Search Legislation

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

(a gyflwynir gan adran 2)

ATODLEN 1OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU: PENODI ETC

This schedule has no associated Explanatory Notes

Penodi

1Mae’r Ombwdsmon i’w benodi gan Ei Mawrhydi ar enwebiad y Cynulliad.

Statws

2(1)Mae’r Ombwdsmon yn gorfforaeth undyn.

(2)Mae’r Ombwdsmon yn dal swydd o dan Ei Mawrhydi ac yn cyflawni swyddogaethau ar ran y Goron.

(3)Mae’r Ombwdsmon yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (p.6).

(4)Ond nid yw gwasanaeth yn swydd Ombwdsmon yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Goron.

Tymor y swydd

3(1)Tymor swydd person yn Ombwdsmon yw saith mlynedd (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4) a pharagraff 6).

(2)Nid yw person a benodir yn Ombwdsmon yn gymwys i’w ailbenodi.

(3)Caiff Ei Mawrhydi ryddhau person o swydd yr Ombwdsmon—

(a)ar gais yr Ombwdsmon, neu

(b)os yw Ei Mawrhydi yn fodlon nad yw’r person, am resymau meddygol, yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd.

(4)Caiff Ei Mawrhydi ddiswyddo person o swydd Ombwdsmon yn unol ag argymhelliad, ar sail camymddygiad y person, y dylai Ei Mawrhydi wneud hynny.

(5)Ni chaniateir gwneud argymhelliad i ddiswyddo person o swydd Ombwdsmon oni bai⁠—

(a)bod y Cynulliad wedi penderfynu y dylid gwneud yr argymhelliad, a

(b)bod penderfyniad y Cynulliad wedi’i basio drwy bleidlais lle roedd nifer yr Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd o’i blaid yn ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Cynulliad.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro

4(1)Os daw swydd yr Ombwdsmon yn wag, caiff Ei Mawrhydi, ar enwebiad y Cynulliad, benodi person i weithredu fel yr Ombwdsmon.

(2)Caiff person a benodir i weithredu fel yr Ombwdsmon (“Ombwdsmon dros dro”) fod wedi dal swydd yr Ombwdsmon.

(3)Mae person a benodir yn Ombwdsmon dros dro yn gymwys i’w benodi’n Ombwdsmon (oni bai bod y person eisoes wedi dal swydd yr Ombwdsmon).

(4)Nid yw’r pŵer i benodi person yn Ombwdsmon dros dro yn arferadwy ar ôl diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y swydd yn wag.

(5)Mae Ombwdsmon dros dro yn dal ei swydd yn unol â thelerau ei benodiad, yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) (a pharagraff 2, fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (7)).

(6)Ni chaiff Ombwdsmon dros dro ddal y swydd ar ôl—

(a)penodi person yn Ombwdsmon, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y swydd yn wag.

(7)Tra bydd Ombwdsmon dros dro yn dal y swydd mae i gael ei ystyried (ac eithrio at ddibenion paragraffau 1, 3, 6 i 10 a’r paragraff hwn) yn Ombwdsmon.

Darpariaeth bellach: penodi

5Rhaid i’r Cynulliad bennu’r telerau sy’n gymwys i benodiad a wneir o dan baragraff 1 neu baragraff 4(1).

Anghymhwyso

6(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro os yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—

(a)ei fod yn aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(b)ei fod yn awdurdod rhestredig;

(c)ei fod yn aelod, yn aelod cyfetholedig, yn swyddog neu’n aelod o staff awdurdod rhestredig;

(d)ei fod wedi’i anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Cynulliad (heblaw yn rhinwedd paragraff 7 o’r Atodlen hon neu adran 16(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32));

(e)ei fod wedi’i anghymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru (heblaw yn rhinwedd paragraff 7 o’r Atodlen hon);

(f)ei fod yn ddarparwr cartref gofal, yn ddarparwr gofal cartref neu’n ddarparwr gofal lliniarol annibynnol;

(g)ei fod yn swyddog neu’n aelod o staff darparwr o’r math hwnnw.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(g) mae person yn swyddog i ddarparwr os oes gan y person reolaeth dros ddarparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath, neu os yw’r person yn rheoli darparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath.

(3)Nid yw penodiad person yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro yn ddilys os yw’r person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1).

(4)Os yw person a benodwyd yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro yn dod yn anghymwys o dan is-baragraff (1), mae’r person yn peidio â dal y swydd ar ôl ei anghymhwyso yn y cyfryw fodd.

(5)Ond nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan berson a benodwyd yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro gan y ffaith fod y person hwnnw’n anghymwys o dan is-baragraff (1) neu’r ffaith ei fod yn dod yn anghymwys felly.

7(1)Mae person sy’n dal swydd Ombwdsmon neu Ombwdsmon dros dro wedi’i anghymhwyso rhag—

(a)bod yn awdurdod rhestredig;

(b)bod yn aelod, yn aelod cyfetholedig, yn swyddog neu’n aelod o staff awdurdod rhestredig;

(c)dal swydd â thâl y cafodd ei benodi iddi gan awdurdod rhestredig.

(2)Nid yw person wedi’i anghymhwyso o dan is-baragraff (1) rhag bod yn aelod o’r Cynulliad.

8(1)Mae person sydd wedi peidio â dal swydd Ombwdsmon neu Ombwdsmon dros dro wedi’i anghymhwyso am y cyfnod perthnasol rhag—

(a)dal swydd sy’n awdurdod rhestredig;

(b)bod yn aelod, yn aelod cyfetholedig, yn swyddog neu’n aelod o staff awdurdod rhestredig;

(c)dal swydd â thâl y cafodd ei benodi iddi gan awdurdod rhestredig;

oni bai bod y Cynulliad yn cymeradwyo fel arall.

(2)Mae’r cyfnod perthnasol—

(a)yn dechrau pan fydd y person yn peidio â dal swydd Ombwdsmon neu, yn ôl y digwydd, Ombwdsmon dros dro, a

(b)yn dod i ben ar derfyn y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn ariannol yr oedd yr Ombwdsmon neu, yn ôl y digwydd, yr Ombwdsmon dros dro, wedi peidio â dal y cyfryw swydd.

(3)Ond nid yw is-baragraff (1) yn anghymhwyso person rhag—

(a)bod yn aelod o’r Cynulliad neu Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)dal swydd llywydd neu ddirprwy lywydd y Cynulliad neu swydd Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru a benodwyd o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru neu un o Ddirprwy Weinidogion Cymru;

(c)bod yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o awdurdod lleol yng Nghymru;

(d)dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu faer etholedig awdurdod lleol yng Nghymru.

9Mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 7 a 8 at swydd â thâl yn cynnwys swydd lle y mae gan ddeiliad y swydd honno hawl i ad-daliad treuliau yn unig.

Cydnabyddiaeth ariannol etc

10(1)Rhaid i’r Cynulliad—

(a)talu’r cyfryw gyflog a lwfansau i berson sy’n Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro, a

(b)gwneud y cyfryw daliadau tuag at ddarparu buddion blwydd-dal ar gyfer yr Ombwdsmon neu’r Ombwdsmon dros dro neu mewn perthynas â’r Ombwdsmon neu’r Ombwdsmon dros dro,

y darperir ar eu cyfer gan delerau penodiad yr Ombwdsmon neu’r Ombwdsmon dros dro neu o dan y telerau hynny.

(2)Rhaid i’r Cynulliad dalu i berson sydd wedi peidio â dal swydd Ombwdsmon neu Ombwdsmon dros dro neu mewn perthynas â pherson o’r fath—

(a)y cyfryw symiau ar ffurf pensiynau ac arian rhodd, a

(b)y cyfryw symiau ar ffurf darpariaeth ar gyfer y buddion hynny,

y darparwyd ar eu cyfer gan delerau penodiad yr Ombwdsmon neu’r Ombwdsmon dros dro neu o dan y telerau hynny.

(3)Os yw person yn peidio â bod yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro ac os yw’n ymddangos i’r Cynulliad fod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn iawn bod y person hwnnw’n cael ei ddigolledu, caiff y Cynulliad dalu i’r person hwnnw unrhyw swm sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Rhaid i’r Cynulliad dalu i Weinidog y Gwasanaeth Sifil, ar y cyfryw adegau a gyfarwyddir gan y Gweinidog, y cyfryw symiau y bydd y Gweinidog yn penderfynu arnynt mewn perthynas ag unrhyw gynnydd y gellir ei briodoli i baragraff 9(4) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 yn y symiau sy’n daladwy o arian a ddarperir gan y Senedd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11).

(5)Mae symiau y mae eu hangen i wneud taliadau o dan is-baragraffau (1), (2) a (4) i’w codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.

Darpariaethau ariannol arbennig

11(1)Mae unrhyw symiau sy’n daladwy gan yr Ombwdsmon o ganlyniad i dorri unrhyw ddyletswydd gontractiol neu ddyletswydd arall wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon, i gael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.

(2)Ac mae is-baragraff (1) yn gymwys pa un a yw’r toriad yn digwydd oherwydd gweithred neu anweithred ar ran—

(a)yr Ombwdsmon,

(b)aelod o staff yr Ombwdsmon, neu

(c)unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i arfer swyddogaethau.

(3)Caiff yr Ombwdsmon gadw incwm sy’n deillio o ffioedd a godir yn rhinwedd adrannau 17(6), 23(6), 27(8), 29(2), 51(6), 55(7), 58(8) a 60(7) (yn hytrach na’i dalu i Gronfa Gyfunol Cymru) i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau a roddir neu a osodir gan y Ddeddf hon.

(4)Caiff yr Ombwdsmon gadw costau a delir iddo o dan hysbysiad adennill costau (gweler adran 21 ac adran 22) (yn hytrach na’u talu i Gronfa Gyfunol Cymru) i’w defnyddio mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau a roddir neu a osodir gan y Ddeddf hon.

Staff

12(1)Caiff yr Ombwdsmon benodi’r cyfryw staff sy’n angenrheidiol, yn ei farn ef, i’w helpu i gyflawni ei swyddogaethau, ar y cyfryw delerau ac amodau a benderfynir ganddo.

(2)Ni chaniateir ystyried unrhyw aelod o staff yr Ombwdsmon yn berson sy’n dal swydd o dan Ei Mawrhydi neu’n cyflawni unrhyw swyddogaethau ar ran y Goron.

(3)Ond mae pob aelod o staff yr Ombwdsmon i’w drin yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (p.6).

(4)Rhaid i’r Ombwdsmon dalu i Weinidog y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau a gyfarwyddir gan y Gweinidog, y cyfryw swm y bydd y Gweinidog yn penderfynu arno mewn perthynas ag unrhyw gynnydd y gellir ei briodoli i baragraff 11(4) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 yn y symiau sy’n daladwy o arian a ddarperir gan y Senedd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11).

Cynghorwyr

13(1)Caiff yr Ombwdsmon geisio cyngor gan unrhyw berson sydd, yn ei farn ef, yn gymwys i’w roi iddo, i’w gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau.

(2)Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson y mae’r Ombwdsmon yn cael cyngor ganddo o dan is-baragraff (1) y cyfryw ffioedd neu lwfansau a benderfynir gan yr Ombwdsmon.

Dirprwyo

14(1)Caniateir i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon gael eu cyflawni ar ran yr Ombwdsmon—

(a)gan unrhyw berson a awdurdodir gan yr Ombwdsmon i wneud hynny, a

(b)i’r graddau a awdurdodwyd.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Ombwdsmon i gyflawni unrhyw swyddogaeth o’r fath.

(3)Mae person a awdurdodir gan yr Ombwdsmon o dan is-baragraff (1) i’w drin yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (p.6).

(4)Ni chaniateir gwneud unrhyw drefniadau rhwng yr Ombwdsmon, ar y naill law, a Gweinidogion Cymru (neu Brif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru), ar y llaw arall, ar gyfer—

(a)arfer unrhyw swyddogaethau’r naill gan y llall,

(b)arfer unrhyw swyddogaethau Gweinidogion Cymru (neu Brif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru) gan aelodau o staff yr Ombwdsmon,

(c)arfer unrhyw swyddogaethau’r Ombwdsmon gan aelodau o staff Llywodraeth Cymru, neu

(d)darparu gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol gan y naill ar gyfer y llall.

(5)Mae is-baragraff (4) yn gymwys er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a fyddai, fel arall, yn caniatáu i drefniadau o’r fath gael eu gwneud.

Adroddiadau blynyddol ac eithriadol

15(1)O ran yr Ombwdsmon—

(a)rhaid iddo baratoi adroddiad cyffredinol bob blwyddyn ynghylch cyflawni ei swyddogaethau (“adroddiad blynyddol”);

(b)caiff baratoi unrhyw adroddiad arall mewn perthynas â’i swyddogaethau sydd, yn ei farn ef, yn briodol (“adroddiad eithriadol”).

(2)Caniateir i adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn gynnwys unrhyw argymhellion cyffredinol sydd gan yr Ombwdsmon sydd wedi codi wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i’r Ombwdsmon osod copi o bob adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn gerbron y Cynulliad ac ar yr un pryd rhaid iddo anfon copi at Lywodraeth Cymru ac (os yw’r adroddiad yn adroddiad eithriadol) rhaid iddo anfon copi ohono at unrhyw awdurdodau rhestredig (ac eithrio Llywodraeth Cymru) sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.

(4)Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o unrhyw adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn at unrhyw bersonau eraill sydd, yn ei farn ef, yn briodol.

(5)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi unrhyw adroddiad a osodir gerbron y Cynulliad o dan y paragraff hwn, a chaiff y Cynulliad hefyd gyhoeddi’r adroddiad.

(6)Rhaid i’r Ombwdsmon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan y Cynulliad mewn perthynas ag adroddiad blynyddol.

(7)Os yw adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw awdurdod rhestredig, darparwr cartref gofal, darparwr gofal cartref neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol—

(i)y mae cwyn wedi’i gwneud i’r Ombwdsmon amdano neu wedi’i hatgyfeirio at yr Ombwdsmon yn ei gylch o dan y Ddeddf hon, neu

(ii)y mae’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad iddo o dan adran 4 neu 44, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-baragraff (3), a anfonir at berson o dan is-baragraff (3) neu (4) neu a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan is-baragraff (5), yn ddarostyngedig i is-baragraff (8).

(8)Nid yw is-baragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau unrhyw bersonau sydd, yn ei farn ef yn briodol, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

Amcangyfrifon

16(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Ombwdsmon baratoi amcangyfrif o incwm a threuliau ei swyddfa.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyflwyno’r amcangyfrif o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi i’r pwyllgor neu i’r pwyllgorau Cynulliad a bennir yn rheolau sefydlog y Cynulliad.

(3)Rhaid i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau archwilio amcangyfrif a gyflwynwyd yn unol ag is-baragraff (2) ac yna rhaid gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad gydag unrhyw addasiadau a ystyrir yn briodol.

(4)Cyn gosod gerbron y Cynulliad amcangyfrif gydag addasiadau a gyflwynwyd yn unol ag is-baragraff (2), rhaid i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau—

(a)ymgynghori â’r Ombwdsmon, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wna’r Ombwdsmon.

(5)Y flwyddyn ariannol gyntaf yw’r flwyddyn ariannol y penodir y person cyntaf i’w benodi’n Ombwdsmon.

Cyfrifon

17(1)Rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)cadw cofnodion cyfrifyddu cywir, a

(b)ar gyfer pob blwyddyn ariannol, baratoi cyfrifon yn unol â chyfarwyddydau a roddir i’r Ombwdsmon gan y Trysorlys.

(2)Mae’r cyfarwyddydau y caiff y Trysorlys eu rhoi o dan is-baragraff (1)(b) yn cynnwys cyfarwyddydau i baratoi cyfrifon sy’n ymwneud â materion a thrafodion ariannol personau heblaw’r Ombwdsmon.

(3)Mae’r cyfarwyddydau y caiff y Trysorlys eu rhoi o dan is-baragraff (1)(b) yn cynnwys, yn benodol, gyfarwyddydau ynghylch—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y caiff ei chyflwyno;

(b)y dulliau a’r egwyddorion a fydd yn sail ar gyfer paratoi’r cyfrifon;

(c)yr wybodaeth ychwanegol (os o gwbl) sydd i fynd gyda’r cyfrifon.

Archwilio

18(1)Rhaid i’r cyfrifon a gaiff eu paratoi gan yr Ombwdsmon ar gyfer blwyddyn ariannol gael eu cyflwyno ganddo i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol ddilynol.

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio, ardystio a llunio adroddiad am bob set o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn, a

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod gerbron y Cynulliad gopi ohonynt fel y’u hardystiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghyd ag adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru arnynt (“copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad”).

(3)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad gerbron y Cynulliad ar ôl y terfyn amser o bedwar mis a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) pan na fo’n rhesymol ymarferol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gadw at y terfyn amser hwnnw.

(4)Pan fo is-baragraff (3) yn gymwys, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cyn y terfyn amser o bedwar mis a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b), osod gerbron y Cynulliad ddatganiad yn esbonio pam nad yw’n rhesymol ymarferol i Archwilydd Cyffredinol Cymru osod copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad gerbron y Cynulliad cyn y terfyn amser hwnnw, a

(b)gosod copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad gerbron y Cynulliad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y terfyn amser hwnnw.

(5)Wrth archwilio cyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn benodol, fod wedi ei fodloni—

(a)yr aethpwyd yn gyfreithiol i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef, ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant, a

(b)bod yr Ombwdsmon wedi gwneud trefniadau priodol i ddefnyddio adnoddau’r Ombwdsmon yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol.

Swyddog cyfrifyddu

19(1)Yr Ombwdsmon yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Ombwdsmon.

(2)Os nad yw’r Ombwdsmon yn gallu cyflawni ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfrifyddu, caiff y Pwyllgor Archwilio ddynodi aelod o staff yr Ombwdsmon i fod yn swyddog cyfrifyddu cyhyd ag y mae’r Ombwdsmon yn methu â chyflawni ei gyfrifoldebau.

(3)Os yw swydd yr Ombwdsmon yn wag ac os nad oes Ombwdsmon dros dro, caiff y Pwyllgor Archwilio ddynodi aelod o staff yr Ombwdsmon i fod yn swyddog cyfrifyddu cyhyd ag y bydd swydd yr Ombwdsmon yn wag a bod dim Ombwdsmon dros dro.

(4)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid yr Ombwdsmon, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Pwyllgor Archwilio.

(5)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys yn benodol—

(a)cyfrifoldebau o ran llofnodi cyfrifon,

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid yr Ombwdsmon, ac

(c)cyfrifoldebau am y modd darbodus, effeithlon ac effeithiol y defnyddir adnoddau’r Ombwdsmon.

(6)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfrifoldebau i’r canlynol—

(a)y Cynulliad, Gweinidogion Cymru neu’r Pwyllgor Archwilio, neu

(b)Tŷ’r Cyffredin neu ei Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

(7)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin, caiff y Pwyllgor Archwilio—

(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a

(b)cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a throsglwyddo i’r Pwyllgor hwnnw unrhyw dystiolaeth a gafwyd.

Archwiliadau i’r defnydd o adnoddau

20(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau ynghylch pa mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y defnyddiodd yr Ombwdsmon ei adnoddau i gyflawni ei swyddogaethau.

(2)Ni chaniateir dehongli is-baragraff (1) yn un sy’n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi’r Ombwdsmon.

(3)Wrth benderfynu sut i gyflawni swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried barn y Pwyllgor Archwilio ynghylch yr archwiliadau y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru eu cynnal.

(4)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod gerbron y Cynulliad adroddiad am ganlyniadau unrhyw archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn.

Pwerau atodol

21Caiff yr Ombwdsmon wneud unrhyw beth (gan gynnwys caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawliau) a fwriedir i’w hwyluso i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gydnaws â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â hynny.

Yr Ombwdsmon blaenorol i barhau yn Ombwdsmon

22(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r person sydd yn Ombwdsmon yn union cyn y diwrnod penodedig.

(2)Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny bydd y person—

(a)yn parhau i fod yn Ombwdsmon ac yn cael ei drin fel petai wedi cael ei benodi i’r swydd honno o dan y Ddeddf hon;

(b)yn dal y swydd am saith mlynedd namyn cyfnod sy’n cyfateb i’r cyfnod y bu’r person yn Ombwdsmon cyn y diwrnod penodedig.

(3)Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources