- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
5Yn Atodlen 1 i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (cyrff y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt), ym mharagraff 1, ar ôl is-baragraff (bj) mewnosoder—
“(bja)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;”.
6Yn adran 134 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (gohebiaeth cleifion)—
(a)ar ôl is-adran (3)(ca) mewnosoder—
“(cb)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;”;
(b)yn is-adran (3)(e), hepgorer “, a Community Health Council”.
7Mae Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 wedi ei diddymu.
8Yn Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus)—
(a)yn Rhan 3 (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru a Lloegr), hepgorer paragraff 41;
(b)yn Rhan 6 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol), ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru mewnosoder—
“The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.”
9Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ystyr “cofnodion cyhoeddus Cymru”), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales,”.
10Yn Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus), yn Rhan 2 (awdurdodau Cymreig perthnasol)—
(a)o dan y pennawd “National Health Service”—
(i)hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”;
(ii)hepgorer y geiriau “The Board of Community Health Councils in Wales or Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;
(b)o dan y pennawd “other public authorities”, ar ôl y cofnod ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru mewnosoder—
“The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales or Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.”
11Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc.: safonau), yn y tabl —
(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;
(b)hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;
(c)o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd y Gronfa Gymdeithasol mewnosoder—
“Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”) | Safonau cyflenwi gwasanaethau |
Safonau llunio polisi | |
Safonau gweithredu | |
Safonau cadw cofnodion”. |
12Yn adran 32 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (partneriaid eraill byrddau gwasanaethau cyhoeddus)—
(a)hepgorer is-adran (1)(c);
(b)ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—
“(ba)Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;”.
13Yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (awdurdodau penodedig), yn Rhan 1 (Cyffredinol: Cymru a Lloegr), o dan y pennawd “Health and social care”, hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”
14Yn adran 177 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (ystyr awdurdod perthnasol yn Rhan 9 o’r Ddeddf)—
(a)hepgorer is-adran (1)(g), a
(b)hepgorer is-adran (2)(c).
15Yn Atodlen 4 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (personau penodedig at ddibenion datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), yn Rhan 2 (cyrff Cymreig)—
(a)ym mharagraff 35, yn lle “A Community Health Council in Wales.” rhodder “The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.”;
(b)hepgorer paragraff 38.
16(1)Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn rheoliad 3(2)(b) yn lle “Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt” rhodder “Corff Llais y Dinesydd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo”.
(3)Yn Atodlen 6—
(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;
(b)hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;
(c)yn y lle priodol mewnosoder—
“Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”)”.
17(1)Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 16 (pŵer i ymchwilio i wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd), yn y diffiniad o “awdurdod rhestredig perthnasol” yn is-adran (4)—
(a)hepgorer paragraff (a);
(b)hepgorer paragraff (e);
(c)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
“(ia)Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;”.
(3)Yn Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig), o dan y pennawd “Iechyd a gofal cymdeithasol”—
(a)hepgorer y geiriau “Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;
(b)hepgorer y geiriau “Cyngor Iechyd Cymuned.”;
(c)ar ôl y cofnod olaf mewnosoder—
“Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: