1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (“
2.Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru (“
3.Mae’r Ddeddf yn cynnwys 68 o adrannau a 2 Atodlen ac mae wedi ei rhannu’n bedair Rhan fel a ganlyn:
Rhan 1 - Trosolwg o’r Ddeddf a Thermau Allweddol a Ddefnyddir yn y Ddeddf
Rhan 2 - Cofrestr o Ddarparwyr Llety Ymwelwyr
Rhan 3 - Ardoll Ymwelwyr
Rhan 4 - Darpariaeth Amrywiol a Chyffredinol
Atodlen 1 – Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr
Atodlen 2 – Diwygiadau sy’n ymwneud â Rhannau 2 a 3.
4.Mae’r trosolwg o’r Ddeddf yn dangos sut y mae Rhannau’r Ddeddf wedi eu trefnu ac yn rhoi disgrifiad byr o’r hyn y mae pob Rhan yn ei wneud.
5.Mae’r adran yn diffinio llety ymwelwyr at ddibenion y gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr a’r ardoll ymwelwyr. Mae’n manylu ar beth yw llety ymwelwyr, ynghyd ag eithriadau penodol. Mae hefyd yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn diwygio’r rhestr o lety ymwelwyr. Mae llety ymwelwyr yn derm diffiniedig i sicrhau bod cwmpas y Ddeddf yn glir, gan gydnabod yr amrywiaeth o lety a ddarperir yng Nghymru.
6.Llety ymwelwyr yw:
llety mewn gwestai, tai llety, llety gwely a brecwast, neu lety tebyg arall;
llety mewn hosteli ieuenctid, byncdai, neu lety tebyg arall;
llain neu ardal a ddarperir ar gyfer gwersylla, neu lain neu ardal a ddarperir ar gyfer cartref symudol nad yw wedi ei leoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle (er enghraifft, llain neu ardal a ddarperir ar gyfer pabell neu gartref modur);
llety mewn parciau gwyliau, canolfannau gwyliau neu mewn lleoedd eraill tebyg;
llety mewn cartrefi symudol, llestrau neu gerbydau eraill sydd wedi eu lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle ac sydd wedi eu cynnig, ar sail tymor byr, ar gyfer teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol;
llety hunanddarpar sydd wedi ei gynnig, ar sail tymor byr, ar gyfer teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol;
unrhyw fath arall o lety sydd wedi ei gynnig, ar sail tymor byr, ar gyfer teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol.
7.Nid yw llety a restrir yn is-adran (1)(e) i (g) o’r adran hon ond yn llety ymwelwyr at ddibenion y Ddeddf os yw’n cael ei gynnig ar sail tymor byr; hynny yw, ar gyfer arosiadau o 31 o nosweithiau neu lai (ac at y diben hwnnw, nid oes gwahaniaeth a yw’r nosweithiau yn olynol). Mae hyn yn sicrhau na fydd y mathau hyn o lety ond yn llety ymwelwyr os ydynt yn cael eu cynnig ar sail tymor byr ac mae’n dileu arosiadau tymor hwy o’r cwmpas. Er enghraifft, tenantiaethau preswyl neu lety preswyl a ddarperir i letywr sy’n rhentu ystafell o ddydd Llun i ddydd Gwener dros gyfnod o 3 mis.
8.Mae’r adran yn eithrio mathau penodol o lety rhag bod yn llety ymwelwyr. Nid yw llety yn llety ymwelwyr os yw ar safle Sipsiwn a Theithwyr; os yw’n llain neu’n ardal a ddarperir ar gyfer cartref symudol, llestr neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle; neu mewn cartrefi symudol, llestrau neu gerbydau eraill nad ydynt wedi eu lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle, a fyddai’n eithrio llogi cartref symudol o’r cwmpas ond byddai’r ardoll ymwelwyr i’w chodi pe bai’n cael ei leoli ar lain neu mewn ardal o fewn ystyr 2(1)(c)(ii). Mae hyn hefyd yn golygu nad yw llety a ddarperir ar fwrdd llestr i deithwyr ar daith yn llety ymwelwyr, felly, er enghraifft, nid yw ystafell ar fwrdd llong fordeithio neu gwch camlas yn llety ymwelwyr ac felly nid yw’n ddarostyngedig i’r gofynion cofrestru na’r ardoll ymwelwyr. Mae’r ddarpariaeth hon, oherwydd ei bod yn eithrio lleiniau neu ardaloedd ar gyfer cartrefi symudol sydd wedi eu lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle, hefyd yn tynnu safleoedd cartrefi symudol preswyl o gwmpas y Ddeddf. Mae “safle Sipsiwn a Theithwyr” a “cartref symudol” yn dermau a ddiffinnir yn yr adran.
9.Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn darparu bod, neu nad yw, math o lety, neu lety o ddisgrifiad penodol, yn llety ymwelwyr, ac amrywio’r disgrifiad o fath o lety. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
10.Mae’r adran hon yn datgan bod person yn ddarparwr llety ymwelwyr (DLlY) at ddibenion y Ddeddf hon os yw’r person hwnnw, yng nghwrs masnach neu fusnes, yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yng Nghymru, ac yn feddiannydd ar y fangre. Mae person yn darparu llety ymwelwyr os yw’r person hwnnw yn ymrwymo i gontract y mae gan un neu ragor o bobl hawlogaeth i breswylio yn y llety am un neu ragor o nosweithiau odano neu o ganlyniad iddo. Nid yw “contract” yn cynnwys contractau gwasanaeth, contractau prentisiaeth, na chontractau y mae’r person sydd â hawlogaeth i breswylio yn darparu gwasanaethau odanynt i’r DLlY.
11.Mae’r adran hon hefyd yn datgan bod “yn cynnig darparu” mewn perthynas â llety ymwelwyr yn cynnwys hysbysebu’r llety, ei farchnata neu wneud unrhyw berson yn ymwybodol fel arall fod y llety ar gael ar gyfer arosiadau. Mae’n datgan bod cyfeiriadau at “
12.Mae’r adran yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr.
13.Mae Atodlen 1 i’r Ddeddf yn manylu ar yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghofnod darparwr llety ymwelwyr yn y gofrestr.
14.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ACC gyhoeddi, mewn unrhyw fodd y mae’n ystyried ei fod yn briodol, yr wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd Atodlen 1.
15.Mae dau eithriad i’r gofyniad hwn. Mae’r rhain mewn cysylltiad ag enw unigolyn (pa un a yw wedi ei gynnwys yn y cofnod ar gyfer darparwr llety ymwelwyr sy’n unigolyn ai peidio), a chyfeiriad unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn.
16.O dan yr amgylchiadau hyn, ni chaniateir cyhoeddi enw unigolyn oni bai bod yr unigolyn yn cydsynio i’w enw gael ei gyhoeddi, neu fod enw cyntaf a chyfenw’r unigolyn yn rhan o enw busnes y DLlY.
17.Ni chaniateir cyhoeddi cyfeiriad unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn oni bai bod yr unigolyn yn cydsynio i’w gyfeiriad gael ei gyhoeddi, neu fod y cyfeiriad yn gyfeiriad mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr.
18.Caiff y gofrestr hefyd gynnwys gwybodaeth arall y mae ACC yn ystyried ei bod yn briodol. Caiff ACC gyhoeddi’r wybodaeth hon (ond nid yw’n ofynnol iddo wneud hynny), oni bai bod ACC wedi ei wahardd rhag ei chyhoeddi drwy unrhyw ddeddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol.
19.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i DLlYau fod yn gofrestredig yn y gofrestr a gedwir gan ACC mewn cysylltiad â phob mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr (mae adran 4(7) yn datgan bod hyn yn golygu mangre yng Nghymru, lle y darperir neu y cynigir llety ymwelwyr, ac a feddiennir gan y DLlY).
20.Mae’r adran hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i esemptio disgrifiadau o bersonau rhag y gofyniad i gofrestru drwy gyfeirio at y math o lety ymwelwyr a ddarperir; natur neu gynnwys y contractau y darperir y llety ymwelwyr odanynt; natur neu statws y DLlY, neu unrhyw nodwedd benodol arno; natur neu statws y bobl y darperir llety iddynt gan y DLlY, neu unrhyw nodwedd benodol ar y bobl y darperir llety iddynt gan y DLlY; neu unrhyw fater arall. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
21.Mae’r adran hefyd yn datgan, os gwneir rheoliadau gan Weinidogion Cymru sy’n defnyddio’r pwerau yn yr adran hon i esemptio person rhag y gofyniad i gofrestru, na fydd adrannau 7 (cosbau am fethu â chofrestru) ac 8 (pŵer i gofrestru personau pan na fo cais wedi ei wneud i ACC) yn gymwys i’r person hwnnw ychwaith.
22.Mae is-adran (1) yn caniatáu i berson wneud cais i fod yn gofrestredig cyn iddo ddechrau darparu neu gynnig darparu llety ymwelwyr.
23.Mae is-adran (2) yn nodi’r gofynion y mae rhaid i gais i fod yn gofrestredig gydymffurfio â hwy.
24.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC gofrestru person sy’n gwneud cais sy’n cydymffurfio ag is-adran (2) a dyroddi hysbysiad cofrestru i’r person hwnnw, oni bai bod y person hwnnw eisoes yn gofrestredig.
25.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC, os yw’n penderfynu peidio â chofrestru person, ddyroddi hysbysiad i’r person hwnnw yn pennu’r rheswm pam ac yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
26.Mae is-adran (5) yn darparu nad yw person yn agored i gosb o dan adran 7 mewn perthynas â mangre lle y mae’r person yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn gwneud cais i fod yn gofrestredig mewn cysylltiad â’r fangre honno, ac sy’n dod i ben â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person hwnnw o dan is-adran (3)(b) neu (4).
27.Mae’r adran hon yn nodi bod DLlY yn agored i gosb os yw’n darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr ac nad yw’n gofrestredig mewn cysylltiad â’r fangre, neu’r mangreoedd, lle y darperir neu y cynigir y llety ymwelwyr.
28.Y gosb gychwynnol yw £100 am bob mangre nad yw’n gofrestredig. Bydd ACC yn dyroddi hysbysiad cosb i DLlY yn pennu pob mangre y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi. Yna bydd gan y DLlY 30 o ddiwrnodau o’r diwrnod y dyroddir hysbysiad cosb i gofrestru unrhyw fangre a nodwyd gan ACC cyn ei fod yn agored i gosb bellach. Cyfeirir at y cyfnod hwn o 30 o ddiwrnodau fel y cyfnod cosbi cychwynnol.
29.Os, ar ôl y cyfnod cosbi cychwynnol, nad yw mangre a bennir yn yr hysbysiad yn gofrestredig, mae’r DLlY yn agored i gosb o £10 am bob mangre sy’n parhau i fod yn anghofrestredig am bob diwrnod y mae’r DLlY yn darparu neu’n cynnig darparu llety ymwelwyr. Ar yr 31ain diwrnod (ar ôl y cyfnod cosbi cychwynnol) y mae’r DLlY yn darparu neu’n cynnig darparu llety ymwelwyr heb fod yn gofrestredig, mae’r DLlY yn agored i gosb o £1000 am bob mangre nad yw’n gofrestredig.
30.Nid yw’r cyfnod cosbi cychwynnol yn cynnwys unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb yn destun adolygiad neu apêl sy’n parhau.
31.Mae is-adran (7) yn darparu bod person sy’n peidio â bod yn DLlY yn parhau i fod yn agored i gosbau o dan yr adran hon y daeth yn agored iddynt tra oedd yn DLlY.
32.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i ACC i gofrestru person nad yw wedi gwneud cais os yw ACC yn ystyried bod y person hwn yn DLlY neu wedi bod yn DLlY ar unrhyw adeg yn ystod y 14 o ddiwrnodau blaenorol.
33.Cyn i ACC gofrestru person, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad yn nodi’r wybodaeth a fydd yn cael ei chynnwys yn y gofrestr ac yn pennu unrhyw wybodaeth nad oes gan ACC neu y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir. Rhaid i’r hysbysiad roi gwybod i’r person y bydd ACC yn cofrestru’r person ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid i’r dyddiad hwnnw fod o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl dyroddi’r hysbysiad, oni bai bod y person yn cofrestru ei hun, neu fod ACC wedi ei fodloni nad yw’n ofynnol i’r person gofrestru. Rhaid nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio yn yr hysbysiad hwn hefyd.
34.Ni fydd person yn cael ei drin fel person cofrestredig at ddibenion yr adran hon hyd nes bod y person hwnnw yn darparu unrhyw wybodaeth i ACC i sicrhau bod ei gofnod yn gyflawn ac yn gywir neu ei fod yn cadarnhau bod y cofnod a wnaed gan ACC yn gyflawn ac yn gywir, neu’n gwneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr.
35.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar DLlY i hysbysu ACC am unrhyw newidiadau yn ei amgylchiadau sy’n peri i gofnod y DLlY yn y gofrestr fod yn anghywir, neu am unrhyw anghywirdebau yng nghofnod y DLlY yn y gofrestr, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid mewn amgylchiadau yn digwydd neu â’r diwrnod pan ddaeth y DLlY i wybod gyntaf, neu pan ddylai fod wedi gwybod, am yr anghywirdeb.
36.Os yw ACC yn cael hysbysiad sy’n cydymffurfio ag is-adran (2) gan DLlY, rhaid i ACC gywiro’r gofrestr a dyroddi hysbysiad i’r DLlY yn pennu’r cywiriadau a wnaed, oni bai bod ACC eisoes wedi gwneud y cywiriadau hynny o dan adran 11. Os yw ACC yn penderfynu peidio â gwneud newidiadau i’r gofrestr ar ôl cael hysbysiad gan DLlY, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n nodi’r rhesymau pam ac yn darparu gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
37.Mae is-adran (1) yn darparu i DLlY fod yn agored i gosb o £100 os yw DLlY yn methu â hysbysu ACC am newidiadau mewn amgylchiadau neu anghywirdebau yn y gofrestr yn unol ag adran 9(1).
38.Bydd ACC yn dyroddi hysbysiad cosb i DLlY yn pennu’r wybodaeth y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir. Yna bydd gan DLlY 30 o ddiwrnodau o’r diwrnod y dyroddir hysbysiad cosb i ddarparu’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 9(1)(a) neu (b) i ACC cyn dod yn agored i gosbau pellach. Cyfeirir at y cyfnod hwn o 30 o ddiwrnodau fel y cyfnod cosbi cychwynnol.
39.Os nad yw’r DLlY wedi rhoi’r hysbysiad gofynnol i ACC erbyn diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, mae’r DLlY yn agored i gosb bellach o £10 am bob diwrnod y mae’r methiant i roi hysbysiad yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod. Mae DLlY sy’n parhau i fethu â darparu’r hysbysiad gofynnol yn agored i gosb o £1000 am yr 31ain diwrnod (ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol) y mae’r methiant yn parhau.
40.Mae’r adran hon hefyd yn datgan na ddylai’r cyfnod cosbi cychwynnol gynnwys unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun adolygiad neu apêl sy’n parhau.
41.Os yw person yn peidio â bod yn DLlY ond daeth yn agored i gosb o dan yr adran hon tra oedd yn DLlY, mae’n parhau i fod yn agored i’r gosb.
42.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i ACC i newid cofnod DLlY yn y gofrestr pan na fo hysbysiad wedi ei roi gan y DLlY o dan adran 9 (dyletswydd i hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau) os yw ACC yn ystyried bod y cofnod yn anghywir.
43.Cyn y caiff ACC newid cofnod yn y gofrestr, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i DLlY yn pennu’r wybodaeth y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir ac yn nodi a yw ACC yn bwriadu hepgor yr wybodaeth honno neu wneud newidiadau penodedig eraill i’r cofnod. Rhaid i’r hysbysiad hefyd roi gwybod i’r DLlY y bydd ACC yn newid y gofrestr ar ddyddiad penodedig oni bai bod y DLlY, cyn y dyddiad hwnnw, yn rhoi hysbysiad o dan adran 9(1)(a) neu (b) (dyletswydd i hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau) neu fod ACC wedi ei fodloni nad oes angen newid y gofrestr. Rhaid i’r hysbysiad hefyd nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
44.Mae’r adran yn nodi bod rhaid i’r dyddiad a bennir mewn unrhyw hysbysiad a anfonir gan ACC yn unol â’r adran hon fod o leiaf 30 o ddiwrnodau ar ôl dyroddi’r hysbysiad.
45.Yn olaf, mae’r adran yn datgan nad yw’r ffaith bod ACC wedi newid y gofrestr i ddileu anghywirdeb yn golygu nad yw’r DLlY o dan sylw yn agored i gosbau am fod â chofnod anghywir. Mae’r cosbau perthnasol yn parhau i fod yn gymwys, ond bydd y DLlY yn cael ei drin fel pe bai wedi rhoi’r hysbysiad gofynnol o’r adeg y mae’r DLlY naill ai yn rhoi i ACC yr wybodaeth sydd ei hangen arno i wneud y cofnod yn gywir (os yw’r cofnod, yn dilyn ymyriad ACC, yn parhau i fod yn anghywir), neu yn cadarnhau i ACC fod y cofnod fel y mae yn gywir.
46.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i ACC i’w gwneud yn ofynnol i bersonau o ddisgrifiad a bennir yn yr adran ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i swyddogaethau ACC wrth gynnal y gofrestr. Mae enghreifftiau o ddogfennau y gellid gofyn amdanynt yn cynnwys cyfriflyfrau, gwybodaeth archebu neu dderbynebau.
47.Os oes gan berson sydd wedi cael hysbysiad fynediad at yr wybodaeth neu’r ddogfen o dan sylw, rhaid iddo ei darparu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu unrhyw ddyddiad arall y cytunwyd arno gan ACC a’r person.
48.Rhaid i’r hysbysiad hefyd nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio. Os yw person yn apelio yn erbyn hysbysiad, mae’r gofynion i ddarparu gwybodaeth erbyn unrhyw ddyddiadau a bennir yn yr hysbysiad yn peidio â bod yn gymwys.
49.Mae is-adran (1) yn darparu y bydd person yn agored i gosb o £100 os yw’n methu â darparu i ACC wybodaeth neu ddogfennau y mae ACC wedi ei gwneud yn ofynnol iddo ei darparu neu eu darparu yn unol ag adran 12(3).
50.Yna bydd gan berson 30 o ddiwrnodau o’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cosb i ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan adran 12(3) i ACC cyn dod yn agored i gosbau pellach. Cyfeirir at y cyfnod hwn o 30 o ddiwrnodau fel y cyfnod cosbi cychwynnol.
51.Os nad yw person wedi rhoi’r wybodaeth ofynnol i ACC erbyn diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, mae’r person yn agored i gosb bellach o £10 am bob diwrnod y mae’r methiant i ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod. Mae person sy’n parhau i fethu â darparu’r wybodaeth neu’r ddogfen yn agored i gosb o £1000 am yr 31ain diwrnod (ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol) y mae’r methiant yn parhau.
52.Mae’r adran hon hefyd yn datgan na ddylai’r cyfnod cosbi cychwynnol gynnwys unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun adolygiad neu apêl sy’n parhau.
53.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr cyn yr 31ain diwrnod yn olynol nad yw wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre.
54.Os yw person yn gwneud cais sy’n cydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i ACC ddileu’r person o’r gofrestr a dyroddi hysbysiad sy’n cadarnhau’r dyddiad dileu.
55.Os yw ACC yn penderfynu peidio â dileu person o’r gofrestr, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad yn nodi’r rhesymau pam a hysbysu’r person am ei hawliau adolygu ac apelio.
56.Mae’r adran hefyd yn darparu beth yw ystyr “nid yw person wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre”.
57.Mae’r adran hon yn datgan, os bydd person yn methu â gwneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr yn unol ag adran 14(1), y bydd yn agored i gosb o £100.
58.Yna bydd gan berson 30 o ddiwrnodau o’r diwrnod y dyroddwyd yr hysbysiad cosb i wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr neu ailgychwyn darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr. Cyfeirir at y cyfnod hwn o 30 o ddiwrnodau fel y cyfnod cosbi cychwynnol.
59.Os nad yw person wedi gwneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr neu os nad yw wedi ailgychwyn darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr erbyn diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, mae’r person yn agored i gosb bellach o £10 am bob diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod, y mae’r methiant i wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr neu’r methiant i ailgychwyn darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr yn parhau. Mae atebolrwydd am y gosb ddyddiol honno yn dod i ben os yw person naill ai’n gwneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr yn unol ag adran 14(1) neu os yw’n ailgychwyn darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr.
60.Os bydd person yn methu â dileu ei hun o’r gofrestr ar ôl y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y mae cosbau yn cronni ynddo, ac nad yw’n darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr, bydd yn cael cosb ychwanegol o £1000 ar yr 31ain diwrnod o fethu â chydymffurfio.
61.Mae’r adran hefyd yn datgan na ddylai’r cyfnod cosbi cychwynnol gynnwys unrhyw adolygiadau neu apelau sydd yn yr arfaeth.
62.Mae’r adran hon yn datgan y caiff ACC ddileu person o’r gofrestr pan na fo’r person hwnnw wedi gwneud cais i gael ei ddileu os yw ACC yn ystyried nad yw’r person wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr yn y 30 o ddiwrnodau blaenorol.
63.Cyn i ACC ddileu person o’r gofrestr, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad yn nodi’r rhesymau pam y mae ACC yn ystyried ei bod yn briodol dileu’r person o’r gofrestr ac yn rhoi gwybod i’r person am y dyddiad dileu oni bai bod y person, cyn y dyddiad hwnnw, yn gwneud cais i ddileu ei hun o’r gofrestr yn unol ag adran 14(2). Ni fydd y broses o ddileu person o’r gofrestr yn mynd rhagddi ychwaith os yw ACC wedi ei fodloni nad yw’n ofynnol i’r person wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr. Rhaid nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio yn yr hysbysiad hwn hefyd. Rhaid i’r dyddiad dileu yn yr hysbysiad a ddyroddir gan ACC fod o leiaf 30 o ddiwrnodau ar ôl i’r hysbysiad gael ei ddyroddi.
64.Bydd person sy’n cael ei ddileu o’r gofrestr o dan yr adran hon yn parhau i fod yn agored i gosbau o dan adran 15. Fodd bynnag, ystyrir bod y person wedi gwneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr cyn gynted ag y mae’n hysbysu ACC am y dyddiad y peidiodd â bod yn DLlY neu cyn gynted ag y mae’n gwneud cais i fod yn gofrestredig.
65.Mae’r adran hon yn darparu nad yw person yn agored i gosb o dan Ran 2 os yw’r person yn bodloni ACC (neu, ar apêl, y Tribiwnlys Haen Gyntaf) fod esgus rhesymol am ei fethiant. Mae’r adran yn darparu rhai amgylchiadau nad ydynt yn cael eu trin fel esgus rhesymol.
66.Mae’r adran hon yn darparu y caiff ACC ostwng cosb sydd wedi ei gosod os yw ACC yn ystyried ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig. Nid yw’r amgylchiadau arbennig y caniateir gostwng y gosb odanynt yn cynnwys gallu’r person i dalu.
67.Pan fo person yn agored i gosb o dan Ran 2 o’r Ddeddf, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ACC asesu’r gosb a dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd. Nodir manylion asesiad ACC o’r gosb yn yr adran. Mae’r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ACC asesu cosbau cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac mewn unrhyw achos o fewn terfynau amser penodedig.
68.Mae’r adran hon yn datgan bod rhaid talu cosb o dan Ran 2 o fewn 30 o ddiwrnodau i ACC ddyroddi’r hysbysiad cosb i’r person, oni bai bod adolygiad neu apêl, ac yn yr achos hwnnw, bydd adran 182 o DCRhT 2016 yn gymwys.
69.Mae’r adran hon yn darparu nad yw person yn agored i gosb o dan Ran 2 os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd sy’n ymwneud â’r mater a sbardunodd y gosb.
70.Mae’r adran hon yn darparu, os yw person sy’n agored i gosb yn marw, y caniateir asesu’r gosb ar gynrychiolwyr personol y person hwnnw. Mae cosb a asesir yn y modd hwn i’w thalu o ystad y person ymadawedig.
71.Mae’r adran hon yn diwygio’r rhestr o benderfyniadau apeliadwy yn adran 172 o DCRhT 2016 er mwyn cynnwys penderfyniadau sy’n ymwneud â chofrestru person o dan Ran 2, dyroddi hysbysiadau o dan adran 12 a phenderfyniadau sy’n ymwneud â chosbau o dan Ran 2. Mae’r diwygiad hwn yn golygu bod y mecanweithiau adolygu ac apelio yn DCRhT 2016 yn gymwys i benderfyniadau a wneir gan ACC mewn perthynas â’r gofrestr.
72.Mae’r adran hefyd yn diwygio adran 178 o DCRhT 2016 er mwyn darparu cyfyngiadau ar apelau o dan Ran 2, fel na chaiff person apelio yn erbyn penderfyniad sy’n ymwneud â’r gofrestr oni bai ei fod eisoes wedi gwneud cais am adolygiad o’r penderfyniad gan ACC, a bod y cyfnod y mae rhaid cwblhau unrhyw adolygiad o’r fath oddi fewn iddo wedi dod i ben.
73.Mae’r adran hon yn sefydlu sut y mae cofrestru yn gymwys pan fo’r DLlY yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig.
74.Pan fo DLlY wedi ei gofrestru gan ddefnyddio ei enw busnes a bod ei aelodaeth yn newid, yna mae’r aelodau hynny yn parhau i fod yn gofrestredig o dan yr enw busnes hwnnw.
75.Os bydd DLlY yn peidio â bod yn aelod o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig, yna mae’n parhau i gael ei drin fel aelod tan y dyddiad y rhoddir hysbysiad i ACC drwy adran 9 neu’r dyddiad pan fo ACC yn diweddaru’r gofrestr gan ddefnyddio ei bwerau o dan adran 11.
76.Mae is-adran (4) yn egluro bod is-adran (3) yn ddarostyngedig i ddarpariaeth yn Neddf Partneriaeth 1890 ynghylch atebolrwydd partneriaeth yn sgil marwolaeth, methdaliad neu ymddeoliad.
77.Mae’r adran hon yn esbonio pryd y “dyfernir yn derfynol” ynghylch apêl; yn nodi beth yw “hysbysiad am gasgliadau adolygiad”; ac yn rhoi cyfeiriad ar gyfer ystyr hysbysiad cosb.
78.Mae’r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y gofrestr a gofynion cofrestru, gan gynnwys darpariaeth ynghylch gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn y gofrestr neu na chaniateir ei chynnwys yn y gofrestr; darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwybodaeth, neu’n gwahardd cyhoeddi gwybodaeth; darpariaeth am esemptiadau rhag y gofyniad i roi hysbysiad i ACC; darpariaeth ynghylch cosbau; a darpariaeth ynghylch pa un a yw penderfyniadau yn ddarostyngedig i adolygiadau ac apelau ai peidio. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
79.Mae’r adran hon yn cyflwyno Rhan 1 o Atodlen 2, sy’n cynnwys diwygiadau i DCRhT 2016, ac i Ddeddfau eraill, sy’n ymwneud â’r Rhan hon o’r Ddeddf.
80.Mae’r adran hon yn galluogi prif gynghorau i gyflwyno ardoll ymwelwyr (“yr ardoll ymwelwyr”) ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr sydd wedi ei leoli yn ei ardal. Mae’r ardoll ymwelwyr i’w chasglu a’i rheoli gan ACC ar ran prif gynghorau sy’n cyflwyno’r ardoll ymwelwyr.
81.Arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yw sail yr ardoll ymwelwyr, ac mae is-adran (1) yn diffinio pryd y mae arhosiad dros nos yn digwydd, sef pan fydd un neu ragor o bobl yn aros un neu ragor o nosweithiau o dan gontract mewn mangre o fewn ardal prif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll. Rhaid i’r arhosiad gael ei ddarparu yng nghwrs masnach neu fusnes ac ni chaiff y llety fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa yr un neu ragor o bobl.
82.Mae is-adran (2) yn rhestru amgylchiadau pan nad yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd. Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys arosiadau am fwy nag 31 o nosweithiau a llety sydd wedi ei drefnu o dan y ddeddfwriaeth a restrir (sy’n ymwneud â digartrefedd, mewnfudo a lloches, a mechnïaeth a phrawf). Mae is-adran (3) yn darparu, pan fo person yn aros mewn llety ymwelwyr o dan gontract cyflogaeth, contract am wasanaethau neu gontract prentisiaeth â’r DLlY, nad oes unrhyw arhosiad dros nos yn digwydd. Mae is-adran (5) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i ddiwygio’r disgrifiadau o amgylchiadau pryd y mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd neu pryd nad yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
83.O dan is-adran (6), caiff Gweinidogion Cymru hefyd, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch y ffyrdd y caniateir profi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr oherwydd bod y llety yn dod o fewn is-adran (2)(b). Gallai hyn gynnwys darpariaeth ynghylch dogfennau neu wybodaeth arall y gellir dibynnu arnynt neu arni i brofi na ddigwyddodd arhosiad dros nos; a gwneud trefniadau ar gyfer dyroddi talebau y gellir eu defnyddio i brofi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr, ac mewn perthynas â dyroddi talebau o’r fath. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
84.Mae’r adran hon yn nodi mai’r person sy’n atebol am dalu’r ardoll ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yw’r DLlY. Mae’r atebolrwydd am dalu’r ardoll ymwelwyr yn codi pan fo’r hawlogaeth o dan y contract i breswylio yn y llety ymwelwyr yn dod i ben. Yn gyffredinol, adeg ymadawiad yr ymwelydd olaf sydd â hawlogaeth i breswylio o dan y contract fydd hyn.
85.Er mai DLlY sydd ag atebolrwydd am dalu’r ardoll ymwelwyr, mae’n gallu adennill yr atebolrwydd oddi wrth ei ymwelwyr fel rhan o’i delerau contractiol os yw’n dymuno. Gall DLlY felly benderfynu pryd a sut i drosglwyddo’r costau hyn i ymwelwyr, boed hynny pan fydd ymwelydd yn talu, yn cyrraedd y llety ymwelwyr neu’n ymadael â’r llety ymwelwyr. Y darparwr sy’n atebol yn y pen draw a rhaid iddo sicrhau bod y swm mae’n ei dalu i ACC yn gywir.
86.Mae’r adran hon yn nodi’r dull ar gyfer cyfrifo swm yr ardoll ymwelwyr sydd i’w godi mewn cysylltiad ag arhosiad. Cyfrifir swm yr ardoll ymwelwyr drwy ganfod nifer y nosweithiau ardolladwy, a lluosi’r rhif hwnnw â chyfradd yr ardoll ymwelwyr sy’n gymwys mewn perthynas â’r llety. Mae’r ddwy gyfradd wedi eu nodi yn adran 32 (y gyfradd is a’r gyfradd uwch).
87.Pan mai un person yn unig oedd â hawlogaeth i breswylio o dan y contract, cyfanswm nifer y nosweithiau ardolladwy yw nifer y nosweithiau yr oedd gan y person hwnnw hawlogaeth i aros. Pan oedd gan fwy nag un person hawlogaeth i aros o dan y contract, rhaid cyfrifo nifer y nosweithiau ardolladwy ar gyfer pob person ac yna adio’r niferoedd at ei gilydd er mwyn rhoi cyfanswm nifer y nosweithiau ardolladwy.
88.Nid yw personau o dan 18 oed sy’n aros mewn llety ymwelwyr cyfradd is wedi eu cynnwys wrth gyfrifo swm yr ardoll ymwelwyr sy’n daladwy mewn perthynas â’r arhosiad.
89.Mae’r adran hefyd yn datgan, pe bai arhosiad o leiaf un person o dan gontract yn ddarostyngedig i’r gyfradd uwch ac arhosiad o leiaf un person yn ddarostyngedig i’r gyfradd is, yna cyfrifir atebolrwydd drwy gyfrifo’r symiau o ardoll ymwelwyr sy’n daladwy ar wahân ac yna eu hadio at ei gilydd. Er enghraifft, byddai’r sefyllfa hon yn codi pan fo person, o dan un contract â DLlY sy’n darparu llety gwersylla a llety hunanddarpar mewn cabanau gwyliau, wedi trefnu i rai pobl aros mewn caban gwyliau ac i rai pobl wersylla (gweler is-adran (5)).
90.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon i wneud darpariaeth bellach ynghylch pobl nad ydynt i’w cynnwys mewn cyfrifiad o swm yr ardoll ymwelwyr sy’n daladwy. Caiff y diwygiadau hyn ymwneud ag arosiadau dros nos sy’n ddarostyngedig i’r gyfradd uwch neu’r gyfradd is, neu’r ddwy. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
91.Mae’r adran hon yn nodi dwy gyfradd yr ardoll ymwelwyr; y gyfradd is yw £0.75, y gyfradd uwch yw £1.30. Fodd bynnag, mae’r cyfraddau hyn yn ddarostyngedig i unrhyw swm ychwanegol a ychwanegir gan brif gyngor (gweler adran 34).
92.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r gyfradd is, y gyfradd uwch, neu’r ddwy gyfradd, drwy reoliadau. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
93.Mae’r adran hon yn pennu pa fathau o lety ymwelwyr sy’n ddarostyngedig i gyfradd is a chyfradd uwch yr ardoll ymwelwyr. Mae’r gyfradd is yn gymwys i arosiadau mewn llety ymwelwyr sy’n llain neu’n ardal a ddarperir ar gyfer gwersylla, neu’n ystafell aml-wely neu’n ystafell arall neu’n ardal arall a ddarperir fel arfer ar y sail y gellir ei rhannu â phobl eraill sy’n preswylio yn yr ystafell aml-wely honno, yn yr ystafell arall honno neu yn yr ardal arall honno o dan gontract gwahanol. Er enghraifft, byddai’r gyfradd is yn gymwys i wely mewn ystafell aml-wely a rennir mewn hostel a ddarperir ar gyfer arhosiad dros nos neu lain wersylla. Mae’r gyfradd uwch yn gymwys i bob math arall o lety ymwelwyr.
94.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio pa gyfradd sy’n gymwys mewn perthynas â math neu ddisgrifiad penodol o lety ymwelwyr. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
95.Mae’r adran hon yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu y caiff prif gyngor ychwanegu swm ychwanegol o ardoll ymwelwyr at y gyfradd is a/neu’r gyfradd uwch, a chaniateir i swm o’r fath gael ei fynegi fel swm penodedig neu ganran.
96.Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon ganiatáu i brif gyngor ychwanegu swm ychwanegol o ardoll ymwelwyr sy’n llai na’r swm a bennir yn y rheoliadau, a/neu ganiatáu i brif gyngor ychwanegu swm ychwanegol dim ond mewn perthynas â rhannau penodol o’i ardal neu symiau gwahanol mewn perthynas ag ardaloedd gwahanol. Caiff rheoliadau hefyd bennu, neu ganiatáu i gynghorau bennu, cyfnodau pan na fo’r swm ychwanegol yn gymwys, neu pan fo swm ychwanegol sy’n llai na’r swm a bennir yn y rheoliadau yn gymwys.
97.Mae is-adran (4) yn nodi gofynion ymgynghori cyn i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon. Mae rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
98.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff person wneud cais am ad-daliad o swm sy’n gyfwerth â’r ardoll ymwelwyr sy’n daladwy (“ad-daliad ardoll”) mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr sydd wedi digwydd - sef ad-daliad o’r swm cyfan neu ran ohono.
99.Mae’r adran yn datgan y caiff ACC wneud ad-daliad ardoll os gwneir cais gan berson a ddarparodd gydnabyddiaeth, o dan gontract, mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos, ac os gwneir y cais cyn diwedd y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod olaf yr oedd gan berson hawlogaeth o dan y contract i aros.
100.Caiff person wneud cais i ACC am ad-daliad ardoll o dan yr amgylchiadau a ganlyn:
arhosodd person dros nos o dan y contract oherwydd nad oedd yn gallu preswylio yn ei unig breswylfa neu yn ei brif breswylfa oherwydd risg i’w iechyd, i’w ddiogelwch, neu i’w les (is-adran (3)(a)),
arhosodd person dros nos o dan y contract oherwydd, ar adeg yr arhosiad, ei fod fel arall yn ddigartref o fewn ystyr adran 55 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (is-adran (3)(b)), neu
arhosodd person dros nos o dan y contract gyda pherson sy’n cael budd-dal anabledd (a ddiffinnir yn adran 35(7)), darparodd ofal, cymorth neu gynhorthwy i’r person hwnnw yn yr un fangre ac nid yw is-adran (3) yn gymwys (is-adran (4)).
101.Mae is-adran (5) yn nodi, os yw ACC yn ystyried bod cais wedi ei wneud gan berson sy’n gymwys i gael ad-daliad o dan is-adran (3), fod rhaid i ACC ad-dalu swm sy’n gyfwerth â’r ardoll ymwelwyr sy’n daladwy am yr arhosiad. Caiff ACC amrywio swm yr ad-daliad gan ddibynnu ar nifer y bobl a arhosodd ac a oeddent i gyd yn gymwys a nifer y nosweithiau yr oeddent yn gymwys i gael ad-daliad amdano.
102.Mae is-adran (6) yn darparu’r un ddarpariaeth i bob pwrpas (ag is-adran (5)) mewn perthynas â’r ad-daliad mewn cysylltiad â pherson a ddarparodd ofal, cymorth neu gynorthwy i berson sy’n cael budd-dal anabledd (is-adran (4)) ond yr ymdriniwyd ag ef ar wahân (i is-adran (5)) i sicrhau bod yr ad-daliad wedi ei gyfyngu i’r ardoll ymwelwyr a dalwyd mewn perthynas â pherson sy’n darparu gofal, cymorth neu gynorthwy.
103.Er enghraifft, efallai na fydd person yn darparu gofal, cymorth neu gynorthwy i berson sy’n cael budd-dal anabledd am hyd cyfan ei arhosiad. Mewn achos o’r fath, rhaid i ACC ystyried pa nosweithiau sy’n gymwys ar gyfer ad-daliad.
104.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran er mwyn ychwanegu, dileu neu newid disgrifiadau o amgylchiadau pryd y caiff ACC wneud ad-daliad o swm ardoll ymwelwyr neu pryd y mae rhaid iddo wneud ad-daliad o swm ardoll ymwelwyr, ac er mwyn diwygio’r diffiniad o “budd-dal anabledd”. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
105.Rhaid i DLlY ddychwelyd ffurflen i ACC ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu, pa un a oes unrhyw arosiadau dros nos wedi digwydd yn y llety ymwelwyr y mae’r DLlY yn ei ddarparu ai peidio.
106.Rhaid i’r ffurflen gynnwys asesiad o swm yr ardoll ymwelwyr sy’n daladwy am y cyfnod cyfrifyddu, a hefyd naill ai datganiad gan y DLlY fod yr wybodaeth yn y ffurflen yn wir ac yn gyflawn hyd eithaf ei wybodaeth neu ardystiad gan asiant y DLlY fod y DLlY wedi gwneud datganiad o’r fath.
107.Rhaid i’r DLlY ddychwelyd ffurflen i ACC ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen neu cyn hynny. Mae’r dyddiad ffeilio yn dibynnu ar a yw’r DLlY yn dychwelyd ffurflenni blynyddol neu chwarterol (ymdrinnir â hynny yn adran 37). Yn achos ffurflen flynyddol, y dyddiad ffeilio yw 31 Mai yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r ffurflen yn ymwneud â hi. Blwyddyn ariannol yw’r cyfnod o 1 Ebrill mewn un flwyddyn hyd at 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol. Yn achos DLlY sy’n dychwelyd ffurflenni chwarterol, y dyddiad ffeilio yw 60 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’r ffurflen yn ymwneud ag ef (gweler adran 39).
108.Mae’r adran hon yn darparu y caiff DLlYau ddewis dychwelyd ffurflenni blynyddol neu ffurflenni chwarterol ar gyfer blwyddyn ariannol os na ddisgwylir i’w hatebolrwydd o ran yr ardoll ymwelwyr fod yn fwy na £1000 ac, os dychwelodd y DLlY ffurflen mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol flaenorol, nad oedd yn atebol am dalu swm o’r ardoll ymwelwyr a oedd yn fwy na £1000 mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol flaenorol. Os oes disgwyl i atebolrwydd DLlY o ran yr ardoll ymwelwyr fod yn fwy na £1000, neu os oedd yn fwy na £1000 yn y flwyddyn flaenorol, rhaid i’r DLlY ddychwelyd ffurflenni chwarterol.
109.Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer drwy reoliadau i newid y ffigur o £1000 ac i wneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth y caiff DLlY ei darparu i ACC, neu y mae rhaid iddo ei darparu i ACC, os yw’n dymuno dychwelyd ffurflenni blynyddol. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
110.Ni chaiff newid o rwymedigaeth i ddychwelyd ffurflen flynyddol i rwymedigaeth i ddychwelyd ffurflen chwarterol, neu i’r gwrthwyneb, gymryd effaith ond ar ddechrau blwyddyn ariannol. Fodd bynnag, os oes gan DLlY un neu ragor o bwyntiau cosb, ni chaiff y DLlY newid pa mor aml y mae’n dychwelyd ffurflenni.
111.Mae’r adran hon yn diffinio’r cyfnod cyfrifyddu ar gyfer ffurflenni blynyddol fel y flwyddyn ariannol ac yn nodi, pan fo DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy, gyfnod cyfrifyddu cyntaf y DLlY.
112.Yn yr achos hwn, mae’r cyfnod cyfrifyddu yn dechrau ar y dyddiad y mae DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy ac yn dod i ben â diwedd y flwyddyn ariannol y dechreuodd y cyfnod cyfrifyddu ynddi.
113.Mae’r adran hon yn diffinio, at ddibenion yr adran hon ac adran 39, pryd y mae person yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy.
114.Mae’r adran hon yn diffinio’r cyfnod cyfrifyddu ar gyfer DLlYau sy’n dychwelyd ffurflenni chwarterol fel chwarter calendr. Diffinnir chwarter calendr fel cyfnod o 3 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr. Mae’n nodi, pan fo DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy, gyfnod cyfrifyddu cyntaf y DLlY.
115.Mae’r adran yn manylu ar y rheolau i’w dilyn gan DLlYau ar gyfer talu’r ardoll ymwelwyr i ACC. Rhaid i DLlYau dalu swm yr ardoll ymwelwyr a bennir yn ei ffurflen ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny. Mae’r adran hefyd yn amlygu darpariaethau yn DCRhT 2016 sy’n ymdrin â thaliadau ardoll ymwelwyr y mae’n ofynnol i DLlYau eu gwneud mewn sefyllfaoedd eraill, megis cywiriadau i ffurflen, diwygiadau a wneir i ffurflen yn ystod neu ar ôl cwblhau ymholiad, a dyfarniadau ac asesiadau ACC.
116.Mae’r adran hon yn sicrhau bod DLlY, os oedd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau yn union cyn peidio â bod yn DLlY, yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau hynny, sef, yn y cyd-destun hwn, y dyletswyddau i ddychwelyd ffurflen ac, os yw’n ofynnol, i wneud taliad ardoll i ACC. Mae is-adran (2) yn cadw effaith darpariaethau penodol ac mae is-adran (3) yn nodi’r sefyllfa pan fo’r cyn-DLlY yn dod yn DLlY eto.
117.Mae’r adran hon yn cyflwyno Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf, sy’n cynnwys diwygiadau i DCRhT 2016 er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau ACC mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr, ynghyd â diwygiadau amrywiol eraill.
118.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll ymwelwyr gynnal cyfrif ar wahân ar gyfer enillion yr ardoll ymwelwyr honno. Mae’r adran hefyd yn darparu diffiniad o “enillion yr ardoll”. Enillion yr ardoll yw’r refeniw net y mae prif gyngor yn ei gael ar ôl didynnu’r costau casglu a’r alldaliadau (gweler adran 24A o DCRhT 2016, fel y’i mewnosodir gan Ran 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf).
119.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor ddefnyddio enillion yr ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ei ardal.
120.Mae is-adran (2) yn darparu rhestr, nad yw’n gynhwysfawr, o ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau gan gynnwys lliniaru’r effaith y mae ymwelwyr yn ei chael, hybu’r Gymraeg, cefnogi twf economaidd cynaliadwy twristiaeth a theithio, a darparu a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau i ymwelwyr (hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu defnyddio gan ymwelwyr yn unig).
121.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar brif gyngor i gyhoeddi adroddiad ar ddefnyddio enillion yr ardoll ar gyfer pob blwyddyn ariannol y cafodd y cyngor enillion yr ardoll ynddi. Rhaid i’r adroddiad gynnwys gwybodaeth am swm yr ardoll ymwelwyr a gafodd y cyngor yn y flwyddyn ariannol o dan sylw. Rhaid i’r adroddiad hefyd nodi sut y mae’r enillion wedi cael eu defnyddio, neu sut y byddant yn cael eu defnyddio, at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau. Cyn ei gyhoeddi, rhaid i brif gyngor anfon adroddiad drafft at aelodau’r fforwm partneriaeth ardoll a sefydlir gan y cyngor (gweler adran 46) ac ymgynghori â hwy ynghylch y drafft hwnnw.
122.Rhaid i’r cyngor gyhoeddi’r adroddiad ar ei dudalennau gwe (gweler adran 66(3)(a)(i)) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl 30 Mehefin yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, a heb fod yn hwyrach na diwedd y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
123.Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i nodi gofynion ar gyfer cynnwys yr adroddiadau, ac i newid nifer yr adroddiadau y mae rhaid eu cyhoeddi ar gyfer blwyddyn ariannol, pa mor aml y’u cyhoeddir a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid eu cyhoeddi. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
124.Mae’r adran hon yn datgan, os yw prif gyngor wedi cyflwyno’r ardoll ymwelwyr yn ei ardal, fod rhaid iddo sefydlu fforwm ar gyfer trafod materion sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr, gyda’r bwriad o ddarparu gwybodaeth a chyngor i gyngor ynghylch materion penodol.
125.Mae’r adran yn manylu ar y materion y mae’r fforwm i ddarparu gwybodaeth a chyngor yn eu cylch, yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i brif gyngor roi sylw iddi neu iddo.
126.Mae’r adran hefyd yn manylu ar y camau y mae rhaid i brif gyngor eu cymryd i hwyluso’r fforwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei aelodaeth.
127.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch y camau y mae rhaid i brif gyngor eu cymryd cyn iddo gyflwyno neu ddiddymu’r ardoll ymwelwyr, neu (pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau o dan adran 34 yn galluogi cynghorau i wneud hynny) ychwanegu, newid neu ddileu swm ychwanegol o’r ardoll ymwelwyr.
128.Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau o dan adran 34 yn galluogi prif gynghorau i wneud newidiadau i swm yr ardoll ymwelwyr sy’n daladwy yn eu hardaloedd, ni chaiff cynghorau gymryd unrhyw gamau i newid swm yr ardoll ymwelwyr sy’n daladwy tan 12 mis ar ôl i’r ardoll ymwelwyr ddod yn effeithiol yn eu hardaloedd.
129.Rhaid i brif gyngor hysbysu ACC am ei gynnig mewn cysylltiad â’r ardoll ymwelwyr a chyhoeddi adroddiad sy’n nodi’r cynnig.
130.Pan fo prif gyngor yn cynnig cyflwyno’r ardoll ymwelwyr, rhaid iddo gyhoeddi adroddiad sy’n cynnwys amcangyfrif o enillion yr ardoll yn y flwyddyn ariannol lawn gyntaf, amcangyfrif o’r costau y mae’n debygol o fynd iddynt, sut y mae’n bwriadu defnyddio’r enillion ar gyfer rheoli a gwella cyrchfannau ardal cyngor a chynigion ar gyfer aelodaeth o’r fforwm partneriaeth ardoll.
131.Pan fo prif gyngor yn cynnig newid swm yr ardoll ymwelwyr, rhaid iddo gyhoeddi adroddiad sy’n cynnwys amcangyfrif o enillion yr ardoll mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl newid yr ardoll ymwelwyr, a gwybodaeth ynghylch sut y mae’n bwriadu defnyddio’r enillion hynny tuag at reoli a gwella cyrchfannau ardal cyngor.
132.Pan fo prif gyngor yn cynnig diddymu’r ardoll ymwelwyr yn ei ardal, rhaid iddo ddarparu amcangyfrif o’r effaith ar ei refeniw yn y flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl diddymu’r ardoll ymwelwyr.
133.Ym mhob achos, rhaid i brif gyngor anfon ei adroddiad i ACC ac ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol (gweler is-adran (6)), a phersonau priodol eraill, am ei adroddiad a’i gynnig mewn cysylltiad â’r ardoll ymwelwyr.
134.Rhaid i brif gyngor ystyried ei gynnig gan roi sylw i’r ymatebion a ddaw i law yn ystod yr ymgynghoriad. Rhaid iddo wedyn hysbysu ACC ynghylch a yw’n bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig mewn cysylltiad â’r ardoll ymwelwyr, a rhaid iddo gyhoeddi adroddiad terfynol ac anfon yr adroddiad hwnnw i ACC.
135.Rhaid i’r adroddiad terfynol nodi bwriadau prif gyngor mewn cysylltiad â’i gynnig a, phan fo’n bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig, fanylion y cynnig hwnnw (gan gynnwys amlygu unrhyw newidiadau a wnaed i’r cynnig o’r hyn yr ymgynghorwyd arno). Rhaid i’r adroddiad terfynol hefyd gynnwys crynodeb o’r sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad.
136.Mae is-adran (10) yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn yr adran hon sy’n ymwneud â’r ymgyngoreion gorfodol, yn ogystal â “rheoli a gwella cyrchfannau”.
137.Mae is-adran (11) yn caniatáu i brif gynghorau gychwyn gofynion ymgynghori a hysbysu fel y’u nodir yn yr adran hon cyn i’r adran ddod i rym.
138.Mae’r adran yn amlinellu’r broses ar gyfer cyflwyno’r ardoll ymwelwyr, newid ei swm, neu ei diddymu unwaith y mae prif gyngor wedi cydymffurfio ag adran 47.
139.Rhaid i brif gyngor gyhoeddi hysbysiad sy’n nodi pa un a yw’n cyflwyno, yn newid neu’n diddymu’r ardoll ymwelwyr; cyfraddau’r ardoll ymwelwyr (oni bai bod yr ardoll ymwelwyr i’w diddymu); y dyddiad pryd y bydd yr ardoll ymwelwyr naill ai’n dod yn effeithiol, yn peidio â chael effaith neu’n newid; ac unrhyw wybodaeth briodol arall. Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan cyngor ac mewn unrhyw fodd arall yr ystyrir ei fod yn briodol.
140.Rhaid i’r dyddiad ar gyfer cyflwyno neu ddiddymu’r ardoll ymwelwyr fod o leiaf 12 mis ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad, oni bai y cytunir ar gyfnod byrrach gan gyngor ac ACC, a rhaid mai naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref yw’r dyddiad hwnnw.
141.Rhaid i’r dyddiad ar gyfer newid i’r ardoll ymwelwyr fod o leiaf 6 mis ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad, a rhaid mai naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref yw’r dyddiad hwnnw.
142.Mae cyflwyno, diddymu neu newid yr ardoll ymwelwyr yn cymryd effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
143.Mae’r adran yn amlinellu effaith cyflwyno neu newid yr ardoll ymwelwyr ar arosiadau dros nos a drefnwyd cyn i’r ardoll ymwelwyr gael ei chyflwyno neu ei newid.
144.Ni fydd unrhyw ardoll ymwelwyr yn daladwy os gwnaed y “contract perthnasol” ar gyfer yr arhosiad dros nos cyn y dyddiad sydd chwe mis ar ôl y dyddiad y penderfynodd y prif gyngor gyflwyno’r ardoll ymwelwyr.
145.Fodd bynnag, os yw contract o’r fath yn cael ei amrywio ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, mae’r ardoll ymwelwyr yn daladwy mewn perthynas ag (a) unrhyw bersonau sydd, o ganlyniad i’r amrywiad, â hawlogaeth i breswylio, a/neu (b) unrhyw nosweithiau pan fo gan berson, o ganlyniad i’r amrywiad, hawlogaeth i breswylio.
146.Os oes newid i swm yr ardoll ymwelwyr, nid yw’n gymwys mewn perthynas ag arhosiad dros nos os gwnaed y contract perthnasol cyn i’r prif gyngor benderfynu newid yr ardoll ymwelwyr.
147.Mae’r “contract perthnasol” yn cyfeirio at y contract y mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd odano, neu y byddai (oni bai am yr adran) yn digwydd odano, y mae gan un neu ragor o bersonau hawlogaeth i breswylio yn y llety odano ac y mae’r DLlY yn barti iddo.
148.Mae is-adran (7) yn diffinio’r dyddiad y mae prif gyngor yn penderfynu cyflwyno neu newid yr ardoll ymwelwyr fel y dyddiad y mae’n cyhoeddi’r hysbysiad cysylltiedig o dan adran 48(2).
149.Mae’r adran hon yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Bennod hon.
150.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trin mangre lle y darperir llety ymwelwyr nad yw’n gyfan gwbl o fewn ardal un prif gyngor. At ddibenion yr ardoll ymwelwyr, mae mangre o’r fath i’w thrin fel pe bai yn yr ardal lle y mae’r rhan fwy neu’r rhan fwyaf o’r fangre.
151.Mae is-adran (1) yn caniatáu i DLlY wneud trefniadau i un neu ragor o bersonau, ar ei ran, gasglu symiau sy’n gyfwerth â swm yr ardoll ymwelwyr sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arhosiad, dychwelyd ffurflenni, neu dalu’r ardoll ymwelwyr, i ACC, neu ddyroddi ad-daliadau.
152.Mae is-adran (2) yn darparu nad yw gwneud trefniant o dan is-adran (1) yn effeithio ar rwymedigaethau DLlY o dan y Ddeddf neu DCRhT 2016.
153.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn gosod gofynion ar DLlYau sy’n ymwneud â chynnwys gwybodaeth ynghylch swm yr ardoll ymwelwyr sy’n daladwy ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr mewn anfonebau, derbynebau a dogfennau eraill, a gofynion ynghylch pryd a sut y mae’n ofynnol i DLlY roi gwybod i ymwelwyr am fodolaeth, natur a swm yr ardoll ymwelwyr. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
154.Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol, pan ddarperir y swm sy’n daladwy am arhosiad dros nos, fod swm yr ardoll ymwelwyr sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r arhosiad hefyd yn cael ei bennu; bod deunydd hybu a marchnata a deunydd perthnasol arall yn cynnwys manylion ynghylch swm yr ardoll ymwelwyr sy’n daladwy; a bod rhaid arddangos yn y llety ymwelwyr wybodaeth sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr sy’n daladwy.
155.Caiff y rheoliadau roi pŵer i osod sancsiynau sifil ar bersonau sy’n methu â chydymffurfio â’r gofynion a nodir mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan yr adran hon, a chânt wneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn sancsiynau sifil o’r fath.
156.Mae is-adran (1) yn datgymhwyso adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) o swyddogaethau prif gyngor o dan y Rhan hon (ac adran 61(2)), gan olygu na ellir dirprwyo swyddogaethau o’r fath i bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog cyngor nac i gyngor arall. Nid yw hyn yn atal, er enghraifft, swyddog cyngor rhag llunio drafft o adroddiad i’r cyngor llawn ei ystyried a phenderfynu arno.
157.Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (2) i ddiwygio’r adran hon at ddiben datgymhwyso (neu ailgymhwyso) is-adran (1) mewn perthynas â swyddogaeth prif gyngor o dan y Rhan hon (ac adran 61(2)). Effaith datgymhwyso is-adran (1) fyddai bod modd dirprwyo rhai o swyddogaethau prif gyngor yn y Ddeddf hon, neu bob un ohonynt, o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
158.Mae is-adran (3) yn mewnosod swyddogaethau prif gyngor sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/399) fel swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth.
159.Mae’r adran yn diffinio “busnes perthnasol” at ddibenion y Bennod. Ystyr “busnes perthnasol” yw busnes, neu ran o fusnes, y mae person, yng nghwrs y busnes hwnnw, yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yng Nghymru, ac yn feddiannydd ar y fangre lle y darperir y llety ymwelwyr.
160.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll ymwelwyr i gael ei wneud gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau mewn partneriaeth neu gorff anghorfforedig, fod rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n bartner yn y bartneriaeth neu sy’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud. Fodd bynnag, caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner neu aelod rheoli gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt.
161.Mae atebolrwydd am dalu “
162.Os yw person yn aelod o’r bartneriaeth neu’r corff am ran o gyfnod cyfrifyddu yn unig, atebolrwydd personol y person am yr ardoll ymwelwyr sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yw’r gyfran o’r atebolrwydd sy’n ymwneud â busnes y bartneriaeth neu’r corff sy’n deg ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
163.Yng nghyd-destun yr ardoll ymwelwyr, noder adran newydd 120H o DCRhT 2016 (a fewnosodir gan Ran 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf), sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch atebolrwydd sy’n ymwneud â phwyntiau cosb a ddyfernir am fethu â chydymffurfio â gofynion penodol sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr.
164.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll ymwelwyr (gan gynnwys y Ddeddf hon) ynglŷn ag achosion pan fo personau yn cynnal busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, i ddiddymu darpariaeth o’r fath, ei dirymu, neu ei diwygio fel arall. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
165.Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person (“
166.Caiff ACC, unwaith y daw hysbysiad i law neu ar ei gymhelliad ei hun, drin A fel pe bai A yn B at ddibenion y gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll ymwelwyr, gydag effaith o’r adeg y dechreuodd A gynnal y busnes perthnasol. Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A (ac, os yw’n briodol, i B) am y penderfyniad i drin A fel pe bai’n B.
167.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud darpariaeth o ran pryd y mae rhaid i driniaeth o’r fath ddod i ben.
168.Os yw B yn peidio â bod yn analluog neu’n ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu os yw A yn peidio â chynnal busnes perthnasol B, rhaid i A hysbysu ACC am y ffaith honno a’r dyddiad y digwyddodd hynny. Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad hwnnw.
169.Rhaid i ACC beidio â thrin A fel pe bai’n B os yw ACC wedi ei fodloni bod y naill neu’r llall o’r amodau yn is-adran (6) wedi ei fodloni, ni waeth a yw A wedi rhoi hysbysiad. Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A (ac, os yw’n briodol, i B) am y penderfyniad i beidio â thrin A fel pe bai’n B.
170.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll ymwelwyr (gan gynnwys y Ddeddf hon) ynglŷn ag achosion pan fo person sydd wedi cynnal busnes perthnasol yn marw, yn mynd yn analluog neu’n dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bodoli fel arall, i ddiddymu darpariaeth o’r fath, ei dirymu, neu ei diwygio fel arall. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
171.Caiff rheoliadau ymdrin ag amgylchiadau pryd y mae person yn mynd yn analluog, neu’n dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bod yn analluog neu’n ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bodoli fel arall. Cânt hefyd gwmpasu dyletswyddau, atebolrwyddau a hawlogaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll ymwelwyr pan fo person wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu wedi peidio â bodoli fel arall.
172.Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gymwys pa un a yw unrhyw un arall yn cynnal busnes perthnasol person ar ôl i’r person farw, fynd yn analluog neu ddod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu beidio â bodoli fel arall, ai peidio.
173.Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynglŷn â dileu person o’r gofrestr o dan Ran 2 yn ogystal ag mewn cysylltiad â chosbau am fethiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau neu â gofynion a osodir ar bersonau heblaw ACC. Cânt hefyd ddarparu ar gyfer adolygiadau ac apelau.
174.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch cymhwyso unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll ymwelwyr (gan gynnwys y Ddeddf hon) mewn achosion pan fo busnes perthnasol wedi trosglwyddo o un person i un arall fel busnes gweithredol. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
175.Mae is-adran (1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch y Ddeddf ac unrhyw reoliadau a wneir odani, ond cyn dyroddi canllawiau o’r fath rhaid iddynt ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
176.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gan Weinidogion Cymru wrth arfer swyddogaeth sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr.
177.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r Ddeddf hon a DCRhT 2016, drwy reoliadau, er mwyn cymhwyso neu atgynhyrchu’r naill neu’r llall o Rannau 2 a 3 o’r Ddeddf hon, neu’r ddwy ohonynt, gydag addasiadau neu hebddynt, mewn cysylltiad â docfeydd ac angorfeydd a ddarperir ar gyfer llestrau. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
178.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiadau ar yr adolygiadau.
179.Rhaid cwblhau’r adolygiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw Rhan 2 i rym yn llawn. Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â dyddiad cyhoeddi adroddiad blaenorol yr adolygiad.
180.Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ACC i gynorthwyo’r broses adolygu, a rhaid i ACC gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.
181.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (1).
182.Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf). Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd os ydynt yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu deddfwriaeth sylfaenol (fel y’i diffinnir yn adran 65(6)); fel arall, maent yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.
183.Mae’r adran hon yn darparu bod pob pŵer yn y Ddeddf i wneud rheoliadau yn arferadwy drwy offeryn statudol.
184.Mae is-adran (2) yn darparu bod pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol, ac i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed gan gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf) ar gyfer rheoliadau sy’n dod o fewn is-adran (2)(b).
185.Mae is-adran (4) yn darparu bod offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau sydd wedi eu rhestru yn y Ddeddf i’w wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol (h.y. rhaid i ddrafft o’r offeryn gael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad).
186.Mae is-adran (5) yn darparu bod offerynnau statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw bŵer arall yn y Ddeddf yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.
187.Mae’r adran hon yn darparu diffiniadau ac yn egluro ystyr termau a ddefnyddir yn y Ddeddf.
188.Mae’r termau hyn yn cynnwys: “ACC”, “arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr”, “darparu”, “darparwr llety ymwelwyr”, “ffurflen”, “llestr”, “llety ymwelwyr”, “noson”, “partneriaeth” a “prif gyngor”.
189.Mae is-adran (2) yn diffinio “aelodau rheoli corff anghorfforedig”.
190.Mae is-adran (3) yn darparu, pan fo’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar brif gyngor i gyhoeddi penderfyniad, adroddiad neu ddogfen arall heblaw hysbysiad, fod rhaid ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi ar wefan prif gyngor, ac mewn unrhyw fodd arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol, a chael ei roi ar gael i edrych arno, neu ei rhoi ar gael i edrych arni, (yn ddi-dâl) yn ei swyddfeydd am o leiaf 12 mis ar ôl iddo gael ei gyhoeddi neu iddi gael ei chyhoeddi gyntaf.
191.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y bydd darpariaethau’r Ddeddf yn dod i rym.
192.Mae is-adran (1) yn darparu y bydd Rhannau 1, 3 (gan gynnwys Rhan 2 o Atodlen 2) a 4 (yn ddarostyngedig i is-adran (2)) yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
193.Mae is-adran (2) yn darparu y bydd Rhan 2 (gan gynnwys Rhan 1 o Atodlen 2) a Phennod 1 o Ran 4 fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r gofrestr o dan Ran 2, yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol. Mae is-adran (3) yn galluogi gorchymyn o’r fath i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed a darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol (yn ogystal ag at ddibenion gwahanol).
194.Mae adran 68 yn nodi enw byr y Ddeddf, y gellir ei ddefnyddio wrth enwi’r Ddeddf ac wrth gyfeirio ati. Caniateir defnyddio naill ai enw Cymraeg neu enw Saesneg y Ddeddf, gan gynnwys fel cyfeiriad mewn deddfiadau eraill.
195.Mae Atodlen 1 wedi ei chyflwyno gan adran 4.
196.Mae paragraff 1 yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gofnod DLlY ei chynnwys.
197.Mae paragraff 2 yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gofnod DLlY ei chynnwys o ran pob mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr.
198.Mae paragraff 3 yn nodi, pan fo ACC wedi cofrestru person o dan adran 8 o’r Ddeddf, neu wedi gwneud newidiadau i gofnod person o dan adran 11 o’r Ddeddf (hynny yw, pan nad oes cais wedi ei wneud gan y person, neu pan nad oes hysbysiad wedi ei roi gan berson am newid i’w fanylion), fod rhaid i’r cofnod ddangos bod y person wedi ei gofrestru, neu fod y cofnod wedi ei newid, gan ACC a dangos pa wybodaeth sydd o dan sylw.
199.Os yw DLlY wedyn yn darparu i ACC yr wybodaeth sy’n angenrheidiol i fodloni ACC bod cofnod y DLlY yn gyflawn ac yn gywir yna nid yw’r gofyniad o dan baragraff 3 i ddangos gweithred ACC yn gymwys mwyach.
200.Mae paragraff 4 yn nodi nad oes angen cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraffau 1 a 2 pan nad oes gan ACC yr wybodaeth honno neu pan fo ACC yn ystyried bod yr wybodaeth yn anghywir neu’n debygol o fod yn anghywir.
201.Os yw ACC yn cynnwys gwybodaeth y mae’n ystyried ei bod yn anghywir neu’n debygol o fod yn anghywir, caiff ddangos yn y gofrestr fod yr wybodaeth hon yn anghywir neu’n debygol o fod yn anghywir.
202.Mae paragraff 5(a) yn nodi, pan fo DLlY yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig, fod cyfeiriad ym mharagraff 1(a) yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at enw pob aelod o’r bartneriaeth neu bob aelod rheoli o’r corff anghorfforedig.
203.Pan fo DLlY yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig, mae paragraff 5(b) yn ei gwneud yn ofynnol i’r gofrestr gynnwys cyfeiriad pob aelod o’r bartneriaeth a phob aelod rheoli o’r corff anghorfforedig.
204.Mae paragraff 5 yn datgan, at ddiben yr Atodlen, mai cyfeiriad busnes partneriaeth yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei phrif swyddfa, a chyfeiriad busnes corff corfforedig neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, ac mai ystyr “elusen” yw elusen sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25) neu elusen esempt (o fewn yr ystyr a roddir i “exempt charity” yn y Ddeddf honno).
205.Mae Rhan 1 o Atodlen 2 wedi ei chyflwyno gan adran 27 ac mae’n cynnwys diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a Deddfau eraill, sy’n ymwneud â Rhan 2 o’r Ddeddf hon.
206.Mae paragraffau 1 i 15 yn gwneud diwygiadau i DCRhT 2016 sy’n ymdrin â rhyngweithiad swyddogaethau ACC o dan y Ddeddf honno â Rhan 2 o’r Ddeddf hon.
207.Mae paragraff 2 yn diwygio adran 12 o DCRhT 2016 sy’n nodi swyddogaethau ACC, gan gynnwys ei swyddogaeth gyffredinol i gasglu a rheoli trethi a swyddogaethau penodol sy’n ymwneud â threthi o’r fath, er mwyn cydnabod swyddogaethau ACC o dan Ran 2.
208.Mae paragraff 3 yn diwygio adran 17 o DCRhT 2016 er mwyn dileu “am drethdalwr” o’r ymadrodd “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr” er mwyn adlewyrchu’r ffaith na fydd yr wybodaeth a gesglir ac a reolir gan ACC, wrth arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â’r gofrestr o lety ymwelwyr, bob amser yn wybodaeth ynghylch person sy’n talu treth a gesglir gan ACC.
209.Mae paragraff 4 yn diwygio adran 18 o DCRhT 2016 er mwyn dileu “am drethdalwr” o’r ymadrodd “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr” o ganlyniad i’r newid i adran 17 o DCRhT 2016.
210.Mae paragraff 4 hefyd yn darparu dau borth rhannu gwybodaeth ychwanegol i ACC er mwyn caniatáu rhannu gwybodaeth o’r gofrestr â phrif gynghorau, ac â Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â swyddogaethau penodol sy’n ymwneud â thwristiaeth.
211.Mae paragraff 5 yn diwygio adran 20 o DCRhT 2016 er mwyn dileu “am drethdalwr” o’r ymadrodd “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr” o ganlyniad i’r newid i adran 17 o DCRhT 2016.
212.Mae paragraff 6 yn diwygio adran 25 o DCRhT 2016 fel bod rhaid i’r symiau y mae ACC yn eu casglu wrth arfer ei swyddogaethau cofrestru gael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru.
213.Mae paragraff 7 yn diwygio adran 30 o DCRhT 2016 er mwyn dileu’r label “Datganiad Treth” o’r datganiad a baratoir o dan adran 30. Mae’r newidiadau hyn yn ganlyniadol ar ehangu’r datganiad i gynnwys gwybodaeth a gesglir ac a reolir gan ACC yn unol â’i swyddogaethau mewn cysylltiad â’r gofrestr o lety ymwelwyr.
214.Mae paragraffau 8 ac 9 yn diwygio adrannau 31 a 33 o DCRhT 2016 er mwyn rhoi “datganiad” yn lle cyfeiriadau at “Datganiad Treth” o ganlyniad i’r diwygiad i adran 30.
215.Mae paragraff 10 yn hepgor adran 35 (Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus) o DCRhT 2016 (gweler paragraff 19 sy’n ei disodli â’r cyfeiriad at Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 sy’n ddeddf fwy diweddar).
216.Mae paragraff 11 yn diwygio adran 164 o DCRhT 2016 fel bod y diffiniad o “swm perthnasol” hefyd yn cynnwys cosbau sy’n ymwneud â’r gofrestr. Mae hyn yn cymhwyso Rhan 7 o DCRhT 2016 i’r system gosbau ar gyfer cofrestru.
217.Mae paragraff 12 yn diwygio’r rhestr o benderfyniadau apeliadwy yn adran 172(6) o DCRhT 2016 er mwyn cynnwys cyfeiriad at hysbysiadau o dan adran 12 o’r Ddeddf.
218.Mae paragraff 13 yn diwygio adran 179(2)(b) o DCRhT 2016, sy’n ymwneud â therfynau amser ar gyfer gwneud apêl, er mwyn eithrio penderfyniadau sy’n ymwneud â’r gofrestr o DLlYau.
219.Mae paragraff 14 yn diwygio adran 182(7) o DCRhT 2016, sy’n ymwneud â thalu cosbau yn achos adolygiad neu apêl, er mwyn ychwanegu cyfeiriad at adran 20 o’r Ddeddf hon (sy’n ymdrin â thalu cosbau sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2).
220.Mae paragraff 15 yn diwygio adran 183 o DCRhT 2016, sy’n ymwneud â phenderfynu ar adolygiadau ac apelau mewn cysylltiad â hysbysiadau gwybodaeth, er mwyn cynnwys hysbysiadau o dan adran 12 o’r Ddeddf.
221.Mae paragraff 16 yn diwygio adran 187B (fel y’i mewnosodir gan baragraff 48 o’r Atodlen hon) o DCRhT 2016 er mwyn cynnwys cyfeiriad at swyddogaethau ACC sy’n ymwneud â chofrestru llety ymwelwyr.
222.Mae paragraff 17 yn diwygio adran 193 o DCRhT 2016 er mwyn dileu “am drethdalwr” o’r ymadrodd “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr” o ganlyniad i’r diwygiad i adran 17 o DCRhT 2016.
223.Mae paragraff 18 yn diwygio adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 er mwyn rhoi “datganiad a baratoir gan Awdurdod Cyllid Cymru o dan adran 30 o’r Ddeddf honno” yn lle “Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru” o ganlyniad i’r diwygiad i adran 30 o DCRhT 2016.
224.Mae paragraff 19 yn diwygio Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn y cofnod ar gyfer “Awdurdod Cyllid Cymru” er mwyn ychwanegu “a chofrestru” ar ôl “Trethi”. Mae angen y diwygiad hwn er mwyn cynnwys cyfeiriad at swyddogaethau ACC sy’n ymwneud â chofrestru llety ymwelwyr.
225.Mae Rhan 2 o Atodlen 2 wedi ei chyflwyno gan adran 42 ac mae’n cynnwys diwygiadau i DCRhT 2016 sy’n ymwneud â Rhan 3 o’r Ddeddf hon (ardoll ymwelwyr).
226.Mae’r paragraff hwn yn nodi, pan fo’r geiriad “treth ddatganoledig” yn ymddangos yn DCRhT 2016, fod treth “a gesglir gan ACC” i’w roi yn ei le, heblaw’r eithriadau a restrir. Mae’r diwygiadau hyn yn caniatáu i ACC reoli a chasglu’r ardoll ymwelwyr, yn ogystal â’r trethi datganoledig, o dan yr un darpariaethau yn DCRhT 2016 (er y bydd DCRhT 2016, mewn rhai achosion, yn cymhwyso’n wahanol mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr, o gymharu â’r trethi datganoledig; mae’r mwyafrif o’r diwygiadau sy’n weddill yn y Rhan hon yn ymdrin â hyn).
227.Mae paragraff 22(a) yn diwygio adran 12(2)(b) o DCRhT 2016 o ganlyniad i’r diwygiadau a wneir gan baragraff 2 er mwyn galluogi ACC i ddarparu gwybodaeth a chymorth sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr, yn ogystal â’r trethi datganoledig, i drethdalwyr, eu hasiantiaid a phersonau eraill.
228.Mae paragraff 22(b) yn diwygio adran 12(2) er mwyn mewnosod paragraff newydd i gynnwys darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â’r ardoll ymwelwyr i brif gynghorau fel un o swyddogaethau penodol ACC.
229.Mae paragraff 23 yn diwygio adran 15 o DCRhT 2016 (sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau o natur gyffredinol i ACC) er mwyn mewnosod is-adran newydd (1A) i ddarparu, cyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd nad yw’n ymwneud ond â swyddogaethau ACC sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr, ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob prif gyngor sydd wedi cyflwyno, neu wedi penderfynu cyflwyno, yr ardoll ymwelwyr.
230.Mae paragraff 24 yn diwygio adran 18(1) o DCRhT 2016 er mwyn caniatáu datgelu gwybodaeth warchodedig, sef pan wneir hynny at ddibenion swyddogaethau ACC. Gosodir cyfyngiadau ar yr achos hwn o ddatgelu a ganiateir fel na ellir datgelu gwybodaeth warchodedig wrth ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru mewn perthynas â threthi a gesglir gan ACC, neu faterion eraill y caiff Gweinidogion Cymru wneud gwybodaeth, cyngor neu gymorth yn eu cylch yn ofynnol o bryd i’w gilydd. Rhoddir cyfyngiad tebyg ar yr achos hwn o ddatgelu a ganiateir fel na ellir datgelu gwybodaeth warchodedig wrth ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr i brif gynghorau.
231.Mae paragraff 25 yn mewnosod adran newydd 24A yn DCRhT 2016. Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC gynnal cyfrifon ar wahân ar gyfer enillion yr ardoll ymwelwyr ar gyfer pob sir neu fwrdeistref sirol. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC dalu’r enillion hyn i’r prif gyngor perthnasol bob blwyddyn erbyn 30 Mehefin yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y casglwyd yr enillion ynddi, neu erbyn unrhyw ddyddiad arall y cytunir arno rhwng ACC a phrif gyngor. Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r taliad i brif gyngor fod ar ôl didynnu costau ACC y mae wedi mynd iddynt wrth arfer ei swyddogaethau. Mae is-adran (4) yn caniatáu i ACC ddidynnu unrhyw symiau y mae’n ystyried eu bod yn briodol o ran costau y gallai fynd iddynt ac alldaliadau a allai ddod yn daladwy mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol honno ond ar ôl iddo dalu’r enillion ar gyfer y flwyddyn honno i brif gyngor. Mae is-adran (5) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n nodi darpariaeth bellach ynghylch didynnu symiau o ran costau, neu ddidynnu alldaliadau, gan gynnwys, ymysg materion eraill, sut y mae’r costau hyn yn cael eu dosrannu a phennu’r mathau o gostau neu alldaliadau y caniateir, y mae rhaid, neu na chaniateir eu didynnu. Mae is-adran (6) yn datgan bod cyfeiriadau at enillion yn cynnwys unrhyw gosbau ariannol a gesglir. Yn ogystal, nid yw taliadau i gynghorau o dan is-adran (2) yn alldaliadau.
232.Mae paragraff 26 yn diwygio adran 25 o DCRhT 2016 er mwyn sicrhau mai dim ond derbyniadau sy’n ymwneud â threthi datganoledig (ac nid yr ardoll ymwelwyr) a ddylai gael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru. Mae hefyd yn mewnosod is-adran newydd (3) i sicrhau bod rhaid i ACC dalu i Gronfa Gyfunol Cymru symiau a ddidynnir ar gyfer costau o enillion yr ardoll ymwelwyr.
233.Mae paragraff 27 yn diwygio adran 26(2) o DCRhT 2016 fel bod Siarter safonau a gwerthoedd ACC yn gymwys i gyfrifoldebau ACC am y trethi datganoledig ac i’r ardoll ymwelwyr. Mae hefyd yn ychwanegu cyfeiriad at “prif gynghorau”.
234.Mae paragraff 28 yn diwygio adran 27 o DCRhT 2016 er mwyn darparu, cyn y gall ACC gyflwyno ei gynllun corfforaethol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, fod rhaid i ACC ymgynghori â phob prif gyngor sydd wedi cyflwyno, neu wedi penderfynu cyflwyno, yr ardoll ymwelwyr yn ei ardal ar unrhyw amcanion, unrhyw ganlyniadau neu unrhyw weithgareddau yn y cynllun sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr.
235.Mae paragraff 29 yn diwygio adran 29 o DCRhT 2016 drwy gyflwyno is-adran newydd (2A) sy’n gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phob prif gyngor sydd wedi cyflwyno, neu wedi penderfynu cyflwyno, yr ardoll ymwelwyr cyn rhoi cyfarwyddyd i ACC o dan is-adran (1)(b) nad yw’n ymwneud ond â’r ardoll ymwelwyr.
236.Mae paragraff 30 yn diwygio adran 30 o DCRhT 2016 er mwyn gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phob prif gyngor sydd wedi cyflwyno, neu wedi penderfynu cyflwyno, yr ardoll ymwelwyr cyn rhoi cyfarwyddyd i ACC o dan is-adran (1) nad yw’n ymwneud ond â’r ardoll ymwelwyr.
237.Mae paragraff 31 yn diwygio adran 31 (archwilio) o DCRhT 2016 fel ei bod hefyd yn cyfeirio at adran 24A (talu enillion net yr ardoll ymwelwyr i brif gynghorau), a fewnosodir gan baragraff 25 o Atodlen 2 i’r Ddeddf hon. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod wedi ei fodloni, wrth archwilio’r Datganiad a gyflwynir o dan yr adran hon, fod unrhyw alldaliadau a ddidynnwyd wedi eu didynnu yn unol ag adran 24A.
238.Mae paragraff 32 yn diwygio adran 40 o DCRhT 2016 er mwyn darparu diffiniad o “dyddiad ffeilio” ar gyfer ffurflen sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr.
239.Mae paragraff 33 yn diwygio adran 58 o DCRhT 2016 (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC). Mae’n diwygio’r amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC er mwyn cynnwys is-adran newydd (5), sy’n pennu yr ystyrir bod gwybodaeth wedi ei darparu i ACC os yw mewn ffurflen dreth, os yw mewn dogfennau a gyflwynir neu wybodaeth a ddarperir ar gyfer ymholiad, neu os gallai ACC gasglu yn rhesymol ei bod yn bodoli o ffurflen dreth neu o ddogfennau a gyflwynir neu wybodaeth a ddarperir ar gyfer ymholiad, neu os yw’r trethdalwr neu ei asiant yn hysbysu ACC yn ysgrifenedig fod yr wybodaeth yn bodoli. Bydd y rheol hon sydd wedi ei newid yn gymwys i’r ardoll ymwelwyr a’r trethi datganoledig.
240.Mae paragraffau 34 a 35 yn gwneud diwygiadau i Ran 3A o DCRhT 2016 i ddarparu nad yw’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi yn gymwys i’r ardoll ymwelwyr.
241.Mae’r paragraff hwn yn diwygio adran 86 o DCRhT 2016 i ddileu’r gofyniad i ACC geisio cymeradwyaeth y tribiwnlys cyn dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfennau. Bydd y rheol hon sydd wedi ei newid yn gymwys i’r ardoll ymwelwyr a’r trethi datganoledig.
242.Mae paragraff 37 yn mewnosod adran newydd 117A yn DCRhT 2016 sy’n darparu diffiniadau o “darparwr llety ymwelwyr”, “ffurflen ardoll ymwelwyr” a “ffurflen treth ddatganoledig” ar gyfer Rhan 5 o DCRhT 2016. Mae’r diwygiad hefyd yn cyfeirio at adran 120G o DCRhT 2016 (a fewnosodir gan baragraff 42 o’r Atodlen hon) mewn perthynas â phersonau sydd wedi peidio â bod yn DLlY. Mae hefyd yn darparu rheol ddiofyn bod DLIY, nad yw wedi datgan a fydd yn dychwelyd ffurflenni blynyddol neu ffurflenni chwarterol i ACC, i’w drin fel DLIY sy’n dychwelyd ffurflenni blynyddol.
243.Mae paragraffau 38 i 41 yn gwneud nifer o ddiwygiadau er mwyn darparu bod adrannau 118 i 120 o DCRhT 2016, sy’n nodi’r rheolau ar gyfer cosbau am fethiannau i ddychwelyd ffurflen, i fod yn gymwys i drethi datganoledig yn unig, ac nid i’r ardoll ymwelwyr.
244.Mae paragraff 42 yn mewnosod adrannau newydd 120A i 120H yn DCRhT 2016.
245.Mae adrannau 120A i 120D yn darparu rheolau’r gyfundrefn sy’n seiliedig ar bwyntiau cosb am ffeilio ffurflenni ardoll ymwelwyr blynyddol a chwarterol yn hwyr.
246.Yn achos ffurflenni blynyddol, os na ddychwelir ffurflen ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae’r DLlY yn agored i bwynt cosb. Mae pwynt cosb a ddyfarnwyd i DLlY mewn perthynas â methu â dychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr flynyddol yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 24 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen y mae’r pwynt cosb yn ymwneud â hi.
247.Os yw DLlY sy’n ffeilio ffurflenni blynyddol wedi cyrraedd dau bwynt cosb, mae’r DLlY yn agored i gosb o £100. Oherwydd y rheolau ar bwyntiau cosb yn dod i ben, nid oes cosb ariannol am gael un pwynt dros gyfnod o 24 mis.
248.Yn achos ffurflenni chwarterol, os na ddychwelir ffurflen ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae’r DLlY yn agored i bwynt cosb. Mae pwynt cosb a ddyfarnwyd i DLlY mewn perthynas â methu â dychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr chwarterol yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen y mae’r pwynt cosb yn ymwneud â hi.
249.Os yw DLlY sy’n ffeilio ffurflenni chwarterol wedi cyrraedd pedwar pwynt cosb, mae’r DLlY yn agored i gosb o £100. Oherwydd y rheolau ar bwyntiau cosb yn dod i ben, nid oes cosb ariannol am gael hyd at dri phwynt dros gyfnod o 12 mis.
250.Ni chaiff DLlY sydd wedi cael un neu ragor o bwyntiau cosb nad ydynt wedi dod i ben newid o rwymedigaeth i ddychwelyd ffurflenni yn chwarterol i rwymedigaeth i’w dychwelyd yn flynyddol, nac i’r gwrthwyneb.
251.Yn ogystal â’r ddarpariaeth ar gyfer y system gosbau sy’n seiliedig ar bwyntiau, mae adran 120E yn darparu, yn achos y rhwymedigaethau i ddychwelyd ffurflenni yn chwarterol ac yn flynyddol, fod DLlY yn agored i gosb o £100 os yw ffurflen yn dal i fod heb ei ffeilio 6 mis ar ôl y dyddiad ffeilio.
252.Mae adran 120F yn darparu, yn ogystal â’r system gosbau sy’n seiliedig ar bwyntiau, yn achos y rhwymedigaethau i ddychwelyd ffurflenni yn flynyddol ac yn chwarterol, fod DLlY yn agored i gosb os yw ffurflen heb ei ffeilio 12 mis ar ôl y dyddiad ffeilio. Pan fo’r DLlY, drwy fethu â dychwelyd y ffurflen, yn atal yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi ACC i asesu atebolrwydd (“rhwymedigaeth” yn DCRhT 2016) y DLlY am dalu’r ardoll ymwelwyr, y gosb yw £300, neu swm uwch na hynny nad yw’n fwy na 95% o’r ardoll ymwelwyr y byddai’r DLlY wedi bod yn atebol am ei thalu pe bai’r ffurflen wedi ei dychwelyd. Pan fo’r ffurflen yn hwyr, ond na fo’r DLlY wedi atal gwybodaeth yn fwriadol, y gosb yw’r mwyaf o £300 a 5% o’r ardoll ymwelwyr y byddai’r DLlY wedi bod yn atebol am ei thalu pe bai’r ffurflen wedi ei dychwelyd.
253.Mae adran 120G yn darparu bod cyfeiriadau at DLlY yn adrannau 117A(2), 120A, 120E a 120F yn cynnwys person y mae’n ofynnol iddo, yn rhinwedd adran 41, ddychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr. Mae hyn yn cadw effaith yr adrannau hyn pan fo person wedi peidio â bod yn DLlY, gan sicrhau bod cosbau yn dal i fod yn gymwys pan fo gan berson ddyletswydd nad yw wedi cydymffurfio â hi eto.
254.Mae adran 120G yn darparu bod cyfeiriadau at DLlY yn adrannau 120B i 120D yn cynnwys person sydd wedi peidio â bod yn DLlY.
255.Mae adran 120H yn sefydlu sut y mae adrannau 120A i 120D (pwyntiau cosb a chosbau ariannol cysylltiedig) a 120G (sy’n ymdrin â phan fo person wedi peidio â bod yn DLlY) yn gymwys pan fo DLlY yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig.
256.At ddibenion yr adrannau hynny, mae aelodau partneriaeth neu aelodau corff anghorfforedig arall i’w trin fel pe baent yn berson unigol. Mae methiant gan un o’r aelodau i’w drin fel pe bai’n fethiant gan y person unigol tybiedig. Yn yr un modd, mae unrhyw beth a wneir gan aelod neu mewn perthynas ag aelod o bartneriaeth neu gorff i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan y person unigol tybiedig hwnnw neu mewn perthynas ag ef.
257.Mae is-adran 120H(2) yn darparu bod y person unigol tybiedig, pan fo newid yn aelodaeth y bartneriaeth neu’r corff, i’w drin fel pe bai’n parhau i fodoli.
258.Mae is-adran (3) yn nodi bod pob aelod perthnasol o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig yn agored ar y cyd ac yn unigol i gosbau a asesir ar y person unigol tybiedig.
259.Mae is-adran (4) yn darparu ystyr “aelod perthnasol”.
260.Mae paragraff 43 yn diwygio adran 121(1) o DCRhT 2016 er mwyn caniatáu i ACC ostwng cosbau ariannol am fethu â dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r gyfundrefn gosbau newydd ar gyfer yr ardoll ymwelwyr.
261.Mae paragraff 44 yn diwygio adran 122 o DCRhT 2016 er mwyn cyflwyno rheolau ar gyfer cosbau ariannol pan fydd DLlY yn methu â thalu’r ardoll ymwelwyr i ACC erbyn y dyddiad y mae’n ddyledus. Y gosb am fethu â thalu’r ardoll ymwelwyr mewn pryd yw 5% o swm yr ardoll ymwelwyr nas talwyd, ond, os yw 5% o swm yr ardoll ymwelwyr nas talwyd yn llai na £100, y gosb yw £100; ac, os yw 5% o swm yr ardoll ymwelwyr nas talwyd yn fwy na £5000, y gosb yw £5000. Gwneir diwygiadau eraill i adran 122 sy’n ganlyniadol ar adran newydd 122B ac er mwyn mewnosod llinell newydd yn Nhabl A1 i bennu’r dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o ardoll ymwelwyr.
262.Mae paragraff 45 yn mewnosod adran newydd 122B yn DCRhT 2016. Mae’r adran newydd yn darparu cosbau am barhau i fethu â thalu’r ardoll ymwelwyr. Mae DLlY yn dod yn atebol am dalu cosbau pellach am dalu’n hwyr os yw swm o ardoll ymwelwyr yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl 6 mis. Y gosb yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu, ond, os yw 5% o’r swm nas talwyd yn llai na £100, y gosb yw £100; ac, os yw 5% o’r swm nas talwyd yn fwy na £5000, y gosb yw £5000. Os yw’r ardoll ymwelwyr yn parhau i fod heb ei thalu 12 mis ar ôl y dyddiad y cododd atebolrwydd am dalu’r gosb o dan adran 122 o DCRhT 2016, yna cymhwysir cosb ar sail yr un dull cyfrifo ag ar ôl 6 mis i swm yr ardoll ymwelwyr sy’n ddyledus adeg y dyddiad cosbi 12 mis.
263.Mae paragraffau 46 i 48 yn diwygio adrannau 126, 127 a 128 o DCRhT 2016 er mwyn cynnwys croesgyfeiriadau at gosbau’r ardoll ymwelwyr fel bod y rheolau sydd yn yr adrannau hynny yn gymwys i’r cosbau sy’n gysylltiedig â’r ardoll ymwelwyr.
264.Mae paragraff 49 yn diwygio adran 172(2) o DCRhT 2016 er mwyn cyflwyno dau benderfyniad apeliadwy newydd. Y cyntaf yw penderfyniad sy’n ymwneud â phwynt cosb am fethu â dychwelyd ffurflen. Yr ail yw penderfyniad i ddyroddi hysbysiad trethdalwr, neu i gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath, os nad oedd y tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.
265.Mae paragraff 50 yn mewnosod adran newydd 187B yn DCRhT 2016 o ran cymhwyso i’r Goron mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr ac yn sicrhau bod DCRhT 2016 yn rhwymo’r Goron (yn yr un modd ag y mae’r Ddeddf yn rhwymo’r Goron). Mae is-adran (2) yn datgan nad yw DCRhT 2016 yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y byddai’n gymwys i bersonau eraill. Noder: Mae adran 187B wedi ei diwygio gan Ran 1 o’r Atodlen hon (gweler paragraff 16) i fod yn gymwys hefyd mewn perthynas â swyddogaethau ACC o dan Ran 2 o’r Ddeddf (cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr) ar yr un telerau.
266.Mae paragraff 51 yn diwygio adran 189(2) o DCRhT 2016 er mwyn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau a roddir i Weinidogion Cymru gan adran newydd 24A o DCRhT 2016 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
267.Mae paragraff 52 yn diwygio adran 190 o DCRhT 2016 ynghylch dyroddi hysbysiadau gan ACC er mwyn ei chymhwyso mewn perthynas â’r Ddeddf hon. Ymhellach, mae’r diwygiadau’n darparu bod y cyfeiriad ar gyfer y ffurflen dreth ddiweddaraf a anfonwyd i ACC hefyd yn gyfeiriad priodol at ddibenion cyflwyno hysbysiad. Bydd y rheol newydd hon yn gymwys i hysbysiadau sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr a’r trethi datganoledig.
268.Mae paragraff 53 yn diwygio adran 191 o DCRhT 2016, sy’n ymwneud â rhoi hysbysiadau neu wybodaeth i ACC, er mwyn iddi fod yn gymwys mewn perthynas â’r Ddeddf hon.
269.Mae paragraff 54 yn diwygio adran 192, sef adran ddehongli DCRhT 2016, er mwyn hepgor y diffiniad o “trethdalwr datganoledig” ac er mwyn cynnwys “ardoll ymwelwyr”, “prif gyngor”, “treth a gesglir gan ACC” a “trethdalwr”. Ychwanegir is-adran newydd er mwyn darparu diffiniad o’r adeg y mae prif gyngor wedi penderfynu cyflwyno’r ardoll ymwelwyr yn ei ardal.
270.Mae paragraff 55 yn diwygio adran 193 o DCRhT 2016 er mwyn mewnosod termau ychwanegol yn y mynegai o ymadroddion a ddiffinnir: “Ardoll ymwelwyr”, “Darparwr llety ymwelwyr”, “Ffurflen ardoll ymwelwyr”, “Ffurflen treth ddatganoledig”, “Prif gyngor”, “Prif gyngor sydd wedi penderfynu cyflwyno’r ardoll ymwelwyr”, “Treth a gesglir gan ACC” a “Trethdalwr”.
271.Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Mae Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar gael ar wefan y Senedd yn:
https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=44788
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwyno | 25 Tachwedd 2024 |
Cyfnod 1 - Dadl | 1 Ebrill 2025 |
Cyfnod 2 - Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau | 15 Mai 2025 |
Cyfnod 3 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau | 1 Gorffennaf 2025 |
Cyfnod 4 - Cymeradwyo gan y Senedd | 8 Gorffennaf 2025 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 18 Medi 2025 |