pŵer awdurdod diogelwch adeiladau i roi hysbysiadau cosb benodedigLL+C

110Pŵer awdurdod diogelwch adeiladau i roi hysbysiadau cosb benodedigLL+C

(1)Caiff yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 roi hysbysiad cosb benodedig i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad os yw’r awdurdod yn ystyried bod y person wedi cyflawni trosedd o dan—

(a)adran 19(1) (methiant i gofrestru adeilad rheoleiddiedig);

(b)adran 24(8) (methiant i roi declarasiwn perthnasol i’r awdurdod diogelwch adeiladau).

(2)Caiff yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 y mae adran 42 yn gymwys iddo roi hysbysiad cosb benodedig i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad os yw’r awdurdod yn ystyried bod y person wedi cyflawni trosedd o dan—

(a)adran 42(5) (methiant i wneud cais am dystysgrif adeilad);

(b)adran 45(5) (methiant i arddangos tystysgrif adeilad a gwybodaeth gysylltiedig).

(3)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i’r person ryddhau unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi drwy dalu i’r awdurdod diogelwch adeiladau swm a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Pan roddir hysbysiad cosb benodedig i berson, ni chaniateir dwyn achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r person.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddarparu i swm gostyngedig fod yn daladwy o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r person.

(6)Pan fo person yn gwneud taliad yn unol â thelerau hysbysiad cosb benodedig, ni chaniateir dwyn achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(7)Rhaid i hysbysiad cosb benodedig nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod diogelwch adeiladau;

(b)y drosedd honedig a rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;

(c)bod yr hysbysiad yn cynnig i’r derbynnydd y cyfle i ryddhau atebolrwydd am drosedd heb erlyniad, ond y caiff y person ddewis yn hytrach na hynny i arfer ei hawl i sefyll prawf am y drosedd honedig (a sut y caniateir arfer yr hawl hwnnw);

(d)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb (gan gynnwys swm unrhyw gosb ostyngedig a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb ostyngedig);

(e)canlyniadau peidio â thalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

(f)sut y caniateir talu’r gosb neu’r gosb ostyngedig;

(g)sut y caniateir gwneud unrhyw sylwadau yn ymwneud â’r hysbysiad.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch tynnu hysbysiadau cosb benodedig yn ôl, gan gynnwys—

(a)yr amgylchiadau y gellir tynnu hysbysiad yn ôl ynddynt;

(b)ad-dalu unrhyw swm a dalwyd cyn tynnu hysbysiad yn ôl;

(c)yr amgylchiadau na chaniateir dwyn achos am drosedd er gwaethaf bod yr hysbysiad wedi ei dynnu yn ôl.

(9)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth i’r swm sy’n daladwy o dan hysbysiad fod yn fwy na phedair gwaith lefel 4 ar y raddfa safonol.

(10)Ni chaniateir defnyddio taliadau a geir gan awdurdod yn rhinwedd yr adran hon ond ar gyfer y dibenion a ganlyn—

(a)swyddogaethau’r awdurdod sy’n ymwneud â gorfodi’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani;

(b)swyddogaethau eraill yr awdurdod fel y cânt eu pennu mewn rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I110A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Cymhwyso i’r GoronLL+C

111Cymhwyso’r Rhan hon i’r GoronLL+C

(1)Ni chaniateir rhoi hysbysiad gwybodaeth na hysbysiad cydymffurfio i’r Goron.

(2)O ran hysbysiad gwahardd—

(a)ni chaniateir ei roi i—

(i)y Goron;

(ii)unrhyw berson arall mewn perthynas â mangreoedd y Goron;

(b)nid yw’n rhwymo’r Goron.

(3)Nid yw adrannau 103 i 105 (pwerau mynediad) yn gymwys mewn perthynas â mangreoedd y Goron.

(4)Ni chaiff gorchymyn mesurau arbennig benodi rheolwr mesurau arbennig i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Goron fel person atebol.

Gwybodaeth Cychwyn

I111A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

RHAN 4LL+CCYWEIRIO DIFFYGION PENODOL

112Ystyr “adeilad perthnasol”LL+C

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “adeilad perthnasol” yw adeilad categori 1 neu adeilad categori 2, ond nid yw’n cynnwys—

(a)unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn cyfeiriad at adeilad o’r fath yn rhinwedd adran 7 (ardaloedd atodol);

(b)unrhyw adeilad—

(i)y mae hawl o dan Ran 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) (hawl tenantiaid i gael y cynnig cyntaf) neu Ran 3 o’r Ddeddf honno (caffael gorfodol gan denantiaid o fuddiant landlord) wedi ei arfer mewn perthynas ag ef;

(ii)y mae’r hawl i ryddfreinio ar y cyd o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) wedi ei arfer mewn perthynas ag ef;

(iii)sydd ar dir cyfunddaliad (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 1 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15)).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu nad yw adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 yn adeilad perthnasol os yw lesddeiliad yn berchen ar yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliadau).

Gwybodaeth Cychwyn

I112A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

113Ystyr “diffyg perthnasol”LL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “cam perthnasol” (“relevant step”), mewn perthynas â diffyg perthnasol, yw cam â’i bwrpas yw—

    (a)

    atal neu leihau’r tebygolrwydd o dân rhag digwydd o ganlyniad i’r diffyg perthnasol neu o’r adeilad (neu unrhyw ran ohono) yn dymchwel o ganlyniad i ddiffyg o’r fath,

    (b)

    lleihau difrifoldeb unrhyw ddigwyddiad o’r fath, neu

    (c)

    atal neu leihau niwed i bobl yn yr adeilad neu o’i amgylch a allai ddeillio o ddigwyddiad o’r fath;

  • ystyr “diffyg perthnasol” (“relevant defect”), mewn perthynas ag adeilad perthnasol, yw diffyg o ran yr adeilad sydd—

    (a)

    yn codi o ganlyniad i unrhyw beth sydd wedi ei wneud neu heb ei wneud (gan gynnwys unrhyw beth sydd wedi ei wneud neu heb ei wneud wrth ddarparu gwasanaethau proffesiynol), neu unrhyw beth a ddefnyddiwyd neu nas defnyddiwyd, mewn cysylltiad â gwaith perthnasol, a

    (b)

    yn creu risg diogelwch adeilad neu’n cynyddu’n sylweddol risg diogelwch adeilad presennol.

(2)Yn yr adran hon—

  • ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â 28 Mehefin 1992 ac sy’n dod i ben â 20 Chwefror 2026;

  • ystyr “gwaith perthnasol” (“relevant works”) yw unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn—

    (a)

    gwaith sy’n ymwneud ag adeiladu neu drosi’r adeilad, os cwblhawyd y gwaith adeiladu neu’r gwaith trosi yn y cyfnod perthnasol;

    (b)

    gwaith a ymgymerwyd neu a gomisiynwyd gan neu ar ran landlord neu gwmni rheoli, os cwblhawyd y gwaith yn y cyfnod perthnasol;

    (c)

    gwaith a ymgymerwyd ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol i unioni diffyg perthnasol (gan gynnwys diffyg sy’n ddiffyg perthnasol yn rhinwedd y paragraff hwn);

  • ystyr “landlord neu gwmni rheoli” (“landlord or management company”) yw landlord o dan les o’r adeilad neu unrhyw ran ohono, neu unrhyw berson sy’n barti i les o’r fath ac eithrio fel landlord neu denant;

  • ystyr “risg diogelwch adeilad” (“building safety risk”) yw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch sy’n deillio o—

    (a)

    lledaeniad tân, neu

    (b)

    yr adeilad, neu unrhyw ran ohono, yn dymchwel;

  • ystyr “trosi” (“conversion”) yw trosi’r adeilad i’w ddefnyddio (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) at ddibenion preswyl.

Gwybodaeth Cychwyn

I113A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

114Gorchmynion cyweirioLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)darparu y caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn cyweirio ar gais person a chanddo fuddiant;

(b)gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â gorchmynion cyweirio.

(2)Gorchymyn cyweirio yw gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i landlord perthnasol neu gwmni rheoli perthnasol wneud un neu’r ddau o’r hyn a ganlyn erbyn amser penodedig—

(a)unioni diffygion perthnasol penodedig mewn adeilad perthnasol penodedig;

(b)cymryd camau perthnasol penodedig mewn perthynas â diffyg perthnasol penodedig mewn adeilad perthnasol penodedig.

(3)Yn is-adrannau (1) a (2)—

  • ystyr “landlord perthnasol neu gwmni rheoli perthnasol” (“relevant landlord or management company”), mewn perthynas â diffyg perthnasol mewn adeilad perthnasol, yw person—

    (a)

    sy’n landlord o dan les o’r adeilad neu unrhyw ran ohono, neu’n barti i les o’r fath ac eithrio fel landlord neu denant, a

    (b)

    y mae’n ofynnol iddo, o dan y les neu yn rhinwedd deddfiad, atgyweirio neu gynnal a chadw unrhyw beth sy’n ymwneud â’r diffyg;

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu yn y gorchymyn cyweirio;

  • ystyr “person a chanddo fuddiant” (“interested person”), mewn perthynas ag adeilad perthnasol, yw—

    (a)

    yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad;

    (b)

    yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad;

    (c)

    person a chanddo fuddiant cyfreithiol neu ecwitïol yn yr adeilad neu unrhyw ran ohono;

    (d)

    unrhyw berson arall a bennir, neu o ddisgrifiad a bennir, mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I114A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

115Gorchmynion cyfraniadau cyweirioLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)darparu y caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn cyfraniadau cyweirio ar gais person a chanddo fuddiant;

(b)gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â gorchmynion cyfraniadau cyweirio.

(2)Gorchymyn cyfraniadau cyweirio yw gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol wneud taliadau i berson penodedig at y diben o dalu costau yr aed iddynt neu yr eir iddynt wrth unioni diffygion perthnasol (neu ddiffygion perthnasol penodedig) sy’n ymwneud ag adeilad perthnasol, neu mewn cysylltiad â hynny fel arall (“costau cyweirio”).

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu i orchmynion cyfraniadau cyweirio ei gwneud yn ofynnol gwneud taliadau—

(a)o symiau penodedig neu mewn perthynas â phethau penodedig, neu’r ddau;

(b)ar adegau penodedig neu ar alw yn dilyn digwyddiadau penodedig, neu’r ddau.

(4)Yn is-adrannau (2) a (3) ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y gorchymyn cyfraniadau cyweirio.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol” (“relevant body corporate or partnership”) yw corff corfforedig neu bartneriaeth sydd—

    (a)

    yn landlord o dan les o’r adeilad perthnasol neu unrhyw ran ohono,

    (b)

    yn berson a oedd yn landlord o’r fath ar ddechrau 20 Chwefror 2026,

    (c)

    yn ddatblygwr mewn perthynas â’r adeilad perthnasol, neu

    (d)

    yn berson sy’n gysylltiedig â pherson o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c);

  • ystyr “datblygwr” (“developer”), mewn perthynas ag adeilad perthnasol, yw person a ymgymerodd neu a gomisiynodd waith adeiladu’r adeilad (neu ran o’r adeilad) neu waith trosi’r adeilad (neu ran o’r adeilad) gyda’r bwriad o roi neu waredu buddiannau yn yr adeilad neu rannau ohono;

  • ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—

    (a)

    partneriaeth o fewn yr ystyr a roddir i “partnership” gan Ddeddf Partneriaeth 1890, neu

    (b)

    partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907,

  • neu ffyrm neu endid tebyg ei gymeriad a ffurfir o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person a chanddo fuddiant” (“interested person”), mewn perthynas ag adeilad perthnasol, yw—

    (a)

    Gweinidogion Cymru;

    (b)

    yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad;

    (c)

    yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad;

    (d)

    person a chanddo fuddiant cyfreithiol neu ecwitïol yn yr adeilad neu unrhyw ran ohono;

    (e)

    unrhyw berson arall a bennir, neu o ddisgrifiad a bennir, mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch costau sydd i’w hystyried yn gostau cyweirio, neu gostau nad ydynt i’w hystyried yn gostau o’r fath;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau y mae partneriaeth neu gorff corfforedig yn gysylltiedig â pherson arall oddi tanynt;

(c)darparu bod yr adran hon yn gymwys, gydag addasiadau neu hebddynt, mewn perthynas ag adeilad a fyddai, oni bai am adran 112(1)(b) neu (2), yn adeilad perthnasol.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I115A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

116Costau cyweirio o dan lesoedd cymhwysol etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer yr hyn a ganlyn, ac mewn cysylltiad â’r hyn a ganlyn—

(a)sicrhau nad oes unrhyw dâl gwasanaeth yn daladwy o dan les mangre mewn adeilad perthnasol mewn cysylltiad â mesur perthnasol sy’n ymwneud â diffyg perthnasol os oedd person o ddisgrifiad penodedig—

(i)yn ddatblygwr yr adeilad (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 115), neu

(ii)wedi ymgymryd â gwaith yn ymwneud â’r diffyg, neu wedi comisiynu gwaith o’r fath;

(b)sicrhau nad oes unrhyw dâl gwasanaeth yn daladwy o dan les gymhwysol (naill ai’n gyffredinol neu o dan amgylchiadau penodedig) mewn cysylltiad ag—

(i)mesur perthnasol sy’n ymwneud â diffyg perthnasol;

(ii)gwaith neu wasanaethau penodedig eraill;

(c)sicrhau nad yw tâl gwasanaeth yn daladwy o dan les gymhwysol mewn cysylltiad â mesur perthnasol sy’n ymwneud â diffyg perthnasol ond os (ac i’r graddau) y bodlonir amodau penodedig;

(d)ei gwneud yn ofynnol i denant o dan les gymhwysol roi gwybodaeth neu ddogfennau perthnasol i’r landlord o dan y les neu unrhyw uwchlandlord;

(e)ei gwneud yn ofynnol i landlord presennol neu flaenorol o dan les mangre mewn adeilad perthnasol roi gwybodaeth neu ddogfennau perthnasol i denant o dan les mangre yn yr adeilad, neu i berson arall.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer yr hyn a ganlyn ac mewn cysylltiad â’r hyn a ganlyn—

(a)atal costau rhag—

(i)cael eu hystyried wrth benderfynu ar unrhyw dâl gwasanaeth neu swm arall sy’n daladwy o dan les, neu

(ii)cael eu talu o gronfa o ddisgrifiad penodedig;

(b)sicrhau nad yw’r rheoliadau yn cael yr effaith o gynyddu swm sy’n daladwy gan denant o dan les;

(c)galluogi swm nad yw’n adenilladwy o dan les o ganlyniad i’r rheoliadau gael ei adennill oddi wrth—

(i)landlord presennol neu flaenorol o dan y les neu uwchlandlord presennol neu flaenorol;

(ii)olynydd yn nheitl landlord o dan y les neu olynydd yn nheitl uwchlandlord.

(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo’r amod yn is-adran (1)(a) i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni;

(b)darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau ar unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));

(c)darpariaeth i gyfamod neu gytundeb (pa bryd bynnag y’u gwneir) fod yn annilys i’r graddau ei bod yn honni i eithrio neu gyfyngu ar unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “gwybodaeth neu ddogfennau perthnasol” (“relevant information or documents”) yw gwybodaeth neu ddogfennau sydd—

    (a)

    yn ymwneud ag adeilad perthnasol, a

    (b)

    yn berthnasol i unrhyw fater y gwneir darpariaeth mewn cysylltiad ag ef drwy reoliadau o dan yr adran hon;

  • ystyr “mesur perthnasol” (“relevant measure”), mewn perthynas â diffyg perthnasol, yw—

    (a)

    mesur a gymerir i unioni’r diffyg perthnasol, neu

    (b)

    cam perthnasol a gymerir mewn perthynas â’r diffyg perthnasol;

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu yn y rheoliadau;

  • mae i “tâl gwasanaeth” yr ystyr a roddir i “service charge” gan adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70) (ac mae’r diffiniad hwnnw yn gymwys mewn perthynas â les mangre nad yw’n cynnwys annedd yn yr un modd ag y mae’n gymwys mewn perthynas â les annedd).

Gwybodaeth Cychwyn

I116A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

117Ystyr “les gymhwysol”LL+C

(1)At ddibenion adran 116, mae les yn “les gymhwysol” os—

(a)cafodd ei rhoi cyn yr adeg berthnasol,

(b)yw’n les hir o annedd unigol mewn adeilad perthnasol,

(c)yw’r tenant o dan y les yn atebol i dalu tâl gwasanaeth, a

(d)ar yr adeg berthnasol, yroedd tenant o dan y les a oedd yn bodloni o leiaf un o’r amodau a ganlyn—

(i)yr annedd oedd unig gartref neu prif gartref y tenant,

(ii)nid oedd y tenant yn berchen ar unrhyw annedd arall yn y Deyrnas Unedig, neu

(iii)yr oedd y tenant yn berchen ar ddim mwy na dwy annedd yn y Deyrnas Unedig heblaw am ei fuddiant o dan y les.

(2)Ond pan oedd annedd, ar yr adeg berthnasol, yn cael ei gosod o dan ddwy neu fwy o lesoedd y mae is-adran (1)(b) ac (c) yn gymwys iddynt, nid yw unrhyw un o’r lesoedd hynny sy’n rhagori ar unrhyw un neu ragor o’r lesoedd eraill yn les gymhwysol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo’r amod yn is-adran (1)(d) i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer trin les fel les gymhwysol, ac mewn cysylltiad â hynny, os—

(a)cafodd ei rhoi ar yr adeg berthnasol neu ar ôl hynny,

(b)yw’n les o annedd unigol mewn adeilad perthnasol,

(c)yw’r tenant o dan y les yn atebol i dalu tâl gwasanaeth,

(d)yw’n disodli—

(i)un les arall sy’n les gymhwysol (pa un ai o dan is-adran (1) neu reoliadau a wneir o dan yr adran hon), neu

(ii)dwy les neu ragor, y mae o leiaf un ohonynt yn les gymhwysol (pa un ai o dan is-adran (1) neu reoliadau a wneir o dan yr adran hon), ac

(e)oes parhad yn yr eiddo sy’n cael ei osod.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (4) wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau y caiff paragraffau (d) ac (e) o’r is-adran honno eu bodloni oddi tanynt.

(6)At ddibenion yr adran hon—

(a)ystyr “les hir” yw les a roddir am gyfnod penodol o fwy nag 21 o flynyddoedd o’r dyddiad y rhoddir y les, pa un ai ei fod (neu a all ddod) yn derfynadwy ai peidio cyn diwedd y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir gan y tenant neu iddo, neu drwy ailfynediad, fforffediad neu fel arall;

(b)mae person yn “perchen” ar annedd yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon os oes gan y person fuddiant rhydd-ddaliadol ynddi neu os yw’n denant o dan les hir ar ei chyfer;

(c)ystyr “yr adeg berthnasol” yw dechrau 14 Chwefror 2022;

(d)mae i “tâl gwasanaeth” yr ystyr a roddir i “service charge” gan adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70).

Gwybodaeth Cychwyn

I117A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

118Adroddiadau ar gynnydd o dan raglen diogelwch adeiladau CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad cynnydd ar gyweirio ar gyfer pob cyfnod adrodd.

(2)Mae “adroddiad cynnydd ar gyweirio” yn adroddiad sy’n crynhoi asesiad Gweinidogion Cymru o gynnydd yn ystod y cyfnod adrodd o ran gwneud—

(a)gwaith sy’n ofynnol gan gontractau cyweirio gan ddatblygwr;

(b)gwaith sy’n cael ei ariannu gan grantiau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan gynlluniau a elwir yn Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r adroddiad cynnydd ar gyweirio ar gyfer y cyfnod adrodd, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “contract cyweirio gan ddatblygwr” (“developer remediation contract”) yw contract rhwng Gweinidogion Cymru a datblygwr cyfranogol a wneir drwy weithred contract dwyochrog sy’n ymwneud â hunangyweirio gan ddatblygwr er mwyn darparu adeiladau preswyl ac adeiladau defnydd cymysg diogel gydag uchder o 11 o fetrau ac uwch;

  • ystyr “cyfnod adrodd” (“reporting period”) yw—

    (a)

    y cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rhan hon i rym, a

    (b)

    pob cyfnod dilynol o 1 flwyddyn, sy’n dod i ben â’r cyfnod cyntaf—

    (i)

    y mae’r holl waith sy’n ofynnol gan gontractau cyweirio gan ddatblygwr wedi ei gwblhau ac nad yw Gweinidogion Cymru yn disgwyl i unrhyw ddatblygwyr eraill ymrwymo i gontractau cyweirio gan ddatblygwr, a

    (ii)

    y mae’r holl waith a ariannwyd gan grantiau o Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru wedi ei gwblhau ac nad yw’r gronfa yn derbyn ceisiadau newydd mwyach.

Gwybodaeth Cychwyn

I118A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

RHAN 5LL+CATODOL A CHYFFREDINOL

Rhagolygol

Hyrwyddo cyfranogiad mewn perthynas ag arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru etc.LL+C

119Strategaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau etc.LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio strategaeth ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad personau perthnasol mewn perthynas ag arfer, gan Weinidogion Cymru, eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r strategaeth a’i chadw o dan adolygiad.

(3)Rhaid i’r strategaeth gynnwys gwybodaeth am—

(a)y materion (gan gynnwys unrhyw reoliadau neu ganllawiau arfaethedig) y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig ymgynghori â phersonau perthnasol yn eu cylch,

(b)sut y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig cynnal ymgynghoriadau, ac

(c)enwau unrhyw bersonau sy’n cynrychioli buddiannau personau perthnasol, y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau.

(4)Caiff y strategaeth gynnwys gwybodaeth am—

(a)ffyrdd eraill y caiff Gweinidogion Cymru hyrwyddo cyfranogiad personau perthnasol mewn perthynas ag arfer, gan Weinidogion Cymru, eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani;

(b)cyfranogiad gan bersonau perthnasol mewn perthynas â materion eraill sy’n ymwneud â’r Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r strategaeth os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(6)Wrth benderfynu pa un ai i ddiwygio’r strategaeth, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a ddaeth i law ynghylch cynnwys y strategaeth.

(7)Yn yr adran hon ystyr “personau perthnasol” yw—

(a)preswylwyr adeiladau rheoleiddiedig sy’n 18 oed neu’n hŷn,

(b)perchnogion unedau preswyl mewn adeiladau rheoleiddiedig, ac

(c)meddianwyr tai amlfeddiannaeth perthnasol sy’n 18 oed neu’n hŷn.

Gwybodaeth Cychwyn

I119A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

Canllawiau a chydweithreduLL+C

120Dyroddi neu gymeradwyo canllawiau gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau o’r fath y maent yn ystyried eu bod yn briodol i gynorthwyo unrhyw bersonau i gydymffurfio â dyletswyddau a osodir arnynt gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru‍ sicrhau bod canllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir ganddynt o dan yr adran hon yn cynnwys—

(a)canllawiau i gynorthwyo prif bersonau atebol ar gyfer adeiladau rheoleiddiedig wrth gydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir arnynt gan adrannau 29 i 32 (asesu risgiau diogelwch tân) a rheoliadau a wneir oddi tanynt;

(b)canllawiau i gynorthwyo landlordiaid tai amlfeddiannaeth perthnasol wrth gydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir arnynt gan adrannau 81 i 84 (asesu risgiau diogelwch tân) a rheoliadau a wneir oddi tanynt.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dyroddi neu gymeradwyo fersiwn ddiwygiedig o unrhyw ganllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir ganddynt o dan yr adran hon;

(b)heb ragfarnu is-adrannau (1) a (2), dynnu’n ôl unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd ganddynt, neu gymeradwyaeth a roddwyd ganddynt, o dan yr adran ho‍n.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir ganddynt o dan yr adran hon yn cael eu cyhoeddi.

(5)Pan honnir mewn unrhyw achos fod person wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd a osodir gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani—

(a)caniateir dibynnu ar brawf bod y person wedi methu â chydymffurfio â chanllawiau perthnasol a gyhoeddir o dan yr adran hon fel rhywbeth sy’n tueddu i sefydlu bod methiant o’r fath;

(b)caniateir dibynnu ar brawf bod y person wedi cydymffurfio â chanllawiau perthnasol a gyhoeddir o dan yr adran hon fel rhywbeth sy’n tueddu i sefydlu nad oedd methiant o’r fath.

(6)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â—

(a)pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(7)Nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i fersiwn ddiwygiedig o ganllawiau os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r diwygiadau yn newid effaith y canllawiau yn sylweddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I120A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

121Cydweithredu a gwybodaeth: dyletswyddau personau cyfrifol o dan y Gorchymyn Diogelwch TânLL+C

(1)Mae’r Gorchymyn Diogelwch Tân wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl erthygl 22B mewnosoder—

22CWales: co-operation with accountable persons and duty holders

(1)This article applies in relation to premises forming part of a building where—

(a)the building, or any part of it, is a regulated building, or

(b)any part of the building is a relevant HMO.

(2)The responsible person for the premises (“P”) must take such steps as are reasonably practicable to ascertain whether there are one or more other persons who are (as the case may be)—

(a)accountable persons for the regulated building, or

(b)duty holders for the relevant HMO.

(3)If there are, P must co-operate with each of those persons for the purpose of those persons carrying out their duties under the Building Safety (Wales) Act 2026.

(4)If P becomes aware that a person is treated as an accountable person for the building by virtue of section 36 of the Building Safety (Wales) Act 2026, P must co-operate with the person for the purpose of the person carrying out their duties under that Act.

(‍5)In this article, article 22D and article 22E—

  • accountable person” has the meaning given by section 8 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • duty holder” has the meaning given by section 79 of that Act;

  • regulated building” has the meaning given by sections 2 and 7 of that Act;

  • relevant HMO” has the meaning given by section 78 of that Act.

22DWales: sharing information with accountable persons

(1)This article applies in relation to premises forming part of a building where the building, or any part of it, is a regulated building.

(2)A responsible person in relation to the premises must give information or a document to a person (“A”) who—

(a)is either—

(i)an accountable person for the building, or

(ii)a person treated as an accountable person for the building by virtue of section 36 of the Building Safety (Wales) Act 2026, and

(b)makes a request in accordance with paragraph (3).

(3)A request is made in accordance with this paragraph if—

(a)the information or document is necessary for A to comply with a requirement under the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it,

(b)A gives the relevant person a written request that—

(i)states that the request is made pursuant to this article,

(ii)explains why A requires the information or document,

(iii)states the address to which the information or document must be given, and

(iv)states that the information or document must be given before the end of a specified date no less than 14 days after the day on which the request is given, and

(c)it is reasonable for the relevant person to give A the information or document.

(4)The disclosure of information or a document in accordance with this section does not breach—

(a)any obligation of confidence owed by the person making the disclosure, or

(b)any other restriction on the disclosure of information or a document (however imposed).

(5)But see also section 183A of the Data Protection Act 2018 (c. 12) (protection of requirements for processing personal data).

22EWales: provision of information to duty holders

(1)This article applies in relation to premises forming part of a building where any part of the building is a relevant HMO.

(2)A responsible person in relation to the premises must give information or a document to a person (“D”) who—

(a)is a duty holder for a relevant HMO in the building, and

(b)makes a request in accordance with paragraph (3).

(3)A request is made in accordance with this paragraph if—

(a)the information or document requested is necessary for D to comply with a requirement under the Building Safety (Wales) Act 2026 or regulations made under it,

(b)D gives the responsible person a written request that—

(i)states that the request is made pursuant to this article,

(ii)explains why D requires the information or document,

(iii)states the address to which the information or document must be given, and

(iv)states that the information or document must be given before the end of a specified date no less than 14 days after the day on which the request is given, and

(c)it is reasonable for the responsible person to give D the information or document.

(4)The disclosure of information or a document in accordance with this section does not breach—

(a)any obligation of confidence owed by the person making the disclosure, or

(b)any other restriction on the disclosure of information or a document (however imposed).

(5)But see also section 183A of the Data Protection Act 2018 (c. 12) (protection of requirements for processing personal data).

(3)Ym mhennawd erthygl 22B, yn lle “Co-operation” rhodder “England: co-operation”.

(4)Yn y darpariaethau a ganlyn, yn lle “22B” rhodder ‍“22E”—

(a)erthygl 5(1), (2), (3) a (5);‍

(b)erthygl 50(1) ac (1A).‍

(5)Yn erthygl 26, ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(4)In paragraph (1), the reference to “this Order” does not include Articles 22C to 22E (but see section 94 of the Building Safety (Wales) Act 2026).

(6)Yn erthygl 27, ar ôl paragraff (5), mewnosoder—

(6)In paragraph (1), references to “this Order” do not include Articles 22C to 22E.

(7)Yn erthygl 30, ar ôl paragraff (7), mewnosoder—

(8)In paragraphs (1) and (4), references to “this Order” do not include Articles 22C to 22E.

(8)Yn erthygl 36, ar ôl paragraff (6), mewnosoder—

(7)In paragraph (1)(a), the reference to “this Order” does not include Articles 22C to 22E.

Gwybodaeth Cychwyn

I121A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

Awdurdodau diogelwch adeiladauLL+C

122Awdurdodau diogelwch adeiladauLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod diogelwch adeiladau” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol‍ a ddynodir felly mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol â’r adran hon.

(2)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon, ar gyfer ardal pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru, ddynodi un cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn yr ardal fel yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr ardal honno.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau gan awdurdod diogelwch adeiladau (gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol arall wneud taliadau, neu ddarparu gwasanaethau neu gyfleusterau, i’r awdurdod).

(5)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad rheoleiddiedig yn gyfeiriadau at yr awdurdod diogelwch adeiladau y mae’r adeilad wedi ei leoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ei ardal.

(6)Wrth benderfynu a yw adeilad rheoleiddiedig wedi ei leoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ardal awdurdod diogelwch adeiladau, mae unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn cyfeiriad at adeilad o’r fath yn rhinwedd adran 7 (ardaloedd atodol) i’w anwybyddu.

(7)Nid yw swyddogaethau cyngor fel awdurdod diogelwch adeiladau i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y cyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.

(8)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ardal pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru i’w dehongli yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21).

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);

  • mae “gweithrediaeth” (“executive”) i’w ddehongli yn unol ag adran 11 o Ddeddf 2000;

  • mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive arrangements” gan adran 10 o Ddeddf 2000.

Gwybodaeth Cychwyn

I122A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

123Dirprwyo swyddogaethau pan fo awdurdod diogelwch adeiladau yn berson atebol ar gyfer adeilad categori 1LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 ac yn berson atebol ar gyfer yr adeilad.

(2)Rhaid i’r cyngor wneud pob ymdrech resymol i drefnu o dan adran 101(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) i’w swyddogaethau fel yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad gael eu harfer gan awdurdod diogelwch adeiladau arall.

(3)Pan fo trefniadau o’r fath mewn grym mewn perthynas ag adeilad categori 1, rhaid arfer swyddogaethau’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad yn unol â’r trefniadau (ac nid yw adran 101(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I123A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

124Pŵer i gyfarwyddo awdurdodau diogelwch adeiladau i drefnu i ddirprwyo swyddogaethauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau‍ neu ragor o awdurdodau diogelwch adeiladau i drefnu o dan adran 101(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) i un o’r awdurdodau arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod arall neu’r awdurdodau eraill fel awdurdod diogelwch adeiladau.

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r‍ awdurdodau.

(3)Caiff cyfarwyddyd—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch telerau’r trefniadau y mae rhaid i’r awdurdodau eu gwneud;

(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer gwahanol swyddogaethau neu adeiladau).

(4)Rhaid rhoi cyfarwyddyd yn ysgrifenedig.

(5)Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(6)Pan fo trefniadau sy’n ofynnol gan gyfarwyddyd mewn grym mewn perthynas â swyddogaeth awdurdod diogelwch adeiladau, rhaid arfer y swyddogaeth yn unol â’r trefniadau (ac nid yw adran 101(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I124A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

125Ffioedd ar gyfer arfer swyddogaethau gan awdurdodau diogelwch adeiladauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer codi ffioedd gan awdurdodau diogelwch adeiladau, ac mewn cysylltiad â hynny, ar gyfer—

(a)arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani;

(b)gwneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n ddeilliadol i’w harfer.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)yr amgylchiadau y caniateir codi ffioedd ynddynt;

(b)yr amser pan fo ffi a godir yn daladwy, neu’r cyfnod y mae ffi a godir yn daladwy ynddo;

(c)pwy sy’n atebol i dalu ffi a godir;

(d)sut y mae ffi a godir i’w thalu;

(e)adennill ffioedd a godir;

(f)ildio, lleihau neu ad-dalu ffioedd.

(3)Caiff y rheoliadau naill ai—

(a)pennu swm ffi, neu

(b)darparu i’r swm gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

(4)Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)darparu bod swm ffi i’w benderfynu gan awdurdod diogelwch adeiladau yn unol â chynllun a wnaed ac a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, a

(b)gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau o’r fath, gan gynnwys yr egwyddorion sydd i’w hymgorffori ynddynt.

(5)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch effaith methu â thalu ffi yn unol â’r rheoliadau.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, a

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I125A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

Awdurdodau diogelwch tânLL+C

126Awdurdodau diogelwch tânLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon ystyr “awdurdod diogelwch tân” yw—

(a)awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

(b)arolygydd tân.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol—

(a)mewn perthynas ag adeilad neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol nad yw’n cynnwys mangreoedd y Goron yn unig, yn gyfeiriadau at yr awdurdod tân ac achub y mae’r adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn ei ardal;

(b)mewn perthynas ag adeilad neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol sy’n cynnwys mangreoedd y Goron yn unig, yn gyfeiriadau at arolygydd tân.

(3)Wrth benderfynu a yw adeilad rheoleiddiedig wedi ei leoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ardal awdurdod tân ac achub, mae unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn cyfeiriad at adeilad o’r fath yn rhinwedd adran 7 (ardaloedd atodol) i’w anwybyddu.

(4)Wrth benderfynu a yw tŷ amlfeddiannaeth perthnasol wedi ei leoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ardal awdurdod tân ac achub, mae unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn cyfeiriad at dŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn rhinwedd adran 78(5) i’w anwybyddu.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “arolygydd tân” (“fire inspector”) yw arolygydd neu arolygydd cynorthwyol a benodir o dan adran 28(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21);‍

  • mae i “awdurdod tân ac achub” yr ystyr a roddir i “fire and rescue authority” gan Ran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21).

Gwybodaeth Cychwyn

I126A. 126 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

Arfer swyddogaethau gan awdurdodau diogelwch adeiladau ac awdurdodau diogelwch tânLL+C

127Dyroddi canllawiau gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer swyddogaethauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau perthnasol gan—

(a)awdurdod diogelwch adeiladau;

(b)awdurdod diogelwch tân.

(2)Rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau ac awdurdod diogelwch tân roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (1).

(3)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pob awdurdod diogelwch adeiladau,

(b)pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr “swyddogaeth berthnasol” yw swyddogaeth o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I127A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

128Cydweithredu rhwng awdurdodau diogelwch adeiladau ac awdurdodau diogelwch tânLL+C

(1)Rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau ac awdurdod diogelwch tân y mae’r adran hon yn gymwys iddynt gydweithredu wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol, i’r graddau y bo hynny’n bosibl‍.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i awdurdod diogelwch adeiladau ac awdurdod diogelwch tân a chanddynt swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â’r un adeilad rheoleiddiedig neu’r un adeiladau rheoleiddiedig‍.

(3)Caiff canllawiau o dan adran 127 gynnwys canllawiau ynghylch sut y mae awdurdod diogelwch adeiladau ac awdurdod diogelwch tân i gydymffurfio â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I128A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

129Rhannu gwybodaethLL+C

(1)Caiff awdurdod perthnasol ddatgelu gwybodaeth a ddelir ganddo‍ i awdurdod gorfodi at ddibenion swyddogaeth berthnasol y naill awdurdod neu’r llall.

(2)Nid yw datgelu gwybodaeth yn unol ag is-adran (1) yn torri—

(a)unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan yr awdurdod sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei osod).

(3)Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).

(4)Yn is-adran (1), ystyr “awdurdod perthnasol” yw—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)awdurdod diogelwch tân.

Gwybodaeth Cychwyn

I129A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

TroseddauLL+C

130Atebolrwydd troseddol uwch swyddogion cyrffLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan—

(a)corff corfforedig,

(b)partneriaeth, neu

(c)cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.

(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan yr hyn a ganlyn, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad yr hyn a ganlyn, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran yr hyn a ganlyn—

(a)un o uwch-swyddogion y corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel swyddog o’r fath,

mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforedig, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, swyddog i’r gymdeithas neu aelod o’i gorff llywodraethu.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I130A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraillLL+C

131Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu reoliadau a wneir oddi tani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall).

(2)Caniateir rhoi’r ddogfen drwy—

(a)ei rhoi i’r person â llaw,

(b)ei gadael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)ei hanfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw, neu

(d)ei hanfon drwy e-bost i gyfeiriad e-bost y mae’r person wedi cytuno yn ysgrifenedig i gael dogfennau wedi eu hanfon iddo o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani (neu ddogfennau o’r math o dan sylw).

(3)Rhoddir dogfen yn unol ag is-adran (2)(a)—

(a)os yw’r person yn gorff corfforedig, drwy roi’r dogfen â llaw i gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff (ac ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o’r corff);

(b)os yw’r person yn bartneriaeth, drwy roi’r ddogfen â llaw i bartner;

(c)os yw’r person yn gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, drwy roi’r ddogfen â llaw i un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu.

(4)At ddibenion yr adran hon, cyfeiriad priodol person yw—

(a)os yw’r person yn gorff corfforedig, gyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;

(b)os yw’r person yn bartneriaeth neu’n gymdeithas anghorfforedig arall, gyfeiriad ei brif swyddfa;

(c)mewn unrhyw achos arall, gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(5)Os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig y caniateir rhoi dogfennau (neu ddogfennau o’r math o dan sylw) i’r person o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, mae’r cyfeiriad hwnnw hefyd i’w drin fel cyfeiriad priodol y person.

(6)Mae dogfen a adawyd yn unol ag is-adran (2)(b) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi pan gafodd ei gadael.

(7)Mae dogfen a anfonir drwy’r post yn unol ag is-adran (2)(c) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi 48 awr ar ôl iddi gael ei hanfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(8)Mae dogfen a anfonir drwy e-bost yn unol ag is-adran (2)(d) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi 24 awr ar ôl iddi gael ei hanfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(9)Nid yw adrannau 231 a 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) yn gymwys i ddogfennau sydd i’w rhoi i awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(10)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol ar gyfer rhoi dogfen a wneir gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I131A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

132Rhoi dogfennau i berson y mae ei enw yn anhysbysLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys (yn ogystal ag adran 131) pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu reoliadau a wneir oddi tani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson sy’n dod o fewn disgrifiad yn is-adran (2).

(2)Y disgrifiadau yw—

(a)person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, neu berson sydd i’w drin fel person atebol ar gyfer adeilad o’r fath yn rhinwedd adran 36;

(b)deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(c)perchennog uned breswyl neu unrhyw fangre arall;

(d)preswylydd uned breswyl neu feddiannydd unrhyw fangre arall.

(3)Os nad yw enw’r person yn hysbys, er bod camau rhesymol wedi eu cymryd i’w ganfod, caniateir cyfeirio’r ddogfen at y person drwy ddefnyddio’r disgrifiad o dan sylw (ac enwi’r adeilad, y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu’r fangre o dan sylw).

(4)Os—

(a)yw’r ddogfen i’w rhoi i berson sy’n dod o fewn disgrifiad ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (2), a

(b)nad yw enw a chyfeiriad priodol y person yn hysbys, er bod camau rhesymol wedi eu cymryd i’w canfod,

caniateir rhoi’r ddogfen drwy ei chyfeirio at y person yn unol ag is-adran (3) a’i gosod ynghlwm wrth ran amlwg o’r adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol o dan sylw.

(5)Mae dogfen sydd wedi ei gosod yn unol ag is-adran (4) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi 48 awr ar ôl iddi gael ei gosod.

(6)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol ar gyfer rhoi dogfen a wneir gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I132A. 132 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

CyffredinolLL+C

133Ymgynghori cyn-gychwynLL+C

Gellir bodloni gofyniad i ymgynghori a osodir gan ddarpariaeth o’r Ddeddf hon drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r ddarpariaeth ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I133A. 133 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(c)

134Rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu: cyfrinachedd a diogelu dataLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adrannau 39, 49, 50 a 87 ddarparu nad yw datgelu gwybodaeth gan berson yn unol â’r rheoliadau yn torri—

(a)unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person mewn perthynas â’r wybodaeth, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei osod).‍

(2)Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) (diogelu gofynion ar gyfer prosesau data personol).

Gwybodaeth Cychwyn

I134A. 134 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(c)

135Rheoliadau o dan y Ddeddf hon: darpariaethau atodol a gweithdrefnolLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;

(b)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer adeiladau o ddisgrifiadau gwahanol, pa un ai drwy gyfeirio at y categorïau a nodir yn adran 6 neu unrhyw fater arall).

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau ynghylch y ffurf neu’r ffordd y mae unrhyw ddogfen neu beth arall i’w rhoi neu i’w roi i awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân yn cynnwys pŵer i ddarparu ei bod i’w rhoi neu ei fod i’w roi ar ffurf neu mewn ffordd a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod yn unol â’r rheoliadau.

(3)Rhaid i bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon gael ei arfer drwy offeryn statudol Cymreig.

(4)Mae rheoliadau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.

(5)Mae is-adran (4) yn gymwys i reoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 4(6);

(b)adran 5(5);

(c)adran 6(6);

(d)adran 13(3);

(e)adran 15;

(f)adran 16;

(g)adran 17 (gweler hefyd adran 77 am ddarpariaeth bellach ynghylch offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 17);

(h)adran 28(2) (gweler hefyd adran 77 am ddarpariaeth bellach ynghylch offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28(2));

(i)adran 31(2);‍

(j)adran 42(9);

(k)adran 46

(l)adran 50;

(m)adran 63(4);

(n)adran 66;

(o)adran 69;

(p)adran 75 (gweler hefyd adran 77 am ddarpariaeth bellach ynghylch offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 75);

(q)adran 78(8);

(r)adran 84(4);

(s)adran 99(7);

(t)Rhan 4;

(u)paragraff 21(3) o Atodlen 2;

(v)paragraff 1(5) o Atodlen 4.

(6)Mae is-adran (4) hefyd yn gymwys i reoliadau o dan adran 137(3) sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(7)Mae unrhyw reoliadau eraill o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.

(8)Yn is-adran (6), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I135A. 135 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(c)

136DehongliLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae “adeilad categori 1” (“category 1 building”), “adeilad categori 2” (“category 2 building”) ac “adeilad categori 3” (“category 3 building”) i’w dehongli yn unol ag adrannau 6 a 7;

  • mae “adeilad rheoleiddiedig” (“regulated building”) i’w ddehongli yn unol ag adrannau 2 a 7;

  • mae i “adroddiad achos diogelwch” (“safety case report”) yr ystyr a roddir gan adran 37(2);

  • mae i “asesiad risg strwythurol” (“structural risk assessment”) yr ystyr a roddir gan adran 34(2);

  • mae i “asesiad risg tân” (“fire risk assessment”) yr ystyr a roddir gan adran 29(3);

  • mae i “asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth” (“HMO fire risk assessment”) yr ystyr a roddir gan adran 81(2);

  • mae “awdurdod diogelwch adeiladau” (“building safety authority”), a chyfeiriadau at yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, i’w dehongli yn unol ag adran 122;

  • mae “awdurdod diogelwch tân” (“fire safety authority”), a chyfeiriadau at yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol, i’w dehongli yn unol ag adran 126;

  • mae i “awdurdod gorfodi” (“enforcing authority”) yr ystyr a roddir gan adran 94(4);

  • mae i “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) ac “yr awdurdod tai lleol” (“the local housing authority”) yr ystyron a roddir i “local housing authority” a “the local housing authority” gan adran 261 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34);

  • mae i “caniatâd cynllunio” yr ystyr a roddir i “planning permission” gan adran 336(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

  • ystyr “cofrestredig” (“registered”), mewn perthynas ag adeilad categori 1 neu adeilad categori 2, yw cofrestredig o dan adran 20;

  • mae i “cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu” yr ystyr a roddir i “building control approval” gan baragraff 1B o Atodlen 1 i Ddeddf Adeiladu 1984 (p. 55);

  • mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys unrhyw ddeddfiad, pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed;

  • mae i “deiliad dyletswydd” (“duty holder”), mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yr ystyr a roddir gan adran 79;

  • ystyr “y Gorchymyn Diogelwch Tân” (“the Fire Safety Order”) yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541);

  • ystyr “gorchymyn mesurau arbennig” (“special measures order”) yw gorchymyn o dan adran 109;

  • mae “y Goron” (“the Crown”) i’w drin fel pe bai’n cynnwys Comisiwn y Senedd;

  • ystyr “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 96;

  • ystyr “hysbysiad gwahardd” (“prohibition notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 98;

  • ystyr “hysbysiad gwybodaeth”(“information notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 95;

  • mae i “landlord” (“landlord”), mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yr ystyr a roddir gan adran 79;

  • ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff sydd wedi ei gofrestru fel landlord cymdeithasol o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

  • ystyr “mangreoedd y Goron” (“Crown premises”) yw mangreoedd y mae’r Goron yn berchen arnynt, neu a feddiennir at unrhyw ddiben gan y Goron;

  • ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag uned breswyl neu unrhyw fangre arall, yw person—

    (a)

    sydd am y tro yn cael crogrent y fangre, pa un ai yn uniongyrchol neu drwy asiant neu ymddiriedolwr, neu

    (b)

    a fyddai’n cael y crogrent pe bai’r fangre yn cael ei gosod am grogrent,

    ac at y diben hwn, mae i “crogrent” yr ystyr a roddir i “rackrent” gan adran 126 o Ddeddf Adeiladu 1984 (p. 55);

  • mae i “person atebol” (“accountable person”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yr ystyr a roddir gan adran 8;

  • mae i “person cyfrifol” (“responsible person”) yr ystyr a roddir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn Diogelwch Tân;

  • ystyr “preswylydd” (“resident”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig neu ran o adeilad o’r fath, yw preswylydd uned breswyl yn yr adeilad neu’r rhan;

  • ystyr “preswylydd sy’n oedolyn” (“adult resident”) yw preswylydd sy’n 18 oed neu’n hŷn;

  • mae i “prif berson atebol” (“principal accountable person”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yr ystyr a roddir gan adran 9;‍

  • mae i “risg diogelwch tân” (“fire safety risk”)—

    (a)

    mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yr ystyr a roddir gan adran 27(2);

    (b)

    mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yr ystyr a roddir gan adran 80;

  • mae i “risg diogelwch strwythurol” (“structural safety risk”) yr ystyr a roddir gan adran 27(3);

  • mae i “rhannau cyffredin” (“common parts”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yr ystyr a roddir gan adran 13;

  • ystyr “rheolwr mesurau arbennig” (“special measures manager”) yw person a benodir drwy orchymyn mesurau arbennig;

  • mae i “strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr” (“residents’ engagement strategy”) yr ystyr a roddir gan adran 40(2);

  • ystyr “system cofnodi achlysuron” (“occurrence recording system”) yw system a sefydlir ac a weithredir o dan adran 38;

  • mae “tân” (“fire”) yn cynnwys gwres, fflamau, mwg a nwyon neu sylweddau eraill a allyrrir gan dân;

  • mae “tŷ amlfeddiannaeth perthnasol” (“relevant HMO”) i’w ddehongli yn unol ag adran 78;

  • ystyr “tystysgrif adeilad” (“building certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir o dan adran 44;

  • mae i “uned breswyl” (“residential unit”) yr ystyr a roddir gan adran 5;

  • ystyr “wedi ei feddiannu” (“occupied”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yw bod preswylwyr o fwy nag un uned breswyl yn yr adeilad.

(2)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at y rhan o adeilad rheoleiddiedig y mae person atebol yn gyfrifol amdani i’w dehongli yn unol ag adran 16.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch ystyr bod yn “preswylydd” uned breswyl.

Gwybodaeth Cychwyn

I136A. 136 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(c)

137Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Mae Atodlen 3 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfiadau.

(2)Mae Atodlen 4 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed mewn cysylltiad â’r diwygiadau i’r Gorchymyn Diogelwch Tân.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I137A. 137(3)(4) mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(d)

138Dod i rymLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adrannau 1 i 9;

(b)adrannau 13 i 17;

(c)adrannau 133 i 136;

(d)adran 137(3) a (4);

(e)yr adran hon;

(f)adran 140.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

Gwybodaeth Cychwyn

I138A. 138 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(e)

Rhagolygol

139Adroddiadau cynnydd ar ddwyn y Ddeddf hon i rymLL+C

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os nad yw’r Ddeddf hon mewn grym yn llawn ar unrhyw un neu ragor o’r diwrnodau a ganlyn—

(a)31 Rhagfyr 2028;

(b)31 Rhagfyr 2029;

(c)31 Rhagfyr bob yn ail flwyddyn ar ôl 2029.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad—

(a)yn pennu unrhyw gynnydd o ran dwyn y Ddeddf i rym, a

(b)yn pennu unrhyw gamau pellach i’w cymryd gan Weinidogion Cymru (neu unrhyw berson arall) i ddwyn y Ddeddf i rym yn llawn.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad sy’n ofynnol gan is-adran (2) a gosod copi ohono gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y diwrnod a grybwyllir yn is-adran (1) y mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I139A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

140Enw byrLL+C

Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—

(a)Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026, neu

(b)the Building Safety (Wales) Act 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I140A. 140 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(f)

(a gyflwynir gan adran 2(2))

ATODLEN 1LL+CADEILADAU SYDD WEDI EU HEITHRIO RHAG BOD YN ADEILADAU RHEOLEIDDIEDIG

1LL+CAdeilad a ddefnyddir yn unig at ddibenion un neu ragor o’r hyn a ganlyn—

(a)lluoedd arfog y Goron;

(b)llu ar ymweliad o fewn yr ystyr a roddir i “visiting force” gan Ran 1 o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952 (p. 67);

(c)pencadlys rhyngwladol neu sefydliad amddiffyn a ddynodir at ddibenion Deddf Pencadlys Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn 1964 (p. 5).

Gwybodaeth Cychwyn

I141Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

2LL+CAdeilad a leolir o fewn mangre a ddefnyddir yn unig at ddibenion lluoedd arfog y Goron ond nad yw’r adeilad ei hun yn cael ei ddefnyddio felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I142Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

3(1)Adeilad a ddefnyddir yn unig ar gyfer darparu llety preswyl diogel.LL+C

(2)Yn y paragraff hwn, mae “llety preswyl diogel” yn cynnwys carchar, sefydliad troseddwyr ifanc, canolfan gadw, canolfan hyfforddi ddiogel, dalfa, canolfan aros tymor byr, ysbyty diogel, llety diogel awdurdod lleol a mangre a gymeradwyir o dan adran 13(1) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21).

Gwybodaeth Cychwyn

I143Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

4LL+CAdeilad a ddefnyddir yn unig fel un neu ragor o’r hyn a ganlyn—

(a)ysbyty gwasanaeth iechyd o fewn yr ystyr a roddir i “health service hospital” gan adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

(b)ysbyty annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent hospital” gan adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14).

Gwybodaeth Cychwyn

I144Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

5LL+CAdeilad a ddefnyddir yn unig ar gyfer darparu gwasanaeth cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2).

Gwybodaeth Cychwyn

I145Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

6LL+CAdeilad a ddefnyddir yn unig fel ysgol o fewn yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

Gwybodaeth Cychwyn

I146Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 109)

ATODLEN 2LL+CGORCHMYNION MESURAU ARBENNIG

RHAN 1LL+CY WEITHDREFN CYN GWNEUD CAIS AM ORCHYMYN MESURAU ARBENNIG

RhagarweiniolLL+C

1(1)Ni chaiff yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mesurau arbennig mewn perthynas â’r adeilad oni bai—

(a)ei fod wedi cydymffurfio â gofynion y Rhan hon, a

(b)bod yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad yn cytuno i’r cais gael ei wneud.

(2)Ni chaiff yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer adeilad categori 1 wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mesurau arbennig mewn perthynas â’r adeilad oni bai—

(a)ei fod wedi cydymffurfio â gofynion y Rhan hon, a

(b)bod yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad yn cytuno i’r cais gael ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I147Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Hysbysiad bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn mesurau arbennigLL+C

2(1)Rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân sy’n bwriadu gwneud cais am orchymyn mesurau arbennig mewn perthynas ag adeilad categori 1 roi hysbysiad o’r cynnig i bob person arall sy’n berson a chanddo fuddiant mewn perthynas â’r adeilad.

(2)Rhaid i’r hysbysiad o’r cynnig—

(a)nodi bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn mesurau arbennig mewn perthynas â’r adeilad;

(b)rhoi cyfeiriad yr adeilad;

(c)rhoi rhesymau’r awdurdod dros gynnig gwneud y cais;

(d)nodi telerau’r gorchymyn y mae’r awdurdod yn bwriadu gwahodd y tribiwnlys eiddo preswyl i’w wneud, gan gynnwys enw a chyfeiriad y rheolwr mesurau arbennig arfaethedig;

(e)pennu cyfnod y caiff personau a chanddynt fuddiant wneud sylwadau ynddo mewn ymateb i’r hysbysiad;

(f)datgan bod rhaid gwneud unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig a’u hanfon i gyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost a bennir yn yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I148Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod ynghylch a ddylid gwneud cais am orchymynLL+C

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff 2 o gynnig i wneud cais am orchymyn mesurau arbennig mewn perthynas ag adeilad categori 1.

(2)Ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 2(2)(e) rhaid i’r awdurdod—

(a)penderfynu pa un ai i wneud y cais, a

(b)rhoi hysbysiad o’i benderfyniad i bob person arall sy’n berson a chanddo fuddiant mewn perthynas â’r adeilad.

(3)Rhaid i’r hysbysiad hwnnw o’r penderfyniad—

(a)datgan pa un a yw’r awdurdod yn bwriadu gwneud y cais ai peidio;

(b)rhoi ei resymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw;

(c)os yw’r awdurdod yn bwriadu gwneud y cais, nodi telerau’r gorchymyn y mae’r awdurdod yn bwriadu gwahodd y tribiwnlys eiddo preswyl i’w wneud, gan gynnwys enw a chyfeiriad y rheolwr mesurau arbennig arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I149Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Gofyniad i gynnwys cynnig rheoli ariannol gyda hysbysiad o gynnig neu benderfyniadLL+C

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân yn rhoi i berson a chanddo fuddiant—

(a)hysbysiad o dan baragraff 2, neu

(b)hysbysiad o dan baragraff 3 sy’n datgan bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn mesurau arbennig.

(2)Os yw’r telerau a nodir yn yr hysbysiad yn unol â pharagraff 2(2)(d) neu 3(3)(c) yn cynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson atebol perthnasol wneud taliadau i’r rheolwr mesurau arbennig, rhaid i’r awdurdod gynnwys cynnig rheoli ariannol gyda’r hysbysiad.

(3)Mae cynnig rheoli ariannol yn ddogfen sy’n nodi—

(a)amcangyfrif o’r costau y mae’r awdurdod yn disgwyl i reolwr mesurau arbennig ar gyfer yr adeilad categori 1 fynd iddynt mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r rheolwr mewn perthynas â’r adeilad (gan gynnwys swm rhesymol ar gyfer digwyddiadau annisgwyl),

(b)y mesurau y mae’r costau amcangyfrifedig yn ymwneud â hwy, ac

(c)os oes mwy nag un person atebol perthnasol—

(i)dosraniad arfaethedig yr awdurdod o’r costau amcangyfrifedig rhwng y personau atebol perthnasol, a

(ii)y rhesymau dros y cynnig hwnnw (gan gynnwys unrhyw gyfrifiad sy’n arwain ato).

(4)Yn y paragraff hwn ystyr “person atebol perthnasol” yw person atebol y byddai’r gorchymyn mesurau arbennig arfaethedig yn gymwys i’w swyddogaethau diogelwch adeiladau.

Gwybodaeth Cychwyn

I150Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Darpariaeth bellach ynghylch rhoi hysbysiadau o dan y Rhan honLL+C

5(1)Nid yw paragraffau 2 i 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân roi hysbysiad neu gynnig rheoli ariannol i berson a chanddo fuddiant—

(a)os nad yw’r awdurdod yn ymwybodol o’r person, a

(b)os yw’r awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol i adnabod y personau sy’n bersonau a chanddynt fuddiant mewn perthynas â’r adeilad categori 1 y mae’r hysbysiad neu’r cynnig yn ymwneud ag ef.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau o dan y Rhan hon, gan gynnwys yn benodol ddarpariaeth ynghylch—

(a)ffurf hysbysiad;

(b)sut y mae rhaid rhoi hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I151Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

RHAN 2LL+CDARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH EFFAITH GORCHYMYN MESURAU ARBENNIG AC YNGHYLCH EI WEITHREDU

Swyddogaethau i’w cyflawni gan reolwr mesurau arbennigLL+C

6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys tra bo gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas â swyddogaethau diogelwch adeiladau person atebol ar gyfer adeilad categori 1.

(2)Mae’r swyddogaethau hynny, ac eithrio unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â gwneud cais neu apêl i dribiwnlys eiddo preswyl, i’w trin fel swyddogaethau’r rheolwr mesurau arbennig a benodir gan y gorchymyn (ac ni chaniateir i’r person atebol eu harfer).

(3)Mae unrhyw swyddogaethau diogelwch adeiladau’r person atebol sy’n ymwneud â gwneud cais neu apêl i dribiwnlys eiddo preswyl i’w trin fel swyddogaethau’r person atebol a’r rheolwr mesurau arbennig (a chaniateir eu harfer gan y naill neu’r llall ohonynt).

Gwybodaeth Cychwyn

I152Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Effaith gorchymyn mesurau arbennig ar hysbysiadau cydymffurfioLL+C

7Pan wneir gorchymyn mesurau arbennig mewn perthynas â swyddogaethau diogelwch adeiladau person atebol ar gyfer adeilad categori 1, mae unrhyw hysbysiad cydymffurfio a roddir i’r person atebol hwnnw yn peidio â chael effaith (ond nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd yr aed iddo o ganlyniad i fethiant i gydymffurfio â’r hysbysiad a ddigwyddodd cyn i’r gorchymyn gael ei wneud).

Gwybodaeth Cychwyn

I153Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Effaith gorchymyn mesurau arbennig ar gontractau perthnasolLL+C

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)gorchymyn mesurau arbennig yn darparu bod swyddogaethau diogelwch adeiladau person atebol ar gyfer adeilad categori 1 i’w cyflawni gan reolwr mesurau arbennig, a

(b)y rheolwr yn rhoi i bartïon i gontract perthnasol hysbysiad yn datgan bod y paragraff hwn i fod yn gymwys i’r contract.

(2)Tra bo’r gorchymyn mewn grym, mae’r contract perthnasol yn cael effaith fel pe bai hawliau ac atebolrwyddau perthnasol y person atebol sy’n codi o dan y contract yn hawliau ac atebolrwyddau’r rheolwr.

(3)Ystyr “contract perthnasol” yw contract (gan gynnwys les) y bodlonir yr amodau a ganlyn mewn perthynas ag ef—

(a)bod y contract yn effeithiol ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn mesurau arbennig,

(b)bod y person atebol yn barti i’r contract,

(c)bod un neu ragor o hawliau neu atebolrwyddau’r person atebol o dan y contract yn hawliau neu’n atebolrwyddau perthnasol, a

(d)bod y gorchymyn mesurau arbennig yn darparu—

(i)bod y contract yn gontract perthnasol, neu

(ii)bod contractau o ddisgrifiad sy’n ei gynnwys yn gontractau perthnasol.

(4)Mae hawl neu atebolrwydd y person atebol yn “hawl neu atebolrwydd perthnasol” os yw’n ymwneud â swyddogaeth diogelwch adeiladau’r person atebol mewn perthynas â’r adeilad categori 1.

(5)Rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1)(b) ddatgan ba hawliau neu atebolrwyddau’r person atebol o dan y contract perthnasol sy’n hawliau neu’n atebolrwyddau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I154Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Effaith gorchymyn mesurau arbennig ar achosion cyfreithiolLL+C

9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)gorchymyn mesurau arbennig yn darparu bod swyddogaethau diogelwch adeiladau person atebol ar gyfer adeilad categori 1 i’w cyflawni gan reolwr mesurau arbennig, a

(b)y rheolwr yn rhoi hysbysiad i unrhyw berson y mae’r rheolwr yn ystyried y byddai ganddo fuddiant mewn sail achos perthnasol sy’n datgan bod y paragraff hwn i fod yn gymwys i’r sail achos.

(2)Tra bo’r gorchymyn mewn grym, caiff y rheolwr ddwyn y sail achos perthnasol, parhau â’r sail achos perthnasol neu amddiffyn y sail achos perthnasol.

(3)Mae sail achos yn “sail achos perthnasol” os—

(a)y gwnaeth gronni i’r person atebol neu yn ei erbyn cyn y diwrnod y gwnaed y gorchymyn mesurau arbennig,

(b)yw’n ymwneud â swyddogaeth diogelwch adeiladau y person atebol mewn perthynas â’r adeilad, ac

(c)yw y gorchymyn mesurau arbennig yn darparu—

(i)bod y sail achos yn sail achos perthnasol, neu

(ii)bod seiliau achos o ddisgrifiad sy’n ei gynnwys yn seiliau achos perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I155Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Ad-dalu iawndal a dalwyd gan reolwr mesurau arbennigLL+C

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)rheolwr mesurau arbennig, yn rhinwedd paragraff 8 neu 9, yn ddarostyngedig i atebolrwydd i dalu iawndal mewn cysylltiad ag unrhyw beth a wnaed (neu na wnaed) gan berson atebol neu ar ei ran cyn dyddiad penodi’r rheolwr, a

(b)y rheolwr yn talu’r iawndal.

(2)Mae’r person atebol yn agored i ad-dalu i’r rheolwr swm sy’n hafal i swm yr iawndal a dalwyd gan y rheolwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I156Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Taliadau a gafwyd gan reolwr mesurau arbennig i’w dal ar ymddiriedolaethLL+C

11(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo gorchymyn mesurau arbennig sy’n ymwneud ag adeilad categori 1 yn ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o bersonau atebol perthnasol wneud taliadau i reolwr mesurau arbennig.

(2)Rhaid i’r rheolwr mesurau arbennig ddal y taliadau (ynghyd ag unrhyw incwm sy’n cronni arnynt) naill ai—

(a)fel cronfa ymddiriedolaeth sengl, neu

(b)mewn dwy gronfa ymddiriedolaeth ar wahân neu ragor.

(3)Rhaid i’r rheolwr ddal unrhyw gronfa ymddiriedolaeth—

(a)ar ymddiriedolaeth i dalu costau y mae’r rheolwr yn mynd iddynt mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r rheolwr mewn perthynas â’r adeilad, a

(b)yn ddarostyngedig i hynny,‍ ar ymddiriedolaeth i’r person neu’r personau atebol perthnasol am y tro.

(4)Mae’r person neu’r personau atebol perthnasol am y tro i’w drin neu i’w trin fel â hawl yn rhinwedd is-baragraff (3)(b)—

(a)os oes un person atebol perthnasol, i weddill y gronfa neu’r cronfeydd;

(b)fel arall, i’r cyfranddaliadau yn y gweddill hwnnw y mae’r personau atebol perthnasol yn cytuno yn ysgrifenedig neu (os nad oes cytundeb) y mae tribiwnlys eiddo preswyl yn ei gyfarwyddo.

(5)Caniateir gwneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am gyfarwyddyd o dan is-baragraff (4)(b) gan—

(a)yr awdurdod diogelwch adeiladau neu’r awdurdod diogelwch tân y gwnaed y gorchymyn mesur arbennig ar ei gais,

(b)person atebol perthnasol ar gyfer yr adeilad, neu

(c)y rheolwr mesurau arbennig.

(6)Yn y paragraff hwn ystyr “person atebol perthnasol” yw person atebol y mae’r gorchymyn mesurau arbennig yn gymwys i’w swyddogaethau diogelwch adeiladau.

Gwybodaeth Cychwyn

I157Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Pŵer tribiwnlys i roi cyfarwyddydau pellachLL+C

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys tra bo gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas ag adeilad categori 1.

(2)Ar gais gan berson a grybwyllir yn is-baragraff (3), caiff tribiwnlys eiddo preswyl roi cyfarwyddydau i’r rheolwr mesurau arbennig ar gyfer yr adeilad neu unrhyw berson arall mewn cysylltiad ag—

(a)unrhyw fater sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau’r rheolwr, a

(b)unrhyw fater deilliadol neu ategol.

(3)Y personau yw—

(a)awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad;

(b)awdurdod diogelwch tân yr adeilad;

(c)person atebol ar gyfer yr adeilad;

(d)y rheolwr mesurau arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I158Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Newid mewn person atebolLL+C

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas ag adeilad categori 1, a

(b)person atebol y mae’r gorchymyn yn gymwys i’w swyddogaethau diogelwch adeiladau yn peidio â bod yn gyfrifol am y cyfan o’r adeilad neu unrhyw ran ohono.

(2)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “y person atebol ymadawol” yw’r person atebol a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b);

(b)ystyr “yr adeg berthnasol” yw’r adeg y mae’r person atebol ymadawol yn peidio â bod yn gyfrifol am y cyfan o’r adeilad categori 1 neu unrhyw ran ohono.

(3)O’r adeg berthnasol, mae’r gorchymyn mesurau arbennig yn peidio â bod yn gymwys i’r person atebol ymadawol mewn perthynas â’r adeilad neu, yn ôl y digwydd, y rhan ohono y mae’r person wedi peidio â bod yn gyfrifol amdani.

(4)Mae is-baragraff (5) yn gymwys os, yn union ar ôl yr adeg berthnasol, yw unrhyw berson arall (“olynydd”)—

(a)yn berson atebol ar gyfer yr adeilad, a

(b)yn gyfrifol am ran o’r adeilad (“y rhan berthnasol”) y peidiodd y person atebol ymadawol â bod yn gyfrifol amdani ar yr adeg berthnasol.

(5)Mewn perthynas â’r rhan berthnasol, mae’r gorchymyn mesurau arbennig yn gymwys i’r olynydd o’r adeg berthnasol fel yr oedd yn gymwys i’r person atebol ymadawol yn union cyn yr adeg honno.

(6)Nid yw’r paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd o dan y gorchymyn y daeth y person atebol ymadawol yn ddarostyngedig iddo cyn yr adeg berthnasol.

(7)Pan fo deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i fuddiannau, pridiannau neu rwymedigaethau eraill sy’n effeithio ar dir gael eu cofrestru, mae is-baragraff (5) yn cael effaith pa un a yw’r gorchymyn mesurau arbennig wedi ei gofrestru ai peidio.

(8)Nid oes unrhyw beth yn y paragraff hwn yn effeithio ar bwerau tribiwnlys eiddo preswyl i amrywio neu ddirymu gorchymyn mesurau arbennig o dan baragraff 16.

Gwybodaeth Cychwyn

I159Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

RHAN 3LL+CADOLYGU, AMRYWIO A DIRYMU GORCHYMYN MESURAU ARBENNIG

Hyd y gorchymyn mesurau arbennigLL+C

14Mae gorchymyn mesurau arbennig yn parhau mewn grym hyd nes iddo gael ei ddirymu o dan baragraff 16.

Gwybodaeth Cychwyn

I160Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Yr awdurdod i gadw materion penodol o dan adolygiadLL+C

15(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys tra bo gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas ag adeilad categori 1.

(2)Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau neu’r awdurdod diogelwch tân y gwnaed y gorchymyn ar ei gais adolygu’r materion a ganlyn o bryd i’w gilydd (ac o leiaf unwaith ym mhob 12 mis)—

(a)y mesurau a gymerir gan y rheolwr mesurau arbennig wrth arfer swyddogaethau’r rheolwr;

(b)y costau yr aed iddynt gan y rheolwr mewn cysylltiad â chymryd y mesurau hynny;

(c)unrhyw daliadau a wneir gan bersonau atebol ar gyfer yr adeilad i’r rheolwr mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r costau hynny;

(d)unrhyw symiau a geir gan y rheolwr ar ffurf incwm diogelwch adeilad cyfunddaliadol mewn perthynas â’r adeilad.

(3)Os, ar adolygiad o’r fath, yw’r awdurdod yn ystyried y dylid amrywio unrhyw un neu ragor o delerau’r gorchymyn mesurau arbennig, rhaid iddo wneud cais am amrywiad o’r gorchymyn o dan baragraff 16 (ond mae’r gofyniad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I161Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Amrywio neu ddirymu gorchymyn mesurau arbennigLL+C

16(1)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl amrywio neu ddirymu gorchymyn mesurau arbennig sy’n ymwneud ag adeilad categori 1 ar gais gan—

(a)awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad,

(b)awdurdod diogelwch tân yr adeilad,

(c)person atebol y mae’r gorchymyn yn gymwys i’w swyddogaethau diogelwch adeiladau, neu

(d)y rheolwr mesurau arbennig a benodir gan y gorchymyn.

(2)Ni chaiff awdurdod diogelwch adeiladau wneud cais i amrywio neu ddirymu gorchymyn oni bai—

(a)yn achos cais i amrywio gorchymyn, ei fod wedi cydymffurfio â gofynion paragraff 17, a

(b)mewn unrhyw achos, bod yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad yn cytuno i’r cais gael ei wneud.

(3)Ni chaiff awdurdod diogelwch tân wneud cais i amrywio neu ddirymu gorchymyn oni bai—

(a)yn achos cais i amrywio gorchymyn, ei fod wedi cydymffurfio â gofynion paragraff 17, a

(b)mewn unrhyw achos, bod yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad yn cytuno i’r cais gael ei wneud.

(4)Ni chaiff person atebol neu’r rheolwr mesurau arbennig wneud cais i amrywio gorchymyn drwy newid y rheolwr mesurau arbennig oni bai ei fod yn gais y cytunwyd arno (gweler is-baragraffau (7) ac (8)).

(5)Wrth ystyried a ddylid amrywio neu ddirymu gorchymyn mesurau arbennig, rhaid i dribiwnlys eiddo preswyl roi sylw i—

(a)y tebygolrwydd y bydd amrywio neu ddirymu’r gorchymyn yn arwain at ailadrodd yr amgylchiadau a arweiniodd at wneud y gorchymyn, a

(b)pa un a yw’n gyfiawn ac yn gyfleus yn yr holl amgylchiadau i amrywio neu ddirymu’r gorchymyn.

(6)Nid yw is-baragraff (5) yn gymwys os yw’r cais i amrywio neu ddirymu’r gorchymyn yn gais y cytunwyd arno.

(7)Mae cais i amrywio neu ddirymu gorchymyn mesurau arbennig sy’n ymwneud ag adeilad yn gais y cytunwyd arno at ddibenion y paragraff hwn os gwneir ef gyda chytundeb—

(a)awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad,

(b)awdurdod diogelwch tân yr adeilad,

(c)pob person atebol y mae’r gorchymyn yn gymwys i’w swyddogaethau diogelwch adeiladau (gan gynnwys, yn achos cais i amrywio gorchymyn, unrhyw berson atebol nad yw’r gorchymyn eisoes yn gymwys i’w swyddogaethau ond a fyddai’n gymwys iddo pe bai’r amrywiad yn cael ei wneud), a

(d)y rheolwr mesurau arbennig a benodir gan y gorchymyn (gan gynnwys, yn achos cais i amrywio gorchymyn drwy newid y rheolwr, y person a fyddai’n cael ei benodi pe bai’r amrywiad yn cael ei wneud).

(8)Nid yw is-baragraff (7)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i gael cytundeb y rheolwr mesurau arbennig os yw’r rheolwr yn unigolyn nad oes ganddo’r gallu i gytuno i’r cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I162Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Y weithdrefn cyn i awdurdod wneud cais i amrywio gorchymyn mesurau arbennigLL+C

17(1)Rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân sy’n bwriadu gwneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl i amrywio gorchymyn mesurau arbennig roi hysbysiad o’r cynnig i bob person arall sy’n berson a chanddo fuddiant mewn perthynas â’r adeilad.

(2)Rhaid i’r hysbysiad o’r cynnig—

(a)datgan bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais i amrywio’r gorchymyn mesurau arbennig a bennir yn yr hysbysiad;

(b)rhoi rhesymau’r awdurdod dros gynnig gwneud y cais;

(c)nodi telerau’r gorchymyn y mae’r awdurdod yn bwriadu gwahodd y tribiwnlys eiddo preswyl i’w wneud;

(d)pennu cyfnod y caiff personau a chanddynt fuddiant wneud sylwadau ynddo mewn ymateb i’r hysbysiad;

(e)datgan bod rhaid gwneud unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig a’u hanfon i gyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) rhaid i’r awdurdod—

(a)penderfynu pa un ai i wneud y cais, a

(b)rhoi hysbysiad o’i benderfyniad i bob person arall sy’n berson a chanddo fuddiant mewn perthynas â’r adeilad.

(4)Rhaid i’r hysbysiad o’r penderfyniad—

(a)datgan pa un a yw’r awdurdod yn bwriadu gwneud y cais ai peidio;

(b)rhoi ei resymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw;

(c)os yw’r awdurdod yn bwriadu gwneud y cais, nodi telerau’r gorchymyn y mae’r awdurdod yn bwriadu gwahodd y tribiwnlys eiddo preswyl i’w wneud.

(5)Nid yw is-baragraffau (1) a (3)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod roi hysbysiad i berson a chanddo fuddiant—

(a)os nad yw’r awdurdod yn ymwybodol o’r person, a

(b)os yw’r awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol i adnabod y personau sy’n bersonau a chanddynt fuddiant mewn perthynas â’r adeilad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau o dan y paragraff hwn, gan gynnwys yn benodol ddarpariaeth ynghylch—

(a)ffurf hysbysiad;

(b)sut y mae rhaid rhoi hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I163Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Cyfarwyddydau pan fo gorchymyn mesurau arbennig yn cael ei amrywio neu ei ddirymuLL+C

18(1)Pan fo tribiwnlys eiddo preswyl yn amrywio neu’n dirymu gorchymyn mesurau arbennig, caiff roi cyfarwyddydau i unrhyw berson mewn perthynas ag—

(a)unrhyw fater sy’n ymwneud â’r amrywiad neu’r dirymiad, a

(b)unrhyw fater deilliadol neu ategol.

(2)Pan fo tribiwnlys eiddo preswyl yn dirymu gorchymyn mesurau arbennig, rhaid iddo gyfarwyddo’r rheolwr mesurau arbennig ymadawol i—

(a)llunio cyfrif cysoni, a

(b)rhoi copi o’r cyfrif i—

(i)yr awdurdod diogelwch adeiladau neu’r awdurdod diogelwch tân y gwnaed y gorchymyn mesurau arbennig ar ei gais, a

(ii)pob person atebol perthnasol.

(3)Pan fo’r tribiwnlys yn dirymu’r gorchymyn, caiff roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1)(a) (ar yr adeg y mae’n dirymu’r gorchymyn neu ar ôl yr adeg honno) i daliad gael ei wneud—

(a)gan berson atebol perthnasol i’r rheolwr mesurau arbennig ymadawol, neu

(b)gan y rheolwr mesurau arbennig ymadawol i berson atebol perthnasol.

(4)Yn is-baragraffau (2) a (3)—

  • ystyr “cyfrif cysoni” (“reconciliation account”) yw dogfen—

    (a)

    sy’n nodi, mewn perthynas â’r cyfnod pryd yr oedd y gorchymyn mesurau arbennig mewn grym, gymhariaeth rhwng—

    (i)

    derbynebau a chostau’r rheolwr mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r rheolwr, a

    (ii)

    y credydau i’r holl gyfrifon perthnasol a’r debydau ohonynt, a

    (b)

    sy’n cynnwys datganiad sy’n esbonio unrhyw wahaniaethau;

  • ystyr “cyfrif perthnasol” (“relevant account”) yw cyfrif y mae unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn yn cael eu cadw (neu wedi eu cadw) ynddo—

    (a)

    taliadau a wneir gan berson atebol perthnasol i’r rheolwr;

    (b)

    symiau a geir gan y rheolwr ar ffurf incwm diogelwch adeilad cyfunddaliadol;

  • ystyr “person atebol perthnasol” (“relevant accountable person”) yw person atebol y cymhwyswyd y gorchymyn mesurau arbennig i’w swyddogaethau diogelwch adeiladau yn union cyn iddo gael ei ddirymu;

  • ystyr “rheolwr mesurau arbennig ymadawol” (“outgoing special measures manager”) yw’r person a oedd yn rheolwr mesurau arbennig yn union cyn i’r gorchymyn mesurau arbennig gael ei ddirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I164Atod. 2 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

RHAN 4LL+CATODOL

Hysbysiadau sy’n ymwneud â gorchymyn mesurau arbennigLL+C

19(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)gorchymyn mesurau arbennig yn cael ei wneud mewn perthynas ag adeilad categori 1;

(b)gorchymyn mesurau arbennig sy’n ymwneud ag adeilad categori 1 yn cael ei amrywio neu ei ddirymu.

(2)Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau neu’r awdurdod diogelwch tân y gwnaed y gorchymyn mesurau arbennig ar ei gais gymryd pob cam rhesymol i roi i bob person arall sy’n berson a chanddo fuddiant mewn perthynas â’r adeilad hysbysiad fod y gorchymyn wedi ei wneud, ei amrywio neu ei ddirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I165Atod. 2 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Pŵer y tribiwnlys i ddiwygio gorchymyn o dan adran 24 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987LL+C

20(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fo—

(a)tribiwnlys eiddo preswyl yn gwneud neu’n amrywio gorchymyn mesurau arbennig mewn perthynas ag adeilad categori 1, a

(b)gorchymyn o dan adran 24 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) yn penodi rheolwr mewn perthynas â’r adeilad hwnnw (“gorchymyn adran 24”) mewn grym.

(2)Caiff y tribiwnlys (ar yr adeg y mae’n gwneud neu’n amrywio’r gorchymyn mesurau arbennig neu ar ôl yr adeg honno) ddiwygio gorchymyn adran 24 i sicrhau nad yw’r swyddogaethau sydd i’w cyflawni yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw yn cynnwys unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau y mae’r gorchymyn mesurau arbennig yn eu darparu i’w cyflawni gan y rheolwr mesurau arbennig.

(3)Gweler hefyd—

(a)adran 24(2C) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31), sy’n atal gorchymyn adran 24 rhag darparu i reolwr gyflawni swyddogaeth os yw gorchymyn mesurau arbennig yn darparu bod y swyddogaeth i’w chyflawni gan reolwr mesurau arbennig;

(b)adran 24ZA o’r Ddeddf honno, sy’n galluogi rheolwr mesurau arbennig i wneud cais am orchymyn adran 24.

Gwybodaeth Cychwyn

I166Atod. 2 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Ystyr “person a chanddo fuddiant”LL+C

21(1)Yn yr Atodlen hon ystyr “person a chanddo fuddiant” mewn perthynas ag adeilad categori 1, yw—

(a)person atebol ar gyfer yr adeilad;

(b)preswylydd sy’n oedolyn yn yr adeilad;

(c)perchennog uned breswyl yn yr adeilad;

(d)perchennog yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu yn unrhyw ran ohono;

(e)unrhyw asiant rheoli ar gyfer yr adeilad, neu ar gyfer unrhyw ran ohono nad yw’n cynnwys mangre a feddiennir at ddibenion busnes neu ymgymeriad (pa un ai er elw ai peidio);

(f)unrhyw gymdeithas denantiaid gydnabyddedig (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised tenants’ association” gan adran 29 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70)) ar gyfer yr adeilad neu unrhyw ran ohono;

(g)unrhyw berson sy’n berson cyfrifol at ddibenion y Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas ag unrhyw fangre sy’n ffurfio rhan o’r adeilad;

(h)unrhyw reolwr a benodir o dan adran 24 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) mewn perthynas â’r adeilad neu unrhyw ran ohono;

(i)awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad;

(j)unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, heblaw am yr awdurdod diogelwch adeiladau, y mae unrhyw ran o’r adeilad wedi ei lleoli yn ei ardal;

(k)awdurdod diogelwch tân yr adeilad;

(l)pan fo unrhyw berson atebol ar gyfer yr adeilad yn landlord cymdeithasol cofrestredig, Weinidogion Cymru;

(m)pan fo unrhyw berson atebol ar gyfer yr adeilad yn ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig (o fewn yr ystyr a roddir i “registered provider of social housing” gan adran 80(2) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17)), y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(e) mae person (“A”) yn asiant rheoli ar gyfer adeilad categori 1, neu ran o adeilad categori 1—

(a)os yw A wedi ei benodi i gyflawni rhwymedigaethau person (“B”) sy’n ymwneud â rheoli’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad gan B, a

(b)os oes gan B ystad gyfreithiol yn yr adeilad neu’r rhan o’r adeilad sydd—

(i)yn ystad rhydd-ddaliadol, neu

(ii)yn les a roddir am gyfnod penodol o fwy na 21 o flynyddoedd o’r dyddiad y rhoddir y les, pa un ai ei fod (neu a all ddod) yn derfynadwy ai peidio cyn diwedd y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir gan y tenant neu drwy ailfynediad neu fforffediad.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r paragraff hwn i newid ystyr “person a chanddo fuddiant”.

Gwybodaeth Cychwyn

I167Atod. 2 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 137(1))

ATODLEN 3LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 (p. 37)LL+C

1Yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974, ar ôl adran 51A mewnosoder—‍

51BPremises to which the Building Safety (Wales) Act 2026 applies

(1)Provision made by this Part or regulations made under it does not apply to premises forming part of an occupied regulated building or a relevant HMO to the extent that the condition in subsection (2) is met in relation to the provision.

(2)The condition is that the provision relates to any matters in relation to which requirements were or could have been imposed in relation to the premises by or under the Fire Safety Order as that order had effect immediately before the relevant time (whether or not the premises existed immediately before the relevant time).

(3)In this section—

  • the Fire Safety Order” means the Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 (S.I. 2005/1541);

  • occupied” has the meaning given by section 136(1) of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • regulated building” has the meaning given by sections 2 and 7 of that Act;

  • relevant HMO” has the meaning given by section 78 of that Act;

  • “the relevant time means the time when paragraph 10 of Schedule 3 to that Act came into force (partial disapplication of the Fire Safety Order in relation to occupied regulated buildings and relevant HMOs).

Gwybodaeth Cychwyn

I168Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Deddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31)LL+C

2Mae Deddf Landlord a Thenant 1987 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I169Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

3Yn adran 24, yn is-adran (2D), yn y diffiniadau o “special measures manager” a “special measures order”, ar y diwedd mewnosoder “or section 109 of the Building Safety (Wales) Act 2026”.

Gwybodaeth Cychwyn

I170Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

4Yn adran 24ZA—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “an occupied higher-risk building” mewnosoder “or an occupied category 1 building”;

(b)yn is-adran (2), ar ôl “the higher-risk building” mewnosoder “or category 1 building”;

(c)yn is-adran (3)(a)—

(i)ar ôl “an occupied higher-risk building” mewnosoder “or an occupied category 1 building”;

(ii)ar ôl “the higher-risk building” mewnosoder “or category 1 building”;

(d)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)In this section “category 1 building, and “occupied in relation to such a building, have the meanings given in section 136(1) of the Building Safety (Wales) Act 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I171Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21)LL+C

5‍Mae Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I172Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

6Yn adran 2, ar ôl is-adran (11) mewnosoder—

(12)An order under this section that applies to Wales may provide that it does not apply for the purposes of section 122(2) of the Building Safety (Wales) Act 2026 (and may amend section 122(8) of that Act in consequence of doing so).

Gwybodaeth Cychwyn

I173Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

7Yn adran 4, ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8)An order under this section that applies to Wales may provide that it does not apply for the purposes of section 122(2) of the Building Safety (Wales) Act 2026 (and may amend section 122(8) of that Act in consequence of doing so).

Gwybodaeth Cychwyn

I174Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

8Yn adran 18B(8), ar y diwedd mewnosoder “or the Building Safety (Wales) Act 2026”.

Gwybodaeth Cychwyn

I175Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541)LL+C

9Mae’r Gorchymyn Diogelwch Tân wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I176Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

10Ar ôl erthygl 7 mewnosoder—

7ADisapplication of certain provisions: occupied regulated buildings and relevant HMOs in Wales

(1)Except where paragraph‍ (4) or (5) applies, articles 8, 9, 12, 13, 14, 15, 16, 20, 22, 22‍A, 29 and 31 do not apply to premises that are or form part of an occupied regulated building or a relevant HMO.

(2)Except where paragraph‍ (4) or (5) applies, references to “the premises” in article 17 do not include premises that are or form part of an occupied regulated building or a relevant HMO.‍

(3)Except where paragraph (5) applies, articles 37 and 38 do not apply to premises that are or form part of a regulated building or a relevant HMO.

(4)This paragraph applies to premises—

(a)to the extent that the premises are a workplace;

(b)to the extent that work is taking place in, on or to the premises, where the premises are not a workplace of the person carrying out the work.

(5)This paragraph applies to premises—

(a)that form part of an occupied regulated building, and

(b)for which no accountable person has been made responsible by regulations under section 16 of the Building Safety (Wales) Act 2026.

(6)In this article—

  • accountable person” has the meaning given by section 8 of the Building Safety (Wales) Act 2026;

  • occupied” has the meaning given by section 136(1) of that Act;

  • regulated building” has the meaning given by sections 2 and 7 of that Act;

  • “relevant HMO has the meaning given by section 78 of that Act.

Gwybodaeth Cychwyn

I177Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

11Yn erthygl 21A (darparu gwybodaeth i breswylwyr mangre domestig)—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “a building” mewnosoder “in England”;

(b)yn lle paragraff (6) rhodder—

(6)The “relevant authority means the Secretary of State.;

(c)hepgorer paragraff (9);

(d)yn y pennawd, ar ôl “premesis”, mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I178Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

12Yn erthygl 22A (darparu gwybodaeth i berson cyfrifol newydd)—

(a)ym mharagraff (3), ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(da)where the premises form part of a regulated building, or are wholly or partly situated above or below such a building, the identity of any person who is an accountable person for the building (where known);;

(b)ym mharagraff (6)—

(i)yn y diffiniad o “accountable person”, ar ôl ““accountable person”” mewnosoder “, in relation to a higher-risk building,”;

(ii)ar ôl y diffiniad hwnnw mewnosoder—

  • “accountable person, in relation to a regulated building, has the meaning given by section 8 of the Building Safety (Wales) Act 2026;;

(iii)yn y diffiniad o “higher-risk building”, yn lle “that Act” rhodder “the Building Safety Act 2022”;

(iv)ar ôl y diffiniad hwnnw mewnosoder—

  • “regulated building has the meaning given by sections 2 and 7 of the Building Safety (Wales) Act 2026;.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I179Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (p. 30)LL+C

13Yn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022—

(a)hepgorer is-adran (2);

(b)yn is-adran (10), hepgorer paragraff (a);

(c)yn is-adran (11)—

(i)hepgorer paragraff (a);

(ii)ym mharagraff (b), hepgorer is-baragraff (i).

Gwybodaeth Cychwyn

I180Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 137(2))

ATODLEN 4LL+CGORCHYMYN DIOGELWCH TÂN: DARPARIAETHAU TROSIANNOL A DARPARIAETHAU ARBED

Asesiadau risg tân presennol ar gyfer adeiladau rheoleiddiedigLL+C

1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan mai person yw’r prif berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig a feddiennir,

(b)pan mai, yn union cyn i adran 29 ddod i rym, y person oedd y person cyfrifol at ddibenion y Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas â mangre sy’n cynnwys holl rannau perthnasol yr adeilad, ac

(c)pan fo, yn ystod y 6 mis sy’n dod i ben gyda’r diwrnod y daeth yr adran honno i rym, y person wedi gwneud neu adolygu asesiad risg o dan erthygl 9 o’r Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas â’r fangre (“yr asesiad risg presennol”).

(2)Mae’r asesiad risg presennol i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel asesiad risg tân a wneir o dan adran 29 mewn perthynas â’r rhannau perthnasol o’r adeilad (ac fel yr asesiad risg tân cyfredol ar gyfer yr adeilad).

(3)Nid yw adran 31(1) yn gymwys, ond rhaid i’r prif berson atebol sicrhau y gwneir asesiad risg tân ar gyfer yr adeilad o dan adran 29 heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed neu yr adolygwyd yr asesiad risg presennol.

(4)Yn y paragraff hwn, mae i gyfeiriadau at y rhannau perthnasol o adeilad yr ystyr a roddir gan adran 29(2).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r paragraff hwn i amrywio’r cyfnod ar gyfer gwneud asesiad risg tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I181Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Asesiadau risg tân presennol tŷ amlfeddiannaeth ar gyfer tai amlfeddiannaeth perthnasolLL+C

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan mai person yw landlord tŷ amlfeddiannaeth perthnasol,

(b)pan mai, yn union cyn i adran 81 ddod i rym, y person oedd y person cyfrifol at ddibenion y Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas â mangre sy’n, neu sy’n cynnwys, y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, ac

(c)pan fo, yn ystod y 6 mis sy’n dod i ben gyda’r diwrnod y daeth yr adran honno i rym, y person wedi gwneud neu adolygu asesiad risg o dan erthygl 9 o’r Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas â’r fangre (“yr asesiad risg presennol”).

(2)Mae’r asesiad risg presennol i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth a wneir o dan adran 81 mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (ac fel yr asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyfredol ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol).

(3)Nid yw adran 83(1) yn gymwys, ond rhaid i’r landlord sicrhau y gwneir asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth o dan adran 81 heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed neu yr adolygwyd yr asesiad risg presennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I182Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Hysbysiadau presennol a ddyroddwyd o dan y Gorchymyn Diogelwch TânLL+C

3Nid yw’r diwygiad a wneir gan baragraff 10 o Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad addasu, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad gwahardd a gyflwynwyd i berson cyn i’r paragraff hwnnw ddod i rym (ac, yn unol â hynny, mae’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad o’r fath fel pe na bai’r diwygiad hwnnw wedi ei wneud).

Gwybodaeth Cychwyn

I183Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources