- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, RHAN 3.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae enw byr Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) wedi ei newid i Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013.
(2)Cyfeirir at y Ddeddf honno yn y Ddeddf hon fel “Deddf 2013”.
(3)Yn adran 76 o Ddeddf 2013 (enw byr), yn lle “Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.
(4)Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)
(1)Yn adran 2 o Ddeddf 2013 (enw a pharhad y Comisiwn)—
(a)hepgorer is-adran (2);
(b)ar y diwedd mewnosoder—
“(3)Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).”;
(c)yn y pennawd, yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.
(2)Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 12 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)
Yn adran 4(1) o Ddeddf 2013 (aelodau’r Comisiwn), yn lle paragraff (c) rhodder—
“(c)o leiaf 1 aelod arall ond dim mwy na 7 o aelodau eraill.”
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 13 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)
(1)Yn adran 4(3) o Ddeddf 2013 (personau na chaniateir eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn)—
(a)yn lle “Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff aelod fod yn”;
(b)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;
(c)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;”.
(2)Yn adran 8(4) o’r Ddeddf honno (personau na chaniateir eu penodi yn brif weithredwr)—
(a)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;
(b)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;”.
(3)Yn adran 72(1) o’r Ddeddf honno (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU” yw—
Aelod o’r Senedd;
aelod o Dŷ’r Cyffredin;
aelod o Dŷ’r Arglwyddi;
aelod o Senedd yr Alban;
aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,”;
“ystyr “cynghorydd arbennig” yw cynghorydd arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special adviser”—
ym Mhennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25), neu
“ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41),”.
(4)Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl 2—
(a)ar ôl y cofnod ar gyfer “aelod cadeirio” mewnosoder—
| “Aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU (Member of a UK legislature) | Adran 72(1)”; |
(b)ar ôl y cofnod ar gyfer “cyfarfod cymunedol” mewnosoder—
| “Cynghorydd arbennig (Special adviser) | Adran 72(1)”; |
(c)ar ôl y cofnod ar gyfer “newid i sir wedi ei chadw” mewnosoder—
| “Plaid wleidyddol gofrestredig (Registered political party) | Adran 72(1)”. |
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 14 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)
Yn adran 6 o Ddeddf 2013 (trafodion y Comisiwn), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) i newid y cworwm, ond ni chânt newid y cworwm i rif sy’n is na 3.”
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 15 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)
(1)Yn adran 11 o Ddeddf 2013 (comisiynwyr cynorthwyol y caniateir dirprwyo iddynt swyddogaethau sy’n ymwneud â llywodraeth leol)—
(a)yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1)Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).”;
(b)yn is-adran (2)—
(i)yn lle “Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn”;
(ii)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;
(iii)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;”.
(2)Yn adran 13(1) o’r Ddeddf honno (dirprwyo), yn lle “gomisiynydd cynorthwyol” rhodder “un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol”.
(3)Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A i Ddeddf 2006 (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), ar ôl y cofnod ar gyfer “Comptroller and Auditor General or Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol” mewnosoder—
| “Democracy and Boundary Commission Cymru or Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru | The members, assistant commissioners and chief executive of the Commission”. |
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 16 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: