- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025, Adran 29.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)At ddibenion y Rhan hon, mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd—
(a)os oes gan un neu ragor o bobl hawlogaeth, o dan gontract, i breswylio am un neu ragor o nosweithiau mewn llety ymwelwyr mewn mangre yn ardal prif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll,
(b)os darperir y llety i’r bobl hynny yng nghwrs masnach neu fusnes a gynhelir gan y darparwr llety ymwelwyr,
(c)os nad yw’r llety yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa unrhyw un neu ragor o’r bobl hynny, a
(d)os yw unrhyw un neu ragor o’r bobl hynny yn mynd i mewn i’r llety yn unol â’r contract.
(2)Ond nid yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd—
(a)os yw’r contract yn rhoi hawlogaeth i un neu ragor o unigolion penodol i breswylio yn y llety ymwelwyr (pa un ai ag unrhyw berson arall ai peidio), a bod gan bob unigolyn penodol hawlogaeth o dan y contract i breswylio yno—
(i)am fwy nag 31 o nosweithiau (pa un a yw’r nosweithiau hynny yn olynol ai peidio), a
(ii)pob noson y mae’r contract yn rhoi hawlogaeth i breswylio yn y llety hwnnw;
(b)os yw’r llety—
(i)wedi ei drefnu gan, neu wedi ei ddarparu ar ran, prif gyngor (fel awdurdod tai lleol) o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (digartrefedd);
(ii)wedi ei ddarparu o dan adran 4 (llety) neu o dan Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches, etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33);
(iii)wedi ei ddarparu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63);
(iv)wedi ei ddarparu o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21) at y dibenion prawf (o fewn ystyr “the probation purposes” yn adran 1 o’r Ddeddf honno);
(v)yn ymwneud â chyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 (mechnïaeth mewnfudo) i Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19) ar gyfer lletya person mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.
(3)Yn yr adran hon, nid yw “contract” yn cynnwys contract gwasanaeth, contract prentisiaeth, na chontract am wasanaethau y mae person sydd â hawlogaeth i breswylio yn y llety ymwelwyr yn darparu gwasanaethau odano i’r darparwr llety ymwelwyr.
(4)Y darparwr llety ymwelwyr, mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr, yw’r darparwr llety ymwelwyr—
(a)sy’n darparu’r llety y mae’r arhosiad yn digwydd ynddo, a
(b)sy’n feddiannydd ar y fangre lle y darperir y llety hwnnw.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddibenion ychwanegu, dileu neu newid disgrifiadau o amgylchiadau pryd y mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd neu pryd nad yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch ffyrdd y caniateir profi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr oherwydd bod y llety yn dod o fewn is-adran (2)(b), gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)dogfennau neu wybodaeth arall y gellir dibynnu arnynt neu arni i brofi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr;
(b)gwneud trefniadau ar gyfer dyroddi talebau y gellir eu defnyddio i brofi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr, ac mewn perthynas â dyroddi talebau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: