RHAN 2COFRESTR O DDARPARWYR LLETY YMWELWYR
Y gofrestr
6Ceisiadau i fod yn gofrestredig
(1)
Caiff person wneud cais i fod yn gofrestredig cyn i’r person ddechrau, yng nghwrs masnach neu fusnes, ddarparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yng Nghymru y mae’r person yn ei feddiannu (ond gweler adrannau 14 i 16 (dileu person o’r gofrestr pan nad yw’n darparu etc. llety ymwelwyr)).
(2)
Rhaid i gais i fod yn gofrestredig—
(a)
bod ar unrhyw ffurf, a chael ei wneud mewn unrhyw fodd, a bennir gan ACC,
(b)
cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol, o dan Atodlen 1, ei chynnwys yn y gofrestr, ac
(c)
cynnwys unrhyw wybodaeth arall, a chynnwys gydag ef unrhyw ddogfennau, a bennir gan ACC.
(3)
Rhaid i ACC (oni bai bod y person eisoes yn gofrestredig)—
(a)
cofrestru person sy’n gwneud cais sy’n cydymffurfio ag is-adran (2), a
(b)
dyroddi hysbysiad cofrestru i’r person hwnnw.
(4)
Os yw ACC yn penderfynu peidio â chofrestru person sydd wedi gwneud cais o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person hwnnw—
(a)
yn pennu’r rheswm pam, a
(b)
yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
(5)
Nid yw person yn agored i gosb o dan adran 7 mewn perthynas â mangre lle y mae’r person yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn ystod y cyfnod—
(a)
sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn gwneud cais i fod yn gofrestredig mewn cysylltiad â’r fangre honno, a
(b)
sy’n dod i ben â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person hwnnw o dan is-adran (3)(b) neu (4).