- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026, Adran 37 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 13 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rhagolygol
(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw rheoliadau o dan adran 5(1)(b) (disgrifiad o “llety ymwelwyr rheoleiddiedig”) yn rhagnodi llety ymwelwyr ar—
(a)safle gwersylla y mae adran 269 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p. 49) yn gymwys iddo;
(b)safle carafannau y mae Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62) yn gymwys iddo.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, wrth roi neu adnewyddu trwydded llety ymwelwyr mewn perthynas â darparu llety ymwelwyr o’r disgrifiad hwnnw, bennu’r amodau trwydded hynny (sy’n gymwys fesul achos unigol) y maent yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn—
(a)cyfyngu ar y cyfnod yn ystod unrhyw flwyddyn galendr y caniateir darparu’r llety ymwelwyr hwnnw ar y safle gwersylla neu’r safle carafannau perthnasol;
(b)cyfyngu ar gapasiti’r llety ymwelwyr hwnnw a ddarperir ar y safle gwersylla neu’r safle carafannau perthnasol;
(c)cynnal neu wella amwynder y tir y mae’r safle gwersylla neu’r safle carafannau perthnasol arno.
(3)Ni chaniateir pennu amodau o dan is-adran (2) ond gyda chytundeb y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal y mae’r safle gwersylla neu’r safle carafannau ynddi.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau addasu unrhyw ddarpariaeth yn y Bennod hon at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r amodau a bennir yn yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: