- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019, Adran 8F.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Nid yw teler mewn les ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i denant o dan y les honno neu unrhyw is-les—
(a)gwahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd, neu
(b)cyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,
(ond mae’r les yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys—
(a)os yw’r gofyniad yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys, neu
(b)os yw’r landlord o dan y les neu uwchlandlord wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—
(i)nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a
(ii)sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd neu gyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,
a bod y gofyniad yn y les yn fodd i atal y sawl sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.
(3)Nid yw teler mewn les ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i denant o dan y les honno neu unrhyw is-les wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau (ond mae’r les yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).
(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r landlord o dan y les neu uwchlandlord wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—
(a)nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a
(b)sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau,
a bod y gofyniad yn y les yn fodd i atal y sawl sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.
(5)At ddibenion yr adran hon, mae telerau les yn cynnwys—
(a)telerau unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â’r les, a
(b)unrhyw ddogfen neu gyfathrebiad oddi wrth y landlord sy’n rhoi neu’n gwrthod cydsyniad i isosod o dan y les i gategori neu ddisgrifiad o berson.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 2A wedi ei fewnosod (1.6.2026) gan Renters’ Rights Act 2025 (c. 26), aau. 43(3), 145(3) (ynghyd ag aau. 49, 138) (ynghyd â pŵer i ddiwygio or repeal Rhn. 2A conferred (27.10.2025) gan aau. 47, 145(2) of the amending Deddf); O.S.C. 2026/6, ergl. 2(a)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: