Search Legislation

Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025

Newidiadau dros amser i: Adran 35

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025, Adran 35 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 12 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Section 35:

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

35Cais am ad-dalu swm sy’n gyfwerth â’r ardollLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn yr adran hon, ystyr “ad-daliad ardoll” yw taliad i berson gan Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”), o dan is-adran (5) neu (6), o swm sy’n gyfwerth â’r cyfan o swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr sydd wedi digwydd, neu ran o’r swm hwnnw.

(2)Ni chaiff ACC wneud ad-daliad ardoll mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos ond os—

(a)yw cais am ad-daliad ardoll wedi ei wneud i ACC—

(i)gan berson a ddarparodd gydnabyddiaeth, o dan gontract, mewn cysylltiad â’r arhosiad dros nos, a

(ii)cyn diwedd y cyfnod o‍ 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod olaf yr oedd gan berson hawlogaeth o dan y contract i breswylio yn y llety ymwelwyr, a

(b)yw ACC yn ystyried bod is-adran (3) neu (4) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys mewn perthynas â chontract os arhosodd person dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract oherwydd—

(a)nad oedd y person hwnnw yn gallu preswylio yn ei unig breswylfa neu yn ei brif breswylfa oherwydd risg i’w iechyd, i’w ddiogelwch neu i’w les, neu

(b)bod y person hwnnw, ar adeg yr arhosiad, fel arall yn ddigartref (o fewn ystyr adran 55 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7)).

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys mewn perthynas â chontract os—

(a)o ran person (“P”)—

(i)arhosodd dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract,

(ii)yn ystod yr arhosiad, roedd gyda pherson sy’n cael budd-dal anabledd (“A”) a darparodd ofal, cymorth neu gynhorthwy i A, a

(iii)roedd y llety ymwelwyr yn yr un fangre â’r llety ymwelwyr yr arhosodd A ynddo (pa un a arhosodd P yn y llety o dan yr un contract ag A ai peidio), a

(b)nad yw is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.

(5)Pan fo ACC yn ystyried bod cais wedi ei wneud fel y disgrifir yn is-adran (2)(a) a bo is-adran (3) yn gymwys i’r contract, rhaid i ACC naill ai—

(a)talu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r arhosiad, neu

(b)pan fo ACC yn ystyried na ddylid gwneud taliad mewn perthynas ag—

(i)pob person a arhosodd dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract;

(ii)pob noson pan arhosodd un neu ragor o bobl dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract,

talu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn perthynas â phob person y mae ACC yn ystyried y dylid gwneud taliad mewn cysylltiad ag ef ac â phob noson y mae ACC yn ystyried y dylid gwneud taliad mewn cysylltiad â hi.

(6)Pan fo ACC yn ystyried bod cais wedi ei wneud fel y disgrifir yn is-adran (2)(a) a bo is-adran (4) yn gymwys i’r contract, rhaid i ACC naill ai—

(a)talu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn perthynas ag arhosiad P, neu

(b)pan fo ACC yn ystyried na ddylid gwneud taliad mewn perthynas â phob noson pan arhosodd P dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract, dalu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn perthynas â’r noson neu’r nosweithiau—

(i)pan arhosodd P dros nos, a

(ii)y mae ACC yn ystyried y dylid gwneud taliad mewn cysylltiad â hi neu â hwy.

(7)Yn is-adran (4)(a)(ii), ystyr “budd-dal anabledd” yw—

(a)lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (p. 4) neu adran 71 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992 (p. 7);

(b)taliad annibyniaeth personol o dan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5) neu Ran 5 o Orchymyn Diwygio Lles (Gogledd Iwerddon) 2015 (O.S. 2015/2006 (G.I. 1));

(c)lwfans gweini o dan adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992;

(d)lwfans gweini cyson o dan adran 104 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu adran 104 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992;

(e)taliad anabledd oedolion o dan Reoliadau Cymorth Anabledd ar gyfer Pobl o Oedran Gweithio (Yr Alban) 2022 (O.S.A. 2022/54) neu Reoliadau Cymorth Anabledd ar gyfer Pobl o Oedran Gweithio (Darpariaethau Trosiannol a Diwygio Amrywiol) (Yr Alban) 2022 (O.S.A. 2022/217);

(f)taliad anabledd plant o dan Reoliadau Cymorth Anabledd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (Yr Alban) 2021 (O.S.A. 2021/174);

(g)taliad annibyniaeth y lluoedd arfog o dan erthygl 24A o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 (O.S. 2011/517);

(h)lwfans gweini cyson o dan—

(i)erthygl 14 neu 43 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (O.S. 1983/686);

(ii)erthygl 8 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (O.S. 2006/606);

(i)atodiad symudedd o dan—

(i)erthygl 25A neu 48A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (O.S. 1983/686);

(ii)erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (O.S. 2006/606).

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddibenion—

(a)ychwanegu, dileu neu newid disgrifiadau o amgylchiadau pryd y caiff ACC wneud ad-daliad ardoll, neu pryd y mae rhaid iddo wneud ad-daliad ardoll;

(b)diwygio’r diffiniad o “budd-dal anabledd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources