Search Legislation

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(a gyflwynir gan adran 2)

ATODLEN 1LL+CSAFLEOEDD NAD YDYNT YN SAFLEOEDD RHEOLEIDDIEDIG

Eu defnyddio o fewn cwrtil tŷ anneddLL+C

1Nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio mewn modd sy’n gysylltiedig â mwynhau tŷ annedd y mae’r tir wedi ei leoli yn ei gwrtil.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Eu defnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol am 1 neu 2 o nosweithiauLL+C

2Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol sy’n dod â’r cartref symudol i’r tir am gyfnod nad yw’n cynnwys mwy na 2 noson—

(a)os nad oes cartref symudol arall wedi ei osod yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo ar y tir hwnnw neu unrhyw dir cyfagos o dan yr un berchnogaeth, a

(b)os nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu’r tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28 yn ystod y cyfnod o 12 mis yn diweddu â’r diwrnod y deuir â’r cartref symudol i’r tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Defnyddio daliadau o 20,000 m² neu fwy o dan amgylchiadau penodolLL+C

3(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig ar unrhyw ddiwrnod os yw’n ffurfio, ynghyd ag unrhyw dir cyfagos sydd o dan yr un berchnogaeth ac nad adeiladwyd arno, nid llai nag 20,000 o fetrau sgwâr ac o fewn y cyfnod o 12 mis cyn y diwrnod hwnnw—

(a)nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28, a

(b)nad oedd mwy na 3 chartref symudol wedi eu gosod unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddynt ar unrhyw un adeg.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y paragraff hwn i fod yn effeithiol mewn unrhyw ardal a bennir yn y gorchymyn fel pe bai—

(a)y cyfeiriad yn is-baragraff (1) at 20,000 o fetrau sgwâr wedi ei ddisodli gan gyfeiriad at unrhyw arwynebedd lai a bennir yn y gorchymyn, neu

(b)yr amod a bennir ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwnnw wedi ei ddisodli gan amod bod y defnyddio o dan sylw yn syrthio rhwng unrhyw ddyddiadau mewn unrhyw flwyddyn a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion gwahanol o dan is-baragraff (2) o ran ardaloedd gwahanol.

(4)Mae gorchymyn o dan is-baragraff (2) i ddod i rym ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn, sef dyddiad nad yw’n llai na 3 mis ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad ynglŷn â gorchymyn o dan is-baragraff (2) mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Safleoedd a berchennir ac a oruchwylir gan sefydliadau esemptLL+C

4Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw sefydliad yn berchen arno sydd â thystysgrif o esemptiad a roddir o dan baragraff 13 (“sefydliad esempt”) a’i fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion hamdden o dan oruchwyliaeth y sefydliad esempt.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Safleoedd a gymeradwyir gan sefydliadau esemptLL+C

5(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os oes tystysgrif mewn grym ar ei gyfer a ddyroddwyd o dan y paragraff hwn gan sefydliad esempt ac nad oes mwy na 5 o gartrefi symudol wedi eu gosod ar y pryd er mwyn i bobl fyw ynddynt ar y tir y mae’r dystysgrif yn cyfeirio ato.

(2)At ddibenion y paragraff hwn caiff sefydliad esempt ddyroddi ar gyfer unrhyw dir dystysgrif sy’n datgan bod y tir wedi ei gymeradwyo gan y sefydliad esempt i’w ddefnyddio gan ei aelodau at ddibenion hamdden.

(3)Rhaid i’r dystysgrif gael ei dyroddi at berchennog y tir y mae’n cyfeirio ato, a rhaid i’r sefydliad esempt anfon manylion at Weinidogion Cymru am bob tystysgrif a ddyroddir gan y sefydliad esempt o dan y paragraff hwn.

(4)Rhaid i dystysgrif a ddyroddir gan sefydliad esempt o dan y paragraff hwn bennu’r dyddiad y daw i rym ac am ba gyfnod y mae i barhau mewn grym, sef cyfnod nad yw’n fwy na blwyddyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Cyfarfodydd a drefnir gan sefydliadau esemptLL+C

6Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’r safle’n cael ei ddefnyddio o dan oruchwyliaeth sefydliad esempt a hynny yn unol â threfniadau a wnaed gan y sefydliad hwnnw ar gyfer cyfarfod i’w aelodau nad yw’n para mwy na 5 niwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Gweithwyr amaethyddiaeth a choedwigaethLL+C

7Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n dir amaethyddol sy’n cael ei ddefnyddio i roi llety yn ystod tymor penodol i berson neu bersonau a gyflogir mewn gweithredoedd ffermio ar dir sydd o dan yr un berchnogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

8Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n cael ei ddefnyddio i roi llety yn ystod tymor penodol i berson a gyflogir ar dir o dan yr un berchnogaeth, sef tir sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion coedwigaeth (gan gynnwys fforestu).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Safleoedd adeiladu a pheiriannuLL+C

9Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n ffurfio rhan o dir, neu os yw’n gyfagos i dir, y mae gweithredoedd adeiladu neu beiriannu yn cael eu gwneud arno (sef gweithredoedd y mae caniatâd cynllunio wedi ei roi ar eu cyfer, os oes ei angen) ac sy’n cael ei ddefnyddio i roi llety i berson neu bersonau a gyflogir mewn cysylltiad â’r gweithredoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Siewmyn teithiolLL+C

10(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw [F1safle nad yw awdurdod lleol yn berchen arno yn] safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan siewmon teithiol sy’n aelod o sefydliad i siewmyn teithiol sydd â thystysgrif a roddwyd o dan y paragraff hwn ac sydd, ar y pryd, yn teithio at ddibenion busnes neu sydd wedi gosod annedd gaeaf ar y tir gyda chyfarpar am ryw gyfnod sy’n syrthio rhwng dechrau mis Hydref mewn unrhyw flwyddyn a diwedd mis Mawrth yn y flwyddyn wedyn.

(2)At ddibenion y paragraff hwn caiff Gweinidogion Cymru roi tystysgrif i unrhyw sefydliad a gydnabyddir ganddynt fel un sy’n cyfyngu ei haelodaeth i siewmyn teithiol bona fide; a chaniateir i dystysgrif gael ei thynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru unrhyw bryd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Safleoedd a berchennir gan awdurdod lleolLL+C

11Nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’r awdurdod lleol yn berchen arno.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Atod. 1 para. 11 modified (5.11.2013) by 1995 c. 25, Atod. 9 para. 4A(b) (as inserted by Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (anaw 6), a. 64(1), Atod. 4 para. 8(3) (ynghyd ag Atod. 5 para. 7) (this amendment is to be treated as not having effect until 1.10.2014 by virtue of O.S. 2014/11, ergl. 3(2)))

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Esemptiad dros dro ar ôl marwolaeth perchennog, neu newid arall yn y perchennogLL+C

12(1)Os bydd deiliad trwydded safle ar gyfer safle rheoleiddiedig yn marw, neu os ceir newid o ran pwy yw perchennog safle y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer am unrhyw reswm arall, nid yw’r safle’n safle rheoleiddiedig yn ystod y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â diwrnod marwolaeth neu newid y perchennog (y “cyfnod esempt cychwynnol”).

(2)Ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod esempt cychwynnol, neu unrhyw gyfnod wedyn a bennir o dan yr is-baragraff hwn, os bydd cynrychiolydd personol y perchennog marw neu’r perchennog newydd yn gwneud cais i’r awdurdod lleol y mae’r safle o fewn ei ardal, caiff yr awdurdod lleol drwy hysbysiad a ddyroddir i’r ymgeisydd ddarparu nad yw’r safle i fod yn safle rheoleiddiedig yn ystod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu gwrthod cais o dan is-baragraff (2) rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r ymgeisydd am y penderfyniad a’r rhesymau drosto.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Ardystio sefydliadau esemptLL+C

13(1)At ddibenion paragraffau 4, 5 a 6 caiff Gweinidogion Cymru roi tystysgrif esemptiad i unrhyw sefydliad y maent yn fodlon bod ei amcanion yn cynnwys hybu neu hyrwyddo gweithgareddau hamdden.

(2)Caniateir i dystysgrif a roddir o dan y paragraff hwn gael ei thynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru unrhyw bryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Pŵer i dynnu eithriadau yn ôlLL+C

14(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais awdurdod lleol, drwy orchymyn ddarparu bod yr Atodlen hon, o ran unrhyw dir a leolir yn ei ardal a bennir yn y gorchymyn, i fod yn effeithiol fel pe bai paragraffau 2 i 10, neu unrhyw un neu ragor o’r paragraffau hyn a bennir yn y gorchymyn, wedi eu hepgor o’r Atodlen hon.

(2)O ran gorchymyn o dan y paragraff hwn—

(a)daw i rym ar y dyddiad a bennir ynddo, a

(b)ni chaniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan orchymyn dilynol ond ar gais yr awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais.

(3)Heb fod yn llai na 3 mis cyn i orchymyn o dan y paragraff hwn ddod i rym, rhaid i’r awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais beri bod hysbysiad sy’n nodi effaith y gorchymyn a’r dyddiad y daw i rym gael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir y mae’r gorchymyn yn cyfeirio ato wedi ei leoli ynddo.

(4)Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos gorchymyn ei unig effaith yw dirymu gorchymyn blaenorol yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I28Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

(a gyflwynir gan adran 50)

ATODLEN 2LL+CTELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

RHAN 1LL+CTELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 1LL+CCYMHWYSO

1(1)Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 2 yn gymwys i bob cytundeb ac eithrio cytundeb sy’n ymwneud â llain ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.LL+C

(2)Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 3 yn gymwys i gytundeb sy’n ymwneud â llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

(3)Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 4 yn gymwys i gytundeb sy’n ymwneud â llain barhaol ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

(4)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig y mae’n ofynnol i berchennog y safle gwarchodedig ei roi i feddiannydd y cartref symudol gan adran 49(1);

  • ystyr “dyddiad yr adolygiad” (“review date”), mewn perthynas â chytundeb, yw’r dyddiad a bennir yn y datganiad ysgrifenedig fel y dyddiad y caiff y ffi am y llain ei hadolygu bob blwyddyn, neu os nad oes dyddiad o’r fath wedi ei bennu, pen blwydd dyddiad cychwyn y cytundeb;

  • ystyr “mynegai prisiau defnyddwyr” (“consumer price index”) yw’r mynegai cyffredinol o eitemau defnyddwyr (o bob eitem) a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau neu, os na chyhoeddir y mynegai hwnnw am fis perthnasol, unrhyw fynegai neu ffigurau o fynegai amgen a gyhoeddir gan y Bwrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I30Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

PENNOD 2LL+CCYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU AC EITHRIO’R RHAI HYNNY SYDD AR SAFLEOEDD AWDURDODAU LLEOL I SIPSIWN A THEITHWYR

Parhad y cytundebLL+C

2Yn ddarostyngedig i baragraff 3, mae’r hawl i osod y cartref symudol ar dir sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig yn bodoli hyd nes i’r cytundeb gael ei derfynu o dan baragraff 4, 5, 6 neu 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I32Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

3(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am gyfnod amhenodol, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

(3)Os ceir newid amgylchiadau cyn diwedd cyfnod a bennir gan y paragraff hwn a hwnnw’n caniatáu cyfnod hirach, mae ystyriaeth i gael ei rhoi i’r newid hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I34Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

TerfynuLL+C

4Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r perchennog nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I36Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

5Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol ar gais gan y perchennog—

(a)wedi ei fodloni bod y meddiannydd wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I38Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

6Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol, ar gais y perchennog—

(a)wedi ei fodloni nad yw’r meddiannydd yn meddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r meddiannydd, a

(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I40Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

7(1)Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith—

(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi penderfynu bod y cartref symudol, o roi sylw i’w gyflwr, yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, a

(b)wedyn, ar gais y perchennog, os bydd y corff barnwrol priodol, o roi sylw i benderfyniad y tribiwnlys ac i unrhyw amgylchiadau eraill, o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys, ar gais i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(a)—

(a)os bydd y tribiwnlys o’r farn, o roi sylw i gyflwr presennol y cartref symudol, ei fod yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, ond

(b)ei fod o’r farn hefyd y byddai’n rhesymol ymarferol i waith trwsio penodol gael ei wneud ar y cartref symudol a fyddai’n golygu na châi’r cartref symudol yr effaith andwyol honno, ac

(c)os bydd y meddiannydd yn mynegi i’r tribiwnlys fod y meddiannydd yn bwriadu gwneud y gwaith trwsio hwnnw.

(3)Mewn achos o’r fath, caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn interim—

(a)sy’n pennu’r gwaith trwsio y mae’n rhaid ei wneud ac o fewn pa amser y mae’n rhaid ei wneud, a

(b)sy’n gohirio’r achos ar y cais am unrhyw gyfnod a bennir yn y gorchymyn interim sy’n rhesymol ym marn y tribiwnlys i alluogi i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

(4)Os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan is-baragraff (3), rhaid iddo beidio â gwneud penderfyniad o dan is-baragraff (1)(a) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y cyfnod penodedig wedi dod i ben heb i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I42Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Adennill gordaliadau gan y meddiannyddLL+C

8Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraff 4, 5, 6 neu 7, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I44Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Gwerthu cartref symudolLL+C

9(1)Os yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i werthu’r cartref symudol ac i aseinio’r cytundeb i’r person y gwerthir y cartref symudol iddo (y “meddiannydd newydd”) heb gymeradwyaeth y perchennog.

(2)Yn y paragraff hwn a pharagraffau 10, 12 a 13, ystyr “cytundeb newydd” yw cytundeb—

(a)a wnaed ar ôl i’r paragraff hwn gychwyn, neu

(b)a wnaed cyn iddo gychwyn, ond sydd wedi ei aseinio ar ôl iddo gychwyn.

(3)Rhaid i’r meddiannydd newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r perchennog fod y gwerthiant wedi ei gwblhau a bod y cytundeb wedi ei aseinio.

(4)Mae’n ofynnol i’r meddiannydd newydd dalu comisiwn i’r perchennog ar werthiant y cartref symudol ar raddfa nad yw’n fwy nag unrhyw raddfa a bennir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(5)Ac eithrio i’r graddau a grybwyllir yn is-baragraff (4), ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb i’r meddiannydd newydd.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad—

(a)â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb, neu

(b)â thalu comisiwn yn rhinwedd is-baragraff (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I46Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 7.1.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/11, ergl. 2(b)

I47Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

10(1)Os nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i werthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb heb gymeradwyaeth y perchennog—

(a)os bydd y meddiannydd yn cyflwyno i’r perchennog hysbysiad (“hysbysiad o’r bwriad i werthu”) fod y meddiannydd yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r person a enwir yn yr hysbysiad (y “meddiannydd arfaethedig”), a

(b)os bodlonir yr amod cyntaf neu’r ail amod.

(2)Yr amod cyntaf yw nad yw’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y perchennog yr hysbysiad o’r bwriad i werthu (“y cyfnod o 21 o ddiwrnodau”), yn cael hysbysiad gan y perchennog fod y perchennog wedi gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag gwerthu’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”).

(3)Yr ail amod yw hyn—

(a)o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau—

(i)bod y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod, a

(ii)bod y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog, a

(b)bod y tribiwnlys yn gwrthod y cais.

(4)Os bydd y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ond nad yw’r meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog o fewn y cyfnod hwnnw—

(a)mae’r cais i’w drin fel pe bai heb ei wneud, a

(b)gan hynny mae’r amod cyntaf i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni.

(5)Rhaid i hysbysiad o’r bwriad i werthu gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(6)O ran hysbysiad o’r bwriad i werthu neu hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen, a

(b)caniateir ei gyflwyno drwy’r post.

(7)Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y caniateir gwneud cais am orchymyn gwrthod; a rhaid i hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod bennu ar ba sail neu seiliau y gwneir y cais.

(8)Mae’n ofynnol i’r person y gwerthir y cartref symudol iddo (“y meddiannydd newydd”) dalu comisiwn i’r perchennog ar werthiant y cartref symudol ar raddfa nad yw’n fwy nag unrhyw raddfa a bennir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(9)Ac eithrio i’r graddau a grybwyllir yn is-baragraff (8), ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd, meddiannydd arfaethedig neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad—

(a)â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb, ac

(b)â thalu comisiwn yn rhinwedd is-baragraff (8).

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I49Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 7.1.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/11, ergl. 2(b)

I50Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

11(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r meddiannydd yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, yn unol â pharagraff 9 neu 10.

(2)Rhaid i’r meddiannydd, heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau cyn cwblhau gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb, roi’r canlynol i’r meddiannydd arfaethedig—

(a)unrhyw ddogfennau, neu ddogfennau o unrhyw ddisgrifiad, a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a

(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir yn y rheoliadau, yn y ffurf a ragnodir ynddynt.

(3)Ond os bydd y meddiannydd arfaethedig yn cydsynio mewn ysgrifen i’r dogfennau a’r wybodaeth arall gael eu rhoi erbyn dyddiad (“y dyddiad a ddewiswyd”) sy’n llai nag 28 o ddiwrnodau cyn cwblhau’r gwerthiant ac aseinio’r cytundeb, rhaid i’r meddiannydd roi’r dogfennau a’r wybodaeth arall i’r meddiannydd arfaethedig heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a ddewiswyd.

(4)Mae’r dogfennau a’r wybodaeth arall y caniateir eu rhagnodi mewn rheoliadau o dan is-baragraff (2) yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain)—

(a)copi o’r cytundeb,

(b)copi o reolau’r safle (os oes rhai) ar gyfer y safle gwarchodedig y gosodwyd y cartref symudol arno,

(c)manylion y ffi am y llain sy’n daladwy o dan y cytundeb,

(d)cyfeiriad anfon ymlaen y meddiannydd,

(e)mewn achos o fewn paragraff 9, gwybodaeth am y gofyniad a osodir yn rhinwedd is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw,

(f)manylion y comisiwn a fyddai’n daladwy gan y meddiannydd arfaethedig yn rhinwedd paragraff 9(4) neu 10(8),

(g)gwybodaeth am unrhyw ofynion a ragnodir mewn rheoliadau o dan baragraff 9(6) neu 10(10).

(5)Caniateir i ddogfennau neu wybodaeth arall y mae’n ofynnol eu rhoi o dan y paragraff hwn gael eu rhoi i’r prynwr arfaethedig yn bersonol neu eu hanfon drwy’r post.

(6)Caniateir i hawliad bod person wedi torri’r ddyletswydd o dan is-baragraff (2) neu (3) fod yn destun achos sifil yn yr un modd ag unrhyw hawliad arall mewn camwedd am dorri dyletswydd statudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I52Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 7.1.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/11, ergl. 2(b)

I53Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Rhoi cartref symudol yn anrhegLL+C

12(1)Os yw cytundeb yn gytundeb newydd, ar yr amod bod y meddiannydd wedi rhoi’r dystiolaeth berthnasol i’r perchennog, mae gan y meddiannydd hawl i roi’r cartref symudol, ac i aseinio’r cytundeb, i aelod o deulu’r meddiannydd (y “meddiannydd newydd”) heb gymeradwyaeth y perchennog.

(2)Dyma’r dystiolaeth berthnasol—

(a)tystiolaeth, neu dystiolaeth o ddisgrifiad, a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru fod y person y mae’r meddiannydd yn bwriadu rhoi’r cartref symudol iddo, ac aseinio’r cytundeb iddo, yn aelod o deulu’r meddiannydd, neu

(b)unrhyw dystiolaeth foddhaol arall fod y person o dan sylw yn aelod o deulu’r meddiannydd.

(3)Rhaid i’r meddiannydd newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r perchennog ei fod wedi cael y cartref symudol a bod y cytundeb wedi ei aseinio iddo.

(4)Ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, a grybwyllir yn is-baragraff (1).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, a grybwyllir yn is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I55Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 7.1.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/11, ergl. 2(b)

I56Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

13(1)Os nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i roi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i aelod o deulu’r meddiannydd (y “meddiannydd arfaethedig”) heb gymeradwyaeth y perchennog—

(a)os bydd y meddiannydd yn cyflwyno hysbysiad i’r perchennog (“hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref”) fod y meddiannydd yn bwriadu rhoi’r cartref symudol i’r meddiannydd arfaethedig, a

(b)os bodlonir yr amod cyntaf neu’r ail amod.

(2)Yr amod cyntaf yw nad yw’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y perchennog yr hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref (“y cyfnod o 21 o ddiwrnodau”), yn cael hysbysiad gan y perchennog fod y perchennog wedi gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”).

(3)Yr ail amod yw hyn—

(a)o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau—

(i)bod y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod, a

(ii)bod y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog, a

(b)bod y tribiwnlys yn gwrthod y cais.

(4)Os bydd y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ond nad yw’r meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog o fewn y cyfnod hwnnw—

(a)mae’r cais i’w drin fel pe bai heb ei wneud, a

(b)gan hynny mae’r amod cyntaf i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni.

(5)Rhaid i hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref gynnwys—

(a)y dystiolaeth berthnasol o dan baragraff 12(2), a

(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(6)O ran hysbysiad o’r bwriad i roi cartref neu hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen, a

(b)caniateir ei gyflwyno drwy’r post.

(7)Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y caniateir gwneud cais am orchymyn gwrthod; a rhaid i hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod bennu ar ba sail neu seiliau y gwneir y cais.

(8)Ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd a’r meddiannydd arfaethedig neu’r person y rhoddir y cartref iddo gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I58Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 7.1.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/11, ergl. 2(b)

I59Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Ail-leoli cartref symudolLL+C

14(1)Mae gan y perchennog hawl i’w gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod o ran llain arall sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig (“y llain arall”)—

(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd a’i bod yn rhesymol gosod y cartref symudol ar y llain arall am y cyfnod hwnnw, neu

(b)os bydd angen i’r perchennog wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys nad oes modd ei wneud ond os caiff y cartref symudol ei symud i’r llain arall am y cyfnod hwnnw, a naill ai—

(i)bod tribiwnlys, ar gais gan y perchennog, wedi ei fodloni ynglŷn â’r angen hwnnw ac wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd, neu

(ii)os yw’r brys ynglŷn â’r angen yn golygu ei bod yn anymarferol gwneud cais cyn i’r cartref symudol gael ei ail-leoli.

(2)Mewn achos pan fo is-baragraff (ii) o baragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r perchennog wneud cais ar unwaith i dribiwnlys ac os nad yw tribiwnlys wedi ei fodloni fel y crybwyllir yn is-baragraff (i) o’r paragraff hwnnw rhaid i’r perchennog sicrhau ar unwaith fod y cartref symudol yn dychwelyd i’r llain wreiddiol.

(3)Os bydd y perchennog yn ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd osod y cartref symudol ar y llain arall er mwyn i’r perchennog amnewid neu drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, rhaid i’r perchennog sicrhau bod y cartref symudol yn dychwelyd i’r llain wreiddiol pan gwblheir y gwaith amnewid neu’r gwaith trwsio, os bydd y meddiannydd yn gofyn i’r perchennog wneud hynny neu os bydd tribiwnlys ar gais y meddiannydd yn gorchymyn i’r perchennog wneud hynny.

(4)Rhaid i’r perchennog dalu’r holl gostau a threuliau yr eir iddynt gan y meddiannydd mewn cysylltiad â symud y cartref symudol yn ôl ac ymlaen i’r llain arall.

(5)Yn y paragraff hwn a pharagraff 16 ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

(a)trwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

(b)gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

(c)gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I61Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwyddLL+C

15Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraffau 14 a 16.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I63Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Hawl y perchennog i fynd i’r llainLL+C

16(1)Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

(a)i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

(b)i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

(2)Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

(3)Dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto y caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall.

(4)Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I65Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Y ffi am y llainLL+C

17(1)Dim ond yn unol â’r paragraff hwn y caniateir newid y ffi am y llain, naill ai—

(a)gyda chytundeb y meddiannydd, neu

(b)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog neu’r meddiannydd, o’r farn ei bod yn rhesymol i’r ffi am y llain gael ei newid a’i fod yn gwneud gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(2)Rhaid i’r ffi am y llain gael ei hadolygu’n flynyddol ar ddyddiad yr adolygiad.

(3)O leiaf 28 o ddiwrnodau clir cyn dyddiad yr adolygiad rhaid i’r perchennog roi hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion o ran y ffi newydd am y llain.

(4)Nid yw hysbysiad o dan is-baragraff (3) sy’n cynnig cynnydd yn y ffi am y llain yn effeithiol oni bai bod dogfen yn cyd-fynd ag ef sy’n cydymffurfio â pharagraff 23.

(5)Os bydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen.

(6)Os na fydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain—

(a)caiff y perchennog neu’r meddiannydd wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan y tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

(c)mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen ond rhaid peidio â barnu bod y meddiannydd mewn ôl-ddyledion tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunwyd ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(7)Caniateir i gais o dan is-baragraff (6)(a) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad ond heb fod yn fwy na 3 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad.

(8)Mae is-baragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd y perchennog—

(a)heb gyflwyno’r hysbysiad y gofynnir amdani o dan is-baragraff (3) erbyn yr amser yr oedd yn ofynnol ei gyflwyno, ond

(b)ar unrhyw adeg wedyn yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion o ran ffi newydd am y llain.

(9)Nid yw hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b) sy’n cynnig cynnydd yn y ffi am y llain yn effeithiol oni bai bod dogfen yn cyd-fynd ag ef sy’n cydymffurfio â pharagraff 23.

(10)Os bydd y meddiannydd (unrhyw bryd) yn cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b).

(11)Os na fydd y meddiannydd wedi cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain—

(a)caiff y perchennog neu’r meddiannydd wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

(c)os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn o’r fath, mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b).

(12)Caniateir i gais o dan is-baragraff (11) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b) ond heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad hwnnw.

(13)Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (6)(a) neu (11)(a) gael ei wneud iddo y tu allan i’r terfyn amser a bennir yn is-baragraff (7) (yn achos cais o dan is-baragraff (6)(a)) neu yn is-baragraff (12) (yn achos cais o dan is-baragraff (11)(a)) os bydd wedi ei fodloni, o dan yr holl amgylchiadau, fod rhesymau da dros fethu â gwneud cais o fewn y terfyn amser cymwys a thros unrhyw ohirio ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais y tu allan i’r amser.

(14)Rhaid peidio â thrin y meddiannydd fel pe bai mewn ôl-ddyledion—

(a)pan fo is-baragraff (10) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain, neu

(b)pan fo is-baragraff (11)(b) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(15)Mae is-baragraff (16) yn gymwys os bydd tribiwnlys, ar gais y meddiannydd, wedi ei fodloni—

(a)nad oedd hysbysiad o dan is-baragraff (3) neu (8)(b) yn effeithiol o ganlyniad i is-baragraff (4) neu (9), ond

(b)bod y meddiannydd er hynny wedi talu’r ffi am y llain a gynigwyd yn yr hysbysiad i’r perchennog.

(16)Caiff y tribiwnlys orchymyn i’r perchennog dalu i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y gorchymyn, y gwahaniaeth rhwng—

(a)y swm yr oedd yn ofynnol i’r meddiannydd ei dalu i’r perchennog am y cyfnod o dan sylw, a

(b)y swm y mae’r meddiannydd wedi ei dalu i’r perchennog am y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I67Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

18(1)Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain rhaid rhoi sylw yn benodol i’r canlynol—

(a)unrhyw symiau a wariwyd gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf ar welliannau—

(i)sydd er lles meddianwyr cartrefi symudol ar y safle gwarchodedig,

(ii)a fu’n destun ymgynghori yn unol â pharagraff 22(1)(e) ac (f), a

(iii)nad yw mwyafrif o’r meddianwyr wedi anghytuno â hwy mewn ysgrifen neu, yn achos anghytuno o’r fath, y tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi gorchymyn y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)unrhyw ddirywiad yng nghyflwr, ac unrhyw ostyngiad yn amwynder, y safle neu unrhyw dir cyfagos a feddiennir neu a reolir gan y perchennog ers y dyddiad y daeth yr is-baragraff hwn i rym (i’r graddau nad oes sylw wedi ei roi o’r blaen i’r dirywiad neu’r gostyngiad hwnnw at ddibenion yr is-baragraff hwn),

(c)unrhyw ostyngiad yn y gwasanaethau y mae’r perchennog yn eu darparu i’r safle, y llain neu’r cartref symudol, ac unrhyw ddirywiad yn ansawdd y gwasanaethau hynny, ers y dyddiad y daeth yr is-baragraff hwn i rym (i’r graddau nad oes sylw wedi ei roi o’r blaen i’r dirywiad neu’r gostyngiad hwnnw at ddibenion yr is-baragraff hwn), a

(d)unrhyw effaith uniongyrchol ar y costau sy’n daladwy gan y perchennog o ran cynnal a chadw neu reoli’r safle yn sgil deddfiad sydd wedi dod i rym ers dyddiad yr adolygiad diwethaf.

(2)Ond rhaid peidio â rhoi sylw, wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf er mwyn cydymffurfio â’r darpariaethau a geir yn y Rhan hon nas cynhwyswyd yn Neddf Cartrefi Symudol 1983 fel yr oedd yn gymwys o ran Cymru cyn i’r Rhan hon ddod i rym.

(3)Wrth gyfrifo faint yw mwyafrif o’r meddianwyr at ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii) rhaid cymryd mai 1 meddiannydd yn unig sydd gan bob cartref symudol ac os oes mwy nag 1 meddiannydd cartref symudol, cymerir mai’r meddiannydd yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y cytundeb.

(4)Mewn achos lle nad yw’r ffi am y llain wedi ei hadolygu o’r blaen, mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ddyddiad yr adolygiad diwethaf i’w darllen fel cyfeiriadau at y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 2 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I69Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

19(1)Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, nid oes unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad ag ehangu’r safle gwarchodedig i’w cymryd i ystyriaeth.

(2)Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, ni chaniateir rhoi sylw—

(a)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog o ran cynnal achos o dan y Rhan hon neu’r cytundeb,

(b)i unrhyw ffi y mae’n ofynnol i’r perchennog ei thalu yn rhinwedd adran 6 neu 13, nac

(c)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)unrhyw gamau a gymerwyd gan awdurdod lleol o dan adrannau 15 i 25, neu

(ii)collfarnu’r perchennog am drosedd o dan adran 18.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 2 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I71Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

20(1)Oni bai y byddai hynny’n afresymol, o roi sylw i baragraff 18(1), rhagdybir bod y ffi am y llain i gynyddu neu i ostwng yn ôl canran nad yw’n fwy na chanran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifir drwy gyfeirio at y canlynol—

(a)y mynegai diweddaraf, a

(b)y mynegai a gyhoeddwyd am y mis a syrthiodd 12 mis cyn y mis y mae’r mynegai diweddaraf yn cyfeirio ato.

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “y mynegai diweddaraf”—

(a)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(3), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw, a

(b)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(8)(b), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol i’r perchennog gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 2 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I73Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Rhwymedigaethau’r meddiannydd a rhwymedigaethau cyfatebol y perchennogLL+C

21(1)Rhaid i’r meddiannydd—

(a)talu’r ffi am y llain i’r perchennog,

(b)talu i’r perchennog yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y cytundeb o ran gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog,

(c)cadw’r cartref symudol mewn cyflwr cadarn,

(d)cadw—

(i)y tu allan i’r cartref symudol, a

(ii)y llain, gan gynnwys pob ffens ac adeilad allanol sy’n perthyn iddi ac i’r cartref symudol, neu a fwynheir gyda hwy,

mewn cyflwr glân a chymen, ac

(e)os bydd y perchennog yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r perchennog o unrhyw gostau neu dreuliau y bydd y meddiannydd yn gofyn am ad-daliad yn eu cylch.

(2)Rhaid i’r perchennog beidio â gwneud unrhyw beth na pheri i unrhyw beth gael ei wneud—

(a)a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni’r rhwymedigaeth o dan is-baragraff (1)(c) neu a allai atal y meddiannydd rhag gwneud gwelliannau mewnol i’r cartref symudol nac ymyrryd â gallu’r meddiannydd i wneud hynny, na

(b)a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni’r rhwymedigaethau o dan is-baragraff (1)(d) neu a allai atal y meddiannydd rhag gwneud gwelliannau allanol i’r cartref symudol nac ymyrryd â gallu’r meddiannydd i wneud hynny.

(3)Nid yw is-baragraff (2) yn awdurdodi’r meddiannydd i wneud gwaith ar y cartref symudol a waharddwyd gan delerau’r cytundeb neu gan neu o dan unrhyw ddeddfiad.

(4)Os yw telerau’r cytundeb yn caniatáu i waith ar y cartref symudol gael ei wneud â chaniatâd y perchennog yn unig, rhaid peidio â dal y caniatâd hwnnw yn ôl yn afresymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 2 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I75Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Rhwymedigaethau eraill y perchennogLL+C

22(1)Rhaid i’r perchennog—

(a)os bydd y meddiannydd yn gofyn, ac os bydd y meddiannydd yn talu tâl nad yw’n fwy na £30, roi manylion ysgrifenedig cywir am y canlynol—

(i)maint y llain a’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, a

(ii)lleoliad y llain a’r sylfaen o fewn y safle gwarchodedig,

a rhaid i’r manylion gynnwys mesuriadau rhwng pwyntiau gosod y gellir eu hadnabod ar y safle gwarchodedig a’r llain a’r sylfaen,

(b)os bydd y meddiannydd yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol (yn ddi-dâl) i ategu ac i esbonio—

(i)unrhyw ffi newydd am y llain,

(ii)unrhyw daliadau am wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb, a

(iii)unrhyw daliadau, costau neu dreuliau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb,

(c)bod yn gyfrifol am drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni ac am gynnal unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog i’r llain neu i’r cartref symudol,

(d)cadw’r rhannau hynny o’r safle gwarchodedig, gan gynnwys ffyrdd mynediad, ffensys terfyn y safle a choed, nad ydynt yn gyfrifoldeb i feddiannydd unrhyw gartref symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, mewn cyflwr glân a chymen,

(e)ymgynghori â’r meddiannydd ynghylch gwelliannau i’r safle gwarchodedig yn gyffredinol, ac yn arbennig ynghylch y rhai y mae’r perchennog yn dymuno iddynt gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm unrhyw ffi newydd am y llain, ac

(f)ymgynghori â chymdeithas trigolion gymwys (os oes un) neu (fel arall) â meddianwyr cartrefi symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, ynghylch pob mater sy’n ymwneud â gweithredu a rheoli’r safle gwarchodedig, gwelliannau iddo, neu unrhyw newid arfaethedig yn ei ddefnydd ac a allai effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(e), ystyr “ymgynghori” â’r meddiannydd yw—

(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd am y gwelliannau arfaethedig sydd—

(i)yn disgrifio’r gwelliannau arfaethedig a sut y byddant o les i’r meddiannydd yn y tymor hir a’r tymor byr,

(ii)yn manylu ar sut y gellid effeithio ar y ffi am y llain y tro nesaf y caiff ei hadolygu, a

(iii)yn datgan pryd a ble y caiff y meddiannydd gyflwyno sylwadau am y gwelliannau arfaethedig, a

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y meddiannydd ynghylch y gwelliannau arfaethedig, yn unol â pharagraff (a)(iii), cyn ymgymryd â hwy.

(3)At ddibenion is-baragraff (1)(f), ystyr “ymgynghori” â chymdeithas trigolion gymwys yw—

(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas neu’r meddianwyr am y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(f) sydd—

(i)yn disgrifio’r materion a sut y gallent effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn y tymor hir a’r tymor byr, a

(ii)yn datgan pryd a ble y caiff y gymdeithas neu’r meddianwyr gyflwyno sylwadau am y materion, a

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y gymdeithas neu’r meddianwyr, yn unol â pharagraff (a)(ii), cyn bwrw ymlaen â’r materion.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 2 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I77Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

23Rhaid i’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff 17(4) a (9)—

(a)bod ar unrhyw ffurf a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau,

(b)pennu canran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 20,

(c)esbonio effaith paragraff 17,

(d)pennu’r materion y mae’r swm a gynigir ar gyfer y ffi newydd am y llain i’w priodoli iddynt,

(e)cyfeirio at rwymedigaethau’r meddiannydd ym mharagraff 21(1)(c) i (e) ac at rwymedigaethau’r perchennog ym mharagraff 22(1)(c) a (d), ac

(f)cyfeirio at rwymedigaethau’r perchennog ym mharagraff 22(1)(e) ac (f) (fel y maent wedi eu glosio gan baragraff 22(2) a (3)).

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 2 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I79Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Enw a chyfeiriad y perchennogLL+C

24(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys, drwy hysbysiad, am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd neu gan gymdeithas trigolion gymwys.

(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)) mae unrhyw swm sy’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio ag is-baragraff (1).

(3)Os bydd y perchennog yn unol â’r cytundeb yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu i gymdeithas trigolion gymwys, rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw a chyfeiriad y perchennog, a

(b)os nad yw’r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru nac yn Lloegr, cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog.

(4)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)—

(a)pan fo’r meddiannydd neu gymdeithas trigolion gymwys yn cael hysbysiad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hysbysiad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd neu’r gymdeithas trigolion gymwys o ran yr hysbysiad.

(5)Nid yw swm na hysbysiad o fewn is-baragraff (2) neu (4) i’w trin fel pe baent wedi eu crybwyll o ran unrhyw amser pan fo penodiad mewn grym, yn rhinwedd gorchymyn gan unrhyw lys neu dribiwnlys, ar gyfer derbynnydd neu reolwr y mae ei swyddogaethau’n cynnwys derbyn oddi wrth y meddiannydd y ffi am y llain, taliadau am wasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill.

(6)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) i (5) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 25(1) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 2 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I81Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

25(1)Os bydd y perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad y perchennog, a

(b)os nad yw’r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru nac yn Lloegr, cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog.

(2)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3)—

(a)pan fo’r meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hawliad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1),

mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

(3)Nid yw’r swm a hawlir i’w drin fel pe bai’n ddyledus o ran unrhyw amser pan fo penodiad mewn grym, yn rhinwedd gorchymyn gan unrhyw lys neu dribiwnlys, ar gyfer derbynnydd neu reolwr y mae ei swyddogaethau’n cynnwys derbyn oddi wrth y meddiannydd y ffi am y llain, taliadau am wasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 2 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I83Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

PENNOD 3LL+CCYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU TRAMWY AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR AWDURDODAU LLEOL

Parhad y cytundebLL+C

26Yn ddarostyngedig i baragraff 27 mae’r hawl i osod y cartref symudol ar y llain dramwy yn bodoli hyd nes—

(a)y daw’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb i ben, neu

(b)y terfynir y cytundeb o dan baragraff 28 neu 29,

p’un bynnag yw’r cynharaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 2 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I85Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

27(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am y cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

(3)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu ei bod yn ofynnol i’r perchennog gyfyngu ar gyfnod aros cartrefi symudol ar y safle, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 2 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I87Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

TerfynuLL+C

28Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb cyn i’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb ddod i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 2 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I89Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

29Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb cyn i’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb ddod i ben—

(a)heb fod yn ofynnol iddo ddangos unrhyw reswm, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol, neu

(b)ar unwaith, pan fo—

(i)y meddiannydd wedi torri un neu ragor o delerau’r cytundeb, ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio a’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

(ii)y perchennog o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 2 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I91Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Adennill gordaliadau gan y meddiannyddLL+C

30Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraff 28 neu 29, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 2 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I93Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwyddLL+C

31Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraff 32.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 2 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I95Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Hawl y perchennog i fynd i’r llainLL+C

32(1)Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

(a)i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

(b)i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

(2)Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

(3)Yn y paragraff hwn ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

(a)gwaith trwsio i’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

(b)gwaith trwsio i unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir gan y perchennog ar y llain ac i unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill neu amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog yn yr adeiladau allanol hynny,

(c)gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

(d)gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

(4)Oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall, caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto.

(5)Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 2 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I97Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Enw a chyfeiriad y perchennogLL+C

33(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd drwy hysbysiad am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd.

(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio ag is-baragraff (1).

(3)Pan fo’r perchennog, yn unol â’r cytundeb, yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(4)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hysbysiad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd o ran yr hysbysiad.

(5)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) sy’n gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 34(1) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 2 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I99Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

34(1)Pan fo’r perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(2)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hawliad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1),

mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 2 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I101Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

PENNOD 4LL+CCYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU PARHAOL AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR

Parhad y cytundebLL+C

35Yn ddarostyngedig i baragraff 36, mae’r hawl i osod y cartref symudol ar dir sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig yn bodoli hyd nes i’r cytundeb gael ei derfynu o dan baragraff 37, 38, 39 neu 40.

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 2 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I103Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

36(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am gyfnod amhenodol, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

(3)Os ceir newid amgylchiadau cyn diwedd cyfnod a bennir gan y paragraff hwn a hwnnw’n caniatáu cyfnod hirach, mae ystyriaeth i gael ei rhoi i’r newid hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 2 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I105Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

TerfynuLL+C

37Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r perchennog nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 2 para. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I107Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

38Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol ar gais gan y perchennog—

(a)wedi ei fodloni bod y meddiannydd wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 2 para. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I109Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

39Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol, ar gais y perchennog—

(a)wedi ei fodloni nad yw’r meddiannydd yn meddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r meddiannydd, a

(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 2 para. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I111Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

40(1)Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith—

(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi penderfynu bod y cartref symudol, o roi sylw i’w gyflwr, yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, a

(b)wedyn, ar gais y perchennog, os bydd y corff barnwrol priodol, o roi sylw i benderfyniad y tribiwnlys ac i unrhyw amgylchiadau eraill, o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys, ar gais i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(a)—

(a)os bydd y tribiwnlys o’r farn, o roi sylw i gyflwr presennol y cartref symudol, ei fod yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, ond

(b)ei fod o’r farn hefyd y byddai’n rhesymol ymarferol i waith trwsio penodol gael ei wneud ar y cartref symudol a fyddai’n golygu na châi’r cartref symudol yr effaith andwyol honno, ac

(c)os bydd y meddiannydd yn mynegi i’r tribiwnlys fod y meddiannydd yn bwriadu gwneud y gwaith trwsio hwnnw.

(3)Mewn achos o’r fath, caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn interim—

(a)sy’n pennu’r gwaith trwsio y mae’n rhaid ei wneud ac o fewn pa amser y mae’n rhaid ei wneud, a

(b)sy’n gohirio’r achos ar y cais am unrhyw gyfnod a bennir yn y gorchymyn interim sy’n rhesymol ym marn y tribiwnlys i alluogi i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

(4)Os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan is-baragraff (3), rhaid iddo beidio â gwneud penderfyniad o dan is-baragraff (1)(a) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y cyfnod penodedig wedi dod i ben heb i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I112Atod. 2 para. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I113Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Aseinio cytundebLL+C

41(1)Caiff y meddiannydd (“A”) aseinio’r cytundeb—

(a)i berson sy’n aelod o deulu A, neu

(b)i berson arall (“B”) os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2).

(2)Dyma’r amodau—

(a)rhaid i A gael cymeradwyaeth y perchennog, a

(b)rhaid i B—

(i)feddiannu llain barhaol ar safle perthnasol, a

(ii)gael cymeradwyaeth y perchennog i B aseinio ei gytundeb i A neu i berson arall sy’n meddiannu llain barhaol ar safle perthnasol.

(3)Safle perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol yn ardal yr awdurdod lleol lle y mae’r safle y mae’r llain arno y mae cytundeb A yn ymwneud â hi.

(4)Ni chaiff y meddiannydd na’r perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r meddiannydd neu i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad ag aseinio’r cytundeb o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 2 para. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I115Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

42(1)Caiff y meddiannydd gyflwyno cais i’r perchennog i gymeradwyo, at ddibenion paragraff 41, aseiniad i berson a enwir yn y cais (“y meddiannydd arfaethedig”).

(2)Pan fo’r cais yn ymwneud ag aseiniad o dan baragraff 41(1)(a) rhaid i’r cais gynnwys tystiolaeth foddhaol bod y meddiannydd arfaethedig yn aelod o deulu’r meddiannydd.

(3)Pan fo’r perchennog yn cael cais o dan is-baragraff (1), rhaid i’r perchennog, cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y daw y cais i law—

(a)cymeradwyo’r aseiniad, oni bai ei bod yn rhesymol i’r perchennog beidio â gwneud hynny, a

(b)cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y perchennog (“hysbysiad penderfynu”) i’r meddiannydd.

(4)Os yw person (“P”) yn cael cais o dan is-baragraff (1) ac mae P—

(a)er nad ef yw’r perchennog, ag ystâd neu fuddiant yn y tir, a

(b)yn credu mai person arall yw’r perchennog,

ac nid yw’r person arall wedi cael cais o’r fath, mae ar P ddyletswydd i’r meddiannydd (y gellir ei gorfodi drwy hawliad mewn camwedd am dorri dyletswydd statudol, yn ogystal â thrwy achos am dorri term ymhlyg) i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y person arall yn cael y cais cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad pryd y caiff P ef.

(5)Os gwrthodir y gymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad penderfynu bennu’r rhesymau dros ei gwrthod.

(6)Pan fo ffi sy’n ddyledus yn gyfreithlon oddi wrth y meddiannydd heb gael ei thalu neu pan fo unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb wedi cael ei dorri neu heb ei berfformio, caniateir rhoi’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol at ddibenion paragraff 41 yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd dalu’r ffi sy’n aros heb ei thalu, cywiro’r toriad neu berfformio’r rhwymedigaeth.

(7)Ac eithrio fel y’i darperir gan is-baragraff (6), ni ellir rhoi’r gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 41 yn ddarostyngedig i amod ac mae amod a osodir yn wahanol i’r hyn a ddarperir felly i’w ddiystyru.

(8)Os yw’r perchennog yn methu â chyflwyno’r hysbysiad neu’n gwrthod cymeradwyo’r aseiniad caiff y meddiannydd wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn sy’n datgan bod yr aseiniad wedi ei gymeradwyo at ddibenion paragraff 41 a chaiff y tribiwnlys wneud gorchymyn o’r fath os yw’n barnu bod hynny’n addas.

(9)Os cyfyd cwestiwn ynghylch a gyflwynwyd yr hysbysiad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(b) cyn pen y cyfnod gofynnol o 28 o ddiwrnodau, y perchennog sydd i ddangos bod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno felly.

(10)Os na chymeradwyodd y perchennog yr aseiniad a chyfyd cwestiwn ynghylch a oedd yn rhesymol i’r perchennog beidio â gwneud hynny, y perchennog sydd i ddangos bod hynny’n rhesymol.

(11)O ran cais neu hysbysiad o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, a

(b)caniateir ei gyflwyno drwy’r post.

(12)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (13), rhaid i gais gan feddiannydd i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (8) gael ei wneud—

(a)cyn pen y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau drannoeth y dyddiad y caiff y meddiannydd yr hysbysiad penderfynu, neu

(b)pan na fo’r meddiannydd yn cael hysbysiad penderfynu, cyn pen y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r dyddiad sy’n 29 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynodd y meddiannydd y cais o dan is-baragraff (1).

(13)Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (8) gael ei wneud i’r tribiwnlys ar ôl y cyfnod cymwys a bennir yn is-baragraff (12) os yw wedi ei fodloni bod, o dan yr holl amgylchiadau, resymau da dros y methiant i wneud cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw a thros unrhyw oedi ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais allan o amser.

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 2 para. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I117Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Adennill gordaliadau gan feddiannyddLL+C

43Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraffau 37, 38, 39 neu 40, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 2 para. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I119Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Ail-leoli cartref symudolLL+C

44(1)Mae gan y perchennog hawl i’w gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod o ran llain arall sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig neu lain sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig arall (“y llain arall”)—

(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd a’i bod yn rhesymol gosod y cartref symudol ar y llain arall am y cyfnod hwnnw, neu

(b)os bydd angen i’r perchennog wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys nad oes modd ei wneud ond os caiff y cartref symudol ei symud i’r llain arall am y cyfnod hwnnw, a bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd.

(2)Nid yw llain sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig arall, at ddibenion is-baragraff (1)(a), yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd, ond os yw’n rhoi mynediad i wasanaethau iechyd ac addysg sy’n ofynnol gan y meddiannydd sydd, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, yn debyg yn fras i’r mynediad a roddwyd gan lain wreiddiol y meddiannydd.

(3)Os yw’r perchennog yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd osod y cartref symudol ar y llain arall er mwyn i’r perchennog gallu rhoi sylfaen newydd i’r cartref symudol gael ei osod arni neu i wneud gwaith trwsio i’r sylfaen honno, rhaid i’r perchennog, os yw’r meddiannydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog wneud hynny, sicrhau bod y cartref symudol yn cael ei ddychwelyd i’r llain wreiddiol ar ôl i’r gwaith o roi sylfaen newydd neu’r gwaith trwsio gael ei gwblhau.

(4)Rhaid i’r perchennog dalu’r holl gostau a threuliau y mae’r meddiannydd yn mynd iddynt mewn cysylltiad â symud y cartref symudol i’r llain arall ac yn ôl.

(5)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 46 ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

(a)gwaith trwsio i’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

(b)gwaith trwsio i unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir gan y perchennog ar y llain ac i unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill neu amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog yn yr adeiladau allanol hynny,

(c)gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

(d)gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 2 para. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I121Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwyddLL+C

45Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraffau 44 a 46.

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 2 para. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I123Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Hawl y perchennog i fynd i’r llainLL+C

46(1)Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

(a)i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

(b)i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

(2)Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

(3)Oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall, caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) neu dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto.

(4)Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 2 para. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I125Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Y ffi am y llainLL+C

47(1)Dim ond yn unol â’r paragraff hwn y caniateir newid y ffi am y llain, naill ai—

(a)gyda chytundeb y meddiannydd, neu

(b)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog neu’r meddiannydd, o’r farn ei bod yn rhesymol i’r ffi am y llain gael ei newid a’i fod yn gwneud gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(2)Rhaid i’r ffi am y llain gael ei hadolygu’n flynyddol ar ddyddiad yr adolygiad.

(3)O leiaf 28 o ddiwrnodau clir cyn dyddiad yr adolygiad rhaid i’r perchennog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion y perchennog o ran y ffi newydd am y llain.

(4)Os bydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen.

(5)Os na fydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain—

(a)caiff y perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan dribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

(c)mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen ond rhaid peidio â barnu bod y meddiannydd mewn ôl-ddyledion tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunwyd ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(6)Caniateir i gais o dan is-baragraff (5)(a) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad ond heb fod yn fwy na 3 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad.

(7)Mae is-baragraffau (8) i (12) yn gymwys os bydd y perchennog—

(a)heb gyflwyno’r hysbysiad y gofynnir amdani o dan is-baragraff (3) erbyn yr amser yr oedd yn ofynnol ei gyflwyno, ond

(b)ar unrhyw adeg wedyn yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion y perchennog o ran ffi newydd am y llain.

(8)Os bydd y meddiannydd (unrhyw bryd) yn cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b).

(9)Os na fydd y meddiannydd wedi cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain—

(a)caiff y perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan dribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

(c)os bydd tribiwnlys yn gwneud gorchymyn o’r fath, mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b).

(10)Caniateir i gais o dan is-baragraff (9) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b) ond heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad hwnnw.

(11)Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (5)(a) neu (9)(a) gael ei wneud iddo y tu allan i’r terfyn amser a bennir yn is-baragraff (6) (yn achos cais o dan is-baragraff (5)(a)) neu yn is-baragraff (10) (yn achos cais o dan is-baragraff (9)(a)) os bydd wedi ei fodloni, o dan yr holl amgylchiadau, fod rhesymau da dros fethu â gwneud cais o fewn y terfyn amser cymwys a thros unrhyw ohirio ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais y tu allan i’r amser.

(12)Rhaid peidio â thrin y meddiannydd fel pe bai mewn ôl-ddyledion—

(a)pan fo is-baragraff (8) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain, neu

(b)pan fo is-baragraff (9)(b) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 2 para. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I127Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

48(1)Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain rhaid rhoi sylw yn benodol i’r canlynol—

(a)unrhyw symiau a wariwyd gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf ar welliannau—

(i)sydd er lles meddianwyr cartrefi symudol ar y safle gwarchodedig,

(ii)a fu’n destun ymgynghori yn unol â pharagraff 52(1)(f) ac (g), a

(iii)nad yw mwyafrif o’r meddianwyr wedi anghytuno â hwy mewn ysgrifen neu, yn achos anghytuno o’r fath, y mae tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi gorchymyn y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)unrhyw ostyngiad yn amwynder y safle gwarchodedig ers dyddiad yr adolygiad diwethaf, ac

(c)effaith unrhyw ddeddfiad sydd wedi dod i rym ers dyddiad yr adolygiad diwethaf.

(2)Wrth gyfrifo faint yw mwyafrif o’r meddianwyr at ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii) rhaid cymryd mai 1 meddiannydd yn unig sydd gan bob cartref symudol ac os oes mwy nag 1 meddiannydd cartref symudol, cymerir mai’r meddiannydd yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y cytundeb.

(3)Mewn achos lle nad yw’r ffi am y llain wedi ei hadolygu o’r blaen, mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ddyddiad yr adolygiad diwethaf i’w darllen fel cyfeiriadau at y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I128Atod. 2 para. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I129Atod. 2 para. 48 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

49Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, ni chaniateir rhoi sylw—

(a)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad ag ehangu’r safle gwarchodedig, neu

(b)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad â chynnal achos o dan y Rhan hon neu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I130Atod. 2 para. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I131Atod. 2 para. 49 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

50(1)Oni bai y byddai hynny’n afresymol, o roi sylw i baragraff 48(1), rhagdybir bod y ffi am y llain i gynyddu neu i ostwng yn ôl canran nad yw’n fwy na chanran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifir drwy gyfeirio’n unig at y canlynol—

(a)y mynegai diweddaraf, a

(b)y mynegai a gyhoeddwyd am y mis a syrthiodd 12 mis cyn y mis y mae’r mynegai diweddaraf yn cyfeirio ato.

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “y mynegai diweddaraf”—

(a)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(3), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw, a

(b)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(7)(b), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol i’r perchennog gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I132Atod. 2 para. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I133Atod. 2 para. 50 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Rhwymedigaethau’r meddiannydd a rhwymedigaethau cyfatebol y perchennogLL+C

51(1)Rhaid i’r meddiannydd—

(a)talu’r ffi am y llain i’r perchennog,

(b)talu i’r perchennog yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y cytundeb o ran gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog,

(c)cadw’r cartref symudol mewn cyflwr cadarn,

(d)cadw—

(i)y tu allan i’r cartref symudol, a

(ii)y llain, gan gynnwys pob ffens ac adeilad allanol sy’n perthyn iddi ac i’r cartref symudol, neu a fwynheir gyda hwy,

mewn cyflwr glân a chymen, ac

(e)os bydd y perchennog yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r perchennog o unrhyw gostau neu dreuliau y bydd y meddiannydd yn gofyn am ad-daliad yn eu cylch.

(2)Rhaid i’r perchennog beidio â gwneud unrhyw beth na pheri i unrhyw beth gael ei wneud a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni rhwymedigaethau’r meddiannydd o dan is-baragraff (1)(c) a (d).

Gwybodaeth Cychwyn

I134Atod. 2 para. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I135Atod. 2 para. 51 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Rhwymedigaethau eraill y perchennogLL+C

52(1)Rhaid i’r perchennog—

(a)os bydd y meddiannydd yn gofyn, ac os bydd y meddiannydd yn talu tâl nad yw’n fwy na £30, roi manylion ysgrifenedig cywir am y canlynol—

(i)maint y llain a’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, a

(ii)lleoliad y llain a’r sylfaen o fewn y safle gwarchodedig,

a rhaid i’r manylion gynnwys mesuriadau rhwng pwyntiau gosod y gellir eu hadnabod ar y safle gwarchodedig a’r llain a’r sylfaen,

(b)os bydd y meddiannydd yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol (yn ddi-dâl) i ategu ac i esbonio—

(i)unrhyw ffi newydd am y llain,

(ii)unrhyw daliadau am wasanaethau nwy, trydan, dŵr carthffosiaeth neu wasanaethau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb, a

(iii)unrhyw daliadau, costau neu dreuliau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb,

(c)bod yn gyfrifol am drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni ac am gynnal unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog i’r llain neu i’r cartref symudol,

(d)bod yn gyfrifol am atgyweirio amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog ar y llain gan gynnwys unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir.

(e)cadw’r rhannau hynny o’r safle gwarchodedig, gan gynnwys ffyrdd mynediad, ffensys terfyn y safle a choed, nad ydynt yn gyfrifoldeb i feddiannydd unrhyw gartref symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, mewn cyflwr glân a chymen,

(f)ymgynghori â’r meddiannydd ynghylch gwelliannau i’r safle gwarchodedig yn gyffredinol, ac yn arbennig ynghylch y rhai y mae’r perchennog yn dymuno iddynt gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm unrhyw ffi newydd am y llain, ac

(g)ymgynghori â chymdeithas trigolion gymwys (os oes un) ynghylch pob mater sy’n ymwneud â gweithredu a rheoli’r safle gwarchodedig, gwelliannau iddo ac a allai effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(f), ystyr “ymgynghori” â’r meddiannydd yw—

(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd am y gwelliannau arfaethedig sydd—

(i)yn disgrifio’r gwelliannau arfaethedig a sut y byddant o les i’r meddiannydd yn y tymor hir a’r tymor byr,

(ii)yn manylu ar sut y gellid effeithio ar y ffi am y llain y tro nesaf y caiff ei hadolygu, a

(iii)yn datgan pryd a ble y caiff y meddiannydd gyflwyno sylwadau am y gwelliannau arfaethedig, a

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y meddiannydd ynghylch y gwelliannau arfaethedig, yn unol â pharagraff (a)(iii), cyn ymgymryd â hwy.

(3)At ddibenion is-baragraff (1)(g), ystyr “ymgynghori” â chymdeithas trigolion gymwys yw—

(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas neu’r meddianwyr am y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(g) sydd—

(i)yn disgrifio’r materion a sut y gallent effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn y tymor hir a’r tymor byr, a

(ii)yn datgan pryd a ble y caiff y gymdeithas neu’r meddianwyr gyflwyno sylwadau am y materion, a

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y gymdeithas neu’r meddianwyr, yn unol â pharagraff (a)(ii), cyn bwrw ymlaen â’r materion.

Gwybodaeth Cychwyn

I136Atod. 2 para. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I137Atod. 2 para. 52 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Enw a chyfeiriad y perchennogLL+C

53(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys, drwy hysbysiad, am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd neu gan gymdeithas trigolion gymwys.

(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio â’r is-baragraff hwnnw.

(3)Os bydd y perchennog yn unol â’r cytundeb yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) i gymdeithas trigolion gymwys, rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(4)Pan fo—

(a)y meddiannydd neu gymdeithas trigolion gymwys yn cael hysbysiad o’r fath, ond

(b)nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) y gymdeithas o ran yr hysbysiad.

(5)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 54(1) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I138Atod. 2 para. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I139Atod. 2 para. 53 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

54(1)Os bydd y perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(2)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

(b)nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1), mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I140Atod. 2 para. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I141Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

RHAN 2LL+CMATERION Y CANIATEIR I DELERAU GAEL EU YMHLYGU YN EU CYLCH GAN Y CORFF BARNWROL PRIODOL

55LL+CY symiau sy’n daladwy gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb a’r amserau y maent i gael eu talu.

Gwybodaeth Cychwyn

I142Atod. 2 para. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I143Atod. 2 para. 55 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

56LL+CAdolygiad blynyddol o’r symiau sy’n daladwy gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I144Atod. 2 para. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I145Atod. 2 para. 56 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

57LL+CDarparu neu wella gwasanaethau sydd ar gael ar y safle gwarchodedig, a defnyddio gwasanaethau o’r fath gan y meddiannydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I146Atod. 2 para. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I147Atod. 2 para. 57 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

58LL+CCadw amwynder y safle gwarchodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I148Atod. 2 para. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I149Atod. 2 para. 58 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

(a gyflwynir gan adran 57)

ATODLEN 3LL+CDARPARIAETHAU PELLACH YNGHYLCH GORCHMYNION SY’N YMWNEUD Â THIR COMIN

Dyletswydd i ymgynghori â gwarchodwyrLL+C

1Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 57(2) o ran tir sy’n dir comin neu sy’n ffurfio rhan o dir comin y mae gwarchodwyr wedi eu penodi iddo o dan unrhyw Ddeddf leol, neu o dan unrhyw orchymyn a wnaed o dan Ddeddf Seneddol, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r gwarchodwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I150Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I151Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

Y weithdrefn ynglŷn â gwneud gorchmynion sy’n gosod gwaharddiadauLL+C

2Cyn gwneud unrhyw orchymyn o dan adran 57(2), heblaw gorchymyn ei unig effaith yw dirymu neu amrywio gorchymyn blaenorol, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi mewn 1 neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir wedi ei leoli ynddi hysbysiad—

(a)sy’n datgan effaith gyffredinol y gorchymyn,

(b)sy’n pennu lle yn yr ardal honno lle y gall unrhyw berson edrych ar gopi o’r gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol yn ystod cyfnod o 28 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad am y tro cyntaf, ac

(c)sy’n datgan y caiff unrhyw berson wrthwynebu gwneud y gorchymyn, o fewn y cyfnod hwnnw, drwy hysbysiad i’r awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I152Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I153Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

3(1)Heb fod yn hwyrach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o dan baragraff 2 am y tro cyntaf, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno copi ohono i bob person sydd â hawl fel arglwydd y maenor neu fel arall i bridd y tir oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y personau sydd â hawl i bridd y tir yn niferus neu ei fod ar ôl ymholi’n ddiwyd yn methu eu canfod.

(2)Caniateir i hysbysiad o dan is-baragraff (1) gael ei gyflwyno i unrhyw berson drwy ei anfon mewn llythyr cofrestredig wedi ei gyfeirio at y person yng nghyfeiriad arferol neu gyfeiriad hysbys diweddaraf y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I154Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I155Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

4(1)Os bydd gwrthwynebiad i wneud y gorchymyn y mae’r hysbysiad yn cyfeirio ato wedi ei wneud yn y modd priodol i’r awdurdod lleol gan unrhyw beron sydd â hawl i bridd y tir cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyhoeddir hysbysiad o dan baragraff 2 am y tro cyntaf, ac nad yw’r hysbysiad yn cael ei dynnu’n ôl wedyn, rhaid i’r awdurdod lleol beidio â bwrw ymlaen i wneud y gorchymyn.

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, caiff yr awdurdod lleol, ar unrhyw adeg o fewn 1 flwyddyn ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, wneud gorchymyn yn nhelerau’r gorchymyn drafft.

(3)Ond os cafodd unrhyw wrthwynebiad i wneud y gorchymyn ei wneud yn y modd priodol o fewn y cyfnod hwnnw gan person a oedd heb hawl i bridd y tir, ac nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl ar y dyddiad y gwneir y gorchymyn, nid yw’r gorchymyn yn effeithiol hyd nes ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru.

(4)Os bydd yr awdurdod lleol yn cyflwyno gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid iddo anfon copi at Weinidogion Cymru o bob gwrthwynebiad o’r fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (3).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried pob gwrthwynebiad o’r fath ac (os ydynt yn gweld yn dda) ar ôl peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, gadarnhau neu wrthod cadarnhau’r gorchymyn ac, os byddant yn ei gadarnhau, cânt wneud hynny yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y maent yn credu eu bod yn ddymunol (os oes addasiadau o gwbl).

Gwybodaeth Cychwyn

I156Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I157Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

Hysbysu gorchmynion eraill i arglwyddi maenorauLL+C

5Os unig effaith gorchymyn o dan adran 57(2) yw dirymu neu amrywio gorchymyn blaenorol (fel nad yw paragraffau 2 i 4 yn gymwys o ran gwneud y gorchymyn) rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno unrhyw hysbysiadau, a chymryd unrhyw gamau eraill, y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol i roi gwybod i’r personau sydd â hawl i bridd y tir am effaith y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I158Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I159Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

Tir y GoronLL+C

6(1)Pan fwriedir gwneud gorchymyn o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 2 o ran tir y mae buddiant ynddo gan y Goron neu Ddugaeth, a bod natur y buddiant yn golygu y byddai gan y person y mae’r buddiant yn perthyn iddo, heblaw am y paragraff hwn, hawl o dan baragraff 3 i gael copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—

(a)mae paragraff 3 yn effeithiol fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r copi gael ei gyflwyno yn hytrach i’r awdurdod priodol, a

(b)nid yw paragraff 4(1) yn gymwys o ran y gorchymyn ond rhaid i’r awdurdod lleol beidio â gwneud y gorchymyn hyd nes ac oni bai ei fod wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod priodol.

(2)Yn y paragraff hwn ystyr “buddiant gan y Goron neu Ddugaeth” yw buddiant sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron neu hawl Dugaeth Caerhirfryn, neu sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, neu sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth, neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

(3)Yn y paragraff hwn ystyr “yr awdurdod priodol”—

(a)o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystâd y Goron, yw Comisiynwyr Ystâd y Goron, ac, o ran unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron, yw’r adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir hwnnw,

(b)o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl Dugaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugaeth,

(c)o ran tir sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, yw unrhyw berson y mae Dug Cernyw, neu berchennog Dugaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi, a

(d)o ran tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yw’r adran honno.

(4)Os bydd unrhyw gwestiwn yn codi o ran pa awdurdod yw’r awdurdod priodol o ran unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i’w gyfeirio at y Trysorlys, sydd biau’r penderfyniad terfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I160Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I161Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

(a gyflwynir gan adran 58)

ATODLEN 4LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62)LL+C

1(1)Mae Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Subsection (1) does not apply in relation to a regulated site within the meaning of the Mobile Homes (Wales) Act 2013.

(3)Yn adran 23—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “any land” mewnosoder “in England”, a

(b)hepgorer is-adran (9).

(4)Yn adran 24—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”, a

(b)yn is-adran (8), hepgorer “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I163Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf Safleoedd Carafannau 1968 (p. 52)LL+C

2(1)Mae Deddf Safleoedd Carafannau 1968 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1(2), ar ôl “any land” mewnosoder “in England”.

(3)Yn adran 3—

(a)yn is-adrannau (1)(c) ac (1A)(b), hepgorer “or, if the site concerned is in Wales, persistently withdraws or withholds”,

(b)yn is-adran (1AA), hepgorer “in England”.

(4)Yn adran 13(3), yn lle “Minister” rhodder “Secretary of State”.

(5)Yn adran 16, hepgorer y diffiniad o “the Minister”.

Gwybodaeth Cychwyn

I164Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf Ardrethu (Safleoedd Carafannau) 1976 (p. 15)LL+C

3Yn adran 6 o Ddeddf Ardrethu (Safleoedd Carafannau) 1976—

(a)ym mharagraff (b)—

(i)yn lle “that Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 or Part 2 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(ii)yn lle “the Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 or paragraph 4 and paragraph 11 of Schedule 1 to the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(b)ym mharagraff (d)—

(i)yn lle “that Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960”, a

(ii)mewnosoder ar y diwedd “or is for purposes of the Mobile Homes (Wales) Act 2013 the owner of the caravan site”.

Gwybodaeth Cychwyn

I165Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf Cartrefi Symudol 1983 (p. 34)LL+C

4(1)Mae Deddf Cartrefi Symudol 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1—

(a)yn is-adran (2)(e), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”,

(b)yn is-adran (8A), hepgorer “in England and Wales”, ac

(c)yn is-adran (9)(b), hepgorer “if made by the Secretary of State,”.

(3)Yn adran 2(6), hepgorer “in England and Wales”.

(4)Yn adran 2A—

(a)yn is-adran (1), yn lle—

(i)“appropriate national authority” a

(ii)“authority” (yn yr ail le),

rhodder “Secretary of State”,

(b)yn is-adran (5)—

(i)hepgorer “by the appropriate national authority”, a

(ii)yn lle “the authority” ac yn lle “it” (yn y ddau le) rhodder “the Secretary of State”, a

(c)yn is-adran (6), hepgorer “by the Secretary of State”.

(5)Yn adran 2C(1), yn lle “in England (other than a gypsy and traveller site)” rhodder “, other than a gypsy and traveller site,”.

(6)Yn adran 3(4)—

(a)ym mharagraff (b), hepgorer “in relation to a protected site in England; or”, a

(b)hepgorer paragraff (c).

(7)Yn adran 4—

(a)yn y pennawd hepgorer “: England and Wales”, a

(b)yn is-adrannau (1) a (3), hepgorer “in England or in Wales”.

(8)Yn adran 5—

(a)hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”, a

(b)yn y diffiniad o “the court”, hepgorer “and Wales”.

(9)Yn Rhan 1 o Atodlen 1—

(a)ym Mhennod 1, ym mharagraff 1(1), (2) a (3), hepgorer “in England and Wales”,

(b)ym mhennawd Pennod 2 hepgorer “IN ENGLAND AND WALES”,

(c)ym Mhennod 2, ym mharagraff 7A, hepgorer is-baragraff (1),

(d)ym Mhennod 2, hepgorer paragraff 8,

(e)ym Mhennod 2, ym mharagraff 8A, hepgorer is-baragraff (1),

(f)ym Mhennod 2, hepgorer paragraff 9,

(g)ym Mhennod 2, ym mharagraff 17—

(i)yn is-baragraff (2A), yn lle “In the case of a protected site in England, a” rhodder “A”,

(ii)yn is-baragraff (4)(a), hepgorer “or (in the case of a protected site in England)”,

(iii)yn is-baragraff (6A), hepgorer yn lle “In the case of a protected site in England, a” rhodder “A”,

(iv)yn is-baragraff (8)(a), hepgorer “(in the case of a protected site in England)”, a

(v)yn is-baragraff (11), hepgorer “in England”,

(h)ym Mhennod 2, ym mharagraff 18—

(i)ym mharagraffau (aa) a (ab) o is-baragraff (1), hepgorer “in the case of a protected site in England,”,

(ii)hepgorer paragraff (b) o’r is-baragraff hwnnw,

(iii)yn is-baragraff (ba) o’r is-baragraff hwnnw, hepgorer “in the case of a protected site in England,”,

(iv)hepgorer paragraff (c) o’r is-baragraff hwnnw,

(v)yn is-baragraff (1A), hepgorer “, in the case of a pitch in England,”,

(i)ym Mhennod 2, ym mharagraff 19(3) a (4), yn lle “In the case of a protected site in England, when” rhodder “When”,

(j)ym Mhennod 2, ym mharagraff 20—

(i)yn is-baragraff (A1), yn lle “In the case of a protected site in England, unless” rhodder “Unless”, a

(ii)hepgorer is-baragraffau (1) a (2),

(k)ym mhenawdau Penodau 3 a 4, hepgorer “IN ENGLAND AND WALES”,

(l)ym Mhennod 4 hepgorer paragraffau 6A a 6B,

(m)ym Mhennod 4, ym mharagraff 8, hepgorer is baragraff (1A),

(n)ym Mhennod 4, ym mharagraff 16—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle “In the case of a protected site in England, when ” rhodder “When”, a

(ii)hepgorer is-baragraff (2A),

(o)ym Mhennod 4, ym mharagraff 18—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle “In the case of protected site in England, there” rhodder “There”, a

(ii)hepgorer is-baragraffau (1A) a (1B),

(p)ym Mhennod 4, ym mharagraff 26—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle “In the case of a protected site in England, when” rhodder “When”, a

(ii)hepgorer is-baragraff (2A), a

(q)ym Mhennod 4, paragraff 27, hepgorer y diffiniad o “consumer prices index”

(10)Hepgorer Rhan 3 o Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I166Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41)LL+C

5Ym mharagraff 2B(5) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn y diffiniad o “caravan site”—

(a)yn lle “that Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 or Part 2 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(b)yn lle “the Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 or paragraph 4 and paragraph 11 of Schedule 1 to the Mobile Homes (Wales) Act 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I167Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8)LL+C

6(1)Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 71(4), ar ôl “caravan site” mewnosoder “or under Part 2 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013 authorising the use of the land as a site for mobile homes (within the meaning of that Act)”.

(3)Yn adran 191(7)(a), ar ôl “1960” mewnosoder “or section 7(1) of the Mobile Homes (Wales) Act 2013;”.

Gwybodaeth Cychwyn

I168Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)LL+C

7Yn Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, hepgorer paragraff 16(1) a (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I169Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf yr Amgylchedd 1995 (p.25)LL+C

8(1)Mae Atodlen 9 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 1(2)(c), ar ôl “commons)” mewnosoder “or section 57 of and Schedule 3 to the Mobile Homes (Wales) Act 2013 (power of local authority in Wales to prohibit caravans on commons)”.

(3)Ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

4AIn the Mobile Homes (Wales) Act 2013—

(a)section 56 (power of local authority to provide mobile home sites), and

(b)paragraph 11 of Schedule 1 (no site licence required by land owned by local authority),

shall have effect as if a National Park Authority were a local authority for the purposes of that Act and as if the relevant Park were that Authority’s area.

Gwybodaeth Cychwyn

I170Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf Tai 2004 (p. 34)LL+C

9(1)Mae Deddf Tai Act 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 230—

(a)yn is-adran (5ZA), ar ôl “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960” mewnosoder “or Part 2 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”,

(b)yn is-adran (5A), ar ôl “1983” mewnosoder “or Part 4 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, ac

(c)yn is-adran (5B)—

(i)yn y diffiniad o “mobile home” a “protected site”, ar ôl “Act)” mewnosoder “or the Mobile Homes (Wales) Act 2013 (see sections 2 and 60 of that Act)”,

(ii)yn y diffiniad o “pitch”, yn lle “that Act” rhodder “the Mobile Homes Act 1983 or section 55 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(iii)yn y diffiniad o “pitch fee”, yn lle “that Act, as the case may be” rhodder “the Mobile Homes Act 1983 (as the case may be) or section 60 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”.

(3)Yn Atodlen 13—

(a)ym mharagraff 3(6), yn lle “or the Mobile Homes Act 1983” rhodder “, the Mobile Homes Act 1983 or the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(b)ym mharagraff 8(2), yn lle “or of the Mobile Homes Act 1983” rhodder “, any provision of the Mobile Homes Act 1983 or any provision of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I171Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13)LL+C

10Yn Atodlen 3 i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, ar ôl yr eitem yn ymwneud â Deddf Mwynfeydd a Chwareli (Tomenni) 1969 mewnosoder—

  • Mobile Homes (Wales) Act 2013.

Gwybodaeth Cychwyn

I172Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15)LL+C

11Ym mharagraff 30D(5) o Atodlen 3 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010—

(a)yn y diffiniad o “mobile home agreement”, ar ôl “1983” mewnosoder “or Part 4 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(b)yn y diffiniad o “owner”, “protected site” a “mobile home”, ar ôl “Act” mewnosoder “or that Part of that Act”.

Gwybodaeth Cychwyn

I173Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

(a gyflwynir gan adran 58)

ATODLEN 5LL+CDARPARIAETHAU TROSIANNOL A DARFODOL AC ARBEDION

Ceisiadau am drwyddedau safle sydd yn yr arfaethLL+C

1Mae cais am drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran safle rheoleiddiedig sydd wedi ei wneud i awdurdod lleol, ond sydd heb ei benderfynu ganddo, cyn i Ran 2 ddod i rym i’w drin ar ôl i’r Rhan honno ddod i rym fel cais i awdurdod lleol am drwydded safle o dan y Rhan honno o ran y safle rheoleiddiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I174Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Parhau trwyddedau safle presennol am y troLL+C

2(1)Nid yw dod â Rhan 2 a pharagraff 1(2) o Atodlen 4 i rym yn effeithio ar barhad gweithredu darpariaethau Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwyddedau safle sy’n parhau mewn grym o dan y paragraff hwn.

(2)Mae trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym pan ddaw Rhan 2 i rym o ran safle rheoleiddiedig yn parhau mewn rym tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol oni bai—

(a)ei bod yn cael ei dirymu yn ystod y cyfnod cychwynnol, neu

(b)bod cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 wedi ei wneud yn ystod y cyfnod cychwynnol.

(3)Os dirymir y drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn ystod y cyfnod cychwynnol mae’n parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei dirymu.

(4)Os gwneir cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 yn ystod y cyfnod cychwynnol, mae’r drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei therfynu (boed yn ystod y cyfnod cychwynnol ynteu ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol).

(5)Yn y paragraff hwn a pharagraff 3, ystyr “y cyfnod cychwynnol” yw’ cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw Rhan 2 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I175Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Amser i benderfynu ar drwydded safleLL+C

3Pan wneir cais am drwydded safle o ran safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 cyn diwedd y cyfnod cychwynnol ac ar adeg pan fo trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 mewn grym o ran y safle rheoleiddiedig, mae adran 7(2) yn effeithiol o ran y cais fel pe bai “2 fis” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.

Gwybodaeth Cychwyn

I176Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Parhau’r safonau enghreifftiol presennolLL+C

4Mae unrhyw safonau enghreifftiol a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(6) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym yn union cyn i Ran 2 ddod i rym yn effeithiol ar ôl yr amser hwnnw (hyd nes eu disodli) fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I177Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Dirymu cyn cychwynLL+C

5Mae’r cyfeiriad yn adran 7(5) at ddirymu trwydded safle o dan adran 18 neu 28 yn cynnwys dirymu trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o dan adran 9 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I178Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Troseddau cyn cychwyn i gyfrif at ddibenion penodolLL+C

6Mae’r cyfeiriad yn is-adran (4)(b) o adran 18 at y trosedd o dan is-adran (1) o’r adran honno yn cynnwys trosedd o dan adran 9 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwydded safle o dan y Ddeddf honno o ran yr un tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I179Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Erlyn troseddau cyn cychwynLL+C

7Nid oes dim mewn unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon yn effeithio ar weithredu unrhyw ddeddfiad o ran troseddau a gyflawnwyd cyn i’r ddarpariaeth honno ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I180Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Hen ddarpariaethau trosiannol ac arbedionLL+C

8Mae i unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed sy’n ymwneud â dod ag unrhyw ddarpariaeth a ailddeddfir yn y Ddeddf hon i rym a all fod yn effeithiol o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir yr un effaith o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir ag a oedd iddi o ran y ddarpariaeth y mae’n ei hailddeddfu.

Gwybodaeth Cychwyn

I181Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Lleihad dros dro yn y gosb uchaf am drosedd neillog a brofir yn ddiannodLL+C

9Yn achos trosedd a gyflawnwyd cyn [F22 Mai 2022], mae adran 43(3)(a) yn effeithiol fel pe bai “[F3y terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr)]” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources