Search Legislation

Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025

Newidiadau dros amser i: Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 17 Mai 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Legislation Crest

Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025

2025 dsc 4

Deddf gan Senedd Cymru i sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru; i wneud darpariaeth i atal tomenni nas defnyddir rhag bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd; ac i wneud darpariaeth at ddibenion cysylltiedig.

[11 Medi 2025]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Rhagolygol

RHAN 1LL+CAWDURDOD TOMENNI NAS DEFNYDDIR CYMRU

Sefydlu ac arfer swyddogaethauLL+C

1Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir CymruLL+C

(1)Mae Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru wedi ei sefydlu fel corff corfforedig.

(2)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at “yr Awdurdod” yn gyfeiriadau at y corff hwnnw.

(3)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch yr Awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

2Yr Awdurdod yn arfer ei swyddogaethauLL+C

(1)Rhaid i’r Awdurdod arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon gyda golwg ar sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd.

(2)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i’r Awdurdod hefyd hyrwyddo safonau uchel mewn perthynas â rheoli tomenni nas defnyddir a bygythiadau i’w sefydlogrwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Swyddogaethau cyffredinolLL+C

3Gwybodaeth, cyngor a chynhorthwyLL+C

(1)Rhaid i’r Awdurdod roi unrhyw wybodaeth, cyngor neu gynhorthwy i Weinidogion Cymru y gall fod eu hangen arnynt mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n berthnasol i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon neu unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau eraill.

(2)Caiff yr Awdurdod, ar ei gymhelliad ei hun, roi gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n berthnasol i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon neu unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau eraill.

(3)Caiff yr Awdurdod roi gwybodaeth neu gyngor i unrhyw berson ac eithrio Gweinidogion Cymru ar unrhyw fater sy’n ymwneud â thomen nas defnyddir benodol neu domenni nas defnyddir yn gyffredinol, neu roi cynorthwy iddynt â’r mater hwnnw.

(4)Caiff yr Awdurdod godi ffi am ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy o dan is-adran (3).

(5)Yn yr adran hon, mae “cynhorthwy” yn cynnwys cynnal gweithrediadau ar dir.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

4Cynhorthwy ariannolLL+C

(1)Caiff yr Awdurdod, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, roi cynhorthwy ariannol i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwariant perthnasol.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “gwariant perthnasol” yw gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo gan y person ar unrhyw beth y mae’r Awdurdod ystyried ei fod yn ffafriol i gyflawni ei brif amcan.

(3)Caniateir rhoi cynhorthwy ariannol o dan is-adran (1)—

(a)drwy grant neu fenthyciad;

(b)yn ddarostyngedig i amodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

5Pwerau ategolLL+C

(1)Caiff yr Awdurdod wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau neu sy’n ffafriol neu’n ddeilliadol i’w harfer.

(2)Ond ni chaiff yr Awdurdod gael benthyg arian oddi wrth unrhyw berson heblaw Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Rhagolygol

RHAN 2LL+CASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR

PENNOD 1LL+CCOFRESTR TOMENNI NAS DEFNYDDIR

Y gofrestrLL+C

6Dyletswydd i lunio a chadw cofrestrLL+C

(1)Rhaid i’r Awdurdod lunio a chadw cofrestr electronig o domenni nas defnyddir y mae’r Awdurdod yn penderfynu—

(a)eu bod yn bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd, neu

(b)y gallant beri bygythiad o’r fath pe bai ansefydlogrwydd.

(2)Mae Pennod 3 yn nodi’r broses ar gyfer cynnwys tomenni nas defnyddir yn y gofrestr neu eu dileu o’r gofrestr.

(3)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “y gofrestr” yn gyfeiriadau at y gofrestr y cyfeirir ati yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

7Y meini prawf ar gyfer cofrestruLL+C

At ddibenion y Rhan hon, y meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir yw—

(a)bod y domen yn bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd, neu

(b)y gallai beri bygythiad o’r fath pe bai ansefydlogrwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

8Cynnwys y gofrestrLL+C

(1)Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer tomen nas defnyddir gynnwys—

(a)map sy’n dangos ardal y domen, a

(b)yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2).

(2)Yr wybodaeth yw—

(a)enw neu enwau cyffredin y domen (os oes un neu rai);

(b)lleoliad y domen;

(c)dynodydd unigryw y mae’r Awdurdod wedi ei roi i’r domen;

(d)categori’r domen (gweler Pennod 4);

(e)dyddiad yr arolygiad diweddaraf o’r domen (os bu un);

(f)unrhyw wybodaeth ychwanegol a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Awdurdod cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2)(f).

(4)Ni chaniateir newid y map sy’n dangos ardal tomen nas defnyddir na newid categori tomen ond yn unol â Phennod 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

9Caniatáu i’r cyhoedd weld y gofrestrLL+C

Rhaid i’r Awdurdod‍ gyhoeddi’r mapiau a’r wybodaeth yn y gofrestr, ac eithrio unrhyw wybodaeth a bennir drwy reoliadau o dan adran 8(2)(f).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

Monitro tomenni cofrestredigLL+C

10Dyletswydd i fonitro tomenni cofrestredigLL+C

(1)Rhaid i’r Awdurdod fonitro sefydlogrwydd, a bygythiadau i sefydlogrwydd, pob tomen nas defnyddir yn y gofrestr.

(2)Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) ‍mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 1, rhaid i’r Awdurdod—

(a)arolygu’r domen o fewn 6 mis ar ôl i’r domen gael ei chofnodi yn y gofrestr fel tomen categori 1, a

(b)rhaid iddo yna arolygu’r domen—

(i)dwywaith o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr arolygiad sy’n ofynnol gan baragraff (a), a

(ii)dwywaith o fewn pob cyfnod dilynol o 12 mis.

(3)Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 2, rhaid i’r Awdurdod—

(a)arolygu’r domen o fewn 12 mis ar ôl i’r domen gael ei chofnodi yn y gofrestr fel tomen categori 2, a

(b)rhaid iddo yna arolygu’r domen—

(i)unwaith o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr arolygiad sy’n ofynnol gan baragraff (a), a

(ii)unwaith o fewn pob cyfnod dilynol o 12 mis.

(4)Caiff yr Awdurdod gynnal unrhyw weithgareddau monitro eraill (gan gynnwys arolygiadau ychwanegol) y mae’n ystyried eu bod yn briodol mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 1 neu’n domen categori 2.

(5)Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) mewn perthynas â thomen sy’n domen categori 3 neu’n domen categori 4, caiff yr Awdurdod gynnal unrhyw arolygiadau neu weithgareddau monitro eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2) neu (3)—

(a)i newid unrhyw gyfnod y cyfeirir ato am y tro yn yr is-adrannau hynny fel y cyfnod y mae rhaid cynnal arolygiad neu arolygiadau (yn ôl y digwydd) ynddo;

(b)i newid, mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o’r fath, nifer yr arolygiadau y mae’n ofynnol i’r Awdurdod eu cynnal.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

PENNOD 2LL+CASESU TOMENNI NAS DEFNYDDIR

CyffredinolLL+C

11TrosolwgLL+C

Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu tomenni nas defnyddir; yn benodol, mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gynnal—

(a)asesiad rhagarweiniol o domenni nas defnyddir nad ydynt yn y gofrestr, er mwyn nodi’r tomenni hynny y gall fod angen eu cynnwys ynddi;

(b)asesiad llawn o’r tomenni hynny y mae asesiad rhagarweiniol yn nodi eu bod yn rhai y gall fod angen eu cynnwys yn y gofrestr;

(c)mewn amgylchiadau penodol, asesiad llawn o domenni sydd eisoes yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

Asesiad rhagarweiniolLL+C

12Ystyr “asesiad rhagarweiniol”LL+C

Yn y Bennod hon, ystyr “asesiad rhagarweiniol” yw asesiad o ba un a yw’n ymddangos y gallai’r meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir fod wedi eu bodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

13Asesiadau rhagarweiniol o’r holl domenni nas defnyddirLL+C

(1)Rhaid i’r Awdurdod—

(a)cynnal asesiad rhagarweiniol mewn perthynas â phob tomen nas defnyddir, a

(b)llunio‍ a chyhoeddi adroddiad ar bob asesiad.

(2)Caiff yr Awdurdod gyhoeddi adroddiad o dan is-adran (1)(b) ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(3)Rhaid i’r Awdurdod lunio rhaglen sy’n nodi sut y mae’n bwriadu cynnal yr asesiadau rhagarweiniol sy’n ofynnol gan yr adran hon, a’i amserlen arfaethedig ar gyfer hynny.

(4)Rhaid i’r Awdurdod anfon y rhaglen at Weinidogion Cymru i’w chymeradwyo cyn diwedd 12 mis sy’n dechrau â phan ddaw’r adran hon i rym.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r rhaglen ag addasiadau neu hebddynt.

(6)Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi’r rhaglen fel y’i cymeradwyir gan Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(7)Caiff yr Awdurdod ddiwygio’r rhaglen gyhoeddedig gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(8)Os yw’r Awdurdod yn diwygio’r rhaglen gyhoeddedig, rhaid iddo ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y diwygiad.

(9)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i’r Awdurdod roi sylw i’r rhaglen ddiweddaraf a gyhoeddwyd ganddo o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

14Asesiadau rhagarweiniol ychwanegolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo asesiad rhagarweiniol wedi ei gynnal o dan y Bennod hon mewn perthynas â thomen nas defnyddir nad yw yn y gofrestr, ond bod yr Awdurdod yn ystyried y dylid cynnal asesiad rhagarweiniol ychwanegol mewn perthynas â’r domen—

(a)oherwydd newid mewn amgylchiadau, neu

(b)oherwydd bod gwybodaeth ar gael nas ystyriwyd pan gynhaliwyd yr asesiad blaenorol.

(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—

(a)cynnal asesiad rhagarweiniol ychwanegol mewn perthynas â’r domen, a

(b)llunio‍ a chyhoeddi adroddiad ar‍ yr asesiad.

(3)Caiff yr Awdurdod gyhoeddi adroddiad o dan is-adran (2)(b) ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

Asesiad llawnLL+C

15Ystyr “asesiad llawn”LL+C

Yn y Bennod hon ystyr “asesiad llawn”, mewn perthynas â thomen nas defnyddir, yw asesiad o—

(a)sefydlogrwydd y domen;

(b)materion sy’n effeithio ar sefydlogrwydd y domen neu a allai effeithio ar hynny (gan gynnwys unrhyw ryngddibyniaethau rhwng y domen ac unrhyw domen nas defnyddir arall);

(c)a allai unrhyw ryngddibyniaethau rhwng y domen a thomen nas defnyddir arall effeithio ar sefydlogrwydd y domen arall;

(d)a yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

16Asesiad llawn o domen anghofrestredigLL+C

(1)Os, ar sail asesiad rhagarweiniol o dan y Bennod hon, yr ymddengys i’r Awdurdod y gallai’r meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir fod wedi eu bodloni mewn perthynas â thomen nas defnyddir nad yw yn y gofrestr, rhaid i’r Awdurdod—

(a)cynnal asesiad llawn mewn perthynas â’r domen, a

(b)llunio‍ a chyhoeddi adroddiad ar‍ yr asesiad.

(2)Caiff yr Awdurdod gyhoeddi adroddiad o dan is-adran (1)(b) ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

17Asesiad llawn o domen gofrestredigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Awdurdod yn ystyried y dylid cynnal asesiad llawn ychwanegol mewn perthynas â thomen nas defnyddir sydd eisoes yn y gofrestr—

(a)oherwydd newid mewn amgylchiadau, neu

(b)oherwydd bod gwybodaeth ar gael nas ystyriwyd pan gynhaliwyd asesiad llawn ddiwethaf mewn perthynas â’r domen.

(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—

(a)cynnal asesiad llawn ychwanegol mewn perthynas â’r domen, a

(b)llunio‍ a chyhoeddi adroddiad ar‍ yr asesiad.

(3)Caiff yr Awdurdod gyhoeddi adroddiad o dan is-adran (2)(b) ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

18Hysbysiad o fwriad i gynnal asesiad llawnLL+C

(1)Cyn cynnal asesiad llawn mewn perthynas â thomen nas defnyddir, rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad i bob perchennog a phob meddiannydd ar dir y mae angen mynediad iddo at ddibenion yr asesiad.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)datgan bod yr Awdurdod wedi trefnu asesiad llawn mewn perthynas â’r domen;

(b)esbonio y gallai fod angen mynd ar y tir i gynnal yr asesiad;

(c)pennu’r dyddiad y gallai fod angen mynd ar y tir (na chaiff fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad);

(d)datgan y caiff yr Awdurdod, oni bai mai tir y Goron yw’r tir, wneud cais am warant i fynd ar y tir o dan adran 67 os gwrthodir mynediad.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

19Hysbysiad o gasgliadau asesiad llawnLL+C

Pan fo’r Awdurdod yn llunio adroddiad ar asesiad llawn mewn perthynas â thomen nas defnyddir, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad ynghylch casgliadau’r adroddiad i bob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

PENNOD 3LL+CCOFRESTRU A DATGOFRESTRU TOMENNI NAS DEFNYDDIR

20Cynnig i gofrestru tomenLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo adroddiad ar asesiad llawn o dan adran 16 yn dod i’r casgliad fod y meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir wedi eu bodloni.

(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad ei fod yn cynnig cynnwys y domen yn y gofrestr (“hysbysiad o gofrestriad arfaethedig”) i—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, a

(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai.

(3)Rhaid i hysbysiad o gofrestriad arfaethedig—

(a)nodi’r domen nas defnyddir;

(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;

(c)esbonio bod yr Awdurdod yn cynnig cofrestru’r domen a’i resymau dros y cynnig;

(d)pennu’r categori y mae’r Awdurdod yn ei gynnig ar gyfer y domen a’i resymau dros y cynnig;

(e)pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod ynghylch y cynnig, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;

(f)esbonio sut y caiff person gyflwyno sylwadau.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3)(e) i newid y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond ni chaiff y cyfnod diwygiedig fod yn llai na 14 diwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

21Penderfyniad ynghylch cofrestruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau ynghylch cynnig i gynnwys tomen nas defnyddir yn y gofrestr wedi dod i ben.

(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, benderfynu pa un a yw’n fodlon bod y meini prawf ar gyfer cofrestru’r domen wedi eu bodloni.

(3)Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r Awdurdod roi sylw i—

(a)casgliadau yr adroddiad ar yr asesiad llawn a grybwyllir yn adran 20, a

(b)unrhyw sylwadau a wnaed am y cynnig gan berson y rhoddwyd yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig iddo.

(4)Caiff yr Awdurdod hefyd roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.

(5)Pan fo’r Awdurdod yn penderfynu bod y meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni, rhaid iddo gynnwys y domen yn y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(6)Caiff yr Awdurdod gofrestru tomen nas defnyddir rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â’r cynnig yn yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(7)Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad o benderfyniad o dan yr adran hon (“hysbysiad penderfynu”) i—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno,

(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai, ac

(c)unrhyw berson arall y rhoddwyd yr hysbysiad o gofrestriad arfaethedig iddo.

(8)Rhaid i hysbysiad penderfynu—

(a)nodi’r domen nas defnyddir;

(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;

(c)esbonio penderfyniad yr Awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad;

(d)os yw’r domen wedi ei chynnwys yn y gofrestr—

(i)pennu’r dyddiad yr ychwanegwyd y domen at y gofrestr,

(ii)pennu categori’r domen, a

(iii)pan fo’r domen wedi ei chofrestru rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â’r hysbysiad o gofrestriad arfaethedig, esbonio unrhyw wahaniaethau a’r rhesymau dros y gwahaniaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

22Cynnig i ddileu tomen o’r gofrestrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo adroddiad ar asesiad llawn o dan adran 17 yn dod i’r casgliad nad yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â thomen nas defnyddir yn y gofrestr.

(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad ei fod yn bwriadu dileu’r domen o’r gofrestr (“hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig”) i—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, a

(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai.

(3)Rhaid i hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig—

(a)nodi’r domen nas defnyddir;

(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;

(c)esbonio bod yr Awdurdod yn cynnig dileu’r domen o’r gofrestr a’i resymau dros y cynnig;

(d)pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod mewn perthynas â’r cynnig, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;

(e)esbonio sut y caiff person gyflwyno sylwadau.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3)(d) i newid y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond ni chaiff y cyfnod diwygiedig fod yn llai na 14 o ddiwrnodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

23Penderfyniad ynghylch dileu tomen o’r gofrestrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn perthynas â chynnig i ddileu tomen nas defnyddir o’r gofrestr wedi dod i ben.

(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, benderfynu pa un a yw’n fodlon nad yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â’r domen.

(3)Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r Awdurdod roi sylw i—

(a)casgliadau’r adroddiad ar yr asesiad llawn a grybwyllir yn adran 22, a

(b)unrhyw sylwadau a wnaed am y cynnig gan berson y rhoddwyd yr hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig iddo.

(4)Caiff yr Awdurdod hefyd roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.

(5)Pan fo’r Awdurdod yn penderfynu nad yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru yn cael eu bodloni mwyach, rhaid iddo ddileu’r domen o’r gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(6)Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad o benderfyniad o dan yr adran hon (“hysbysiad penderfynu”) i—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno,

(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai, ac

(c)unrhyw berson arall y rhoddwyd yr hysbysiad o ddatgofrestriad arfaethedig iddo.

(7)Rhaid i hysbysiad penderfynu—

(a)nodi’r domen nas defnyddir;

(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;

(c)esbonio penderfyniad yr Awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad;

(d)os yw’r domen wedi ei dileu o’r gofrestr, pennu’r dyddiad y cafodd ei dileu.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

PENNOD 4LL+CY CATEGORÏAU O DOMENNI NAS DEFNYDDIR ETC.

24Categorïau tomenni nas defnyddirLL+C

(1)Mae pedwar categori y caniateir rhoi tomen nas defnyddir yn y gofrestr ynddo o dan y Rhan hon: categori 1, 2, 3 neu 4.

(2)Mae’r pedwar categori yn cynrychioli’r graddau gwahanol y mae tomenni nas defnyddir yn peri pryder i’r Awdurdod, fel a ganlyn—

(a)categori 1 yn cynrychioli’r tomenni nas defnyddir hynny sy’n peri’r pryder mwyaf i’r Awdurdod, a

(b)categori 4 yn cynrychioli’r tomenni nas defnyddir hynny sy’n peri’r pryder lleiaf i’r Awdurdod,

ar sail asesiad o un neu ragor o’r materion a nodir yn is-adran (3).

(3)Y materion yw—

(a)ansefydlogrwydd y domen;

(b)ansefydlogrwydd posibl y domen;

(c)y bygythiad i les pobl a berir gan ansefydlogrwydd y domen;

(d)y bygythiad y gallai’r domen ei beri i les pobl pe bai ansefydlogrwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

25Datganiad polisi ar gategoreiddioLL+C

(1)Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi datganiad o’i bolisi ar gategoreiddio tomenni nas defnyddir.

(2)Caiff yr Awdurdod ddiwygio’r datganiad ond, pan fo’n gwneud hynny, rhaid iddo gyhoeddi’r datganiad ar ei ffurf ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y diwygiad.

(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad (gan gynnwys ar ffurf ddiwygiedig), rhaid i’r Awdurdod ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

26Categoreiddio cychwynnol tomen nas defnyddirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)cynnig o dan adran 20 i gofrestru tomen nas defnyddir, a

(b)penderfyniad o dan adran 21 i gofrestru tomen nas defnyddir.

(2)Wrth gynnig categori neu benderfynu categori ar gyfer tomen, rhaid i’r Awdurdod—

(a)rhoi sylw i’r adroddiad ar yr asesiad llawn a gynhaliwyd o dan adran 16 mewn perthynas â’r domen, a

(b)dilyn y polisi yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 25.

(3)Wrth gynnig neu benderfynu categori ar gyfer tomen, caiff yr Awdurdod roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

27Adolygiadau o gategoriLL+C

(1)Pan fo—

(a)yr Awdurdod yn cynnal asesiad llawn o dan adran 17 mewn perthynas â thomen nas defnyddir yn y gofrestr, a

(b)yr adroddiad yn dod i’r casgliad bod y meini prawf ar gyfer cofrestru’r domen yn parhau i gael eu bodloni,

rhaid i’r Awdurdod adolygu categori’r domen cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(2)Caiff yr Awdurdod adolygu categori tomen nas defnyddir ar unrhyw adeg arall.

(3)Os yw’r Awdurdod yn ystyried, ar adolygiad, y dylid newid categori tomen, nas defnyddir, rhaid iddo gynnig categori gwahanol ar gyfer y domen cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)Wrth adolygu categori tomen nas defnyddir, ac wrth gynnig categori gwahanol ar gyfer tomen nas defnyddir, rhaid i’r Awdurdod—

(a)rhoi sylw i’r adroddiad ar yr asesiad llawn diweddaraf a gynhaliwyd mewn perthynas â’r domen, a

(b)dilyn y polisi yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 25.

(5)Wrth adolygu categori tomen nas defnyddir, neu gynnig categori gwahanol ar gyfer tomen nas defnyddir, caiff yr Awdurdod roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.

(6)Gweler Pennod 5 ar gyfer darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan yr Awdurdod pan fydd yn cynnig newid i’r categori ar gyfer tomen nas defnyddir, a phan fydd yn gwneud newid o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

PENNOD 5LL+CNEWIDIADAU HYSBYSADWY I’R GOFRESTR

28Ystyr “newid hysbysadwy”LL+C

Yn y Bennod hon, ystyr “newid hysbysadwy” yw—

(a)newid i’r ardal a ddangosir fel ardal tomen nas defnyddir ar fap yn y gofrestr (gweler adran 8(1)(a)), neu

(b)newid i gategori tomen nas defnyddir.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

29Cynnig i wneud newid hysbysadwyLL+C

(1)Os yw’r Awdurdod yn cynnig gwneud newid hysbysadwy mewn perthynas â thomen nas defnyddir, rhaid iddo roi hysbysiad o’r cynnig (“hysbysiad o newid arfaethedig i’r gofrestr”) i—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, a

(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai.

(2)Rhaid i hysbysiad o newid arfaethedig i’r gofrestr—

(a)nodi’r domen nas defnyddir;

(b)cynnwys copi o’r map yn y gofrestr sy’n dangos ardal y domen;

(c)esbonio’r newid y mae’r Awdurdod yn ei gynnig (y mae rhaid iddo, yn achos newid i ardal tomen sydd wedi ei dangos ar fap yn y gofrestr, gynnwys map sy’n dangos y diwygiadau arfaethedig wedi eu marcio’n glir);

(d)esbonio rhesymau’r Awdurdod dros y cynnig;

(e)pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod mewn perthynas â’r cynnig, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;

(f)esbonio sut y caiff person gyflwyno sylwadau.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)(e) i newid y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond ni chaiff y cyfnod diwygiedig fod yn llai na 14 o ddiwrnodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

30Penderfyniad ynghylch newid hysbysadwyLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn perthynas â chynnig i wneud newid hysbysadwy wedi dod i ben.

(2)Rhaid i’r Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, benderfynu pa un ai i wneud y newid.

(3)Pan fo—

(a)y newid arfaethedig yn newid i’r map yn y gofrestr sy’n dangos ardal tomen nas defnyddir, a

(b)yr Awdurdod yn ystyried y dylid gwneud y newid ar ffurf addasedig,

caiff benderfynu gwneud y newid gydag unrhyw addasiadau y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(4)Pan fo’r newid arfaethedig yn newid i gategori tomen nas defnyddir, caiff yr Awdurdod benderfynu newid y categori i gategori sy’n wahanol i’r categori a gynigiwyd ganddo.

(5)Wrth wneud ei benderfyniad o dan is-adran (2) , rhaid i’r Awdurdod roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan berson y rhoddwyd hysbysiad o’r cynnig iddo.

(6)Caiff yr Awdurdod hefyd roi sylw i unrhyw wybodaeth arall y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol.

(7)Pan fo’r Awdurdod yn penderfynu gwneud newid hysbysadwy, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ddiweddaru’r gofrestr i adlewyrchu ei benderfyniad.

(8)Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad o’i benderfyniad o dan is-adran (2) (“hysbysiad penderfynu”) i—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno,

(b)unrhyw berson arall a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai, ac

(c)unrhyw berson arall y rhoddwyd hysbysiad o’r newid arfaethedig i’r gofrestr iddo.

(9)Rhaid i hysbysiad penderfynu—

(a)nodi’r domen nas defnyddir;

(b)cynnwys map sy’n dangos ardal y domen;

(c)esbonio penderfyniad yr Awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad;

(d)os gwnaed newid i’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer y domen, roi’r dyddiad y gwnaed y newid.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

PENNOD 6LL+CDARPARIAETH ATODOL

31Dyletswydd i lunio a chadw cofrestr o’r holl domenni nas defnyddirLL+C

(1)Rhaid i’r Awdurdod lunio a chadw cofrestr electronig o’r holl domenni nas defnyddir y cynhaliwyd asesiad o dan adran 13 (asesiadau rhagarweiniol o’r holl domenni nas defnyddir) mewn perthynas â hwy.

(2)Rhaid i’r Awdurdod gynnwys tomen nas defnyddir yn y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cwblhau’r asesiad y cyfeirir ato yn is-adran (1) mewn perthynas â’r domen.

(3)Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer tomen nas defnyddir gynnwys—

(a)enw neu enwau cyffredin y domen (os oes un neu rai);

(b)lleoliad y domen;

(c)dynodydd unigryw y mae’r Awdurdod wedi ei roi i’r domen.

(4)Rhaid i’r Awdurdod‍ gyhoeddi’r gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

32Dyletswydd i gyhoeddi hysbysiadauLL+C

(1)Pan fo darpariaeth ym Mhennod 3 neu 5 o’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi i berson, rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi’r hysbysiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei roi.

(2)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), caiff yr Awdurdod gyhoeddi hysbysiad ar ffurf olygedig os yw’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

33Digollediad am ddifrod neu aflonydduLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)arolygiad neu weithgaredd monitro arall yn cael ei gynnal o dan Bennod 1, neu

(b)asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn yn cael ei gynnal o dan Bennod 2.

(2)Os, o ganlyniad i gynnal yr arolygiad, y gweithgaredd neu’r asesiad—

(a)difrodir unrhyw dir neu eiddo arall, neu

(b)aflonyddir ar fwynhad unrhyw berson o unrhyw dir,

mae gan y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (3) hawlogaeth i adennill digollediad oddi wrth yr Awdurdod mewn cysylltiad â’r difrod neu’r aflonyddu.

(3)Y personau yw—

(a)yn achos difrod i dir, unrhyw berson a chanddo ystad neu fuddiant yn y tir;

(b)yn achos difrod i eiddo arall, perchennog yr eiddo;

(c)mewn achos o aflonyddu ar fwynhad person o dir, y person yr aflonyddir ar ei fwynhad o’r tir.

(4)Mae unrhyw anghydfod sy’n codi ynghylch hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon i’w benderfynu gan y llys.

(5)Mae Atodlen 2 yn cael effaith mewn perthynas â hawliadau penodol am ddigollediad o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

34Cosb am rwystro gweithgareddau monitro neu asesiadauLL+C

(1)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol neu’n ymyrryd yn fwriadol ag—

(a)arolygiad neu weithgaredd monitro arall o dan Bennod 1, neu

(b)asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn o dan Bennod 2,

yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(3)Nid yw torri is-adran (1) gan y Goron yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd (ond gweler adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ynghylch atebolrwydd personau sy’n gwasanaethu’r Goron).

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

Rhagolygol

RHAN 3LL+CYMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN

PENNOD 1LL+CEI GWNEUD YN OFYNNOL I BERCHENNOG AR DIR I GYNNAL GWEITHREDIADAU

35Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog ar dir i gynnal gweithrediadauLL+C

(1)Caiff yr Awdurdod drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berchennog ar dir gynnal gweithrediadau ar y tir os yw’r Awdurdod yn ystyried bod y gweithrediadau yn angenrheidiol i gyflawni’r amcan a ganlyn.

(2)Yr amcan yw—

(a)atal bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir neu ymdrin â’r bygythiadau hynny, neu

(b)sefydlogi tomen nas defnyddir neu atal tomen nas defnyddir rhag mynd yn fwy ansefydlog,

er mwyn osgoi neu leihau bygythiadau i les pobl.

(3)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)y domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad mewn cysylltiad â hi,

(b)y gweithrediadau y mae rhaid eu cynnal, ac

(c)y bygythiad i les pobl y bwriedir i’r gweithrediadau penodedig ei osgoi neu ei leihau.

(4)Rhaid i hysbysiad hefyd bennu’r cyfnod y mae’r gweithrediadau i’w cwblhau ynddo, a rhaid iddo fod yn gyfnod sy’n dechrau o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

36Hawl y perchennog i fynd ar dir etc.LL+C

(1)O dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)os nad yw perchennog ar dir y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35 yn meddiannu’r tir, neu unrhyw ran o’r tir, y mae rhaid cynnal y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad arno, a

(b)os yw ystad y perchennog yn y tir yn uwch nag unrhyw ystad neu fuddiant sydd gan y meddiannydd,

mae gan y perchennog yr hawl i fynd ar y tir er mwyn cynnal y gweithrediadau ac unrhyw waith adfer canlyniadol.

(2)Caiff perchennog sy’n arfer hawl mynediad o dan is-adran (1) fynd ag unrhyw bersonau eraill, unrhyw gyfarpar ac unrhyw ddeunydd ar y tir fel y bo’n angenrheidiol.

(3)Caiff perchennog ar dir y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35, at ddiben cynnal gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad ar y tir, symud ymaith a gwaredu unrhyw eiddo y mae person arall yn berchen arno sydd wedi ei leoli ar y tir.

(4)Os yw perchennog ar dir yn gwaredu eiddo o dan is-adran (3) drwy ei werthu, rhaid i berchennog y tir roi cyfrif i berchennog yr eiddo am yr enillion gwerthu.

(5)Nid yw is-adran (4) yn atal perchennog ar dir rhag—

(a)didynnu o’r enillion gwerthu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol gan y perchennog wrth werthu’r eiddo;

(b)gosod yr enillion gwerthu, neu unrhyw ran o’r enillion hynny, yn erbyn unrhyw swm y mae gan y perchennog hawlogaeth i’w adennill oddi wrth berchennog yr eiddo o dan Bennod 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

37Dyletswydd i roi copïau o hysbysiad i bartïon â buddiantLL+C

(1)Pan fo’r Awdurdod yn rhoi hysbysiad i berchennog ar dir o dan adran 35, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr hysbysiad.

(2)At ddibenion yr adran hon, mae’r personau a ganlyn (yn ogystal â’r perchennog) yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn hysbysiad—

(a)person sy’n meddiannu tir y mae’r gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i’w cynnal arno;

(b)person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai;

(c)person—

(i)a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno, neu

(ii)y bu ganddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir hwnnw ar unrhyw adeg yn y 12 mlynedd cyn y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog;

(d)person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, fuddiant yn (gan gynnwys hawl i gaffael) yr holl ddeunydd neu unrhyw ddeunydd sydd yn y domen nas defnyddir;

(e)person sydd, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel;

(f)person y mae’r Awdurdod yn credu ei fod, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi peri neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad drwy—

(i)cynnal gweithrediadau eraill neu gyflawni unrhyw weithgaredd arall ar unrhyw dir, neu

(ii)methu â gwneud rhywbeth y gallai’r person yn rhesymol fod wedi ei wneud ar unrhyw dir i osgoi creu neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad.

(3)Yn is-adran (2), ystyr “tomen nas defnyddir” yw’r domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad o dan adran 35 mewn cysylltiad â hi.

(4)Rhaid i’r Awdurdod roi’r copïau sy’n ofynnol gan yr adran hon o fewn 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

38Hawl perchennog a phartïon â buddiant i apelio yn erbyn hysbysiadLL+C

(1)Caiff perchennog ar dir y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35, neu berson y rhoddir copi o’r hysbysiad iddo o dan adran 37, wneud cais i Weinidogion Cymru i amrywio neu ganslo’r hysbysiad.

(2)Rhaid gwneud cais o dan yr adran hon o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog.

(3)Caniateir gwneud cais o dan yr adran hon ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)nad oes sail resymol dros gredu bod y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad yn angenrheidiol er mwyn osgoi neu leihau’r bygythiad i les pobl a bennir yn yr hysbysiad;

(b)bod y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad yn fwy helaeth nag sy’n angenrheidiol er mwyn osgoi neu leihau’r bygythiad i les pobl a bennir yn yr hysbysiad;

(c)bod—

(i)y bygythiad i les dynol a bennir yn yr hysbysiad yn fygythiad y gellid ei osgoi, neu ei leihau i’r un graddau o leiaf, drwy gynnal gweithrediadau gwahanol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad, a

(ii)y perchennog yn fodlon cynnal y gweithrediadau amgen;

(d)bod—

(i)y perchennog neu berson arall eisoes wedi dechrau, neu wedi ymrwymo i gontract gyda thrydydd parti i ddechrau, gweithrediadau sy’n wahanol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad, a

(ii)y gweithrediadau amgen yn osgoi, neu’n lleihau i’r un graddau o leiaf, y bygythiad i les pobl a bennir yn yr hysbysiad;

(e)nad yw’r cyfnod y mae rhaid cynnal y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad ynddo yn rhesymol ddigonol;

(f)bod diffyg neu wall perthnasol yn yr hysbysiad, neu mewn perthynas ag ef.

(4)Caiff perchennog ar dir y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35 hefyd wneud cais o dan yr adran hon ar y sail nad yw’r perchennog yn gallu talu costau’r gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad.

(5)Ar ôl cael cais o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu—

(a)yr Awdurdod, a

(b)pob person y rhoddwyd yr hysbysiad neu gopi o’r hysbysiad iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

39Penderfynu apelauLL+C

(1)Mae cais o dan adran 38 i’w benderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (“person penodedig”).

(2)Os yw’r person penodedig wedi ei fodloni, ar gais o dan adran 38, fod y sail (neu unrhyw un neu ragor o’r seiliau) y gwneir y cais arno wedi ei phrofi neu eu profi, caiff y person penodedig amrywio neu ganslo’r hysbysiad drwy gyfarwyddyd.

(3)Pan fo person penodedig yn amrywio hysbysiad o dan is-adran (2), mae’r hysbysiad ac unrhyw gopi ohono a roddir o dan adran 37 i’w drin fel pe bai bob amser wedi cael effaith fel y’i hamrywiwyd.

(4)Pan wneir cais o dan adran 38 ac nad yw’n cael ei dynnu’n ôl, nid yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad fel y cyfnod y mae rhaid cwblhau’r gweithrediadau ynddo yn dod i ben cyn penderfynu’r cais.

(5)Pan wneir cais o dan adran 38, caiff y person penodedig estyn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad fel y cyfnod y mae rhaid cwblhau’r gweithrediadau ynddo, ni waeth pa un a yw’r sail (neu unrhyw un neu ragor o’r seiliau) y gwneir y cais arno wedi ei phrofi neu eu profi.

(6)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i berson penodedig benderfynu cais o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r personau a ganlyn am y canlyniad—

(a)yr Awdurdod, a

(b)pob person y rhoddwyd yr hysbysiad neu gopi o’r hysbysiad iddo.

(7)Pan fo person penodedig yn amrywio hysbysiad, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd roi copi o’r hysbysiad fel y’i hamrywiwyd i’r personau a grybwyllir yn is-adran (6)(a) a (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

40Darpariaeth atodol ynghylch apelauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y weithdrefn i’w dilyn wrth benderfynu ceisiadau o dan adran 38.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth arall mewn cysylltiad â phenderfynu ceisiadau o dan adran 38.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, ymysg pethau eraill, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch presenoldeb a holi partïon neu dystion (gan gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi person penodedig i weinyddu llwon neu i gymryd cadarnhadau);

(b)ynghylch dangos dogfennau ac arolygu dogfennau;

(c)ar gyfer pwerau i fynd ar dir.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon roi disgresiwn i berson.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon greu troseddau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir gan y rheoliadau neu odanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

41Cosb am fethu â chydymffurfio â hysbysiadLL+C

(1)Mae perchennog ar dir y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35 yn cyflawni trosedd os yw’r perchennog, heb esgus rhesymol, yn methu â chynnal y gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad neu, os caiff y cyfnod hwnnw ei estyn o dan adran 39, o fewn y cyfnod estynedig.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(3)Nid yw torri is-adran (1) gan y Goron yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd (ond gweler adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ynghylch atebolrwydd personau sy’n gwasanaethu’r Goron).

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

42Pŵer i ganslo hysbysiadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r Awdurdod wedi rhoi hysbysiad i berchennog ar dir o dan adran 35 (“yr hysbysiad adran 35”), a

(b)pan na fo’r gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad wedi eu cwblhau.

(2)Caiff yr Awdurdod roi hysbysiad i’r perchennog (“hysbysiad canslo”) yn canslo’r hysbysiad adran 35.

(3)Pan roddir hysbysiad canslo i berchennog ar dir, nid yw’n ofynnol mwyach i’r perchennog gynnal y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad adran 35.

(4)Caiff yr Awdurdod roi hysbysiad canslo hyd yn oed—

(a)os yw cais o dan adran 38 wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r hysbysiad adran 35,

(b)os yw’r gweithrediadau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad adran 35 wedi dechrau cael eu cynnal, neu

(c)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad adran 35 ar gyfer cwblhau’r gweithrediadau wedi dod i ben.

(5)Pan fo’r Awdurdod yn rhoi hysbysiad canslo o dan yr adran hon, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i bob person a gafodd gopi o’r hysbysiad adran 35.

(6)Nid yw hysbysiad canslo yn effeithio ar—

(a)unrhyw gosb a gafwyd eisoes gan y perchennog o dan adran 41, neu

(b)pŵer yr Awdurdod i roi hysbysiad pellach o dan adran 35 mewn perthynas â’r tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

43Ad-dalu treuliau’r perchennog ar ôl canslo hysbysiadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r Awdurdod wedi canslo hysbysiad a roddwyd o dan adran 35, a

(b)pan fo perchennog ar dir y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi mynd i wariant wrth gydymffurfio ag ef.

(2)Caiff y perchennog wneud cais i Weinidogion Cymru i gael ad-daliad gan yr Awdurdod ar gyfer—

(a)unrhyw wariant yr aed iddo gan y perchennog o ganlyniad i roi’r hysbysiad, a

(b)unrhyw wariant yr aed iddo gan y perchennog y gellir ei briodoli i ganslo’r hysbysiad (pa un a ellir ei briodoli i adfer unrhyw dir, canslo unrhyw gontract neu fel arall).

(3)Mae cais o dan yr adran hon i’w benderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (“person penodedig”).

(4)Caiff y person penodedig gyfarwyddo’r Awdurdod i ad-dalu i’r perchennog y cyfan neu unrhyw ran o’r gwariant y cyfeirir ato yn is-adran (2).

(5)Wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), neu i ba raddau y dylai fod yn ofynnol i’r Awdurdod ad-dalu’r perchennog, rhaid i’r person penodedig roi sylw i holl amgylchiadau’r achos ac, yn benodol, i—

(a)y seiliau y rhoddodd yr awdurdod yr hysbysiad canslo arnynt o dan adran 42, a

(b)pa un a yw’r Awdurdod wedi rhoi neu’n bwriadu rhoi hysbysiad pellach i’r perchennog o dan adran 35 neu’n bwriadu cynnal gweithrediadau ei hun o dan adran 44.

(6)Rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth benderfynu ceisiadau o dan yr adran hon.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth arall mewn cysylltiad â phenderfynu ceisiadau o dan yr adran hon.

(9)Mae is-adrannau (3) i (5) o adran 40 yn gymwys mewn perthynas â rheoliadau o dan yr adran hon fel pe bai’r cyfeiriadau yn yr is-adrannau hynny at adran 40 yn gyfeiriadau at yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

PENNOD 2LL+CGWEITHREDIADAU A GYNHELIR GAN YR AWDURDOD

44Pŵer yr Awdurdod i gynnal gweithrediadauLL+C

(1)Caiff yr Awdurdod gynnal gweithrediadau ar unrhyw dir os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn cyflawni’r amcan a ganlyn, ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 46.

(2)Yr amcan yw—

(a)atal bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir neu ymdrin â’r bygythiadau hynny, neu

(b)sefydlogi tomen nas defnyddir neu atal tomen nas defnyddir rhag mynd yn fwy ansefydlog,

er mwyn osgoi neu leihau bygythiadau i les pobl.

(3)Pan fo’r Awdurdod yn cynnal gweithrediadau o dan is-adran (1), caiff hefyd gynnal unrhyw waith adfer canlyniadol y mae’n ystyried ei fod yn rhesymol angenrheidiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

45Hawl yr Awdurdod i symud ymaith eiddo a’i wareduLL+C

(1)Caiff yr Awdurdod, at ddiben cynnal gweithrediadau neu waith adfer canlyniadol ar dir o dan adran 44, symud ymaith a gwaredu unrhyw eiddo y mae person arall yn berchen arno sydd wedi ei leoli ar y tir.

(2)Os yw’r Awdurdod yn gwaredu eiddo o dan is-adran (1) drwy ei werthu, rhaid i’r Awdurdod roi cyfrif i berchennog yr eiddo am yr enillion gwerthu.

(3)Nid yw is-adran (2) yn atal yr Awdurdod rhag—

(a)didynnu o’r enillion gwerthu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol gan yr Awdurdod wrth werthu’r eiddo;

(b)gosod yr enillion gwerthu, neu unrhyw ran o’r enillion hynny, yn erbyn unrhyw swm y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w adennill oddi wrth berchennog yr eiddo o dan Bennod 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

46Dyletswydd i roi hysbysiad i berchnogionLL+C

(1)Ni chaiff yr Awdurdod gynnal gweithrediadau ar dir o dan adran 44 oni bai ei fod wedi rhoi o leiaf 21 o ddiwrnodau clir o hysbysiad i berchennog y tir o’i fwriad i wneud hynny, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (3).

(2)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) bennu—

(a)y domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad mewn cysylltiad â hi,

(b)natur a maint y gweithrediadau arfaethedig ac unrhyw waith adfer canlyniadol arfaethedig, ac

(c)y bygythiad i les pobl y bwriedir i’r gweithrediadau ei osgoi neu ei leihau.

(3)Os yw’r Awdurdod yn ystyried bod angen cynnal gweithrediadau ar unwaith, caiff gynnal y gweithrediadau hynny—

(a)heb roi hysbysiad o dan is-adran (1), neu

(b)pan fo wedi rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno.

(4)Pan fo’r Awdurdod yn dechrau gweithrediadau ar dir heb roi hysbysiad, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad i berchennog y tir bod y gweithrediadau wedi dechrau.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (4) bennu—

(a)y domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad mewn cysylltiad â hi,

(b)natur a maint y gweithrediadau ac unrhyw waith adfer canlyniadol, ac

(c)y bygythiad i les pobl y bwriedir i’r gweithrediadau ei osgoi neu ei leihau.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

47Dyletswydd i roi copïau o hysbysiad i bartïon â buddiantLL+C

(1)Pan fo’r Awdurdod yn rhoi hysbysiad o dan adran 46 i berchennog ar dir, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr hysbysiad.

(2)At ddibenion yr adran hon, mae’r personau a ganlyn (yn ychwanegol at y perchennog) yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn hysbysiad—

(a)person sy’n meddiannu tir y mae’r gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad i’w cynnal arno;

(b)person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai;

(c)person—

(i)a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno, neu

(ii)y bu ganddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir hwnnw ar unrhyw adeg yn y 12 mlynedd cyn y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog;

(d)person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, fuddiant yn (gan gynnwys hawl i gaffael) yr holl ddeunydd neu unrhyw ddeunydd sydd yn y domen nas defnyddir;

(e)person sydd, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel;

(f)person y mae’r Awdurdod yn credu ei fod ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi peri neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad drwy—

(i)cynnal gweithrediadau eraill neu gyflawni unrhyw weithgaredd arall ar unrhyw dir, neu

(ii)methu â gwneud rhywbeth y gallai’r person yn rhesymol fod wedi ei wneud ar unrhyw dir i osgoi creu neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Yn is-adran (2), ystyr “tomen nas defnyddir” yw’r domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad o dan adran 46 mewn cysylltiad â hi.

(4)Rhaid i’r Awdurdod roi’r copïau sy’n ofynnol gan yr adran hon ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog neu cyn gynted ag y bo’n‍ ymarferol ar ôl y diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

PENNOD 3LL+CTALIADAU MEWN CYSYLLTIAD Â GWEITHREDIADAU

48Gorchmynion cyfrannuLL+C

(1)Caiff y llys, ar gais a wneir o dan yr adran hon, orchymyn bod rhaid i un neu ragor o’r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) gyfrannu tuag at y treuliau y byddai’n rhaid i berchennog ar dir eu hysgwyddo fel arall o ganlyniad i gynnal gweithrediadau a bennir mewn hysbysiad o dan adran 35 neu 46.

(2)Y personau yw—

(a)person yr oedd ganddo, heblaw fel morgeisai, ystad neu fuddiant yn y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno—

(i)ar y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad i’r perchennog, neu

(ii)ar unrhyw adeg yn y 12 mlynedd sy’n dod i ben yn union cyn y diwrnod hwnnw;

(b)person sydd, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (a), wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel;

(c)person sydd, ym marn y llys, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (a), wedi peri neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad drwy—

(i)cynnal gweithrediadau eraill neu gyflawni unrhyw weithgaredd arall ar unrhyw dir, neu

(ii)methu â gwneud rhywbeth y gallai’r person yn rhesymol fod wedi ei wneud ar unrhyw dir i osgoi creu neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “tomen nas defnyddir” yw’r domen nas defnyddir y rhoddwyd yr hysbysiad mewn cysylltiad â hi.

(4)Caiff cais o dan yr adran hon gael ei wneud gan—

(a)y perchennog ar dir y rhoddwyd yr hysbysiad iddo, a

(b)yn achos hysbysiad o dan adran 46, yr Awdurdod.

(5)Rhaid i berson sy’n gwneud cais o dan yr adran hon, ar yr un pryd, roi copi o’r cais i bob person y ceisir gorchymyn mewn perthynas ag ef.

(6)Rhaid i gais o dan yr adran hon gael ei wneud—

(a)pan fo’n ymwneud â hysbysiad o dan adran 35 ac nad oes cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw o dan adran 38 (hawl i apelio yn erbyn hysbysiad), o fewn 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;

(b)pan fo’n ymwneud â hysbysiad o dan adran 35 ac y gwneir cais mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw o dan adran 38, o fewn 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y cais ei dynnu yn ôl neu ei benderfynu;

(c)pan fo’n ymwneud â hysbysiad o dan adran 46, o fewn 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(7)Wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn o dan yr adran hon, ac wrth bennu swm unrhyw gyfraniad, rhaid i’r llys roi sylw i’r holl amgylchiadau, ac yn benodol—

(a)i’r graddau y mae’n ymddangos i’r llys fod y person, drwy unrhyw weithred neu anweithred, wedi peri neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad;

(b)i’r graddau y mae’r person wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel;

(c)i natur a maint unrhyw ystad neu fuddiant a oedd gan y person, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, yn y tir yr oedd y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad i’w cynnal arno;

(d)pan fu gan berson ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw ond yr oedd wedi ei waredu cyn y dyddiad hwnnw, i ba un, a wnaeth y person hwnnw, yn marn y llys, y gwarediad hwnnw at y diben o osgoi unrhyw atebolrwydd (pa un ai o dan y Ddeddf hon neu fel arall) mewn cysylltiad â’r tir;

(e)i delerau unrhyw gyfamod, cytundeb neu ddarpariaeth statudol sy’n effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau’r person a’r perchennog mewn perthynas â’r tir hwnnw.

(8)Rhaid i orchymyn o dan yr adran hon bennu swm y cyfraniad sydd i’w wneud gan y person y mae’n ymwneud ag ef fel canran (a all fod yn 100 y cant) o’r cyfanswm y gellir hawlio cyfraniad mewn cysylltiad ag ef o dan y Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

49Ystyr “gorchymyn cyfrannu”, “cyfrannydd” ac “y ganran benodedig”LL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “gorchymyn cyfrannu” (“contribution order”) yw gorchymyn o dan adran 48;

  • ystyr “cyfrannydd” (“contributory”) yw’r person y mae gorchymyn cyfrannu yn ymwneud ag ef;

  • ystyr “y ganran benodedig” (“the specified percentage”) , mewn perthynas â chyfrannydd, yw’r ganran a bennir, yn unol ag adran 48(8), yn y gorchymyn cyfrannu sy’n ymwneud â’r cyfrannydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

50Digollediad am ddifrod, colled neu aflonyddu etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo, o ganlyniad i weithrediadau a gynhelir gan berchennog ar dir mewn cydymffurfedd â hysbysiad o dan adran 35, neu unrhyw waith adfer canlyniadol—

(i)unrhyw dir yn cael ei ddifrodi,

(ii)unrhyw eiddo arall yn cael ei ddifrodi, ei symud ymaith neu ei waredu, neu

(iii)aflonyddu ar fwynhad unrhyw berson o unrhyw dir;

(b)pan fo, o ganlyniad i weithrediadau, neu unrhyw waith adfer canlyniadol, a gynhelir gan yr Awdurdod o dan adran 44—

(i)unrhyw dir yn cael ei ddifrodi,

(ii)unrhyw eiddo arall yn cael ei ddifrodi, ei symud ymaith neu ei waredu, neu

(iii)aflonyddu ar fwynhad unrhyw berson o unrhyw dir;

(c)pan fo, o ganlyniad i ymchwiliadau a gynhelir o dan adran 55 i benderfynu a oes angen i weithrediadau fod yn ofynnol o dan adran 35 neu a oes angen eu cynnal o dan adran 44—

(i)unrhyw dir yn cael ei ddifrodi,

(ii)unrhyw eiddo arall yn cael ei ddifrodi, neu

(iii)aflonyddu ar fwynhad unrhyw berson o unrhyw dir.

(2)Mae gan y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (3) hawlogaeth i ddigollediad mewn perthynas â’r difrod, y golled neu’r aflonyddu neu, yn achos symud ymaith eiddo, mewn perthynas ag unrhyw golled ariannol y gellir ei phriodoli’n uniongyrchol i’r symud ymaith.

(3)Y personau yw—

(a)yn achos difrod i dir, unrhyw berson a chanddo ystad neu fuddiant yn y tir;

(b)yn achos difrod i eiddo arall, neu symud ymaith neu waredu’r eiddo hwnnw, perchennog yr eiddo;

(c)mewn achos o aflonyddu ar fwynhad person o dir, y person yr aflonyddir ar ei fwynhad o’r tir.

(4)Mae digollediad mewn perthynas â difrod, symud ymaith, colled neu aflonyddu sy’n deillio o gynnal gweithrediadau neu waith adfer canlyniadol yn adenilladwy oddi wrth—

(a)perchennog y tir, os cynhaliwyd y gweithrediadau neu’r gwaith gan y perchennog;

(b)yr Awdurdod, os cynhaliwyd y gweithrediadau neu’r gwaith gan yr Awdurdod.

(5)Mae digollediad mewn perthynas â difrod neu aflonyddu sy’n deillio o gynnal ymchwiliadau yn adenilladwy oddi wrth yr Awdurdod.

(6)Nid oes dim yn yr adran hon yn rhoi hawlogaeth i berchennog ar dir i gael digollediad mewn perthynas â difrod, symud ymaith, colled neu aflonyddu sy’n deillio o weithrediadau a gynhelir gan y perchennog neu gan unrhyw berson arall a oedd yn berchennog ar y tir ar yr adeg y cynhaliwyd y gweithrediadau.

(7)Mae unrhyw anghydfod sy’n codi ynghylch hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon i’w benderfynu gan y llys.

(8)Mae Atodlen 2 yn cael effaith mewn perthynas â hawliadau penodol am ddigollediad o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

51Hawl perchennog i adennill treuliau oddi wrth gyfrannyddLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)perchennog ar dir wedi cynnal gweithrediadau mewn cydymffurfedd â hysbysiad o dan adran 35, a

(b)gorchymyn cyfrannu wedi ei wneud mewn perthynas â’r gweithrediadau hynny.

(2)Mae gan berchennog y tir hawlogaeth i adennill oddi wrth y cyfrannydd y ganran benodedig o’r cyfanswm a bennir yn unol ag is-adran (3) (ond gweler is-adran (7)).

(3)At ddibenion yr adran hon, y cyfanswm yw swm cyfanredol—

(a)y treuliau yr eir iddynt yn rhesymol gan berchennog y tir wrth gynnal y gweithrediadau ac unrhyw waith adfer sy’n rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i gynnal y gweithrediadau hynny,

(b)swm unrhyw ddigollediad sy’n adenilladwy (neu a adenillwyd) oddi wrth berchennog y tir o dan adran 50, ac

(c)swm unrhyw ddigollediad o dan adran 50 y gallai perchennog y tir fod wedi gwneud hawliad o dan yr adran honno mewn cysylltiad ag ef pe bai’r gweithrediadau ac unrhyw waith adfer canlyniadol wedi cael eu cynnal gan yr Awdurdod.

(4)Nid yw unrhyw gyfraniad yn adenilladwy o dan yr adran hon oni bai bod y perchennog yn rhoi archiad i’r cyfrannydd am y cyfraniad.

(5)Rhaid i archiad o dan is-adran (4) bennu—

(a)swm y cyfraniad;

(b)y cyfanswm yr hawlir y cyfraniad mewn perthynas ag ef;

(c)y symiau ar wahân sy’n ffurfio’r cyfanswm, a nodwyd drwy gyfeirio at baragraffau (a), (b) ac (c) o is-adran (3).

(6)Mae archiad o dan is-adran (4) yn derfynol ac yn bendant, oni bai bod cais i amrywio’r archiad yn cael ei wneud o dan adran 52.

(7)Pan fo perchennog y tir wedi cynnal gweithrediadau a bennir mewn hysbysiad o dan adran 35 a bod yr hysbysiad hwnnw yn cael ei ganslo gan yr Awdurdod o dan adran 42, mae’r adran hon ac adran 52 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

52Hawl cyfrannydd i apelio yn erbyn archiad perchennogLL+C

(1)Caiff cyfrannydd y rhoddir archiad iddo o dan adran 51(4) wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n amrywio’r archiad.

(2)Rhaid gwneud cais o dan yr adran hon o fewn 6 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr archiad i’r cyfrannydd.

(3)Caniateir gwneud cais o dan yr adran hon ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)bod swm y treuliau yr aed iddynt gan berchennog y tir wrth gynnal y gweithrediadau yn fwy nag a oedd yn rhesymol;

(b)bod swm y treuliau yr aed iddynt gan berchennog y tir wrth gynnal gwaith adfer yn fwy nag a oedd yn rhesymol angenrheidiol i adfer y tir o ganlyniad i’r gweithrediadau;

(c)bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag y byddai wedi bod fel arall, oherwydd bod y perchennog ar y tir wedi cymryd amser afresymol o hir i gynnal y gweithrediadau neu’r gwaith adfer canlyniadol;

(d)bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag sy’n angenrheidiol i ddigolledu’r person o dan yr adran honno;

(e)bod y swm a bennir yn yr archiad fel y swm y cyfeirir ato yn adran 51(3)(c) yn fwy na’r digollediad y gallai perchennog y tir fod wedi ei hawlio o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw;

(f)bod y swm a hawlir yn yr archiad yn fwy na’r ganran benodedig o’r cyfanswm a bennir o dan adran 51(3).

(4)Os yw’r llys wedi ei fodloni bod y sail (neu unrhyw un neu ragor o’r seiliau) ar gyfer y cais yn wedi ei phrofi neu eu profi, caiff y llys wneud gorchymyn sy’n lleihau’r swm y gellir ei adennill gan berchennog y tir oddi wrth y cyfrannydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

53Hawl yr Awdurdod i adennill treuliau penodolLL+C

(1)Pan fo’r Awdurdod wedi cynnal gweithrediadau ar dir o dan adran 44, mae ganddo hawlogaeth i adennill oddi wrth berchennog y tir—

(a)y treuliau yr aed iddynt yn rhesymol gan yr Awdurdod wrth gynnal unrhyw ymchwiliadau o dan adran 55 a arweiniodd at gynnal y gweithrediadau,

(b)y treuliau yr aed iddynt yn rhesymol gan yr Awdurdod wrth gynnal y gweithrediadau ac unrhyw waith adfer a oedd yn rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i gynnal y gweithrediadau, ac

(c)swm unrhyw ddigollediad o dan adran 50 sy’n adenilladwy (neu a adenillwyd) oddi wrth yr Awdurdod yn unol â hawliad o dan yr adran honno.

(2)Pan fo’r Awdurdod wedi cynnal ymchwiliadau o dan adran 55 a arweiniodd at roi hysbysiad o dan adran 35 sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchennog ar dir gynnal gweithrediadau ar y tir, mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i adennill oddi wrth y perchennog ar y tir—

(a)y treuliau yr aed iddynt yn rhesymol gan yr Awdurdod wrth gynnal yr ymchwiliadau, a

(b)swm unrhyw ddigollediad o dan adran 50 sy’n adenilladwy (neu a adenillwyd) oddi wrth yr Awdurdod yn unol â hawliad o dan yr adran honno.

(3)Pan fo gorchymyn cyfrannu wedi ei wneud mewn perthynas â’r treuliau y byddai’n rhaid i berchennog y tir eu hysgwyddo fel arall o dan is-adran (1) neu (2)—

(a)mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i adennill oddi wrth y cyfrannydd y ganran benodedig o’r swm sy’n adenilladwy oddi wrth berchennog y tir o dan yr is-adran berthnasol, a

(b)mae’r swm y caiff yr Awdurdod ei adennill oddi wrth berchennog y tir o dan yr is-adran berthnasol yn cael ei ostwng gan y swm y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w adennill oddi wrth y cyfrannydd o dan baragraff (a).

(4)Nid yw unrhyw swm yn adenilladwy o dan yr adran hon oddi wrth berchennog ar dir neu gyfrannydd oni bai bod yr Awdurdod yn rhoi archiad i’r person hwnnw am y swm hwnnw.

(5)Rhaid i archiad o dan is-adran (4) bennu—

(a)y swm a hawlir gan yr Awdurdod oddi wrth y person;

(b)os rhoddir yr archiad i gyfrannydd, y cyfanswm yr hawlir y cyfraniad mewn cysylltiad ag ef;

(c)os rhoddir yr archiad i berchennog y tir, y symiau (os oes rhai) y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w hadennill oddi unrhyw gyfrannydd neu gyfranwyr;

(d)ym mhob achos, y symiau ar wahân sy’n ffurfio’r cyfanswm sy’n adenilladwy gan yr Awdurdod, a nodir drwy gyfeirio at baragraffau (a) i (c) o is-adran (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraffau (a) a (b) o is-adran (2).

(6)Mae archiad o dan is-adran (4) yn derfynol ac yn bendant, oni bai bod cais i amrywio neu ganslo’r archiad yn cael ei wneud o dan adran 54.

(7)Mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i adennill llog ar unrhyw swm sy’n adenilladwy o dan yr adran hon, ar gyfradd a bennir gan yr Awdurdod, o’r dyddiad y rhoddir yr archiad am y swm i’r person hyd nes y telir y swm yn llawn.

(8)Caniateir i unrhyw swm sy’n adenilladwy o dan yr adran hon, os yw’r Awdurdod yn cytuno, gael ei dalu mewn rhandaliadau y cytunwyd arnynt gan yr Awdurdod.

(9)At ddibenion yr adran hon—

(a)perchennog y tir—

(i)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1), yw’r person a oedd yn berchennog pan ddechreuodd yr Awdurdod gynnal y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn yr is-adran honno;

(ii)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2), yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad y cyfeirir ato yn yr is-adran honno iddo;

(b)mae ymchwiliadau i’w trin fel pe baent wedi arwain at gynnal gweithrediadau o dan adran 44 os dechreuodd yr Awdurdod gynnal y gweithrediadau o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl cwblhau’r ymchwiliadau;

(c)mae ymchwiliadau i’w trin fel pe baent wedi arwain at roi hysbysiad o dan adran 35 i berchennog ar dir os rhoddodd yr Awdurdod hysbysiad o dan yr adran honno i berchennog y tir o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl cwblhau’r ymchwiliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

54Yr hawl i apelio yn erbyn archiad yr AwdurdodLL+C

(1)Caiff person y rhoddir archiad iddo o dan adran 53(4) wneud cais i’r llys am orchymyn yn amrywio neu ganslo’r archiad.

(2)Rhaid gwneud cais o dan yr adran hon o fewn 6 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr archiad i’r person.

(3)Pan fo’r archiad yn cael ei wneud mewn achos sy’n dod o fewn adran 53(1), y seiliau y caniateir gwneud cais arnynt yw—

(a)bod swm y treuliau yr aed iddynt gan yr Awdurdod wrth gynnal yr ymchwiliadau neu’r gweithrediadau yn fwy nag a oedd yn rhesymol;

(b)bod swm y treuliau yr aed iddynt gan yr Awdurdod wrth gynnal gwaith adfer yn fwy nag a oedd yn rhesymol angenrheidiol i adfer y tir o ganlyniad i’r gweithrediadau;

(c)nad oedd unrhyw sail resymol dros gredu, ar yr adeg y dechreuwyd y gweithrediadau, bod y gweithrediadau’n angenrheidiol er mwyn osgoi neu leihau’r bygythiad i les pobl a bennir yn yr hysbysiad a roddwyd i berchennog y tir o dan adran 46 ynghylch y gweithrediadau;

(d)bod y gweithrediadau a gynhaliwyd gan yr Awdurdod yn fwy helaeth nag oedd yn angenrheidiol er mwyn osgoi neu leihau’r bygythiad i les pobl a bennir yn yr hysbysiad a roddwyd i berchennog y tir o dan adran 46 ynghylch y gweithrediadau;

(e)bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag y byddai wedi bod fel arall, oherwydd bod yr amser a gymerodd yr Awdurdod i gynnal yr ymchwiliadau neu’r gweithrediadau neu unrhyw waith adfer canlyniadol yn afresymol o hir;

(f)bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag sy’n angenrheidiol i ddigolledu’r person o dan yr adran honno;

(g)yn achos archiad a roddir i gyfrannydd, bod y swm a hawlir yn yr archiad yn fwy na’r ganran benodedig o’r cyfanswm sy’n adenilladwy gan yr Awdurdod o dan adran 53(1);

(h)yn achos archiad a roddir i berchennog y tir y cynhaliwyd y gweithrediadau arno, nad yw’r swm a hawlir yn yr archiad yn rhoi ystyriaeth briodol i swm y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w adennill oddi wrth gyfrannydd.

(4)Pan fo’r archiad yn cael ei wneud mewn achos sy’n dod o fewn adran 53(2), y seiliau y caniateir gwneud cais arnynt yw—

(a)bod swm y treuliau yr aed iddynt gan yr Awdurdod wrth gynnal yr ymchwiliadau yn fwy nag a oedd yn rhesymol;

(b)bod y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag y byddai wedi bod fel arall, oherwydd bod yr amser a gymerodd yr Awdurdod i gynnal yr ymchwiliadau yn afresymol o hir;

(c)bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag sy’n angenrheidiol i ddigolledu’r person o dan yr adran honno;

(d)yn achos archiad a roddir i gyfrannydd, bod y swm a hawlir yn yr archiad yn fwy na’r ganran benodedig o’r cyfanswm sy’n adenilladwy gan yr Awdurdod o dan adran 53(2);

(e)yn achos archiad a roddir i berchennog y tir y cynhaliwyd y gweithrediadau arno, nad yw’r swm a hawlir yn yr archiad yn rhoi ystyriaeth briodol i swm y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w adennill oddi wrth gyfrannydd.

(5)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni bod sail (neu unrhyw un neu ragor o seiliau) y cais yn gymwys, caiff y llys wneud gorchymyn—

(a)yn canslo’r archiad y gwnaed y cais mewn cysylltiad ag ef, neu

(b)yn gostwng y swm sy’n adenilladwy oddi wrth y person y rhoddwyd yr archiad iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

PENNOD 4LL+CDARPARIAETH ATODOL

55Pŵer i gynnal ymchwiliadauLL+C

Caiff yr Awdurdod gynnal ymchwiliadau ar dir i benderfynu—

(a)pa un a oes angen gwneud gweithrediadau yn ofynnol o dan adran 35 neu ba un a oes angen eu cynnal o dan adran 44, neu

(b)pa un a yw gweithrediadau yn cael eu cynnal mewn cydymffurfedd â hysbysiad a roddir o dan adran 35.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

56Cosb am rwystro gweithrediadau etc.LL+C

(1)Mae person sy’n rhwystro neu’n ymyrryd yn fwriadol ag—

(a)ymchwiliad i—

(i)pa un a oes angen gwneud gweithrediadau yn ofynnol o dan adran 35 neu ba un a oes angen eu cynnal o dan adran 44, neu

(ii)pa un a yw gweithrediadau yn cael eu cynnal mewn cydymffurfedd â hysbysiad a roddir o dan adran 35,

(b)cynnal gweithrediadau sy’n ofynnol drwy hysbysiad o dan adran 35, neu

(c)cynnal gweithrediadau o dan adran 44,

yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person sy’n difrodi’n fwriadol neu’n ymyrryd fel arall ag unrhyw waith a gwblhawyd yn ystod gweithrediadau sy’n ofynnol drwy hysbysiad o dan adran 35 neu a gynhaliwyd o dan adran 44 yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Nid yw torri is-adran (1) neu (2) gan y Goron yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd (ond gweler adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ynghylch atebolrwydd personau sy’n gwasanaethu’r Goron).

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

Rhagolygol

RHAN 4LL+CDARPARIAETH ATODOL

Cynlluniau rheoli ar gyfer tomenni cofrestredigLL+C

57Cynlluniau rheoliLL+C

(1)Rhaid i’r Awdurdod lunio a chadw cynllun rheoli ar gyfer pob tomen nas defnyddir yn y gofrestr sy’n domen categori 1 neu’n domen categori 2.

(2)Rhaid i’r cynllun rheoli ar gyfer tomen nas defnyddir y mae is-adran (1) yn gymwys iddi gael ei lunio cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r domen gael ei chofnodi gyntaf yn y gofrestr fel tomen categori 1 neu domen categori 2.

(3)Caiff yr Awdurdod ar unrhyw adeg lunio a chadw cynllun rheoli ar gyfer tomen nas defnyddir yn y gofrestr sy’n domen categori 3 neu’n domen categori 4.

(4)Rhaid i gynllun rheoli nodi—

(a)sut y mae’r Awdurdod yn bwriadu arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r domen (gan gynnwys manylion unrhyw wybodaeth neu gyngor y mae’n bwriadu ei rhoi neu ei roi i berchnogion tir neu feddianwyr ar dir o dan adran 3);

(b)gwybodaeth y mae’r Awdurdod yn ystyried y gallai fod yn berthnasol mewn argyfwng sy’n ymwneud â’r domen;

(c)gwybodaeth am rolau a chyfrifoldebau’r Awdurdod ac awdurdodau cyhoeddus eraill mewn argyfwng o’r fath;

(d)sut y mae’r Awdurdod yn bwriadu cydweithredu â’r awdurdodau cyhoeddus hynny mewn argyfwng o’r fath.

(5)Caiff cynllun rheoli gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

Rhannu gwybodaethLL+C

58Ystyr “awdurdod cyhoeddus perthnasol”LL+C

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “awdurdod cyhoeddus perthnasol” yw—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)Cyfoeth Naturiol Cymru;

(c)cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

(d)Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(e)yr Awdurdod Glo;

(f)Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer ardal yng Nghymru.

(2)Yn is-adran (1)(f), ystyr “Awdurdod Tân ac Achub” yw awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i newid y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus perthnasol”.

(4)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) gynnwys person o fewn cwmpas y diffiniad oni bai bod y person yn awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)).

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

59Pŵer yr Awdurdod i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus perthnasol roi gwybodaethLL+C

(1)Rhaid i awdurdod cyhoeddus perthnasol roi unrhyw wybodaeth i’r Awdurdod y mae’r Awdurdod yn gofyn amdani at ddiben arfer swyddogaethau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon.

(2)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(3)Os yw awdurdod cyhoeddus perthnasol yn penderfynu peidio â chydymffurfio a chais o dan is-adran (1), rhaid iddo roi ei resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r Awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

60Dyletswyddau’r Awdurdod ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol i rannu gwybodaethLL+C

(1)Os yw awdurdod cyhoeddus perthnasol, wrth arfer ei swyddogaethau—

(a)yn dod yn ymwybodol o fygythiad i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, neu dystiolaeth o ansefydlogrwydd tomen nas defnyddir, a

(b)yn ystyried y dylid rhannu’r wybodaeth â’r Awdurdod er mwyn osgoi neu leihau bygythiad i les pobl,

rhaid i’r awdurdod cyhoeddus roi’r wybodaeth i’r Awdurdod cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(2)Os daw’r Awdurdod, wrth arfer ei swyddogaethau, yn ymwybodol o rywbeth y mae’n ystyried y dylid ei ddwyn i sylw awdurdod cyhoeddus perthnasol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod cyhoeddus, rhaid iddo roi’r wybodaeth i’r awdurdod cyhoeddus cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(3)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

61Gwybodaeth am ystadau neu fuddiannau mewn tirLL+C

(1)Caiff yr Awdurdod roi hysbysiad i feddiannydd tir, neu i berson sy’n cael rhent (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) mewn cysylltiad â thir, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gadarnhau yn ysgrifenedig—

(a)natur ystâd neu fuddiant y person yn y tir, a

(b)os yw’r person hwnnw’n gwybod am berson arall a chanddo ystad neu fuddiant yn y tir, enw a manylion cyswllt y person arall (os ydynt yn hysbys).

(2)Yn is-adran (1)(b), ystyr “manylion cyswllt”, mewn perthynas a pherson, yw cyfeiriad y person ac unrhyw wybodaeth arall ynghylch sut y gellir cysylltu â’r person.

(3)Ni chaiff yr Awdurdod roi hysbysiad o dan yr adran hon oni bai bod arno angen yr wybodaeth sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i’w alluogi neu i’w gynorthwyo i arfer swyddogaeth a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon.

(4)Caiff hysbysiad o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol rhoi’r wybodaeth o fewn—

(a)20 o ddiwrnodau gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod gwaith cyntaf drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir yn yr hysbysiad neu a gytunir gan yr Awdurdod.

(5)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(6)Ni chaiff yr Awdurdod roi hysbysiad o dan yr adran hon i awdurdod cyhoeddus perthnasol.

(7)Ni chaiff yr Awdurdod roi hysbysiad o dan yr adran hon i awdurdod priodol y Goron mewn cysylltiad ag ystâd neu fuddiant yn nhir y Goron nad yw’n fuddiant preifat.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

62Gwybodaeth am ystadau neu fuddiannau yn nhir y GoronLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ystâd neu fuddiant yn nhir y Goron nad yw’n fuddiant preifat.

(2)Caiff yr Awdurdod, at y diben o’i alluogi neu ei gynorthwyo i arfer swyddogaeth a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon, wneud cais i awdurdod priodol y Goron i gadarnhau yn ysgrifenedig—

(a)natur yr ystâd neu fuddiant, a

(b)os yw’r awdurdod yn gwybod am berson arall a chanddo ystad neu fuddiant yn y tir, enw a manylion cyswllt y person arall (os ydynt yn hysbys).

(3)Yn is-adran (2)(b), ystyr “manylion cyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw cyfeiriad y person ac unrhyw wybodaeth arall ynghylch sut y gellir cysylltu â’r person.

(4)Rhaid i awdurdod priodol y Goron gydymffurfio a chais o dan is-adran (2) ac eithrio i’r graddau—

(a)nad yw’r wybodaeth y gofynnir amdani o fewn gwybodaeth yr awdurdod, neu

(b)y byddai gwneud hynny yn datgelu gwybodaeth am—

(i)diogelwch gwladol, neu

(ii)y mesurau a gymerwyd, neu sydd i’w cymryd, i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

63Gwybodaeth i adnabod neu asesu bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir etc.LL+C

(1)Caiff yr Awdurdod roi hysbysiad (“hysbysiad gwybodaeth”) i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi gwybodaeth i’r Awdurdod o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad, os yw’r Awdurdod—

(a)yn ystyried y bydd gwybodaeth o’r disgrifiad hwnnw yn ei alluogi neu ei gynorthwyo i adnabod neu asesu bygythiad i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, neu i asesu sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, a

(b)bod ganddo reswm i gredu bod yr wybodaeth ym meddiant y person neu o dan reolaeth y person.

(2)Caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson roi’r wybodaeth mewn ffordd ac ar ffurf a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson roi’r wybodaeth o fewn—

(a)20 o ddiwrnodau gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod gwaith cyntaf drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir yn yr hysbysiad neu a gytunir gan yr Awdurdod.

(4)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(5)Ni chaiff yr Awdurdod roi hysbysiad gwybodaeth i awdurdod cyhoeddus perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

64Cosbau mewn cysylltiad â hysbysiadau sy’n gofyn am wybodaethLL+C

(1)Mae person y mae’n ofynnol iddo roi gwybodaeth o dan adran 61 neu 63 yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu, heb esgus rhesymol, â rhoi’r wybodaeth.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3)Mae person y mae’n ofynnol iddo roi gwybodaeth o dan adran 61 neu 63 yn cyflawni trosedd os yw’r person, gan honni ei fod yn cydymffurfio â’r hysbysiad—

(a)yn rhoi gwybodaeth sy’n anwir neu yn gamarweiniol mewn modd perthnasol, a

(b)naill ai—

(i)yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(ii)yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(5)Nid yw torri is-adran (1) neu (3) gan y Goron yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd (ond gweler adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ynghylch atebolrwydd personau sy’n gwasanaethu’r Goron).

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

Pwerau mynediadLL+C

65Pŵer i fynd ar dirLL+C

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar dir at ddiben gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a ganlyn ar ran yr Awdurdod—

(a)cynnal asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn o dan Ran 2;

(b)cynnal arolygiad neu weithgaredd monitro arall mewn perthynas â thomen a gofrestrwyd o dan y Rhan honno;

(c)ymchwilio i weld pa un a oes angen i weithrediadau fod yn ofynnol neu gael eu cynnal o dan Ran 3;

(d)ymchwilio i weld pa un a yw gweithrediadau yn cael eu cynnal mewn cydymffurfedd â hysbysiad a roddir o dan adran 35 o’r Rhan honno;

(e)cynnal gweithrediadau a gwaith adfer canlyniadol o dan adran 44 o’r Rhan honno;

(f)archwilio unrhyw weithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal ar y tir lle gallai’r gweithgareddau hynny effeithio ar sefydlogrwydd tomen nas defnyddir.

(2)Caiff person awdurdodedig, at y dibenion a grybwyllir yn is-adran (1)—

(a)mynd ag unrhyw bersonau eraill, unrhyw gyfarpar ac unrhyw ddeunydd ar y tir fel y bo’n angenrheidiol;

(b)gadael cyfarpar a deunydd ar y tir.

(3)Caiff person awdurdodedig, at y dibenion a grybwyllir yn is-adran (1)—

(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau (gan gynnwys profion ac arolygon) ar y tir;

(b)cymryd mesuriadau a thynnu lluniau a gwneud recordiadau;

(c)cymryd samplau a’u symud ymaith o’r tir.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod i weithredu ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

66Mynediad i dir heb warantLL+C

(1)Ni chaiff person awdurdodedig, o dan adran 65, fynnu mynediad fel mater o hawl i unrhyw dir a feddiennir oni bai bod o leiaf 48 awr o rybudd o’r mynediad arfaethedig wedi ei roi i bob meddiannydd ar y tir.

(2)Ni chaiff person awdurdodedig, o dan adran 65, fynnu fel mater o hawl—

(a)mynd â phersonau eraill, cyfarpar neu ddeunydd ar dir a feddiennir, neu

(b)gadael cyfarpar neu ddeunydd ar y tir,

oni bai bod o leiaf 48 awr o rybudd o’r bwriad i wneud hynny (gan gynnwys manylion y personau, y cyfarpar neu’r deunydd) wedi ei roi i bob meddiannydd ar y tir.

(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys os yw’r Awdurdod yn credu—

(a)bod tomen nas defnyddir yn ansefydlog, a

(b)bod ansefydlogrwydd y domen yn peri bygythiad i les pobl sy’n golygu bod angen mynd ar y tir ar unwaith at ddiben a grybwyllir yn adran 65(1)(c) neu (e).

(4)Ni chaiff person awdurdodedig, o dan adran 65, fynnu mynediad i dir preswyl fel mater o hawl.

(5)Caiff person awdurdodedig fynnu mynediad fel mater o hawl i dir o dan adran 65—

(a)dim ond ar adeg resymol, oni bai bod yr amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni;

(b)ar unrhyw adeg, os bodlonir yr amod hwnnw.

(6)Rhaid i berson awdurdodedig—

(a)os gofynnir iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw berchennog ar y tir neu unrhyw feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno o dan adran 65;

(b)os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

(7)Yn yr adran hon—

  • nid yw “tir” (“land”) yn cynnwys tir y Goron;

  • ystyr “tir preswyl” (“residential land”) yw cymaint o unrhyw dir ag sy’n cynnwys—

    (a)

    annedd neu ran o annedd,

    (b)

    gardd, iard, garej breifat neu dŷ allan sy’n cael ei defnyddio neu ei ddefnyddio a’i mwynhau neu ei fwynhau yn gyfan gwbl neu’n bennaf gydag annedd, neu

    (c)

    yn achos adeilad sy’n cynnwys un neu ragor o anheddau, unrhyw ran o’r adeilad a ddefnyddir ac a fwynheir yn gyfan gwbl neu’n bennaf gyda’r anheddau hynny neu unrhyw un neu ragor ohonynt.

(8)Gweler adran 70 ar gyfer darpariaeth ynghylch mynd ar dir y Goron o dan adran 65.

Gwybodaeth Cychwyn

I66A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

67Gwarant i fynd ar dirLL+C

(1)Caiff ynad heddwch, ar gais a wneir gan yr Awdurdod, ddyroddi gwarant sy’n rhoi pŵer i berson awdurdodedig i fynd ar dir, drwy rym os oes angen.

(2)Ni chaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant ond os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd ar y tir at ddiben a grybwyllir yn adran 65(1), a

(b)y bodlonir un neu ragor o’r amodau yn is-adran (3).

(3)Yr amodau yw—

(a)nad yw wedi bod yn bosibl rhoi hysbysiad o dan adran 66 i bob meddiannydd ar y tir, er gwaethaf ymdrechion rhesymol i wneud hynny;

(b)bod mynediad i’r tir wedi ei wrthod neu ei rwystro neu y disgwylir yn rhesymol iddo gael ei wrthod neu ei rwystro;

(c)ei bod yn angenrheidiol i’r person awdurdodedig fynd ar dir preswyl.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b), mae mynediad i dir i’w drin fel pe bai wedi ei wrthod os na cheir ateb i gais neu archiad i fynd ar y tir o fewn cyfnod rhesymol.

(5)Os yw ynad heddwch wedi ei fodloni, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, ei bod yn angenrheidiol i’r person awdurdodedig, at ddiben a grybwyllir yn adran 65(1)—

(a)mynd ag unrhyw bersonau eraill, unrhyw gyfarpar neu unrhyw ddeunydd ar y tir, neu

(b)gadael cyfarpar neu ddeunydd ar y tir,

caiff y warant hefyd roi pŵer i’r person awdurdodedig i wneud y pethau hynny; ac os yw’r warant yn gwneud hynny, rhaid iddo gynnwys manylion y personau, y cyfarpar neu’r deunydd.

(6)Caiff gwarant a ddyroddir o dan is-adran (1) roi pŵer i’r person awdurdodedig—

(a)i gynnal arolygiadau ac archwiliadau (gan gynnwys profion ac arolygon) ar y tir;

(b)i gymryd mesuriadau a thynnu lluniau a gwneud recordiadau;

(c)i gymryd samplau a’u symud ymaith o’r tir.

(7)Mae gwarant a ddyroddir o dan yr adran hon yn parhau i fod mewn grym hyd nes y cyflawnir y diben y’i dyroddir ar ei gyfer.

(8)Yn yr adran hon—

  • nid yw “tir” (“land”)yn cynnwys tir y Goron;

  • mae i “tir preswyl” (“residential land”) yr ystyr a roddir gan adran 66(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

68Mynd ar dir gyda gwarantLL+C

(1)Ni chaiff gwarant o dan adran 67 roi pŵer i fynd ar dir ond ar adeg resymol.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r ynad heddwch sy’n dyroddi’r warant wedi ei fodloni, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod tomen nas defnyddir yn ansefydlog, a

(b)bod ansefydlogrwydd y domen yn peri bygythiad i les pobl sy’n golygu bod angen mynd ar y tir ar unwaith, drwy rym os oes angen, at ddiben a grybwyllir yn adran 65(1)(c) neu (e).

(3)Rhaid i berson a awdurdodir drwy warant o dan adran 67 i fynd ar dir—

(a)os gofynnir iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw berchennog ar y tir neu unrhyw feddiannydd ar y tir, ddangos y warant a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno;

(b)os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

69Cosb am rwystro mynd ar dirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer i fynd ar dir yn cael ei roi i berson gan adran 65(1) neu drwy warant a ddyroddir o dan adran 67(1).

(2)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol arfer y pŵer yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Nid yw torri is-adran (2) gan y Goron yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd (ond gweler adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ynghylch atebolrwydd personau sy’n gwasanaethu’r Goron).

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

70Mynd ar dir y GoronLL+C

(1)Ni chaiff person awdurdodedig fynd ar dir y Goron o dan adran 65 oni bai—

(a)bod awdurdod priodol y Goron wedi rhoi caniatâd i’r person awdurdodedig wneud hynny, neu

(b)bod yr Awdurdod yn credu—

(i)bod tomen nas defnyddir yn ansefydlog, a

(ii)bod ansefydlogrwydd y domen yn peri bygythiad i les pobl sy’n golygu bod angen mynd ar y tir ar unwaith at ddiben a grybwyllir yn adran 65(1)(c) neu (e).

(2)Yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b), caiff y person awdurdodedig—

(a)mynnu mynediad i’r tir fel mater o hawl, a

(b)mynnu fel mater o hawl—

(i)mynd â phersonau eraill, cyfarpar neu ddeunydd ar y tir, a

(ii)gadael cyfarpar neu ddeunydd ar y tir.

(3)Ond ni chaiff y person awdurdodedig fynnu mynediad fel mater o hawl i unrhyw ran o dir y Goron sy’n dir preswyl.

(4)Os yw person awdurdodedig yn mynd ar dir y Goron o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) heb ganiatâd awdurdod priodol y Goron, rhaid i’r Awdurdod hysbysu awdurdod priodol y Goron cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Rhaid i berson awdurdodedig—

(a)os gofynnir iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw berchennog ar dir y Goron neu unrhyw feddiannydd ar dir y Goron, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd ar y tir o dan adran 65;

(b)os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

(6)Yn yr adran hon, mae i “tir preswyl” yr un ystyr ag yn adran 66(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I70A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

AmrywiolLL+C

71Dyletswydd i sefydlu a chynnal gwefan neu gyfleuster electronig arallLL+C

Rhaid i’r Awdurdod sefydlu a chynnal gwefan, neu gyfleuster electronig arall (megis cymhwysiad meddalwedd), y gall y cyhoedd ei chyrchu neu ei gyrchu yn ddi-dâl.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

72CyhoeddiLL+C

Pan fo’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gyhoeddi unrhyw beth—

(a)rhaid iddo gael ei gyhoeddi ar y wefan, neu gyfleuster electronig arall, a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 71, a

(b)caniateir ei gyhoeddi hefyd mewn unrhyw fodd arall y mae’r Awdurdod yn ystyried ei fod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I72A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

73Darparu gwasanaethau gweinyddol, technegol neu broffesiynolLL+C

(1)Caiff yr Awdurdod ddarparu gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol i unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)).

(2)Caiff yr Awdurdod godi ffi am ddarparu gwasanaeth o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

74Canllawiau‍LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i’r Awdurdod mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau o dan—

(a)adran 3(4) (pŵer yr Awdurdod i godi ffioedd);

(b)adran 10 (dyletswydd yr Awdurdod i fonitro tomenni cofrestredig);

(c)Pennod 2 o Ran 2 (asesiad rhagarweiniol ac asesiad llawn o domenni gan yr Awdurdod);

(d)adran 33 (digollediad am ddifrod neu aflonyddu a achosir gan weithgareddau monitro neu asesu);

(e)Pennod 3 o Ran 3 (taliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau);

(f)adran 57 (cynlluniau rheoli).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i’r Awdurdod mewn perthynas ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon.

(3)Rhaid i’r Awdurdod roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1) neu (2) wrth arfer ei swyddogaethau.‍

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i berson a benodir i benderfynu—

(a)cais o dan adran 38 (cais i amrywio neu ganslo hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchennog gynnal gweithrediadau), neu

(b)cais o dan adran 43 (cais i ad-dalu gwariant perchennog pan fo hysbysiad i gynnal gweithrediadau yn cael ei ganslo).

(5)Rhaid i berson a benodir i benderfynu cais y cyfeirir ato yn is-adran (4), wrth arfer swyddogaethau a roddir i’r person gan y Ddeddf hon neu odani, roi sylw i ganllawiau a roddir o dan yr is-adran honno.

(6)Cyn rhoi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I74A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

75Diwygio Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969LL+C

(1)Mae Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 (p. 10) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mhennawd Rhan 2 (atal perygl i’r cyhoedd o domenni nas defnyddir), ar ôl “tips” mewnosoder “: England and Scotland”.

(3)Yn adran 11 (awdurdodau lleol sydd â swyddogaethau o dan Ran 2)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “local authorities” mewnosoder “in England and Scotland”;

(b)yn is-adran (1), ar ôl “local authorities” mewnosoder “in England and Scotland”;

(c)yn is-adran (3), hepgorer paragraff (aa).

(4)Yn adran 36 (dehongli Rhan 2)—

(a)yn is-adran (1), yn y diffiniad o “Ministers”, hepgorer “, the Secretary of State for Wales”;

(b)yn is-adran (4), hepgorer paragraff (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

RHAN 5LL+CCYFFREDINOL

TroseddauLL+C

76Troseddau gan gyrff corfforedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan brofir bod trosedd yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i esgeulustod ar ran—

(a)uwch-swyddog i’r corff, neu

(b)person a oedd yn honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff.

(2)Mae’r uwch-swyddog neu’r person (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(4)Ond yn achos corff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, ystyr “cyfarwyddwr” yw aelod o’r corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I76A. 76 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

77Dwyn achosLL+C

Ni chaniateir dwyn achos mewn cysylltiad â throsedd yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, ac eithrio gan yr Awdurdod neu’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu drwy gydsyniad y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 77 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

RheoliadauLL+C

78Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).

(3)Yn is-adran (2), mae “addasu” yn cynnwys diwygio, dirymu a diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I78A. 78 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

79Rheoliadau o dan y Ddeddf honLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys—

(a)pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)pŵer i wneud—

(i)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(ii)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni fo drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru, ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 10(5) (newid yr isafswm o arolygiadau neu gyfnod arolygiadau ar gyfer tomenni categori 1 neu domenni categori 2);

(b)adran 20(4), adran 22(4) neu adran 29(3) (newid y cyfnod byrraf a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod);

(c)adran 40 (gweithdrefn etc. ar gyfer apelau o dan Bennod 1 o Ran 3);

(d)adran 43 (gweithdrefn etc ar gyfer hawliadau am ad-dalu treuliau perchnogion o dan Bennod 1 o Ran 3);

(e)adran 58 (newid i ystyr “awdurdod cyhoeddus perthnasol” yn Rhan 4);

(f)adran 85 (cymhwyso’r Ddeddf i dir y mae’r Awdurdod yn berchen arno);

(g)adran 86 (newid i ystyr “tomen nas defnyddir”);

(h)paragraff 2(4) o Atodlen 1 (newid i nifer aelodau’r Awdurdod);

(i)paragraff 19(11) o Atodlen 1 (newid i’r cyfnod y mae cynllun corfforaethol yr Awdurdod yn ymwneud ag ef).

(5)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 78 sy’n addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(6)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur gan y Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 79 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraillLL+C

80Darpariaeth gyffredinol ynghylch rhoi hysbysiadau etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu reoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall).

(2)Caniateir rhoi’r ddogfen drwy—

(a)ei rhoi i’r person â llaw,

(b)ei gadael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)ei hanfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw, neu

(d)ei hanfon drwy e-bost i gyfeiriad e-bost y person.

(3)Rhoddir dogfen yn unol ag is-adran (2)(a)—

(a)os yw’r person yn gorff corfforedig, drwy ei rhoi â llaw i un o swyddogion y corff,

(b)os yw’r person yn bartneriaeth, drwy ei rhoi â llaw i bartner, neu

(c)os yw’r person yn gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, drwy ei rhoi â llaw i aelod o gorff llywodraethu’r gymdeithas.

(4)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)yn achos corff corfforedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff yn y Deyrnas Unedig;

(b)yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth yn y Deyrnas Unedig;

(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person (pa un ai preswylfa’r person neu fan lle y mae’r person yn cynnal busnes neu wedi ei gyflogi) neu, os yw’r person wedi darparu cyfeiriad lle caniateir rhoi dogfennau o dan y Ddeddf hon, y cyfeiriad hwnnw.

(5)At ddibenion is-adran (2)(d), cyfeiriad e-bost person yw—

(a)unrhyw gyfeiriad e-bost a gyhoeddir am y tro gan y person hwnnw fel cyfeiriad ar gyfer cysylltu â’r person hwnnw, neu

(b)os nad oes cyfeiriad a gyhoeddir o’r fath, unrhyw gyfeiriad e-bost y mae’r person wedi cytuno i gael dogfennau ynddo neu wedi cytuno i gael y ddogfen ynddo.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “swyddog” (“officer”) mewn perthynas â chorff corfforedig, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;

  • ystyr “wedi cytuno” (“agreed”) yw wedi cytuno yn ysgrifenedig.

(7)Nid yw adrannau 231 a 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) yn gymwys i ddogfennau sydd i’w rhoi i awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon.

(8)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i’r Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I80A. 80 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

81Darpariaeth ychwanegol ynghylch rhoi hysbysiadau etc. i bersonau sy’n meddiannu tir neu sydd â buddiant mewn tirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys (yn ogystal ag adran 80) pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall—

(a)i berson am fod ganddo ystad neu fuddiant mewn tir, neu

(b)i berson am ei fod yn meddiannu tir,

(pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall).

(2)Pan—

(a)bo’r ddogfen i’w rhoi i berson am fod ganddo ystad neu fuddiant mewn tir, a

(b)nad oes modd darganfod enw’r person ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol,

caniateir cyfeirio’r ddogfen at y person fel “y perchennog” ar y tir (y mae rhaid ei ddisgrifio).

(3)Pan fo’r ddogfen i’w rhoi i berson am ei fod yn feddiannydd ar dir, caniateir ei chyfeirio at y person yn ôl ei enw neu fel “y meddiannydd” y tir (y mae rhaid ei disgrifio).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a)pan—

(i)bo dogfen i’w rhoi i berson am fod ganddo ystad neu fuddiant mewn tir, a

(ii)nad oes modd darganfod cyfeiriad priodol y person (o fewn ystyr adran 80) ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol;

(b)pan fo dogfen i’w rhoi i berson am ei fod yn feddiannydd ar dir.

(5)Mae’r ddogfen i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi yn briodol os caiff ei chyfeirio at y person, ei marcio’n glir fel cyfathrebiad pwysig sy’n effeithio ar dir y person, ac—

(a)yn cael ei hanfon i’r tir drwy’r post ac nad yw’n cael ei dychwelyd fel dogfen nas danfonwyd,

(b)yn cael ei rhoi â llaw i berson sy’n preswylio neu’n cael ei gyflogi ar y tir, neu yr ymddengys ei fod yn preswylio neu’n cael ei gyflogi ar y tir, neu

(c)wedi ei gosod yn sownd, mewn lle gweladwy, wrth wrthrych ar y tir.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i’r Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 81 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

82Rhoi hysbysiadau etc. i’r GoronLL+C

Pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i’r Goron (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall), rhaid rhoi’r ddogfen i awdurdod priodol y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I82A. 82 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

Achosion arbennigLL+C

83Codi arian mewn achosion penodol i gwrdd â gwariantLL+C

(1)Mae’r adran hon yn cael effaith mewn cysylltiad â chodi arian mewn achosion penodol ar gyfer talu—

(a)treuliau yr eir iddynt wrth gynnal gweithrediadau yn unol â hysbysiad o dan adran 35 ac wrth gynnal unrhyw waith adfer canlyniadol;

(b)digollediad sy’n adenilladwy o dan adran 50 ac sydd i’w briodoli i unrhyw weithrediadau neu waith adfer o’r fath;

(c)symiau sy’n adenilladwy o dan adran 51 neu 53.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “gwariant perthnasol” yw unrhyw dreuliau, unrhyw ddigollediad neu unrhyw symiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) i (c).

(3)Mae’r dibenion a awdurdodir ar gyfer cymhwyso arian cyfalaf gan adran 73 o Ddeddf Tir Setledig 1925 (p. 18) yn cynnwys talu unrhyw wariant perthnasol.

(4)Mae’r dibenion a awdurdodir ar gyfer codi arian drwy forgais gan adran 71 o Ddeddf Tir Setledig 1925 yn cynnwys talu unrhyw wariant perthnasol.

(5)Mae’r dibenion a awdurdodir gan adran 25 o Ddeddf Dugiaeth Caerhirfryn 1817 (p. 97) ar gyfer cymhwyso arian sy’n codi drwy’r gwerthiant hwnnw o flwydd-daliadau sy’n sefyll yn enw neu i gyfrif Dugiaeth Caerhirfryn a grybwyllir yn yr adran honno yn cynnwys talu unrhyw wariant perthnasol.

(6)Mae’r dibenion a awdurdodir gan adran 8 o Ddeddf Rheoli Dugiaeth Cernyw 1863 (p. 49) ar gyfer blaendalu rhannau o’r symiau gros hynny a grybwyllir yn yr adran honno yn cynnwys talu unrhyw wariant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 83 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

84Tir Eglwys LoegrLL+C

(1)Pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson gan ei fod yn meddiannu tir sy’n dir Eglwys Loegr, neu berson am ei fod yn berchennog ar ystad neu fuddiant mewn tir sy’n dir Eglwys Loegr, rhaid rhoi copi o’r ddogfen hefyd i’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol.

(2)Rhaid i ddigollediad sy’n daladwy o dan adran 33 neu 50 i berson yn rhinwedd bod gan y person ystad rydd-ddaliadol mewn tir sy’n dir Eglwys Loegr (pan fo’r ystad wedi ei breinio mewn person heblaw’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol)—

(a)cael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol, a

(b)cael ei gymhwyso gan y Bwrdd hwnnw at y dibenion y byddai enillion gwerthu’r tir drwy gytundeb yn gymwys iddynt o dan unrhyw ddeddfiad neu Fesur gan Eglwys Loegr sy’n awdurdodi, neu’n gwaredu enillion, gwerthiant o’r fath.

(3)Pan fo tir Eglwys Loegr wedi ei freinio ym mheriglor bywoliaeth eglwysig sydd heb ddeiliad, mae’r tir i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai wedi ei freinio yn y Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol.

(4)Mewn achos—

(a)pan na fo is-adran (3) yn gymwys, a

(b)pan fo person yn atebol i dalu swm o dan y Ddeddf hon, naill ai fel perchennog neu fel cyfrannydd, yn rhinwedd bod yr ystad rydd-ddaliadol mewn tir yn eiddo i fywoliaeth eglwysig a freinir yn y person,

caiff y Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol gymhwyso unrhyw symiau a ddelir ganddo wrth gyflawni’r cyfan neu unrhyw ran o’r rhwymedigaeth honno.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol” (“appropriate Diocesan Board of Finance”), mewn perthynas ag unrhyw dir, yw’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr esgobaeth y mae’r tir ynddi;

  • ystyr “tir Eglwys Loegr” (“Church of England land”) yw tir—

    (a)

    sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig,

    (b)

    sy’n eglwys neu’n ffurfio rhan o eglwys sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob yn un o esgobaethau Eglwys Loegr neu safle eglwys o’r fath, neu

    (c)

    sy’n gladdfa neu’n ffurfio rhan o gladdfa sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob o’r fath;

  • ystyr “Mesur gan Eglwys Loegr” (“Church Measure”) yw Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;

  • ystyr “bywoliaeth eglwysig” (“ecclesiastical benefice”) yw un o fywiolaethau eglwysig Eglwys Loegr.

Gwybodaeth Cychwyn

I84A. 84 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

85Pŵer i addasu cymhwysiad y Ddeddf i dir yr AwdurdodLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu cymhwysiad y Ddeddf hon mewn perthynas â thir y mae gan yr Awdurdod ystad neu fuddiant ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 85 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

DehongliLL+C

86Ystyr “tomen” a “tomen nas defnyddir”LL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “tomen” yw croniad neu ddyddodiad gwastraff (beth bynnag ei ffurf neu ei gyfansoddiad) o fwynglawdd neu chwarel ac eithrio croniad neu ddyddodiad sydd wedi ei leoli o dan y ddaear.

(2)Mae unrhyw wal neu strwythur arall (pa un a yw wedi ei ffurfio yn gyfan gwbl neu’n rhannol o wastraff ai peidio) sy’n cadw neu’n cyfyngu tomen i’w thrin neu i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel rhan o’r domen.

(3)Yn y Ddeddf hon, ystyr “tomen nas defnyddir” yw tomen wedi ei lleoli yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru ac eithrio un y mae Rheoliadau Chwareli 1999 (O.S. 1999/2024) neu Reoliadau Mwyngloddiau 2014 (O.S. 2014/3248) yn gymwys iddi.

(4)Os yw’r naill neu’r llall o’r Rheoliadau a grybwyllir yn is-adran (3) yn cael ei ddirymu neu ei ddiwygio, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau i newid y diffiniad o “tomen nas defnyddir”.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau nad yw tomen o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau i’w thrin, er gwaethaf is-adran (3), fel tomen nas defnyddir at ddibenion y Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon a ragnodir gan y rheoliadau.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (5), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I86A. 86 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

87Ystyr “bygythiad i les pobl”LL+C

At ddibenion y Ddeddf hon, mae bygythiad i les pobl yn bodoli pan fo posibilrwydd o—

(a)marwolaeth pobl,

(b)salwch neu anaf difrifol i bobl,

(c)difrod difrifol i eiddo,

(d)tarfu difrifol ar gyflenwad o fwyd, dŵr, ynni neu danwydd,

(e)tarfu difrifol ar system gyfathrebu,

(f)tarfu difrifol ar gyfleusterau ar gyfer trafnidiaeth, neu

(g)tarfu difrifol ar wasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 87 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

88Ystyr “perchennog”LL+C

Yn y Ddeddf hon, ystyr “perchennog”, mewn perthynas ag unrhyw dir, yw’r person sydd ag ystad gyfreithiol yn y tir—

(a)sydd naill ai yr ystad rydd-ddaliadol neu’n denantiaeth am gyfnod penodol sydd ag o leiaf blwyddyn ar ôl ac nad yw’n gyfnod morgais, a

(b)nad yw mewn rifersiwn sy’n ddibynnol ar derfynu tenantiaeth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I88A. 88 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

89Diffiniadau sy’n ymwneud â’r GoronLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “tir y Goron” yw tir y ceir buddiant y Goron neu fuddiant Dugiaeth ynddo.

(3)Ystyr “buddiant y Goron” yw ystâd neu fuddiant—

(a)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Ei ystadau preifat, neu

(b)sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

(4)Ystyr “buddiant Dugiaeth” yw ystâd neu fuddiant—

(a)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu

(b)sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.

(5)Ystyr “buddiant preifat” mewn perthynas â thir y Goron, yw ystâd neu fuddiant nad yw’n fuddiant y Goron nac yn fuddiant Dugiaeth.

(6)Ystyr “awdurdod priodol y Goron”—

(a)mewn perthynas â thir y Goron, yw—

(i)yn achos tir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o ystad y Goron, Comisiynwyr Ystad y Goron;

(ii)mewn perthynas ag unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron, yr adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir;

(iii)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl ei ystadau preifat, person a benodir gan Ei Fawrhydi yn ysgrifenedig o dan y Llofnod Brenhinol neu, os na wneir unrhyw benodiad o’r fath, Gweinidogion Cymru;

(iv)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, Canghellor y Ddugiaeth;

(v)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw, person a benodir gan Ddug Cernyw, neu gan y person sy’n meddu ar y Ddugiaeth am y tro;

(vi)yn achos tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yr adran;

(b)mewn unrhyw achos arall, y Trysorlys.

(7)Mae “y Goron” i’w drin fel pe bai’n cynnwys Comisiwn y Senedd.

(8)Rhaid atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi ynghylch pwy yw awdurdod priodol y Goron mewn perthynas ag unrhyw dir i’r Trysorlys, y mae ei benderfyniad yn derfynol.

(9)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at ystadau preifat Ei Fawrhydi i’w darllen yn unol ag adran 1 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37);

(b)mae cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidog y Goron a Chomisiwn y Senedd (a gweler adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), sy’n darparu bod cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol).

Gwybodaeth Cychwyn

I89A. 89 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

90Dehongli cyffredinolLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “y llys” (“the court”) yw’r Uchel Lys neu’r llys sirol.

  • mae “gweithrediadau” (“operations”) yn cynnwys gweithrediadau adeiladu a pheirianneg, ond nid yw’n gyfyngedig i hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I90A. 90 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

91Mynegai o dermau wedi eu diffinioLL+C

Mae’r tabl isod yn rhestru termau sy’n cael eu diffinio neu eu hesbonio fel arall yn y Ddeddf hon.

TABL
Term Y Ddarpariaeth
aelodau anweithredol (“non-executive members”) Atodlen 1, paragraff 2(3)(a)
aelodau gweithredol (“executive members”) Atodlen 1, paragraff 2(3)(b)
asesiad llawn (“full assessment”) adran 15
asesiad rhagarweiniol (“preliminary assessment”) adran 12
yr Awdurdod (“the Authority”) adran 1(2)
awdurdod cyhoeddus perthnasol (“relevant public authority”) adran 58
awdurdod priodol y Goron (“appropriate Crown authority”) adran 89(6)
buddiant preifat (“private interest”) adran 89(5)
bygythiad i les pobl (“threat to human welfare”) adran 87
categori (“category”) adran 24
cyfrannydd (“contributory”) adran 49
cynllun rheoli (“management plan”) adran 57
y ganran benodedig (“the specified percentage”) adran 49
y gofrestr (“the register”) adran 6(3)
gorchymyn cyfrannu (“contribution order”) adran 49
y Goron (“the Crown”) adran 89(7)
gweithrediadau (“operations”) adran 90
y llys (“the court”) adran 90
y meini prawf ar gyfer cofrestru (“criteria for registration”) adran 7
newid hysbysadwy (“notifiable change”) adran 28
perchennog (“owner”) adran 88
person awdurdodedig (“authorised person”) adran 65(4)
tir y Goron (“Crown land”) adran 89(2)
tir preswyl (“residential land”) adran 66(7)
tomen (“tip”) adran 86(1)
tomen nas defnyddir (“disused tip”) adran 86(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I91A. 91 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

AmrywiolLL+C

92Dod i rymLL+C

(1)Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw adrannau 1, 2 a 5 ac Atodlen 1 i rym ar 1 Ebrill 2027.

(3)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3) wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

Gwybodaeth Cychwyn

I92A. 92 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

93Enw byrLL+C

Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—

(a)Deddf Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025, neu

(b)the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Act 2025.

Gwybodaeth Cychwyn

I93A. 93 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 1(3))

ATODLEN 1LL+CAWDURDOD TOMENNI NAS DEFNYDDIR CYMRU

RHAN 1LL+CSTATWS

StatwsLL+C

1(1)Nid yw’r Awdurdod i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo’r Awdurdod i’w ystyried yn eiddo i’r Goron nac yn eiddo a ddelir ar ran y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

RHAN 2LL+CAELODAU

AelodauLL+C

2(1)Aelodau’r Awdurdod yw—

(a)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn gadeirydd iddo,

(b)o leiaf 3 ond dim mwy na 5 person arall a benodir gan Weinidogion Cymru,

(c)ei brif weithredwr (gweler paragraff 6), a

(d)o leiaf 1 ond dim mwy na 2 aelod arall a benodir gan y prif weithredwr a’r aelodau anweithredol o blith staff yr Awdurdod.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi un o’r aelodau a benodir o dan is-baragraff (1)(b) yn ddirprwy gadeirydd.

(3)Yn yr Atodlen hon—

(a)cyfeirir at y cadeirydd ac aelodau’r Awdurdod a benodir o dan is-baragraff (1)(b) ar y cyd fel “aelodau anweithredol”;

(b)cyfeirir at y prif weithredwr ac aelodau’r Awdurdod a benodir o dan is-baragraff (1)(d) ar y cyd fel “aelodau gweithredol”.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-baragraff (1) drwy reoliadau er mwyn rhoi rhif gwahanol yn lle unrhyw un neu ragor o’r rhifau a bennir ynddo am y tro; ond rhaid i’r rheoliadau sicrhau bod nifer yr aelodau anweithredol yn parhau i fod yn fwy na nifer yr aelodau gweithredol.

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Anghymhwyso rhag bod yn aelod anweithredolLL+C

3Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi, neu rhag dal swydd, fel aelod anweithredol o’r Awdurdod os yw’r person yn, neu’n dod yn—

(a)aelod o staff yr Awdurdod,

(b)aelod o Senedd Cymru,

(c)aelod o gyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru,

(d)aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi,

(e)aelod o Lywodraeth Cymru,

(f)person a gyflogir yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth, neu

(g)deiliad swydd, neu’n aelod o gorff neu’n aelod o staff corff, a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Telerau aelodaeth anweithredolLL+C

4(1)Mae aelod anweithredol o’r Awdurdod yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) a pharagraff 5.

(2)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 5 mlynedd.

(3)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod anweithredol gael ei ailbenodi’n aelod anweithredol unwaith yn unig (ac mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ailbenodiad).

(4)Caiff yr Awdurdod, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a)talu tâl, treuliau a lwfansau i’w aelodau anweithredol;

(b)talu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Awdurdod, neu mewn cysylltiad â hwy, a symiau ar gyfer darparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Awdurdod, neu mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Diswyddo etc. aelodauLL+C

5(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo person sy’n aelod anweithredol drwy hysbysiad os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad atal dros dro berson sy’n aelod anweithredol o’i swydd os yw’n ymddangos iddynt—

(a)ei bod yn bosib fod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)ei bod yn bosib nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(3)Mae person wedi ei atal dros dro o dan is-baragraff (2) nes y bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad pellach iddo.

(4)Caiff person sy’n aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru.

(5)Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o’r Awdurdod os yw’r person hwnnw’n dod yn anghymwys o dan baragraff 3.

(6)Mae person yn peidio â bod yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd (yn ôl y digwydd) os yw’r person hwnnw’n peidio â bod yn aelod anweithredol o’r Awdurdod.

(7)Mae person yn peidio â bod yn aelod gweithredol o’r Awdurdod pan fo’n peidio â bod yn aelod o staff yr Awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

RHAN 3LL+CSTAFF

Prif weithredwrLL+C

6(1)Rhaid i’r Awdurdod gael prif weithredwr.

(2)Mae prif weithredwr cyntaf yr Awdurdod i’w benodi gan Weinidogion Cymru ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau a phensiwn) y maent yn penderfynu arnynt.

(3)Mae penodiadau dilynol i’w gwneud gan yr aelodau anweithredol ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau a phensiwn) y maent, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, yn penderfynu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Staff eraillLL+C

7(1)Caiff yr Awdurdod benodi aelodau o staff heblaw prif weithredwr.

(2)Penodir aelod o staff a benodir o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau a phensiwn) y penderfynir arnynt gan yr Awdurdod.

(3)Ni chaiff yr Awdurdod gytuno ar delerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau neu bensiwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

RHAN 4LL+CDIRPRWYO

Pwyllgorau ac is-bwyllgorauLL+C

8(1)Caiff yr Awdurdod sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn sefydlu is-bwyllgorau.

(3)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Awdurdod nac yn aelodau o’i staff, ond nid oes gan y personau hynny yr hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu’r is-bwyllgor (yn ôl y digwydd).

(4)Caiff yr Awdurdod dalu unrhyw dâl, treuliau a lwfansau a bennir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, ond

(b)nad yw’n aelod o’r Awdurdod, nac yn aelod o’i staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

DirprwyoLL+C

9(1)Caiff yr Awdurdod ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i unrhyw un neu ragor—

(a)o’i bwyllgorau,

(b)o’i is-bwyllgorau (pa un ai y’u sefydlir o dan baragraff 8(1) neu (2)),

(c)o’i aelodau, neu

(d)o’i aelodau o staff.

(2)Caiff pwyllgor o’r Awdurdod ddirprwyo unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy ganddo i—

(a)is-bwyllgor o’r Awdurdod (pa un ai y’i sefydlir o dan baragraff 8(1) neu (2)),

(b)aelod o’r Awdurdod, neu

(c)aelod o staff yr Awdurdod.

(3)Caiff is-bwyllgor o’r Awdurdod (pa un ai y’i sefydlir o dan baragraff 8(1) neu (2)) ddirprwyo unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy ganddo i—

(a)aelod o’r Awdurdod, neu

(b)aelod o staff yr Awdurdod.

(4)Caiff yr Awdurdod—

(a)cyfarwyddo pwyllgor neu is-bwyllgor o’r Awdurdod na chaiff ddirprwyo swyddogaeth a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)cyfarwyddo pwyllgor neu is-bwyllgor o’r Awdurdod i amrywio neu ddirymu unrhyw ddirprwyad a bennir yn y cyfarwyddyd;

(c)cyfarwyddo pwyllgor o’r Awdurdod i amrywio neu ddirymu unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y pwyllgor o dan is-baragraff (5).

(5)Caiff pwyllgor o’r Awdurdod sydd wedi dirprwyo swyddogaeth i is-bwyllgor—

(a)cyfarwyddo’r is-bwyllgor na chaiff ddirprwyo’r swyddogaeth;

(b)cyfarwyddo’r is-bwyllgor i amrywio neu ddirymu unrhyw ddirprwyad o’r swyddogaeth honno a wneir ganddo.

(6)Dirprwyir swyddogaeth o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau a bennir gan y person sy’n gwneud y dirprwyad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) neu (5).

(7)Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan y paragraff hwn yn atal yr Awdurdod (na’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor, yn ôl y digwydd) rhag arfer y swyddogaeth.

(8)Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan y paragraff hwn yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Awdurdod dros arfer y swyddogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

RHAN 5LL+CGWEITHDREFN ETC.

GweithdrefnLL+C

10(1)Rhaid i’r Awdurdod wneud rheolau i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm).

(2)Rhaid i’r rheolau ddarparu nad yw cyfarfod o’r Awdurdod yn ffurfio cworwm oni bai bod y mwyafrif o’r aelodau sy’n bresennol yn aelodau anweithredol.

(3)Rhaid i’r Awdurdod wneud rheolau i reoleiddio gweithdrefn ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau (gan gynnwys cworwm).

(4)Caiff rheolau a wneir gan yr Awdurdod o dan is-baragraff (3) awdurdodi ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau i benderfynu ar eu gweithdrefn eu hunain (gan gynnwys cworwm).

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Dilysrwydd trafodion a gweithredoeddLL+C

11Nid yw’r canlynol yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd yr Awdurdod (na’i bwyllgorau a’i is-bwyllgorau)—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith aelodaeth yr Awdurdod, na

(b)unrhyw ddiffyg o ran penodi aelod.

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

SêlLL+C

12Os oes gan yr Awdurdod sêl, rhaid iddi gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)aelod o’r Awdurdod; neu

(b)aelod o staff yr Awdurdod,

a awdurdodwyd at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

TystiolaethLL+C

13Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl yr Awdurdod, neu wedi ei llofnodi ar ran yr Awdurdod, i’w derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, i’w chymryd fel pe bai wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

RHAN 6LL+CMATERION ARIANNOL

CyllidLL+C

14Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i’r Awdurdod o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau, ac yn unol ag unrhyw amodau, y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Swyddog cyfrifydduLL+C

15(1)Prif weithredwr yr Awdurdod yw ei swyddog cyfrifyddu.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid yr Awdurdod, y cyfrifoldebau a bennir am y tro gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi’r cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid yr Awdurdod;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd yr Awdurdod o’i adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Senedd Cymru neu ei Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

CyfrifonLL+C

16(1)Rhaid i’r Awdurdod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 30 Medi ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Awdurdod gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol honno i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

ArchwilioLL+C

17(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob datganiad o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru gan yr Awdurdod o dan baragraff 16(3)(b).

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno;

(b)darparu copi o’r datganiad ardystiedig o gyfrifon ynghyd a’r adroddiad i’r Awdurdod.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod pan gyflwynir y datganiad o gyfrifon (“y cyfnod o 4 mis”), osod gerbron Senedd Cymru—

(a)copi o’r datganiad ardystiedig o gyfrifon a’r adroddiad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol cydymffurfio â pharagraff (a), ddatganiad i’r perwyl hwnnw, y mae rhaid iddo gynnwys rhesymau o ran pam felly.

(4)Pan fo datganiad wedi ei osod o dan is-baragraff (3)(b), rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod copi o’r datganiad ardystiedig o gyfrifon a’r adroddiad gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 4 mis.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-baragraff (2), rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio a aed, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol, i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant hwnnw, ac adrodd ar hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Archwilio’r defnydd o adnoddauLL+C

18(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran sut y mae adnoddau wedi eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau’r Awdurdod.

(2)Ond nid yw hynny’n rhoi’r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru i gwestiynu rhinweddau amcanion polisi’r Awdurdod.

(3)Cyn cynnal archwiliad o dan y paragraff hwn, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)ymgynghori â Senedd Cymru, a

(b)ystyried barn Senedd Cymru ynghylch pa un a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gynhelir o dan y paragraff hwn, a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

RHAN 7LL+CGOFYNION ADRODD ETC.

Cynllun corfforaetholLL+C

19(1)Rhaid i’r Awdurdod lunio cynllun corfforaethol ar gyfer pob cyfnod cynllunio.

(2)Rhaid i’r cynllun corfforaethol nodi sut y mae’r Awdurdod yn bwriadu cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod cynllunio.

(3)Rhaid i’r Awdurdod gyflwyno’r cynllun corfforaethol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(4)Cyn cyflwyno’r cynllun corfforaethol i’w gymeradwyo, rhaid i’r Awdurdod ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun corfforaethol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y cytunir arnynt rhyngddynt hwy a’r Awdurdod.

(6)Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi’r cynllun corfforaethol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r cynllun corfforaethol a gymeradwywyd gerbron Senedd Cymru.

(8)Caiff yr Awdurdod adolygu’r cynllun corfforaethol a gymeradwywyd yn ystod y cyfnod cynllunio y mae’n ymwneud ag ef a chyflwyno cynllun corfforaethol diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(9)Mae is-baragraffau (2) i (8) yn gymwys i gynllun corfforaethol diwygiedig fel y maent yn gymwys i gynllun corfforaethol.

(10)Ystyr “cyfnod cynllunio” yw—

(a)y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau ag 1 Hydref 2027, a

(b)pob cyfnod dilynol o 3 blynedd.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-baragraff (10)(b).

(12)Rhaid i’r cynllun corfforaethol ar gyfer cyfnod cynllunio gael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru cyn dechrau’r cyfnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I112Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Adroddiad blynyddolLL+C

20(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Awdurdod—

(a)llunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol honno, a

(b)anfon copi o’i adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I113Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

RHAN 8LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf y Diwydiant Glo 1994 (p. 21)LL+C

21Yn adran 59 o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 (gwybodaeth i’w chadw’n gyfrinachol gan yr Awdurdod Glo), ar ôl is-adran (3)(f) mewnosoder—

(g)the Disused Tips Authority for Wales is a relevant authority in relation to its functions under the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Act [2025].

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

22Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ystyr “Welsh public records”), ar ôl is-adran (2)(ca) mewnosoder—

(cb)the Disused Tips Authority for Wales,.

Gwybodaeth Cychwyn

I115Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)LL+C

23Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc.: safonau), yn y tabl, o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus mewnosoder—

Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru (“The Disused Tips Authority for Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion.

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)LL+C

24(1)Yn adran 6 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (ystyr corff cyhoeddus), ar ôl is-adran (1)(l) mewnosoder—

(la)Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru;.

(2)Mae adran 9 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill) i’w darllen mewn perthynas â’r Awdurdod fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (2)(a)—

(a)heb fod yn hwyrach na diwedd y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn ariannol y sefydlir Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru ynddi, a.

Gwybodaeth Cychwyn

I117Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2027, gweler a. 92(2)

(a gyflwynir gan adrannau 33(5) a 50(8))

ATODLEN 2LL+CHAWLIADAU AM DDIGOLLEDIAD GAN BERCHNOGION A CHYFRANWYR

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys i berchennog ar dir—LL+C

(a)os yw’r Awdurdod wedi cynnal gweithrediadau ar y tir o dan adran 44, neu wedi cynnal ymchwiliadau o dan adran 55 a arweiniodd at gynnal y gweithrediadau,

(b)os yw’r perchennog wedi hawlio digollediad gan yr awdurdod o dan y Ddeddf hon, ac

(c)naill ai—

(i)nad oes gorchymyn cyfrannu wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r treuliau y mae rhaid i’r perchennog eu hysgwyddo fel arall mewn perthynas â chynnal y gweithrediadau neu’r ymchwiliadau hynny, neu

(ii)mae un neu ragor o orchmynion o’r fath wedi eu gwneud ond mae’r ganran benodedig neu, yn ôl y digwydd, gyfanswm y canrannau penodedig yn llai na 100.

(2)Mae’r Atodlen hon yn gymwys i gyfrannydd—

(a)os yw’r treuliau y caniateir hawlio cyfraniad mewn cysylltiad â hwy o dan adran 51 neu 53 yn cynnwys treuliau yr aed iddynt wrth gynnal unrhyw weithrediadau neu ymchwiliadau y cyfeirir atynt yn adran 53(1) neu (2), a

(b)os yw’r cyfrannydd wedi hawlio digollediad gan berchennog ar dir neu’r Awdurdod o dan y Ddeddf hon.

(3)At ddibenion is-baragraff (1), mae ymchwiliadau i’w trin fel pe baent wedi arwain at gynnal gweithrediadau os, o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl cwblhau’r ymchwiliadau, y dechreuodd yr Awdurdod gynnal y gweithrediadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

2(1)Pan fo’r Atodlen hon yn gymwys i berchennog ar dir, nid oes gan y perchennog hawlogaeth i orfodi’r hawliad am ddigollediad, ac eithrio drwy ei osod yn erbyn swm y gwneir archiad ar ei gyfer oddi wrth y perchennog gan yr Awdurdod o dan adran 53, hyd at ddiwedd 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd y gweithrediadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.LL+C

(2)Ond pan fo—

(a)yr Awdurdod yn rhoi archiad i berchennog y tir o dan adran 53(4), a

(b)bod y swm y gellir ei adennill yn rhinwedd yr archiad hwnnw (gan roi sylw i unrhyw gais a wneir gan y perchennog o dan adran 54) yn llai na swm hawliad y perchennog am ddigollediad oddi wrth yr Awdurdod,

nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i achos a ddygir gan y perchennog i adennill gweddill y digollediad hwnnw oddi wrth yr Awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

3(1)Pan fo’r Atodlen hon yn gymwys i gyfrannydd, nid oes gan y cyfrannydd hawlogaeth i orfodi’r hawliad am ddigollediad, ac eithrio drwy ei osod yn erbyn unrhyw swm y gwneir archiad ar ei gyfer oddi wrth y cyfrannydd o dan adran 51 neu 53, hyd at ddiwedd y cyfnod perthnasol.LL+C

(2)Ond—

(a)pan roddir archiad am gyfraniad i’r cyfrannydd o dan adran 51 neu 53, a

(b)pan fo’r swm y gellir ei adennill yn rhinwedd yr archiad hwnnw (gan roi sylw i unrhyw gais a wneir o dan adran 52 neu 54) yn llai na swm hawliad y cyfrannydd am ddigollediad oddi wrth y person a roddodd yr archiad,

nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i achos a ddygir gan y cyfrannydd i adennill gweddill y digollediad oddi wrth y person hwnnw.

(3)At ddibenion y paragraff hwn, y “cyfnod perthnasol” yw—

(a)mewn perthynas â hawliad gan gyfrannydd am ddigollediad sy’n adenilladwy oddi wrth berchennog ar dir, 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhaodd y perchennog y gweithrediadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(2)(a);

(b)mewn perthynas â hawliad gan gyfrannydd am ddigollediad sy’n adenilladwy oddi wrth yr Awdurdod—

(i)pan fo’r treuliau y caniateir hawlio cyfraniad mewn cysylltiad â hwy oddi wrth y cyfrannydd yn dod o fewn adran 53(1), 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn yr adran honno;

(ii)pan fo’r treuliau y caniateir hawlio cyfraniad mewn cysylltiad â hwy oddi wrth y cyfrannydd yn dod o fewn adran 53(2), 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr ymchwiliadau y cyfeirir atynt yn yr adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

4LL+CYn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at weithrediadau yn cynnwys gwaith adfer sy’n ganlyniadol ar y gweithrediadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I121Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

5LL+CYn achos perchennog ar dir neu gyfrannydd y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddo, mae sail i achos y person i adennill y digollediad y cyfeirir ato ym mharagraff 1 i’w ystyried, at ddibenion adran 9 o Ddeddf Cyfyngiadau 1980 (p. 58), fel pe bai wedi cronni—

(a)ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 2(1) neu 3(1), pa un bynnag sy’n gymwys, neu

(b)os yw paragraff 2(2) neu 3(2) yn gymwys, ar y dyddiad y rhoddwyd yr archiad y cyfeirir ato yn y paragraff perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

(a gyflwynir gan adran 51(7))

ATODLEN 3LL+CADDASIADAU I ADRANNAU 51 A 52 PAN FO HYSBYSIAD O DAN ADRAN 35 YN CAEL EI GANSLO

1LL+CPan fo’r Awdurdod wedi canslo hysbysiad a roddir i berchennog ar dir o dan adran 35, mae adrannau 51 a 52 yn cael effaith gyda’r addasiadau a bennir yn yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I123Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

2LL+CMae cyfeiriad yn yr adrannau hynny at weithrediadau a gynhelir yn unol â’r hysbysiad o dan adran 35 i’w ddehongli fel cyfeiriad at weithrediadau a gynhaliwyd felly cyn canslo’r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

3(1)Wrth benderfynu, at ddibenion adrannau 51 ac 52, swm y treuliau yr aed iddynt yn rhesymol gan berchennog y tir wrth gynnal y gweithrediadau, didynner unrhyw swm—LL+C

(a)y gellir ei adennill (neu sydd wedi ei adennill) gan y perchennog oddi wrth yr Awdurdod yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 43, a

(b)sydd i’w briodoli i wariant yr aed iddo gan y perchennog o ganlyniad i roi’r hysbysiad o dan adran 35.

(2)Nid yw unrhyw swm yn adenilladwy gan berchennog ar dir o dan adran 51 mewn perthynas â threuliau yr aed iddynt gan y perchennog wrth gynnal gwaith adfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I125Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

4LL+CPan fo gan berchennog ar dir, yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 43, hawlogaeth i adennill (neu pan fo wedi adennill) swm oddi wrth yr Awdurdod mewn cysylltiad â’r gwariant yr aed iddo gan y perchennog o ganlyniad i roi hysbysiad o dan adran 35—

(a)rhaid i archiad o dan adran 51(4) bennu’r cyfanswm sy’n adenilladwy (neu sydd wedi ei adennill) yn rhinwedd y cyfarwyddyd, gan wahaniaethu rhwng—

(i)y rhan sydd i’w phriodoli i wariant yr aed iddo o ganlyniad i roi’r hysbysiad o dan adran 35, a

(ii)y rhan sydd i’w phriodoli i wariant yr aed iddo gan y perchennog sydd i’w briodoli i ganslo’r hysbysiad;

(b)mae’r cyfeiriad yn adran 51(5) at y cyfanswm y mae’r cyfraniad yn cael ei hawlio mewn cysylltiad ag ef i’w ddehongli fel cyfeiriad at y swm y gellid bod wedi hawlio’r cyfraniad mewn perthynas ag ef pe na bai cyfarwyddyd wedi ei roi;

(c)caniateir gwneud cais o dan adran 52 ar y sail nad yw’r swm a hawlir yn yr archiad yn rhoi ystyriaeth briodol i swm y mae rhaid ei ddidynnu yn rhinwedd paragraff 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources