Atodlen 1 – Atodlen 8A newydd i Ddeddf 2016
22.Mae’r Atodlen 8A newydd yn rhestru’r contractau meddiannaeth safonol hynny na cheir rhoi cyfnod hysbysu o lai na dau fis ar eu cyfer o dan hysbysiad adran 173 (gweler adran 1 o’r Ddeddf hon) neu gymal terfynu’r landlord (gweler adran 2 o’r Ddeddf hon), yn hytrach na chwe mis. Dyma’r disgrifiadau o gontractau yr ystyrir ei bod yn rhesymol i landlord allu adennill meddiant oddi tanynt yn gynharach na’r cyfnod hysbysu o chwe mis sy’n gymwys yn gyffredinol i hysbysiad adran 173 a chymal terfynu’r landlord. Mae’r disgrifiadau hyn o gontractau yn cynnwys: contractau safonol ymddygiad gwaharddedig (y gellir eu gosod mewn ymateb i dorri adran 55 o Ddeddf 2016 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall)); llety i fyfyrwyr addysg uwch, pan fo’u landlord yn sefydliad addysg uwch; contract safonol â chymorth (mewn perthynas â llety â chymorth – gweler adran 143 o Ddeddf 2016); llety dros dro i bersonau digartref; a meddiannaeth yn rhinwedd swydd (pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth).
23.Caniateir diwygio Atodlen 8A drwy reoliadau yn rhinwedd paragraff 13 o’r Atodlen honno. Bydd hyn yn caniatáu i ddisgrifiadau eraill o gontractau gael eu hychwanegu at yr Atodlen. Mae rheoliadau a wneir o dan baragraff 13 o Atodlen 8A i Ddeddf 2016 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol (gweler y diwygiad i adran 256 o Ddeddf 2016 yn Atodlen 6 i’r Ddeddf).