RHAN 3COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

11Ailenwi Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

(1)

Mae enw byr Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) wedi ei newid i Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013.

(2)

Cyfeirir at y Ddeddf honno yn y Ddeddf hon fel “Deddf 2013”.

(3)

Yn adran 76 o Ddeddf 2013 (enw byr), yn lle “Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.‍

(4)

Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.

Annotations:
Commencement Information

I1A. 11 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

12Ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

(1)

Yn adran 2 o Ddeddf 2013 (enw a pharhad y Comisiwn)—

(a)

hepgorer is-adran (2);

(b)

ar y diwedd mewnosoder—

“(3)

Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).”;

(c)

yn y pennawd, yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.‍

(2)

Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.

Annotations:
Commencement Information

I2A. 12 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

13Nifer aelodau’r Comisiwn

Yn adran 4(1) o Ddeddf 2013 (aelodau’r Comisiwn), yn lle paragraff (c) rhodder—

“(c)

o leiaf 1 aelod arall ond dim mwy na 7 o aelodau eraill.”

Annotations:
Commencement Information

I3A. 13 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

14Personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn neu’n brif weithredwr arno

(1)

Yn adran 4(3) o Ddeddf 2013 (personau na chaniateir eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn)—

(a)

yn lle “Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff aelod fod yn”;

(b)

yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

“(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;

(c)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;”.

(2)

Yn adran 8(4) o’r Ddeddf honno (personau na chaniateir eu penodi yn brif weithredwr)—

(a)

yn lle paragraff (a) rhodder—

“(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;‍

(b)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;”.

(3)

Yn adran 72(1) o’r Ddeddf honno (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“ystyr “aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU” yw—

(a)

Aelod o’r Senedd;

(b)

aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(c)

aelod o Dŷ’r Arglwyddi;

(d)

aelod o Senedd yr Alban;

(e)

aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,”;

“ystyr “cynghorydd arbennig‍” yw cynghorydd arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special adviser”—

“ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41),”.

(4)

Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl 2—

(a)

ar ôl y cofnod ar gyfer “aelod cadeirio” mewnosoder—

“Aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU (Member of a UK legislature)

Adran 72(1)”;

(b)

ar ôl y cofnod ar gyfer “cyfarfod cymunedol” mewnosoder—

“‍Cynghorydd arbennig (Special adviser)

Adran 72(1)”;

(c)

ar ôl y cofnod ar gyfer “newid i sir wedi ei chadw” mewnosoder—

“Plaid wleidyddol gofrestredig (Registered political party)

Adran 72(1)”.

Annotations:
Commencement Information

I4A. 14 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

15Cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn

Yn adran 6 o Ddeddf 2013 (trafodion y Comisiwn), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

“(1A)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) i newid y cworwm, ond ni chânt newid y cworwm i rif sy’n is na 3.”

Annotations:
Commencement Information

I5A. 15 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

16Comisiynwyr cynorthwyol

(1)

Yn adran 11 o Ddeddf 2013 (comisiynwyr cynorthwyol y caniateir dirprwyo iddynt swyddogaethau sy’n ymwneud â llywodraeth leol)—

(a)

yn lle is-adran (1) rhodder—

“(1)

Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).”;

(b)

yn is-adran (2)—

(i)

yn lle “Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn”;

(ii)

yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

“(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;

(iii)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;”.

(2)

Yn adran 13(1) o’r Ddeddf honno (dirprwyo), yn lle “gomisiynydd cynorthwyol” rhodder “un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol”.

(3)

Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A i Ddeddf 2006 (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), ar ôl y cofnod ar gyfer “Comptroller and Auditor General or Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol” mewnosoder—

“‍Democracy and Boundary Commission Cymru or Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

The members, assistant commissioners and chief executive of the Commission”.