- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, RHAN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
2(1)Aelodau Corff Llais y Dinesydd yw—
(a)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn aelod-gadeirydd iddo,
(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn ddirprwy i’r aelod-gadeirydd,
(c)o leiaf 6 ond dim mwy nag 8 person arall a benodir gan Weinidogion Cymru,
(d)ei brif weithredwr (gweler paragraff 9), ac
(e)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Corff, berson a benodir yn aelod cyswllt iddo (gweler paragraff 6).
(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir ar y cyd at yr aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru fel “aelodau anweithredol”; ac mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at arfer swyddogaeth gan yr aelodau anweithredol yn gyfeiriad at yr aelodau anweithredol yn arfer y swyddogaeth fel pwyllgor o’r Corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)
3Caiff person ei anghymhwyso rhag cael ei benodi’n aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd, os yw’r person yn aelod o staff y Corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I4Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)
4(1)Mae aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (4) a pharagraff 5.
(2)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 4 blynedd.
(3)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod anweithredol gael ei ailbenodi’n aelod anweithredol unwaith yn unig (ac mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).
(4)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(5)Caiff Corff Llais y Dinesydd, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—
(a)talu tâl, treuliau a lwfansau i’w aelodau anweithredol;
(b)talu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath, a symiau am ddarparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I6Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)
5(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu
(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o’r Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).
(3)Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o’r Corff os daw’r person yn aelod o staff y Corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I8Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)
6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—
(a)bo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan Gorff Llais y Dinesydd, a
(b)bo swydd yr aelod cyswllt yn wag.
(2)Rhaid i’r aelodau anweithredol wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan y Corff i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff.
(3)Rhaid i’r gwahoddiad bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo.
(4)Rhaid i’r aelodau anweithredol benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3), fel aelod cyswllt y Corff.
(5)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff, ond os yw’r person—
(a)yn aelod o staff y Corff, a
(b)yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y Corff.
(6)Yn y Rhan hon—
mae i “cydnabod”, mewn perthynas ag undeb llafur, yr ystyr a roddir i “recognised” gan Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52);
mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan y Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I10Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(s)
7(1)Nid yw aelod cyswllt o Gorff Llais y Dinesydd yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan y Corff.
(2)Mae aelod cyswllt o’r Corff yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (5) a pharagraff 8.
(3)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt fod yn hwy na 4 blynedd.
(4)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt gael ei ailbenodi o dan baragraff 6 yn aelod cyswllt (ac mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).
(5)Caiff aelod cyswllt o’r Corff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.
(6)Caiff Corff Llais y Dinesydd dalu treuliau i aelod cyswllt.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I12Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(s)
8(1)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt Corff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw fel yr aelod cyswllt os ydynt wedi eu bodloni—
(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu
(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.
(2)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt y Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd fel yr aelod cyswllt, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).
(3)Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt (gweler paragraff 6(5)).
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I14Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(s)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: