F1Rhan 2AGwahardd gwahaniaethu

8FTelerau mewn uwchlesau yn ymwneud â phlant neu statws o ran budd-daliadau

(1)

Nid yw teler mewn les ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i denant o dan y les honno neu unrhyw is-les—

(a)

gwahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd, neu

(b)

cyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,

(ond mae’r les yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(2)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys—

(a)

os yw’r gofyniad yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys, neu

(b)

os yw’r landlord o dan y les neu uwchlandlord wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(i)

nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(ii)

sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd neu gyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,

a bod y gofyniad yn y les yn fodd i atal y sawl sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.

(3)

Nid yw teler mewn les ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i denant o dan y les honno neu unrhyw is-les wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau (ond mae’r les yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(4)

Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r landlord o dan y les neu uwchlandlord wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(a)

nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(b)

sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau,

a bod y gofyniad yn y les yn fodd i atal y sawl sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.

(5)

At ddibenion yr adran hon, mae telerau les yn cynnwys—

(a)

telerau unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â’r les, a

(b)

unrhyw ddogfen neu gyfathrebiad oddi wrth y landlord sy’n rhoi neu’n gwrthod cydsyniad i isosod o dan y les i gategori neu ddisgrifiad o berson.