Adrannau 173-177 – Adolygiadau
200.Mae adran 173 yn ei gwneud yn ofynnol i gais am adolygiad gael ei wneud drwy roi hysbysiad i ACC. Ni chaniateir gwneud cais o’r fath os yw’r canlynol yn berthnasol mewn perthynas â’r un penderfyniad: bod ACC yn cynnal ymholiad, bod apêl wedi ei dyfarnu neu’n parhau, neu fod y person wedi ymrwymo i gytundeb setlo gydag ACC.
201.Mae adran 174 yn pennu terfyn amser o 30 o ddiwrnodau y mae’n rhaid i berson roi hysbysiad am gais o’i fewn. Bydd y diwrnod y bydd y cyfnod hwn yn dechrau yn amrywio, gan ddibynnu ar ba un o’r amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn yr adran hon sy’n gymwys. Er enghraifft, mewn sawl achos rhoddir 30 o ddiwrnodau i berson ar ôl dyroddi hysbysiad sy’n ei hysbysu am benderfyniad, yn unol ag is-adran (2)(b). Rhaid i’r hysbysiad am gais a roddir i ACC bennu’r seiliau ar gyfer yr adolygiad.
202.Mae adran 175 yn caniatáu i hysbysiad am gais gael ei wneud ar ôl y cyfnod a bennir yn adran 174 os yw ACC yn cytuno i hynny neu os yw’r tribiwnlys yn rhoi ei ganiatâd. Bydd rheolau’r tribiwnlys yn ymdrin â’r weithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau i’r tribiwnlys ganiatáu adolygiad hwyr.
203.Mae adran 176(1) yn gosod dyletswydd ar ACC i gynnal adolygiad o benderfyniad apeliadwy pan fo hysbysiad am gais wedi ei wneud sy’n cydymffurfio â’r darpariaethau blaenorol ar gyfer adolygiadau yn adrannau 173-175. Mae adran 176(2) yn darparu y caiff yr adolygiad fod ar unrhyw ffurf a ymddengys yn briodol i ACC o dan yr amgylchiadau, ond wrth benderfynu beth sy’n briodol, mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC roi sylw i gamau a gymerodd ACC cyn yr adolygiad wrth ddod i benderfyniad, a chan unrhyw berson sy’n ceisio datrys anghytundeb ynghylch y penderfyniad.
204.Wrth gynnal ei adolygiad, rhaid i ACC ystyried unrhyw sylwadau a wneir i ACC gan y person sy’n gofyn am yr adolygiad, ar yr amod eu bod yn cael eu gwneud ar adeg sy’n rhoi cyfle rhesymol i ACC eu hystyried. Gall yr adolygiad ddod i’r casgliad bod penderfyniad ACC i’w gadarnhau, i’w amrywio neu i’w ganslo. Mae adran 176(6) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau ei adolygiad. Dylid gwneud hynny o fewn 45 o ddiwrnodau i dderbyn hysbysiad y person am gais oni bai bod y partïon wedi cytuno ar gyfnod gwahanol. Mae is-adran (7) yn darparu, os nad yw ACC yn dyroddi hysbysiad am ei gasgliadau o fewn y cyfnod sy’n ofynnol o dan is-adran (6), y bernir bod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad bod penderfyniad ACC i’w gadarnhau, a rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r perwyl hwnnw.
205.Mae adran 177 yn darparu bod casgliadau’r adolygiad i’w trin fel pe baent yn ddyfarniad gan y tribiwnlys (ac eithrio na fydd hawl pellach i adolygiad neu apêl). Nid dyna fydd effaith casgliadau adolygiad, fodd bynnag, os bydd tribiwnlys yn dyfarnu wedi hynny mewn perthynas â’r penderfyniad, neu os yw ACC a’r person a ofynnodd am yr adolygiad yn ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw.