- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Caiff person wneud cais i fod yn gofrestredig cyn i’r person ddechrau, yng nghwrs masnach neu fusnes, ddarparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yng Nghymru y mae’r person yn ei feddiannu (ond gweler adrannau 14 i 16 (dileu person o’r gofrestr pan nad yw’n darparu etc. llety ymwelwyr)).
(2)Rhaid i gais i fod yn gofrestredig—
(a)bod ar unrhyw ffurf, a chael ei wneud mewn unrhyw fodd, a bennir gan ACC,
(b)cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol, o dan Atodlen 1, ei chynnwys yn y gofrestr, ac
(c)cynnwys unrhyw wybodaeth arall, a chynnwys gydag ef unrhyw ddogfennau, a bennir gan ACC.
(3)Rhaid i ACC (oni bai bod y person eisoes yn gofrestredig)—
(a)cofrestru person sy’n gwneud cais sy’n cydymffurfio ag is-adran (2), a
(b)dyroddi hysbysiad cofrestru i’r person hwnnw.
(4)Os yw ACC yn penderfynu peidio â chofrestru person sydd wedi gwneud cais o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person hwnnw—
(a)yn pennu’r rheswm pam, a
(b)yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
(5)Nid yw person yn agored i gosb o dan adran 7 mewn perthynas â mangre lle y mae’r person yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn ystod y cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn gwneud cais i fod yn gofrestredig mewn cysylltiad â’r fangre honno, a
(b)sy’n dod i ben â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person hwnnw o dan is-adran (3)(b) neu (4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: