Adran 7 – Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau landlord pellach o dan gontract safonol cyfnodol
37.Mae adran 7 yn mewnosod adran 177 newydd yn Neddf 2016. Roedd fersiwn flaenorol adran 177 o Ddeddf 2016 yn gosod cyfyngiad ar roi hysbysiad adran 173 pan na chydymffurfiwyd â gofynion sicrwydd a blaendal Deddf 2016. Gwneir darpariaeth ynglŷn â hyn bellach yn Atodlen 9A i Ddeddf 2016.
38.Mae’r adran 177(1), (2) a (3) newydd yn gymwys pan fo landlord:
wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173 o Ddeddf 2016 (“yr hysbysiad adran 173 cyntaf”);
wedi tynnu’r hysbysiad adran 173 cyntaf yn ôl wedi hynny; ac
am roi hysbysiad adran 173 pellach i ddeiliad y contract.
39.Ac eithrio yn y sefyllfa a ddisgrifir isod, ni chaiff y landlord roi hysbysiad adran 173 pellach i ddeiliad y contract am gyfnod o chwe mis. Mae’r cyfnod hwn yn dechrau â’r diwrnod y caiff yr hysbysiad adran 173 cyntaf ei dynnu’n ôl. Bwriedir i’r ddarpariaeth hon atal landlord rhag rhoi a thynnu’n ôl gyfres o hysbysiadau adran 173.
40.Fodd bynnag, o dan adran 177(3), caiff y landlord roi un hysbysiad adran 173 pellach i ddeiliad y contract os rhoddir yr hysbysiad yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad adran 173 cyntaf. Nod y ddarpariaeth hon yw darparu ar gyfer landlordiaid sydd wedi gwneud camgymeriad o ran yr hysbysiad adran 173 cyntaf.
41.Mae adran 180(3) o Ddeddf 2016 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch tynnu hysbysiad adran 173 yn ôl.
42.Mae’r adran 177(4) a (5) newydd yn gymwys pan fo landlord wedi rhoi hysbysiad adran 173 i ddeiliad y contract ond nad yw’r landlord wedi gwneud hawliad meddiant yn seiliedig ar yr hysbysiad adran 173 hwnnw o fewn y cyfnod ar gyfer gwneud yr hawliad o dan Ddeddf 2016.
43.Mae adran 179 o Ddeddf 2016 yn nodi’r cyfnod pan gaiff landlord wneud hawliad meddiant ar gyfer yr annedd ar ôl rhoi hysbysiad adran 173 i ddeiliad y contract.
44.O dan yr adran 177(4) a (5) newydd, os nad yw’r landlord yn gwneud yr hawliad meddiant o fewn y cyfnod hwn, ni chaiff y landlord roi hysbysiad adran 173 arall i ddeiliad y contract am gyfnod o chwe mis. Mae’r cyfnod hwn o chwe mis yn dechrau â’r diwrnod olaf y gallai’r landlord fod wedi gwneud yr hawliad meddiant o dan adran 179(1)(b) o Ddeddf 2016.
