Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

17.Nodir y cyfnod hysbysu sy’n gymwys i hysbysiad adran 173 yn adran 174 o Ddeddf 2016. Mae adran 1 o’r Ddeddf yn darparu bod y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer hysbysiad adran 173 i’w gynyddu o ddau fis i chwe mis.

18.Mae adran 1 hefyd yn mewnosod adran 174A newydd yn Neddf 2016. Mae’n darparu, ar gyfer contractau safonol cyfnodol penodol, fod y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer hysbysiad adran 173 yn parhau i fod yn 2 fis. Rhestrir y contractau hyn yn yr Atodlen 8A newydd i Ddeddf 2016 (sy’n cael ei mewnosod gan Atodlen 1 i’r Ddeddf).

Adran 2 – Cymal terfynu’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

19.Mae’r adran hon yn diwygio’r cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir sy’n gymwys i gymal terfynu’r landlord o ddau fis i chwe mis, er mwyn bod yn gyson â’r cyfnod hysbysu ar gyfer contractau safonol cyfnodol o dan adran 174.

20.Mae’r adran hon hefyd yn mewnosod adran 195A newydd yn Neddf 2016. Mae’n darparu, ar gyfer contractau safonol cyfnod penodol penodedig, fod y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir sydd i’w bennu mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord yn parhau i fod yn 2 fis. Rhestrir y contractau hyn yn yr Atodlen 8A newydd i Ddeddf 2016 (sy’n cael ei mewnosod gan Atodlen 1 i’r Ddeddf).

Adran 3 – Contractau safonol sydd â chyfnod hysbysu a ganiateir o ddau fis

21.Mae adran 3 yn cyflwyno Atodlen 1 i’r Ddeddf, sy’n mewnosod Atodlen 8A newydd yn Neddf 2016 (a drafodir uchod).

Atodlen 1 – Atodlen 8A newydd i Ddeddf 2016

22.Mae’r Atodlen 8A newydd yn rhestru’r contractau meddiannaeth safonol hynny na cheir rhoi cyfnod hysbysu o lai na dau fis ar eu cyfer o dan hysbysiad adran 173 (gweler adran 1 o’r Ddeddf hon) neu gymal terfynu’r landlord (gweler adran 2 o’r Ddeddf hon), yn hytrach na chwe mis. Dyma’r disgrifiadau o gontractau yr ystyrir ei bod yn rhesymol i landlord allu adennill meddiant oddi tanynt yn gynharach na’r cyfnod hysbysu o chwe mis sy’n gymwys yn gyffredinol i hysbysiad adran 173 a chymal terfynu’r landlord. Mae’r disgrifiadau hyn o gontractau yn cynnwys: contractau safonol ymddygiad gwaharddedig (y gellir eu gosod mewn ymateb i dorri adran 55 o Ddeddf 2016 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall)); llety i fyfyrwyr addysg uwch, pan fo’u landlord yn sefydliad addysg uwch; contract safonol â chymorth (mewn perthynas â llety â chymorth – gweler adran 143 o Ddeddf 2016); llety dros dro i bersonau digartref; a meddiannaeth yn rhinwedd swydd (pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth).

23.Caniateir diwygio Atodlen 8A drwy reoliadau yn rhinwedd paragraff 13 o’r Atodlen honno. Bydd hyn yn caniatáu i ddisgrifiadau eraill o gontractau gael eu hychwanegu at yr Atodlen. Mae rheoliadau a wneir o dan baragraff 13 o Atodlen 8A i Ddeddf 2016 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol (gweler y diwygiad i adran 256 o Ddeddf 2016 yn Atodlen 6 i’r Ddeddf).

Adran 4 – Hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol: pryd y caniateir rhoi hysbysiad

24.Mae adran 175 o Ddeddf 2016 yn gosod cyfyngiad ar bryd y caiff landlord roi hysbysiad adran 173 i derfynu contract safonol cyfnodol.

25.Os nad yw’r contract yn “contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall”, ni chaiff y landlord roi hysbysiad adran 173 o fewn pedwar mis cyntaf y feddiannaeth gan ddechrau â “dyddiad meddiannu” y contract. Os yw’r contract yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad adran 173 o fewn pedwar mis cyntaf y feddiannaeth gan ddechrau â dyddiad meddiannu’r “contract gwreiddiol”. Am ystyr “contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall”, “contract gwreiddiol” a “dyddiad meddiannu” gweler adrannau 175(3) a 245 o Ddeddf 2016.

26.Mae adran 4 o’r Ddeddf yn diwygio adran 175 o Ddeddf 2016 fel bod y cyfnodau hyn wedi eu cynyddu o bedwar mis i chwe mis.

Adran 5 – Cymal terfynu’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol: pryd y caniateir rhoi hysbysiad

27.Mae adran 196(1) o Ddeddf 2016 yn datgan na chaiff landlord roi hysbysiad i derfynu contract safonol cyfnod penodol o dan gymal terfynu’r landlord yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth.

28.Mae adran 5(1)(a) o’r Ddeddf yn diwygio adran 196(1) o Ddeddf 2016 fel bod y cyfyngiad o bedwar mis wedi ei gynyddu i 18 mis.

29.Mae adran 5(1)(b) o’r Ddeddf yn dileu adran 196(2) a (3) o Ddeddf 2016. Roedd y rhain yn darparu, os oedd y contract yn gontract meddiannaeth a oedd yn cymryd lle contract arall, fod y cyfyngiad a osodid gan adran 196 yn gymwys o ddyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.

30.Golyga’r diwygiad hwn nad yw’n berthnasol mwyach pa un a yw’r contract yn gontract meddiannaeth yn lle contract arall ai peidio. Bydd y cyfyngiad a osodir gan adran 196 yn gymwys o ddyddiad meddiannu pob contract safonol cyfnod penodol newydd y mae’r landlord a deiliad y contract yn cytuno arno.

Adran 6 – Cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol

31.Mae adran 6(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn mewnosod adrannau 176, 186A a 197 newydd yn Neddf 2016. Mae pob un o’r adrannau hyn yn cyflwyno Atodlen 9A newydd i Ddeddf 2016 (sy’n cael ei mewnosod gan Atodlen 2 i’r Ddeddf).

32.Mae’r Atodlen 9A newydd i Ddeddf 2016 yn cynnwys cyfyngiadau penodol ar roi hysbysiad o dan adran 173, adran 186 a chymal terfynu’r landlord. Mae’r rhain yn ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol.

33.Mae adran 6(5) o’r Ddeddf yn diwygio Deddf 2019. Mae’n mewnosod adran 20 newydd yn Neddf 2019, sy’n cyfeirio at yr Atodlen 9A newydd i Ddeddf 2016. Mae hefyd yn dileu Atodlen 3 i Ddeddf 2019 o Ddeddf 2019 ei hun. Mae hyn oherwydd bod Atodlen 3 i Ddeddf 2019 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 2016 sydd bellach yn cael eu hatgynhyrchu yn yr Atodlen 9A newydd neu nad ydynt yn berthnasol mwyach i Ddeddf 2016.

34.Mae adran 6(6) o’r Ddeddf yn cyflwyno Atodlen 2 i’r Ddeddf, sy’n mewnosod yr Atodlen 9A newydd yn Neddf 2016.

Atodlen 2 – Atodlen 9A newydd i Ddeddf 2016

35.Mae Atodlen 2 i’r Ddeddf yn mewnosod Atodlen 9A newydd yn Neddf 2016. Mae Atodlen 9A yn rhestru cyfyngiadau penodol ar roi hysbysiad o dan adran 173, adran 186 a chymal terfynu’r landlord pan fo gofynion statudol penodol wedi eu torri.

36.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 9A drwy reoliadau. Mae’r weithdrefn gadarnhaol yn gymwys i unrhyw reoliadau o’r fath (gweler y diwygiad i adran 256 o Ddeddf 2016 yn Atodlen 6 i’r Ddeddf).

Adran 7 – Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau landlord pellach o dan gontract safonol cyfnodol

37.Mae adran 7 yn mewnosod adran 177 newydd yn Neddf 2016. Roedd fersiwn flaenorol adran 177 o Ddeddf 2016 yn gosod cyfyngiad ar roi hysbysiad adran 173 pan na chydymffurfiwyd â gofynion sicrwydd a blaendal Deddf 2016. Gwneir darpariaeth ynglŷn â hyn bellach yn Atodlen 9A i Ddeddf 2016.

38.Mae’r adran 177(1), (2) a (3) newydd yn gymwys pan fo landlord:

a.

wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173 o Ddeddf 2016 (“yr hysbysiad adran 173 cyntaf”);

b.

wedi tynnu’r hysbysiad adran 173 cyntaf yn ôl wedi hynny; ac

c.

am roi hysbysiad adran 173 pellach i ddeiliad y contract.

39.Ac eithrio yn y sefyllfa a ddisgrifir isod, ni chaiff y landlord roi hysbysiad adran 173 pellach i ddeiliad y contract am gyfnod o chwe mis. Mae’r cyfnod hwn yn dechrau â’r diwrnod y caiff yr hysbysiad adran 173 cyntaf ei dynnu’n ôl. Bwriedir i’r ddarpariaeth hon atal landlord rhag rhoi a thynnu’n ôl gyfres o hysbysiadau adran 173.

40.Fodd bynnag, o dan adran 177(3), caiff y landlord roi un hysbysiad adran 173 pellach i ddeiliad y contract os rhoddir yr hysbysiad yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad adran 173 cyntaf. Nod y ddarpariaeth hon yw darparu ar gyfer landlordiaid sydd wedi gwneud camgymeriad o ran yr hysbysiad adran 173 cyntaf.

41.Mae adran 180(3) o Ddeddf 2016 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch tynnu hysbysiad adran 173 yn ôl.

42.Mae’r adran 177(4) a (5) newydd yn gymwys pan fo landlord wedi rhoi hysbysiad adran 173 i ddeiliad y contract ond nad yw’r landlord wedi gwneud hawliad meddiant yn seiliedig ar yr hysbysiad adran 173 hwnnw o fewn y cyfnod ar gyfer gwneud yr hawliad o dan Ddeddf 2016.

43.Mae adran 179 o Ddeddf 2016 yn nodi’r cyfnod pan gaiff landlord wneud hawliad meddiant ar gyfer yr annedd ar ôl rhoi hysbysiad adran 173 i ddeiliad y contract.

44.O dan yr adran 177(4) a (5) newydd, os nad yw’r landlord yn gwneud yr hawliad meddiant o fewn y cyfnod hwn, ni chaiff y landlord roi hysbysiad adran 173 arall i ddeiliad y contract am gyfnod o chwe mis. Mae’r cyfnod hwn o chwe mis yn dechrau â’r diwrnod olaf y gallai’r landlord fod wedi gwneud yr hawliad meddiant o dan adran 179(1)(b) o Ddeddf 2016.

Adran 8 – Tynnu hysbysiad landlord o dan adran 173 ac o dan gymal terfynu’r landlord yn ôl

45.Mae adran 8(2) yn diwygio adran 180(3) o Ddeddf 2016, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae hysbysiad o dan adran 173 yn peidio â chael effaith os yw’r landlord yn ei dynnu’n ôl. Nid yw adran 180(3) ond yn gymwys os yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad adran 173 yn ôl cyn i’r contract ddod i ben.

46.Er mwyn tynnu hysbysiad adran 173 yn ôl, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i ddeiliad y contract, h.y. hysbysiad yn datgan bod yr hysbysiad adran 173 wedi ei dynnu’n ôl.

47.O dan y diwygiadau i adran 180(3) o Ddeddf 2016 a wneir gan adran 8(2) o’r Ddeddf, bydd pa un a fydd yr hysbysiad adran 173 yn peidio â chael effaith yn dibynnu ar bryd y rhoddir yr hysbysiad tynnu’n ôl a pha un a yw deiliad y contract yn gwrthwynebu tynnu’r hysbysiad adran 173 yn ôl.

48.Os yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad adran 173 yn ôl o fewn 28 o ddiwrnodau i’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad adran 173, mae pa un a yw deiliad y contract yn gwrthwynebu ei dynnu’n ôl yn amherthnasol.

49.Os yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad adran 173 yn ôl ar ôl y cyfnod o 28 o ddiwrnodau o’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad adran 173, ni fydd yr hysbysiad adran 173 ond yn peidio â chael effaith os nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu ei dynnu’n ôl. Rhaid i’r gwrthwynebiad hwn fod mewn ysgrifen a rhaid ei wneud o fewn cyfnod rhesymol i roi’r hysbysiad tynnu’n ôl i ddeiliad y contract.

50.Mae adran 8(3) yn diwygio adran 201(3) o Ddeddf 2016, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae hysbysiad a roddwyd o dan gymal terfynu’r landlord yn peidio â chael effaith os yw’r landlord yn ei dynnu’n ôl. Mae’r diwygiadau a wneir i adran 201(3) yn cyfateb i’r diwygiadau i adran 180(3) a ddisgrifir uchod ac maent yn cael yr un effaith â’r diwygiadau hynny.

Adran 9 – Cyfyngiad ar roi hysbysiad o dan adran 173 ac o dan gymal terfynu’r landlord yn dilyn hawliad meddiant dialgar

51.Mae adran 9(2) yn mewnosod adran 177A newydd yn Neddf 2016. Roedd y fersiwn flaenorol o adran 177A o Ddeddf 2016 yn gosod cyfyngiad ar roi hysbysiad adran 173 pan oedd y landlord yn torri darpariaethau penodol yn Neddf 2019. Gwneir darpariaeth ynghylch hyn yn awr yn Atodlen 9A i Ddeddf 2016.

52.Mae’r adran 177A newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfyngiad pellach ar roi hysbysiad o dan adran 173.

53.Mae’n gymwys pan fo landlord yn gwneud hawliad meddiant ar y sail ei fod wedi rhoi hysbysiad adran 173 i ddeiliad y contract (gweler adran 178 o Ddeddf 2016) a bod y Llys yn gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant am ei fod yn meddwl bod yr hawliad yn “hawliad dialgar” (gweler adran 217 o’r Ddeddf). Mae adran 177A yn darparu na chaiff y landlord roi hysbysiad adran 173 arall i ddeiliad y contract am gyfnod o 6 mis o’r diwrnod y gwrthododd y Llys wneud y gorchymyn adennill meddiant.

54.Mae adran 9(3) yn mewnosod adran 198 newydd yn Neddf 2016. Roedd yr adran 198 flaenorol o Ddeddf 2016 yn gosod cyfyngiad ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord pan oedd y landlord wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion sicrwydd a blaendal a gynhwysir yn Neddf 2016. Gwneir darpariaeth ar gyfer hyn yn awr yn Atodlen 9A i Ddeddf 2016.

55.Mae’r adran 198 newydd yn gosod cyfyngiad pellach ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, sy’n union yr un fath â’r cyfyngiad a osodir gan yr adran 177A newydd mewn perthynas â hysbysiadau adran 173 (a drafodir uchod).

Adran 10 – Hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd cyfnod contractau safonol cyfnod penodol wedi ei gyfyngu i gontractau penodol

56.Mae’r adran hon yn diwygio adran 186 o Ddeddf 2016 fel bod y gallu i ddod â chontractau safonol cyfnod penodol i ben drwy roi hysbysiad o dan adran 186 wedi ei gyfyngu i’r mathau hynny o gontractau a restrir yn yr Atodlen 9B newydd i Ddeddf 2016.

57.Mae adran 10(3) yn cyflwyno Atodlen 3 i’r Ddeddf, sy’n mewnosod Atodlen 9B newydd yn Neddf 2016.

Atodlen 3 – Atodlen 9B newydd i Ddeddf 2016

58.Mae’r Atodlen 9B newydd yn rhestru’r contractau safonol cyfnod penodol hynny y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 o Ddeddf 2016. Dyma’r disgrifiadau o gontractau yr ystyrir ei bod yn rhesymol i landlord allu cael mwy o sicrwydd oddi tanynt o ran y gallu i adennill meddiant, o gymharu â chontractau cyfnod penodol yn gyffredinol. Mae’r disgrifiadau hyn o gontractau yn cynnwys: contract safonol â chymorth (mewn perthynas â llety â chymorth – gweler adran 143 o Ddeddf 2016); llety dros dro i bersonau digartref; a meddiannaeth yn rhinwedd swydd (pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth).

59.Caniateir diwygio Atodlen 9B drwy reoliadau yn rhinwedd paragraff 11 o’r Atodlen honno. Mae unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol (gweler y diwygiad i adran 256 o Ddeddf 2016 yn Atodlen 6 i’r Ddeddf).

Adran 11 – Cyfyngu cymal terfynu’r landlord i gontractau safonol cyfnod penodol penodedig

60.Mae’r adran hon yn diwygio adran 194 o Ddeddf 2016 fel mai dim ond mewn contract safonol cyfnod penodol am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu mewn contract safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad a restrir yn yr Atodlen 9C newydd i Ddeddf 2016, y caniateir ymgorffori cymal terfynu’r landlord.

61.Mewnosodir yr Atodlen 9C newydd i Ddeddf 2016 gan Atodlen 4 i’r Ddeddf. Mae adran 11(2) o’r Ddeddf yn cyflwyno Atodlen 4 i’r Ddeddf.

Atodlen 4 – Atodlen 9C newydd i Ddeddf 2016

62.Mae’r Atodlen 9C newydd yn rhestru’r contractau safonol cyfnod penodol hynny a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord pa un a ydynt wedi eu gwneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio. Dyma’r disgrifiadau o gontractau safonol cyfnod penodol yr ystyrir ei bod yn rhesymol i landlord allu rhoi hysbysiad o dan gymal terfynu oddi tanynt yn ystod dwy flynedd gyntaf y contract. Mae’r disgrifiadau o gontractau yn cynnwys: contract safonol â chymorth (mewn perthynas â llety â chymorth – gweler adran 143 o Ddeddf 2016); llety dros dro i bersonau digartref; a meddiannaeth yn rhinwedd swydd (pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth).

63.Caniateir diwygio Atodlen 9C drwy reoliadau yn rhinwedd paragraff 11 o’r Atodlen honno. Mae unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol (gweler y diwygiad i adran 256 o Ddeddf 2016 yn Atodlen 6 i’r Ddeddf).

Adran 12 – Cais y landlord i amrywio telerau contract safonol cyfnodol: dileu’r weithdrefn hysbysu ychwanegol

64.Mae’r adran hon yn dileu adran 126 o Ddeddf 2016 ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adrannau 125 a 173 o Ddeddf 2016.

65.Mae adran 126 o Ddeddf 2016 yn nodi gweithdrefn sy’n caniatáu i landlord amrywio telerau contract safonol cyfnodol (ac eithrio mewn perthynas â swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall) drwy roi hysbysiad. Yn ddarostyngedig i ofynion penodol, roedd adran 126 yn galluogi’r landlord i wneud hawliad meddiant fel pe bai wedi rhoi hysbysiad adran 173 i ddeiliad y contract, os nad oedd deiliad y contract yn cydsynio i’r amrywiad a gynigiwyd gan y landlord.

66.O ganlyniad i’r diwygiad hwn, ni ellir amrywio telerau contract safonol cyfnodol (ac eithrio mewn perthynas â’r rhent neu gydnabyddiaeth arall) ond drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract. (Gweler adrannau 123 a 124 o Ddeddf 2016 ar gyfer y darpariaethau ar amrywio’r rhent neu gydnabyddiaeth arall mewn contract safonol cyfnodol).

Adran 13 – Pŵer i gyfyngu’r hawl i wahardd deiliad contract o annedd am gyfnodau penodedig

67.Mae’r adran hon yn diwygio adrannau 121 a 133 o Ddeddf 2016.

68.Mae adran 121 o Ddeddf 2016 yn datgan y caiff contract safonol cyfnodol ddarparu nad oes gan ddeiliad y contract hawlogaeth i feddiannu’r annedd fel cartref am gyfnodau penodedig. Mae adran 133 o Ddeddf 2016 yn cynnwys darpariaeth sy’n union yr un fath mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol.

69.Mae adran 13 o’r Ddeddf yn mewnosod is-adran (3) newydd yn adrannau 121 a 133 ill dwy o Ddeddf 2016. Mae’r is-adran (3) newydd, yn y ddwy adran, yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn diwygio Deddf 2016 at y dibenion a restrir ym mharagraffau (a) i (e) o’r is-adran (3) a fewnosodir. Mae’r rhain yn ymwneud â sut y mae adrannau 121 a 133 o Ddeddf 2016 yn gymwys ac, yn arbennig, y caniateir defnyddio rheoliadau o dan y pwerau newydd hyn i gyfyngu ar yr hawl i gynnwys darpariaeth mewn contract meddiannaeth ynghylch gwahardd deiliad y contract o’r annedd dros dro.

70.Mae rheoliadau o dan y pwerau hyn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol (gweler y diwygiad i adran 256 o Ddeddf 2016 yn Atodlen 6 i’r Ddeddf).

Adran 14 – Diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2016

71.Mae adran 14 yn cyflwyno Atodlen 5 i’r Ddeddf, sy’n gwneud diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2016.

Atodlen 5 – Diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2016

72.Mae’r diwygiadau a ganlyn wedi eu cynnwys yn Atodlen 5:

  • mae’r prawf sydd i’w gymhwyso wrth ystyried ymgorffori ac addasu telerau sylfaenol wedi ei ddiwygio. Nid yw’r cwestiwn o ba un a ganiateir newid sy’n ymwneud â theler sylfaenol ai peidio yn ymwneud yn benodol â “barn deiliad y contract” mwyach;

  • mae cyfeiriadau at y “dyddiad perthnasol” yn adrannau 110, 129 a 137 wedi eu diwygio er mwyn sicrhau bod y darpariaethau yn gweithio’n gywir gydag adrannau 36 a 37;

  • darpariaethau i sicrhau y gall tenantiaethau diogel sy’n denantiaethau cymdeithas dai ddod yn gontractau meddiannaeth;

  • ychwanegu pŵer i wneud rheoliadau at Ddeddf 2016 i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau sydd wedi eu diddymu gan adran 239 o Ddeddf 2016, er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt yn gontractau meddiannaeth ac nad ydynt yn gallu bod yn gontractau o’r fath, ac er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas â diwedd cyfnod tenantiaeth hir;

  • mae’r ymadrodd “sy’n gyfan gwbl” wedi ei hepgor o’r diffiniad o “annedd” yn Neddf 2016, fel bod y diffiniad yn gyson â deddfwriaeth arall ym maes tai sy’n gymwys i anheddau yng Nghymru neu yn Lloegr;

  • mae’r pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol a diwygiadau eraill mewn cysylltiad â Deddf 2016 wedi ei ehangu i gynnwys deddfwriaeth a wneir ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf 2016 gael y Cydsyniad Brenhinol;

  • diwygiad sy’n egluro pryd y caiff contract meddiannaeth ar gyfer llety myfyrwyr a wneir gyda landlord cymunedol neu a fabwysiedir ganddo fod yn gontract safonol; ac

  • mae’r Atodlen hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i destun Cymraeg Deddf 2016.

Adran 15 – Taliadau gwasanaeth a ganiateir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 etc.

73.Mae’r adran hon yn gwneud diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2019 sy’n ymwneud â thaliadau gwasanaeth o dan gontractau meddiannaeth safonol penodol. Mae hefyd yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151) (“y rheoliadau trosiannol”).

74.Mae Deddf 2019 yn ei gwneud yn drosedd i landlord neu asiant gosod eiddo wneud taliad gwaharddedig yn ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath. Nid yw taliad yn daliad gwaharddedig os yw’n daliad a ganiateir o fewn Atodlen 1 i Ddeddf 2019 (gweler Rhan 2 o Ddeddf 2019 ac Atodlen 1 iddi).

75.Mae darpariaethau Deddf 2019 yn gymwys i gontractau meddiannaeth safonol. Mae’r rheoliadau trosiannol yn cymhwyso’r gofynion hynny i denantiaethau byrddaliadol sicr, hyd nes y caiff Deddf 2016 ei gweithredu. Ar y diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru, caiff y rhan fwyaf o denantiaethau byrddaliadol sicr eu trosi’n gontractau meddiannaeth safonol (gweler adrannau 239 i 241 o Ddeddf 2016 ac Atodlen 12 iddi).

76.Mae adran 15(2) o’r Ddeddf yn mewnosod paragraff 10A newydd yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019. Mae’r diwygiad hwn yn darparu bod tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir at ddibenion Deddf 2019 os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol a bod y landlord yn landlord cymunedol, neu os yw’r contract meddiannaeth safonol yn gontract safonol â chymorth (o fewn ystyr adran 143 o Ddeddf 2016).

77.Fodd bynnag, bydd tâl gwasanaeth sy’n ofynnol gan landlord cymunedol o dan gontract meddiannaeth safonol ar gyfer llety nad yw’n llety cymdeithasol (o fewn ystyr paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016) yn parhau i fod yn daliad gwaharddedig o dan Ddeddf 2019.

78.Mae adran 15(3) o’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i’r rheoliadau trosiannol fel bod y newid hefyd yn gymwys mewn perthynas â thenantiaethau byrddaliadol sicr. Cyflawnir hyn drwy addasu’r ffordd y caiff y paragraff 10A newydd ei ddarllen mewn perthynas â thenantiaethau byrddaliadol sicr.

79.Effaith y diwygiadau yw bod tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir at ddibenion Deddf 2019 os yw’n ofynnol o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr a bod y landlord yn landlord cymunedol, neu os yw’r denantiaeth fyrddaliadol sicr yn ymwneud â llety â chymorth (o fewn yr ystyr a roddir gan is-baragraffau (3A) a (3B) o’r paragraff 10A newydd a addaswyd).

80.Nid yw taliad gwasanaeth sy’n ofynnol o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr pan fo’r landlord yn landlord cymunedol yn daliad a ganiateir, fodd bynnag, os nad oedd y rheolau dyrannu (o fewn ystyr paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016) yn gymwys i wneud y denantiaeth.

81.Mae adran 15(4) o’r Ddeddf yn datgan bod y diwygiadau a wneir gan adran 15(1), (2) a (3) o’r Ddeddf i’w trin fe pe baent wedi dod i rym ar 1 Medi 2019. Dyma’r dyddiad y daeth Deddf 2019 i rym. Ceir dau eithriad i hyn.

82.O dan y rheoliadau trosiannol, mae Deddf 2019 wedi ei haddasu fel na chaiff hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988, mewn perthynas â thenantiaeth fyrddaliadol sicr, gael ei roi ar adeg pan fo taliad gwaharddedig wedi ei wneud a heb ei ad-dalu.

83.Mae adran 15(4)(a) o’r Ddeddf yn darparu bod unrhyw hysbysiad o’r fath a roddwyd yn groes i’r cyfyngiad hwn cyn i adran 15 o’r Ddeddf ddod i rym yn parhau i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi yn groes i’r cyfyngiad hwnnw.

84.O dan adran 22(1) o Ddeddf 2019, mae’n bosibl cael gorchymyn oddi wrth y Llys i adennill taliad gwaharddedig. Mae adran 15(4)(b) o’r Ddeddf yn darparu, os cafodd gorchymyn o’r fath ei wneud cyn i adran 15 o’r Ddeddf ddod i rym, ei fod yn parhau i gael effaith.

85.Mae adran 15(5) a (6) o’r Ddeddf yn gosod cyfyngiad ar roi hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988. Ni chaniateir rhoi hysbysiad o’r fath am gyfnod o chwe mis os yw, yn ystod y cyfnod rhwng 1 Medi 2019 a’r adeg y mae adran 15 o’r Ddeddf yn dod i rym:

(a)

landlord o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr wedi ei gwneud yn ofynnol i dâl gwasanaeth gael ei dalu, a

(b)

o ganlyniad i’r ffaith bod y diwygiadau a wneir gan adran 15(1), (2) a (3) o’r Ddeddf yn cael eu trin fel pe baent wedi dod i rym ar 1 Medi 2019, y taliad sy’n ofynnol gan y landlord yn daliad a ganiateir o dan Ddeddf 2019.

86.Mae’r cyfyngiad am gyfnod o chwe mis yn gymwys o’r diwrnod y mae adran 15 o’r Ddeddf yn dod i rym, sef drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Adran 16 – Ffi am gopi pellach o ddatganiad ysgrifenedig i fod yn daliad a ganiateir

87.O dan adran 31(5) o Ddeddf 2016, caiff landlord godi ffi resymol am ddarparu copi pellach o’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth. Mae adran 16 o’r Ddeddf yn mewnosod paragraff 10B newydd yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019 fel bod talu’r ffi hon yn daliad a ganiateir o dan Ddeddf 2019.

Adrannau 17 i 20 ac Atodlen 6 – Cyffredinol

88.Mae adrannau 17 i 20 yn ymdrin â dehongli, mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, cychwyn ac enw byr y Ddeddf. Caiff adrannau 18 a 19, ac Atodlen 6, eu hystyried isod.

Adran 18 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

89.Mae adran 18 yn cyflwyno Atodlen 6 i’r Ddeddf, sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2016 a Deddf 2019.

Atodlen 6 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

90.Mae Atodlen 6 yn darparu ar gyfer diwygiadau sy’n ganlyniadol i’r newidiadau a wneir gan y Ddeddf, neu sy’n gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf 2016; yn achos Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, mae’r diwygiadau yn ymwneud â gweithredu Deddf 2016. Caiff y diwygiadau i Ddeddf 2019 eu cychwyn drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

Adran 19 – Dod i rym

91.Mae’r adran hon yn nodi sut y daw darpariaethau’r Ddeddf hon i rym. Daw’r rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf hon i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol; daw’r darpariaethau sy’n ymwneud â dehongli, cychwyn a’r enw byr i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Caiff cychwyn adran 15 a pharagraff 28 o Atodlen 6 ei drafod uchod.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources