Adran 44 – Gohirio adennill
82.Mae adrannau 181A-181I o DCRhT yn nodi’r amgylchiadau lle caiff person wneud cais i ACC i ohirio adennill treth ddatganoledig tra bo’n aros am adolygiad neu apêl ynghylch penderfyniad ACC, y broses ar gyfer gwneud cais o’r fath ac effaith caniatáu cais i ohirio.
83.Mae adran 44 yn diwygio adran 181B o DCRhT at ddibenion ceisiadau gohirio sy’n ymwneud â TGT. Effaith y diwygiadau yw ei gwneud yn ofynnol i ACC, wrth ystyried cais i ohirio TGT, yn ogystal ag ystyried pa un a oes gan berson sail resymol dros ddatgan bod swm y dreth yn ormodol (fel y byddai’n digwydd gyda threthi datganoledig eraill), ystyried hefyd a fyddai adennill y swm yn achosi caledi ariannol. Felly, rhaid i gais person i ohirio nodi’r rhesymau pam fod y person hwnnw yn meddwl y byddai adennill y dreth yn achosi caledi ariannol iddo, yn ogystal â nodi’r swm y mae’n gofyn am ei ohirio, a pham ei fod yn meddwl bod swm y dreth y mae ACC yn ceisio ei adennill yn ormodol.
84.Gellir caniatáu cais i ohirio yn llawn pan fydd y profion yn adran 181B(4) o DCRhT, fel y’i diwygiwyd gan adran 44(3), wedi eu bodloni, neu gellir caniatáu’r cais hwnnw mewn perthynas â rhan o swm y mae anghytundeb yn ei gylch yn unol ag adran 181B(5) fel y’i diwygiwyd gan adran 44(4)(b).