Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 – Trosolwg

6.Mae’r trosolwg o’r Ddeddf yn dangos sut y mae’r Rhannau o’r Ddeddf wedi eu trefnu ac yn rhoi disgrifiad byr o’r hyn y mae pob rhan yn ei wneud.

Rhan 2 – Awdurdod Cyllid Cymru

Adrannau 2-9 – Sefydlu, statws, aelodaeth, pwyllgorau a staff Awdurdod Cyllid Cymru

7.Mae adran 2 yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fel corff corfforaethol gyda’i bersonoliaeth gyfreithiol ei hun. Bydd ACC yn gorff y Goron gyda statws adran anweinidogol, yn hytrach na statws Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

8.Mae adrannau 3 i 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth ACC. Bydd y corff yn cynnwys aelodau anweithredol a gweithredol a bydd rhwng wyth a thri ar ddeg o aelodau. Mae adran 3(3) yn sicrhau bod nifer yr aelodau anweithredol wastad yn uwch na nifer yr aelodau gweithredol. Mae adran 4 yn nodi’r swyddi hynny a fyddai’n anghymhwyso person rhag cael ei benodi’n aelod anweithredol o ACC.

9.Mae adrannau 5 a 7 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru benodi, ailbenodi a diswyddo aelodau anweithredol gan gynnwys cadeirydd a dirprwy gadeirydd, ac i wneud rheoliadau i ddiwygio nifer yr aelodau. Ceir darpariaethau hefyd ar gyfer diswyddo’r aelod gweithredol etholedig.

10.Mae adran 6 yn darparu ar gyfer penodi aelod gweithredol etholedig. Bydd yr aelod gweithredol etholedig yn cael ei benodi gan yr aelodau anweithredol yn dilyn pleidlais gudd ymhlith staff ACC a gynhelir gan ACC.

11.Mae adran 8 yn gwneud darpariaeth i ACC sefydlu pwyllgorau (a gaiff sefydlu is-bwyllgorau) at unrhyw ddiben sy’n ymwneud â’i swyddogaethau. Caiff ACC benderfynu ar gyfansoddiad y pwyllgorau a hefyd benodi pobl nad ydynt yn aelodau o ACC a thalu iddynt am y gwasanaethau a roddant, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

12.Mae adran 9 yn darparu ar gyfer penodi prif weithredwr ACC, sy’n atebol i ACC am redeg ACC mewn modd effeithlon ac effeithiol. Gweinidogion Cymru fydd yn penodi’r prif weithredwr cyntaf ac aelodau anweithredol ACC fydd yn gwneud y penodiadau dilynol, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Gwneir darpariaeth hefyd i ACC benodi staff, a bydd y staff hynny yn weision sifil.

Adrannau 10-11 – Gweithdrefn a dilysrwydd

13.Mae adran 10 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC lunio rheolau i reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn ei bwyllgorau. Rhaid i’r rheolau hyn ddarparu na fydd cworwm mewn cyfarfod o ACC oni bai bod mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol yn aelodau anweithredol o ACC. Mae adran 11 yn pennu dilysrwydd trafodion neu weithredoedd ACC.

Adrannau 12-15 – Swyddogaethau

14.Mae adran 12 yn nodi swyddogaethau ACC, gan gynnwys ei swyddogaeth gyffredinol o gasglu a rheoli trethi datganoledig a’i swyddogaethau penodol mewn perthynas â threthi o’r fath gan gynnwys: darparu gwybodaeth a chymorth i Weinidogion Cymru a threthdalwyr ac eraill; datrys cwynion ac anghydfodau; a hybu cydymffurfedd o ran trethi a gweithio i amddiffyn rhag efadu trethi ac osgoi trethi. Caiff ACC gymryd camau eraill y mae’n eu hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau. Mae adran 13 yn gwneud darpariaeth i ACC awdurdodi’n fewnol i aelodau ACC, pwyllgorau, is-bwyllgorau neu staff ACC gyflawni ei swyddogaethau. Mae adran 13(2) yn ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf un aelod anweithredol yn aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a awdurdodir i gyflawni swyddogaethau ACC. Pan fo ACC wedi awdurdodi i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni o dan adran 13, nid yw hyn yn effeithio ar allu ACC i arfer y swyddogaeth honno nac ar gyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.

15.Mae adran 14 yn gwneud darpariaeth i ACC ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i un neu ragor o’r cyrff a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.

16.Rhoddir pŵer i ACC dalu sefydliad y mae wedi dirprwyo swyddogaeth iddo a rhoi cyfarwyddydau ynghylch sut y mae swyddogaethau a ddirprwywyd i’w harfer. Rhaid i ACC gyhoeddi gwybodaeth am unrhyw ddirprwyaethau a chyfarwyddydau o’r fath a roddir, oni bai ei fod o’r farn y byddai hynny’n niweidio gallu ACC i arfer ei swyddogaethau yn effeithiol.

17.Pan ddirprwyir swyddogaethau bydd ACC yn parhau i allu arfer unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo a bydd yn parhau i fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.

18.Mae adran 15 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau o natur gyffredinol i ACC, a bod rhaid i ACC, wrth arfer ei swyddogaethau, gydymffurfio â hwy. Gallant ymwneud â blaenoriaethau polisi strategol, er enghraifft, neu ag ACC yn arfer ei bŵer dirprwyo o dan adran 14. Rhaid i gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru gael eu cyhoeddi.

Adrannau 16-20 – Gwybodaeth

19.Mae adran 16 yn caniatáu i wybodaeth sydd wedi dod i law ACC, neu i law sefydliad y mae swyddogaethau ACC wedi eu dirprwyo iddo, gael ei defnyddio (yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y DU sy’n cyfyngu ar y defnydd o wybodaeth neu’n gwahardd ei defnyddio) o fewn ACC, neu gan unrhyw sefydliad y mae swyddogaethau wedi eu dirprwyo iddo, mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC.

20.Mae adran 17 yn gwahardd swyddog perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 17(2)) rhag datgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr (fel y’i diffinnir yn adran 17(3)) oni bai bod hynny’n cael ei ganiatáu yn benodol. Mae torri’r gofyniad hwn yn drosedd o dan adran 20. Nodir y seiliau ar gyfer datgelu a ganiateir yn adran 18.

21.Mae adran 19 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion perthnasol a gaiff weld gwybodaeth warchodedig am drethdalwyr wneud datganiad sy’n cydnabod y rhwymedigaeth sydd arnynt i barchu cyfrinachedd.

Adrannau 21-22 – Achosion llys a thystiolaeth

22.Mae adran 21 yn rhoi’r grym i ACC gychwyn achosion troseddol a sifil yng Nghymru a Lloegr. Caiff ACC benodi unigolion i weithredu ar ei ran mewn achosion mewn llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr hyd yn oed os nad yw’r unigolion hynny’n bersonau a awdurdodwyd (“authorised persons”) o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007.

23.Mae adran 22 yn egluro statws tystiolaethol dogfennau a ddyroddir gan ACC, neu ar ei ran, a materion penodol a ddatgenir mewn dogfennau o’r fath, sydd i’w defnyddio mewn achosion cyfreithiol, gan gynnwys y ffaith bod copi ardystiedig o ddogfen yn dderbyniol i’r un graddau â’r ddogfen wreiddiol mewn achosion cyfreithiol.

24.Pan fo ACC yn dyroddi tystysgrif i’r perwyl nad yw ffurflen dreth wedi ei dychwelyd i ACC, neu nad yw hysbysiad wedi ei roi i ACC, pan ddylai hynny fod wedi digwydd, mae’r dystysgrif honno yn dystiolaeth o’r ffaith, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Adrannau 23-25 – Arian

25.Mae adran 23 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru dalu ACC am ymgymryd â swyddogaethau casglu a rheoli trethi. Bydd Gweinidogion Cymru yn pennu’r swm, yr amseroedd talu ac unrhyw amodau talu sy’n briodol yn eu barn hwy.

26.Mae adran 24 yn caniatáu i ACC roi gwobr i berson yn dâl am wasanaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau. Enghraifft o hyn fyddai rhoi gwobr i hysbysydd sy’n darparu gwybodaeth sy’n arwain yn llwyddiannus at gasglu treth nas datganwyd mewn amgylchiadau pan fo person wedi ceisio efadu neu osgoi talu trethi Cymreig datganoledig.

27.Mae adran 25 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC dalu’r arian y mae wedi ei gasglu (gan gynnwys trethi datganoledig, cosbau a llog ar symiau sy’n daladwy i ACC) i Gronfa Gyfunol Cymru, ond ar ôl iddo ddidynnu unrhyw alldaliadau (er enghraifft, ad-dalu credydau a llog). At ddibenion yr adran hon nid yw unrhyw wobrau a delir o dan adran 24 yn alldaliadau.

Adran 26 – Siarter safonau a gwerthoedd

28.Rhaid i ACC baratoi Siarter, ymgynghori arni, ei chyhoeddi a’i gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhaid i’r Siarter nodi’r safonau gwasanaeth, y safonau ymddygiad a’r gwerthoedd y disgwylir i aelodau a staff ACC gadw atynt wrth ymdrin â threthdalwyr a’u hasiantiaid, a’r safonau ymddygiad a’r gwerthoedd y mae ACC yn eu disgwyl gan y rhai y mae’n ymdrin â hwy. Mae’n ofynnol hefyd i ACC adolygu’r Siarter bob pum mlynedd, ei diwygio pan fo’n briodol a chyhoeddi’r Siarter gyntaf o fewn 3 mis i’r adran hon o’r Ddeddf ddod i rym.

Adrannau 27-28 – Cynllun corfforaethol ac adroddiad blynyddol

29.Mae adran 27 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC baratoi cynllun corfforaethol ar gyfer pob cyfnod cynllunio. Diffinnir cyfnod cynllunio, ac mae’r cynllun cyntaf i’w gyhoeddi yn ddim hwyrach nag ar ddyddiad a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau. Mae cynlluniau dilynol i’w cyflwyno i Weinidogion Cymru bob 3 blynedd wedi hynny.

30.Rhaid i’r cynllun ddisgrifio prif amcanion ACC, y canlyniadau y gellir mesur yr amcanion hynny yn eu herbyn a’r gweithgareddau y mae’n disgwyl ymgymryd â hwy yn ystod y cyfnod cynllunio. Rhaid i gynlluniau gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo ganddynt, a rhaid i gynlluniau a gymeradwywyd gael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’u cyhoeddi.

31.Caiff ACC gyflwyno cynllun corfforaethol diwygiedig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cynllunio, i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru adolygu’r cyfnod cynllunio o 3 blynedd drwy reoliadau.

32.Mae adran 28 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar yr hyn y mae wedi ei wneud i gyflawni ei amcanion yn ystod y flwyddyn ariannol honno. Rhaid i’r adroddiad blynyddol gael ei anfon at Weinidogion Cymru a’i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhaid i’r adroddiad gynnwys yn benodol asesiad o’r graddau y mae ACC wedi amlygu’r safonau gwasanaeth, y safonau ymddygiad a’r gwerthoedd a nodir yn ei Siarter. Rhaid i’r adroddiad fod ar gael i Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr “Archwilydd Cyffredinol”) ar adeg debyg i Gyfrifon a Datganiad Treth ACC.

Adrannau 29-32 – Cyfrifon ac archwilio

33.Mae adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC gadw cofnodion llawn a phriodol a’u paratoi ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Rhaid paratoi’r Cyfrifon yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

34.Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ACC ynghylch yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae i’w chyflwyno, y dulliau a’r egwyddorion a ddefnyddir i baratoi’r cyfrifon ac unrhyw wybodaeth ategol arall a ddylai fynd gyda’r cyfrifon.

35.Mae adran 30 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC baratoi Datganiad Treth o’r arian a dderbyniwyd (pa un a gasglwyd yr arian yn uniongyrchol neu gan sefydliad y dirprwywyd swyddogaethau casglu trethi iddo) ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau gan Weinidogion Cymru.

36.Mae adran 31 yn nodi erbyn pa bryd y mae’n rhaid i ACC gyflwyno’r cyfrifon a’r Datganiad Treth i’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion archwilio.

37.Wrth archwilio’r cyfrifon a’r Datganiad Treth rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gael ei fodloni yr aed i wariant yn gyfreithlon, nad yw arian a dderbyniwyd wedi ei wario ond at y diben a fwriadwyd, bod arian a gasglwyd wedi ei gasglu’n gyfreithlon, a bod unrhyw alldaliadau a ddidynnwyd wedi eu didynnu yn unol ag adran 25(2). O fewn 4 mis i dderbyn y cyfrifon a’r Datganiad Treth gan ACC rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod copi ardystiedig o’r cyfrifon a’r Datganiad Treth, a’i adroddiad, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

38.Gwneir darpariaeth o dan adran 32 i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal archwiliad o’r graddau y mae ACC wedi defnyddio adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol wrth arfer ei swyddogaethau. Os yw’r Archwilydd Cyffredinol o’r farn bod archwiliad o’r fath yn angenrheidiol, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn y lle cyntaf ac ystyried ei farn o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio. Os cynhelir archwiliad, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad ar y canlyniadau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a gosod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 33 – Swyddog cyfrifo

39.Mae Prif Weithredwr ACC hefyd yn swyddog cyfrifo ACC. Bydd Gweinidogion Cymru yn pennu cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifo, ond mae’r adran yn nodi enghreifftiau o beth allai’r cyfrifoldebau hynny fod, gan gynnwys llofnodi cyfrifon ACC, sicrhau priodoldeb a rheoleidd-dra cyllid ACC, a defnyddio adnoddau ACC yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol. Gallai’r cyfrifoldebau fel swyddog cyfrifo hefyd fod yn gyfrifoldebau sy’n ddyledus i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i Weinidogion Cymru neu i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 34 – Cofnodion Cyhoeddus Cymru

40.Mae’r adran yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 fel bod cofnodion ACC yn cael eu hystyried yn gofnodion cyhoeddus Cymru.

Adran 35 – Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus

41.Mae’r adran yn ychwanegu ACC at y rhestr o gyrff cyhoeddus yng Nghymru a gynhwysir yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 er mwyn galluogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i fod ag awdurdodaeth dros ACC.

Adran 36 – Archwilydd Cyffredinol Cymru

42.Mae’r adran hon yn ychwanegu at Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 er mwyn darparu y caiff yr Archwilydd Cyffredinol godi ffi ar ACC am ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad mewn cysylltiad â Datganiad Treth ACC.

Rhan 3 – Ffurflenni, Ymholiadau Ac Asesiadau Treth

Adran 37 – Trosolwg

43.Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r Rhan sy’n ymwneud ag asesu trethi datganoledig, sef dyletswyddau trethdalwyr, ffurflenni treth, ymholiadau gan ACC i ffurflenni treth, dyfarniadau ac asesiadau treth gan ACC a hawliadau am ymwared rhag treth, ac ad-daliadau a’r weithdrefn ar gyfer eu gwneud.

Adrannau 38-39 – Dyletswyddau trethdalwyr i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel

44.Mae adran 38 yn gosod dyletswydd ar berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth ddatganoledig i gadw cofnodion sy’n angenrheidiol er mwyn llenwi’r ffurflen honno a’u storio’n ddiogel. Mae’n nodi’r mathau o gofnodion sydd i’w cadw ac am ba hyd y mae angen storio cofnodion yn ddiogel, a hefyd yn caniatáu i ACC bennu dyddiad cynharach. Gwneir darpariaeth hefyd i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ragnodi’r cofnodion a’r dogfennau ategol y mae’n rhaid eu cadw a’u storio’n ddiogel.

45.Mae adran 39 yn nodi sut y gellir bodloni’r ddyletswydd ar drethdalwyr i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel, ac yn egluro y gellir eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, er bod hyn yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a nodir mewn rheoliadau.

Adrannau 40-42 – Ffurflenni treth

46.Mae adran 40 yn diffinio’r “dyddiad ffeilio” fel y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth ar gyfer treth ddatganoledig. Bydd deddfwriaeth ynglŷn â’r trethi datganoledig penodol yn gwneud darpariaeth ynghylch beth yw’r dyddiad hwnnw o dan amgylchiadau penodol. Mae adran 41 yn galluogi person sy’n dychwelyd ffurflen dreth i’w diwygio, ac yn nodi sut a phryd y caniateir gwneud hynny. Rhaid i berson sy’n gwneud diwygiad wneud hynny o fewn 12 mis i’r dyddiad ffeilio neu erbyn unrhyw ddyddiad arall y mae Gweinidogion Cymru wedi ei ragnodi drwy reoliadau. Ni chaniateir gwneud diwygiad pan fo ACC wedi dyroddi hysbysiad i ddiwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad i’r ffurflen dreth (adran 45(3)) neu pan fo hysbysiad cau wedi ei ddyroddi yn dilyn cwblhau ymholiad (adran 50).

47.Mae adran 42 yn caniatáu i ACC gywiro ffurflen dreth sy’n cynnwys gwallau neu hepgoriadau amlwg drwy roi hysbysiad i’r trethdalwr. Gallai gwall amlwg fod yn rhywbeth fel gwall rhifyddol er bod y ffigurau a ddefnyddiwyd i wneud y cyfrifiad yn gywir. Rhaid i ACC wneud cywiriad o fewn 9 mis i’r dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth. Caiff y trethdalwr wrthod y cywiriad drwy ddiwygio’r ffurflen dreth neu drwy roi hysbysiad sy’n gwrthod y cywiriad, ar yr amod y gwneir hynny o fewn 3 mis i ddyddiad hysbysiad cywiro ACC.

Adrannau 43-45 – Hysbysiad a chwmpas ymholiad a diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad

48.Mae adran 43 yn darparu y caiff ACC wneud ymholiad i ffurflen dreth, ar yr amod yr hysbysir y person a ddychwelodd y ffurflen am y bwriad i gynnal ymholiad. Dim ond un ymholiad a ganiateir mewn perthynas ag unrhyw ffurflen dreth benodol (ac eithrio pan fo’r trethdalwr yn diwygio’r ffurflen; mewn achos o’r fath caniateir cynnal ymholiad arall i’r diwygiad hwnnw neu i faterion y mae’r diwygiad yn effeithio arnynt). Mae adran 44 yn nodi cwmpas a chyfyngiadau ymholiad ACC i ffurflen dreth.

49.Mae adran 45 yn darparu y caiff ACC ddiwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad os yw o’r farn bod swm y dreth ddatganoledig a nodir fel y swm sy’n daladwyar y ffurflen dreth yn annigonol a’i bod yn debygol y bydd treth ddatganoledig yn cael ei cholli os na wneir y diwygiad yn syth. Pan wneir ymholiad i ffurflen dreth ddiwygiedig, mae’n cyfyngu ar bŵer ACC i ddiwygio’r ffurflen dreth i faterion sydd wedi eu diwygio gan y trethdalwr neu i rai y mae’r diwygiad yn effeithio arnynt. Caiff y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo ei ddiffinio at ddibenion adrannau 45 a 46. Rhaid i unrhyw swm o dreth ddatganoledig sy’n daladwy yn dilyn y diwygiad gael ei dalu o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi hysbysiad am y diwygiad.

Adrannau 46-49 – Atgyfeirio at dribiwnlys yn ystod ymholiad

50.Mae adran 46 yn darparu ar gyfer atgyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch y ffurflen dreth yn ystod ymholiad at y tribiwnlys (fel y’i diffinnir yn adran 192) er mwyn iddo ddyfarnu arnynt. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad atgyfeirio gael ei roi ar y cyd gan y person perthnasol ac ACC. Bydd rheolau’r tribiwnlys yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn atgyfeiriad. Mae adran 47 yn galluogi’r naill barti neu’r llall i dynnu hysbysiad atgyfeirio a wnaed o dan yr adran flaenorol yn ôl.

51.Mae adran 48 yn nodi effaith atgyfeiriad o dan adran 46 ar ymholiad. Mae’n darparu na chaniateir gwneud hysbysiad cau o dan adran 50 neu gais am gyfarwyddyd i ddyroddi hysbysiad cau o dan adran 51 wrth i achos o dan adran 46 fynd rhagddo, ac mae’n diffinio ystyr “mynd rhagddo” yn y cyd-destun hwn.

52.Mae adran 49 yn darparu bod dyfarniad y tribiwnlys ynghylch cwestiwn o dan adran 46 yn rhwymo’r partïon, ac na ellir ailedrych arno os apelir yn erbyn canlyniad yr ymholiad (oni fo’n fater y byddai’r tribiwnlys yn caniatáu ailedrych arno pe bai wedi gwneud penderfyniad rhagarweiniol yn ei gylch mewn apêl arferol). Mae’n ei gwneud yn ofynnol i ACC roi ystyriaeth i’r dyfarniad wrth ddod i gasgliadau ynghylch yr ymholiad ac wrth wneud unrhyw ddiwygiadau i’r ffurflen dreth.

Adrannau 50-51 – Cwblhau ymholiad

53.Mae adran 50 yn darparu ar gyfer cwblhau ymholiad. Mae’n ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad cau i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth unwaith y bydd ymholiad wedi ei gwblhau. Rhaid i hysbysiad cau ddatgan a yw’n ofynnol diwygio’r ffurflen ai peidio, a rhaid iddo wneud unrhyw ddiwygiadau sy’n ofynnol. Rhaid i unrhyw dreth sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wnaed gan yr hysbysiad cau gael ei thalu o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad.

54.Mae adran 51 yn darparu y caiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd y dylai ACC ddyroddi hysbysiad cau. Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon bod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â gwneud hynny. Bydd rheolau’r tribiwnlys yn nodi’r weithdrefn ar gyfer cais o’r fath.

Adrannau 52-53 – Dyfarniadau ACC

55.Mae adran 52 yn darparu y caiff ACC ddyfarnu ar swm y dreth ddatganoledig sydd i’w chodi pan fo’n credu bod treth ddatganoledig i’w chodi ar berson ac nad yw’r person hwnnw wedi ffeilio ffurflen dreth erbyn y dyddiad gofynnol. Rhaid rhoi hysbysiad am y dyfarniad i’r person y credir ei fod yn agored i dalu’r dreth ddatganoledig. Rhaid i’r person wneud y taliad o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad. Ni chaniateir gwneud dyfarniad fwy na 4 blynedd ar ôl y dyddiad y dylai ffurflen dreth fod wedi ei ffeilio gydag ACC.

56.Mae adran 53 yn darparu, pan fo person yn dychwelyd ffurflen dreth a hunanaseswyd ar ôl i ACC wneud dyfarniad, y bydd y ffurflen dreth yn disodli dyfarniad ACC. Nid yw’r ddarpariaeth yn gymwys pan fo person yn dychwelyd ffurflen dreth dros 4 blynedd ar ôl i’r pŵer i wneud y dyfarniad ddod yn arferadwy gyntaf gan ACC, neu dros 12 mis ar ôl y dyddiad y dyroddwyd y dyfarniad, pa un bynnag sydd hwyraf. Mewn amgylchiadau pan fo achos wedi cychwyn i adennill treth yn dilyn dyfarniad gan ACC, a bod ACC yn derbyn ffurflen dreth sy’n disodli ei ddyfarniad tra bo’r achos hwnnw’n mynd rhagddo, caniateir i’r achos barhau fel pe bai’n achos i adennill cymaint o’r dreth hunanasesiedig ag sy’n ddyledus ac nad yw wedi ei thalu eto. Gwneir hynny er mwyn sicrhau nad oes angen i ACC roi’r gorau i’r achos hwnnw ac ailddechrau, dim ond am fod ffurflen dreth hwyr wedi ei dychwelyd.

Adrannau 54-61 – Asesiadau ACC

57.Mae adran 54 yn caniatáu i ACC asesu’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi pan fo o’r farn bod angen gwneud iawn am dreth a gollwyd os nad aseswyd swm y dylid bod wedi ei asesu, os yw swm a aseswyd yn llai nag y dylasai fod, neu os yw ymwared a roddwyd yn ormodol neu wedi dod yn ormodol.

58.Mae adran 55 yn darparu y caiff ACC wneud asesiad er mwyn adennill ad-daliad treth gormodol, gan gynnwys unrhyw log y gellid bod wedi ei dalu.

59.Mae adrannau 56 a 57 yn darparu bod cyfeiriadau at “asesiad ACC” i olygu asesiadau a wneir o dan adrannau 54 neu 55 a bod cyfeiriadau at y trethdalwr o dan adrannau 58 i 61 i olygu’r person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno, ac mewn perthynas ag asesiad i adennill ad-daliad treth gormodol, y person y gwnaed yr ad-daliad treth gormodol iddo.

60.Mae adran 58 yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i ACC wneud asesiad i ddau achos. Yr achos cyntaf yw sefyllfa sy’n codi o ganlyniad i ymddygiad diofal neu fwriadol y trethdalwr (a ddiffinnir yn adran 60), person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr neu berson a oedd mewn partneriaeth (a ddiffinnir yn adran 192) â’r trethdalwr ar yr adeg berthnasol. Yr ail achos y caniateir gwneud asesiad ynddo yw amgylchiadau pan nad oes gan ACC hawl i gynnal ymholiad i ffurflen dreth (fel arfer am fod y terfyn amser ar gyfer gwneud hynny wedi dod i ben) neu bod ACC wedi cynnal ymholiad, ac ar yr adeg y daeth yr ymholiad i ben (neu y daeth hawl ACC i gynnal ymholiad i ben), na fyddai wedi bod yn rhesymol disgwyl i ACC fod yn ymwybodol o’r wybodaeth y mae’n ystyried yn awr y gallai arwain at golli treth neu ad-daliad treth gormodol yn ystod cyfnod yr ymholiad. Mae is-adran (4) yn gwahardd ACC rhag gwneud asesiad o dan y darpariaethau hyn os gellir priodoli’r sefyllfa i gamgymeriad wrth gyfrifo’r rhwymedigaeth i dreth a oedd yn gyson â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar yr adeg y dychwelwyd y ffurflen.

61.Mae adran 59 yn darparu’r terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC. Y terfyn amser cyffredinol yw 4 blynedd ar ôl y dyddiad ffeilio, neu 4 blynedd ar ôl y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth os oedd hynny’n hwyrach. Caiff y terfyn amser hwn ei ymestyn i 6 mlynedd os gellir priodoli colli’r dreth i ddiofalwch ar ran y trethdalwr neu berson cysylltiedig, neu 20 mlynedd pan fo colli’r dreth wedi ei beri’r fwriadol gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig. Nid yw asesiad ACC i adennill ad-daliad treth gormodol yn hwyr os caiff ei wneud o fewn 12 mis i’r ad-daliad hwnnw (hyd yn oed mewn achosion pan fyddai, fel arall, oddi allan i’r terfyn amser o 4, 6 neu 20 mlynedd). Os yw trethdalwr wedi marw, rhaid i ACC gynnal asesiad o gynrychiolwyr personol trethdalwr o fewn 4 blynedd i’r farwolaeth, a dim ond os nad oedd y dyddiad perthnasol yn gynharach na 6 mlynedd cyn y farwolaeth. Mae’r adran hefyd yn egluro bod rhaid i unrhyw wrthwynebiad i asesiad gan ACC ar sail y terfynau amser gael ei wneud ar ffurf adolygiad neu apêl yn erbyn yr asesiad o dan Ran 8.

62.Mae adran 61 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad am asesiad i’r trethdalwr. Mae’n ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm a aseswyd o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad.

Adrannau 62-67 – Ymwared yn achos asesiad gormodol neu dreth a ordalwyd

63.Mae adran 62 yn darparu y caiff trethdalwr wneud hawliad i ACC am ymwared os yw’n credu ei fod wedi ei asesu fwy nag unwaith ar gyfer yr un mater.

64.Mae adran 63 yn darparu y caiff trethdalwr wneud hawliad i ACC am ad-daliad os yw wedi talu treth y mae’n credu nad oedd i’w chodi arno. Mae hefyd yn darparu, os asesir neu ddyfernir bod swm o dreth i’w godi ar berson, a’i fod yn credu na ddylid codi’r dreth arno, y caiff wneud hawliad i gael ei ryddhau o fod yn agored i’r dreth (hynny yw, ni fydd rhaid iddo dalu).

65.Mae adran 64 yn darparu y caiff ACC wrthod hawliad am ymwared ar y sail y byddai ei dalu yn cyfoethogi’r person sy’n gwneud yr hawliad mewn modd anghyfiawn. Gallai hyn ddigwydd mewn amgylchiadau pan nad y person a oedd yn ysgwyddo cost y dreth yn y pen draw oedd y person a dalodd y dreth ddatganoledig. Er enghraifft, yn achos treth dirlenwi gweithredwr y safle tirlenwi sy’n talu’r dreth, ond yn gyffredinol, y rheini y codir tâl arnynt am waredu’r gwastraff yn y safle tirlenwi sy’n ysgwyddo’r gost.

66.Mae adran 65 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan fo treth ddatganoledig i’w had-dalu neu ei rhyddhau pan wnaed y taliad yn wreiddiol gan berson heblaw’r trethdalwr, neu pan oedd y person arall hwnnw’n ysgwyddo cost y taliad treth yn y pen draw (ee fel cwsmer i’r trethdalwr y trosglwyddwyd cost y rhwymedigaeth i dreth iddo fel rhan o gost nwyddau neu wasanaethau y talodd i’r trethdalwr amdanynt). Dylai colled neu niwed sy’n gysylltiedig â rhagdybiaethau anghywir ynghylch treth a wnaed gan drethdalwr gael eu heithrio o ystyriaeth ynghylch a fyddai trethdalwr yn cael ei gyfoethogi mewn modd anghyfiawn, ac eithrio i’r graddau y mae’r trethdalwr yn gallu dangos bod swm y gellir ei faintioli o golled neu niwed wedi dod i ran y trethdalwr mewn gwirionedd, o ganlyniad i’r rhagdybiaethau anghywir hynny, y gellid digolledu amdanynt.

67.Mae adran 66 yn darparu, mewn perthynas â phan fo ACC yn dyfarnu a fyddai ad-daliad neu ymwared yn cyfoethogi’r hawlydd yn anghyfiawn (sef y sail ar gyfer gwrthod hawliad yn unol ag adran 64), y caniateir gwneud rheoliadau sy’n rhoi trefniadau talu’n ôl yn eu lle. Bwriad y trefniadau y byddai’r rheoliadau hyn yn eu rhoi yn eu lle fyddai atal y trethdalwr rhag cael ei gyfoethogi’n anghyfiawn ac ni fyddai hawliad am ymwared yn cael ei ganiatáu oni bai bod y trethdalwr wedi cydymffurfio â’r rheoliadau hynny.

68.Mae adran 67 yn rhoi rhestr o sefyllfaoedd (ac eithrio cyfoethogi anghyfiawn) lle nad oes angen i ACC roi effaith i hawliad am ymwared o dan adran 63.

Adrannau 68-73 – Gweithdrefn ar gyfer gwneud hawliadau, cadw cofnodion a’u storio’n ddiogel a diwygio a chywiro hawliadau

69.Mae adran 68 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dymuno gwneud hawliad am ymwared o dan amgylchiadau asesiad dwbl (adran 62), neu ar gyfer treth a ordalwyd (adran 63), wneud hynny yn y modd a bennir gan ACC. Rhaid i hawliad ddarparu datganiad gan yr hawlydd fod y manylion a ddarparwyd wedi eu datgan yn gywir. Caiff ACC hefyd ei gwneud yn ofynnol i roi manylion swm y dreth ddatganoledig sydd i’w ryddhau neu ei ad-dalu a gwybodaeth ategol er mwyn penderfynu ar gywirdeb yr hawliad. Ni chaniateir gwneud hawliad o dan adran 63 drwy ei gynnwys mewn ffurflen dreth.

70.Mae adran 69 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud hawliad gadw’r holl gofnodion sy’n angenrheidiol ac yn berthnasol i ategu’r cais, a storio’r cofnodion yn ddiogel am y cyfnodau a bennir. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu pa gofnodion a dogfennau ategol y mae angen eu cadw a’u storio’n ddiogel. Mae is-adran (5) yn diffinio dogfennau ategol. Mae adran 70 yn nodi sut y gellir bodloni’r ddyletswydd a osodir ar drethdalwr i storio cofnodion yn ddiogel. Mae adran 71 yn darparu y caiff person sy’n gwneud hawliad ei ddiwygio, ar yr amod y gwneir hynny drwy hysbysiad ac o fewn y cyfnod a nodir.

71.Mae adran 72 yn caniatáu i ACC ddiwygio hawliad er mwyn cywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau amlwg. Rhaid i ACC hysbysu’r hawlydd yn ysgrifenedig os yw’n gwneud diwygiad er mwyn cywiro gwall mewn hawliad, a gall yr hawlydd wrthod cywiriad ACC os yw’n rhoi hysbysiad i ACC. Nodir manylion y terfynau amser yn y darpariaethau. Mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC roi effaith i hawliad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud.

Adrannau 74–77 -  Ymholiad ACC i hawliad

72.Mae adran 74 yn darparu y caiff ACC wneud ymholiad i hawliad neu ddiwygiad o hawliad, ar yr amod ei fod yn gwneud hynny o fewn 12 mis ar ôl i’r hawliad gael ei wneud a’i fod yn hysbysu’r hawlydd o’i fwriad i wneud hynny. Dim ond un hysbysiad ymholiad a ganiateir ar gyfer pob hawliad.

73.Dyroddir hysbysiad cau o dan adran 75 gan ACC er mwyn cwblhau ymholiad. Mae’r hysbysiad cau yn hysbysu’r hawlydd beth yw casgliadau’r ymholiad ac yn diwygio’r hawliad os oes angen. O dan adran 76 gall hawlydd ofyn i’r tribiwnlys gyfarwyddo ACC i roi hysbysiad cau o fewn cyfnod penodedig. Yn y sefyllfa hon, rhaid i’r tribiwnlys gyfarwyddo ACC i ddyroddi’r hysbysiad cau o fewn cyfnod penodedig oni bai bod ACC yn ei fodloni bod seiliau rhesymol dros beidio â gwneud hynny. Mae adran 77 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC weithredu ar gasgliadau’r hysbysiad cau o fewn 30 o ddiwrnodau.

Adran 78 – Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau

74.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i hawliadau am ymwared rhag asesiad dwbl neu ordaliad treth a wneir o dan adran 62 neu 63 gael eu gwneud o fewn 4 blynedd i’r dyddiad yr oedd yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth, a bod rhaid iddynt gael eu gwneud ar wahân i unrhyw ffurflen dreth a ddychwelir i ACC (os nad yw ffurflen wedi ei dychwelyd hyd yma gellir gwneud unrhyw beth y gellid ei gynnwys mewn hawliad o fewn ffurflen dreth beth bynnag).

Adran 79 - Yr hawlydd: partneriaethau

75.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo gordaliad wedi ei wneud ar ran partneriaeth, mai dim ond rhywun sydd wedi ei enwebu i weithredu ar ran yr holl bartneriaid a fyddai wedi bod yn agored i’r dreth, pe byddai’r asesiad neu’r dyfarniad wedi bod yn gywir, all wneud hawliad am ymwared rhag gordaliad.

Adran 80 – Asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliad

76.Mae’r adran hon yn darparu, pan wneir hawliad am ymwared rhag treth a ordalwyd, a bod y seiliau ar gyfer yr hawliad hwnnw hefyd yn seiliau i ACC asesu’r hawlydd mewn perthynas â’r dreth, y gall ACC ddiystyru cyfyngiadau penodol ar ei allu i wneud asesiad. Mae’r rhain yn cynnwys diystyru’r ffaith bod terfyn amser wedi dod i ben. Mae hefyd yn darparu nad yw hawliad am ymwared rhag gordaliad wedi ei ddyfarnu’n derfynol hyd nes y bydd y swm y mae’n ymwneud ag ef wedi ei ddyfarnu’n derfynol (ee yn dilyn canlyniad adolygiad neu apêl).

Adran 81 – Setliadau contract

77.Mae’r adran hon yn gymwys i adran 63 (Hawlio ymwared rhag treth a ordalwyd etc.) mewn amgylchiadau pan fo swm a dalwyd mewn cysylltiad â threth ddatganoledig wedi ei dalu’n unol â setliad contract ond nad y person a dalodd ACC yw’r trethdalwr a oedd yn agored i dalu’r dreth. Mae adran 81 yn nodi goblygiadau trefniant o’r fath ar hawliad o dan adran 63.

Rhan 4 – Pwerau Ymchwilio Acc

Adrannau 83-85 – Dehongli

78.Mae adran 83 yn nodi pum math gwahanol o hysbysiad y gall ACC eu defnyddio i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu ddogfen. Gyda’i gilydd, fe’u disgrifir yn y Ddeddf fel “hysbysiadau gwybodaeth”. Mae is-adran (2) yn darparu rheol gyffredinol y caiff ACC bennu neu ddisgrifio’r wybodaeth neu’r dogfennau y mae’n eu ceisio. Mewn geiriau eraill, gallai hysbysiad gwybodaeth wneud dogfen benodol (ee dogfen gontract benodol) yn ofynnol, neu gallai ACC wneud dogfennau o fath arbennig yn ofynnol, neu ddogfennau sy’n cynnwys math arbennig o wybodaeth (ee unrhyw ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â thrafodiad penodol).

79.Dim ond os yw’r wybodaeth neu’r ddogfen y gofynnir amdani yn ofynnol at ddiben gwirio “sefyllfa dreth” person y caiff ACC arfer ei bwerau o dan adrannau 86, 87, 89 neu 92. Mae adran 84 yn nodi’r diffiniad o “sefyllfa dreth”, at ddiben y cyfeiriadau yn y Rhan hon o’r Ddeddf. Gall sefyllfa dreth gynnwys rhwymedigaeth person yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i dalu unrhyw dreth ddatganoledig neu gosbau cysylltiedig, llog ac unrhyw symiau eraill yn ymwneud â threth ddatganoledig a dalwyd neu sy’n daladwy gan y person neu i’r person. Mae hefyd yn cynnwys hawliadau a hysbysiadau mewn cysylltiad â’r rhwymedigaeth i dalu unrhyw dreth ddatganoledig. Mae’n dilyn felly y gellir defnyddio un o’r hysbysiadau hyn mewn cysylltiad ag ymholiad sy’n mynd rhagddo i ffurflen dreth neu hawliad neu i helpu ACC i wneud dyfarniad (gweler Pennod 5 o Ran 6) neu asesiad ACC (gweler Pennod 6 o’r Rhan honno). Mae’n debyg y bydd gwirio rhwymedigaeth bosibl person yn y dyfodol yn ddigwyddiad anghyffredin ond gall fod yn berthnasol, er enghraifft, mewn perthynas â rhai mathau o drafodiad tir sy’n digwydd dros gyfnod maith, ac y gellid gwneud ffurflen dreth ar eu cyfer cyn bod yr holl rwymedigaeth i dreth yn codi.

80.Mae adran 85 yn rhoi’r diffiniad o “redeg busnes”, sy’n cynnwys busnes y mae ei weithgarwch yn creu incwm o dir; dilyn proffesiwn; elusen; a gweithgareddau awdurdod lleol neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall. Mae hyn yn berthnasol pan fo ACC yn arfer ei bwerau o dan adran 92 (pŵer i gael gwybodaeth er mwyn gallu cadarnhau pwy yw person), ac adran 93 (pŵer i gael manylion cyswllt dyledwyr). Dim ond os yw’r sawl sy’n derbyn yr hysbysiad wedi cael yr wybodaeth wrth “redeg busnes” y gellir arfer y pwerau hyn.

Adran 86 – Hysbysiadau trethdalwr

81.Mae’r adran hon yn galluogi ACC i roi hysbysiad i berson yn ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno gwybodaeth neu ddogfennau, ar yr amod bod gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni a bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r hysbysiad (gweler adran 88).

82.Mae’r gofynion yn is-adran (1) yn darparu y caiff ACC ddyroddi hysbysiad:

(i).)

os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

(ii).)

os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen y gofynnir amdani; a

(iii).)

os nad yw’r hysbysiad yn gwneud gwybodaeth neu ddogfen yn ofynnol sy’n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau a nodir ym Mhennod 3 o’r Rhan hon o’r Ddeddf.

Adran 87 – Hysbysiadau trydydd parti

83.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i ACC ddyroddi hysbysiad i berson (y “trydydd parti”) yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau pan fo ACC yn gwybod pwy yw person arall (y “trethdalwr”) ac eisiau gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr hwnnw. Dim ond os yw’r trethdalwr wedi cytuno, neu os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r hysbysiad (gweler adran 88) y caiff ACC ddyroddi hysbysiad o dan yr adran hon, yn ddarostyngedig i fodloni gofynion penodol is-adran (1).

84.Caiff ACC hefyd ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo hysbysiad o dan yr adran hon nad yw’n enwi’r trethdalwr, os yw’r tribiwnlys yn derbyn y gallai enwi’r trethdalwr yn yr hysbysiad trydydd parti niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi yn ddifrifol. Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC roi copi o’r hysbysiad trydydd parti i’r trethdalwr oni bai bod y tribiwnlys yn penderfynu bod gan ACC sail resymol dros gredu y gallai gwneud hynny niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi yn ddifrifol.

Adran 88 – Cymeradwyaeth y tribiwnlys i hysbysiadau trethdalwr a hysbysiadau trydydd parti

85.Mae adran 88 yn darparu’r profion y mae’n rhaid i’r tribiwnlys eu cymhwyso pan fydd ACC yn gofyn iddo gymeradwyo dyroddi hysbysiad trethdalwr (adran 86) neu hysbysiad trydydd parti (adran 87).

86.Bydd y prawf y mae’n rhaid i’r tribiwnlys ei gymhwyso wrth benderfynu a ddylai gymeradwyo hysbysiad trethdalwr neu hysbysiad trydydd parti yn dibynnu ar ba un a ddywedwyd wrth y derbynnydd ai peidio y bydd ACC yn gwneud cais am gymeradwyaeth.

87.Os na ddywedwyd wrth y derbynnydd y bydd ACC yn gwneud cais am gymeradwyaeth y tribiwnlys, mae’r prawf a ddarperir gan is-adran (2) yn gymwys. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon bod y gofynion ar gyfer dyroddi’r hysbysiad wedi eu bodloni ac y gallai rhoi hysbysiad am y cais niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

88.Os dywedwyd wrth y derbynnydd y bydd ACC yn gwneud cais am gymeradwyaeth y tribiwnlys, mae’r prawf a ddarperir gan is-adran (3) yn gymwys. Yn ogystal â bod yn fodlon bod y gofynion ar gyfer dyroddi’r hysbysiad perthnasol wedi eu bodloni, mae’r prawf hefyd yn golygu bod rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon y dywedwyd wrth y sawl fydd yn derbyn yr hysbysiad am yr wybodaeth neu’r dogfennau sydd eu hangen ar ACC, a’i fod wedi cael cyfle i wneud sylwadau i ACC am y cais hwnnw. Os gwneir sylwadau, rhaid i ACC roi manylion y sylwadau hynny i’r tribiwnlys. Yn achos hysbysiad trydydd parti, rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon bod ACC wedi dweud wrth y trethdalwr sy’n destun yr hysbysiad pam fod yr wybodaeth neu’r dogfennau yn ofynnol.

89.Os dywedwyd wrth dderbynnydd y bydd ACC yn gwneud yr wybodaeth neu’r dogfennau yn ofynnol mewn hysbysiad ffurfiol daw’n drosedd o dan adran 115 i gelu, i ddifa neu fel arall i gael gwared â’r wybodaeth neu’r dogfennau.

90.Mae is-adran (4) yn galluogi ACC i ddatgymhwyso rhai o’r gofynion uchod pe gallai rhoi hysbysiad am y cais i’r trethdalwr neu’r trydydd parti niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig. Caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad sy’n briodol yn ei farn (er enghraifft, gallai’r tribiwnlys feddwl ei bod yn rhesymol i ACC wneud rhai o’r dogfennau yn ofynnol, ond nid eraill, a gallai gyfyngu ar gwmpas yr hysbysiad gwybodaeth yn unol â hynny).

Adran 89 – Pŵer i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol am bersonau na wyddys pwy ydynt

91.Pan fo ACC eisiau gwirio sefyllfa dreth person neu ddosbarth o bersonau na ŵyr pwy ydyw, mae’r adran hon yn darparu y caiff ACC roi hysbysiad i berson (”hysbysiad trydydd parti anhysbys”) yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfennau. Gallai hyn ddigwydd pan fo digon o wybodaeth gan ACC i fod â sail dros gredu bod person yn agored i dreth (er enghraifft, mae ACC yn gwybod bod trafodiad tir wedi digwydd) ond nad yw’n gwybod eto pwy yw’r person o dan sylw.

92.Rhaid i hysbysiadau a ddyroddir o dan yr adran hon fod wedi eu cymeradwyo gan y tribiwnlys ymlaen llaw. Dim ond os yw’r amodau yn is-adrannau (1)(a) i (c) wedi eu bodloni (sydd yr un fath â’r gofynion sylfaenol sydd i’w bodloni ar gyfer hysbysiadau trethdalwr a hysbysiadau trydydd parti) y gall wneud hyn, ac os yw’n fodlon nad yw ACC yn gallu cael yr wybodaeth neu’r dogfennau o ffynhonnell arall. Rhaid i’r tribiwnlys hefyd fod yn fodlon bod sail resymol dros gredu bod y person neu’r personau sy’n destun yr hysbysiad wedi methu (neu y gallant fethu) â chydymffurfio â’r gyfraith sy’n ymwneud â threth ddatganoledig a bod hyn wedi arwain (neu y bydd yn arwain) at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol (yn yr enghraifft uchod, gallai ACC fod â sail dros gredu na fydd y person sy’n ymwneud â’r trafodiad tir yn cyflwyno’i hun ac yn dychwelyd ffurflen dreth). Fel yn achos adran 88, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad sy’n briodol yn ei farn.

Adrannau 90-91 – Gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol mewn perthynas â grŵp o ymgymeriadau neu am bartneriaeth

93.Mae adran 90 yn darparu trefniadau ar gyfer dyroddi hysbysiadau trydydd parti pan fo ACC eisiau gwirio sefyllfa dreth naill ai riant-ymgymeriad neu unrhyw un neu ragor o’i is-ymgymeriadau (er enghraifft, naill ai riant-gwmni (“parent company”) ac unrhyw un neu ragor o’i is-gwmnïau (“subsidiary companies”); mae ystyr manwl y termau hyn i’w weld yn adrannau 1161-1162 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p.46) ac Atodlen 7 iddi).

94.Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad i unrhyw berson at ddibenion gwirio sefyllfa dreth rhiant-ymgymeriad neu unrhyw un neu ragor o’r is-ymgymeriadau, mae is-adran (2) yn gymwys. Yn yr amgylchiadau hyn, caiff ACC ddyroddi hysbysiad os oes ganddo gytundeb y rhiant-ymgymeriad, neu gymeradwyaeth y tribiwnlys, hynny yw, caiff cytundeb y rhiant-ymgymeriad ei drin fel pe bai hefyd yn cynnwys unrhyw is-ymgymeriad.

95.Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad i’r rhiant-ymgymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth is-ymgymeriad, mae is-adran (3) yn gymwys. Yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i ACC sicrhau cymeradwyaeth y tribiwnlys cyn dyroddi’r hysbysiad. I bob pwrpas caiff hysbysiad trydydd parti a ddyroddir i riant-ymgymeriad mewn perthynas ag is-ymgymeriad ei drin fel pe bai’n hysbysiad trethdalwr a roddir i’r rhiant-ymgymeriad sy’n rheoli’r is-ymgymeriad.

96.Nid yw’r newidiadau a wneir gan yr adran hon yn gymwys pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad i un is-ymgymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth is-ymgymeriad arall. Yn yr achosion hyn, rhaid dyroddi’r hysbysiad yn unol â’r weithdrefn a nodir yn adran 87. Ond mewn achos pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad i un is-ymgymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth y rhiant-ymgymeriad (ac unrhyw is-ymgymeriadau eraill) mae is-adran (2) yn berthnasol.

97.Mae adran 91 yn darparu’r trefniadau ar gyfer dyroddi hysbysiad trydydd parti i rywun heblaw un o’r partneriaid pan fo ACC yn dymuno gwirio sefyllfa dreth dau neu ragor o bersonau mewn partneriaeth fusnes. Dylai hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon: datgan ei ddiben; ac mewn amgylchiadau arferol, gynnwys enw’r bartneriaeth y mae’r hysbysiad yn gymwys iddo a chael ei gopïo i o leiaf un o’r partneriaid. Pan geisir cymeradwyaeth y tribiwnlys i ddyroddi hysbysiad, caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso’r gofyniad i enwi’r trethdalwr a dyroddi copi o’r hysbysiad os yw’n fodlon bod gan ACC sail dros gredu y gallai cydymffurfio â’r gofynion hyn gael effaith negyddol ar asesu neu gasglu trethi.

Adran 92 – Pŵer i gael gwybodaeth er mwyn gallu cadarnhau pwy yw person

98.O dan amgylchiadau penodol gall ACC ddyroddi hysbysiad (hysbysiad adnabod) i rywun yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth am berson (naill ai un person neu ddosbarth o bersonau) er mwyn darganfod pwy yw trethdalwr. Dim ond gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys y gellir dyroddi’r hysbysiad. Gall ACC wneud cais am gymeradwyaeth heb roi rhybudd. Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi hysbysiad oni bai ei fod yn fodlon bod amodau 1 i 6 yn is-adrannau (4) i (9) wedi eu bodloni. O dan yr adran hon caiff ACC wneud cais am enw trethdalwr, ei gyfeiriad hysbys olaf, a/neu ei ddyddiad geni.

99.Er bod yr hysbysiadau hyn yn debyg i hysbysiadau trydydd parti anhysbys o dan adran 89, mae’r wybodaeth a all fod yn ofynnol yn fwy cyfyng o lawer ac nid oes raid i ACC brofi bod sail dros gredu y gallai’r person anhysbys fod wedi methu â chydymffurfio â’r gyfraith yn ymwneud â threth ddatganoledig. Yn ymarferol defnyddir y weithdrefn hon pan fydd ACC yn gwybod bod rhywbeth wedi digwydd sy’n golygu rhwymedigaeth i dreth (ee trafodiad tir) a’i fod yn awyddus i gysylltu â’r personau perthnasol, ond nad yw’n gwybod pwy ydynt. Gall geisio defnyddio’r pŵer hwn cyn y pwynt y bydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r gyfraith, fel y gall gysylltu â’r trethdalwr a rhoi cyfle iddo roi trefn ar ei faterion treth.

Adran 93 – Pŵer i gael manylion cyswllt dyledwyr

100.Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (hysbysiad cyswllt dyledwr) yn ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu manylion cyswllt (cyfeiriad person ac unrhyw wybodaeth gyswllt arall) ar gyfer person arall os yw’n fodlon bod amodau 1 i 5 yn is-adrannau (2) i (6) wedi eu bodloni.

101.Câi’r pŵer hwn ei ddefnyddio pe bai ACC angen cysylltu â pherson y mae arian yn ddyledus ganddo i ACC, ond nad yw ACC wedi gallu cael gafael arno.

102.Nid yw’r weithdrefn hon i’w dilyn i geisio manylion cyswllt gan gyfeillion personol neu berthnasau dyledwr. Dim ond os yw person wedi cael y manylion cyswllt wrth redeg busnes (gweler uchod) y gellir ei dilyn. Ond ni ellir ei defnyddio i ofyn am fanylion cyswllt dyledwyr gan elusennau neu bersonau sy’n darparu gwasanaethau i elusennau, sy’n ddi-dâl i’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth.

Adran 94 – Terfyn amser ar gyfer dyroddi hysbysiad gwybodaeth a gymeradwywyd gan dribiwnlys

103.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad gwybodaeth a gymeradwywyd gan y tribiwnlys o fewn 3 mis i’r gymeradwyaeth honno, neu o fewn cyfnod byrrach os pennir un gan y tribiwnlys.

Adran 95 – Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth a chyflwyno copïau o ddogfennau ac adran 96 – cyflwyno copïau o ddogfennau

104.Mae adran 95 yn nodi bod rhaid i berson y dyroddir hysbysiad gwybodaeth iddo gydymffurfio â’r hysbysiad a darparu’r wybodaeth ofynnol neu’r dogfennau gofynnol o fewn cyfnod, mewn lleoliad (na all fod yn rhywle a ddefnyddir fel annedd yn unig) ac yn y modd a bennir yn yr hysbysiad gwybodaeth. Fel corff cyhoeddus, rhaid i ACC ymddwyn yn rhesymol wrth bennu’r amser, y lleoliad a’r dull cyflwyno. Caiff y ddyletswydd i gydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth ei hatal os yw’r derbynnydd wedi gofyn am adolygiad o’r hysbysiad neu wedi apelio yn ei erbyn. Gall person fod yn agored i gosb o dan Bennod 5 o Ran 5 o’r Ddeddf os yw’r person hwnnw’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth.

105.Pan fo hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno dogfen, mae adran 96 yn darparu y gall y person gydymffurfio drwy gyflwyno copi o’r ddogfen wreiddiol (oni bai bod yr hysbysiad yn gofyn yn benodol am y ddogfen wreiddiol, neu os yw ACC yn gofyn am y ddogfen wreiddiol o fewn 6 mis i gyflwyno’r copi). Mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Adrannau 97-99 – Hysbysiadau gwybodaeth: cyfyngiadau cyffredinol ac amddiffyniad ar gyfer deunydd newyddiadurol a chofnodion personol

106.Mae adran 97 yn darparu rhai cyfyngiadau cyffredinol ar hysbysiadau gwybodaeth, gan gynnwys mai dim ond os yw’r ddogfen yn ei feddiant neu os yw hynny o fewn ei bŵer y mae’n ofynnol i berson gyflwyno dogfen. At hynny, ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen os yw’r ddogfen gyfan wedi ei chreu dros 6 mlynedd cyn dyddiad yr hysbysiad, oni bai bod yr hysbysiad yn cael ei ddyroddi gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys. Ni chaniateir rhoi hysbysiad gwybodaeth a ddyroddir i wirio sefyllfa dreth rhywun sydd wedi marw dros 4 blynedd ar ôl y farwolaeth.

107.Mae is-adran (4) yn darparu na chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth na dogfen (lawn neu rannol) os yw’n ymwneud ag adolygiad sy’n mynd rhagddo neu apêl sy’n mynd rhagddi mewn perthynas ag unrhyw dreth (boed y dreth yn “dreth ddatganoledig” ai peidio). Er enghraifft, os yw CThEM yn cynnal ymholiad i ffurflen hunanasesiad treth incwm person, ni all ACC wneud gwybodaeth yn ofynnol mewn perthynas â sefyllfa’r un person o ran treth ddatganoledig os yw’r wybodaeth hefyd yn ymwneud ag ymholiad CThEM.

108.Mae adran 98 yn darparu na all ACC ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu deunydd sydd wedi ei greu, ei gaffael neu sydd fel arall ym meddiant rhywun at ddibenion newyddiaduraeth ac mae adran 99 yn darparu amddiffyniad ar gyfer cofnodion personol, megis cofnodion meddygol. Ond mae is-adran (2) o adran 99 yn ei gwneud yn glir y gall ACC wneud gwybodaeth neu ddogfen yn ofynnol o hyd os oes modd darparu’r wybodaeth neu’r ddogfen drwy hepgor y cofnod personol (ee drwy ddileu neu guddio’r rhannau hynny o’r ddogfen).

Adran 100 – Hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth

109.Mae’r adran hon yn nodi cyfyngiadau ar ba bryd y gellir rhoi hysbysiadau trethdalwr. Ni ellir rhoi hysbysiad trethdalwr mewn perthynas â thrafodiad neu gyfnod cyfrifo (i wirio eu sefyllfa dreth) pan fo person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r trafodiad neu’r cyfnod cyfrifo hwnnw. Os yw ACC am wirio’r sefyllfa dreth mewn perthynas â’r ffurflen dreth dylai gychwyn ymholiad i’r ffurflen (gweler Pennod 4 o Ran 3).

110.Gellid rhoi hysbysiad trethdalwr, fodd bynnag, pan roddwyd hysbysiad ymholiad ac nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau (mewn geiriau eraill mae’r hysbysiad yn rhan o gynnal yr ymholiad) neu pan fo ACC yn amau bod problem o ran y rhwymedigaeth i dreth a aseswyd (gan gynnwys unrhyw ymwaredau) ar gyfer y trafodiad neu’r cyfnod treth (mewn geiriau eraill mae’r hysbysiad yn rhan o waith ACC wrth wneud dyfarniad ACC neu asesiad ACC).

111.Mae is-adran (6) yn golygu bod y cyfyngiadau hyn yn gymwys i’r holl bartneriaid mewn partneriaeth pan fo o leiaf un ohonynt wedi dychwelyd ffurflen dreth (ond dim ond mewn cysylltiad â’u rôl fel partneriaid).

Adrannau 101-102 – Amddiffyniad ar gyfer gohebiaeth freintiedig rhwng cynghorwyr cyfreithiol a chleientiaid ac ar gyfer cynghorwyr treth ac archwilwyr

112.Mae adran 101 yn darparu nad yw hysbysiadau gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu na chyflwyno gwybodaeth na dogfennau sy’n gyfreithiol freintiedig. Mae hyn yn cyfeirio at wybodaeth neu ddogfennau sy’n manteisio ar y cyfrinachedd sy’n bodoli rhwng cynghorwr cyfreithiol proffesiynol a chleient. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud darpariaeth drwy reoliadau i’r tribiwnlys ddatrys anghydfodau o ran pa un a yw gwybodaeth neu ddogfennau yn freintiedig ai peidio. Mae rheoliadau o’r fath yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

113.Mae adran 102(1) yn darparu nad yw hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorwr treth ddarparu gwybodaeth na dogfennau am gyngor ar dreth a roddwyd i gleient.

114.Mae is-adran (2) yn diffinio “gohebiaeth berthnasol” a “cynghorwr treth” at ddibenion yr adran hon. Mae person yn “gynghorwr treth” os yw’r person hwnnw yn rhoi cyngor i berson arall am ei “faterion treth” (pa un a yw’r dreth honno yn “dreth ddatganoledig” ai peidio).

115.Mae is-adran (3) yn darparu nad yw hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson a benodwyd yn archwilydd o dan unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth ddarparu gwybodaeth benodol na dogfennau penodol sy’n gysylltiedig â’r swyddogaeth honno.

116.Fodd bynnag, mae’r darpariaethau hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (7), sy’n cyfyngu ar gwmpas yr amddiffyniad mewn rhai amgylchiadau. Mae is-adran (4) yn darparu y gall ACC ei gwneud yn ofynnol i gyfrifydd treth ddarparu deunydd esboniadol a ddarparwyd i gleient mewn cysylltiad â gwybodaeth neu ddogfennau a ddarparwyd i ACC. Mae is-adran (5) yn darparu nad yw’r amddiffyniad yn gymwys i geisiadau a wneir o dan adran 89 am wybodaeth sy’n dangos pwy yw person anhysbys, neu ei gyfeiriad.

Adran 103 – Pŵer i archwilio mangre busnes

117.Mae adran 103 yn darparu y gall ACC fynd i fangre busnes a’i harchwilio (gan gynnwys archwilio asedau busnes a dogfennau sydd yn y fangre) er mwyn gwirio sefyllfa dreth person. Dim ond os cafwyd cytundeb meddiannydd y fangre neu gymeradwyaeth y tribiwnlys y gellir cynnal archwiliad o’r fath.

118.Mae is-adran (3) yn darparu ar gyfer amser cynnal archwiliad, sy’n caniatáu i ACC gynnal archwiliad unrhyw bryd a gytunwyd rhyngddo a’r meddiannydd neu ar adeg resymol os cymeradwywyd yr archwiliad gan y tribiwnlys. Os nad yw ACC wedi cael cytundeb y meddiannydd, rhaid iddo roi hysbysiad i’r meddiannydd am yr archwiliad 7 niwrnod cyn y bydd yn digwydd, oni bai bod y tribiwnlys yn fodlon y byddai rhoi hysbysiad o’r fath yn niweidio’r gwaith o gasglu neu asesu trethi yn ddifrifol.

119.Os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo archwiliad, rhaid i’r hysbysiad a ddyroddir i’r meddiannydd ddweud hynny. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol oherwydd dim ond os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad y bydd person yn agored i gosb fel y disgrifir ym Mhennod 5 o Ran 5.

120.Nid oes gan ACC hawl i fynd i unrhyw ran o fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig, na’i harchwilio.

Adran 104 – Cynnal archwiliadau o dan adran 103: darpariaeth bellach

121.Mae’r adran hon yn darparu pwerau pellach sydd ar gael i archwilydd ACC wrth gynnal archwiliad o fangre busnes o dan adran 103. Mae’r rhain yn cynnwys: mynd ag unrhyw berson arall neu bersonau eraill gydag ef i’r fangre (gan gynnwys swyddog yr heddlu os credir y caiff yr archwiliad ei rwystro’n ddifrifol); archwilio neu ymchwilio i unrhyw beth a ystyrir yn angenrheidiol o dan amgylchiadau’r archwiliad; rhoi cyfarwyddyd bod y fangre (neu unrhyw ran o’r fangre) yn cael ei gadael fel y mae cyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad; y pŵer i gymryd samplau o ddeunyddiau o’r fangre, gan gynnwys drwy dyllu tyllau arbrofol neu wneud gwaith arall neu drwy osod a chynnal offer monitro neu gyfarpar arall yn y fangre.

Adran 105 – Cynnal archwiliadau o dan adran 103: defnyddio offer a deunyddiau

122.Mae’r adran hon yn darparu pwerau ategol i ACC, y gall eu harfer wrth gynnal archwiliad o dan 103. Efallai fod hyn yn fwyaf perthnasol pan fo ACC yn arfer y pwerau ychwanegol yn adran 104.

123.Mae is-adran (1) yn rhoi’r pŵer i ACC fynd ag offer neu ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer yr archwiliad i’r fangre busnes. Dim ond fel a ganlyn y gellir arfer y pŵer:

(a)

ar adeg a gytunwyd â’r meddiannydd (nid yw cytuno i’r archwiliad ei hun yn cynnwys, o angenrheidrwydd, gytuno i ddod ag offer neu ddeunyddiau yno, ac fe all y meddiannydd wrthod bryd hynny ac yna byddai’n rhaid i ACC geisio cymeradwyaeth y tribiwnlys i fwrw ymlaen, gweler adran 108);

(b)

os dyroddwyd hysbysiad yn rhoi gwybod i’r meddiannydd o leiaf 7 niwrnod cyn yr archwiliad; neu

(c)

os yw ACC o’r farn fod sail resymol dros gredu y byddai rhoi hysbysiad ymlaen llaw y bydd y pŵer yn cael ei arfer yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi yn ddifrifol. Yn yr achos hwnnw, rhaid darparu hysbysiad pan eir â’r offer neu’r deunyddiau i’r fangre.

124.Mae is-adrannau (4) i (6) yn nodi gofynion hysbysiad. Os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, neu’r defnydd o offer neu ddeunyddiau, rhaid i’r hysbysiad a ddyroddir i’r meddiannydd ddweud hynny. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol oherwydd dim ond os yw’r archwiliad wedi ei gymeradwyo gan y tribiwnlys y bydd person yn agored i gosb fel y disgrifir ym Mhennod 5 o Ran 5.

Adran 106 – Pŵer i archwilio mangre neu eiddo er mwyn prisio etc.

125.Mae adran 106 yn darparu y caiff ACC fynd i’r fangre a’i harchwilio, yn ogystal ag archwilio unrhyw eiddo yn y fangre, at ddiben prisio, mesur neu bennu cymeriad y fangre os yw hynny’n ofynnol at ddibenion gwirio sefyllfa dreth person. Yn wahanol i archwiliadau o dan adran 103, gellir defnyddio’r pŵer hwn mewn perthynas ag anheddau (a fydd yn berthnasol er enghraifft pan fo trethi’n ymwneud â thrafodiadau tir).

126.Dim ond ar ôl cael cytundeb y meddiannydd (neu berson sy’n gyfrifol am y fangre os na ellir dweud pwy yw’r meddiannydd), neu gymeradwyaeth y tribiwnlys (ar yr amod bod y meddiannydd neu’r person cyfrifol wedi cael o leiaf 7 niwrnod o rybudd o’r archwiliad) y gellir cynnal archwiliad o’r fath.

127.Nid yw’r pŵer yn rhoi hawl i ACC ddefnyddio grym corfforol i fynd i’r fangre nac i chwilio.

128.Mae is-adrannau (5) a (6) yn pennu gofynion hysbysiad a ddyroddir o dan is-adrannau (2)(b) neu (3)(b). Mae is-adran (7) yn darparu y caiff unrhyw berson arall neu bersonau eraill fynd gyda’r person sy’n cynnal yr archwiliad os yw o’r farn bod angen hynny er mwyn cael cymorth i gynnal prisiad, i fesur neu i bennu cymeriad y fangre.

Adran 107 – Dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadau

129.Mae adran 107 yn darparu i feddiannydd mangre sy’n cael ei harchwilio neu berson arall yr ymddengys i’r archwilydd ei fod yn gyfrifol am y fangre neu’n rheoli’r fangre ofyn am weld tystiolaeth o awdurdod i gynnal yr archwiliad. Os na chaiff ei dangos rhaid dod â’r archwiliad i ben hyd nes y darperir y dystiolaeth.

Adran 108 – Cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre

130.Mae adran 108 yn darparu y gall ACC ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adrannau 103 neu 106 neu arfer pwerau o dan adrannau 104 neu 105 mewn perthynas ag archwiliad o dan adran 103.

131.Mae cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwiliad o dan adran 103 yn cynnwys cymeradwyaeth i arfer unrhyw un neu ragor o’r pwerau yn adrannau 104 a 106. Ond fel y soniwyd uchod, pan fo meddiannydd yn cytuno i archwiliad o dan adran 103, caiff y meddiannydd gadw’r hawl i beidio â chytuno i unrhyw un neu ragor o’r pwerau yn adrannau 104 neu 105 gael eu harfer. Yn yr achosion hynny byddai angen i ACC geisio cymeradwyaeth y tribiwnlys er mwyn arfer y pwerau.

132.Gellir gwneud cais i’r tribiwnlys heb hysbysiad ac yn yr amgylchiadau hynny rhaid i’r tribiwnlys fodloni ei hun y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

133.Wrth gymeradwyo archwiliad o dan adran 103 rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon bod archwilio’r fangre busnes neu arfer y pwerau yn ofynnol at ddibenion gwirio sefyllfa dreth person.

134.Wrth gymeradwyo archwiliad o dan adran 106 rhaid i’r tribiwnlys fod yn fodlon bod ACC wedi rhoi cyfle rhesymol i’r person y mae ei sefyllfa dreth yn cael ei gwirio a’r meddiannydd (os yw’n wahanol ac os gellir dweud pwy ydyw) wneud sylwadau i ACC, a rhaid i ACC roi crynodeb o unrhyw sylwadau i’r tribiwnlys.

135.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC gynnal archwiliad yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl cymeradwyaeth y tribiwnlys neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys.

Adran 109 – Pŵer i farcio asedau a chofnodi gwybodaeth

136.Mae adran 109 yn darparu y gellir marcio asedau wrth archwilio mangre, asedau busnes neu ddogfennau (er mwyn prisio a/neu wirio sefyllfa dreth), i ddangos eu bod wedi eu harchwilio. Gellir cael a chofnodi gwybodaeth berthnasol hefyd.

Adran 110 – Cyfyngiad ar archwilio dogfennau

137.Mae’r adran hon yn gymwys i’r cyfyngiadau sydd ym Mhennodau 2 a 3 o’r Rhan hon o’r Ddeddf fel na all ACC archwilio unrhyw ddogfen yn ystod archwiliad pe byddai ACC wedi ei gyfyngu gan Bennod 2 neu 3 rhag gofyn am yr un ddogfen gan ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth.

Adran 111 - Dehongli

138.Mae adran 111 yn rhoi dehongliad o’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rhan hon o’r Ddeddf. Mae’r diffiniadau o “asedau busnes”, “dogfennau busnes” a “mangre busnes” yn gysylltiedig â’r diffiniad o “redeg busnes” yn adran 85. Diffinnir “mangre” yn eang er mwyn sicrhau bod ACC yn gallu archwilio unrhyw fath o fangre y gall fod angen iddo’i harchwilio o dan y Bennod hon.

Adrannau 112-113 – Pwerau ymchwilio pellach

139.Mae adran 112 yn rhoi pŵer i ACC gopïo dogfennau, cymryd dyfyniadau ohonynt a mynd â hwy ymaith. Caiff ACC hefyd gadw’r ddogfen am gyfnod rhesymol. Mae hyn yn golygu y gellir mynd ag eitemau ymaith i’w hystyried neu er mwyn croesgyfeirio yn erbyn dogfennau eraill. Pan ddigwydd hyn, mae is-adran (3) yn caniatáu i’r person a gyflwynodd y ddogfen ofyn am dderbynneb amdani a chopi ohoni heb godi tâl ar y person am wneud hynny. Fel arfer caiff y pŵer i fynd â dogfennau ymaith ei arfer gyda chytundeb y trethdalwr gan nad yw’n gyfystyr â hawl i atafaelu dogfennau. Mae is-adran (5) yn darparu, os caiff dogfen yr aed â hi ymaith ei cholli neu ei niweidio, fod ACC yn agored i ddigolledu perchennog y ddogfen am unrhyw dreuliau yr aed iddynt yn rhesymol i gael dogfen arall yn ei lle neu i’w hatgyweirio.

140.Mae adran 113 yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfennau neu pan fo gan ACC ganiatâd i archwilio neu gopïo dogfennau, neu i fynd â dogfennau ymaith. Mae’r adran yn ymwneud yn bennaf â sicrhau bod ACC yn gallu cael gafael ar wybodaeth neu ddogfennau sydd wedi eu storio yn electronig.

141.Mae is-adran (3) yn caniatáu i ACC, ar adeg resymol, gael mynediad, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur neu gyfarpar arall a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â dogfen y mae’n ofynnol i rywun ei chyflwyno neu y gall ACC ei harchwilio, ei chopïo neu fynd â hi ymaith. Mae is-adran (5) yn caniatáu i ACC ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am y cyfrifiadur neu’r cyfarpar arall roi cymorth i gyflawni gofynion is-adran (3). Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn glir bod cyfeiriadau yn is-adrannau (3) i (5) at ACC yn cael mynediad i gyfrifiadur etc. neu at wneud cymorth yn ofynnol gan berson i’w trin fel cyfeiriadau at archwilydd sy’n cynnal archwiliad ar ran ACC o dan adran 103.

142.Mae unrhyw berson sy’n rhwystro ACC neu archwilydd rhag arfer y pwerau yn is-adrannau (3) a (5) yn agored i gosb o dan adran 146.

Adrannau 114-115 – Troseddau yn ymwneud â hysbysiadau gwybodaeth

143.Mae adran 114 yn creu trosedd yn ymwneud â chelu, difa neu fel arall gael gwared â dogfen sy’n ofynnol gan hysbysiad gwybodaeth a gymeradwywyd gan y tribiwnlys. Mae is-adran (2) yn cadarnhau y gall person gyflawni trosedd o hyd o dan yr adran hon pan fo’r person hwnnw wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad gwybodaeth neu ofyniad ynddo.

144.Mae adran 115 hefyd yn creu trosedd yn ymwneud â chelu, difa neu fel arall gael gwared â dogfen pan fo ACC wedi dweud wrth berson ei fod yn bwriadu ceisio cymeradwyaeth y tribiwnlys, ond nad yw wedi gwneud hynny eto.

145.Mae’r adran hon yn nodi’r amgylchiadau pan na chyflawnir trosedd a hefyd yn darparu amddiffyniad pan fo person yn dangos bod esgus rhesymol. Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y naill neu’r llall o’r adrannau yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy neu ar gollfarn ar dditiad i garchar am hyd at 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau). Yn y naill achos a’r llall mae disgresiwn gan y llys o ran swm y ddirwy.

Adran 116 – Dim adolygu nac apelio yn erbyn cymeradwyaeth y tribiwnlys

146.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 fel na ellir adolygu penderfyniad y tribiwnlys i gymeradwyo hysbysiad gwybodaeth neu archwiliad, nac apelio yn ei erbyn i’r Uwch Dribiwnlys nac i’r Llys Apêl. Ystyr “adolygiad” yn y cyd-destun hwn yw adolygiad gan y tribiwnlys ei hun o’i benderfyniad ei hun, ac fel arfer darperir ar ei gyfer o dan y Ddeddf honno.

Rhan 5 - Cosbau

Adrannau 118-121 – Cosbau am fethu â dychwelyd ffurflen dreth

147.Mae adran 118 yn darparu mai swm y gosb ar gyfer person sy’n methu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio (fel y’i diffinnir yn adran 40) neu cyn hynny yw £100.

148.Mae adran 119 yn darparu mai swm y gosb ar gyfer person sy’n parhau i fethu â dychwelyd ffurflen dreth fwy na 6 mis ar ôl y dyddiad ffeilio yw’r mwyaf o 5% o’r dreth ddatganoledig sy’n ddyledus a £300.

149.Mae adran 120 yn darparu ar gyfer cosb bellach pan fo’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau am fwy na 12 mis ar ôl y dyddiad ffeilio. O dan yr amgylchiadau hyn, y gosb yw’r mwyaf o 5% o’r dreth ddatganoledig sy’n ddyledus a £300. Os, ynghyd â’r methiant hwn, yr atelir yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo ACC i asesu rhwymedigaeth y person, mae is-adran (2) yn darparu ar gyfer cosb uwch, sef y mwyaf o 100% o’r dreth ddatganoledig sy’n ddyledus a £300.

150.Mae adran 121 yn rhoi’r pŵer i ACC ostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth pan fo person yn datgelu gwybodaeth i ACC sydd wedi ei hatal yn flaenorol drwy fethu â dychwelyd ffurflen dreth. Mae is-adran (2) yn nodi tair elfen benodol, a gall pob elfen ganiatáu i ACC wneud gostyngiad: cyfaddefiad – dweud wrth ACC fod gwybodaeth wedi ei hatal; cymryd camau gweithredol – rhoi cymorth rhesymol i ACC asesu swm y dreth ddatganoledig nas talwyd o ganlyniad i atal yr wybodaeth; a mynediad – caniatáu i ACC weld y cofnodion er mwyn gwirio maint unrhyw rwymedigaeth. Caiff unrhyw ostyngiadau a roddir adlewyrchu pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell (hynny yw, pa un a oes gan y person unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth neu ar fin ei darganfod ai peidio) a’i ansawdd (ee amseriad, natur a graddau’r wybodaeth a ddatgelwyd).

Adrannau 122-123 – Cosb am fethu â thalu treth

151.Mae adran 122 yn gwneud person yn agored i gosb os yw’n methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar ddyddiad penodol neu cyn hynny. Bydd deddfwriaeth ar drethi penodol yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid talu’r swm, a’r gosb a osodir.

152.Mae adran 123 yn darparu y caiff person sydd wedi methu â thalu treth erbyn y dyddiad y daw’n ddyledus wneud cais i ACC am ohirio’r taliad. Caiff ACC benderfynu bryd hynny a yw’n cytuno i ohirio talu’r swm am gyfnod penodol ai peidio, yn ogystal â phennu unrhyw amodau ar gyfer y gohiriad hwnnw. Os caiff taliad ei ohirio, ni osodir unrhyw gosb y gallai’r person fod yn agored iddi yn ystod y cyfnod penodedig am fethu â thalu treth. Os yw’r person yn torri’r cytundeb (naill ai drwy fethu â thalu’r dreth sy’n ddyledus pan fo’r cyfnod gohirio’n dod i ben neu drwy fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod ar gyfer y gohiriad hwnnw), a bod ACC yn dyroddi hysbysiad i’r person, daw’r person yn agored i unrhyw gosb y byddai’r person wedi bod yn agored iddi pe na bai’r taliad wedi ei ohirio. Os caiff y cytundeb gohirio ei amrywio ymhellach mae’r cytundeb yn gymwys hyd ddiwedd y cytundeb newydd.

Adrannau 124-128 – Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinol

153.Mae adran 124 yn nodi sut y dylai cosbau penodol gydarweithio. Pan fo person yn agored i un gosb neu ragor o dan adran 118 i 120, mae is-adran (1) yn darparu na chaiff cyfanswm y cosbau hynny fod yn fwy na chyfanswm y dreth ddatganoledig. Mae is-adran (2) yn darparu, pan fo person yn agored i gosb o dan Bennod 2 ac unrhyw gosb arall sy’n codi mewn perthynas â rhwymedigaeth i dreth ddatganoledig (a bennir gan yr un rwymedigaeth i dreth ddatganoledig), bod swm y gosb o dan Bennod 2 i’w ostwng gan swm y gosb arall honno sy’n ymwneud â threth ddatganoledig.

154.Mae adran 125 yn darparu y caiff ACC, o dan amgylchiadau arbennig, ostwng cosb a osodwyd naill ai oherwydd methiant i ddychwelyd ffurflen dreth neu fethiant i dalu treth ar y dyddiad y mae’n ddyledus neu cyn hynny. Caniateir dileu neu ohirio’r gosb neu ostwng y gosb os yw ACC yn cytuno i gyfaddawdu â’r person sy’n agored i’r gosb. Nid yw’r amgylchiadau arbennig pan ganiateir gostwng y gosb yn cynnwys gallu’r person i dalu na’r ffaith bod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

155.Os yw person yn bodloni ACC (neu, drwy apêl, y tribiwnlys), bod ganddo esgus rhesymol dros fethiant i naill ai ddychwelyd ffurflen neu wneud taliad, mae adran 126 yn darparu nad yw’r person yn agored i dalu cosb sy’n codi o’r methiant hwnnw. Mae’r adran hefyd yn egluro rhai amgylchiadau pan fo esgus rhesymol yn gymwys a phan nad yw esgus rhesymol yn gymwys.

156.Pan fo person yn agored i gosb sy’n deillio o’r Bennod hon, mae adran 127 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC asesu’r gosb a hysbysu’r person am y gosb a sut y cafodd ei hasesu. Nodir manylion asesiad ACC o’r gosb yn yr adran hefyd. Mae adran 128 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC asesu cosbau o fewn terfynau amser penodedig.

Adrannau 129-132 – Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennau

157.Mae adran 129 yn darparu bod person yn agored i gosb pan fo’n cyflwyno dogfennau penodol i ACC sy’n cynnwys anghywirdeb, cyn belled â bod dau amod yn cael eu bodloni. Yr amod cyntaf yw bod yr anghywirdeb yn gyfystyr â naill ai danddatganiad o’r rhwymedigaeth i dreth, ddatganiad ffug neu ormodol o golled neu hawliad ffug neu ormodol am ymwared neu ad-daliad treth, neu’n arwain at hynny. Yr ail amod yw bod yr anghywirdeb, ym marn ACC, naill ai’n fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person sy’n cyflwyno’r ddogfen (a allai fod y trethdalwr neu rywun sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr neu y mae’n ofynnol iddo roi dogfen i ACC, yn dilyn hysbysiad gwybodaeth a ddyroddwyd o dan Ran 4 er enghraifft). Mae cosb yn daladwy am bob camgymeriad. Pennir y dogfennau y bydd y gosb hon yn berthnasol iddynt mewn deddfwriaeth ar gyfer trethi penodol.

158.Mae adran 130 yn pennu swm y gosb am anghywirdeb bwriadol ac am anghywirdeb diofal, a gyfrifir fel canran o’r “refeniw posibl a gollir” fel y’i diffinnir yn adran 134.

159.Mae adran 131 yn rhoi’r pŵer i ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb y mae person yn agored iddi o dan adran 129 o ganlyniad i gyflwyno dogfen i ACC sy’n cynnwys camgymeriad diofal. Pan fo’n arfer y pŵer hwn, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb, a rhaid i hwnnw bennu pa ran o’r gosb sy’n cael ei gohirio, a gosod cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd a’r amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy. Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohiriad yn helpu’r person i osgoi rhwymedigaeth i gosbau pellach am anghywirdeb diofal. Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben, caiff y gosb a ohiriwyd (y gosb gyfan neu ran ohoni) ei chanslo os yw ACC wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd â’r amodau; fel arall, daw’r gosb a ohiriwyd (y gosb gyfan neu ran ohoni) yn daladwy. Daw cosb a ohiriwyd yn daladwy os yw’r person yn dod yn agored i gosb arall am dreth ddatganoledig yn ystod y cyfnod gohirio.

160.Mae adran 132 yn darparu bod person (A) yn agored i gosb pan fo person arall (B) yn cyflwyno dogfen i ACC sy’n cynnwys anghywirdeb, a bod yr anghywirdeb hwnnw i’w briodoli i’r ffaith bod A naill ai wedi darparu gwybodaeth ffug i B yn fwriadol neu wedi atal gwybodaeth rhagddo yn fwriadol gyda’r bwriad o greu anghywirdeb. Pan fo hynny’n digwydd a bod naill ai danddatganiad o rwymedigaeth i dreth neu hawliad ffug neu ormodol am golled neu ad-daliad o dreth, mae A yn agored i dalu cosb sy’n 100% o’r “refeniw posibl a gollir”. Er enghraifft, byddai trethdalwr sy’n rhoi dogfen anghywir yn fwriadol i’w asiant yn dod yn agored i’r gosb hon pan fo’r asiant yn cyflwyno’r ddogfen anghywir i ACC ar ran y trethdalwr. Gallai’r asiant fod yn agored i gosb hefyd o dan adran 129, a byddai’r cwestiwn o ba un a weithredodd yr asiant yn fwriadol neu’n ddiofal yn dibynnu ar ffeithiau’r achos.

Adran 133 – Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniad

161.Mae’r adran hon yn darparu bod cosb yn daladwy gan berson pan fo asesiad a ddyroddir gan ACC (fel y’i diffinnir o dan adran 56) yn tanddatgan rhwymedigaeth i dreth, a bod y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC am y ffaith honno o fewn 30 o ddiwrnodau i dderbyn y tanasesiad. Rhaid i ACC ystyried a wyddai’r person am y tanasesiad, neu a ddylai fod wedi gwybod amdano, a pha gamau y byddai wedi bod yn rhesymol iddo eu cymryd i hysbysu ACC. Mae’r cyfeiriadau at asesiad ACC yn cynnwys dyfarniad ACC (fel y’i diffinnir o dan adran 52). Swm y gosb sy’n daladwy yw 30% o’r refeniw posibl a gollir. Diffinnir refeniw posibl a gollir yn adran 134.

Adrannau 134-138 – Refeniw posibl a gollir

162.Penderfynir ar rai cosbau fel canran o’r “refeniw posibl a gollir”, a ddiffinnir yn adrannau 135 i 138.

163.Mae adran 135 yn darparu’r “rheol arferol” ar gyfer cyfrifo refeniw posibl a gollir, sef y swm ychwanegol sy’n daladwy (naill ai i ACC neu gan ACC) mewn cysylltiad â threth o ganlyniad i gywiro anghywirdeb neu danasesiad.

164.Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 am fwy nag un anghywirdeb, mae adran 136 yn darparu, os yw cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir yn dibynnu ar y drefn y caiff yr anghywirdebau eu cywiro, bod anghywirdebau diofal i’w cywiro cyn anghywirdebau bwriadol. Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir, rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiad mewn dogfen a roddwyd gan yr un person yn yr un cyfnod treth.

165.Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddir gan berson, neu ar ei ran, ni chaiff gordaliad posibl gan berson arall ei ystyried, ac eithrio pan ganiateir hynny yn benodol mewn unrhyw ddeddfiad. Mae’r adran hefyd yn rhoi ystyr tanddatganiad a gorddatganiad.

166.Mae adran 137 yn darparu, pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn gyfan gwbl at ddiben gostwng swm y dreth ddatganoledig sy’n daladwy, yna bydd y rheol arferol ar gyfer cyfrifo refeniw posibl a gollir (a ddarperir gan adran 135) yn gymwys. Mae is-adran (2) yn darparu, pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn rhannol at ddiben gostwng swm y dreth sy’n daladwy, yna cyfrifir y refeniw posibl a gollir: a) gan gyfeirio at y rhan o’r golled a ddefnyddiwyd i ostwng swm y dreth sy’n daladwy; a b) 10% o’r golled nas defnyddiwyd i ostwng swm y dreth sy’n daladwy. Mae hyn yn gymwys pan na fyddai unrhyw golled wedi ei chofnodi oni bai am yr anghywirdeb a hefyd pan fyddai swm gwahanol o golled wedi ei gofnodi o ganlyniad i’r anghywirdeb. Pan fo natur y golled, neu amgylchiadau’r person, yn golygu nad oes unrhyw obaith rhesymol y defnyddir y golled i ostwng rhwymedigaeth unrhyw berson i dreth, ni fydd unrhyw gosb.

167.Mae adran 138 yn darparu, pan fo anghywirdeb yn arwain at ddatgan swm o dreth yn hwyrach nag y dylid, mai’r refeniw posibl a gollir yw 5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi. Os yw’r oedi am gyfnod o lai na blwyddyn yna mae’r refeniw posibl a gollir yn ganran sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn ar gyfer pob cyfnod o oedi ar wahân. Nid yw’r adran hon yn gymwys i achosion pan fo’r anghywirdeb yn arwain at gofnodi neu faintioli colled yn anghywir (gweler adran 137).

Adrannau 139-141 – Cosbau o dan Bennod 3: cyffredinol

168.Mae adran 139 yn darparu y caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon. Nid yw hyn ond yn gymwys pan fo person yn datgelu gwybodaeth i ACC ynghylch anghywirdeb, bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu neu wybodaeth wedi ei hatal, neu fethiant i ddatgelu tanasesiad sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig. Caiff unrhyw ostyngiadau a roddir adlewyrchu a oedd y datgeliad yn ddigymell (pan nad oes gan y person unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod neu ar fin darganfod yr wybodaeth) ai peidio, a hefyd ansawdd (amseriad, natur a graddau) yr wybodaeth a ddatgelwyd.

169.Mae adran 140 yn darparu y caiff ACC, o dan amgylchiadau arbennig, ostwng cosb a osodwyd o ganlyniad i adrannau 129, 132 neu 133. Caniateir gohirio cosb, ei dileu yn llwyr neu ei gostwng os yw ACC yn cytuno ar gyfaddawd â’r trethdalwr mewn perthynas â’r gosb. Ni chaiff yr amgylchiadau arbennig y caniateir gostwng y gosb oddi tanynt ymwneud â gallu’r person i dalu na’r ffaith bod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

170.Mae adran 141 yn darparu, pan fo person yn dod yn agored i gosb o ganlyniad i adrannau 129, 132 neu 133, bod rhaid i ACC asesu’r gosb, hysbysu’r person fod cosb wedi ei gosod, a datgan yn yr hysbysiad ar gyfer pa gyfnod neu drafodiad yr asesir y gosb. Mae is-adran (3) a (4) yn nodi’r terfynau amser ar gyfer asesu cosbau o dan adrannau 129, 132 neu 133.

Adran 142 - Dehongli

171.Mae’r adran hon yn diffinio ymadroddion amrywiol a ddefnyddir yn y Bennod hon, gan gynnwys ― “rhoi dogfen i ACC”, “dychwelyd ffurflen dreth”, “colled” a “gweithred”.

Adrannau 143-145 – Cosb am fethu â chadw cofnodion mewn cysylltiad â ffurflenni a hawliadau treth a’u storio’n ddiogel

172.Mae adran 143 yn darparu ar gyfer cosb o hyd at £3,000 am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogel yn unol ag adran 38 neu 69, gyda’r eithriad nad yw unrhyw gosb i’w thalu os gall tystiolaeth ddogfennol arall ddangos yr un wybodaeth. Mater i ACC fydd penderfynu ar lefel y gosb (hyd at yr uchafswm o £3,000) ym mhob achos.

173.Mae adran 144 yn darparu nad yw person yn agored i gosb o dan adran 143 os yw’r person yn bodloni ACC (neu, drwy apêl, y tribiwnlys) bod esgus rhesymol dros y methiant. Mae’r adran yn diffinio rhai amgylchiadau na fyddent yn cael eu derbyn fel esgus rhesymol.

174.Mae adran 145 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC asesu’r gosb a dyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored iddi o fewn cyfnod penodedig.

Adrannau 146-153 – Cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau

175.Mae adran 146 yn darparu bod person yn agored i gosb o £300 pan fo’r person hwnnw:

(i)

yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth (fel y’i diffinnir yn adran 83);

(ii)

yn rhwystro ACC yn fwriadol yn ystod ymchwiliad a gymeradwywyd gan y tribiwnlys;

(iii)

yn rhwystro ACC yn fwriadol wrth iddo arfer pwerau o dan adran 113(3)); neu

(iv)

yn methu â chydymffurfio â chais rhesymol am gymorth o dan adran 113(5).

176.Mae is-adran (3) yn darparu bod methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth yn cynnwys celu, difa neu gael gwared â dogfen hyd yn oed pan fyddai hynny’n drosedd o dan adran 114 neu 115. Os cafodd person ei gollfarnu o dan yr adrannau hynny mae adran 155 yn atal y person rhag bod yn agored i gosb am yr un weithred, ond mae’r gosb ar gael fel sancsiwn os na fwrir ymlaen â chollfarn droseddol.

177.Mae adran 147 yn darparu bod person yn agored i gosb ddyddiol bellach o hyd at £60 am bob diwrnod dilynol y mae’r methiant neu’r rhwystr yn parhau ar ôl i ACC ddyroddi hysbysiad am y gosb honno. Nid yw person yn agored i gosb ddyddiol pan fo’r person yn methu ag ymateb i hysbysiad a ddyroddir gan ACC o dan adran 93 sy’n ei gwneud yn ofynnol rhoi manylion cyswllt dyledwyr. Mae is-adran (2)(b) yn atal cosb ddyddiol rhag cronni tra bo adolygiad yn cael ei gynnal neu apêl yn cael ei chynnal.

178.Mae adran 148 yn darparu nad yw person yn agored i gosb o dan adran 146 neu 147 os yw ACC yn caniatáu cyfnod pellach cyfyngedig iddo gywiro’r methiant, a bod y person yn gwneud hynny. Mae adran 149 hefyd yn darparu nad yw person yn agored i gosb o dan adran 146 neu 147 os yw’r person yn bodloni ACC (neu, drwy apêl, y tribiwnlys) fod esgus rhesymol. Mae’r adran yn diffinio rhai amgylchiadau na fyddent yn cael eu derbyn fel esgus rhesymol.

179.Pan fo person wedi bod yn agored i’r gosb ddiofyn ddyddiol o dan adran 147 am fwy na 30 o ddiwrnodau a bod y methiant neu’r rhwystr yn parhau, mae adran 150 yn darparu y caiff ACC wneud cais i’r tribiwnlys am gynnydd yn y gosb ddyddiol. Cyn gwneud cais, rhaid i ACC ddweud wrth y person sy’n gyfrifol am y methiant neu’r rhwystr y caniateir gwneud cais. Pan fo’n gwrando’r achos ar y cais, caiff y tribiwnlys gymeradwyo swm uwch o hyd at £1,000 ar gyfer pob diwrnod cymwys a rhaid iddo roi sylw i ffactorau sy’n cynnwys cost debygol cydymffurfio â’r hysbysiad a’r buddiannau i’r person neu i unrhyw un arall sy’n deillio o beidio â chydymffurfio. Os yw’r tribiwnlys yn cymeradwyo’r cais, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person a datgan o ba ddiwrnod y bydd y gosb ddyddiol uwch yn gymwys.

180.Mae adran 151 yn darparu y gellir gwneud person yn agored i gosb atodol o swm y bydd yr Uwch Dribiwnlys yn penderfynu arno, pan fo meini prawf penodol yn gymwys. Y meini prawf yw: bod person yn agored i gosb o dan adran 146; bod y methiant neu’r rhwystr yn parhau; bod ACC yn credu bod swm y dreth y mae’r person wedi ei dalu neu’n debygol o’i dalu yn sylweddol is na’r hyn y byddai wedi bod pe byddai wedi cydymffurfio; bod ACC yn gwneud cais i’r Uwch Dribiwnlys i gosb ychwanegol gael ei gosod; a bod yr Uwch Dribiwnlys yn penderfynu ei bod yn briodol gwneud hynny.

181.Wrth benderfynu ar swm y gosb, rhaid i’r Uwch Dribiwnlys ystyried swm y dreth nad yw’r person wedi ei dalu, neu nad yw’n debygol o’i dalu. Mae unrhyw gosb ychwanegol a osodir yn sgil penderfyniad yr Uwch Dribiwnlys o dan yr adran hon yn ychwanegol at y cosbau sefydlog a’r cosbau dyddiol a osodir o ganlyniad i fethiant neu rwystr sy’n parhau.

182.Mae adran 152 yn darparu bod person, o dan amgylchiadau penodol, yn agored i gosb o hyd at £3,000 os yw, wrth gydymffurfio ­â hysbysiad gwybodaeth, yn cyflwyno dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb. Yr amgylchiadau hynny yw: os yw’r camgymeriad o ganlyniad i ymddygiad diofal neu fwriadol; os yw’r person yn ymwybodol o’r anghywirdeb ar yr adeg y cyflwynir y ddogfen ond nad yw’n hysbysu ACC; neu os yw’r person yn darganfod y camgymeriad ar ôl cyflwyno’r ddogfen, ond yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC. Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb, mae cosb yn daladwy am bob anghywirdeb. Mater i ACC fydd penderfynu ar lefel y gosb (hyd at yr uchafswm o £3,000) ym mhob achos.

183.Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran y Bennod hon, mae adran 153 yn ei gwneud yn ofynnol i ACC asesu’r gosb a hysbysu’r person am hynny. Rhaid asesu’r gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn 12 mis ar ôl i’r person ddod yn agored i’r gosb neu, pan fo hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gwybodaeth, 12 mis ar ôl diwedd y cyfnod apelio neu pan ddaeth apêl i ben. Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 150, rhaid i ACC gynnal asesiad o’r gosb bob 7 niwrnod hyd ddiwedd y methiant sy’n arwain at y gosb. Rhaid gwneud yr asesiad o gosb o dan adran 151 o fewn 12 mis i benderfyniad yr Uwch Dribiwnlys. Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 152 o fewn 12 mis i’r dyddiad y daeth y camgymeriad i sylw ACC yn gyntaf ac o fewn 6 mlynedd i’r dyddiad y daeth y person yn agored i’r gosb.

Adran 154 – Talu cosbau

184.Rhaid talu cosb o dan Ran 5 cyn pen 30 o ddiwrnodau i’r diwrnod y dyroddodd ACC yr hysbysiad am y gosb i’r person, oni bai bod adolygiad neu apêl. Os felly, mae adran 182 yn gymwys, ond dim ond mewn cysylltiad ag unrhyw swm o gosb y mae anghydfod yn ei gylch.

Adrannau 155-156 – Atodol

185.Mae adran 155 yn darparu nad yw person yn agored i dalu unrhyw gosb a amlinellir yn y Ddeddf os yw’r person eisoes wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â’r mater a sbardunodd y gosb.

186.Mae adran 156 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu symiau’r cosbau a’r weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan Ran 5 o’r Ddeddf.

Rhan 6 - Llog

Adrannau 157-160 – Llog ar symiau sy’n daladwy i ACC

187.Mae adran 157 yn darparu bod llog yn daladwy gan berson ar dreth ddatganoledig a chosbau cysylltiedig nad ydynt yn cael eu talu cyn dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr. Mae llog yn cronni o ddyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr hyd nes y telir y dreth neu’r gosb. Mae is-adran (3) yn datgan mai dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, mewn achos arferol, yw’r diwrnod ar ôl y diwrnod y daw’r swm o dreth neu gosb yn daladwy.

188.Mae adran 158 yn darparu nad yw llog taliadau hwyr yn daladwy ar log taliadau hwyr. Mae hefyd yn egluro, pan fo swm o dreth neu gosb sy’n daladwy yn cael ei osod yn erbyn swm y mae ACC i’w ad-dalu i’r trethdalwr, mai dyddiad y gwrth-gyfrif hwnnw a gaiff ei gyfrif fel y dyddiad talu at ddibenion cyfrifo pryd y mae llog yn gorffen cronni.

189.Mae adran 159 yn pennu dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr pan fo swm o dreth ddatganoledig yn dod yn daladwy o dan amgylchiadau pan fo asesiad (gan gynnwys hunanasesiad neu asesiad neu ddyfarniad ACC) wedi ei ddiwygio neu ei gywiro.

190.Mae adran 160 yn pennu dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr o dan amgylchiadau pan fo person yn marw cyn i swm o dreth ddatganoledig, neu gosb gysylltiedig, ddod yn daladwy ac nad yw’r ysgutor neu’r gweinyddwr yn gallu talu’r swm hyd nes y ceir profiant neu lythyrau gweinyddu neu ddogfen gyfatebol arall. Bydd llog taliadau hwyr yn dechrau o ddyddiad dechrau safonol y llog taliadau hwyr, neu 30 o ddiwrnodau ar ôl grant profiant neu gael llythyrau gweinyddu, pa un bynnag sydd hwyraf.

Adrannau 161-162 – Llog ar symiau sy’n daladwy gan ACC

191.Mae adran 161 yn darparu bod llog yn daladwy gan ACC ar unrhyw ad-daliad o dreth ddatganoledig, ad-daliad o unrhyw swm a roddwyd yng ngofal ACC mewn perthynas â threth y rhagwelwyd y byddai’n daladwy, ad-daliad o gosbau neu ad-daliad llog (ar naill ai dreth neu gosbau). Pan wneir ad-daliad ar ddyddiad dechrau’r llog ad-daliadau, neu wedi hynny, ychwanegir llog at y swm sydd i’w ad-dalu.

192.Mae adran 162 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch llog ad-daliadau. Mae hynny’n cynnwys egluro nad yw llog o dan adran 161 yn daladwy pan fo llys yn gorchymyn yr ad-daliad, ac y caiff y llys gynnwys llog yn y gorchymyn ad-dalu. Mae hefyd yn egluro, pan fo swm sydd i’w ad-dalu i’r trethdalwr gan ACC yn cael ei osod yn erbyn swm o dreth neu gosb sy’n daladwy gan y trethdalwr, mai’r dyddiad y gwneir hynny sy’n cael ei gyfrif fel dyddiad talu’r ad-daliad at ddibenion cyfrifo pryd y mae llog yn gorffen cronni.

Adran 163 – Cyfraddau llog taliadau hwyr a llog ad-daliadau

193.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru bennu cyfraddau’r llog taliadau hwyr a’r llog ad-daliadau sydd i’w talu. Caniateir gosod cyfraddau gwahanol at ddibenion gwahanol. Caiff Gweinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau o dan ba amgylchiadau y caniateir newid cyfradd llog ac o ba bryd y bydd newid i gyfradd llog yn gymwys.

Rhan 7 – Talu a Gorfodi

Adrannau 164-168 – Talu ac ardystio dyled

194.Mae adran 164 yn diffinio “swm perthnasol” at ddibenion y Rhan hon fel taliadau o symiau o drethi datganoledig neu log arnynt, cosbau neu log ar gosbau sy’n ymwneud â threthi datganoledig. Mae adrannau 165 a 166 yn darparu bod unrhyw swm perthnasol sy’n dod yn daladwy yn daladwy i ACC ac yn ei gwneud yn ofynnol i ACC ddarparu derbynneb pan delir treth ddatganoledig os gofynnir iddo wneud hynny.

195.Mae adran 167 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu bod ffi i’w thalu os telir swm o dreth, cosb neu log drwy ddull talu penodol a fydd wedi ei nodi yn y rheoliadau (megis cerdyn credyd). Bydd y rheoliadau’n pennu swm y ffi o dan amgylchiadau penodol a chaiff wneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y mae’n rhaid talu’r ffi.

196.Mae adran 168 yn darparu bod tystysgrif gan ACC sy’n datgan nad yw swm sy’n ddyledus iddo wedi ei dalu yn dystiolaeth o’r ddyled. Mewn unrhyw achos llys ynghylch y ddyled, felly, os gall ACC gyflwyno tystysgrif o’r fath, mater i’r dyledwr fydd profi nad yw’r swm yn ddyledus i ACC.

Adrannau 169-170 – Adennill

197.Mae adran 169 yn darparu bod trethi neu gosbau nas talwyd o lai na £2,000 yn adenilladwy fel dyled sifil yn llys yr ynadon. Nid yw hyn yn rhagfarnu unrhyw ddulliau adennill neu orfodi eraill a allai fod ar gael i ACC (drwy’r Llys Sirol neu’r Uchel Lys, er enghraifft). Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu’r swm hwn drwy reoliadau.

198.Os nad yw person yn talu swm sy’n ddyledus (treth, cosb neu log) i ACC, mae adran 170 yn darparu y caiff ACC adennill y swm drwy atafaelu a gwerthu nwyddau y mae’r person yn berchen arnynt gan ddefnyddio’r weithdrefn sydd yn Atodlen 12 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.

Rhan 8 – Adolygiadau Ac Apelau

Adran 172 – Penderfyniadau apeliadwy

199.Mae adran 172 yn rhoi hawl i berson y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo ofyn i ACC adolygu penderfyniad, a hawl i apelio i’r tribiwnlys, ac yn nodi pa benderfyniadau gan ACC sydd i’w trin fel penderfyniadau apeliadwy. Mae is-adran (3) yn rhestru’r penderfyniadau hynny a hepgorir o is-adran (2), sy’n golygu na ellir apelio yn eu herbyn, gan gynnwys penderfyniad i ddyroddi hysbysiad ymholiad (ond caniateir apelio yn erbyn casgliadau ymholiad) a phenderfyniad i ddyroddi hysbysiad trethdalwr, neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath (y mae’n rhaid i’r tribiwnlys ei gymeradwyo ymlaen llaw). Mae is-adran (4) yn dileu’r hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth pan fo’r tribiwnlys eisoes wedi cymeradwyo’r penderfyniad (sy’n atal ACC rhag gallu newid penderfyniad y tribiwnlys). Mae is-adran (5) yn cyfyngu ar y seiliau ar gyfer adolygiad neu apêl, mewn perthynas â hysbysiadau gwybodaeth, fel bod y seiliau ar gyfer apêl yn gyson â’r hyn y gellir dyroddi hysbysiad o’r fath ar ei sail yn y lle cyntaf. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau, o dan is-adran (7), er mwyn ychwanegu, amrywio, neu ddileu penderfyniad o’r naill neu’r llall o’r rhestrau o benderfyniadau apeliadwy a’r rhai nad ydynt yn apeliadwy yn is-adrannau (2) a (3), neu i wneud darpariaeth ynghylch ar ba seiliau y caniateir gwneud apêl yn erbyn penderfyniad neu adolygiad o benderfyniad.

Adrannau 173-177 – Adolygiadau

200.Mae adran 173 yn ei gwneud yn ofynnol i gais am adolygiad gael ei wneud drwy roi hysbysiad i ACC. Ni chaniateir gwneud cais o’r fath os yw’r canlynol yn berthnasol mewn perthynas â’r un penderfyniad: bod ACC yn cynnal ymholiad, bod apêl wedi ei dyfarnu neu’n parhau, neu fod y person wedi ymrwymo i gytundeb setlo gydag ACC.

201.Mae adran 174 yn pennu terfyn amser o 30 o ddiwrnodau y mae’n rhaid i berson roi hysbysiad am gais o’i fewn. Bydd y diwrnod y bydd y cyfnod hwn yn dechrau yn amrywio, gan ddibynnu ar ba un o’r amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn yr adran hon sy’n gymwys. Er enghraifft, mewn sawl achos rhoddir 30 o ddiwrnodau i berson ar ôl dyroddi hysbysiad sy’n ei hysbysu am benderfyniad, yn unol ag is-adran (2)(b). Rhaid i’r hysbysiad am gais a roddir i ACC bennu’r seiliau ar gyfer yr adolygiad.

202.Mae adran 175 yn caniatáu i hysbysiad am gais gael ei wneud ar ôl y cyfnod a bennir yn adran 174 os yw ACC yn cytuno i hynny neu os yw’r tribiwnlys yn rhoi ei ganiatâd. Bydd rheolau’r tribiwnlys yn ymdrin â’r weithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau i’r tribiwnlys ganiatáu adolygiad hwyr.

203.Mae adran 176(1) yn gosod dyletswydd ar ACC i gynnal adolygiad o benderfyniad apeliadwy pan fo hysbysiad am gais wedi ei wneud sy’n cydymffurfio â’r darpariaethau blaenorol ar gyfer adolygiadau yn adrannau 173-175. Mae adran 176(2) yn darparu y caiff yr adolygiad fod ar unrhyw ffurf a ymddengys yn briodol i ACC o dan yr amgylchiadau, ond wrth benderfynu beth sy’n briodol, mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC roi sylw i gamau a gymerodd ACC cyn yr adolygiad wrth ddod i benderfyniad, a chan unrhyw berson sy’n ceisio datrys anghytundeb ynghylch y penderfyniad.

204.Wrth gynnal ei adolygiad, rhaid i ACC ystyried unrhyw sylwadau a wneir i ACC gan y person sy’n gofyn am yr adolygiad, ar yr amod eu bod yn cael eu gwneud ar adeg sy’n rhoi cyfle rhesymol i ACC eu hystyried. Gall yr adolygiad ddod i’r casgliad bod penderfyniad ACC i’w gadarnhau, i’w amrywio neu i’w ganslo. Mae adran 176(6) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau ei adolygiad. Dylid gwneud hynny o fewn 45 o ddiwrnodau i dderbyn hysbysiad y person am gais oni bai bod y partïon wedi cytuno ar gyfnod gwahanol. Mae is-adran (7) yn darparu, os nad yw ACC yn dyroddi hysbysiad am ei gasgliadau o fewn y cyfnod sy’n ofynnol o dan is-adran (6), y bernir bod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad bod penderfyniad ACC i’w gadarnhau, a rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r perwyl hwnnw.

205.Mae adran 177 yn darparu bod casgliadau’r adolygiad i’w trin fel pe baent yn ddyfarniad gan y tribiwnlys (ac eithrio na fydd hawl pellach i adolygiad neu apêl). Nid dyna fydd effaith casgliadau adolygiad, fodd bynnag, os bydd tribiwnlys yn dyfarnu wedi hynny mewn perthynas â’r penderfyniad, neu os yw ACC a’r person a ofynnodd am yr adolygiad yn ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw.

Adrannau 178-181 – Apelau

206.Mae adran 178(1) yn darparu bod rhaid gwneud apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy gan ACC, fel y’i diffinnir yn adran 173, i’r tribiwnlys. Ni chaniateir gwneud apêl os yw’r canlynol yn berthnasol mewn perthynas â’r un penderfyniad: bod ymholiad gan ACC yn mynd rhagddo, bod cais wedi ei wneud am adolygiad ac nad yw’r adolygiad hwnnw wedi ei gwblhau hyd yma, neu fod y person sy’n gwneud apêl wedi ymrwymo i gytundeb setlo gydag ACC.

207.Mae adran 179 yn nodi o fewn pa gyfnod y gellir gwneud apêl, sef 30 o ddiwrnodau ar ôl amser penodol, sy’n amrywio gan ddibynnu ar ba un neu ragor o’r amodau a nodir yn yr adran hon sy’n gymwys. O dan is-adran (3), er enghraifft, pan fo ACC wedi adolygu’r penderfyniad, mae gan yr apelai 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad am y casgliadau (neu’r casgliadau tybiedig) i’r apelai yn unol ag adran 177(5).

208.Mae adran 180 yn darparu y gellir gwneud apêl hwyr ar ôl i’r cyfnod perthnasol ddod i ben, os yw’r tribiwnlys yn rhoi ei ganiatâd. Bydd rheolau’r tribiwnlys yn ymdrin â’r weithdrefn ar gyfer ceisiadau i’r tribiwnlys ganiatáu apêl hwyr. Pan wneir apêl, mae adran 181 yn ei gwneud yn ofynnol i’r tribiwnlys gadarnhau, amrywio neu ganslo penderfyniad ACC sy’n destun yr apêl.

Adran 182-183 – Canlyniadau adolygiadau ac apelau

209.Mae adran 182 yn nodi sut yr ymdrinnir â thalu cosbau y gallai person fod yn agored iddynt yn ystod adolygiad neu apêl. Yn ei hanfod, effaith y ddarpariaeth hon yw y caiff y gofyniad i dalu cosb o dan adran 154 ei ohirio hyd 30 o ddiwrnodau ar ôl i adolygiad ddod i ben neu wedi i apêl gael ei dyfarnu’n derfynol. Fodd bynnag, nid yw’r gohiriad hwn yn gymwys i unrhyw swm o gosb nad oes anghydfod yn ei gylch.

210.Effaith adran 183 yw gohirio’r gofyniad i gydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu ofyniad mewn hysbysiad o’r fath tra bo adolygiad o’r penderfyniad perthnasol, neu apêl yn ei erbyn, yn mynd rhagddo. Mae hefyd yn rhoi’r pŵer i ACC neu’r tribiwnlys bennu wedi hynny gyfnod ar gyfer cydymffurfio os yw adolygiad neu apêl yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu ofyniad sydd ynddo.

Adran 184 – Setlo anghydfodau drwy gytundeb

211.Mae adran 184 yn darparu sut y gellir setlo materion drwy gytundeb rhwng y person y mae’r penderfyniad apeliadwy’n gymwys iddo ac ACC. Mae is-adran (1) yn diffinio ystyr “cytundeb setlo”. Mae is-adran (2) yn darparu bod canlyniadau cytundeb setlo i fod yr un fath â phe bai’r tribiwnlys wedi dyfarnu ar ganlyniad apêl (ac eithrio i’r graddau a bennir yn is-adran (3)), oni bai bod y person yn hysbysu ACC o fewn 30 o ddiwrnodau ei fod yn dymuno tynnu’n ôl o’r cytundeb. Er mwyn i ganlyniadau cytundeb setlo nad oedd yn un ysgrifenedig fod yr un fath â’r rhai yn is-adran (2), mae is-adran (5) yn darparu bod angen i ACC roi cadarnhad ysgrifenedig o hynny i’r person. Mae’n bosibl i ACC a pherson y mae penderfyniad apeliadwy yn y gymwys iddo ymrwymo i gytundeb setlo ar unrhyw adeg, ac eithrio pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad wedi ei dyfarnu’n derfynol.

Rhan 9 – Ymchwilio I Droseddau

Adran 185 – Pwerau i ymchwilio i droseddau

212.Mae’r adran yn diwygio Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (“DHThD”) er mwyn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn cymhwyso darpariaethau penodol DHThD i ymchwiliadau ACC i droseddau. Byddai hyn yn galluogi ACC i ddefnyddio pwerau penodedig yn DHThD wrth ymchwilio i droseddau amrywiol, megis y troseddau a grëir yn y Ddeddf hon, yn ogystal â’r rheini a sefydlwyd gan Ddeddf Twyll 2006, neu droseddau cyfraith gyffredin megis twyllo cyllid y wlad.

213.Mae’r pwerau a ddarperir gan DHThD yn cynnwys arfau arferol ymchwiliadau troseddol, megis gwarantau chwilio, y pŵer i arestio person a’i gadw yn y ddalfa mewn cysylltiad ag ymchwiliad; a gorchmynion sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno gwybodaeth benodol.

214.Mae’r adran hefyd yn galluogi’r rheoliadau sy’n cymhwyso’r darpariaethau i addasu’r modd yr arferir y pwerau i ryw raddau.

215.Mae adran 114 o DHThD yn rhoi pŵer tebyg i Drysorlys Ei Mawrhydi gymhwyso darpariaethau penodol yn DHThD i ymchwiliadau i droseddau gan CThEM.

216.Mae is-adran (2) yn rhoi pŵer tebyg i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â’r darpariaethau yn Rhan 2 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (“DCTH”), sy’n rhoi pwerau penodol i ymchwilwyr atafaelu deunyddiau a ganfyddir yn ystod chwiliad, a’u cadw.

217.Mae’r pwerau yn y ddwy is-adran yn cynnwys pŵer i ganiatáu i bersonau sy’n cynnal ymchwiliadau ACC ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer y pwerau hyn. Nid yw DHThD na DCTH yn cyfeirio at allu’r Heddlu i ddefnyddio grym rhesymol, gan fod gan yr Heddlu bŵer cyffredinol i ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer swyddogaethau’r Heddlu. Ni fyddai hynny’n cael ei gymryd yn ganiataol yn achos personau sy’n cynnal ymchwiliadau ar ran ACC. O’r herwydd, mae angen sicrhau y gall y pwerau yn yr is-adrannau hyn gynnwys darpariaeth o’r fath.

218.Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan yr adran hon oni fo drafft wedi ei osod yn gyntaf gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Adran 186 – Enillion troseddau

219.Mae Deddf Enillion Troseddau 2002 (“DET”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer adennill asedau a gaffaelwyd drwy ymddygiad troseddol, o dan amgylchiadau penodol. Mae’r gallu i adennill yr asedau hynny yn ddarostyngedig i fodloni amrywiaeth o amodau, ac yn y pen draw, ar lys troseddol yn gwneud gorchymyn i adennill yr asedau hynny.

220.Diben yr adran hon yn diwygio adran 453 o DET fel y caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn i bennu y caniateir arfer pwerau penodol a ddarperir gan DET drwy ymchwilydd ariannol achrededig (“accredited financial investigator”) a benodir gan ACC yn ystod ymchwiliad troseddol. Ystyr ymchwilydd ariannol achrededig yw ymchwilydd ariannol a achredwyd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn unol ag adran 3 o DET. Mae’r pwerau yn DET yn cynnwys y pŵer i wneud cais i lys troseddol am orchmynion llesteirio, gorchmynion atafaelu, neu orchmynion ymafael mewn arian.

221.Ni fydd gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon yn gallu newid y drefn DET gyfredol, a bydd y mesurau diogelu cysylltiedig a ddarperir gan DET yn gymwys i arfer y pwerau gan ACC, a hynny heb eu diwygio. Mae is-adrannau (2) a (3) hefyd yn darparu y bydd yn ofynnol i ACC dalu iawndal i berson o dan amgylchiadau penodol pan gafwyd gorchymyn dros dro (gorchymyn llesteirio neu orchymyn ymafael mewn arian, er enghraifft), ond na wnaeth y llys roi gorchymyn atafaelu neu fforffedu.

222.Mae gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

Adran 187 – Rheoleiddio pwerau ymchwilio

223.Mae Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (“DRhPY”) yn galluogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddefnyddio pwerau ymchwilio penodol mewn modd sy’n cydymffurfio â hawliau dynol. Yn benodol, mae DRhPY yn rhoi pwerau i asiantaethau penodol sy’n gorfodi’r gyfraith gynnal gwyliadwriaeth gyfeiriedig (fel y’i diffinnir gan adran 26(2) o DRhPY), a gwyliadwriaeth cudd-wybodaeth ddynol (fel y’i diffinnir gan adran 28(2) o DRhPY).

224.Mae’r adran hon yn diwygio DRhPY er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn sy’n rhagnodi’r personau hynny sy’n arfer swyddogaethau ACC sy’n gallu awdurdodi gwyliadwriaeth gyfeiriedig neu gudd-wybodaeth ddynol o dan adrannau 28 a 29 o DRhPY. Mae is-adran (3) hefyd yn diwygio DRhPY fel bod ACC yn awdurdod cyhoeddus perthnasol (“relevant public authority”) at ddibenion DRhPY. Gyda’i gilydd, bydd y diwygiadau hyn a’r gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru yn galluogi staff penodedig yn ACC i awdurdodi a chynnal gwyliadwriaeth gyfeiriedig a gwyliadwriaeth cudd-wybodaeth ddynol, cyn belled â bod yr amodau perthnasol a’r gofynion gweithdrefnol yn DRhPY yn cael eu bodloni.

225.Ni fydd gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon yn gallu addasu cyfundrefn bresennol DRhPY, a bydd y mesurau diogelu cysylltiedig yn gymwys i’r modd y mae ACC yn arfer y pwerau heb eu haddasu.

226.Mae gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

Rhan 10 – Darpariaethau Terfynol

Adran 188 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.

227.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol neu atodol mewn perthynas â’r Ddeddf.

Adran 189 – Rheoliadau

228.Mae’r adran hon yn nodi gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru y bydd yr amrywiol bwerau dirprwyedig yn ddarostyngedig iddi. Mae is-adran (2) yn pennu’r rheoliadau a fydd yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol, a bydd yr holl reoliadau eraill yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

Adran 190 – Dyroddi hysbysiadau

229.Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth o’r Ddeddf neu o unrhyw reoliadau a wneir oddi tano wedi iddo gael ei ddeddfu, yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad i berson. Mae’r adran yn datgan sut y gellir dyroddi hysbysiad a sut y mae hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn mewn amgylchiadau gwahanol. Mae’r adran hefyd yn darparu diffiniad o “gyfeiriad priodol”.

Adran 191 – Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACC

230.Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth o’r Ddeddf neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i berson roi hysbysiad neu ddogfennau eraill i ACC. Rhaid i unrhyw ddogfen fod ar y ffurf honno, gynnwys yr wybodaeth honno a chael ei rhoi yn y dull hwnnw a bennir gan ACC, ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau gwahanol a wneir o dan y Ddeddf. Mae’r adran hefyd yn nodi’r amgylchiadau pan na fo’n gymwys.

Adran 192 - Dehongli

231.Mae’r adran hon yn diffinio’r hyn a olygir gan “dyfernir yn derfynol” mewn perthynas ag apêl neu atgyfeiriad, ac yn diffinio amrywiol dermau cyffredinol a ddefnyddir yn y Ddeddf.

Adran 193 - Mynegai o ymadroddion a ddiffinnir

232.Mae’r adran hon yn darparu Tabl sy’n rhestru ymadroddion a ddiffinnir neu a eglurir fel arall yn y Ddeddf.

Adran 194 – Dod i rym

233.Mae’r adran hon yn nodi’r adrannau hynny a ddaw i rym ar y diwrnod ar ôl y Cydsyniad Brenhinol ac yn datgan bod y darpariaethau eraill yn dod i rym ar adeg a bennir mewn gorchymyn neu orchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru.

Adran 195 – Enw byr

234.Mae’r adran hon yn darparu mai enw byr y Ddeddf yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources