Adrannau 129-132 – Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennau
157.Mae adran 129 yn darparu bod person yn agored i gosb pan fo’n cyflwyno dogfennau penodol i ACC sy’n cynnwys anghywirdeb, cyn belled â bod dau amod yn cael eu bodloni. Yr amod cyntaf yw bod yr anghywirdeb yn gyfystyr â naill ai danddatganiad o’r rhwymedigaeth i dreth, ddatganiad ffug neu ormodol o golled neu hawliad ffug neu ormodol am ymwared neu ad-daliad treth, neu’n arwain at hynny. Yr ail amod yw bod yr anghywirdeb, ym marn ACC, naill ai’n fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person sy’n cyflwyno’r ddogfen (a allai fod y trethdalwr neu rywun sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr neu y mae’n ofynnol iddo roi dogfen i ACC, yn dilyn hysbysiad gwybodaeth a ddyroddwyd o dan Ran 4 er enghraifft). Mae cosb yn daladwy am bob camgymeriad. Pennir y dogfennau y bydd y gosb hon yn berthnasol iddynt mewn deddfwriaeth ar gyfer trethi penodol.
158.Mae adran 130 yn pennu swm y gosb am anghywirdeb bwriadol ac am anghywirdeb diofal, a gyfrifir fel canran o’r “refeniw posibl a gollir” fel y’i diffinnir yn adran 134.
159.Mae adran 131 yn rhoi’r pŵer i ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb y mae person yn agored iddi o dan adran 129 o ganlyniad i gyflwyno dogfen i ACC sy’n cynnwys camgymeriad diofal. Pan fo’n arfer y pŵer hwn, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb, a rhaid i hwnnw bennu pa ran o’r gosb sy’n cael ei gohirio, a gosod cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd a’r amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy. Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohiriad yn helpu’r person i osgoi rhwymedigaeth i gosbau pellach am anghywirdeb diofal. Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben, caiff y gosb a ohiriwyd (y gosb gyfan neu ran ohoni) ei chanslo os yw ACC wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd â’r amodau; fel arall, daw’r gosb a ohiriwyd (y gosb gyfan neu ran ohoni) yn daladwy. Daw cosb a ohiriwyd yn daladwy os yw’r person yn dod yn agored i gosb arall am dreth ddatganoledig yn ystod y cyfnod gohirio.
160.Mae adran 132 yn darparu bod person (A) yn agored i gosb pan fo person arall (B) yn cyflwyno dogfen i ACC sy’n cynnwys anghywirdeb, a bod yr anghywirdeb hwnnw i’w briodoli i’r ffaith bod A naill ai wedi darparu gwybodaeth ffug i B yn fwriadol neu wedi atal gwybodaeth rhagddo yn fwriadol gyda’r bwriad o greu anghywirdeb. Pan fo hynny’n digwydd a bod naill ai danddatganiad o rwymedigaeth i dreth neu hawliad ffug neu ormodol am golled neu ad-daliad o dreth, mae A yn agored i dalu cosb sy’n 100% o’r “refeniw posibl a gollir”. Er enghraifft, byddai trethdalwr sy’n rhoi dogfen anghywir yn fwriadol i’w asiant yn dod yn agored i’r gosb hon pan fo’r asiant yn cyflwyno’r ddogfen anghywir i ACC ar ran y trethdalwr. Gallai’r asiant fod yn agored i gosb hefyd o dan adran 129, a byddai’r cwestiwn o ba un a weithredodd yr asiant yn fwriadol neu’n ddiofal yn dibynnu ar ffeithiau’r achos.